Neidio i'r cynnwys

Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Y Goedwig

Oddi ar Wicidestun
Beddargraff Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill

gan Humphrey Jones (Bryfdir)

Buddug

Y GOEDWIG.

Tŷ mawl y gwynt hyf; temel gyntefig
Y derwydd llariaidd heb dwrdd y llurig,
I dorf gu'r adar ryw dref garedig;
Crud aur i bleser creadur blysig;
Cawn bawb ei bren, cawn o bob brig—garol
I ddawnus gydiol ddinas y Goedwig.


Nodiadau

[golygu]