Breuddwydion Myfanwy/Pennod XIV

Oddi ar Wicidestun
Pennod XIII Breuddwydion Myfanwy

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod XV


XIV

Ymhob llafur y mae elw. —SOLOMON.

DYWEDODD Mr. Luxton bore trannoeth bod arno awydd mynd i weld y cae tatws. "Yr oedd y rhai a gawsom neithiwr mor dda fel yr wyf yn siwr y carech gael ychwaneg," meddai.

"Carem yn wir," ebe Madame. "Cewch chwi a'r bechgyn fynd heddiw. Y mae gwaith gan Myfanwy a minnau i'w wneud yma."

"Glanhau'r tŷ,—rhwbio'r dodrefn a golchi'r lloriau!" ebe Llew.

"Beth os daw morfil i fyny o'r traeth a'ch llyncu'n fyw!" ebe Gareth.

"Beth os daw llew a'th fwyta dithau yn y goedwig!" ebe Myfanwy.

Yn y cwch yr aethant. Ni fuont yn hir cyn mynd o'r golwg heibio'r graig, a'r ddwy oedd ar ôl yn ysgwyd dwylo arnynt.

Yna aethant hwythau at eu gwaith. Yr oeddynt wedi ei drefnu ym mlaenllaw. Yr oedd i fod yn ddiwrnod golchi arnynt. Gwnaethant bwll yn yr afon tua dwylath o'r traeth. Un o gnau gwyrdd y palmwydd wedi ei hollti oedd eu sebon. Ffroc fach ysgafn, oleu oedd gan Myfanwy. Yr oedd honno fel ei dillad eraill yn lled ddu erbyn hyn. Ni wisgasai Madame yn ei bywyd ddillad mor ddu ag oedd am dani'n awr. Yr oedd cot gan bob un o'r ddwy. Yr unig ddefnydd a wnaethent ohonynt wedi dyfod i'r ynys oedd eu plygu a gwneud gobennydd ohonynt yn y nos. Gwisgasant hwy yn awr tra golchent rai o'u dillad eraill. Wedi eu golchi, lledasant y dillad ar y traeth, a charreg ar bob cornel i'w cadw rhag mynd ymaith gyda'r awel. Cyn eu sychu'n llwyr, plygasant bob pilyn yn ofalus a rhoddi carreg fawr i fod yn bwysau ar y cwbl. Yna lledasant hwy ar y traeth drachefn i'w crasu'n dda. Ni wnaethai Madame na Myfanwy chwaith waith cyffelyb erioed o'r blaen, ond ni fuont yn fwy balch ar ddim a wnaethent yn eu bywyd. Drannoeth, gwnaeth y tri eraill yr un peth â rhai o'u dillad hwythau. Rheol yr ynys oedd fod pob un i olchi ei ddillad ei hun, hynny allan, erbyn pob bore Sul, byddai gan bob un ei ddillad glân.

Yr oedd dau newydd pwysig gan Mr. Luxton a'r bechgyn pan ddaethant yn ôl. Gwnaethent dân heb ddefnyddio matsien, a darganfuasent ogof fawr ar Draeth y De.

Methai Myfanwy â chredu iddynt fedru gwneud tân, felly dywedodd Mr. Luxton:—

"Dewch, fechgyn, gwnawn dân yn awr er mwyn rhostio tatws erbyn swper, a chaiff Myfanwy weld nad oes matsien gennym."

Cymerodd gyllell Gareth a gwnaeth agen fechan ar wyneb caled darn o bren bambŵ. Torrodd ddellten fechan o un pen i'r pren a naddodd hi'n ofalus. Yna, tra daliai Llew y pren rhwbiodd Mr. Luxton y ddellten yn ôl a blaen ar yr agen. Yr oedd yn rhaid rhwbio'n galed a chyflym. Ar ôl rhai munudau o'r gwaith egniol hwn, daeth colofn fach fain o fwg o'r agen, ac yna fflam fach goch. Yr oedd Gareth yn barod gyda darn o ddeilen grin ac ychydig fanwydd, a dyna'r tân wedi ei wneud.

Nid oedd eisiau pryderu bellach na chaent dân hyd yn oed pe defnyddient eu matsien ddiwethaf. Mynd yn llai o nifer oeddynt yn y blwch bob dydd. Ychydig a feddyliai Mr. Luxton pan ddarllenai gynt am ffordd trigolion Ynysoedd Môr y De o wneud tân y byddai ef ei hun yn gwneud yr un peth ryw ddiwrnod.

Aeth Madame a Myfanwy gyda hwy drannoeth i weld yr ogof. Ni ellid ei chanfod o'r traeth heb chwilio am dani. Yr oedd talpiau mawr o graig wrth ei genau, a'r agoriad yn gul fel na allai ond un fynd drwyddo ar unwaith. Yna ymagorai'n sydyn yn ystafell fawr tuag wyth llath o hyd a phum llath o led, a diweddu yn llwybr pigfain i grombil y graig. Deuai digon o awyr i mewn trwy'r agoriad, oherwydd, er ei fod yn gul, yr oedd cyn uched â'r graig. Yr oedd y muriau'n sych a'r llawr yn galed a glân. Teimlent yn sicr na fu neb yno erioed o'u blaen hwy.

