Neidio i'r cynnwys

Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Lili'r Dwr

Oddi ar Wicidestun
Y Friallen Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill

gan Humphrey Jones (Bryfdir)

Gwanwyn

LILI'R DWR.

YSNODEN ar fynwes y llyn
A'r merddwr di—swyn ydwyt ti,
Doi allan i'r haul yn dy wyn
A'th ddeilen yn werdd ar y lli;
Sirioli amgylchoedd d-wen
Yw neges dy fywyd di-stwr
Cei farw heb fyned yn hen
Fel duwies ar wyneb y dwr.

Dy wreiddyn i'r dyfnder a draidd
A'th flodyni uchter a ddring,
Y sychwynt dy grino ni faidd,
Edwino dy rudd nis gall ing;
Daw stormydd i siglo dy grud,
Daw chwaon i ganu'n gytun,
Enilli glodforedd y byd
Heb golli d'ogoniant dy hun.

Cystadlu a'r ewyn ni wnei
Am serch a chyfrinach y lli,
Tawelwch cyfeillgar fwynhei
Heb freuddwyd am gariad na bri;
Dyrchefi dy faner wen, dlos,
Yn dawel o fynwes y don,
A chysgi, po dduaf y nos,
A gwynder y wawr ar dy fron.


Nodiadau

[golygu]