Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price/Eglwys Calfaria a'i Changenau Hyd 1866

Oddi ar Wicidestun
Parhad Aberdar Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price

gan Benjamin Evans (Telynfab)

Calfaria o 1866 Hyd 1888

PENNOD VIII.

EGLWYS CALFARIA A'I CHANGENAU HYD 1866.

Calfaria hyd 1866—Hanes dechreuad yr Achos Bedyddiedig yn Aberdar—Adeiladu y capel cyntaf—Y gweinidogion cyntaf—Galwad Price—Ei derbyn—Yn llwyddiannus—Ei briodas—Gras a Rhagluniaeth yn cydweithio—Marwolaeth ei briod—Ei ymroad gyda'r gwaith—Yr eglwys dan ei ofal yn llwyddo—Yn dyfod yn enwog—Ei allu i drefnu a chynllunio—Ei yspryd rhyddfrydol—Eangu yr achos—Ei adroddiad o ddosparthiad y cylch—Trem 1885—Sefydlu gwahanol eglwysi—Y Bedyddwyr yn cynnyddu—Adgyfnerthion yr eglwys—Undeb Cristionogol—Undeb Dorcas, &c., &c.—Price yn gyfundrefnol—Cael cydweithrediad y diaconiaid—Ei gyssylltiad â'r Ysgol Sabbothol—Ei gynlluniau yn nglyn â hi—Price a Shem Davies—Price a'r ysgol ganu—Evan Jones—Yn y Gadlys—Arweinwyr y canu—Y Cor—Llechres aelodaeth yr eglwys—Ei fanylwch—Sefyllfa Calfaria ar ben yr ugain mlynedd o'i weinidogaeth—Y Juwbili gweithio egniol wedi bod—Anhawsderau yn diflanu Crefydd yn llwyddo.

YN ol Juwbili Eglwys Calfaria, llyfr bychan a gyhoeddwyd gan Dr. Price yn y flwyddyn 1863, cawn fod hanes dechreuad yr achos Bedyddiedig yn cyrhaedd mor bell yn ol a'r flwyddyn 1790, pryd yr oedd Mr. David Oliver o Ystradyfodwg yn dyfod drosodd yn achlysurol i bregethu yno. Bendithiodd yr Arglwydd ei ymdrechion ef ac ereill i ddychwelyd eneidiau at y Gwaredwr; ac yn y flwyddyn 1791, bedyddiwyd pedwar o bersonau, y rhai a dderbyniwyd yn aelodau yn yr Ynysfach, Ystradyfodwg, ac nid oes genym wybodaeth bellach am danynt, nac ychwaith am achos yn Aberdar hyd y flwyddyn 1806. Yr adeg hono daeth dau frawd i'r lle o'r enwau Lewis Richards, yr hwn a fu am hir flynyddau yn weinidog ar Eglwys y Bedyddwyr yn Mhenyrheol, a Howell Evans. Yr oedd y ddau hyn yn Fedyddwyr. Cynnalient gyfarfodydd gweddio mewn tŷ annedd, yr hwn a adnabyddwyd am flynyddau wedi hyny wrth yr enw "Capel Bach." Cydaddolai y Bedyddwyr a'r Independiaid am dymhor ynddo; ond yn fuan, barnwyd mai gwell oedd i'r ddau enwad fod ar wahan. Mewn canlyniad i hyn, ymneillduwyd i breswylfa Lewis Richards, yn yr hwn le y cynnelid yr achos. Nid oedd ond y ddau frawd a enwyd yn aelodau yma hyd ddyfodiad brawd arall atynt o Gastellnedd o'r enw David Davies, yr hwn a elwid gan bobl Aberdar yn "Dafydd bach o'r nef." Yr oedd hwn yn wr o gymmeriad da a duwiol y tu hwnt i'r cyffredin. Yn y flwyddyn 1807, dechreuwyd yr Ysgol Sabbothol yn Aberdar gan nifer o ddynion ieuainc oeddynt yn aelodau yn Seion, Merthyr Tydfil, mewn ystafell berthynol i'r Farmers' Arms, yn nghanol y pentref. Yn fuan, symmudwyd yr achos o dŷ Lewis Richards i'r hen Town Hall, ac oddiyno drachefn, yn 1809, i ddau dŷ wedi eu rhentu gan Richards, y rhai a wnaed yn un er cynnal y gwasanaeth ynddo. Yn 1811, dechreuwyd meddwl am adeiladu capel newydd, a chychwynwyd y gwaith yn ddiymaros yn y man y saif Carmel, y capel Seisnig, yn bresenol, ac agorwyd ef yn 1812, hanner can' mlynedd i'r flwyddyn yr ysgrifenodd y Dr. Juwbili yr eglwys.

Yn y flwyddyn 1813, cafodd Mr. W. Lewis ei ordeinio yn weinidog ar yr eglwys; ond yn fuan, yn herwydd helbulon anffortunus y meistr a llwyr ymattaliad gwaith Abernant, ymadawodd Mr. Lewis, a rhoddodd i fyny ofal yr eglwys. Cawn fod Mr. Richard Hopkins yn cael ei ordeinio i'r weinidogaeth yn 1820. O'r flwyddyn 1823 hyd 1826, bu yr eglwys yn cael ei bugeilio gan y diweddar William Williams o'r Paran. Yn y flwyddyn 1826, dychwelodd Lewis drachefn i Aberdar, ac ail-gymmerodd ofal yr eglwys hyd y flwyddyn 1845, pryd y symmudodd i gymmeryd gofal gweinidogaethol Eglwys Tongwynlas. Yn y flwyddyn hono, fel y nodasom o'r blaen, rhoddwyd galwad unfrydol i Thomas Price; ymsefydlodd yma, a bu yn weinidog iddi hyd ei ddyrchafiad i'w orsedd a gwisgiad ei goron yn ngwlad yr aur delynau. Yn y flwyddyn gyntaf o'i weinidogaeth yn Mhenypound, dywedai y Dr. mai araf iawn oedd symmudiad y gweinidog a'r eglwys. Ychydig dir newydd a ennillwyd ganddynt, er fod y gwrandawyr yn cynnyddu a'r Ysgol Sul yn bywiocau. Yn ystod y flwyddyn hon, cafodd y gweinidog ieuanc y fraint a'r anrhydedd o fedyddio pedwar—dau o'r cyfryw oeddent yn aros pan ysgrifenodd y Dr. yr hanes yn ei Juwbili, sef Mr. David Hughes, Goruchwyliwr Glofeydd Abernant, a Margaret ei wraig; ac y mae yn llawen gan yr ysgrifenydd nodi eu bod yn aros hyd heddyw, ac er eu bod wedi methu bron gan henaint a gwendid, y maent yn garedig i'r achos, a buont yn gyfeillion mynwesol i'r Dr. hyd ei fedd.[1] Cafodd Price yr hyfrydwch o fedyddio amryw o'u plant, y rhai a ddygwyd i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd.

