Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi/Evans, Daniel, Ffosyffin

Oddi ar Wicidestun
Evans, Daniel, Capel Drindod Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi

gan John Evans, Abermeurig

Evans, David, Aberaeron

PARCH. DANIEL EVANS, FFOSYFFIN.

Ganwyd a magwyd ef mewn lle a elwid Post House, yn nes ychydig i Aberaeron na chapel Ffosyffin, a hyny oddeutu 1826. Yr oedd yn hynod ymysg ei gyfoedion am ei dalentau er yn blentyn, ac ymhyfrydai mewn darllen a phrydyddu. Cafodd gymhelliadau gan amryw i fyned i bregethu, cyn amlygu hyny o hono ei hun. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1849. Yr ydym yn gweled dau dderbyn barddonol iddo yn y Geiniogwerth am 1850. Clywsom ddweyd pan oedd yn dechreu pregethu, fod y Parch. Lewis Edwards, D.D., Bala, yn ei gymell i ddyfod ato ef i'r Athrofa, ac yn addaw y cawsai ei ysgol yno yn rhad; a'i fod wedi gwneyd hyny, ar ol gweled yn y darnau, "Angau y groes," a "Fy nghyfaill gollais," gymaint o'r awen farddonol, a thalent ddisglaer. Bu yn y Bala am rai blynyddoedd, a bu yn cadw ysgol yn ysgoldy Henfynyw am ryw gymaint o amser. Yr oedd gyda'r cyntaf yn y sir hon i brynu Alford's Greek Testament ar ei ddyfodiad cyntaf allan, a gwnaeth ddefnydd helaeth o hono.

Yr oedd yn un o'r pregethwyr goreu a fagodd Sir Aberteifi yn y blynyddoedd diweddaf. Yr oedd ei bregethau yn llawn o fater, wedi eu cyfansoddi yn yr arddull goreu; a thraddodai hwynt yn wresog ac yn rymus. Yr oedd fel dyn yn un o'r cyfeillion mwyaf diddan a ellid gyfarfod, yn llawn humour; a chanddo ystorfa dda o ystorïau chwaethus, y rhai y gwyddai pa le a pha bryd i'w defnyddio. Ac er mor ddifyr ydoedd fel cyfaill, ni wnelai byth ddefnydd yn y pulpud o'i allu digymar i wneyd cwmni yn llawen, Yr oedd yn hanesydd ac yn wleidyddwr da, a medrai dori i'r asgwrn os gwelai ddynion yn gwneyd defnydd annheg ac annoeth o hyny o allu a feddent fel gwladwyr. Yr oedd yn ddyn boneddigaidd iawn; teimlai i'r byw dros y gwan a'r anghenus, a medrai barchu pawb yn ol eu safle, o'r uchelwr mewn gwlad ac eglwys, hyd yr iselaf mewn cyfoeth a thalent.

Yr oedd o faintioli cyffredin, gwallt goleu cyrliog, ac yn eillio ei wyneb bron i gyd. Wyneb agored a beiddgar, ac arwyddion o'r frech wen ar hyd-ddo. Cerddai a'i ben i fyny, ac eto ei gorff heb fod yn hollol unionsyth. Byddai ffon y rhan amlaf yn ei law, a dau neu dri o gyfeillion o'i gylch, a byddent y rhan amlaf yn ymddangos yn ddifyr. Oblegid ei fod yn gyfaill mor hoffus, yr oedd rhai fel hyn, hwyrach, yn myned a gormod o'i amser; byddai hefyd ar amserau yn cael ei flino gan guriad y galon, ac oblegid hyny, ni allai ddyfod allan i fod yn llwyrymataliwr. Dichon i'r pethau a nodwyd fod yn beth atalfa ar ffordd llwyddiant, un a allasai ddyfod yn un o gedyrn ac arweinwyr y Cyfundeb. Yr oedd ei alluoedd cryfion, ei farn addfed ar wahanol faterion, ei allu cyflym i weled gwahanol gyfeiriadau y pwnc dan sylw, a'i allu i ymadroddi yn fedrus a dylanwadol arno, yn ei gymhwyso i le mawr fel gweinidog yn ein plith.

Cyfansoddodd farwnadan rhagorol ar ol y Parch. Evan Jones, Ceinewydd, a Dr. Rogers, Abermeurig, y ddwy yn fuddugol mewn cystadleuaeth, a'r ddwy yn cael eu beirniadu gan y diweddar Ieuan Gwyllt. Dywed y beirniad fel y canlyn am y gyntaf, "Yma y mae y bardd a'r athronydd Cristionogol yn cydgyfarfod i fesur helaeth. Y mae ei ieithwedd yn goeth a chlasurol iawn, a’i feddylddrychau yn ddillyn. Nid oes yma ddim ag y gallwn ei nodi fel gwall ieithyddol, na thebyg iddo; y mae pob gair a llythyren yn ei lle, a phob meddwl yn cael ei osod allan yn eglur a chwaethug." Y mae y feirniadaeth yna yn wir am y farwnad arall, ac am ei folawd alluog i Alban Gwynne, Ysw., Monachty, ar ei ddyfodiad i'w oed; ac hefyd am ei bregethau, a'i anerchiadau. 'Yr oedd yn aiddgar iawn dros y Gymraeg, ac yn ordd a deimlid yn drom ar bob Dic Shon Dafydd fyddai yn plygu yn wasaidd o flaen pob peth Seisnig. Unwaith galwyd arno i ddweyd ei destyn, a rhoddi ychydig o'r bregeth yn Saesneg. Ni ddywedodd na wnelai, ond ni wnaeth. Ar y diwedd, daeth un ato i'w ddwrdio am anufuddhau, gan ddweyd, er gwneyd y cerydd yn llymach, "Gwnawn i gymaint a hyny sydd heb fod mewn un coleg." Atebodd Mr. Evans ef trwy ddweyd, "Un o'ch bath chwi wnelai hyny, yr wyf fi am brodyr wedi dysgu gormod i beidio troi at y Saesneg heb ymbarotoi yn gyntaf."

Yr oedd yn dra hoff hefyd o'i gartref, a'i berthynasau, a'i gyfoedion, fel nad oedd yn hawdd ganddo eu gadael hyd yn nod i fyned i'w gyhoeddiad. Bu amryw o eglwysi yn gwneyd prawf ar ei gael atynt, ond ni lwyddodd neb namyn Waenfawr, Arfon, lle y bu am bum' mlynedd, ac yna daeth yn ei ol. Bu farw Mawrth 21, 1876, yn 49 oed, a chladdwyd ef yn Henfynyw, bron yn ymyl ei gartref. Ordeiniwyd ef yn 1859, yn Nghymdeithasfa fawr y diwygiad yn Llangeitho.

Nodiadau[golygu]