Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price/Bywyd Athrofaol Y Dr

Oddi ar Wicidestun
Ei Ymadawiad i Lundain Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price

gan Benjamin Evans (Telynfab)

Dechreuad Ei Weinidogaeth

PENNOD IV.

BYWYD ATHROFAOL Y DR.

Price mewn cylch newydd Cyfnod pwysig-Myned i'r coleg-Dysgu-Barn Spinther am addysg—Gibbon—Syr Walter Scott—Hunan-ymroad-Ennill parch fel myfyriwr-Ei fywyd athrofaol, gan Dr. Roberts-Ei gydfyfyrwyr-Barddoniaeth-Ei draethodau colegawl-Manylrwydd ei lafur-Y pynciau fyfyriodd-Meddwl parod-Ei boblogrwydd fel pregethwr-Ei gyd-fyfyrwyr yn ddynion o nod ac enw.

BELLACH yr ydym yn cael Price mewn cylch newydd, ac yn dechreu ar gyfnod pwysig iawn yn hanes ei fywyd. Er ei fod wedi troi fel y nodasom yn mhlith pobl efrydol yn llyfrgelloedd y Brif Ddinas, nid oedd y cylchoedd y bu ynddynt o'r blaen, fe ddichon, mor newydd a dyeithr iol iddo â'r bywyd colegawl; ac er ei fod fel gwenynen wedi ymroddi yn ddiwyd i gasglu ychydig wybodaeth tra y caniatäai manteision ac amgylchiadau iddo; etto, yn yr ystyr hwn, dyma'r cyfnod pwysicaf yn ei hanes, oblegyd credwn fod cyfnod addysg mewn ysgol neu athrofa o ganlyniad tra phwysig i fywyd dyfodol, ac yn gyffredin yn rhoi cyfeiriad priodol iddo a symbyliad i feddylgarwch, arsylwad, a phrofiad, yn ystod gyrfa y cyfryw fywyd. Gellir yn briodol ddweyd mai "Y plentyn yw tad y dyn," ac addysg sydd yn ffurfio y plentyn. Felly yn gywir y gellir dweyd fod dylanwad nerthol gan y wybodaeth a gasgla a'r hyfforddiant a dderbynia yr efrydydd ieuanc yn ystod ei yrfa golegawl, oblegyd yn gyffredin yr hyn ydyw yn, ac yn gadael yr athrofa a ellir dysgwyl ei gael drwy ei holl fywyd.

Fel y sylwyd yn flaenorol, nid oedd Price pan yn myned i'r coleg wedi cael ond ychydig addysg, am fod ei fanteision i hyny yn brin, ac nid oes genym hanes ei fod wedi cael, fel y mwynheir yn aml y blynyddau hyn gan ein hymgeiswyr i'r colegau, ysgol ragbarotoawl, ac nid oedd wedi cael neb yn neillduol i'w roddi, fel y dywedir, ar ben y ffordd; ond chwiliodd am dani drwy ymroad egniol i ddiwyllio ei feddwl ei hunan, a chafodd dderbyniad croesawus i un o hen sefydliadau addysgol mwyaf buddiol ac anrhydeddus y Bedyddwyr, nid yn unig yn y Dywysogaeth, ond hefyd yn y deyrnas.

Aeth Price i'r Athrofa fel y dylai pob dyn ieuanc fyned—I DDYSGU. Er na fu tymhor ei arosiad yn faith ynddi, gadawodd y ddysgyblaeth gafodd tra yno ei hol arno am ei oes. Dywed Spinther mai "dysgu meddwl a deall" yw amcan uchaf dysgyblaeth feddyliol, ac os na chyrhaeddir hyn, nid yw wahaniaeth pa faint o amser gaiff yr efrydydd ieuanc yn yr athrofa, neu beth fyddo safle yr athrofa y byddo ynddi. Nid yw yr athrofa yn gwneyd nemawr mwy i neb nâ'i ddysgu i drin yr arfau, fel y gellir etto ymladd y frwydr. Amser ydyw i osod y sylfaen i lawr fel y gellir etto adeiladu. Ymdrech bersonol drwy gydol oes sydd yn dysgyblu'r galluoedd ac yn cyfoethogi'r meddwl. Heb hyny, nid yw yr hyfforddiad gaiff y dyn yn ei ieuenctid, bydded hir neu fyr, ddim amgen golch aur ar efydd. Mae gan bob dyn, meddai Gibbon, "ddwy ddysgeidiaeth—un a dderbynia oddiwrth ereill ac un fwy pwysig a rydd iddo ei hun." "Y rhan oraf o ddysgeidiaeth pob dyn," meddai Syr Walter Scott, "yw yr hon a rydd iddo ei hun." Nid yw y ddysgeidiaeth a dderbynir yn yr ysgolion gwahanol ond dechreuad, ac y mae yn werthfawr yn benaf am ei bod yn hyfforddi y meddwl ac yn ei arferyd i ymroad ac astudiaeth barhaus. Y mae y wybodaeth gasgla y dyn drwy lafur caled ac hunan—ymroad yn eiddo mwy gwirioneddol iddo nà dim a roddir ynddo gan ereill. Mae hon yn tynu allan ei alluoedd goraf ac yn magu ynddo nerth anorchfygol. Yr oedd wybodaeth werthfawr hon wedi dyfod yn etifeddiaeth foreuol i Price, ac ychwanegai gufydd at gufydd, maes at faes, yn gysson nes yr oedd wedi myned yn gyffredinol a llydan. Ond ei osodiad ar ben yr iawn ffordd yn yr athrofa a wnaeth iddo allu cerdded mor nerthol, a gorchfygu anhawsderau mor fawrion yn ystod ei fywyd defnyddiol a gwir werthfawr. Ni chamdreuliodd ei amser fel efrydydd. Defnyddiodd ef i bwrpas. Ymosododd yn egniol i gasglu gwybodaeth. Gwnaeth gynnydd canmoladwy yn ei efrydiaeth, a gosododd i lawr sylfeini cedyrn ar gyfer llafur personol yn y dyfodol. Ennillodd iddo ei hun air da gan ei athrawon dysgedig a'i gydfyfyrwyr parchus fel gwr ieuanc caredig, ymroddgar, a chrefyddol. Profir hyn i raddau gan y ffaith groniclir yn Mynegiad y Llywydd am Orphenaf y 30ain, 1845, i'r perwyl fod Mri. N. Thomas, Thos. Price, a Thos. Evans, wedi appelio am estyniad o'u hamser yn y coleg ac i'r pwyllgor, ar gymmeradwyaeth yr athrawon o'u hymddygiadau, galluoedd, a'u cyrhaeddiadau, ganiatau y ffafr o flwyddyn arall iddynt yn y ty, gan y credent yn drwyadl y troent allan yn weinidogion neillduol gymhwys o'r Testament Newydd. Ac ni siomwyd hwynt yn un o honynt.