Yn y flwyddyn 1847, yr oedd Price wedi cael ychydig o amser i adnabod ei hun, ei eglwys, a'i gymmydogaeth, ac yr oedd yn awr yn dechreu ymbarotoi i dori allan waith i'r eglwys a'r gynnulleidfa. Mewn trefn i'w alluogi i wneyd mwy ei hunan, a chael safle uwch i ddylanwadu ar ei bobl a'i gymmydogion yn gyffredinol, penderfynodd ymsefydlu yn y byd, fel y dywedir, ac yn gynnar yn 1847, priododd â boneddiges gyfoethog o ddisgyniad a llinach yr hen deuluoedd parchusaf a mwyaf cyfrifol y dyffryn. Cawn hanes y briodas wedi ei groniclo yn gyflawn gan yr enwog Lleurwg yn ei ysgrif ragorol ar Dr. Price yn y Geninen am Gorphenaf, 1888, yr hwn a edrydd fel y canlyn:—

Yn mhen ychydig gyda blwyddyn ar ol ei ordeinio, sef ar yr 16eg o Fawrth, 1847, ymunodd mewn priodas ag un o'r boneddigesau mwyaf goleuedig a pharchus, nid yn unig yn Aberdar, ond hefyd yn yr holl wlad. sef Mrs. Ann Gilbert, merch ieuengaf Thomas David, Ysw., Abernantygroes. Cymmerodd y briodas le yn Nghapel Carmel, Pontypridd; a'r gweinyddwr oedd yr enwog a'r athrylithgar Barch. James Richards, gweinidog yr eglwys yn Ngharmel. Ganwyd iddynt ddau o blant, sef mab, yr hwn a fu farw yn ei fabandod, a merch, yr hon a enwyd Emily, yr hon a adawyd iddo gan Ragluniaeth ddoeth a charedig i'w gysuro yn ei fywyd, ac i alaru ar ei ol. Yn fuan ar ol hyn, sef yn 1849, bu farw y ddoeth a'r addfwyn Mrs. Price; a chafodd yntau ei adael gyda ei ferch fechan yn ngwaelodion glyn unigrwydd, hiraeth, a galar. Ni fu son am ail briodas iddo ; ond o ddydd claddedigaeth ei mam daeth ei anwyl Emily yn ganolbwnc ei ofal a'i serch teuluaidd. Cafodd y cysur a'r fendith anmhrisiadwy o weled ei anwyl blentyn yn tyfu i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, gan gynnyddu mewn rhinwedd a phob gras a dawn naturiol ac ysprydol, nes y daeth yn addurn i gymdeithas, ac yn anrhydedd i'r Eglwys Gristionogol. Duw, o'i fawr ddaioni, a fyddo iddi yn bob peth angenrheidiol yn ei hunigrwydd, ei hymddifadrwydd, a'i galar mawr presenol. Arweinied bi trwy y byd hwn a'i gynghor, ac wedi hyny cymmered hi i ogoniant.

Gwelir yn eglur fod Price, pan oedd yn dechreu tynu allan a mabwysiadu mesurau a gyfiawnhawyd gan amgylchiadau dylynol i gyflawnu ei waith fel Efengylwr, gweinidog, a duwinydd, a llafurio yn helaeth yn ngwinllan yr Arglwydd, yn gystal ag mewn cylchoedd pwysig ereill, a phan yr oedd haul dysglaer a thanbeidiol ei fywyd fel codiad haul y boreu, yn dechreu gwasgar ei oleuni claer i gyfeiriad yr Eglwys Gristionogol a'r byd yn wleidyddol a chymdeithasol, wedi cael saeth wenwynig i frathu ei deimladau tyner. Cododd cymmylau duon aeth ac helbul yn herwydd angeu drosto; ymruthrodd tymhestl erwin arno; disgynodd dalen chwerw i'w gwpan a redai drosto o fwyniant a hoenusrwydd ieuengaidd; ac ofnid y digalonai ac y diffygiai ei yspryd bywiog yn y brofedigaeth lem gafodd yn marwolaeth ei anwyl briod; ond cynnaliwyd ef i fyny gan yr Arglwydd. Ac yn herwydd bywiogrwydd naturiol ei feddwl, ymadnewyddodd yn fuan drachefn, ymaflodd yn holl ranau ei waith megys cynt, ac aeth yn mlaen ag ef yn egniol a phenderfynol. Er fod Price wedi cael colled fawr yn marwolaeth Mrs. Price, oblegyd yr oedd yn foneddiges oedd yn llawn o rinweddau fyddent yn dra chynnorthwyol iddo ef fel gweinidog ieuanc, ac yn fanteisiol iawn i'r eglwys a'r achos yn y lle; etto, bu priodas Mr. Price yn neillduol o fanteisiol iddo drwy ei oes. Er mai amser byr iawn y buont fyw gyda'u gilydd, yr oedd ei hyspryd caredig digyffelyb hi, ei synwyr cyffredin cryf, ei haddysg foreuol a'i diwylliant meddyliol, yn nghyd â'i gwylder a'i lledneisrwydd, wedi dylanwadu yn fawr ar ei feddwl, ac yr oedd teithi rhagorol ei chymmeriad pur wedi eu hargraffu yn ddwfn yn ei yspryd a'i deimlad, a diau genym fod hyn wedi llywio ei fywyd i raddau helaeth iawn. Hefyd, cafodd Price drwy ei briodas gyfoeth mawr, a gwyr pawb nad yw cyfoeth, ond ei iawn ddefnyddio, yn anfanteisiol yn y weinidogaeth. Yr ydym yn gwybod am rai gweinidogion wedi bod yn ffodus i gael cryn lawer o " dda y byd hwn," y rhai, er nad oeddynt yn sefyll yn neillduol o uchel yn eu dysg, eu talent, a'u dawn i bregethu, oeddynt yn boblogaidd, ac yn meddu ar ddylanwad mawr, a hyny yn benaf am fod y fodrwy aur yn eu meddiant. Ond nid felly gyda Price. Bu ei gyfoeth yn fanteisiol iddo yn ei wahanol gylchoedd a'i gyssylltiadau, er y gallasai drwy ei ddysg, ei dalent, a'i alluoedd naturiol braidd digyffelyb, fod wedi gwneyd ei farc yn ac ar y byd hebddo; ond y mae yn ddyogel genym Calfaria a'i changenau hyd 1866. ei fod am y pum' mlynedd ar ugain cyntaf o'i weinidogaeth wedi gallu gosod ei farc yn eglurach a llawer uwch drwy ei gyfoeth nag a allasai pe heb ei gael.

