Breuddwydion Myfanwy/Pennod XVII

Oddi ar Wicidestun
Pennod XVI Breuddwydion Myfanwy

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod XVIII


XVII

"By all means begin your folio; even if the doctor does not give you a year, even if he hesitates about a month, make one brave push and see what can be accomplished in a week. It is not only in finished undertakings that we ought to honour useful labour. A spirit goes out of the man who means execution, which outlives the most untimely end."—R. L. STEVENSON (Essays).

CODASANT bob un gyda'r wawr. Heblaw'r ffrwythau arferol, cawsant y bore hwnnw gwpaneidiau o goffi twym, peraroglus, a bisciau.

Gwelent y llong yn yr unfan o hyd. Yr oedd arni eto lawer o bethau y carent eu cael. Wedi mynd â'r cwbl bwriadent ddyfod â'r llong ei hun i dir bob yn ddarn. Byddai'r ystyllod mor ddefnyddiol â dim iddynt.

Aeth Gareth a Llew Daethant â'r ysgol

Aethant bob un unwaith eto. i fyny yng nghyntaf ar y rhaff. ar gyfer y lleill. Yr oedd y llong hyd yn hyn yn ddigon diogel i'w dál i gyd.

Pan oedd Madame a Myfanwy ar ben y grisiau a arweiniai i'r ystafell wely hardd, daeth swn ochain o rywle. Rhedasant mewn dychryn at y lleill, a wynebau'r ddwy am y gwelwaf.

"O!" ebe Myfanwy, "Mae rhywun i lawr yn y gwaelod yna! Oes, yn wir! Clywodd Madame a minnau sŵn ochain."

"Mae'n eithaf gwir," sibrydai Madame, fel pe bai arni ofn i'r truan ei chlywed. "Dewch yn ôl gyda ni." Safasant ar ben y grisiau. Ie, dyna'r sŵn yn ddigon eglur. Llais bach main, cwynfannus ydoedd, ochenaid gyda phob anadliad. Pwy oedd yno? Sut na welsent ef ddoe?

Aeth Llew a Gareth i lawr a Mr. Luxton ar eu hôl, a mynd i gyfeiriad y sŵn. Gwelsant lwybr o waed ffres yn mynd o un ystafell i'r llall. O'r annwyl! Beth oedd yno?

Aethant i mewn yn wyliadwrus i'r ystafell wely. Dyna'r ochain yn eu hymyl! Ni welent neb. Gwth iodd un ohonynt y drws yn fwy agored. Daeth cwynfan hir a chyfarthiad fach egwan. Ci bach oedd yno yn gorwedd tu ôl i'r drws, yn llyfu'r gwaed oddiar ei droed flaen.

"Myfanwy!" gwaeddai Llew yn llawen. "Ci bach sydd yma wedi niweidio'i droed. Dewch lawr eich dwy ar unwaith."

Sut na welsent ef ddoe na'i glywed? Diau iddo glywed eu sŵn rywbryd ac ymlusgo yno o ryw fan arall ar y llong.

"O, druan bach!" ebe Madame. "Edrychwch a oes tin o laeth yna yn rhywle. Mae syched arno ac eisiau bwyd, yr un bach!"

"Ie, ac yna rhaid i ni dreio gwneud rhywbeth i'w droed," ebe Mr. Luxton.

Ci bach bach gwýn ydoedd, a chlustiau bach duon a mannau duon ar ei dalcen a'i goesau. Pen bach main oedd ganddo, a llygaid mawr, hiraethus. Yr oedd ei got yn llyfn fel sidan. Am ei wddf yr oedd coler bach ffôl o ruban glâs, a'r gair "Socrates" mewn sidan coch wedi ei weithio ynddo ag edau a nodwydd. Edrychai arnynt yn erfyniol, a chwyno, a llyfu ei droed bob yn ail.

Cafodd Gareth laeth o rywle. Yfodd Socrates yn helaeth ohono. Yna edrychodd Mr. Luxton ar ei glwyf. Nid oedd asgwrn wedi ei dorri. Tebig mai sangu ar rywbeth miniog a wnaethai nes torri'r pad o dan ei droed a cholli llawer o waed. Rhwymodd Mr. Luxton hi yn ofalus a chadach poced glân oedd gan Madame. Gwnaed lle esmwyth iddo i orwedd nes deuai'r amser i fynd i dir. Diddanodd Madame a Myfanwy ef â llawer o eiriau mwynion.

Gweithiasant yn galed y diwrnod hwnnw. Daethant â llawer o gistiau a blychau a pharseli i dir heb wybod eu cynnwys. Caent ddigon o amser at hynny eto. Pan ddaeth yr hwyr nid oedd dim ar ôl ond y llong ei hun. Drannoeth bu Mr. Luxton a Llew a Gareth yn brysur gyda bwyell a llif a mwrthwl. Gwaith anodd oedd diogelu darnau'r llong i gyd. Collasant lawer o ystyllod gwerthfawr, ond gobeithient y dygai'r llanw'n raddol lawer ohonynt i dir.

