Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price/Dechreuad Bywyd Crefyddol Y Dr

Oddi ar Wicidestun
Hanes Boreuol Dr Price Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price

gan Benjamin Evans (Telynfab)

Ei Ymadawiad i Lundain

PENNOD II.

DECHREUAD EI FYWYD CREFYDDOL.

Heb dueddiad crefyddol hyd ei brentisiaeth—Ysgol y Methodistiaid—Gwahoddiad i weled bedydd—Y Parch. B. Williams—Argraffiadau cyntaf ar feddwl Price—John Stuart Mill—Bedydd yn ddieithr i Price—Bedyddio ei fam—Ei feistr yn Wesley—Ei feistres yn Fedyddwraig—Williamsiaid Ship Street—John Evans—Dylanwad gwragedd—Ennill Price at y Bedyddwyr—Price yn y gyfeillach—Ei fedyddiad—Dygwyddiad hynod—Bedyddio pedwar pregethwr Cymdeithasfa Lenyddol Gristionogol—Price yn dechreu llefaru yn gyhoeddus—Methu—Grym penderfydiad—Cyfarfodydd gweddio—Yn ei ardal enedigol Anerchiadau—Arferion daionus—Dyledswydd aelodau crefyddol.


HYD amser ei brentisiaeth, mae yn debyg nad oedd Thomas Price wedi dadblygu un tueddiad i geisio crefydd, er ei fod yn ymhyfrydu mewn darllen a mynychu yr Ysgol Sabbothol. I ysgol y Methodistiaid yr oedd yn myned yn amser cyntaf ei brentisiaeth; ond ar ryw dro, cafodd wahoddiad gan gyfaill iddo ag oedd yn aelod yn Mhorthydwr, i fyned i weled yr ordinhad o fedydd yn cael ei gweinyddu yn Maesyberllan. Y cyfaill hwnw oedd Mr. James Williams, Cashier, gynt o Gwmdar, yn awr o Taylorstown, yr hwn sydd yn aelod ffyddlawn a diacon parchus yn eglwys y Bedyddwyr yn Mhontygwaith. Sylwer pa galyniadau dymunol sydd yn tarddu o wahoddiadau caredig i weled a chlywed yr hyn sydd dda. Cydsyniodd Price, ac aethant gyda'u gilydd heb fawr o feddwl ganddo ef am gael ei ddal gan yr olygfa. Y Parch. B. Williams oedd yn gweinidogaethu yr adeg hono yn Maesyberllan, ac efe oedd yn pregethu yno y diwrnod hwnw. Yr oedd y dyrfa mor fawr fel mai ofer oedd meddwl am ei chynnwys yn yr addoldy. Yma," meddai y Dr., pan yn adrodd yr hanes gyda theimladau dwys, "safai Mr. Williams dan yr ywen a ymgangenai yn llydan dros y fynwent, a'i destyn oedd, 'Y gwyliedydd, beth am y nos?" Gall y rhai a glywsant Mr. Williams ar ei uchel fanau ddychymygu yn dra hawdd pa brydferthwch ysprydol lewyrchai ar ei wynebpryd hardd, y modd nerthol y dyrchafai ei lais seingar fel udgorn Brenin Seion, fel y llifeiriai geiriau gwirionedd Duw dros ei wefusau, yn enwedig yn amser diwygiad mawr Maesyberllan, fel y fflamiai argyhoeddiadau megys o bob brawddeg i galonau ugeiniau o bechaduriaid. Nid oedd Thomas Price yn meddwl am ddim ar y dechreu ond cael dyfyrwch gyda y bedydd, a gwneyd gwawd o'r bedyddedigion; ond fel yr oedd doniau y pregethwr yn gwresogi, ac yn cryfhau fel llifeiriant dyfroedd cryfion, collodd Thomas ei draed odditano, ac fel y dywedai Thos. Williams, Blaenybrynach, “mi a'i gwelwn yn myned gyda'r llifeiriant, y galon yn cael ei thoddi, a'r llygaid yn llawn o ddagrau." Dyna yr argraffidau crefyddol cyntaf ar feddwl Thomas bach. Addefai John Stuart Mill iddo yntau un adeg deimlo cynhyrfiadau a chymhellion cryfion i ymaflyd mewn crefydd, ond esgeulusodd ei hun yr adeg hono. Ni wreiddiodd yr had da ynddo am iddo gael craig yn lle daear. Gall dyn dderbyn yr had goreu a gadael iddo bydru. Dichon dderbyn y dylanwadau mwyaf maethlon, ac etto fod yn amddifiad o ffrwythau bywyd sanctaidd. Nid felly y bu yn hanes gwrthddrych ein cofiant. Cadwodd yr argraffiadau cyntaf yn fyw yn ei galon, a meithrinodd ei deimladau crefyddol nes cael ei fywhau yn ysprydol ganddynt.