Ysgrifena ei hen gydfyfyriwr talentog, yr enwog Barch. John W. Todd, D.D., Sydenham, yn ddyddorol ychydig o hanes bywyd colegawl Price. Dyma fel y dywed yn y Saesneg:— "Ffurfiwyd fy adnabyddiaeth foreuaf â Dr. Price yn y flwyddyn 1842 neu 1843, pan y dechreuodd ar ei fyfyrdodau yn Ngholeg Pontypwl. Yn flaenorol i'w ddyfodiad i'r athrofa yr oedd wedi enwogi ei hun fel gweithiwr egniol yn Eglwys Eldon Street, Llundain, ac fel dyn ieuanc o yspryd cyhoeddus, yr oedd wedi ennill sylw drwy wrthwynebu amddiffynwyr Cydfrodoriaeth (Socialism), heb ofni ymosod ar eu harweinydd, yr enwog Owen, yr hwn a yrodd i ddyryswch drwy roddi iddo gyfres o ofyniadau pwysig. Yr oedd yr argraff a wnaeth ar ei gydfyfyrwyr, ychydig o'r cyfryw sydd yn aros hyd heddyw, yn dra ffafriol; ac edrychem arno fel dyn o addewid ddiamheuol, yn llawn o egnion diflino, ac wedi ei fwriadu i safle uchel, nid yn unig fel gweinidog, ond hefyd fel arweinydd mewn bywyd cyhoeddus. Yn herwydd fod y coleg yn dra llawn yn ystod ein harosiad yno, rhoddodd ein hanwyl athraw, Dr. Thomas, yr hwn yn llythyrenol a addolem, un o'i ystafelloedd yn ei dy ei hun at ein gwasanaeth, ac am resymau gwybyddus iddo ei hun yn unig, dewisodd Dr. Price a minau ei defnyddio. Dygodd hyn ni yn naturiol i berthynas agosach nâ'r cyffredin, ac achosodd ffurfiad cyfeillgarwch rhyngom sydd wedi aros yn ddidor am dros ddeugain mlynedd. Yn naturiol, yn y rhan fwyaf o'n harferion a'n chwaeth yr oeddem yn dra gwahanol; ond yr oedd yn rhaid fod elfenau yn cynnyrchu rhyw debygrwydd rhyngom a'n tynai i gydymdeimlad cymdeithasol â'n gilydd, y rhai gobeithiaf ydynt wedi eu hadnewyddu yn y cylch dibechod hwnw sydd yn ddatguddiedig yn unig i'n ffydd."

