Bugail Geifr Lorraine/Pennod VII
← Pennod VI | Bugail Geifr Lorraine gan Émile Souvestre wedi'i gyfieithu gan R Silyn Roberts |
Pennod VIII → |
PENNOD VII
Trannoeth, yn oriau'r bore, arhosodd llu'r arglwydd de Flavi ar ran o'r gwastadedd sy'n gwahanu Artenay oddiwrth Patay. Disgynasai'r marchogion er mwyn i'r meirch gael pori, ac yr oeddynt yn gorwedd ar y glaswellt i orffwyso. Mewn tŷ tô gwellt yr oedd eu pennaeth, a negesydd newydd gyrraedd yno ato ar garlam gwyllt; ac yn awr dyma'r pennaeth yn dod allan ar ffrwst ac yn gorchymyn i bawb neidio ar ei farch. Yr oedd newydd glywed ddarfod gorchfygu'r Saeson yn Patay, a bod y brenin wedi cyrraedd gyda'i fyddin fuddugoliaethus.
Buan yr ymledaenodd y newydd ymhlith ei gymdeithion i gyd, a phawb yn prysuro i gyfrwyo'i farch ac ymarfogi i redeg i gyfarfod â Siarl VII; ond dyma Exaudi Nos yn cyrraedd wedi ei orchuddio â llaid a chwŷs.
Llywodraethwr Tonnerre, ar fin esgyn ar ei farch, yn yr olwg arno, a safodd:
"Wel?" holai'n fywiog wrth fynd a'r saethydd o'r neilltu.
"Mi lwyddais," ebr Richard yn gawr.
"Beth? Y ffoedigion?"
"Edrychwch."
Wedi troi, gwelai'r arglwydd de Flavi y tad Cyrille a Remy yn ei ymyl, o dan goeden gollen Ffrengig, a dau gydymaith Richard yn eu gwarchod.
"Duw cato ni! A dyma nhwy mewn difrif?" ebr ef mewn syndod.
"Dyma nhwy, f'arglwydd," atebai Exaudi Nos, "gwnaeth brenhines Neuville iddynt ddod ati wrth ei gorchymyn."
"Felly, ac 'rwyt ti'n siwr dy fod yn adnabod y llanc ifanc a'r mynach?"
"Cyn siwred a 'mod i 'n eich gweled chwi."
Daeth golwg galed a phenderfynol ar wyneb yr arglwydd de Flavi. Syllodd am foment ar y carcharorion, fel pedfai wedi penderfynu ynddo'i hyn pa beth a ddylai ei wneuthur; yna cerddodd yn chwyrn tuag atynt.
"Myn y mil diawliaid! Ni ddihangant o'n dwylo ni'r waith hon," ebr ef; " 'wnawn ni'r un goelcerth yn y fan yma i achub y bradwyr."
"Na soniwch am fradwyr, f'arglwydd," ebr Cyrille, "oblegid gwyddoch ein bod ni yn Ffrancwyr cywir."
"A feiddi di edrych ym myw fy llygaid i ac ateb mor wyneb galed â hyn'na, fynach gau?" meddai de Flavi yn ddigllon ar ei draws. "Ar fy Nuw! Mi wnaf esiampl o'r gwŷr anfad hyn sydd wedi gwerthu Ffrainc i'r tramorwyr."
Cododd murmur o gymeradwyaeth o blith y gwŷr arfog a gylchynai'r carcharorion.
"Ie, ie, y mae eisio gwneud esiampl," meddai lliaws o leisiau. "Cortyn, dowch â chortyn!"
"Dyma fo," gwaeddai Richard; yr oedd wedi tynnu penffrwyn un o'r meirch cynhorthwy.
"Hwrê! Hwrê!"
"Wneiff hwn'na ddim crafat i ddau," sylwai un o'r gwŷr arfog.
"Pob un yn ei dro, fel y bydd y gwylwyr," atebai un arall.
"Â phwy y dechreuwn ni?"
"Efo'r mynach, efo'r mynach."
"Nage," ebr de Flavi, "efo'r bachgen."