Yn fuan iawn, er gwendid dechreuol yr achos, a dygwyddiadau croes ac adfydus, aeth enw a gweithrediadau yr eglwys yn Mhenypound, fel eiddo ffydd yr Eglwys Gristionogol gynt yn Rhufain, yn “gyhoeddus yn yr holl fyd" braidd. Nid ydym yn gwybod am un eglwys gyda y Bedyddwyr, nac un cyfenwad arall yn y Dywysogaeth, wedi gwneyd mwy o waith sylweddol, ac wedi bod am gynnifer o flynyddoedd mor llwyddiannus. Dichon fod dirgelwch y llwyddiant i'w briodoli, i fesur helaeth, i'r gweinidog llafurus, Thomas Price. Yr oedd ynddo allu annghydmarol i drefnu a chynllunio. Y mae llawer iawn gan gynlluniau effeithiol i'w wneyd â llwyddiant unrhyw achos. Ystyrid Price gan bawb a'i hadwaenai yn dda yn un o'r trefnwyr goreu. Dywediad cyffredin gan bobl Aberdar, wrth son am y Dr. fel gweithiwr caled yn ei eglwys, ac o'r tu allan o ran hyny, yw, "Hen manager rhagorol yw y Dr., mae ei gynlluniau oll yn ystwyth ac effeithiol iawn." Dim ond iddo ef gael y defnyddiau gwnelai y gwasanaeth goreu o honynt. Yr oedd yn gadfridog diguro, a gallai wneyd difrod ar rengau y gelyn â byddin gyffredin; oblegyd yr oedd yn llu ynddo ei hun.Yr oedd efe yn beiriannydd godidog, a gwnaethai waith mawr yn fynych, er i'r peiriant fyddai dan ei ofal fod i raddau yn ddiffygiol. Un o'r rhagoriaethau cyntaf ddadblygodd Price yn ei gyssylltiad â'i eglwys oedd y gallu i gynllunio, a'r medr i iawndrefnu ac arwain i lwyddiant hyd y nod yn ngwyneb yr anhawsderau mwyaf. Yr oedd hefyd yn meddu ar ddawn ragorol arall, sef y gallu i weled y defnyddiau goraf i ateb ei bwrpas i gyrhaedd ei amcanion a sicrhau llwyddiant gyda phob symmudiad. Fel hyn cawn ef yn dewis yn ei eglwys y dynion cyfaddasaf i'r cylchoedd oedd i'w llanw ac i'r gwaith oedd i'w gyflawni. Amgylchynid ef gan ei ddiaconiaid gofalus, y rhai bob amser oeddynt yn barod at ei alwad; ond os y gwelai efe fod yn ei eglwys aelod cyffredin yn gyfaddasach i'r gorchwyl, elai heibio y diaconiaid yn foesgar at hwnw, gosodai ei law ar ei ysgwydd neu ar ei ben, cyfarchai ef yn siriol a charedig, a chyfeiriai allan y gwaith iddo. Gosodai y drefn o'i flaen, ac fel cadfridog penderfynol ac awdurdodol, dysgwyliai i'w orchymynion gael eu cyflawni, ac yn gyffredin gwneid hyny yn ddirwgnach ac ewyllysgar. Fel cadlywydd hyfedr, yn deall ei faes a'i safle, tynai allan ei gynlluniau yn ofalus ac effeithiol, i gadw nid yn unig y tir oedd yn ei feddiant yn barod, ond hefyd i ennill meusydd newyddion. Nid oedd Price yn geidwadol ei yspryd mewn dim braidd, ond i'r gwrthwyneb. Yr oedd yn neillduol o rydd yn ei holl gyssylltiadau crefyddol. Yr oedd efe yn dra rhyddfrydig ei yspryd gyda golwg ar ledaenu yr achos a sefydlu eglwysi newyddion. Nid oedd efe, fel llawer o frodyr da a welsom yn y weinidogaeth Efengylaidd, yn hunangar (selfish), am ddenu, ennill, a chadw pawb yn ei Jerusalem eu hunain, ac heb ofalu dim yn mhellach am yr achos nag oedd yn angenrheidiol i gadw eu temlau hwy yn weddol gysurus. Na, tra yr ydoedd efe yn ofalus am ei Jerusalem, ac yn gwneyd ei oreu i gadw ei deml ei hun yn llawn, yr oedd hefyd yn ymegnio i wasgaru yr achos yn mhob cyfeiriad. Credai fod cymmaint o eisieu Efengyl ac achos yn "Samaria " a “Judea” ag oedd yn Jerusalem, ac yr oedd Price o'r un yspryd a'r Apostol Paul, am lanw Efengyl Crist hyd Illyricum, ei gylch, a phlanu yn helaethach ynddo eglwysi y Duw byw. Gweithiai ei oreu i gadw canolbwynt ei gatrawd yn gryf, etto nid esgeulusai esgyll ei fyddin. Yr oedd pob rhan o'r maes mawr oedd yn agored iddo yn cael ei sylw a'i ofal manylaf. Un o'r pethau cyntaf wnaeth wedi i'r achos godi ychydig, ac i'r eglwys gynnyddu, oedd ei rhanu yn bedwar dosparth, er dwyn yr ardal yn fwy cyffredinol dan ei dylanwad. Edrydd Price yn naturiol hanes rhaniad y tir a dosparthiad y gwaith, yn nghyd â'r canlyniadau dymunol o hyny fel y canlyn yn ei Jubili:

Dechreuwyd Ysgol Sul yn Abernant, lle y penodwyd ar frodyr o ymddiried i ofalu am arolygu yr ysgol, ysgrifenu i'r ysgol, ymweled dros yr ysgol, un arall i ofalu am y canu, un arall i drefnu y cyfarfodydd gweddio, a'r cwbl o dan arolygiaeth gyffredinol ein hanwyl frawd John Thomas. Ffurfiwyd dosparth arall yn gynwysedig o Heolyfelin, Llwydcoed, Tregibbwn, a Thai Penywaen. Rhoddwyd yma swydd i bob brawd, a phob brawd ei swydd, a'r cwbl o dan arolygiaeth ein hanwyl frawd Thomas Dyke. Ffurfiwyd trydydd dosbarth yn Aberaman. Yma yr oeddym yn ffodus iawn i gael gwasanaeth gwerthfawr ein brodyr hoff John Davies, John Protheroe, Rees Jones, Thomas Evans, Grocer, ac ereill, yn gyfundrefnol yn ol y rhanbarthau y byddai yr aelodau yn byw ynddynt. Hwn, yr adeg hon, oedd y dosparth goreu o lawer, yn fwy lluosog, ac i'n golwg ni yn fwy addawol nag un o'r lleill. Yr oedd y rhan ganol o'r eglwys yn para yn y capel fel o'r blaen. Fel hyn daethom i gael pedwar cwrdd gweddi wythnosol, a'r rhai hyny ar yr un pryd, a phedair Ysgol Sul mewn llawn weithrediad. Teimlasom yo fuan fod yr egwyddor hon o ranu y gwaith yn un dda iawn. Yr oedd pob aelod o'r eglwys yn cael ei ddwyn i gylch o ddefnyddioldeb, yr oedd pob un yn cael cyfle i wneyd daioni, tra nad oedd gan neb o honom amser i wneyd drwg, pe byddem yn dewis gwneyd hyny. Trwy hyn hefyd yr oedd egwyddorion y Testament Newydd yn cael eu dwyn i sylw cannoedd o ddynion yn y gwahanol ddosbarthiadau na fuasem ni byth yn eu gweled yn y capel. Wedi hyny yr ydym wedi bod yn medi ffrwyth toreithiog fel canlyniad i'r had da a hauwyd yn y meusydd newyddion yn y blynyddau hyn ar grefydd yn y dosparthiadau. Peth arall, yr oedd yn cadw y gweinidog ieuanc mewn llawn waith ac ymarferiad. Nid oedd amser ganddo i dreulio dyddiau yn segur i wrandaw chwedlau diles a drygionus o dy i dy; ond yr oedd agor meusydd newyddion, planu a chynllunio i'r dosbarthiadau yn cadw ei feddwl mewn llawn waith. Yr oedd mynych ymweliadau â'r dosparthiadau i fod yn eu cyfarfodydd ar gylch yn cadw ei gorff mewn ymarferiad, tra yr oedd y profiad a enillodd trwy hyn yn ei wneyd yn llawer mwy cymhwys i lywyddu yn eglwys Dduw nag y buasai heb hyny. Mae blynyddau o brofiad wedi ein dysgu bellach fod gweithgarwch eglwysig yn elfen bwysig er ychwanegu dedwyddwch mewnol yr eglwys, tra y bydd yn cryfhau ei dylanwad moesol ar y byd."