Dywed Dr. Roberts, Pontypridd, fel hyn am Dr. Price yn yr athrofa:—

"Adeg bwysig a phryderus yn hanes gweinidog yw amser ei fynediad i'r athrofa. Mae yr amgylchiad hwn yn fy hanes mor fyw yn fy nghof a phe doe y cymmerodd le, er fod mwy na phum' mlynedd a deugain wedi myned heibio er hyny. Yn hwyr dydd gauafol yn gynnar yn mis Ionawr, 1844, cyrhaeddais Bontypwl yn nghwmni Mr. Lot Lee; ac yn naturiol, aethom yn gyntaf oll i dy fy hen gyfaill caredig, y diweddar Hybarch Edward Evans, diweddar o Ddowlais, yr hwn oedd y pryd hwnw yn weinidog y Tabernacl, Pontypwl, ac yn byw uwchlaw yr Athrofa ar Benygarn. Yno cwrddasom â Mr. Thomas Evans, o'r Hafod Boeth, Pandy'rcapel, yr hwn oedd ar y pryd yn fyfyriwr, ac a fu farw yno ryw flwyddyn a hanner ar ol hyny, o'r typhus fever, ac a gladdwyd wrth hen gapel Penygarn. Yr oedd efe yn gyfaill calon i Dr. Price, ac yn yr un dosparth ag ef. Aeth Mr. Lee a minau gyda Mr. T. Evans dan grynu i'r Athrofa yn lled hwyr y nos hono: a bu peth ymryson pa un o honom oedd y myfyriwr hynaf—y senior. Ond cafwyd mai Mr. Lee gamodd gyntaf dros drothwy y colegdy, ac felly rhoddwyd y flaenoriaeth gyntaf iddo ef. Ar ol myned i mewn, eisteddasom yn yr ystafell giniawa, a'n calonau yn curo yn gyflymach nag arferol, a gadawodd y brawd T. Evans i ofalu am ryw orchwylion oedd ganddo. Pwy ddaeth i fewn gyntaf ond Mr. Evan Meredydd (Ieuan Grug), yn ymddangos yn frysiog, a golwg wyllt ac annybynol arno. Cyfarchodd ni, mae'n wir; ond yr oedd ei gyfarchiad yn oer, ei ymddangosiad yn annybynol, a'r drem a daflodd arnom yn dangos ei fod ar delerau da ag ef ei hun, ac yn lled ddisylw, os nad diystyrllyd, o ereill. Yr oedd yr olwg arno a thuedd i beru braw, tra y safai a'i gefn at y tân, ei ddwylaw o'r tu ol iddo, ei wallt trwchus wedi ei droi fel dau gorn hwrdd uwchlaw ei glustiau, heb sylwi dim arnom, gan mor llwyr yr ymddangosai wedi ei lyncu gan ryw fyfyrdodau a allasent fod yn ymwthio yn ei feddwl. Rhyw argraff anffafriol gafodd ei ymddangosiad ar fy meddwl, ac ni lwyddodd adnabyddiaeth pellach i symmud yr argraff a gododd o'i bresenoldeb y pryd hwnw ar fy meddwl. Yn nesaf ar ei ol ef daeth Mr. Evan Thomas, wedi hyny y Parch Evan Thomas, Casnewydd, Sir Fynwy i fewn, a lled fyr a sych oedd ei gyfarchiad yntau; ond yr oedd rhywbeth yn ei gyfarchiad a'i wynebpryd siriol ef yn peru i mi farnu yn well am dano nag am ei flaenorydd. Pa fodd y bu ar ol hyny y nos hono, nid yw fy nghof yn rhyw frysiog iawn, gan fod pryder ac ofn wedi fy meddiannu i'r fath raddau fel nas gallwn braidd feddwl am dani na thalu nemawr o sylw i neb.

"Yn ffodus neu anffodus i ni fel dau ddyfodiad newydd, daethom y nos hono neu yn gynnar dranoeth i gyffyrddiad ag un Mr. D. Davies, un o Landyssul os wyf yn cofio yn dda, yr hwn, am ryw drosedd neu gilydd ar rai o ddeddfau y ty, oedd wedi ei osod o'r neilldu mewn dystawrwydd ac unigedd gan ei gydfyfyrwyr, heb neb yn meiddio siarad gair ag ef; ac efe oedd yr unig un a ddangosodd serch neillduol tuag atom, a hyny, fel y cawsom ar ddeall wedi hyny, er mwyn cael rhywun i gymdeithasu gydag ef, oblegyd hyd hyny nid oedd Mr. Lee a minau dan y ddeddf, eithr dan ras. Ryw nos Lun yn lled fuan daeth y dirgelwch i'r golwg; cynnaliwyd brawdlys ar y cyhuddedig; dyfarnwyd fod yr hyn oedd efe wedi ei ddyoddef yn ddigon o gosp am y trosedd; derbyniwyd ef yn ol i'r frawdoliaeth efrydol; ac ni chawsom ni, y dyfodiaid newydd, nemawr mwy o'i sylw. Yn y prawf hwn cymmerodd y brawd T. P. Price (Thomas Protheroe Price), oblegyd felly y gelwid ef y pryd hwnw, ran flaenllaw, ond nid wyf yn cofio pa ochr. O'r amser hwnw allan daeth Dr. Price yn wrthddrych neillduol fy sylw ar gyfrif ei ffraethineb, ei arabedd, ei wroldeb, ei symmudiadau gwenolaidd, ei garedigrwydd gwresog, ei fywiogrwydd rhyfedd, a'i feddwl amryddonol (versatile). Ar gyfrif y nodwedd olaf a ganfum yn ei gymmeriad, fy marn am dano yw, y gallasai enwogi ei hun mewn llawer maes heblaw yn y weinidogaeth. Gallasai wneuthur ystadegydd a chofrestrydd enwog, dadleuydd neu gyfreithiwr o fri, neu hanesydd neu wladweinydd o bwys a defnyddioldeb; ond y weinidogaeth Efengylaidd a ddewisodd efe, ac nid oes angen am dystiolaethau pa mor fawr yr enwogodd ei hun yn y maes hwn; y mae ei hanes a'r gwaith mawr a gyflawnodd yn Nghwm Aberdar, a'r enwogrwydd a ennillodd drwy Gymru benbaladr, a gwledydd ereill hefyd, yn brawfion digonol o hyny.

