Bugail Geifr Lorraine/Pennod VI

Oddi ar Wicidestun
Pennod V Bugail Geifr Lorraine

gan Émile Souvestre


wedi'i gyfieithu gan R Silyn Roberts
Pennod VII


PENNOD VI

Yr oedd clywed am y llwyddiant a gâi'r ferch anhysbys hon a arweiniai luoedd Ffrainc yn enw Duw, ac am ddyfodiad y llys i Loches, wedi peri llawenydd dirfawr i'r gŵr ifanc; a mwy fyth fu ei lawenydd pan glybu ei bod newydd adennill oddiar y Saeson y naill ar ôl y llall—Jergeau, Meung a Beaugency, a bod y brenin ei hun yn ymdeithio ymlaen gyda hi tua Beauce.

Yn fuan newidiodd ei arweinydd ac yntau eu cyfeiriad, troesant tua'r gogledd, gadawsant Orleans ar eu chwith a chyraeddasant odre coedwig Neuville.

Hyd yn hyn daliasai'r tad Cyrille flinderau'r daith yng ngrym ei ewyllys gref, ond âi'r ffordd yn fwy anodd o hyd, ac nid digon gwroldeb yn unig i orchfygu'r rhwystrau. Croesai'r ddau deithiwr wlad wedi ei hanrheithio gan y Saeson a dramwyasai'n ddiweddar trwyddi, gan wacâu'r trefi a'r cestyll lle yr arferent gadw garsiwn. Ciliasant heb adael ar eu hôl yn unman ddim ond unigrwydd ac adfeilion, Pallai ymborth ein teithwyr heb iddynt fedru cael cyflenwad newydd. Rhaid oedd byw ar wreiddiau a llysiau gwylltion wedi eu tynnu o ochrau cwysi'r braenar. Trwy gydol tridiau ni chyfarfu â hwynt un bod byw, Disgynnai'r glaw bron yn ddibaid, heb iddynt allu cael cysgod namyn ambell hofel â'i phen ynddi neu gerbydau wedi eu gadael ar ôl. Hyd yn hyn dioddefasai'r tad Cyrille lafur a gwasgfa'r daith heb gwyno, ond ni fedrai eu dal yn hwy. Y pedwerydd dydd, yn y fynedfa i brysglwyn bychan, safodd wedi ei orchfygu gan oerni, blinder a newyn, ac eisteddodd yn drwm ar foncyff pren wedi cwympo.

"Ped enillai hynny baradwys i mi, ni fedrwn fynd un cam ymhellach," ebr ef yn wan ei lais, "gad fi yma, fy mab, . . . . a dos ymlaen hebof fi."

"Yn enw Duw, fy nhad, un ymdrech eto," meddai Remy, "dichon y cyrhaeddwn o leiaf ryw gaban lle y gallwn gynneu mymryn o dân. Yma yr ydych heb gysgod. . . . . Fy nhad, 'rydw i 'n crefu arnoch chwi."

Mwmian annealladwy oedd unig ateb y tad Cyrille; yr oedd ei amrannau wedi cau, wedi fferru yn yr oerni, a'i aelodau, wedi trymhau gan flinder, yn methu symud. Parhâi Remy i erfyn dros ysbaid, ond yn gwbl ofer—yr oedd ei gydymaith wedi cysgu!

Yn ei ddychryn, rhedodd tua'r briffordd dan waeddi'n uchel ei lef, a chwilio â'i lygaid ynghanol y nos a'u daliasai bellach, am ryw fwg a roddai obaith iddo fod swcwr gerllaw. Wedi hir dremio'n ofer, credai ei fod yn gweld ymhellach draw ar ochr y ffordd adail na fedrai'n glir weld ei ffurf, ond a ymddangosai'n bwysig ac uchel. Heb ameu nad tŷ ydoedd hwn, dychwelodd at y brawd Cyrille, cododd ef yn ei freichiau a dechreuodd trwy fawr ymdrech ymlusgo yng nghyfeiriad y cysgod y cawsai gipolwg arno.

Y mynach yntau yn hanner effro a ymsythai ar ei draed ac a ddechreuai gerdded fel peiriant. O'r diwedd cyrhaeddodd y ddau at yr adeilad yr ymgodai'i ddelw aneglur yn y tywyllwch. Cododd Remy ei olwg . . . . crocbren llys senesgal[1] y rhanbarth oedd yno, ac arno crogai corff y troseddwr diweddaf a gawsai ei ddienyddio!