Yr oedd Exaudi Nos wedi dwyn march at y goeden; a chan godi ar ei draed ar y cyfrwy, cydiodd mewn cangen a chlymodd gynffon y penffrwyn wrthi. Mynnai'r ddau filwr gydio yn Remy i'w godi at ben arall y cortyn, ond hyrddiodd y tad Cyrille ei hun rhyngddynt.
"Na leddwch ef," llefai'n wyllt, "yn enw y Duw byw, na leddwch ef; nid ysbïwyr mohonom. Fe ŵyr yr arglwydd de Flavi hynny . . . . o achos y mae ei saethydd yn ein hadnabod. Y mae o wedi cael croeso yn ein mynachlog ni; fe iacheais i 'r clwyf ar ei goes dde. 'Rydw i 'n ei dynghedu o i ddweyd y gwir yn y fan yma."
"Onid oes neb â choes chwip ganddo i gau safn y clebryn hwn?" llefai de Flavi ar ei draws.
"Llefared y saethydd! 'Rydw i 'n tynghedu'r saethydd!" gwaeddai'r mynach drachefn.
"Brysiwch," ebr y llywodraethwr, "crogwch y llefnyn, crogwch o!"
Ond llwyddasai'r tad Cyrille i dorri'r rheffynnau a'i rhwymai, a pharhai i amddiffyn Remy fel un gorffwyllog.
"Na," ebr ef, "fedrwch chwi mo'i ladd o â chortyn . . . . y mae o o waed bonheddig . . . . amddiffynnwch o, fy meistriaid; rhowch gyfle o leiaf i chwilio beth yw'r gwir; rhowch amser i ni brofi pwy ydym ni . . . . bradwriaeth ydyw hyn . . . . llofruddiaeth . . . . y mae ar yr arglwydd de Flavi eisio rhoi diwedd ar berthynas . . . ."
"Oni orffenni di byth, saethydd uffern?" bloeddiai de Flavi yn welw'i wedd ac yn cau ei ddwrn ar Exaudi Nos. "A chwithau'r lleill o honoch chwi, 'fedrwch chwi ddim rhoi pen ar fynach a phlentyn? Tynnwch y cortyn, yn enw'r nef, tynnwch y cortyn; ac os na fedrwch chwi ei grogi o, agorwch ei wddw fo â chleddau."
Wrth ddwedyd y geiriau hyn, tynnodd ef ei hun y miséricorde[1] a gariai yn ei wregys hanner y ffordd o'r wain; ond aflonyddwyd arno gan floeddio a chynnwrf sydyn ymhlith y gwŷr arfog a'i canlynai; yr oedd llu o farchogion newydd ymddangos yn nhroad y ffordd, ac yn nesu atynt ynghanol cwmwl o lwch. Oddiwrth eu gwisgoedd o sidan ac aur, a'r plu a addurnai eu helmau a'u meirch, gwelai pawb mai gwŷr meirch y brenin oeddynt.
Yn eu canol yr oedd Siarl VII, ac yn ei ddilyn y cwnstabl de Richemont la Tremouille, a'r Forwyn gyda'i baniar o frethyn ymyl aur; ar y faniar hon yr oedd llun Crist yn ei lys ar y cymylau, ac yn dal yn ei law bellen y byd; islaw yr oedd dau angel yn addoli, ac yn ysgrifenedig mewn llythrennau aur Ihesus Maria.[2]
A phelydr heulwen arnynt yn peri i'w gwisgoedd a'u harfau ddisgleirio, daeth y llu ar eu hunion tuag at yr arglwydd de Flavi a safasant heb fod yn nepell oddiwrth y gollen Ffrengig.
Wedi adnabod y brenin rhedodd yr holl wŷr arfog am eu meirch er mwyn ffurfio eu rhengau i roddi derbyniad iddo; a rhaid oedd i de Flavi wneuthur yr un modd. Y tri milwr yn unig a arhosodd gyda'r mynach a Remy; ond gollyngasant yr olaf, a godasid ganddynt at y cortyn, a gadawsant iddo ddisgyn i'r llawr.
