Neidio i'r cynnwys

Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Y Friallen

Oddi ar Wicidestun
Balm i Glaf Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill

gan Humphrey Jones (Bryfdir)

Lili'r Dwr

Y FRIALLEN.

CENHADES blaen y Gwanwyn
A'th wisg fel aden gloyn
Wyt ti, friallen ferth;
Blodeui yn yr oerni,
A chysgod ni chwenychi
Ond cysgod clawdd a pherth.

Edmygi'r haul pan ddelo
Nes mynd yn debyg iddo,
A gwynfyd yn dy wên;
Dy ardd yw'r byd friallen,
A chedwi'r cof am Eden
O hyd heb fynd yn hen.
 
Rhoi fordor aur hyd lwybrau
Tylodion y canrifau,
Addurni'r llethrau llwm,
Adwaena'r plant dy ddeilen
A'th wawr o liw yr hufen
Ar dalar, ponc a chwm.

Mae'r hen yn adnewyddu
Bob blwyddyn i'th groesawu,
Friallen felen, fach;
Proffwydi ar yr erw
Sy'n drom gan lwch y meirw,—
Cawn godi eto'n iach.

Dyrchefi faner gobaith
Ar weryd gaeaf hirfaith
Friallen siriol wedd;
Pan gesglir fi o'm gwaeau,
Boed llaw a'th gasgl dithau
I harddu man fy medd.


Nodiadau

[golygu]