Neidio i'r cynnwys

Breuddwydion Myfanwy/Pennod XVI

Oddi ar Wicidestun
Pennod XV Breuddwydion Myfanwy

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod XVII


XVI

Ac O! mi welais, gwae fy mron!
Yr esgid ar y traeth.
—GWILYM ALLTWEN.

GWENU fel arfer a wnai'r haul a'r môr, ond yr oedd ôl y storm yn drwm ar Ynys Pumsaint. Yr oedd dinistr ym mhobman. Gorchuddid y traeth o flaen yr ogof â dail a brigau a ffrwythau ac adar meirwon. Rhedodd Gareth a Llew i weld sut yr ymdrawsai'r "Neuadd." Nid oedd dim ohoni'n aros. Yr oedd y tri eraill wedi cyrraedd yno atynt cyn iddynt fedru penderfynu ar y fan lle y bu. Chwerthin a wnaethant am eu colled. Gallent godi tŷ eto gydag amser, ac yr oedd digon o amser ganddynt. Teimlent yn llawn hwyl ac afiaith ar y bore hwnnw. Yr oedd yr awyr mor glir ac iach ar ôl y storm. Daethent hwy bob un allan o'r peryglon i gyd yn ddianaf ac yr oedd bywyd yn felys o hyd.

Ai "Yr Afon" oedd y cenllif llwyd a ruthrai allan o'r wig a gwneud gwely dwfn iddi ei hun ar y traeth? Ni allent ei chroesi, felly aethant i fyny gyda'i glán am ychydig bellter. Yr un olygfa drist oedd yno drachefn. Yr oedd yno goed mawrion wedi diwreiddio, a ffrwythau o bob math—aeddfed ac anaeddfed—ar y llawr. Yn hytrach na theithio'n flinderus trwy'r dyfroedd a'r galanastra hyd at "Stratford," dychwelasant trwy Bordeaux a cherdded ymlaen ar hyd "Traeth y De." Gwelsant yno rywbeth oedd yn fwy ei bwys yn eu golwg na dim a welsent hyd yn hyn ar yr ynys.

Cerddai Gareth ychydig o flaen y lleill. Cododd rywbeth o'r traeth. Rhedodd yn ôl a'i anadl yn ei ddwrn. Yr oedd yn rhy gyffrous i siarad. Yr oedd ei wyneb yn welw. Daliodd y peth o'u blaen heb ddywedyd gair. Esgid merch ydoedd!

O ba le y daethai'r esgid fach? Edrychasant arni'n ofalus. Esgid fach, isel, fonheddig ydoedd, heb fotwm na lâs, a sawdl uchel a blaen main. Yr oedd bron yn newydd, ond yr oedd dŵr y môr wedi anurddo'r lledr. Tu mewn yr oedd enw'r siop y prynwyd hi ynddi, siop enwog yn Llundain.

Yr oedd yr esgid fach fel ymwelydd o fyd arall. "Efallai bod llong wedi ei dryllio ar y creigiau yma," ebe Llew.

"O dir! Beth pe gwelem gorff marw ar wyneb y dŵr?" ebe Myfanwy.

Wrth fynd ymlaen cawsant ddigon o brofion fod llong-ddrylliad wedi bod yn rhywle heb fod ymhell. Ar wyneb y lagŵn gwelsant gasgen fawr, ac yn nes ymlaen rywbeth tebig i focs siwgr. Yr oedd darnau o ystyllod yma a thraw ar hyd y traeth.

Cerddai Mr. Luxton a'r bechgyn yn wyllt, a'u llygaid ar y rhibyn cwrel. Dilynai Madame a Myfanwy oreu gallent. Yn fuan, gwaeddodd Llew mewn cyffro, "Dacw hi! Dacw long!" Gwelsant hi'n eglur, neu yn hytrach ddarn ohoni. Cuddiai creigiau uchel y rhibyn y rhan fwyaf ohoni oddiwrthynt. Yr oedd hefyd ymhell o'r fan honno, bron ar gwrr eithaf y Dwyrain.

Beth i wneud? Efallai bod rhai o'i theithwyr yn fyw arni. Sut i roi arwydd iddynt? Pe baent ar Ben y Bryn" gallent chwyfio a chael eu gweld. Cymerai ormod o amser i gerdded yno yn awr. Rhedodd y bechgyn yn ôl i hôl y cwch. "Cofiwch am y rhaff," gwaeddai Mr. Luxton ar eu hôl. Ceisiodd Mr. Luxton a Madame a Myfanwy gynneu tân er mwyn tynnu sylw rhywrai a allai fod ar y llong, ond ofer a fu eu hymdrech. Methasant â chael coed sych yn unman.

Pan ddaeth y cwch i'w hymyl, bu dadl rhyngddynt pwy a ai ynddo. Yr oedd ofn mentro ar Madame a Myfanwy ac ofn arnynt hefyd aros eu hunain yn ddiamddiffyn ar y lán. Beth pe digwyddai niwed i'r tri? Os oedd rhai ar ôl yn y llong ni wyddent pwy oeddynt. Y mae dynion drwg iawn yn fynych mewn llongau ar y môr.

