Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi/Rees, John, Tregaron

Oddi ar Wicidestun
Rees, Evan, Llanon Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi

gan John Evans, Abermeurig

Rees, Joseph, Rhydfendigaid

PARCH. JOHN REES, TREGARON.

Pan oedd Mr. Evan Jones, Ceinewydd, sydd yn awr gyda'i frawd, yn genhadwr yn Llydaw, yn cadw ysgol yn Tregaron, aeth at Mr. Rees pan yn ei gystudd, ac ysgrifenodd o'i enau, brif ffeithiau hanes ei fywyd, y rhai a anfonwyd ganddo i'r Drysorfa am 1871. Ganwyd ef ar ddydd Nadolig, yn y flwyddyn 1794, mewn tŷ bychan ar dir Llysfaen uchaf, plwyf Llanwenog. Mab ydoedd i Rhys Thomas Rhys, hetiwr wrth ei alwedigaeth, o Jane ei wraig. Symudodd y teulu i blwyf Cellan, lle y bu farw y tad, pan oedd Mr. Rees oddeutu 8 oed. Ar ol hyn, symudodd y fam a'r plant i le o'r enw Cwmbach, ar dir Trial Mawr, plwyf Llanarth, ardal enedigol y fam. Oddiyma aeth i Dihewid, i'r ysgol at un Samuel Davies. Aeth wedi hyny i fugeilia, i Llechwedd-deri-uchaf, i Hafodyrwyn, a Ffynonrhys, a'r olaf pan oedd oddeutu 12 oed. "Yr oedd fy mam," meddai, "yn arfer fy rhybuddio i gadw y Sabbath, i beidio dywedyd anwiredd, a gofalu dweyd fy mhader, ac effeithiai ei rhybuddion yn ddwys arnaf." Wedi gweled fod ei fam yn myned i ail briodi, teimlai ei fod yn myned yn ddigartref; a phan yn dyfod yn ol wedi ymweled â hi, "aethum," meddai, "i gyfamod â'r Arglwydd ar y mynydd wrth ddychwelyd, fel y byddwn byw iddo ef o hynny allan, ac nid anghofiais y cyfamod hwnw byth."

Arminiaid fu ef yn arfer wrando, hyd nes y daeth i Blaencefn fach, yn was penaf, pan oedd oddeutu 18 oed, oddiyno yr oedd yn myned i Lanarth i wrando y Methodistiaid. "Y pregethwyr fyddwn yn arfer wrando yno oedd Sion Dafydd, David Evans, Aberaeron; Ebenezer Morris, Ebenezer Richards, a Dafydd Siencyn, Cwm Tydu. Un boreu Sabbath, aethum i odfa i Llanarth, pan yr oedd seiat ar ol. Rhwystrwyd fi i fyned allan gan wraig y ty capel, yr hon a wyddai fod arnaf awydd aros yn ol er's tro, ond fy mod yn rhy wylaidd i dori trwodd. Byddwn yr adeg hono yn gweddio llawer noswaith trwy y nos, yn ymyl fy ngwely, ac yn derbyn pethau annhraethadwy. Teimlwn fy mod yn hapus iawn mewn canlyniad." Oblegid yr addysg gafodd yn ieuanc, nid oedd ganddo feddwl mawr am Iesu Grist, yr hyn fu yn boen mawr iddo. "Yr oedd fy mywyd yn hynod o anghysurus y pryd hwnw; oblegid os tywynai rhyw lewyrch yn yr odfa y Sabbath, deuai y meddwl isel am Iesu Grist wed'yn fel saeth anorchfygol. Cefais lawer o oleuni am natur gwir grefydd, gan Joseph, Llwynderw, crefyddwr rhagorol, a gwnaeth hyny lawer o les i mi. Aethum i wasanaethu ar ol hyny at Thomas, Ty'nyporth, Ffosyffin, lle y lletyai y pregethwyr. Byddwn yn arfer myned gyda blaenoriaid y capel hwn i gyfarfodydd gweddiau ar brydnhawn Sabbothau, mor bell weithiau, a Mydroilyn. Yr oeddwn yn rhwym o weddio ar eu cais, a dweyd gair yn y seiat pan fyddent yn ceisio; a dywedent wrthyf, er mwyn fy nghefnogi, fod y pethau a ddywedwn yn werthfawr iawn, ac anogent fi i fyned ymlaen mewn llafur.

