Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi/Rhagymadrodd
← Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi | Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi gan John Evans, Abermeurig |
Cynwysiad → |
RHAGYMADRODD.
AR ddymuniad Cyfarfod Misol Dehau Aberteifi, a chymhelliad taer amryw o gyfeillion o'r Cyfarfod Misol Gogleddol, yr wyf wedi ymgymeryd â pharotoi y llyfr hwn i'r wasg. Rhoddais achau, dyddiadau, lleoedd preswylfeydd, &c., y personau sydd ynddo, mor fanwl ag yr oedd yn bosibl i mi, ond ni foddlonais ar hyny yn unig am gymaint ag un o honynt. Peth annifyr genyf yw edrych ar skeleton dyn yn annibynol ar ddim arall, a chymerais yn ganiataol mai teimlad cyffelyb fyddai gan y darllenwyr; felly, gwnaethum fy ngoreu i roddi y dyn i gyd, gorff ac enaid yn yr hanes.
Am y rhai y mae Cofiantau iddynt wedi eu hysgrifenu, nid oeddwn yn gweled angen ymhelaethu llawer am danynt, pa mor enwog bynag oeddynt yn eu dydd, gan nad oedd ein gofod ond cyfyng. Ymdrechais, hefyd, i gofnodi rhyw bethau am y cyfryw nad oedd yn eu bywgraffiadau. Fy amcan yn yr oll:—1. Oedd rhoddi golwg glir ar y gweinidogion, hyd yn nod i'r rhai na ddarfu iddynt eu gweled na'u clywed. 2. Dweyd y cwbl mewn mor lleied o le ag oedd yn bosibl; a gallaf sicrhau mai gwaith caled i mi oedd bod yn gynwysfawr wrth orfod bod yn fyr. 3. Dweyd rhywbeth am bob un y byddai meddwl y darllenwyr yn cael blas ac adeiladaeth wrth ei ddarllen.
Wrth edrych dros yr ysgrifau, rhoddais rai pethau i fewn, a thynais lawer allan. Yr wyf yn gwybod, pe byddwn yn myned drostynt eilwaith ac eilwaith y gwelwn lawer o ddiffygion, fel y mae yr arfer wrth adgyweirio pob peth. Am hyny, dymunaf ar bawb—1. Roddi barn cariad ar y llyfr wrth ei feirniadu. 2. Rhoddi lles personol yn amcan blaenaf wrth fyned i'w ddarllen. 3. Roddi o'u blaen amcan mawr y llyfr, sef cyflawni dyledswydd arbenig eglwys Dduw i gadw coffadwriaeth am y rhai fu yn y swyddau uchaf yn ei gwasanaeth. "Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw ; ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt."
Fel rheswm dros beidio rhoddi neb i fewn ond pregethwyr ordeiniedig, rhaid ei ranu fel y canlyn:—1. Yr oedd ein penderfyniad i'r llyfr beidio bod dros swllt o bris mewn amlen, a deunaw mewn llian, a gwnaethum hyn wedi ymgynghori â llu mawr. 2. Yr oedd y rhai ordeiniedig yn ddigon eu hunain i lyfr felly, heb ddweyd llawer am yr un o honynt. 3. Os myned i ddechreu ar bregethwyr, yr oedd y cwestiwn yn dyfod, pa le i ddechreu, a pha le i derfynu, gan fod un neu ddau yn perthyn bron i bob capel, a chynifer a phump neu chwech yn perthyn i rai? 4. Yr wyf yn meddwl y bydd yn well gan y bobl yn gyffredin gael llyfr ar y rhai hyny eto rywbryd. Mae eu hanes genyf wrth law; dim ond ei drefnu sydd eisiau, gan fod y llafur o gasglu y defnyddiau wedi myned trwyddo er's rhai blynyddoedd. Caiff y neb a fyno y defnyddiau hyny genyf ar amod fechan, gan fy mod wedi blino yn y gwaith.
I Dduw pob gras y byddo y gogoniant am godi a donio y rhai y cofnodir eu henwau yma, gan ddymuno ei fendith eto i bregethwyr a ddarlleno yr hanes, ac i bawb eraill.
Ydwyf, yr eiddoch yn gywir,
JOHN EVANS.
- Abermeurig,
- Chwef. 22, 1894.