Safodd Myfanwy ac edrych o'i chylch a'i llygaid yn llydan agored. "Yr wyf wedi gweld yr ogof yma cyn hyn," ebe hi. "Llew, a wyt ti'n cofio fy mreuddwyd cyn i deulu'r Neuadd ddod i Frynteg, a chyn i ni feddwl am symud i Awstralia?" Gwyrodd Llew ei ben i ddangos ei fod yn cofio, a gwenodd yn drist ar Myfanwy heb ddywedyd gair.

"Yr wyf yn falchach ar yr ogof yma nag ar ddim a gawsom eto," ebe Mr. Luxton. "Os daw storm bydd gennym gysgod. Os daw gelynion bydd gennym le i ymguddio."

"Nid ydych yn bwriadu cysgu a byw yma?" ebe Gareth.

"Na, tra pery'r tywydd yma, y mae'r awyr agored yn well. Ond nid ydym yn siwr na chawn dymor o law. Byddai'r ogof yn ddefnyddiol iawn wedyn."

"Oni fyddai'n well tynnu stoc dda o ffrwythau a gwreiddiau a'u cadw yma?" ebe Madame.

"A digon o goed tân," ebe Llew.

"Gallwn adael ein harian hefyd, a'n perlau a'n holl drysorau," ebe Gareth.

"Dyma'r lle tebycaf i dŷ a welsom er ys tro," ebe Madame.

"Dyna hyfryd fyddai pe bai gennym ford chadeiriau a lle tân a thegell a thebot a llestri," ebe Myfanwy.

"Meddwl am dŷ a thân a the y mae Myfanwy o hyd," ebe Gareth.

"Rhaid i ni gael tŷ, beth bynnag am y te a'r tân," ebe Mr. Luxton. Yr wyf yn meddwl y byddai tŷ yma yn ymyl yr ogof yn gyfleus iawn. Pe deuai gelynion atom dros y môr, trwy'r bwlch y daethom ni drwyddo y deuent. Gwelent ni felly ar unwaith ped arhosem yn yr hen wersyll. Yr ydym o'r golwg yma, ac y mae'r ogof gennym pe byddai ei heisiau arnom. Nid wyf yn meddwl y daw neb, oherwydd nid oes ynys arall yn y golwg, ond rhaid i ni beidio â bod yn ddiofal."

"Beth pe deuai llong yma a ninnau heb ei gweld?" ebe Llew.

"Credaf mai o'r ochr hon y byddai llong debycaf o ddyfod. Mae'n debig mai i lawr yna rywle mae Awstralia," ebe Mr. Luxton.

"Awstralia!" ebe Myfanwy, ac edrych allan i'r môr fel pe disgwyliai ei weld ar y gorwel.

"Efallai y daw llong o Sydney heibio yma ryw ddydd," ebe Gareth.

"Ni wyddom beth a ddigwydd," ebe Mr. Luxton, 'ond gwell i ni beidio â rhoi gormod o'n meddwl ar weld llong. Ein dyletswydd yw gwneud y goreu o'r gwaethaf lle yr ydym, a pheidio â gwastraffu ein hamser i ddisgwyl am bethau na ddeuant efallai byth i ben."

Penderfynasant ddechreu adeiladu tŷ yn ddioed. Yr oedd y cabanau a godasai Llew wedi syrthio a'u codi drachefn fwy nag unwaith. Yr oedd yn rhaid cael rhywbeth cadarnach na'r rhai hynny. Penderfynasant wneud dau gaban gweddol fawr,—un ar gyfer Madame a Myfanwy, a'r llall ar gyfer y tri dyn.

Gareth oedd уr archadeiladydd. Gwelsai ef adeiladu tai o eithin ar gyfer y "da blwyddi" yn y Neuadd. Rhai ar gynllun y rhai hynny oedd y ddau dŷ newydd i fod. Yr oedd yn rhaid cael nifer dda o bolion, a'u plannu yn y ddaear, a phlethu gwiail rhyngddynt i wneud muriau. Tô gwastad a fyddai iddynt wedi ei wneud o gangau coed a digon o ddail drostynt. Yr oedd yn amhosibl iddynt wneud drysau a ffenestri, felly gadawyd agoriad mawr lle y dylai drws fod. Ceid felly ddigon o oleu ac awyr i'r ystafell.

Cyllell Gareth oedd yr unig arf a feddent. Trwy lawer o amynedd a dyfalbarhad y cawsant y polion yn barod. Cymerodd y plethu a'r toi lai o amser. Cyn pen pythefnos yr oeddynt yn barod. Yr oedd ganddynt gartref bellach. Cartref digon gwag ydoedd, ond yr oedd yn gysgod hyfryd rhag yr haul a'r gwlith ac yn lle i ddyfod iddo o bobman. Tu allan, wrth gwrs, y coginient eu bwyd, a'r ogof oedd eu hystordy.

Nodiadau[golygu]