"Bum yn aros yn Ty'nporth am ddwy flynedd, a phan yma, y dechreuais bregethu, yn 24 oed. Pregethais gyntaf mewn tŷ ar dir Penrhiwdrych, yr hwn sydd wedi ei dynu i lawr, a hyny yn mis Mehefin, 1818. Wedi ymadael o Ty'nporth, dysgais grefft crydd, gyda Evan Shon Gruffydd, Penrhiwdrych. Yr oedd yn rhaid i bregethwyr yr amser hwnw ddysgu rhyw grefft. Pan yn gweithio gydag un Siencyn Llwyd, aethum i'r ysgol at Dr. Phillips, Neuaddlwyd, Byddwn yn gweithio un bythefnos, ac yn myned i'r ysgol y bythefnos arall. Edrychid yn ddiystyrllyd arnaf am fyned i'r ysgol, oblegid eu bod yn tybio fy mod yn myned yno i ddysgu pregethu, fel dysgu crefft. Bum fel hyn am yn agos i dair blynedd, nes y dysgais ddigon o Greek a Latin i ymuno a class yn Cheshunt College. Ysgrifenodd Mr. Richards, Tregaron, at y Prifathraw, sef Dr. Kemp am dderbyniad i mi, yr hyn yn garedig a ganiataodd am ½ blynedd. Ond wedi rhoddi yr achos o flaen y Cyfarfod Misol yn Mawrth, gwrthododd Ebenezer Morris, a Williams, Lledrod, i mi gael myned, yr hyn a fu yn siomedigaeth fawr i mi. Dywedodd Mr. Morris, 'Mae John Rees wedi cael digon o ysgol, heblaw myn'd i'r coleg i ddysgu tynu ei het a bowio.' Cynygiodd Dr. Phillips i mi gael myned i'r coleg a fynwn, ond nis gallwn ymadael â'r Methodistiaid. Gofynwyd i mi a fynwn fy nghyfarwyddo ganddynt hwy ynghylch pa beth i'w wneyd eto er fy nghynhaliaeth; wedi ateb yn gadarnhaol, cynghorwyd fi i gadw ysgol. Dywedodd Mr. Richards, 'Da iawn cael dynion tyner i gadw ysgol, ac nid butcheriaid; un tyner fydd John Rees.'. I Nebo yr aethum i gadw ysgol. Y pryd hwnw yr oedd cyfraith wedi ei gwneyd i bwyllgor o flaenoriaid a phregethwyr i arholi pob pregethwyr ieuainc am eu gwybodaeth yn benaf; a byddai y cwestiynau rhyngddynt mor ddyrus ac anhawdd, fel yr oedd yn anmhosibl bron eu hateb. Trowyd Thomas Williams, Llangeitho, yn ol oblegid nad oedd yn ddigon gwybodus; ac aeth Edward Jones, Ffosyffin, at yr Annibynwyr rhag eu hofn. Yr oeddwn yn lletya gyda John Davies, Talglas, hen flaenor y Penant, a byddwn yn myfyrio a gweddio nos a dydd rhag i mi gael fy nhroi yn ol yn Nghyfarfod y Penant. Ond pan ddaeth, dywedodd Mr. Richards fy mod i yn rhydd o'r arholiad, gan fy mod yn pregethu cyn gwneyd y ddeddf. Felly ni chefais fy holi ond yn y Cyffes Ffydd yn unig, ac yr oedd hwnw wedi ei ddysgu genyf yn ol cyfarwyddyd Thomas Jenkins, Penuwch. Wedi i Mr. Williams fy holi, dywedodd, 'Y fath werth i ni gael pregethwyr i bregethu fydd yn deall yr athrawiaeth fel y mae ef yma.'