Nid oedd y rhaniad a'r dosparthiad uchod ond dechreuad. Nid oedd amgen gosodiad i lawr sylfaen yr adeiladwaith oedd i'w ddwyn yn mlaen gan y gweinidog ieuanc a'i eglwys yn y dyfodol. Amlinelliad ydoedd yn dangos beth amcenid gan Price, ac yr ymestynid ato ganddo fel y byddai amgylchiadau yn galw ac yn caniatau. Cafodd y drefn hon ei pharhau yn yr eglwys tra y bu y gweithiwr difefl yn weinidog arni; oblegyd fel y gwelir yn y Trem a gyhoeddwyd gan y Dr. yn y flwyddyn 1885, cawn fod yr eglwys yr adeg hono wedi ei rhanu i un-ar-ddeg o ddosparthiadau, yn gyfundrefnol yn ol y rhanbarthau y byddai yr aelodau yn byw ynddynt, a phob dosparth dan ofal" ymwelydd neillduol a gofalus, yr hyn, yn ddiau, sydd wedi profi yn fanteisiol i'r eglwys drwy yr holl flynyddau, ac sydd hefyd yn cyfrif i raddau mawr am dangnefedd mewnol yr eglwys, a'r llwyddiant mewn niferi a nerth moesol ac ysprydol. A chyhyd ag y byddai y cangenau dan nawdd y fam eglwys a gofal gweinidogaethol Price, cyflwynid y drefn hon iddynt a mynai ef weled ei bod yn cael ei chario allan yn effeithiol ganddynt.

Yn y flwyddyn 1849 mae yr eglwys wedi dyfod i gyflwr gweithio, ac er rhoddi pob mantais i'w wneyd yn egniol, ychwanegwyd at nifer y diaconiaid y brodyr Phillip John, David Hughes, William Davies, John Thomas, Thomas Dyke, a John Davies. Y mae dau o honynt, sef D. Hughes a W. Davies, yn aros hyd heddyw, ac er mewn gwth o oedran, llanwant y swydd yn deilwng ac anrhydeddus. Yn y flwyddyn hono gollyngwyd amryw frodyr yn nosparth Aberaman i ffurfio Eglwys Gwawr, a chorffolwyd hwy mewn pryd i'w derbyn yn eglwys i'r gymmanfa y flwyddyn hono. Yn y flwyddyn ddylynol, sef yn 1850, er gollyngiad y brodyr hyni Aberaman, teimlodd y frawdoliaeth angen capel eangach nag oedd ganddynt ar y pryd. Wedi ychydig o bryderu o du yr eglwys, cafodd Price hwy, trwy ei yspryd ymroddgar a phenderfynol, i hwyl codi capel newydd, a dechreuwyd ar y gwaith yn y flwyddyn 1851, a daeth yn barod erbyn dechreu 1852. Yr oeddynt wedi bod yn addoli yn yr hen gapel am ddeugain mlynedd, a chyn ymadael ar foreu dydd yr Arglwydd, Chwefror yr 8fed, 1852, cynnaliodd yr eglwys gyfarfod gweddi i gydnabod llaw ddaionus yr Arglwydd at yr eglwys yn ystod y blynyddau meithion hyn; ac yn yr hwyr y dydd hwnw symmudwyd yr arch o Benypound i gapel newydd Calfaria, ac yn y mis Mai canlynol cafodd ei agor, pan y cynnaliwyd rhes o gyfarfodydd cyhoeddus ar yr achlysur.

Yn y flwyddyn 1855, fel y cawn sylwi etto yn helaethach, corffolwyd y gangen yn Mountain Ash, yr hon gafodd ei derbyn i'r Gymmanfa yr un flwyddyn. Yn y flwyddyn hono hefyd y corffolwyd Eglwys Heolyfelin dan nawdd Eglwys Hirwaun, ond fod amryw o aelodau Aberdar oeddynt yn byw ar Heolyfelin wedi ymuno â hi ar ei chorffoliad. Yn y flwyddyn 1856, gollyngwyd pedwar ugain o aelodau er ffurfio yr Eglwys Seisnig, yr hon hyd hyny oedd gangen o'r Eglwys Gymreig. Yn yr un flwyddyn hefyd y dechreuwyd adeiladu Bethel, Abernant, ac agorwyd ef dydd Sul, Ionawr 25, 1857. Mesurai yr ystafell 44 troedfedd wrth 28 troedfedd, ac yr oedd (rhwng y tŷ annedd) yn werth £344 18s. 3c.

Yn y flwyddyn 1858, cawn fod yr eglwys wedi penderfynu helaethu ei therfynau trwy adeiladu ysgoldai cyfleus yn yr Ynyslwyd a'r Gadlys. Mesurai ysgoldy yr Ynyslwyd 44 troedfedd wrth 28, gyda thy annedd da, y cwbl yn werth £254 17s. 8c. Gyda bod hwn wedi ei agor o du deheu i Galfaria, dechreuwyd adeiladu ysgoldy o'r un maintioli yn y Gadlys, yn nghyd a thri o dai annedd, y cwbl yn werth £372 3s. 4½c.

Yn yr un flwyddyn penderfynodd yr eglwys yn Nghalfaria wneyd cyfnewidiadau pwysig yn y capel oddifewn ac oddiallan, yr hyn a gostiodd iddi y swm o £350. Ail-agorwyd y capel, yn ol Mynegiad yn y Gweithiwr am Mehefin yr 11eg, 1859, ar y dyddiau Mawrth a Mercher blaenorol, sef y 7fed a'r 8fed. Dywed y Mynegydd, "Mae Calfaria yn awr yn un o'r capelau goreu yn Sir Forganwg, ac er ei fod yn fawr, etto yn rhy fach i ddal y rhai a garant ddyfod yno i wrando." Wedi manylu ar y cyfarfodydd, yn y rhai y neillduwyd unarddeg o ddiaconiaid i'r swydd gan Mr. Price, y gweinidog, trwy weddi ac arddodiad dwylaw, dywed fod y casgliadau wedi cyrhaedd y swm o £177 7s.4½c. Yr oedd £50 o hono wedi ei anfon gan C. R. M. Talbot, Ysw., A.S.[2] Y gweddill yn rhoddion yr eglwys, yn cael ei chynnorthwyo gan y gwrandawyr parchus—ar ddydd yr ail-agoriad. "Yr ydym (meddai yn mhellach) fel eglwys wedi talu yn agos i £1,400 yn ystod y deg mlynedd diweddaf, ac yr ydym yn awr ar orphen ysgoldai eang yn Ynyslwyd a'r Gadlys, ac helethiad y tŷ cwrdd yn cychwyn mewn dyled o £1,420 18s. 3c., yr hyn a dalwn dan ganu o hyn i bum' mlynedd i yn awr, os bydd i Dduw y nefoedd wenu arnom fel y gwnaeth yn y deg mlynedd diweddaf." Am gyfnewidiadau pwysig a chynnydd rhyfeddol yr enwad yn y Dyffryn, ysgrifena Dr. Price yn ei Juwbili fel y canlyn:—

