Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi/Evans, John Thomas, Aberaeron

Oddi ar Wicidestun
Evans, Evan, Aberffrwd Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi

gan John Evans, Abermeurig

Evans, Robert, Aberteifi

PARCH. JOHN THOMAS EVANS, ABERAERON.

Mab ydoedd i Cadben Evans, brawd Morgan Evans, Ysw., U.H., Oakford, a'i fam yn ferch Hengeraint, Ffosyffin. Yn ffermdy Hengeraint, gyda theulu ei fam, y dygwyd ef i fyny. Yr oedd ei syched am wybodaeth er yn blentyn yn anniwall. A chan fod ei gymeriad crefyddol yn ddifrycheulyd, ei wybodaeth mor helaeth, a'i chwaeth mor bur, cymhellwyd ef i bregethu gan lawer o'r dynion goreu. Yr oedd ef yn cadw ei feddwl iddo ei hun, ac yn ofni cymaint na allai fod yn anrhydedd i'r gwaith mawr, fel y bu am ryw gymaint o amser heb addaw cydsynio â chais ei frodyr. Bu mewn rhyw ysgol ar hyd ei oes, nes myned i Brifysgol Aberystwyth, ac yna i Edinburgh. Ei iechyd gwanaidd oedd yr unig achos na arhosodd yno nes cael ei M.A. Ar ol gorfod aros gartref, bu yn gwneyd prawf ar Llandysul ac Aberaeron, er gweled pa le oedd oreu i'w gyfansoddiad. Cafodd lawer o'i gymell i fod yn fugail yn ei fam-eglwys, Ffosyffin, ac eglwys Fronwen, Llanarth, ac addawodd yntau am ryw gymaint fod; ond gwelodd na allai ei iechyd ganiatau iddo ymgymeryd â llafur bugeiliol, a rhoddodd i fyny yn anrhydeddus. Yna, prynodd dŷ yn Belle View Terrace, Aberaeron, lle y bu fyw gyda'i chwaer hyd ei farwolaeth yn Medi 18, 1892, yn 32 oed.

Bendithiwyd Mr. Evans â chorff tal, hardd, a golygus i sefyll o flaen cynulleidfa, gwallt hollol ddu, gwyneb lled fawr, ond ei olwg yn welw ac afiach. Ei lygaid yn sefyll hytrach i fewn, ac yn serenu gan sirioldeb dedwydd, pan yn mhresenoldeb cyfeillion. Cerddai hytrach yn gam, a safai felly yn y pulpud. Bendithiwyd ef hefyd â llais cryf, fel y gallai wneyd i lonaid capel mawr ei glywed o'r dechreu: ond yr oedd yn rhy agored i ateb i nerth ei gorff. Ni chodai fawr o'i lais hyd y diwedd, ac nid ydym yn meddwl y gallai nerth ei gorff oddef hyny. Bendithiwyd ef hefyd â chyfoeth oedd yn feddiant personol iddo. Bu hyny yn fantais fawr iddo i gyraedd dysgeidiaeth, ac i allu rhoddi i fyny i sefyllfa wanaidd ei iechyd. Bellach, dywedwn ychydig am ei brif nodweddion.