Nid oedd amser i betruso. Concrodd y ddwy eu hofnau. Aethant bob un yn y cwch.

Yr oeddynt yn rhy gyffrous i siarad. Beth a phwy a welent ar y llong? Yr oedd ar Myfanwy ofn edrych i ddyfroedd y lagŵn rhag iddi weld corff marw yn llithro heibio. Dyna hwy bellach bron gyferbyn â'r llong a dacw le cyfleus i lanio. Daethant allan un ar ôl y llall. Rhoisant y cwch yn ddiogel a safasant ar y graig arw, lithrig, byllog, a hanner ofni mynd yn nes ymlaen. Torrai'r tonnau dros un pen i'r llong, a'r pen arall yn rhwym mewn agen yn y graig gwrel. Yr oedd ei henw mewn llythrennau gwýnion ar y pen hwnnw,— "Câro Carey." Gellid meddwl ei hyrddio i'r agen gyda'r fath rym ofnadwy fel nad oedd obaith iddi ddyfod oddiyno ond bob yn ddarn fel y dryllid hi gan y tonnau. Yr oedd yn ddigon posibl fod rhywun arni. Edrychasant yn ofalus ond ni welsant argoel am neb. Gwaeddasant yn uchel lawer gwaith. Ni ddaeth ateb. Os oedd rhywrai arni yr oeddynt yn anymwybodol neu yn farw.

Sut oedd mynd iddi? Er eu bod hwy ar y rhibyn, yr oedd y llong wedi ei dál yn y fath fodd nes ei bod yn rhy uchel iddynt fedru dringo iddi. Nid oedd lle i roddi troed yn unman ac nid oedd rhaff gyfleus yn hongian ohoni fel y cawsai Robinson Crusoe gynt. O'r diwedd daliasant ar gynllun. Dywedodd Llew os cai ef sefyll ar ysgwyddau Gareth, ac yntau i sefyll ar fin y dŵr, y gallai ef afael yn ymyl y llong a thynnu ei hun i fyny arni. O! yr oedd yn waith. peryglus. Pe symudai Gareth fodfedd, i lawr yn y dŵr y byddai Llew. Cydiodd Mr. Luxton yn llaw Myfanwy a hithau yn llaw Madame, a rhoddodd Mr. Luxton ei law arall i Gareth, fel y gallent ei ddál rhag syrthio pan neidiai Llew oddiar ei ysgwyddau. Dalient eu hanadl. A! dyna ysgytiad i'r gadwyn, a dyna Llew ar fwrdd y llong.

Aeth o'r golwg am rai munudau hir. Dyna falch oeddynt ei weld drachefn a'i glywed yn gweiddi: "Ni welaf i neb yma."

"Neb?" ebe Mr. Luxton mewn syndod. "Neb? Na byw na marw?"

Aeth Llew o'r golwg drachefn. Daeth yn ôl yn fuan a thaflu rhaff gref dros ymyl y llong, a dywedyd:—

"A ellwch chwi ddod i fyny, syr? Mae'r rhaff yn eithaf diogel."

Dringodd Mr. Luxton y rhaff fel morwr.

Aeth y ddau o'r golwg am ysbaid. Pan ddaethant yn ôl yr oedd ysgol ganddynt, nid un wedi ei gwneud o raffau, ond ysgol bren gref.

"Madame," ebe Mr. Luxton, "a garech chwi ddyfod i fyny? Gellwch ddyfod yn hawdd ar yr ysgol."

"O, mi garwn i ddod," ebe Myfanwy.

"Y mae yn eithaf diogel yma, ac nid yw'r llong yn symud," ebe Llew.

"Ac nid oes neb yna?" ebe Madame. "Neb," ebe Mr. Luxton.

Rhoddwyd yr ysgol yn ei lle. Aeth Madame i fyny yng nghyntaf. Dywedodd "Mon Dieu!" lawer gwaith ar y ffordd. Yna aeth Myfanwy i fyny'n sionc a Gareth yn olaf. Tynasant yr ysgol i fyny ar eu hôl.

Yn aml mewn bywyd y mae'r peth sydd yn ffawd i un yn anffawd i arall. Collasai rhywrai y llong hardd hon a'r pethau oedd arni, ac yn dra thebig, eu bywydau hefyd. Golygai hynny ychwanegiad mawr at gysuron y pum alltud a edrychai o'u cylch rhwng prudd—der a llawenydd ar fwrdd y Câro Carey yn awr. Teimlent weithiau fel ysbeilwyr o bethau cysegredig. Anodd oedd ganddynt gymryd meddiant felly o eiddo arall. Ond os na chymerent hwy feddiant ohonynt gwnai'r môr hynny'n fuan iawn.