"Yr oedd un peth yn ei nodweddu yn arbenig, sef ei graffder meddyliol, a'r cyflymder gyda'r hwn y deallai unrhyw fater a ddygid ger ei fron, a chywirdeb y farn a ffurfiai am dano. Yr oedd y craffder hwn ynddo yn dwyn delw (intuition) y rhyw deg, y rhai, lawer o honynt, a welant drwy achos ar unwaith, heb drafferthu i fesur a phwyso, ac a ffurfiant farn gywirach yn fynych nag a wna y rhyw arall ar ol troi y peth yn eu meddwl am amser. Ni chymmerai Dr. Price ond ychydig funydau, ac yn aml ond ychydig eiliadau, i ffurfio barn ar achos dyrus, ac fynychaf, mewn naw achos o ddeg, yr oedd ei farn yn gywir Arweiniai y cyflymder hwn ef, er hyny, weithiau i wrthuni. Cof genyf am ddyfodiad y gair Saesneg telegram i arferiad cyffredin yn hanes rhyfel y Crimea. Yr oedd amryw o weinidogion Morganwg yn ei gwmni, ac un o honynt yn darllen hanes y rhyfel yn un o'r newyddiaduron, yn yr hwn yr arferid y gair crybwylledig. Gan fod ystyr y gair yn anadnabyddus, gofynodd rhywun beth oedd ei feddwl. Atebai Dr. Price, gyda'i barodrwydd arferol, mai newydd neu hyspysiad ydoedd yn cael ei drosglwyddo trwy arwyddion gweledig mewn manau cyhoeddus rhwng yr anfonydd a'r derbynydd, tebyg i'r pellebyr arddwyddonol (Semaphore Telegraph) oedd flynyddau yn ol ar Bengogarth ger Llandudno, a manau ereill ar arfordir Gogledd Cymru rhwng Caergybi a L'erpwl. Awgrymodd rhywun yn y cwmni fod ffurf y gair telegram (pellysgrif) yn arwyddo y genadwri ei hunan (telegraphic message), yn hytrach na'r modd y trosglwyddid hi; ond mynai y brawd yn ei frwdfrydedd arferol, mai efe oedd yn iawn, a bu pawb ereill yn ddystaw rhag bod cynhwrf yn eu plith. Yn ol yr hen ddiareb, "Y neb sydd heb ei fai sydd heb ei eni " Bai penaf y brawd anwyl Price oedd ei gyndynrwydd i lynu yn ei olygiadau wedi iddo unwaith roddi mynegiad iddynt. Glynai ynddynt fel y gele, pa mor gryfion bynag fyddai y rhesymau a ddygid yn eu herbyn. Cafwyd amryw brawfion o hyny yn nghynnadleddau Cymmanfa Morganwg, yr hyn fyddai yn achlysur weithiau i ddwyn brodyr gledd yn nghledd ag ef.

"Er hyny, yr oedd yn gwbl ddiddrwg a diddichell. Ni ch'ai dialgarwch le i ymnythu yn ei enaid, na dim adgof o'r frwydr i aros ar ei feddwl; maddeuai i'r ymosodwr cyn i'r haul fachlud, a hyny hyd y nod pan y gwnaethid cam ag ef. Gwyr yr ysgrifenydd yn dda am y nodwedd hon ynddo. Mor bell ag yr wyf yn cofio, gydag ef y cefais y ffrae gyntaf yn ystod fy ngyrfa athrofaol, a ffrae nwydwyllt oedd hi. Yr oedd ef yn lled ffyrnig, ac yn arfer geiriau miniog; a minau, yn ol fy nhymheredd boeth arferol y pryd hwnw, wedi gwylltio yn eithafol, ac yn mhoethder y frwydr wedi gwneuthur ymosodiad creulon arno, a defnyddio enwau arno, gan ei alw yn ieithwedd y Gogledd yn hen glep gerryg, yn mhlith enwau ereill. Ond mor fuan ag yr aeth yr ymrafael drosodd, ymddengys i bob rhith o adgof o honi ddiflanu o'i fynwes. Daethom yn nes at ein gilydd, a ffynodd cyfeillgarwch agosach rhyngom nag o'r blaen tra y buom gyda'n gilydd yn yr athrofa. Daeth yr un peth i'r golwg yn ein hanes yn fuan ar ol i mi sefydlu yn Mhontypridd. Mewn cynnadledd lle yr ymddangosai arwyddion o bleidgarwch, gwneuthum ymosodiad lled finiog ar y brodyr a ymddangosent i mi yn bleidgar, ac yn enwedig ar Dr. Price, cadeirydd y gymmanfa y flwyddyn hono. Nid oes angen am fyned i'r manylion, ond mor bell ag y dangosant y nodwedd a grybwyllwyd yn nghymmeriad Dr. Price. Yr wyf yn cofio, fel pe buasai wedi cymmeryd lle ddoe, fod ofn ar fy enaid gwrdd â Dr. Price wrtho ei hunan ar ol y gynnadledd, rhag y buasai yn cyfeirio cyflegrau tanllyd ei lid ar ei ymosodwr crynedig. Cwrddais ag ef yn fuan ar yr heol; ond yn lle gwg, gwen oedd ar ei wyneb serchog ac agored. Estynodd ei law i mi, yr hon a ddangosai yn ei hysgydwad cynhes fod ei holl galon ynddi.