Hyd yma, yr oedd Bedydd a'r Bedyddwyr i raddau mawr yn ddyeithr iddo, oblegyd, fel y nodasom, nid oedd ei rieni mewn cydymdeimlad â'r Bedyddwyr, gan mai Eglwyswyr oeddynt, a dyna ydoedd teulu parchus y Cliftons. Wedi claddu ei dad, daeth ei fam at y Bedyddwyr, a chafodd ei bedyddio ar broffes gyhoeddus o'i ffydd yn y Gwaredwr pan oedd tua 60 oed, yn Llanfrynach, gan y diweddar Barch. J. Jerman, yr hwn fu yn weinidog am flynyddau yn Eglwys y Deri, Morganwg. Yr oedd ei feistr, Mr. Thomas Watkins, o'r Struet, yn aelod ffyddlawn a selog, mae yn debyg, gyda y Wesleyaid yn y dref, ac yn ewyllysio i Tom Price, yn o gystal ag ereill o'i weithwyr, fyned gydag ef at y Wesleyaid ar y Sabbothau; ond yr oedd ei feistres, Mrs. Watkins, yn Fedyddwraig egwyddorol a selog: yr oedd yn aelod ffyddlawn a dichlynaidd yn Mhorthydwr. Arferai Mrs. Watkins alw yn fynych yn nhy James Williams, grocer, Ship Street, sef tad Mr. James Williams, Tylorstown, y crybwyllasom am dano yn flaenorol. Yr oedd Mrs. Watkins a Mrs. Williams o'r Shop yn gyfeillesau trwyadl, a theimlent ddyddordeb neillduol yn llwyddiant yr achos yn Mhorthydwr. Yr oedd y Williamsiaid yn ddiarebol am eu llettygarwch i weinidogion y Bedyddwyr, ac yno y byddent bob amser yn cartrefu pan yn ymweled â'r dref. Arferai Thomas Price fynychu y tŷ hwn hefyd, at y meibion, a derbyniai bob sirioldeb a charedigrwydd ganddynt. Hefyd, yr oedd dyn ieuanc parchus arall yn y dref yn arfer llawer â'r Williamsiaid, ac hefyd yn gwneyd cyfeillach â Price, o'r enw John Evans, yr hwn, wedi hyny, a gyrhaeddodd sefyllfa anrhydeddus yn y dref fel cyfreithiwr llwyddiannus, ac am yr hwn y cawn ddweyd gair etto yn mhellach yn mlaen.