"Yn ystod yr un mlynedd ar bymtheg diweddaf y mae cyfnewidiadau pwysig iawn wedi cymmeryd lle yn Aberdar. Mae y trigolion wedi cynnyddu yn fawr iawn, felly dylasai yn ol natur pethau fod cynnydd yn rhif yr aelodau yn yr eglwys er cadw ei safle yn unig, heb fod unrhyw wir gynnydd yn cymeryd lle, ac ystyried agwedd gynnyddfawr Aberdar a'i phoblogaeth. Ond y mae genym ni achos diolch i Dduw fod cynnydd y Bedyddwyr yn Aberdar am y pymtheg mlynedd diweddaf yn llawer mwy mewn cyfartaledd nâ chynnydd y boblogaeth. A rhoddi 91 o Fedyddwyr yn y flwyddyn 1846 ar gyfer trigolion Llwydcoed, Tai Penywaen, Heolyfelin. Abernant, Aberdar, Aberaman, Cwmaman, Abercwmboye, a Mountain Ash, byddai 650 o Fedyddwyr yn awr yn y lleoedd yna yn ateb i 91 yn 1846. Ond y mae eglwys Calfaria ei hun yn 1,031 o gymunwyr heddyw, tra y mae eglwysi Llwydcoed, Cwmdar, Heolyfelin, Carmel, Aberdar, Gwawr, Aberaman, Cwmaman, Abercwmboye, a'r Mountain Ash yn rhifo yn ychwanegol. Fel hyn y gwelir fod y Bedyddwyr wedi cynnyddu yn mhell iawn tu hwnt i gynnydd y boblogaeth yn Aberdar yn y pymtheg mlynedd diweddaf."

Rhydd y ffeithiau uchod i ni olwg ffafriol ar ffyddlondeb dihafal ac ymdrechion diflino y Bedyddwyr yn y dyffryn, yn o gystal ag enghreifftiau o weithgarwch a gofal annhraethol tywysog llu y Bedyddwyr yn y cwm—y Parch. Thomas Price. Ond nid yw yr hyn sydd wedi ei nodi allan genym etto ond rhan fechan iawn o'r gwaith mawr gyflawnwyd ganddo yn ei gyssylltiad ag achos y Gwaredwr yn Aberdar a'r cylchoedd. I sicrhau y llwyddiant enfawr a noda y Dr., gosododd efe ei holl alluoedd i gynllunio, trefnu, ac arwain yn gysson, mewn gweithrediad. Nid ydym yn gwybod am un eglwys Gymreig yn y Dywysogaeth wedi cael mwy o waith wedi ei dori allan iddi gan ei bugail, ac wedi ei chynnorthwyo yn helaethach ganddo, i'w gyflawnu yn llwyr ac effeithiol. Sefydlodd y Dr. yn gyssylltiedig â'r eglwys amryw gymdeithasau buddiol, yr oll o honynt yn hyrwyddol i'w llwyddiant a'i chysur parhaus yn mhob ystyr. Bu y sefydliadau hyn yn cael eu cario yn mlaen am flynyddau yn gyfundrefnol a gofalus, ac y mae rhai o honynt mewn bod ac yn llewyrchus hyd heddyw. Gan eu bod yn arddangos mewn graddau helaeth business tact y Dr., ac y gallent fod yn fanteisiol i weinidogion ac eglwysi ereill i fabwysiadu rhai tebyg, gosodwn rai o honynt yma, fel y gwelodd y Dr. yn dda eu hargraffu yn ei Juwbili:—

CYMDEITHASAU CYNNORTHWYOL YR EGLWYS.

"Y mae yn perthyn i'r eglwys amryw gymdeithasau cynnorthwyol, y rhai ydynt yn fath o adgyfnerthion i Seion i gael y byd i ufudd-dod Crist. Y mae y rhai hyn yn gweithio er daioni gyda ni, a charem weled cymdeithasau cyffelyb mewn ymarferiad yn ein heglwysi yn fwy cyffredinol nag ydynt yn awr. Y cyntaf a gawn nodi yw—

YR UNDEB CRISTIONOGOL.[3]

"Budd-Gymdeithas yw yr Undeb Cristionogol er lles yn benaf i aelodau y gynnulleidfa, ond yn agored i unrhyw ddyn ieuanc sobr a gweithgar a ddymunai ymuno â hi yn ol y Rheolau. Sefydlwyd hon yn y flwyddyn 1861. Y mae wedi para i gynnyddu a chryfhau o hyny hyd yn awr. Y mae pwysigrwydd ei gweithrediadau i'w canfod yn y ffaith fod ei derbyniadau arianol o'r dechreu hyd Ragfyr, 1861, yn cyrhaedd y swm o £1,197 15s. 4½/c., tra yr oedd y taliadau allan am yr un cyfnod yn cyrhaedd y swm o £878 10s. 1oC. Yr oedd ei Thrysorfa Gadw (Reserve Fund) ar ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf yn £300, tra yr oedd yn llaw y trysorydd £19 4s. 6½c. er cyfarfod â galwadau y cleifion. Y mae hwn yn un o'r clybiau rhataf a mwyaf llwyddiannus yn yr holl ardal. Mae ei weithrediadau yn cael eu dwyn yn mlaen yn hollol ddidwrw ac heb, hyd yma, un ffyrling o gamsynied arianol. Ar ol mwy na deng mlynedd o brofiad, yr ydym ni yn cymmeradwyo yr Undeb Cristionogol, neu ryw undeb cyffelyb, i sylw yr eglwysi trwy Gymru.

UNDEB DORCAS.

"Budd-Gymdeithas yw hon etto wedi ei sefydlu er mwyn merched a gwragedd y gynnulleidfa a'r gymmydogaeth. Cafodd hon ei sefydlu yn y flwyddyn 1853. Y mae wedi para i gynnyddu yn raddol o hyny hyd yn awr. Y mae ei derbyniadau o'r dechreu hyd fis Ebrill, 1862, yn cyrhaedd y swm o £274 9s. 3c. Yn yr un cyfnod, mae wedi talu allan mewn achosion o glefyd a marwolaeth y swm o £134 16s. Ioc. Y mae ganddi yn awr Drysorfa Gadw o £130 yn dwyn llog, tra y mae yn llaw y Trysorydd y swm o £9 12s. 5c. er cyfarfod galwadau y flwyddyn. Y mae y gymdeithas hon etto yn un a allwn ei chymmeradwyo i'r meddylgar yn ein heglwysi. Y mae rheolau argraffedig y cymdeithasau hyn wedi eu tynu i fyny gyda gofal am ddyogelwch, ac ar yr un pryd yn hollol syml a dirodres.

MAMMAETH MEIBION Y PROFFWYDI.

Cymdeithas yw hon wedi ei sefydlu i'r dyben da o gynnorthwyo y brodyr ieuainc a ddichon fod yn yr athrofeydd o'r eglwys hon. Y mae sefyllfa llawer o'n brodyr ieuainc da a duwiol tra yn yr athrofa yn gyfryw ag a ddylai gael mwy o sylw yr eglwysi sydd yn eu danfon hwy yno. Ni ddylent fod mewn cyfyngder am ddillad priodol tra yn yr athrofa; ond rhaid i lawer fod felly neu gael eu cynnorthwyo, neu yr hyn a fydd yn llawer gwaeth, myned i ddyled tra yn fyfyrwyr. Y mae y gymdeithas hon wedi ei sefydlu i'r dyben o gynnorthwyo ein brodyr ieuainc ydynt yn yr athrofeydd. Y mae y gymdeithas yn cael ei gwneyd i fyny o wragedd a merched yr eglwys, yn cael eu cynnorthwyo gan danysgrifiadau y brodyr. Eu cynllun fydd casglu trysorfa trwy roddion y gwirfoddiaid hyny a fyddant foddlon i'w cynnorthwyo; yna, prynu nwyddau; yn nesaf, rhoddi eu hamser a'u harian i weithio y nwyddau hyn yn ddillad yn ol natur yr alwad am danynt. Y mae gweithrediadau y gymdeithas hon yn ymddybynu llawer ar amgylchiadau ein myfyrwyr ar y pryd.