Am ysbaid yr oedd llygaid pawb, hyd yn oed y carcharorion, ar y llu buddugoliaethus oedd newydd gyrraedd. Ymryddhaodd y cylch y safai'r brenin yn ei ganol yn araf oddiwrth y lleill, a dod ymlaen at gwmni yr arglwydd de Flavi, a oedd erbyn hyn yn sefyll yn eu rhengau. Ymdeithiai'r Forwyn ar ddeheulaw Siarl wedi ymwisgo mewn llurig a wneithid yn arbennig iddi, ac wrth ei gwregys y cleddyf â'r pum seren ar ei garn,[3] a gawsid yn eglwys Fierbois; yr oedd ei mwgwd i lawr fel pedfai'n myned i frwydr.
Pan gyrhaeddodd hi o fewn ychydig i'r goeden gwelodd y mynach a'r llanc ifanc wedi eu rhwymo, a sylwodd ar y cortyn yn crogi wrth y gangen.
"Er mwyn Duw! Beth y mae nhwy'n geisio wneud i'r bobl hyn?" hi safai i holi.
"Na chymerwch ddim sylw ohonynt, bradwyr ydynt hwy," atebai'r arglwydd de Flavi, yn ewyllysio eu pasio.
"O bydded iddynt farw felly, os dyna ewyllys Crist!" ebr Jeanne gydag uchenaid.
Yna, wedi dod ychydig gamau'n nes, safodd drachefn a gwaeddodd mewn syndod:
"Bradwyr?" ebr hi'n fywiog, "ar f'enaid i, 'rydych chwi'n camgymeryd, f'arglwydd."
Ar ôl iddi godi ei mwgwd dangosodd i lygaid syn Remy bryd a gwedd y fugeiles o Domremy!
Cododd y llanc ifanc ei lef ac estynnodd ei ddwylo tuag ati; gyrrodd hithau ei march hyd ato a phlygodd i lawr.
"Ai gwir y peth a ddywedir?" ebr hi'n gyflym, "a wyt ti'n gyfaill i'r Saeson?"
"Rhodder i mi arfau," llefai Remy yn ddigllon angerddol, "a cheir gweld ai Siarl ai Bedford a biau fy nghalon."
"Ar fy Nuw, dyna ateb uniawn," ebr y Forwyn, a chan droi at Siarl a oedd erbyn hyn wedi nesu atynt: "ac ni wrthyd ein brenin hael ei bardwn i fugail geifr truan o'm bro i."
"Gofynnwch am gyfiawnder yn unig iddo," gwaeddai'r mynach, "a bydd y bugail geifr truan yn arglwydd o fôn a chyfoeth; canys cyn wired a bod Duw yn dri pherson, y llanc ifanc hwn yw mab cyfreithlon yr arglwyddes de Varennes."
"Celwydd yn d'ên, fynach," bloeddiai de Flavi, a sbarduno'i farch yn ffyrnig ar draws y tad Cyrille a'i fwrw mor erwin nes cwympo ohono yn drwm yn ei waed. "Daliwch y sarhawr hwn," ychwanegai wrth roddi arwydd i'w wŷr i gydio ynddo.
Ond neidiasai Jeanne i'r llawr i godi'r mynach, ac ebr hi dan deimlad mawr:
"O Iesu, mae o wedi brifo. Cynorthwywch fi i'w ymgeleddu, fy meistriaid, y mae 'nghalon i'n torri wrth weld gwaed Ffrancwr yn llifo."
"Yn wir, nid gweithred gŵr bonheddig mo honyna," meddai'r brenin yn llym.
"Na," ebr y Forwyn, "nid yw'r gwir farchog byth yn taro'r gwan; ond, ar f'enaid i, ni chaiff y rhain fy ngadael i mwy, a chyda nawdd ein brenin hael, ceir gweled ai gwir y peth a ddywedant."
"Peth hawdd fydd hynny," ebr Siarl; "heno fe fyddwn yn myned heibio i gastell de Varennes. Cymerwch eich noddedigion, Jeanne, fe'u gosodwn nhwy gerbron yr arglwyddes de Varennes a gwŷr doeth i benderfynu'r achos."