Parodd y siomiant hwn iddo dorri'i galon yn lân loyw. Wedi tremio o'i ddeutu o'r newydd heb fedru canfod dim ond tywyll affwys y nos a'r coed yn dyrchafu eu canghennau ceimion yn ei chanol fel rhithiau alaeth, eisteddodd wrth ochr y tad Cyrille, gosododd ei ben yn un o blygion mantell y mynach ac ildiodd i'r cysgadrwydd y buasai hyd yn hyn yn ymladd yn ei erbyn.

Ond arhosai eto weddill o'r egni bywiol i frwydro yn ei galon, ac i beri iddo ryw hanner gweled beth a ddigwyddai o'i ddeutu; teimlai'r glaw wedi ail ddechreu disgyn, ac yn hanner diarwybod ail osododd y cwfl dros ben y brawd Cyrille; yna clywai grugleisiau'r adar ysglyfaethus o amgylch y crocbren; wedi hynny oernadau'r bleiddiaid wrth herwa ar gyrion y prysglwyni; ac yn olaf tybiai weled rhyw gysgod yn dynesu atynt!

Gwnaeth ymdrech i sefyll ar ei draed, a gwelai hen wrach â golwg erchyll arni wedi sefyll hithau wrth ei weled ac fel pe bai wedi synnu.

"Yn enw Duw'r Tad . . . . a'i Fab Ef," ebr ef rhwng ei ddannedd, "pwy bynnag ydych chwi . . . . rhowch swcwr i ni."

"Pwy wyt ti, a pha beth yr wyt ti'n ei wneud yn y fan yna?" holai'r hen wrach.

Eglurodd Remy iddi mewn geiriau toredig fel yr oedd ef a'i arweinydd wedi eu dal gan y nos yn y lle yr oeddynt. Crefodd arni o'r newydd ddangos iddo ryw gysgod a'i helpu i arwain ei gydymaith iddo. Rhyw gloffi rhwng dau feddwl yr oedd yr hen wrach ar y cyntaf, ond o'r diwedd penderfynodd wrando arno; cydiodd yn un o freichiau'r tad Cyrille a chymerodd Remy y llall, a rhyngddynt arweiniasant ef hyd at y bryncyn ar gwr y llwyn.

Hen gastell yn adfeilion ers llawer dydd oedd coron y bryncyn, â'i dyrau candryll yn wynion yn erbyn yr awyr lwythog o niwl. Wedi dilyn llwybr creigiog a chroesi gweddillion y muriau, agorodd yr hen wrach o'r diwedd ddrws math ar ogof dan y ddaear wedi ei chadw'n ddianaf ynghanol yr adfeilion; dyna lle gwnaethai ei chartref.

Gadawodd ei gwesteion wrth y drws am funud, a dychwelodd yn fuan efo lamp wedi ei goleuo; ond yn yr olwg ar fantell y tad Cyrille na adawsai'r nos iddi ei gweled cyn hynny, methodd ganddi beidio a dangos ei syndod, neu'n wir, ei hofn.

"Mynach!" ebr hi.

"A fuasai'n well gennych chwi filwr ynte?" holai'r crefyddwr dan wenu; yr oedd eisys yn dechreu dod ato'i hun. "Nac ofnwch ddim, wraig dda, pobl heddychlon ydym ni, a byddwn yn ddwbl ddiolchgar os bydd i chwi, ar ôl rhoi lle i ni dan eich to, ail oleuo eich aelwyd i ni."

Grwmialodd yr hen wrach rai geiriau annealladwy, cymerodd y lamp a gwahoddodd ei gwesteion i ystafell arall nês i mewn; ond yr oedd Remy newydd fwrw golwg tros yr ystafell lle yr oeddynt ar y pryd ac wedi cydio'n sydyn yn llaw'r tad Cyrille, a'i lais wedi newid wrth iddo ei gyfarch:

"Nodded Duw i ni! A welwch chwi ymhle'r ydym ni, fy nhad?"

Cododd y mynach ei ben, a rhedodd ias drosto yntau yn ei dro.

"Onid wyf yn fy nhwyllo fy hun, laboratori'r wyddor ddieflig sydd yma," ebr ef yn fywiog, a'i gywreinrwydd yn amlwg yn gryfach na'i ddychryn.