CYMDEITHAS LENYDDOL YR EGLWYS.

"Y mae y gymdeithas hon o agwedd wahanol iawn i'r rhai ag ydym wedi eu nodi yn barod. Y mae hon o nodwedd lenyddol hollol. Yr amcan mewn golwg yw gwrteithio talentau ein gwyr ieuainc, a chael allan y perlau a ddichon fod yn gorwedd yn llwch meddyliau rhai o aelodau ieuainc yr eglwys, ond etto, o ddiffyg cyfle, yn cadw o olwg y gweinidog a'r eglwys. Y mae hon genym yn fath o safon i brofi galluoedd, diwydrwydd, ac ufudd-dod ein pregethwyr ieuainc; trwy hyn, y mae y gweinidog a'r blaenoriaid yn cael cyfle i'w hadnabod cyn eu cymmeradwyo i'r athrofeydd. Y mae rhai yn ffyddlon iawn gyda hon. Y mae yn hon yn awr gymmeriadau a fyddant yn rhai o wyr enwog Israel yn y blynyddau dyfodol.

"Y mae maes y gymdeithas hon yn un helaeth iawn; mae yn ymdrin â dysgeidiaeth Feiblaidd yn ei hamrywiol gangenau—Athronyddiaeth Naturiol a Meddyliol, Darllenyddiaeth, Gwersi Grammadegol Cymraeg, Saesonaeg, Lladin, Groeg, a Hebraeg; Cyfansoddiadau, Dadleuon, Areithio, gyda phob cangen arall o ddysgeidiaeth o duedd i dynu allan dalentau ein haelodau ieuainc, gwrteithio y cyfryw wedi eu cael allan, a gwneyd yr aelodau yn y gymdeithas i fod yn mhob ystyr yn well aelodau yn yr eglwys.

YR ARIANDY CEINIOG.

Yr oedd hwn yn un o sefydliadau yr Eglwys hyd ddiwedd y flwyddyn 1861, pan roddwyd ef i fyny yn herwydd sefydliad yr Ariandy Cyffredinol yn y Llythyrfa. Yn y ddwy flynedd diweddaf darfu i ni, trwy yr Ariandy Ceiniog, gasglu mewn symiau mor fychain ag o geiniog i fyny yn wythnosol y swm o £687 14s. 2g. Mae y symiau hyn oll wedi eu talu yn ol i'r rhanfeddiannwyr bychain heb gymmaint a ffyrling o gamsyniad. Bu bodolaeth a gweithrediadau yr Ariandy Ceiniog yn foddion i brofi i ni fod gan eglwys Calfaria frodyr o fedr, dawn a thalent—o onestrwydd a chywirdeb dihafal—rhai ag y gall y gweinidog ymddibynu arnynt i ddwyn oddiamgylch unrhyw fudiad a fyddo yn gofyn am ffyddlondeb, amynedd, cywirdeb, manylwch, gweithgarwch, anrhydedd yr eglwys, a lles y genedl ienanc yo Aberdar. Yr ydym yn edrych yn ol ar weithrediadau yr Ariandy Ceiniog gyda hoffder a boddlonrwydd calon; ac yr ydym yn cofnodi y ffaith er mwyn dangos y fath ddaioni fedr ychydig o frodyr da wneyd yn eglwys Dduw.

"Y mae y cymdeithasau hyn o fwy pwys i'r eglwys nag a feddylir yn gyffredin. Yr ydym ni o'r farn y dylai yr eglwys gymmeryd gafael ar bob mudiad yn yr ardal a'r gymmydogaeth er eu cael i dalu gwarogaeth i Seion, a thalu teyrnged i'r achos mawr sydd wedi ei fwriadu gan Dduw i adferyd y byd. Dylai gweinidogion yr efengyl a'r eglwysi dan eu gofal edrych yn fanwl ar symmudiadau y gymdeithas ddynol Dylent ymdrechu i arwain a rhoddi cyfeiriad priodol i'r Clybiau, Budd Gymdeithasau, Sefydliadau Dyngarol, Cymdeithasau Llenyddol, Eisteddfodau, Cyngherddau, a phob rhyw fudiad cyffelyb. Os na fydd i grefyddwyr yr oes orbwyso yn, ac arwain y mudiadau hyn, bydd iddynt hwy yn fuan ymlygru, ac yn eu llygredd a'u bydolrwydd arwain i ddinystr gannoedd o aelodau ieuainc ein heglwysi. Yr ydym ni fel eglwys wedi gwneyd prawf ar amryw o'r pethau hyn, ac yn awr oddiar flynyddau o brofiad, yn gallu eu cymmeradwyo i sylw ereill yn y wlad."

Galwai y Dr. y cymdeithasau hyn yn Adgyfnerthion yr Eglwys, a chafodd eu bod yn dra chynnorthwyol iddi. Ond y fagwrfa benaf i'r eglwys yn ei olwg ef oedd yr Ysglo Sabbothol, yr hon a gymmerai y lle blaenaf yn mhlith y sefydliadau oeddynt yn gyssylltiedig â'r eglwys a than ei arolygiaeth ef. Credai yn fawr yn yr Ysgol Sul, ac yr oedd yn talu y sylw mwyaf iddi, a phob amser yn gwneyd ei oreu drosti.

Mewn defnyddioldeb a gwir wasanaeth i'r eglwys ystyrid y Gymdeithas Lenyddol yn nesaf at yr Ysgol Sabbothol, a dywed un cyfaill a fu yn aelod o honi am dymhor, fod y gymdeithas fuddiol hon wedi gwneyd gwaith rhagorol, ac wedi bod o wasanaeth enfawr i'r eglwys am flynyddau. Codwyd ynddi a thrwyddi fechgyn galluog i'r areithfa, ac y mae wedi magu llu mawr o lenorion addfed a gwych ydynt wedi cymmeryd eu safleoedd yn anrhydeddus yn mhlith beirdd a llenorion ein gwlad. Ni wyddom am ddim yn fwy effeithiol i ddangos eangder meddwl y Dr., yn nghyd â'i feddylddrych am gyflawnder o waith i'r "bobl ieuainc," fel y dywedai, yn nghyd â'i chwaeth uchel yn nosraniad y gwaith, nâ chynllun neu ragdrefn y Gymdeithas Lenyddol, yr hon, er mantais i'r darllenydd gael golwg weddol gywir ar Price yn ei berthynas â phobl ieuainc ei eglwys a'i gynnulleidfa, a osodwn yma:—

CYFANSODDIAD CYMDEITHAS LENYDDOL CALFARIA, ABERDAR.