Yna dechreuwyd ail-lwytho'r cwch. Un cwch oedd ganddynt o hyd. Yr oedd cychod y Caro Carey wedi eu hysgubo ymaith. Buwyd yn "Bordeaux" ac yn ôl lawer gwaith nes cario'r nwyddau gwerthfawr yno i gyd. Yr oedd yn dda fod yr ogof ganddynt erbyn hyn. Dyna waith pleserus oedd trefnu'r pethau yn honno, a gweld y fath ystôr oedd ganddynt! Yr oedd yno bob math o bethau at eu cynnal,—te a choffi, ymenyn, a hyd yn oed ychydig dorthau o fara. Yr oedd yno hefyd sacheidiau o flawd a burym. Ni fedrai Madame na Myfanwy wneud bara, ond gwelsai Myfanwy ei mam yn ei wneud. Addawodd y ddwy ceid yno fara ffres braf ryw ddiwrnod. Ni wyddent eto pa beth oedd cynnwys y cistiau dillad. Er cymaint o'u heisiau oedd arnynt ni fynnent ruthro ar y pethau hynny. Yr oeddynt yn llawer mwy hŷ gyda'r bwydydd. Herciai Socrates o'u cylch ar deirtroed. Yr oedd mor falch o gael ei hun ar dir ac mewn cwmni nes y gellid meddwl ei fod wedi llwyr anghofio y rhai a fu'n annwyl ganddo o'r blaen.

Penderfynasant adeiladu tŷ. Yr oedd hwn i fod yn dŷ sylweddol, nid rhywbeth simsan fel y llall. oedd ganddynt offer at eu gwaith erbyn hyn, a phrennau ac ystyllod y llong, ac yr oedd digon o goed yn y wig. Gallent bellach dorri a llifio'r rheiny. Treuliasant amser yn penderfynu ar le cyfaddas ac yn tynnu cynlluniau. Y pwnc mawr oedd cael lle diogel mewn storm.

"Oni hoffech fyw yn 'Stratford'?" ebe Madame wrth Mr. Luxton.

"Byddai hwnnw'n lle hyfryd i fyw ynddo," ebe 'Mr. Luxton, "ond y mae mor bell o'r môr ac o'r ogof, medrem gario ein holl nwyddau yno? Peth arall, credaf y dylem fyw yn rhywle yng ngolwg y traeth. Gwyddoch paham. Hefyd, dylem fod yn agos i'r ogof, gan ei bod yn lle mor gyfleus i gadw ein bwyd a'n cadw ninnau pan fyddo taro."

Wedi chwilio am dipyn, trawsant ar fan cyfleus i mewn yn y wig tua hanner canllath o'r traeth a'r ogof. Yr oedd yn weddol gwastad, ond byddai cryn waith clirio'r coed a'r prysgwydd a dyfai arno. Byddai coed ganddynt wedyn yn gysgod ar bob tu, a thrwy fynych gerdded gallent gadw llwybr rhyngddynt â'r traeth.

Wedi llawer o ymgynghori penderfynwyd ar gynllun y tŷ. Tynnodd Gareth blan ohono ar bapur. Bungalow mawr oedd i fod gydag un ystafell eang at eistedd a bwyta. Yr oedd ganddynt ford a thair cadair. Gwnaethant sedd hir arall o fôn pren. Tu ôl i'r ystafell hon byddai tair ystafell wely,—un i Mr. Luxton, un i'r ddau fachgen ac un i Madame a Myfanwy. Buont mewn penbleth ynghylch lle tân. Peryglus oedd cynneu tân ynghanol y coed. Penderfynasant gloddio twll yn y ddaear, a chodi mur bach o gerrig o'i gylch, a gwneud y tân yn y twll. Os byddai eisiau tân mawr arnynt at ryw bwrpas arbennig, gallent ei wneud ar y traeth.

Ystyllod oedd muriau'r tŷ i fod, a mur y cefn tua throedfedd yn uwch na mur y ffrynt. Rhoddid prennau wedyn o un mur i'r llall a dail drostynt. Byddai'r tô felly ar oledd, fel y gallai'r glaw lifo dros y dail yn lle aros arnynt a disgyn drwyddynt i'r tŷ. Gwnaethant hefyd agoriad yn y tô, fel drws mawr, i'w gadw'n agored yn y dydd a'i gau yn y nos. Caent felly ddigon o awyr a goleu i'r tŷ er ei fod ynghanol y coed.

"Y Neuadd" fyddai ei enw wrth gwrs. Ysgrifennodd Gareth ei gyfeiriad yn llawn ar waelod y plan:—

"GARETH RHYS,
Y NEUADD,
BORDEAUX,
YNYS PUMSAINT."

Buont yn brysur iawn bob dydd am wythnosau, y dynion gyda'r adeiladu a Madame a Myfanwy yn paratoi'r bwyd ac yn gwnio'r dillad. Bu'r gwaith caled yn fendith iddynt. Anghofiasant lawer o'u pryder a'u hiraeth a'u hofnau. Yn ystod yr amser hwnnw digwyddai pethau pwysig ar yr ochr arall i'r ynys.

Nodiadau[golygu]