Peth arall a nodais ynddo yn dra boreu yn yr athrofa, oedd ei sel a'i ffyddlondeb o blaid gwirioneddau athrawiaethol Cristionogaeth. Daeth dyn ieuanc i Bontypwl, yr hwn a broffesai ei hun yn anffyddiwr, os nad yn atheist, a thynai amryw i'w wrando ar betryal marchnad y dref i wrando arno yn gwawdio yr Ysgrythyrau, ac yn diystyru yr Iawn ac athrawiaethau Efengylaidd ereill. Methodd brwdfrydedd Cristionogol Dr. Price a dal yr ymosodiad; rhoddodd her i'r ymosodwr, a bu gornest frwd rhyngddynt am amser lled hir un hwyrddydd haf. Beth bynag am ddoethineb y mudiad, profodd Dr. Price ei fod yn meddu ar nodweddion angenrheidiol dadleuydd llwyddiannus; ac nid hir y bu y gwr dyeithr cyn gadael y dref, heb ddychwelyd yno mwy tra y bum I yn yr athrofa; pa fodd y bu hi ar ol hyny nis gwn. Tueddai Dr. Price i fod yn Galfin lled uchel, fel y dengys ei awydd pender. fynol i gadw y braslun o gyffes ffydd a ymddengys o flwyddyn i flwyddyn ar ddechreu Cylchlythyr Cymmanfa Morganwg. Am a wn I, credai am "brynedigaeth neillduol;" nad oedd a fyno Aberth y Groes â neb ond â'r etholedigion. Er hyny, pregethai Efengyl mor llydan â'r byd oll; ac yr oedd ei appeliadau a'i gymhellion at y gwrandawyr mor uniongyrchol a thaer â neb o honom. Gall hyn ymddangos i rai o honom yn annghyssonadwy; ond yr oedd efe yn hyn yn debyg i bregethwr mawr a llwyddiannus y Brif Ddinas, Mr. Spurgeon.

"Daeth y nodwedd Galfinaidd ynddo i'r golwg pan oedd yn yr athrofa. Rai blynyddoedd yn gynnarach nâ hyny, ymgyfathrachodd brodyr enwog yn y weinidogaeth yn Siroedd Mynwy a Morganwg, mhlith y rhai yr oedd y pregethwr enwog a meddylgar, y diweddar Barch. James Richards, Pontypridd. Nid oedd un amcan amheus gan y brodyr hyn, ond cododd eu hunoliaeth o debygrwydd meddwl a chwaeth; ond cynnyrchodd yr undeb amheuaeth yn meddyliau brodyr da ereill fod yma amcan i'w diystyru hwy; ac o dipyn i beth aeth yr amheuaeth hon yn deimlad byw, a bu yn achos o ymryson mawr. Achosodd bellder teimlad rhwng brodyr da, a gelwid y dosparth cyntaf yn "Wyr y Clwb," a rhengid ereill yn mhlith eu gwrthwynebwyr. Edrychid ar y cyntaf fel Fulleriaid anuniongred, os nad yn rhyw bethau gwaeth nâ hyny; ac edrychai eu pleidwyr ar y dosparth arall fel rhai yn dal yr hen athrawiaeth iachus. Yr oedd dylanwad yr ymraniad hwn wedi gweithio ei hun i blith y myfyrwyr cyn i mi fyned i'r athrofa, a'r myfyrwyr, amryw o honynt, yn Glubmen, ereill yn Anti-Clubmen, ac ereill heb ogwyddo y naill ffordd na'r llall. Dr. Price oedd y prif ddyn yn mhlith yr ail ddosparth crybwylledig; a mawr oedd y sêl a ddangosai wrth wrthwynebu Gwyr y Clwb" ac amddiffyn eu gwrthwynebwyr. Gan fod yr ychydig fyfyrwyr o'r Gogledd oeddynt yn yr athrofa ar y pryd yn perthyn i'r dosparth cyntaf, i hwnw y bwriais i fy nghoelbren mor bell ag y cymmerais ran o gwbl yn yr ymryson. Er mor fach ac anaml ei thrigolion yw Cymru, erys rhyw glannishness rhyfedd i ffynu yn ein plith er cywilydd a cholled i ni. Yr wyf yn credu y byddai yn fanteisiol i ni, fel cenedl, pe byddai modd i ni annghofio fod Dehau a Gogledd yn bodoli. Mae gormod o duedd ynom i farnu nad oes dim daioni ond yn ein rhanbarth ein hunain. Y mae peth daioni yn y byd oll, a'r Bettws hefyd; a chredu yr wyf fod daionusrwydd a diffygion y Dehau a'r Gogledd rywbeth yn gyfartal.

