Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi/James, Morgan David, Rhiwbwys

Oddi ar Wicidestun
James, John, Graig Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi

gan John Evans, Abermeurig

Jones, Edward, Aberystwyth

PARCH. MORGAN DAVID JONES James[1], RHIWBWYS.

Mab ydoedd i David James, fu yn flaenor yn Bronant. Yr oedd yn awyddus iawn am addysg a gwybodaeth er yn ieuanc, ac fel y cyfryw, aeth i Ysgol Normalaidd, Aberhonddu, prifathraw yr hon oedd Dr. Evan Davies, yr hwn a symudodd wedi hyny i Abertawe. Wedi hyny, aeth i gadw ysgol yn Whitland, Sir Gaerfyrddin. Gan nad oedd achos Methodistaidd yn y lle y pryd hwnw, ymaelododd gyda'r Annibynwyr, yn Henllan; a dywedai trwy ei oes am y gweinidog rhagorol oedd yno ar y pryd, sef y Parch. J. Lewis. Gwelodd y gweinidog fod yn y dyn ieuanc ddefnyddiau i wneyd pregethwr, ac anogodd ef yn daer i ddechreu, ac felly y bu. Er mwyn ymbarotoi i fyned i'r Coleg, aeth i Ysgol Ramadegol oedd ar y pryd yn Solfach, Sir Benfro. Tra yno, anmharodd ei iechyd yn fawr, a theimlodd oddiwrtho trwy ei oes, yn enwedig trwy y dolur oedd yn ei wddf, yn ei rwystro i lyncu ei ymborth, ond gydag anhawsdra. Wedi dyfod adref i Bronant, oblegid ei waeledd, a chael llawer o adferiad, torwyd ato gan y Parch. Thomas Evan, Aberarth, i'w gymell i ddyfod yn ol at y Methodistiaid, a hyny fu y moddion cyntaf i'w ddwyn yn ol.

Bu am rai blynyddau yn cadw ysgol yn Aberaeron, ac wedi ymbriodi à Miss Evans, Shop, Llanon, aeth i Rhiwbwys, lle y bu yn cadw y fasnach ymlaen am y gweddill o'i oes, yn agos i'r Ffrwd i ddechreu, ac wedi hyny yn y ty newydd a gododd, yr hwn a elwir London House, lle y mae ei weddw yn awr. Yr oedd ei ddawn ymadrodd yn uwchraddol, ei iaith yn hedegog a choeth, a dywedai mewn haner awr fwy na llawer mewn awr. Yr oedd o feddwl athronyddol, ac yn ymresymwr cadarn. Cafodd ysbryd newydd a chorff newydd, mewn cymhariaeth i'r peth oedd, yn niwygiad 1859. Daeth allan gyda nerth anorchfygol i gymeryd y wlad trwy Dde a Gogledd, a chwympwyd llawer o gedyrn trwyddo. Gwnaeth ei bregeth ar y geiriau, "Rhoddaf eu ffordd eu hun ar eu penau,' daflu cynulleidfaoedd mawrion i'r annhrefn mwyaf, os annhrefn hefyd, yn yr olwg ar berygl yr annuwiol dan bwysau eu ffordd, ac yn yr awydd a'r gwaeddi am waredigaeth. Gwnaeth ei bregethau ar yr adnodau canlynol les i lawer,—" Canys yr ydys yn ein rhoddi ni y rhai ydym yn fyw, yn wastad i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni. Profwch chwychwi eich hunain, holwch eich hunain, a ydych yn y ffydd; ai nid ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bod Crist ynoch, oddieithr i chwi fod yn anghymeradwy." Yr oedd llawer o athroniaeth yn dyfod i'r golwg yn y pregethau y cyfeiriwyd atynt, ond yn fwy wrth bregethu ar y geiriau,—"Anrhydedd Duw yw dirgelu peth."

Mynai rhai ei fod y pregethwr mwyaf, ar rai cyfrifon, o bawb yn y sir, a mynent ei roddi yn y lleoedd mwyaf amlwg i bregethu, a diameu yr enillasai le llawer uwch nag a wnaeth, pe buasai ganddo gorff yn ateb i'w feddwl, pe buasai yn ymryddhau yn fwy oddiwrth fasnach, ac yn myned yn amlach i gyfarfodydd ei sir. Bu yn hir yn glaf, a bu farw Mai 16, 1870. Claddwyd ef yn mynwent capel Rhiwbwys, ar ol pregethu am fwy nag 20 mlynedd. Cafodd ei ordeinio yn Llangeitho, yn 1859. Mab iddo yw y Parch. T. E. James, gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Rhosycaerau, Sir Benfro, yr hwn a aeth at yr enwad hwnw, fel ei dad, a hyny pan yn cadw ysgol mewn pentref lle nad oedd Methodistiaid. Yr oedd Mr. James yn ddyn cyffredin o daldra, cnwd o wallt du ar ei ben, nes iddo lasu, wyneb gwelw, teneu, ac ol y frech wen arno. Llygaid llym a threiddgar, a chorff ysgafn a theneu. Mae traethawd o'i eiddo, yr hwn a ysgrifenodd pan yn cadw ysgol yn Solfach, ar gael. Dyfynwn frawddeg, neu ragor, gan ei fod yn dangos y dyn bron trwy ei oes. "Y meddwl dynol," yw y testyn,—"Pe gollyngem ein llygaid hydreiddiawl i fanwl graffu ar ryfeddodau y bydysawd creadigol, ni chanfyddem yr un ysmotyn, o fewn cylch eang ein cyrhaeddiadau, lle yr amlygir ol bysedd y Jehofah i'r un perffeithrwydd diymwad a'r meddwl dynol. Hwn ydyw addurn a gogoniant creadigaeth Duw.'" "Oni allwn gasglu y bydd ei gynydd yn dragwyddol fel ei fodolaeth, ac y bydd ei alluoodd i deimlo yn ei gysylltiad â gwynfyd ac â gwae yn hollol gyfartal i'w fawredd naturiol a byth-gynyddol."

Nodiadau[golygu]

  1. Drwy amryfusedd y cysodydd, rhoddwyd yr enw yn Morgan David Jones ar tudal 75, yn lle Morgan David James