Breuddwydion Myfanwy/Ymarferiadau ar y Gwersi

Oddi ar Wicidestun
Pennod XXII Breuddwydion Myfanwy

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Geirfa


YMARFERIADAU AR Y GWERSI

I

1. Ysgrifennwch yn Gymraeg ddeg o enwau bechgyn, deg o enwau merched, deg o enwau afonydd, a deg o enwau trefi.

2. Disgrifiwch Brynteg.

3. Eglurwch achos pryder y saer a'i wraig.

II

1. Trowch yr enwau hyn i ferfau:—bwyd, trefn, breuddwyd, gwên, croesaw, cinio, troed, llygad.

2. Sut oedd y rhai hyn yn perthyn i'w gilydd:— Gwen a Myfanwy; Mr. Meredydd a Mrs. Rhys; Llew a Gwen; Myfanwy a Mrs. Rhys; Gareth a Mrs. Meredydd?

3. Ysgrifennwch baragraff am Meredydd Llwyd.

III

1. Ysgrifennwch lond tudalen yn dangos y manteision i Gymro o ymfudo i Awstralia.

2. Gwnewch yr un peth i ddangos yr anfanteision.

3. Ysgrifennwch yn llawn y rhigwm am Humpty Dumpty ac eglurwch ei ystyr.

IV

Nodwch y prif leoedd y byddai llong yn eu pasio wrth fynd o Southampton i Sydney. Pa ran o'r daith oedd y fwyaf diddorol i Meredydd Llwyd, a phaham?

3. Ysgrifennwch baragraffau ar Bau Biscaia, Pileri Hercules, Camlas Suez a'r Môr Coch.

V

I. Beth oedd rhai o arwyddion y storm fawr ar y môr?

2. Eglurwch "cyhydedd," "trofannau."

3. Ychwanegwch air disgrifiadol ar ôl pob un o'r rhai hyn:—gwynt, tón, niwl, twrw, creadur, rhu, capten, teithwyr, cynllun, dillad, arogl, rhyfeddod.

VI

1. Eglurwch, "Ai'r cwch yn ei flaen neu yn ei ôl, fel y mynnai'r llif a'r llanw."

2. Ysgrifennwch baragraff yn dangos meddyliau Llew wedi iddo ddeffro yn y cwch.

3. Gwnewch frawddegau yn cynnwys:—llyfn, caledi, gwefr, didrugaredd, pwysig, breuddwyd.

VII

1. Ysgrifennwch baragraff yn dangos eich barn am Llew.

2. Sut mae cwpled Ceiriog yn ddisgrifiad o amgylchiadau'r pump.

3. Pwy oedd Ceiriog? Enwch rai o'i weithiau.

VIII

1. Eglurwch, "Ni ddaw doe a'i gyfle'n ôl i neb."

2. Rhoddwch air arall am 'brecwast.' Pa resymau sydd dros ddefnyddio'r naill neu'r llall?

3. Nodwch ddau air Cymraeg a dau air Ffrangeg wedi eu cymryd i'r Saesneg.

IX

1. Beth yw dyddiadur?

2. Beth a gesglwch am Gareth oddiwrth gynnwys ei bocedi?

3. Beth oedd cyngor Mr. Luxton iddo ei hunan a'r lleill?

X

1. Tynnwch lun palmwydden goco, a disgrifiwch hi.

2. Disgrifiwch y daith trwy'r wig.

3. Beth yw'r lliosog o bryn, ochr, bore, ynys, traeth, afon, tir, iar, blodyn, aderyn, nant, craig, ffynnon, pren, traed, cangen?

XI

1. Enwch gymaint ag a fedroch o'r pethau a dyfai ar yr ynys.

2. Tynnwch fap o'r ynys yn ôl y disgrifiad yn y bennod hon.

3. Sut y gwyddent mai yn rhywle tua'r cyhydedd yr oedd yr ynys?

XII

1. Ysgrifennwch y drydedd salm ar hugain mewn unrhyw ddwy iaith.

2. Disgrifiwch y Pren Bara.

3. Disgrifiwch ffurfiad creigiau cwrel.

XII

1. Pa beth yn y daith hon a wnaeth i'r pump deimlo'n anesmwyth?

2. Disgrifiwch lagŵn, siarc, a morfil.

3. Gwnewch frawddegau yn cynnwys "gwersyll," "troedfedd," "teithiwr," "graddol," "gweddol."

XIV

1. Paham yr oedd Mr. Luxton mor falch ar yr ogof?

2. Beth yw'r gwrthwyneb i da, mawr, mwy, trist, gelynion, uchel, isel, diwethaf, de, dwyrain?

3. Disgrifiwch unrhyw ffordd o wneud tân heb ddefnyddio matsien.

XV

1. Pa bethau a ddysgodd y plant gan Mr. Luxton?

2. Gwnewch fap arall o'r ynys, ac enwau'r gwahanol fannau arno.

3. Beth yw unigol llygaid, plant, cerrig, dail, pysgod, tatws, cnau, pelydr, bysedd, breichiau, dwylo, adar?

XVI

1. "Y mae'r peth sydd yn ffawd i un yn anffawd i arall."—Rhoddwch enghreifftiau o hyn.

2. Paham y dywedir "y pryd parchus cyntaf?"

3. Rhoddwch ansoddair ar ôl pob un o'r rhai hyn:— siop, esgid, lagŵn, casgen, lledr, botwm, siwgr, ymwelydd.

XVII

1. Sylwch ar y disgrifiad o Socrates. Disgrifiwch eich ci chwi neu gi un o'ch ffrindiau.

2. "Bu'r gwaith caled yn fendith iddynt." Eglurwch hyn.

3. Disgrifiwch y tŷ newydd.

XVIII

1. Paham y dysgai Madame D'Erville, Gymraeg yn gynt na Mr. Luxton?

2. Meddyliwch mai Myfanwy ydych. Rhoddwch eich barn am Madame D'Erville.

3. Rhoddwch ddisgrifiad o Mili.

XIX

1. Ysgrifennwch gymaint ag a wyddoch am y llymarch.

2. Ysgrifennwch ymddiddan o'ch dychymig rhwng Llew a Gareth, yn dangos eu barn am Mr. Luxton.

3. Gwnewch frawddegau yn cynnwys y cyplau hyn:—"llwybr troeog," "brawddeg ddifeddwl," "lle cysegredig," "pob lliw."

XX

1. Dychmygwch ac ysgrifennwch ymddiddan rhwng y chwech yn yr ogof yn ystod y storm yn niwedd Medi.

2. Disgrifiwch Ynys Pumsaint fel y gwelid hi o'r llong.

3. Ychwanegwch y terfyniad—"odd" at wraidd y berfau hyn:—rhedeg, gyrru, methu, dywedyd, sefyll, gweld, peri, gadael, aros, ofni.

XXI

1. Ysgrifennwch hunangofiant Socrates.

2. Gwnewch frawddegau yn cynnwys "hwyr— frydig," "bendith," "cydymdeimlad," "gogoneddus," "edmygedd," "gwegil."

3. Dychmygwch ac ysgrifennwch ymddiddan rhwng Myfanwy a Gwen yn eu hystafell wely yn nhŷ Madame D'Erville.

XXII

1. Beth a wyddoch am Melbourne a Sydney?

2. Ysgrifennwch bob gair a brawddeg Ffrangeg a geir yn y llyfr hwn (ac eithrio'r Salm) a rhoddwch eu hystyron yn Gymraeg.

3. Ysgrifennwch o'ch dychymig hanes Llew, Gareth, Myfanwy a Gwen ar ôl deng mlynedd.

Nodiadau[golygu]