"Mor bell ag yr wyf yn cofio ar hyn o bryd, dyma y prif bethau a nodweddent fywyd Dr. Price; ond dylwn ychwanegu ei fod yn fyfyriwr diwyd ac ymroddgar, yn myned trwy ei waith mewn modd derbyniol gan yr athrawon, yn gwneyd defnydd priodol o'i amser heb ofera dim o hono, yn achos o lawer o ddyfyrwch i'w gyd-fyfyrwyr, yn gymdeithaswr rhagorol a derbyniol yn derbyn ceisiadau parhaus am ei wasanaeth ar y Sabbothau, ac yn cadw y drws yn agored i fyned eilwaith i'r manau yr elai. O'r diwedd, cyn terfyn ei yrfa athrofaol, derbyniodd alwad gynhes o Aberdar; ac felly, pan ddaeth yr amser iddo adael yr athrofa, yr oedd y drws yn agored i'w dderbyn yno. Yr oedd y lle hwn yn ei daro i'r dim, ac yntau yn taro y lle fel yr allwedd i'r clo. Aethum i'r cwrdd ordeinio yn Aberdar, yr hwn a gynnelid yr wythnos ar ol y Nadolig, 1845 Yn y cwrdd hwnw y cefais y fraint o glywed y diweddar bregethwr enwog, y Parch. James Richards, Pontypridd, am y waith gyntaf erioed. Er mai y gwaith arferol sych o ddysgu dyledswyddau yr eglwys at ei gweinidog oedd ganddo braidd na chodai gwrid yn fy ngwyneb o herwydd fy mod erioed wedi cynnyg ar y gwaith o bregethu, gan mor swynol, medrus, gafaelgar, galluog, a dyddorol yr oedd yn pregethu. Ychydig feddyliais y pryd hwnw y buaswn byth yn olynydd iddo yn Mhontypridd.

"Nid oedd Aberdar yn ddim y pryd hwnw o'i chymharu â'r hyn ydyw yn awr. Yr adeg hono yr oeddynt yn gwneyd y gledrffordd o'r Bason i Aberdar: ac wrth y gwaith yn gwneyd pont goed i gario y gledrffordd dros ryw nant gerllaw lle y saif marchnadfa Aberdar, y cwrddais y waith gyntaf, i'w adnabod â'r Parch. W. Lewis, cyn-weinidog yr eglwys yr oedd Dr. Price ar gael ei ordeinio yn fugail arni. Nid oedd nemawr o dai y pryd hwnw rhwng y bont grybwylledig hyd at y capel yn yr hwn y cynnelid y cwrdd ordeinio; a rhyw hen adeilad annhrefnus a llwydaidd, hynafol yr olwg arno oedd y capel. Ond cafwyd y right man in the right place yn Dr. Price. Yr oedd y lle i gynnyddu, a chymmerodd hyny le yn fuan; ac yr oedd angen am ddyn o'i dalent a'i egni ef i ddeffroi a thynu sylw, magu a meithrin, arwain a chyfarwyddo, y dyfodiaid oedd yn dyfod i'r lle; a gwnaeth hyny er anrhydedd iddo ei hun, lles yr ardal, a chynnydd crefydd.

"Wedi nodi rhai pethau yn ei hanes athrofaol am y ddwy flynedd y bum yn gydfyfyriwr ag ef, a'i arwain fel hyn i Aberdar, yr wyf yn gadael y gwaith o ddarlunio ei lafur yno i rai a ŵyr yn well am dano nâ mi, oblegyd collais I olwg arno i fesur pell o amser ei sefydliad yn niwedd 1845 hyd ddechreu 1859, pan y symmudais i Bontypridd. Cefais ynddo o hyny hyd yn awr yr hyn a ddysgwyliais gael oddiwrth fy adnabyddiaeth o hono yn yr athrofa, sef gweithiwr difefl, cyfaill gwresog, cynghorwr doeth, a chynnadleddwr medrus."

Fel y crybwyllasom yn barod, yr oedd yn y coleg yr adeg y derbyniwyd Thomas Price iddo un-ar-ugain o fyfyrwyr; mhlith y cyfryw yr oedd Mr. John Evans, yn awr yn cyfreithiwr yn Aberhonddu, yr hwn hefyd a fedyddiwyd yr un adeg â Price, fel y nodasom o'r blaen; Dr. B. Evans, Castellnedd; W. Hughes, Glanymor, Llanelli; W. Price, America; James H. Evans, Aberhonddu; John Jones; John W. Todd, D.D., Sydenham; Evan Thomas, Casnewydd; Nathaniel Thomas, Caerdydd; Dr. J. R. Morgan (Lleurwg), Llanelli; Rees Davies, Penyfai; Dr. Edward Roberts, Pontypridd; T. Lewis, Risca; Daniel Morgan, Blaenafon, &c. Cyfododd bron yr oll o honynt i enwogrwydd a bri mawr, a gwnaethant wasanaeth annhraethadwy i achos y Gwaredwr. Mewn pryddest goffadwriaethol naturiol a phrydferth ar ol ei hen gyfaill a'i gydfyfyriwr hoff, Thomas Price, cana yr enwog a'r athrylithgar fardd-bregethwr, Ddr. Morgan (Lleurwg), fel y canlyn am ei dymhor colegawl:—

"Chwech a deugain o flynyddau
'Nol fe welid mewn pur hedd
Un-ar-ugain o wyr ieuainc
Iach eu bron a llon eu gwedd
Yn Athrofa y Bedyddwyr,
Pontypwl, yn parotoi
I'r weinidogaeth Efengylaidd,
A phob un yn llwyr ymroi.