Yr oedd Price yn awr yn codi yn fachgen ieuanc bywiog a phrydferth, ac yn addawol o ddyfodol dysglaer fel paentiwr hyfedr, ac fel y cyfryw, ofnai ei feistres iddo fyned yn rhydd a digrefydd, ac nid oedd hefyd yn teimlo yn ddedwydd nad allai lwyddo i'w gael gyda hi i fynychu yr Ysgol Sabbothol a'r cyfarfodydd yn Mhorthydwr. Yr oedd Mrs. Watkins yn berchen ar gynneddfau meddyliol cryfion, ac yr oedd yn hynod o benderfynol. Un diwrnod, dywedodd wrth y dyn ieuanc John Evans y carai yn fawr weled Tom yn dyfod gyda hi i Ysgol Sabbothol Porthydwr, a gofynodd iddo wneyd ei oreu i'w gael i ddyfod, "oblegyd," meddai, "yr wyf yn credu yn ddiysgog, os y ceisiwch chwi, y gellwch lwyddo." "O'r goreu, meddai Evans, "ymdrechaf," a llwyddodd yn ei ymdrech. Daeth Price i'r Ysgol a'r cyfarfodydd—at y Bedyddwyr, ac nid hir y bu cyn dangos awydd i ymaelodi gyda'r cyfenwad y gwnaeth gymmaint o waith iddo a throsto yn ystod ei fywyd gwerthfawr.

Gwelwn yma beth a allai gwragedd da ei wneyd drwy ymdrechion egwyddorol a phenderfynol, nid yn unig i ddwyn plant eu hunain at achos Mab Duw, ond hefyd eu gweision a'u morwynion, eu hadnabyddion a'u cymmydogion. Yr oedd y foneddiges hon wedi penderfynu gwneyd Bedyddiwr o Price, a'i gael, os gallai mewn unrhyw fodd, at y Gwaredwr, a choronwyd ei sêl a'i phenderfyniad clodus yn fendigedig, drwy iddi yn rhanol fod yn gyfrwng i ddwyn y Dr. enwog at y Ceidwad yn ei ddyddiau boreuol. Fel yr awgrymasom, nid hir wedi dyfod i fynychu Capel Porthydwr, y bu cyn myned i'r gyfeillach grefyddol, wedi penderfynu dylyn Crist yn y Bedydd, yn ol y dull apostolaidd, fel yr arferai ddweyd yn fynych pan yn gweinyddu yr ordinhad ei hunan yn ystod ei weinidogaeth. Nid oedd bedyddio wedi bod yn y dref yn flaenorol er ys dwy flynedd. Yr oedd chwant mawr ar Thomas Price i gael ei fedyddio yn yr afon, eithr y penderfyniad oedd i fedyddio yn y bedyddfan yn y capel. Yr oedd y gweinidog ychydig yn erbyn bedyddio yn yr afon, a theimlai y prif ddiacon, Mr. Phillips, yn selog dros weinyddu yr ordinhad yn y bedyddfan, yn gymmaint ag fod yr eglwys wedi myned i'r draul o'i darparu. Yr oedd pump i'w bedyddio yr adeg hono, sef pedwar o frodyr ieuainc, ac un chwaer. Dangosai y brodyr o hyd awydd cryf i gael eu trochi yn yr Wysg, a dadleuent am gael hyny o fraint. Teimlai yr hen ddiacon parchus fod Thomas Price a'i gyfoedion yn cymmeryd gormod hyfdra arnynt fel hen frodyr, a rhoddodd anerchiad llym iddynt ar eu dyledswydd i ymostwng i'w blaenoriaid, ac ychwanegai ei fod yn ofni eu bod yn ofergoelus. Gobeithiai nad oeddynt yn credu fod rhinwedd neillduol yn nyfroedd yr Wysg. Gwyddai fod yr Indiaid yn credu yn gryf fod rhinwedd mawr yn afon y Ganges, ac ofnai eu bod hwythau yn debyg iddynt. Gyda golwg am eu barn am yr Wysg, dywedai y bachgen Price nad oeddynt fel yr Indiaid, "ac nid ydym," meddai, yn hygoelus gyda golwg ar rinwedd yr Wysg, ond yno y teimlaf y carwn gael fy medyddio." Daeth y dydd a'r adeg i gladdu y pump ymgeisydd yn y Bedydd, a pharotowyd gan yr eglwys i'r ordinhad gael ei gweinyddu yn y bedyddfan; ond cyn disgyn o'r gweinyddwr iddo, deallwyd fod ynddo ormod o ddwfr i'r bobl ieuainc oeddynt i'w bedyddio, a chododd yr hen ddiacon soniedig yr ystopell (plug) i fyny, er gollwng ychydig o'r dwfr allan, ac er ei fawr syndod, methodd ei ail-osod, oblegyd yn ddamweiniol, aeth carreg fechan i'r twll, a rhedodd y dwfr allan i gyd o'r bedyddfan. Felly, dan yr amgylchiadau, nid oedd dim i'w wneyd ond myned â'r bedyddiedigion, yn ol eu dymuniad, i'r Wysg, ac yno y cydgladdwyd hwy a Christ yn y Bedydd. Gweinyddwyd yr ordinhad gan y gweinidog, y Parch. John Evans, brawd i'r adnabyddus David Evans, Pontrhydyrun, a mab i'r enwog Evans o Maesyberllan. Trodd y pedwar bachgen allan yn bregethwyr, sef John Evans, Aberhonddu; y Parch. J. Williams, Llundain; y diweddar Barch. D. Evans, Dudley; a gwrthddrych y cofiant hwn.