Gyda'r geiriau hyn trodd ben ei farch a chychwynnodd i'w daith. Galwodd Jeanne yn union ar y brawd Jean Pasquerel, darllenydd mynachlog yr Awstiniaid yn Tours, gŵr a roddasid iddi yn gaplan preifat, ac i'w ofal ef yr ymddiriedodd y ddau deithiwr. Archodd hefyd i'w hyswain, y marchog Jean d'Aulon, geisio meirch iddynt; ac wedi eu calonogi â geiriau duwiol, ail ymunodd â gosgordd y brenin.
Wedi eu gadael iddynt eu hunain y peth cyntaf a wnaeth y tad Cyrille a Remy oedd gweddīo'n daer ar Dduw a diolch iddo am y swcwr heb ei ddisgwyl a anfonasai iddynt.
Ond os oedd y perigl wedi myned heibio, yr oedd y praw pwysicaf eto o'u blaenau; ymhen ychydig oriau penderfynid tynged Remy, a pharai meddwl am hyn i'r ddau grynu rhag eu gwaethaf. Cyd â'u bod ymhell oddiwrth eu nod, llanwai anawsterau'r daith eu holl fryd a threthu eu holl egni; ni phoenent am y moddion i brofi dilysrwydd hawliau Remy; yr adeg honno ymddangosodd seiliau eu cred hwy eu hunain yn brofion digonol i berswadio eraill; ond pan ddaeth yr awr i ddangos gwerth eu profion dechreuasant ofni ac ameu! Dyna dystiolaeth Remy, a datganiad y bugail geifr a'i derbyniasai i'w hategu: ai digon hyn i argyhoeddi'r arglwyddes de Varennes i ddechreu, ac wedi hynny y gwŷr a osodid i farnu'r achos? A dyna'r arglwydd de Flavi, a lwyddai ef i godi amheuon er ei fudd ei hun? Yr oedd y tad Cyrille wedi byw rhy 'chydig ymhlith dynion i wybod sut i ddrysu eu cynllwynion, ond yn ddigon hir i'w hofni, a theimlai'n bur anesmwyth ynghylch canlyniad y praw.
Marchogent ar hyd y dydd, y naill yn ymyl y llall, a'r ddau yn ymboeni ynghylch y praw oedd i ddod heb feiddio sôn amdano wrth ei gilydd. O'r diwedd, tua'r hwyr, gwersyllodd yr holl lu yng ngolwg castell de Varennes, a daeth Ambleville, un o herodron arfau'r Forwyn, i gyrchu Remy a'i arweinydd.
Yn y neuadd fawr cawsant Jeanne â llawer o esgobion a gwŷr bonheddig a ffurfiai gyngor y brenin o'i hamgylch. Yn agos i'r porth yr oedd yr arglwydd de Flavi â golwg ffyrnicach nag arfer arno.
Y foment y daeth y mynach i mewn efo Remy cerddodd y Forwyn tuag atynt.
"Yn enw y Forwyn Fair," ebr hi, "dowch ymlaen heb ofn, a dangoswch eich profion i f'arglwyddi sy'n wŷr doeth. Os ydych yn dweyd y gwir, ac mi gredaf eich bod, fe'u cewch yn llawn tosturi."
Moesymgrymodd Cyrille yn barchus o flaen aelodau'r cyngor.
"Duw a roddo hynny iddynt," ebr ef efo'r math o urddas na cheid mohono y pryd hwnnw ond ynglŷn â gwisg crefyddwr, "canys dywedir yn yr Ysgrythur: 'A pha farn y barno dyn, y bernir ef.' "
Regnault de Chartres, archesgob Reims a changhellor Ffrainc, a roddodd arwydd i aelodau eraill y cyngor i eistedd; yna dechreuodd holi Remy a'r tad Cyrille. Adroddwyd yn fanwl wrtho bopeth a ŵyr y darllenydd eisys: dyfodiad y bugail geifr ifanc i'r fynachlog, y cyfarfod â'r saethydd, eu hymadawiad, a gwahanol ddigwyddiadau'r daith; yn olaf gosodwyd o'i flaen i ategu eu tystiolaeth yr ewyllys yn y ffurf o lythyr a wnaethai Jérôme Pastouret cyn ei farw.