"Dowch allan, fy nhad, dowch allan," meddai Remy ar ei draws, gan geisio ei dynnu oddiyno.

Ond ni fynnai'r tad Cyrille mo hynny: credai yntau fel pobl yr oes honno mewn tesni; ond er ei fod yn ystyried y peth yn ddysgeidiaeth uniongyrchol y cythraul, rhyfelai'r eiddgarwch gwyddonol yn ei ysbryd yn erbyn ei awydd am iechydwriaeth, a pharai fod ei ddiddordeb yng nghelfyddyd fawr y dewin yn gymaint, a dweyd y lleiaf, â'i arswyd rhagddi. Yn nirgelwch y laboratori, ceisiasai yntau ei hun yn yr amser a fu gyflawni rhai cyfarwyddiadau dewinol; ac os oedd bellach wedi peidio â phethau felly yr achos am hynny oedd aflwyddiant ei gynygion cyntaf ac nid ei uniongrededd. Yr oedd cyfarfod â merch wedi ymroi i'r wyddor ddamniol hon yn ail ddeffro'r hen awyddfryd o'i fewn, ac edrychai o'i ddeutu yn awchus.

Yr oedd y math ar ogof yr oedd ynddi yn llawn o bob siort o'r gwrthrychau dirgel a ddefnyddir mewn swyngyfaredd: crochanau o wahanol faint i ferwi swynion serch, cudynnau gwallt y gellid eu newid yn ddarnau aur, drychau dur caboledig y gallai'r gelfyddyd ddewinol ddangos ynddynt wynebau'r absennol, ffyn cyll at gyfeirio'r cymylau, delw gŵyr â nodwyddau dur, hirion, yn ei chalon i ddwyn marwolaeth ar y sawl a gynrychiolid ganddi, esgyrn dynol, cortynnau crogi,[2] pennau gwiberod at wneud y mathau o enaint sy'n newid ffurf pobl. Ond y peth a drawodd lygaid y tad Cyrille yn anad dim oedd llyffant du anferth yng ngharchar dan belen wydr. Gwisgai hwnnw ar ei gefn fantell fechan o sidan symudliw a arwyddai ei fod wedi ei fedyddio gan offeiriad cableddus; ac ar ei ben yr oedd math ar grib disglair.

Nid oedd yr hen wrach yn ddall i gywreinrwydd sylwgar y mynach; ac ychwanegodd hithau ato trwy lafarganu, fel math ar fygwth, y gwahanol ddoniau a berthynai i'w chelfyddyd.

Yr oedd Remy bron llewygu gan ddychryn, ac fe fynnai ruthro allan trwy'r drws; ond rhwystrodd y tad Cyrille ef oblegid yr oedd ef yn rhyfeddu yn gystal ag ofni.

"Aros," meddai, "aros ac ymgroesa; ni all grym y cythraul orchfygu arwydd y Prynedigaeth. Yn enw y Tad, y Mab a'r Ysbryd Glân, yr wyf yn gorchymyn i ti, wasanaethydd Astaroth a Beelzebub, i beidio â'th fygwth ac ymwrthod â'th swyngyfaredd."

Peidiodd y ddewines, a safodd heb syflyd am ysbaid yn agos i'r drws. Nid amheuai'r tad Cyrille nad ufuddhasai hi er ei gwaethaf i'r geiriau grymus a lefarasai ef; ond rhyw ymwrando yr oedd yr hen wrach, ac yn sydyn dynesodd atynt, ac ebr hi:

"Y mae rhywun yn dod i ymgynghori â brenhines Neuville."

" 'Rwyt ti wedi cael rhybudd o hynny gan y cythraul?" holai'r mynach mewn syndod.

"Y mae yna amryw," ychwanegai'r ddewines, a throi'i chefn at y drws; "mae nhwy'n arfog; ymneilltua gyda'r llanc a gad i mi ymddiddan â hwy ar fy mhen fy hun."

Cydiodd yn y lamp a cherddodd at un o'r ystafelloedd nesaf; yno y gwnaeth i'w dau westai fyned.

Ogof eang ydoedd hon, ac yn ei phen draw yr oedd tanllwyth braf o dân a llaesod o ddail sychion. Cynghorodd brenhines Neuville y ddau deithiwr i ymdwymno a gorffwys, ac yna gadawodd hwy a chaeodd y drws ar ei hôl.