"Thomas Price oedd un o honynt,
Nid y lleiaf yn eu mysg
Am ddysgleirdeb ei dalentau,
Ac am ddawn i dderbyn dysg;
A chyn gadael yr athrofa,
Daeth yn enwog drwy y wlad
Fel cymmeriad difrycheulyd,
Ac fel Efengylydd mad.

"Llawer tro a welsom yma
Rai'n dod fewn yn iach a llon,
Rhai yn brudd yn gorfod 'madael
A saeth angeu dan eu bron;

Ond yr un-ar-ugain gawsant
Dreulio i ben eu tymhor gwiw,
A myn'd allan i'w gorsafoedd
I was'naethu dyn a Duw."

Yr oedd Dr. Price yn nodedig am ei fanylrwydd a'i drefnusrwydd gyda'i holl waith yn ystod ei fywyd, fel y cawn ddangos etto yn helaethach wrth fyned yn mlaen. Yr oedd, ni a gredwn, wedi mabwysiadu cynlluniau effeithiol, ac wedi arfer ei hun i hyn yn nechreuad ei fywyd cyhoeddus. Llafuriodd yn galed mewn darllen, myfyrio, a phregethu cyn myned i'r athrofa, bu yn ddiwyd iawn tra yno, a pharhaodd yn ei efrydiaethau a'i lafur yn egniol a diflino hyd ei fedd. Wrth edrych dros ei lyfrau, y rhai a gynnwysant ei draethodau a'i ysgrifau efrydol tra yn y coleg, dwy gyfrol o'r cyfryw a ddynodir gan y Dr. enwog ar yr amlen, The College Essays, a ymddiriedwyd i ni gan ei hoffus ferch, Miss Emily Price, cawn olwg led gyflawn arno, yr hon a'n galluoga i ffurfio barn deg am dano fel myfyriwr yn ei drefnusrwydd, ei fanylrwydd, a'i ymlyniad diysgog wrth y pynciau yr ymdriniai â hwynt.

Dywedai arlunydd enwog unwaith wrth wneyd nodiad am ei fanylrwydd a'i ofal neillduol gydag un o'i ddarluniau, "I paint for eternity." Rhywbeth yn debyg, gallwn feddwl, y teimlai Thomas Price gyda'i lafur fel efrydydd yn Ngholeg Pontypwl. Yr oedd yn fanwl, trefnus, a dyhyspyddol gyda'i waith, yn neillduol pan yn ysgrifenu ei draethodau ar brif bynciau duwinyddiaeth. Llafuriai fel pe y teimlai ei fod yn gwneyd gwaith am fywyd, ac fod cyssylltiad rhwng y gwaith am fywyd hwnw â thragwyddoldeb, ac felly yr oedd. Cynnwysa y cyfrolau a nodwn ysgrifau cyflawn ar "Y Sectau Iuddewaidd," "Y Samariaid," "Y Cyfammod Newydd," "Y Messiah," "Cristionogaeth yn ei gwahanol arweddion," " Yr Ymgnawdoliad,” Adgyfodiad y Meirw," "Cyfiawnhad," "Dylanwad yr Yspryd Glân," "Eglwys Dduw: ei hanes a'i swyddogaethau," "Yr Ysgrythyrau Sanctaidd," "Y Gwyrthiau," yn nghyd â llawer o bynciau buddiol a phwysig ereill. Gwir fod y pynciau hyn yn brif feusydd llafur yr efrydwyr yn yr athrofeydd gwahanol, ac yn hanfodol i fyfyrwyr Cristionogol ydynt yn ymbarotoi i waith pwysig y weinidogaeth Efengylaidd; etto, nid yn aml y gwelir olion cymmaint o lafur gonest ac egnion diflino ag a welir yn ysgrifau yr efrydydd ieuanc, Thomas Price. Hefyd, gallwn gredu ei fod yn gosod pris uchel arnynt, gan ei fod wedi eu cadw yn ei feddiant mor ofalus am dros ddeugain mlynedd.