Gwrandawodd yr arglwydd de Flavi ar yr adroddiad gyda gwên anghrediniol a gwatwarus, ac ar ei diwedd cododd ei ysgwyddau.
"Mae'r chwedl wedi'i llunio'n lled dda," ebr ef mewn tôn ysgornllyd, "a gallai dwyllo gwŷr lled ddeallus; ond cyn ateb y parchedig, erfyniaf am i'r cyngor wrando ar y saethydd, a ddywedodd wrtho gyntaf mewn cyfrinach am ymchwil yr arglwyddes de Varennes."
Galwodd y canghellor amdano, a dygwyd Exaudi Nos gerbron. Dangosodd yntau ledneisrwydd parchus, a gwnaeth hynny argraff ddymunol ar y cyngor. Wedi ei galonogi, archodd archesgob Reims iddo ddywedyd popeth a wyddai; a thystiodd Richard fod y tad Cyrille, ar ôl clywed am ymchwil yr arglwyddes de Varennes, wedi cynllunio i gynnyg Remy yn lle'r bachgen a gollasid, ac wedi ei wahodd yntau i ymuno yn y cynllwyn. Rhoddodd ei dystiolaeth mor dawel ac mor fanwl nes siglo'r cyngor. Aethai Jeanne yn ôl ei harfer o'r neilltu i weddïo; ond ar y funud hon yr oedd wedi dynesu atynt nes clywed geiriau diwethaf Exaudi Nos, a dyma hi'n gwaeddi:
"Ha, myn y gywir groes! Fe adwaen i'r tyst hwn; y fo a gynlluniodd yn fradwrus fy angeu i pan oeddwn ar fy nhaith at y brenin."
Parodd y datganiad annisgwyliadwy hwn gynnwrf cyffredinol; troes y barnwyr mewn syndod y naill at y llall; gwelwodd Exaudi Nos, a neshaodd y tad Cyrille at Jeanne.
"Ie'n wir, y fo ydyw," ebr hithau, â'i llygaid yn graff ar Richard. "Trwy gymorth y negesydd bwriadai fy moddi wrth groesi'r bont."
"Ac os bu i chwi ddianc," ychwanegai'r mynach, "i'r llanc, ar ôl Duw, y mae i chwi ddiolch; oblegid ei lais ef oedd y llais a glywsoch yn eglwys La Roche."
"Ha, ar f'enaid i! Os felly y mae hi, fe dalaf finnau'r gymwynas yn ôl iddo yntau!" meddai Jeanne, "ac ni wrthyd ein brenin hael ei gymorth i mi i dalu fy nyled, canys cyfiawnder yw."
Cynhyrchodd y digwyddiad annisgwyliadwy hwn adweithiad llawn mor sydyn. Yr oedd y cyhuddiad a wnaed gan Jeanne yn erbyn Exaudi Nos wedi llwyr ddinistrio effaith ei dystiolaeth, a'r gwasanaeth a wnaethai Remy i'r arwres yn amlwg wedi adfer iddo yntau ddiddordeb y cyngor. Canfu f'arglwydd de Flavi hyn, a llefodd yn anfoesgar ar draws geiriau cymeradwyaeth y Forwyn.
"Ynfyd yw ymresymu ar fater o'r fath; i ochel dadleu ac oedi mi apeliaf am farn Duw ar y peth, a thaflaf fy maneg i lawr i unrhyw rysor a fynnai amddiffyn celwydd y mynach."
Gyda'r geiriau hyn, tynnodd un o'i fenyg a bwriodd hi ar gerrig y llawr ychydig gamau oddiwrth Remy.
Trodd y llanc i'w chodi, ond rhwystrodd y tad Cyrille ef.
"Ni ddylid apelio at farn Duw ond yn unig lle y bo doethineb dyn wedi methu," ebr ef, "ac ar hyn o bryd y cyngor sydd i benderfynu."
"Ar f'enaid i! Os meiddiaf fi siarad gerbron gwŷr mor ddoeth," ebr Jeanne, "fe ofynnwn paham nad apelir at yr arglwyddes de Varennes. Fe adnebydd pob gwraig ei gwaed ei hun."
