Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi/Evans, Thomas, Aberarth

Oddi ar Wicidestun
Evans, Robert, Aberteifi Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi

gan John Evans, Abermeurig

Gray, Thomas, Abermeurig

PARCH. THOMAS EVANS, ABERARTH.

Brodor ydoedd o'r lle uchod, ac ni fu byw allan o hono fawr trwy ei oes, ond hyny fu yn ardal Abermeurig, a lleoedd eraill, pan yn dysgu ac yn gweithio wrth ei grefft fel gwehydd, a hyny fu yn Aberaeron gyda'i ferch ychydig cyn marw. Gelwid ef Thomas Evans, Pendre, a Thomas Evans, Plas. Mab ydoedd i Thomas ac Ellinor Evans, Pendre. Cafodd beth addysg gyda Dr. Phillips, Neuaddlwyd, a bu yn cadw ysgol yn y capel yn Aberarth. Bu yn y weinidogaeth am oddeutu 56 mlynedd. Ordeiniwyd ef yn Aberteifi yn y flwyddyn 1847, pan oedd Dr. Charles, Trefecca, yn areithio ar Natur Eglwys, a'r Hybarch John Thomas, Aberteifi, yn rhoddi y Cyngor. Bu farw Mai 30, 1884, yn 80 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llanddewi. Gellir dweyd ei fod yn sefyll ar ei ben ei hun mewn amryw bethau. Yr oedd ei ofal am yr eglwys a'r achos gartref yn eithriadol o fanwl. Byddai ymhob cyfarfod, ac yno yn frenin. Gwyddai mor fanwl a'r teuluoedd eu hunain am yr holl forwyr o'r lle; a'i waith wedi dyfod adref o'i gyhoeddiadau fyddai myned oddiamgylch i wneyd ymholiad am y cyfryw, am y cleifion, ac am gyfnewidiadau diweddar a newyddion y lle, yn grefyddol a gwladol. Pan fyddai Cyfarfod Misol yn y lle, yr oedd yn rhaid galw yn yr holl dai, lle yr oedd rhai yn lletya, i'w cyfarch hwy a'r teuluoedd, cyn myned i orphwys. Ni fyddai fawr o amser cyn myned trwy yr holl bentref. Yr oedd ef yn y daith bob Sabbath cymundeb drwy y flwyddyn, oddieithr fod rhyw reswm neillduol iddo fod fel arall. Yr oedd felly cyn iddo gael ei wneyd yn fugail yn 1872, ac felly yn cyflawni yn y blynyddoedd gynt yr hyn a ofynir gan eglwysi a bugeiliaid yn y dyddiau diweddaf hyn. Felly yr oedd yn Rhyddfrydwr a diwygiwr mawr, a hyny o flaen ei oes, er fod llawer yn ei gyfrif ar y pryd yn ormod ato ei hun, ac yn rhy aml yn ei gartref.

Gwir ofalai am bobpeth a ymddiriedid iddo. Bu yn oruchwyliwr y ddwy Drysorfa trwy yr holl sir am flynyddoedd lawer, ac y mae yr hanesion am dano fel y cyfryw yn profi nad allai fod ei ail mewn manylder, er nad oedd fawr o ysgolhaig, fel y dywedir. Ni thorodd gyhoeddiad erioed, ond wedi iddo gael ei daraw â'r parlys a marw. Ni fu fawr yn glaf yn ystod ei oes. Dyn gweddol dal, cryf, a llydan o gorff, ac o ymddangosiad boneddigaidd. Cadwai gyfrif o'i dderbyniadau a'i dreuliadau yn y teulu ac allan o hono, a byddai bob amser yn ddedwydd wrth weled y naill beth ar gyfer y llall, pa un bynag a'i prin a'i helaeth fyddai y moddion. Daeth felly yn ei flynyddoedd olaf yn gryf ei amgylchiadau, fel yr oedd yn barod i roddi 20p. neu 50p. at Drysorfa y Gweinidogion, pe cawsai eraill y gwyddai oedd a gallu ganddynt, i gyfranu yn ol eu gallu, ond cafodd ei siomi. Yr oedd yn deyrngarol a haelionus at bob achos da; ond teimlai i'r byw os gwelai arwyddion o gulni a difaterwch.