"Wedi rhoddi yr ysgol i fyny yn Nebo, aethum at John Evans i Aberystwyth i ddysgu mathematics a navigation. Cynorthwywyd fi i dalu am fy ysgol gan bobl Aberystwyth, a chefais goron hefyd o focs y tlodion. Yna, aethum i gadw ysgol i Blaenplwyf; ar ol hyny, i ddysgu morwyr i Aberarth. Ar ol marw Ebenezer Morris, cynghorwyd fi i fyned i Twrgwyn i gadw ysgol, a chynorthwyo gyda'r achos." Bu ef yn Aberarth chwe' blynedd, a saith yn Twrgwyn. Yna symudodd at ei nai, Mr. John Lewis (Ioan Mynwy), i siop Rhydyronen, Tregaron, i'w gynorthwyo gyda'r fasnach, ac yno y bu hyd ei farwolaeth. Wedi i Mr. Richards farw yn 1837, dewiswyd Mr. Rees yn Ysgrifenydd y Cyfarfod Misol yn ei le, a bu yn y swydd am oddeutu 20 mlynedd, a chafodd dysteb o 20p. ar derfyn ei wasanaeth. Teithiodd lawer gyda Mr. Morris, Twrgwyn, a Mr. Richards, Tregaron, ac yr oeddynt yn ei gyfrif yn gyfaill o'r fath anwylaf; yfodd yntau yn helaeth o'u hysbryd, a difyr oedd ei glywed mewn Cyfarfod Misol, a lleoedd eraill, yn coffhau eu dywediadau. Yr oedd yn ysgrifenu bob amser yn seiat y Cyfarfod Misol, ac wrth wrando pregethau. Yr oedd yn bregethwr hollol ar ei ben ei hun' llais gwan, benywaidd, ond hynod o dreiddgar. Gwelai feddwl ei destyn, a safai arno, gan drin y gwahanol faterion yn. oleu a meistrolgar; ond yr oedd yn rhaid iddo gael dwyn i fewn wahanol ddywediadau o eiddo y tadau, ac amryw o hanesion, a chymhariaethau, fel yr oedd llawer yn barod i feddwl fod ei bregethau yn cael eu gwneyd i fyny o'r cyfryw, ac nad oedd dim dyfnder yn perthyn iddynt. Yr oedd bron bob amser yn sicr o sylw a theimlad y gwrandawyr. Pregethodd rai gweithiau mewn Cymanfaoedd nes synu a gwefreiddio y tyrfaoedd.

Un o daldra cyffredin ydoedd, corff tenau, gwyneb gwelw a thenau yn ateb iddo, ac wedi colli ei wallt ar ei ben pan yr adnabyddasom ef gyntaf. Bu oddeutu blwyddyn yn glaf, a bu farw Gorph. 17, 1869, yn 76 oed, wedi pregethu am dros 50 mlynedd. Cyfrifid ef yn dduwiol iawn, ac ymhell tuhwnt i'r cyffredin am ei ffyddlondeb gyda gwaith ei Arglwydd.

Dywediad o'i eiddo—" Crynhoi ynghyd yng Nghrist. Yr oedd holl ŷd yr Aifft y'ch ch'i i gael ei grynhoi dan law Joseph, felly y'ch ch'i mae yr holl dduwiolion i gael eu crynhoi ynghyd yng Nghrist. O, syndod ! y cwbl mewn UN. Gwasgaru y byd wnaeth Adda, ond y mae yr ail Adda yn crynhoi YNGHYD. A neges yr efengyl at y byd yw crynhoi YNGHYD." Yr oedd yn rhoddi pwyslais birfaith ar y gair "ynghyd."

Nodiadau[golygu]