Nid oedd dim ar y dec ond y darn rhaff a gawsai Llew o rywle. Wedi mynd i lawr dros risiau daethant ystafell wely fechan hardd. Yr oedd y gwely yn wýn a glân, a llenni o sidan coch yn hongian drosto. Yr oedd drych mawr hir ar un o'r cypyrddau. Cafodd Madame a Myfanwy fraw a chywilydd pan gawsant lawn olwg arnynt eu hunain ynddo. Yr oedd ystafell arall tuhwnt iddi, ond pen peryglus y llong oedd hwnnw, a gwelsant nad gwiw mynd i honno. Daethant yn ôl i'r dec ac i lawr drwy risiau eraill. Cawsant eu hunain yn y gegin. Yr oedd yno bob math o lestri defnyddiol a digon o fwydydd, ac yr oeddynt heb eu niweidio gan y môr a'r tywydd.

"Gwell i ni fynd â'r pethau hyn i'r cwch ar unwaith," ebe Madame, yn wyllt.

"Ie, nid oes amser i'w golli," ebe Mr. Luxton.

Cydiodd pob un mewn dysgl neu badell neu sospan neu degell a'u llanw ag unrhyw bethau oedd yn eu cyrraedd. Yr oedd yno bob math o fwydydd mewn tiniau, cawl, llaeth, cig, pysgod, teisennau, bisciau, te, coffi, siwgr, blawd, a lawer o bethau eraill. Llanwodd Myfanwy badell fawr â llestri te, a thebot yn eu plith. Gwnai un neu arall ohonynt ddarganfyddiad diddorol bob munud. Cafodd Gareth gist o offer Cafodd Mr. Luxton lyfrau a dillad yn ystafell y capten. Daeth Madame a Myfanwy â llawer coflaid o drysorau o'r ystafell wely hardd, a chafodd Llew flwch mawr trwm a'i lond o gyllyll a ffyrc a llwyau. Yr oeddynt yn rhy brysur i gofio bod eisiau bwyd arnynt.

Rhag i'r nos ddyfod a'u cael yn amharod, penderfynwyd mai gwell a fyddai cael rhai pethau i'r lán. Gwaith anodd iawn a fu llwytho'r cwch, yn enwedig â'r pethau trwm. Y ddau fachgen a aeth â'r cychaid cyntaf. Yn lle mynd yr holl ffordd i "Bordeaux," barnwyd mai gwell a fyddai iddynt lanio mor agos ag y gallent gyferbyn â'r llong. Nid oedd eisiau ofni gwynt a glaw y diwrnod hwnnw, ac nid oedd anifeiliaid rheibus ar yr ynys, felly, gellid gadael y nwyddau gwerthfawr ar y traeth nes cael cychaid neu ddau eraill atynt, a mynd â hwy i "Bordeaux" drannoeth. Daeth Madame a Myfanwy i dir gyda'r ail gychaid, a Llew yn eu rhwyfo. Yna aeth Llew yn ôl ei hun, a gorchmynnwyd i'r tri ddyfod gyda'r cychaid nesaf.

Yna bu'r ddwy yn brysur iawn. Cyneuodd un dân. Aeth y llall i hôl dŵr. Gwyddent erbyn hyn am bob ffrwd ar yr ynys.

Ymhen hanner awr daeth y tri eraill atynt, ac yr oedd pryd da o fwyd yn eu haros. Dwy gist yn ymyl ei gilydd oedd y ford. Yr oedd lliain gwýn, glân, a llestri arni. Dyma'r Menu:—

  1. Cawl a bisciau.
  2. Cig eidion a bara.
  3. Ffrwythau'r ynys.
  4. Coffi.

O, dyna hyfryd oedd y pryd parchus cyntaf hwnnw ar Ynys Pumsaint! Dyna ei fwynhau a wnaethant! Edrychai Madame wrth yfed ei choffi yn hapusach nag y gwelsid hi er ys tro. Wrth fwynhau eu hunain felly meddylient am y trueiniaid a roisai'r wledd iddynt. Pwy oeddynt a beth a fu eu hanes? Pleser- long yn ddiau oedd y Câro Carey. Efallai mai mynd allan o Sydney a wnaethai am fordaith fér, a'i dál gan y storm sydyn. Yr oedd yn ddigon posibl fod y teithwyr wedi eu hachub, efallai gan long fwy ei maint, ac i'r bleser-long hanner ddrylliedig gael ei chwythu am filltiroedd nes mynd yn rhwym yn y graig.

"Cafodd ei chwythu yma er ein mwyn ni," ebe Myfanwy.

A dyna oedd barn pob un o'r lleill.

Ni ddychwelasant i "Bordeaux" y noson honno. Cofiasant yn sydyn fod eu cartref wedi mynd gyda'r gwynt. Yr oedd yr ogof ganddynt bid siwr, ond ni fynnent gysgu yn yr ogof oni byddai rhaid. Felly gwnaethant ddau lety unos o ddail a changau fel o'r blaen. Gorchuddiasant y pentwr nwyddau hefyd â dail i'w ddiogelu fel hwythau rhag y gwlith. Yr oeddynt bron yn rhy gyffrous i gysgu. Breuddwydiodd Myfanwy freuddwydion rhyfedd ac ofnadwy.

Nodiadau

[golygu]