Yn mhen ychydig amser wedi y bedydd hwn, cynnygiwyd cynnal cyfarfodydd gweddi yn y Fenni Fach, Llanddw, a'r ardaloedd cylchynol. Gyda hyn cododd rhyw ychydig awydd siarad yn y bechgyn, ond nid oedd drws agoredd iddynt. Yr hen dad parchus o Borthydwr, yn ddiau, yn ofni i'r ebolion efallai dori dros y terfynau, pe buasai yn rhyfeddod. Ond llonyddwyd tipyn ar yr anian hon yn Thomas Price yn mhen ychydig. Yr oedd efe yn awr yn codi, a bu yn athraw da a ffyddlon yn yr Ysgol Sabbothol. Yr adeg hono yr oedd dosparth i ddynion ieuainc yn cael ei ddwyn yn mlaen yn Kengsington, capel y Bedyddwyr Saesneg, gan y Mri. Jones y druggists, er diwyllio meddyliau a chynyddu gwybodaeth y bobl ieuainc yn y lle. Yr oeddynt hefyd i gael mantais i lefaru ar wahanol bynciau, a thrwy hyny ddangos eu doniau. Ymunodd y bechgyn ieuainc o Borthydwr â hon, ac yn eu plith daeth Price yn ymlynydd cysson a selog wrthi. Yn nghyfarfodydd y gymdeithasfa hon y dadblygodd Price gyntaf ei alluoedd i siarad yn gyhoeddus, yr hyn a'i gwasanaethodd ef a'r enwad Bedyddiedig mor effeithiol drwy ystod ei fywyd llwyddiannus. Myfyriai yn galed hefyd lenyddiaeth Feiblaidd a gweithiau llenyddol gwerthfawr ereill, a galluogodd ei dreiddgarwch a'i alluoedd naturiol digyffelyb ef i feistroli yn drylwyr ddyrus bynciau duwinyddol oeddynt yn aros yn dywyll i oleuadau llai. Nid oedd ei weinidog, modd bynag, yn rhoddi ond ychydig gefnogaeth ir myfyriwr ieuanc caled, oblegyd edrychai gyda drwgdybiaeth ar ei ymdrechion llenyddol cysson a di-ildio. Fel llawer o weinidogion y dyddiau hyny, tueddai i gredu nad oedd un llyfr yn werth i'w ddarllen a i fyfyrio ond y Beibl. Yr oedd Price i lefaru un noswaith yn y Gymdeithas Gristioncgol, a'r pwnc oedd Breniniaeth Crist. Aeth Thomas i fyny i'r pwlpud i siarad, fel y tybid, a chan fod y gair brenin yn ei bwnc, darllenodd yn destyn, Minau a osodais fy Mrenin ar Seion, fy mynydd sanctaidd." Eithr methodd ddweyd gair yn ychwaneg, yr oedd tywyllwch dudew wedi toi y cwbl, fel o'r braidd yr oedd yn gweled y ffordd i ddysgyn o'r areithfa. Dyna ddechreuad llefaru yn gyhoeddus Dr. Price, Aberdar, ond nid dyma ei ddiwedd. Er i Price dori lawr y tro hwn, etto ni ddigaloncdd; eithr ymdrechodd yn fwy egniol a phenderfynol, a bu yn llwyddiannus. Teimlai ddyddordeb mawr yn nghymdeithas y dynion ieuainc, a bu yn dra gweithgar ynddi cyhyd ag yr arosodd yn y dref.