Hefyd, meddai Price feddwl cyflym a pharod iawn. Nid oedd efrydu yn orchwyl anhawdd iddo. Gallai ddadrys llawer o'r dyrysbynciau mwyaf gyda rhwyddineb mawr. Gosodai ei gydfyfyrwyr ef ar brawf yn fynych gyda'u gwersi yn y coleg. Clywsom un o honynt yn adrodd fod Lleurwg unwaith, er ei osod ar brawf, a chael, fel y meddyliai, ychydig ddyfyrwch, wedi ysgrifenu gofyniad caled iddo, a'i yru drwy ddwylaw y myfyrwyr o un i un yn y dosparth hyd y cyrhaeddodd Price. Edrychodd arno, ymaflodd yn ei ysgrifell, ac ysgrifenodd atebiad cyflawn a boddhaol iddo, fel pe buasai wedi myfyrio y mater yn drylwyr am amser maith. Yr oedd y gallu rhagorol hwn yn fanteisiol iawn iddo yn y coleg, a phrofodd felly iddo drwy ei oes.

Yn ystod ei dymhor athrofaol ennillodd Thomas Price serch diffuant ac ymddiriedaeth drylwyr ei gydfyfyrwyr. Perchid ef yn fawr gan ei athrawon dysgedig, ac edrychent arno fel un fuasai yn debyg o droi allan yn addurn a chlod i'r athrofa, gan y credent fod ynddo alluoedd neillduol i wneyd gwaith mawr, a'i fod yn llawn o elfenau gwir boblogrwydd. Cafodd yr athrawon parchus a'r myfyrwyr brofion buan wedi ymsefydliad Price yn y weinidogaeth mai nid un cyffredin ydoedd. Yr oedd hefyd yn ystod ei fywyd athrofaol wedi codi i sylw yr eglwysi fel bachgen da ac efrydydd teilwng. Edrychent arno fel pregethwr bywiog a phoblogaidd. Caffai wahoddiadau mynych i bregethu mewn eglwysi pwysig, ac i ba le bynag yr elai yr oedd ei yspryd caredig, ei deimladau da, a'i sirioldeb naturiol, nid yn unig yn sicrhau iddo barch amserol, ond hefyd yn ennill iddo gyfeillion mynwesol a pharhaus. Cadwai ei olwg ar y dyfodol drwy y presenol. Nichymmerai fantais ychwaith ar ei gydfyfyrwyr na neb arall yn herwydd ei fod yn ffafrddyn gan yr eglwysi, ac yn ennill poblogrwydd. Yr oedd gormod o'r gwir ddyn ynddo i ymchwyddo ac ymgolli mewn hunanoldeb. Yr oedd Price yn Sais da iawn yn myned i fewn i'r coleg. Pregethai Saesneg gyda rhwyddineb mawr. Rhagorai yn hyn ar ei gydfyfyrwyr yn gyffredin. Diau fod llawer gan londer ei yspryd a'i serchawgrwydd i wneyd â'i boblogrwydd yn ystod ei yrfa golegawl, oblegyd yr oedd y rhan luosocaf o'i gydfyfyrwyr yn nodedig am eu gallu a'u dawn i bregethu. Graddiodd pump o honynt yn Ddoctoriaid, a llanwasant yr urddeb yn anrhydeddus. Nid ydym yn gwybod am un cyfnod yn hanes colegau y Cyfundeb Bedyddiedig yn y Dywysogaeth pan y bu gyda'u gilydd gynnifer o ddynion ieuainc yn yr un coleg wedi codi mor uchel fel pregethwyr a gweinidogion y Gair, wedi llanw cylchoedd pwysig yn anrhydeddus yn eu cyfenwad, ac hefyd wedi gwneyd gwasanaeth anmhrisiadwy mewn gwahanol gylchoedd i'w gwlad a'u cenedl. Ni raid i ni er profi hyn ond nodi enwau yr Efengylydd sylweddol, y Parch. W. Hughes, Glanymor, Llanelli; y diweddar anwyl Hybarch Ddr. Benjamin Evans, Castellnedd, yr hwn fu am gynnifer o flynyddoedd yn ysgrifenydd manwl a gofalus Cymmanfa y Bedyddwyr yn Morganwg, ac hefyd a ysgydwodd drwy ei hyawdledd a'i ddoniau Gymru yn ei bregethau; y Cristion dysglaer a'r pregethwr poblogaidd, y diweddar Barch. Nathaniel Thomas, Caerdydd; y diweddar alluog Barch. Daniel Morgan, Blaenafon; yr enwog Ddr. Todd; yr hynafiaethydd medrus, y Parch. Thomas Lewis, gynt o Risca, ac awdwr Esponiad y Teulu; y llenor aeddfed a'r ysgrifenwr enwog, y Parch. Ddr. Roberts, Pontypridd; yr hyawdl fardd-bregethwr, yr Hybarch Ddr. Morgan (Lleurwg), Llanelli; a thywysog pregethwyr Cymru, yr enwog Hybarch Evan Thomas, Casnewydd; ac ereill o gyffelyb ddefnyddioldeb ac enwogrwydd a ellid eu nodi. Bu y rhai hyn oll yn gewri o bregethwyr, ac y mae y rhai sydd yn aros o honynt felly etto, ond safai yr enwog Ddr. Price yn fawr yn y coleg ac yn mhob lle arall yn mhlith y mawrion hyn: yr oedd fel tywysog yn mhlith y tywysogion. Cadwodd y safle hwn, yn neillduol fel gweithiwr diwyd ac mewn defnyddioldeb cyffredinol, hyd ei fedd.

Nodiadau[golygu]