Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Buddug
Gwedd
← Y Goedwig | Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill gan Humphrey Jones (Bryfdir) |
Towyn Jones → |
"BUDDUG."
Awdures Geiriau'r Gân "O! na byddai'n Haf o hyd."
Y GYWIR Fuddug a'r wraig grefyddol,
Geir yn y gweryd, goron y garol.
Dan nos ei gofid a'i naws gaeafol,
Torrai ei gweddi am Haf tragwyddol;
Wyled gwerin wladgarol—roi ym medd
Ddawn hudai Wynedd a'i nwyd awenol.