'Llywydd Y Parch. Thomas Price, M.A., PH.D. Trysorydd—E. G. Price, Yswain. Ysgrifenydd—Mr. Benjamin Hinton. Is-Lywydd. ion—Mri. Henry Davies a Henry Jones. Gramadegau—E. G. Price, Ysw., Mri. J. Jones a J. Rees. Daearyddiaeth—Mr. Benjamin Hinton. Arferiadau yr Iuddewon, ac Athroniaeth—E. G. Price, Ysw. Darllenyddiaeth, Traethodau, Cyfieithiadau, Areithiau, Dadleuon, Amseryddiaeth, &c.—Y Llywydd a'r Is—Lywyddion. Pwyllgor—Mri.W. Davies, W Evans, D. Adams, D. Evans, E. Jones, Yr Is-Lywyddion, a'r Athrawon.

TALIADAU.

"Aelod cyffredin i fwynhau pob rhan ond y Gramadegau, Tair Ceiniog y Chwarter; aelodau yn dysgu Gramadeg, Chwe Cheiniog bob tri mis.

"Mae yr ysgol hon yn rhydd i bawb, pa un a fyddant yn perthyn i gynnulleidfa Calfaria ai peidio; ond taer ddymunir ar ieuenctyd ein hysgolion i wneyd y defnydd goreu o honi.

"Bydd gwers mewn darllen Saesneg yn cael ei rhoddi bob nos cyfarfod; hefyd, bydd gwers mewn Gramadeg Saesneg bob nos, yn dechreu am 7 o'r gloch. Y pethau ereill yn ol y Rhagdrefn.

Ymofyner am aelodiaeth â Mr. B. Hinton, Ysg. Myg.

RHEOLAU.

"I. Fod y gymdeithas hon i gael ei galw wrth yr enw 'Cymdeithas Lenyddol Calfaria, Aberdar,' a bod ei chyfarfodydd i gael eu cynnal yn Vestry Capel Calfaria.

"II. Fod y gymdeithas i gael ei rheoleiddio gan lywydd, tri neu ragor o is—lywyddion, trysorydd, ysgrifenydd, gyda phwyllgor o chwech o bersonau—yr oll i feddu hawl i siarad a phleidleisio yn holl gyfarfodydd y pwyllgor, a'r oll i gael eu dewis trwy bleidlais o blith yr holl aelodau, a'r oll i fyned allan o swydd ar ben y flwyddyn, ond bod yr oll yn gymhwys i gael eu hail ethol, os bydd yr aelodau yn dewis gwneyd hyny.

III. "Fod holl aelodau yr eglwys yn Nghalfaria, a gwrandawyr y cynnulleidfaoedd yn Nghalfaria, Bethel, Gadlys, a'r Ynyslwyd, hefyd holl athrawon a dysgyblion yr Ysgolion Sabbothol yn y lleoedd uchod, gydag unrhyw berson arall a gymmeradwyir fel un o gymmeriad da—yn gymhwys i fod yn aelodau o'r gymdeithas, os bydd iddynt ymrwymo i dalu y gyfran chwarterol yn unol â Rheol IV., ac hefyd gydymffurfio â'r holl reolau hyn.

"IV. Dyben y Gymdeithas fydd diwyllio meddyliau yr aelodau, trwy gyfranu gwybodaeth yn y cangenau canlynol o ddysgeidiaeth:

1. Beiblaidd.—(a) Hanesiaeth Ysgrythyrol; (b) Amseryddiaeth y Beibl; (c) Cysgodau yr Hen Destament; (d) Seremoniau yr Hen Destament; (dd) Arferiadau yr Iuddewon; (e) Proffwydoliaethau a'u Cyflawniadau; (f) Daearyddiaeth Gyssegredig; (ff) Partheg (Topography) Gwlad Canaan; (g) Bywgraffiadau Beiblaidd; (ng) Bywyd Crist ar y ddaear; (h) Swyddau Cyfryngol Crist; (i) Cyfansoddiad yr Eglwys; (m) Athrawiaethau yr Ysgrythyrau; (n) Hanesiaeth Eglwysig.

2. Ieithyddol.—(a) Grammadeg Cymraeg, Saesneg, Lladin, Groeg, a Hebraeg: (b) Cyfieithu o iaith i iaith; (c) Sillebiaeth; (d) Darllenyddiaeth.

3. Cyfansoddiad.—(a) Cyfansoddiad Traethodau; (b) Cyfansoddiad Areithiau.

4. Areithyddiaeth.—(a) Areithiau ar y testynau uchod; (b) Dadleuon ar bynciau neillduol.

5. Athroniaeth.—(a) Athroniaeth Naturiol; (b) Athroniaeth Feddyliol.

6. Cynniledd—(a) Cynniledd Teuluaidd.

Gydag unrhyw destun neu destunau ereill a ddichon gael eu cynnyg gan aelodau y gymdeithas o bryd i bryd, ac a fernir yn ddyddorol gan y pwyllgor.

V. Fod dewisiad y testunau, a'r dull cyffredin o'u trafod, yn cael eu hymddiried i'r pwyllgor—tra y gall unrhyw aelod, ar unrhyw bryd gynnyg testun neu destunau i sylw y pwyllgor.

VI. Fod pob person wrth ddyfod yn aelod o'r gymdeithas i dalu y swm o dair ceiniog, a'r un swm yn chwarterol. Bydd i chwarter y gymdeithas ddechreu ar y nos cyfarfod cyntaf yn mis Ionawr, Ebrill, Gorphenaf a Hydref, yn mhob blwyddyn.

VII. Bydd i'r Llywydd, os yn wyddfodol, lywyddu holl gyfarfodydd y gymdeithas yn ei absenoldeb, un o'r is lywyddion; ond os na fydd un o'r is—lywyddion yn bresenol, unrhyw aelod a etholir ar y pryd i fod yn Llywydd am y cyfarfod hwnw.

VIII. Fod dysgu Grammadeg i gael ei ystyried yn ran neillduol o weithrediadau y gymdeithas, ac fod i bob un a ddewiso ymuno â'r Dosparthiadau Grammadegol dalu tair ceiniog yn y chwarter yn ychwanegol at y swm o dair ceiniog a delir ganddynt at dreulion cyffredin y gymdeithas.

IX. Ni chaniateir mygu na siarad ofer yn ystod oriau y cyfarfod; a bydd yn rhaid i bob un ufuddhau i alwad y Llywydd am ddystawrwydd a threfn pan alwo am hyny, neu fod yn agored i ddiaelodiad o'r gymdeithas.

X. Pan fyddo testyn yn cael ei ddadleu, arferir rheolau Tŷ y Cyffredin, gyda y gwahaniaeth na fydd un bleidlais i'w chymmeryd ar ddiwedd ymdriniad â'r pwnc mewn dadl.

XI. Ni chaniateir i un aelod wneyd unrhyw gyfeiriad personol ac anfoneddigaidd o duedd i ddolurio teimlad un o'i gyd-aelodau.

XII. Bydd i gyfarfodydd y gymdeithas ddechreu am 7 o'r gloch, a diweddu am 9 o'r gloch yr hwyr.

XIII. Hyd ag y gellir, bydd i gyfarfodydd y gymdeithas gael eu cynnal o leiaf unwaith bob wythnos, ac os bydd modd, ar nos Fawrth yn mhob wythnos.

XIV. Bydd arholiad cyhoeddus yn chwarterol, hanner-blynyddol, neu yn flynyddol, i gymmeryd lle, er gweled gweithrediadau y gymdeithas a chynnydd yr aelodau mewn gwybodaeth. Amser a threfn yr arholiadau i'w gadael i'r pwyllgor.