Yr hyn a'i gwahaniaethai yn fwyaf oddiwrth bawb eraill, oedd ei gôf anarferol o gryf, trwy yr hwn y gwyddai enwau rhieni a phlant trwy yr holl wlad, wedi eu clywed unwaith. Gan fod ei sylw mor graff, gwyddai i ba bersonau yr oedd pob côr ymhob capel yn perthyn, a byddai pawb yn gwneyd eu goreu i fod yn bresenol ar ei Sabbath ef, gan y byddai yn holi am danynt os yn absenol. oedd elfenau cyfeillgarwch yn helaeth ynddo, fel y mynai ysgwyd dwylaw â phawb a allai, a'u cyfarch wrth eu henwau, gan ofyn hefyd am y plant ac eraill agos atynt, ac i gyd wrth eu henwau; ac felly ymhob capel trwy y sir a'r siroedd lle yr oedd wedi bod o'r blaen. "Pwy," gofynai yn Trisant, "oedd y bachgen oedd yn y gornel y fan a'r fan;" wedi deall, gwelwyd mai yr ysgolfeistr oedd wedi dyfod i'r ardal yn ddiweddar ydoedd. Yna dywedodd yntau ei achau, a'i fod yn perthyn i Mr. Evans, yr Aber. "Pwy oedd y ddau fachgen oedd gyda——?" Wedi cael gwybod, aeth i olrhain achau pob un, a dywedodd enwau y ddau lanc hefyd. Darganfyddwyd un drwgweithredwr unwaith trwyddo. "O!" gan ddweyd ei enw, pa bryd y daethoch o'r treadmill?" Er cymaint a wadodd y dyn, wrth ymholi, cafwyd allan mai Mr. Evans oedd yn iawn, a gwnaeth y dyn y goreu o'i draed. Yr oedd yn galw yn fynych ar ei deithiau, yn y tai oedd ar ei ffordd, gan holi am bob un wrth eu henwau, ac hefyd am amgylchiadau perthynol iddynt oedd llawer o honynt hwy wedi eu hanghofio. Felly yr oedd yn anwylddyn ac yn oracl y wlad.

Safai yn syth yn y pulpud, heb symud fawr o'r pen na'r corff; ond troai ei lygaid fel yn ddiarwy bod. Siaradai â'r gynulleidfa fel ar yr aelwyd, a da hyny, gan nad oedd ganddo lais i waeddi. Yr oedd ei bregethau o'r fath fwyaf ymarferol. Nid ydym yn meddwl iddo drafferthu fawr yn ei oes at ddyfod yn dduwinydd da, nac at fod yn siaradwr coeth; ond yr oedd bob amser yn dangos ei fod yn adnabod y wlad, ac yn amcanu at ei gwella. Yr oedd yn areithiwr dirwest rhagorol, ac yn wrthwynebydd cadarn i'r ysmocio. Ni byddai yn ymyraeth fawr â threfniadau y Cyfarfod Misol, ond dywedai ei farn yn onest arnynt. Beth bynag, yr oedd ganddo ei waith, a'i ffordd o'i wneyd, ac nid oedd neb yn debyg iddo, ac nid oes ei debyg wedi ymddangos ar ei ol.

Dywediadau," Ceisiwch ddoethineb, fel y mae dynion yn ceisio arian, fel y mae y claf yn ceisio meddyginiaeth, ac fel y mae y condemniedig yn ceisio am ei fywyd. Cilia oddiwrth ddrwg (drwgfeddyliau, drwg-weithredoedd, drwg-ymddiddanion, drwg-gwmpeini), fel cilio oddiwrth ddrwg-weithredwr, fel cilio oddiwrth elyn, fel cilio oddiwrth angau, oddiwrth seirff, oddiwrth fwystfilod rheibus, oddiwrth dân, oddiwrth heintiau niweidiol; ac fel y mae y llongwyr yn cilio oddiwrth greigiau a morladron. Gwlad well, gwell na Chaldea, Canaan, nac Eden. Helaethach gwybodaeth, gwell pethau i'w mwynhau, a helaethach mwynhad; gwell na'r gweddnewidiad na'r mil blynyddau, ac i barhau byth. Mae y saint yn ei chwenych am mai dyma wlad eu genedigaeth; gwlad eu trysorau penaf; gwlad y teulu, Duw Dad, Crist eu brawd, a'r holl frodyr. Cânt yno esboniad ar yr holl lythyrau tywyll maent yn dderbyn yma, a'r holl groes-ragluniaethau. Pa ryfedd fod y gwyliwr yn disgwyl y boreu, y milwr yn disgwyl i'r frwydr ddarfod, a'r llongwr y porthladd?"

Nodiadau[golygu]