Yr oedd dychryn Remy ymhell o fod wedi diflannu. Ceisiai'r mynach ei dawelu ei oreu trwy ei sicrhau y gellid gorchfygu geiriau dewiniaeth â'r geiriau a ddefnyddid i fwrw allan gythreuliaid. Wedyn neshaodd at y tân a phrociodd ef, a chymhellodd y gwas ifanc i eistedd gydag ef ar y llaesod dail.

Ond dyma lais yr ymwelwyr newyddion i'w glywed o'r ystafell nesaf. Neshaodd Remy yn ofalus at y drws a gaeasai'r hen wrach, ac wrth osod ei lygaid ar y craciau rhwng yr ystyllod anwastad, gwelai'n eglur yr holl bersonau yn yr olygfa a chwaraeid yr ochr arall.

Safai brenhines Neuville ar ei thraed rai camau oddiwrtho, a daliai yn un llaw wialen haearn, a gorffwysai'r llaw arall ar y belen wydr a orchuddiai'r llyffant bedyddiedig. Yn agos i'r porth, safai tri gŵr a adnabuwyd yn union oddiwrth eu gwisgoedd a'u lliwiau fel saethyddion yr arglwydd de Flavi. Ymddiddanai'r tri'n ofnus ac ymhell oddiwrth y ddewines; ond o'r diwedd dyma un ohonynt yn ymgaledu: wedi cymryd cam ymlaen câi ei hun yn y rhan a oleuid gan y lamp, ac felly daeth ei wyneb, a oedd yn y cysgod o'r blaen, yn sydyn i'r goleu, ac adnabu Remy Exaudi Nos.

Er ei fod yn siarad â'r hen wrach â'i ddigywilydd-dra arferol, eto yr oedd yn ei ddigywilydd-dra elfen o anesmwythder amlwg.

"Felly, wedi dod i geisio crys sŵyn[3] yr wyt ti i gadw dy groen rhag clwyfau?" ebr brenhines Neuville, yn amlwg fel ateb i gais a wnaethai'r saethydd cyn hynny.

"Ie," ebr yntau, ac yn methu'n lân a thynnu ei olwg oddiar y llyffant yn y fantell sidan; "crys a'm ceidw rhag ergydion drwg a hefyd rhag swyngyfaredd."

"A pha beth a fyn dy gymdeithion?" holai'r ddewines.

"Am danaf fi," ebr un o'r milwyr a arhosai yn y cysgod, saethydd ar farch, fel y dangosai ei wisg, "fe garwn i gael tipyn o'r powdwr sŵyn hwnnw yr ydych chwi'n ei wneud o gath wedi'i blingo, llyffant, cenau goeg ac asp."

"A minnau," ebr y trydydd, a ddygai wayw marchog ysgafn, "fe garwn i gael gwybod y geiriau y mae'n rhaid eu dweyd pan fynno dyn dalu refugâ pecuniâ,[4] sef y modd i gael yr arian a delir yn eu hôl ohonynt eu hunain i'r pwrs."

"A dyna'r cwbwl?" gofynnai brenhines Neuville, â'i threm drachefn ar Exaudi Nos.

"Onid ydyw hyn yn ddigon?" ebr yntau, mewn tipyn bach o benbleth.

Trawodd y ddewines y crochan mawr â'i gwialen haearn.

"Y mae gen ti beth llawer pwysicach i'w ofyn i mi," ebr hi'n ffyrnig; "wedi dod yr wyt ti i ymgynghori â mi ar ran dy feistr!"

Yr oedd y saethydd wedi ei syfrdanu.

"Myn satan! Y mae hi wedi dyfalu'r gwir," ebr ef, gan gamu'n ôl ac edrych ar ei gymdeithion. "Duw yn dyst i mi, dwyawr yn ôl y soniodd yr arglwydd de Flavi wrthyf gyntaf am y peth, a hynny yn Nhafarn y Coed. Ond gan dy fod ti'n gwybod y cwbwl, wraig neu ddiawles, ni waeth i mi beidio a siarad â thi."

"Siarad ti, serch hynny," ebr brenhines Neuville yn awdurdodol, "y mae arna i eisio gwybod a wyt ti'n onest."