Ymhyfrydai Price bob amser fyned i'r cyfarfodydd gweddi a gynnelid yn yr annedd-dai yn y dref a'r ardaloedd cylchynol. Arferai efe a'r bechgyn ieuainc a ddechreuasant grefydda yr un adeg ag ef siarad bob yn ail yn y cyfarfodydd gweddi crybwylledig. Tebyg eu bod weithiau yn myned allan mor bell i'r wlad à Llanamlwch, plwyf genedigol y Dr., oblegyd dywedai yr hen foneddiges y crybwyllasom am dani yn flaenorol, Mrs. Davies, ei bod yn cofio amser dymunol ar grefydd bron ar yr adeg y bedyddiwyd Thomas Price. Arferai efe a rhai bechgyn ieuainc ddyfod allan i gynnal cyfarfodydd gweddi yn y pentref, a phregethent neu anerchent yn y cyfarfodydd hyny yn achlysurol. Cynnalient y cyfarfodydd mewn hen ystordy oedd uwchben siop saer oedd yn y pentref, yr hon a feddiennid gan un Nellie Jones, hen ferch weddw, a merch i un William Jones, pregethwr cynnorthwyol gyda'r Annybynwyr. Ond yr oedd ei ferch, Nellie, yn Fedyddwraig selog, ac yn gwneyd ei goreu i ledaenu yr egwyddorion Bedyddiedig yn y gymmydogaeth. Yr oedd y cyfarfodydd hyn yn rhai llewyrchus a llwyddiannus iawn. Dywedai Mrs. Davies nad oedd yr adeg hono dy yn y wlad braidd heb aelod crefyddol ynddo, ac yr oedd pawb bron yn ymdrechu gwneyd rhywbeth gyda chrefydd. Teimlid parch mawr at Thomas Price, ac ymgynnullai nifer lluosog i'r cyfarfodydd hyn bob tro y byddai efe yn dyfod allan i Lanamlwch. Heblaw yr ymarferiad, yr oedd Price a'i gyfoedion yn ei gael yn y cyfarfodydd a nodwn, yr oeddynt yn fynych yn ymneillduo i'r maes a'r coedwigoedd cylchynol i gynnal cyfarfodydd gweddi. Clywsom y Ďr. yn dweyd droion ei fod ef wedi magu llawer o nerth, ac wedi ymgryfhau fel gweddiwr drwy ymarferyd llawer wrtho ei hun mewn coedwig oedd yr adeg hono heb fod yn neppell oddiwrth Gapel Porthydwr. Flynyddau yn ol yr oedd llawer o hyn yn cael ei wneyd hyd y nod gan y bobl ieuainc a ymunent à chrefydd yr Arglwydd Iesu; ond ofnwn yn bresenol nad yw yr arferiad yn cael ei fabwysiadu o gwbl gan y to sydd yn codi, a hyny am nad ydynt yn meddu yr un yspryd, ac nad yw yr un dylanwadau nerthol yn gweithio ynddynt. Buasai yn dda i'r Eglwys yn fynych yn bresenol ped arafai ei haelodau hi ychydig, gan ystyried a meddwl am eu dyledswyddau a'u rhwymedigaethau crefyddol, ac ymneillduo yn fynych i'r maes agored, y goedwig dewfrig, neu y mynydd tawel, i ddal cymdeithas a'r Yspryd Tragwyddol, fel y gwnai Crist gynt, a miloedd o'i ffyddlawn ganlynwyr yn yr oesoedd a aethant heibio.

Nodiadau[golygu]