Arwyddodd aelodau'r cyngor eu cydsyniad; ac ar ôl cymryd cyngor yn eu plith eu hunain am ennyd, a pheri i'r mynach a Remy gilio y tu ôl i len, anfonasant am arglwyddes y castell.
Daeth hithau ymlaen â'i chaplan yn ei dilyn. Gwraig oddeutu deugain oed ydoedd, a fuasai unwaith yn hardd, ond yn awr yn llwyd ei gwedd gan ofidiau a gwasgfeydd. Gwisgai amdani ddillad llaes gwraig weddw gyda'r cwfl a'r gorchudd. Wedi deall bod a fynnai'r neges â'i mab, rhedai'n gynhyrfus, a'i gair cyntaf oedd gofyn pa le yr ydoedd. Pwysodd y canghellor arni i ymdawelu.
"Nid yw'r neb sy'n gofyn am yr enw hwn wedi profi hyd yn hyn ei hawl i'w ddwyn," ebr ef.
"Ha, deued yma," meddai'r arglwyddes de Varennes yn ebrwydd, " 'rwyf fi'n siwr o'i adnabod."
"Pa fodd?" gofynnai'r archesgob.
"Trwy ei holi am ei fabandod," meddai'r fam, "a thrwy ddangos iddo'r castell lle y magwyd ef . . . . neu'n well . . . . na, y mae gen i foddion arall, f'arglwyddi, moddion anffaeledig—gweddi Clotilde Sant."
"Gweddi?"
"A draddodwyd o fam i fam yn ein teulu ni, ac y mae hi fel rhagorfraint y cyntafanedig. Yr oedd fy mab yn dair blwydd oed pan ddysgais hi iddo. Os yw heb ei hanghofio, os medr yn unig adrodd rhai geiriau ohoni, byddai ameu wedyn yn amhosibl; canys y fo a minnau yn unig a'i gŵyr."
A'i llygaid yn chwilio o'i deutu am rywun tebig i fod yn fab iddi, dechreuodd y weddw furmur mewn llais crynedig:
"Clotilde Sant! Ti sydd heb blentyn ym Mharadwys, cymer fy un i dan dy ofal pan na bwyf fi wrth law, yma'n awr, yn rhywle arall, ac ymhobman."
Peidiodd, a gwrandawodd fel pedfai'n disgwyl ateb i'r math hwn o apêl. Yn ebrwydd clywid llais cryf ac ifanc yn myned ymlaen:
"Clotilde Sant! Yr wyf yn rhoddi fy machgen yn fychan i ti i wneuthur dyn ohono, yn wan i ti i roddi cryfder iddo. Cymer oddiarnaf fi dri o'm dyddiau ac ychwanega iddo ef ddeg, cymer fy holl lawenydd i, a dyro iddo ef y can cymaint!"
Cododd yr arglwyddes de Varennes ei llef, estynnodd ei dwylo, a disgynnodd ar ei gliniau.
"Y mae o 'n medru'r weddi!" meddai yn ei dagrau. "Efo ydyw . . . . Fy mab."
"Fy mam," atebai'r llais.
A dyma wthio'r llen o'r neilltu'n ddiseremoni, a Remy yn dod i'r golwg ac yn ei daflu ei hun i freichiau'r weddw.
Ni ellir disgrifio golygfa fel hon. Am ysbaid hir ni cheid dim ond beichio wylo, cyfnewid enwau ac ymgofleidio mewn boddfa o ddagrau. Yr oedd aelodau'r cyngor dan deimlad dwys; gweddïai ac wylai Jeanne; a'r tad Cyrille, yn wallgof o lawenydd, a redai oddeutu'r neuadd dan waeddi:
"Mi wyddwn i o'r goreu; 'roedd y dynghedfen wedi dweyd. Y Tarw yn erlid . . . . Y Forwyn a Mawrth yn swcro. Y Forwyn a Mawrth, dyna Jeanne, Jeanne bur a rhyfelgar, sicut erat Pallas[4]. Ac yn awr, achubed Duw Ffrainc, dyma fi wedi achub fy mugail bach."