Yr oedd yn ddarllenwr mawr. Os sonir am ddarllen, dyma ddarllenwr! Defnyddiai lawer o'i gyfoeth at brynu llyfrau, y nwyddau yr oedd ef yn llawer mwy hoff o honynt nag arian, ac yr oedd yn hoff o arian am eu bod yn help iddo i gael llyfrau. Yr oedd y llyfrgell oedd ganddo yn synu dau ddosbarth o ddynion. Yr oedd ei maint yn synu y rhai anwybodus, gan y gwyddent fod llyfrau yn gofyn arian i'w prynu ac amser i'w darllen. A synai y dosbarth gwybodus at ansawdd y llyfrgell, gan ei bod yn gymaint o faint. Yr oedd un peth yn nodweddu ei lyfrgell yn fwy na'r rhan fwyaf o bregethwyr, sef y detholiad rhagorol o lyfrau Cymraeg oedd ynddi. Rhoddodd ei lyfrgel i gyd i Athrofa Trefecca, a dywedir ei bod yn anrhydedd i'r lle. Bydd hyn i'r oesoedd dyfodol yn profi ei chwaeth dda mewn gwybodaeth fel pregethwr. Bydd hefyd yn myned ymhell i brofi ei fod yn Fethodist da. Dylid dweyd hyn am ei fod yn Annibynwr o du ei dad, a chydnabyddai ei berthynasau hyn bob amser am dano. Mae yn profi hefyd ei awydd angerddol i lesoli y weinidogaeth a'r wlad trwy gyfrwng llyfrau da. Nid yn unig bydd ef trwy hyn yn llefaru eto, ond bydd ei leferydd yn dal yn ddylanwad parhaus, a gwneyd ei goffadwriaeth yntau yn anfarwol. Aeth y brawd ieuanc hwn yn anfarwol yn nghanol marwolion, a braidd na ddywedwn y gallai yn hawdd fyned i orphwys o ran ei gorff afiach, gan iddo wneyd yr hyn a wnaeth.

Yr oedd yn bregethwr rhagorol. Yr oedd yn hynod o alluog i weled prif feddwl adnod, ac i bregethu ar hwnw, gan adael heibio bob peth arall. Yr oedd ei bregethau yn orphenedig, ac amcanai ynddynt at galonau a chydwybodau y gwrandawyr. Yr oedd ynddo ddefnyddiau llenor da. Ysgrifenodd lawer i'r newyddiaduron, a dywedai wrthym ei fod yn bwriadu ysgrifenu llawer i'r cyhoeddiadau misol wedi i'w feddwl ddyfod dipyn yn addfetach. Yr oedd yn feirniad o'r fath oreu ar lyfrau Cymraeg a Saesneg, a mynai hwynt ar eu dyfodiad allan. Yr oedd ganddo farn dda am bregethwyr a'u pregethau; ond yr oedd lledneisrwydd ei natur, a'i deimlad Cristionogol da yn ei gadw yn foneddwr trwyadl wrth wneyd nodiadau. Nid oedd yn siaradwr mewn cwmni, ond wedi dyfod i fyd y llyfrau a'r pregethu, yr oedd yn hawdd deall ei fod yntau bellach yn siaradwr.

Hynododd ei hun fel gwleidyddwr goleuedig. Bu amryw droion yn areithio ar boliticiaeth Ryddfrydig, a phan yn gwneyd, dangosai ei fod yn deall prif bynciau y dydd, a bob amser yr oedd yn dylanwadu yn dda ar y gwrandawyr. Pe buasai ei iechyd yn caniatau, nid ydym yn meddwl y buasai fawr yn ol o fod mor amlwg gyda'r achos Rhyddfrydig a'i ewythr, Morgan Evans, U.H., Oakford. Ond gostyngwyd ei nerth ar y ffordd, byrhaodd ei ddyddiau. Cafwyd siomedigaeth fawr yn Nghyfarfod Misol Dehau Aberteifi, yn marwolaeth y gŵr ieuanc gobeithiol hwn. Heblaw ei fod yn bregethwr da yr oedd yn dechreu cymeryd dyddordeb neillduol yn mhrif symudiadau yr enwad, yn y Cyfarfod Misol, ac yn y Cymdeithasfaoedd, a siarad yn gyhoeddus arnynt. Yr oedd mor amlwg gyda hyn, fel yr oedd yn dechreu cael ei weled a'i deimlo; a buasai yn sicr o fod yn allu yn ein plith ymhob ystyr, pe cawsai fywyd ac iechyd. Claddwyd ef yn mynwent Henfynyw, ger Aberaeron.

Nodiadau[golygu]