"I ba ddiben deyd celwydd pan fo un yn darllen gwaelod meddwl dyn?" ebr Richard yn ofnus. "Y mae'r arglwydd de Flavi wedi clywed i sicrwydd nad oes dim yn guddiedig oddiwrthyt ti, ac wedi f'anfon i yma i ofyn i ti rai cwestiynau."

"Rhowch i ni weld."

"I ddechreu, mi ddylet wybod bod ein meistr ers cryn amser yn chwilio am etifedd yr arglwyddes de Varennes, a bod arno ofn iddo ddod yn ôl."

"Nid yw wedi llwyddo i ddod o hyd iddo?"

"A deyd y gwir, fe ddamweiniodd iddo ddod i'w law yn ddiweddar, a gadawodd yntau iddo ddianc, heb ameu na byddai'n siwr o drengi wrth wneud."

"Ond fe ddaeth i wybod yn amgenach wedyn?"

"Pan es i 'n ôl i Tonnerre mi ddois i wybod heb ddim trafferth, oddiwrth yr hanes a glywais am ddau garcharor wedi dianc, yr arglwydd ifanc de Varennes a'r mynach a'i gwasanaethai fel arweinydd."

"Mynach!" meddai brenhines Neuviile.

"Ni ŵyr yr arglwydd de Flavi pa ffordd yr aethant," ychwanegai Exaudi Nos, "a dyna a fynnai wybod gennyt ti."

"Dyma hwy!" ebr yr hen wrach fel pe'n siarad â hi ei hun; "mynach mewn oed, moel, a gwas ifanc hefo fo, tuag un ar bymtheg oed . . . . llanc cryf . . . . yn gwisgo fel newyddian."

"Ar f'enaid i, dyna hwy i'r dim," ebr y saethydd wedi synnu mwy fyth.

"Ac 'rwyt ti'n chwilio am danyn nhwy?" holai'r hen wrach.

"A deyd y gwir, fe garai'r arglwydd de Flavi wybod ple mae nhwy."

"A faint a rydd o, os dweda i hynny wrtho fo?"

"Mi wyddost, felly, ple mae nhwy?"

"Beth pe bawn i 'n rhoi'r mynach a'i gydymaith yn 'i law o?"

"Ym mhle?"

"Yma, yn y fan a'r lle."

"A ydyw hynny'n bosibl?" gwaeddai Exaudi Nos. "Beth! A fedar grym dy ddewiniaeth di ddod a hwy yma . . . ."

"Dim ond i ti roi i mi'r ddau ddarn aur a dalodd yr arglwydd de Flavi i ti," ebr brenhines Neuville, gan estyn ei llaw rychiog.

"Ha, mi wyddost hynny hefyd!" ebr y saethydd, a synnu mwy eto; ac wedi tynnu'r arian o wregys ei ddillad lledr: "O'r goreu, hwda . . . . a gad i mi weld a fedri di gyflawni d'addewid."

Cuddiodd yr hen wrach y darnau aur yn ei mynwes; yna dechreuodd droi a murmur geiriau dieithr a ffurfio â'i gwialen gylchau dewiniaeth. Fel yr âi ymlaen i lefaru, fe ddeuai'n amlwg fod sŵn ei llais hi ei hun yn codi math o bendro arni; rhedai o gylch yr ystafell, curai'r crochanau soniarus â'i gwialen haearn, a gwaeddai'r geiriau cabalistaidd: Vach, Vech, Stest, Sty, Stu. Wrth y gri hon codai oernadau o'r ystafelloedd oddiamgylch, neidiai'r llyffant a'r crib llachar dan y belen wydr, a chodai rhai nadroedd eu pennau o un o'r llestri y cyffyrddai'r ddewines â hwynt.

Ciliasai Exaudi Nos a'i gymdeithion mewn ofn hyd at y porth; ond yn sydyn safodd brenhines Neuville ar ei chylch o flaen yr ogof lle yr oedd y tad Cyrille a Remy wedi eu cau, a llefodd:

"Da iawn, Mysoch,[5] dyma hwy yma."

"Pwy yma?" holai'r saethydd; yng nghanol ei ddychryn nid anghofiasai ef amcan y witsio.

Yn ateb i'w gwestiwn, agorodd brenhines Neuville ddrws yr ogof, a gwelai'r tri milwr y mynach a'r llanc yn sefyll wrth y trothwy.


Nodiadau[golygu]

  1. nodyn 22
  2. nodyn23
  3. nodyn24
  4. nodyn25
  5. nodyn 26