"Ac er mwyn rhoddi golwg ar y gweithrediadau, rhoddwn yma y cynllun o weithredu am yr hanner blwyddyn. Y mae hwn fel cynllun yn siampl o'r hyn sydd yn barhaus, ond fod y pynciau yn cael eu newid a'u hamrywio:—

Rhagdrefn am y Chwe' mis yn dechreu Hydref 6ed, 1863, ac yn diweddu
Mawrth 25ain, 1864.

YR WYTHFED A'R NAWFED CHWARTER.

Hydref 6, 1863—Adolygiad cyffredinol ar weithrediadau y tri mis blaenorol—Awgrymiadau—Siarad rhydd—Derbyn aelodau.

Hydref 13—Gwladlywiaeth yr oruchwyliaeth Foesenaidd, Rhan I —Siarad rhydd ar y pwnc uchod—Darllen Saesneg.

Hydref 20—Daearyddiaeth—Teithiau Crist—Y daith o Bethlehem i'r Aifft ac yn ol i Galilea—Butler's Analogy—Siarad rhydd—Areithiau ar Beth yw addysg y ddiareb 'Heb Dduw heb ddim.'

"Hydref 27—Gwladlywiaeth yr oruchwyliaeth Foesenaidd, Rhan II. —Siarad rhydd—Areithiau ar Ysgol Jacob, yr hanes a'r addysgiadau.

Tachwedd 3—Athroniaeth Naturiol—Darllen Traethawd gan Mr. Henry Jones, yn Saesneg, ar 'Lle y mae ewyllys mae ffordd '——Siarad rhydd.

Tachwedd 10—Arferiadau yr Iuddewon—Y trigfanau, Rhan I.— Siarad rhydd—Areithiau ar ystyr y ddiareb, 'Duw a digon.'

Tachwedd 17—Daearyddiaeth—Taith Crist o Nazareth i Jerusalem ar amser yr wyl—Analogy Butler—Darllen Saesneg.

Tachwedd 24—Arferiadau yr Iuddewon—Eu trigfanau, Rhan II.— Areithiau ar Jacob yn nhŷ ei ewythr Laban–Crynodeb o'r hanes a'r addysgiadau.

Rhagfyr 1—Athroniaeth Naturiol— Beirniadaeth ar y Traethodau ar gymmeriad Moses, Rhan I.—Cymmerir golwg ar ei rieni, ei enedigaeth, ei fabwysiad, ei ddygiad i lŷs yr Aifft, a'i sefyllfa yno—Siarad rhydd ar y pwnc hwn—Darllen Saesneg.

Rhagfyr 8—Daearyddiaeth—Taith gyntaf Crist yn ystod ei weinidogaeth gyhoeddus—Arferiadau yr Iuddewon—Y gwib—deuluoedd. Rhan I.—Analogy Butler—Siarad rhydd.

Rhagfyr 15—Hanesiaeth Ysgrythyrol—Galwad ac ufudd—dod Abraham, Genesis xi. 27—32; Genesis xii. 1—5, ac Actau vii. 2—4—Darllen Saesneg.

"Rhagfyr 22—Arferiadau yr Iuddewon—Y gwib deuluoedd, Rhan II.—Darllen papyr Saesneg gan Mr. John Rees ar 'Hanes, cymmeriad, ac addysgiadau bywyd Abraham'—Siarad rhydd.

Rhogfyr 29—Daearyddiaeth—Ail daith Crist yn ystod ei weinidogaeth gyhoeddus—Analogy Butler—Beirniadaeth ar y Traethodau ar Fywyd Moses, Rhan II.—Ei ymadawiad â llys yr Aifft—Lladd y dyn —Ffoedigaeth i Midian—Ei briodas a'i arosiad yno am 40 mlynedd— Siarad rhydd ar y pwnc hwn.

Ionawr 5, 1864—Arferiadau yr Iuddewon—Eu gwisgoedd, Rhan I. Dadl—'A ellir cyfiawnhau ymddygiad Jacob yn ei ddull o godi ei gyflog pan yn ngwasanaeth ei ewythr?'—Hefyd, ' Ei ddull o ymadael â gwasanaeth ei ewythr?'

Ionawr 12—Athroniaeth Naturiol—Darllen papyr Saesneg gan y Parch. James Jones ar Nodweddau ac addysgiadau bywyd Isaac'—Siarad rhydd.

Ionawr 19—Daearyddiaeth—Trydedd daith Crist yn ystod ei weinidogaeth gyhoeddus—Hanesiaeth Ysgrythyrol—Ymadawiad Abraham a Lot, Genesis xiii.—Siarad rhydd ar addysgiadau yr hanes.

Ionawr 26—Yr Iuddewon—Eu gwisgoedd, Rhan II.—Darllen papyr yn Saesneg gan y Parch. David Adams ar Hanes, cymmeriad ac addysgiadau bywyd Jacob'—Siarad rhydd ar y pwnc hwn. "Chwefror 2—Areithiau ar Ymweliad y doethion á'r Mab bychan a'i fam–O ba le y daethant ?—Beth oedd yn eu cynhyrfu ?—Natur eu parch?— Nodwedd eu rhoddion ?—a'r addysgiadau i ni?—Darllen Saesneg.

Chwefror 9——Yr Iuddewon—Eu bwydydd, Rhan I.—Darllen papyr Saesneg gan Mr. Humphrey James ar' Hanes, nodweddau, a disgynyddion Esau, mab Jacob'—Siarad rhydd ar y testyn uchod.

Chwefror 16—Athroniaeth Naturiol—Butler's Analogy—Siarad Rhydd—Beirniadaeth y Traethodau ar Moses, Rhan III—Y deugain mlynedd olaf o'i fywyd—Siarad rhydd ar y pwnc hwn.

Chwefror 23—Daearyddiaeth—gwlad Canaan yn ei maintioli, hyd a lled, yn gymharol ac yn gyferbyniol i Gymru—Darllen papyr yn Saesneg gan Mr. David Jones, ar 'Hanes bywyd a nodweddion Ishmael a'i ddisgynyddion '— Siarad rhydd ar y testun hwn.

Mawrth 2—Yr Iuddewon—Eu bwydydd, Rhan II.—Areithiau— Cwymp Jericho—Rhan y bobl, a llaw Duw yn y gwaith—Darllen Saesneg.

Mawrth 9—Athroniaeth Naturiol—Darllen papyr yn Saesneg gan Mr. Jeremiah James, ar 'Broffwydoliaethau Jacob am Reuben, Simeon, a Juda'—Darluniad o nodweddau y meibion, a chymmeriad y llwythau yn ol llaw—Siarad rhydd.

Mawrth 19—Yr Iuddewon—Ansawdd eu cymdeithas deuluaidd, Rhan I.—Butler's Analogy—Siarad rhydd—Darllen Saesneg.

Mawrth 23—Areithiau ar y Gibeoniaid—Eu dyfodiad at Joshua, eu twyll, eu haniad, eu bwydydd, a'u hesgidiau—Y cyfammod a'i ganlyniadau—Joshua ix.—Darllen papyr yn Saesneg gan David Williams, ar Proffwydoliaethau Jacob am Zabulon, Issacar, Dan, Gad, Aser, a Naphthali, gan nodi allan nodwedd bersonol y meibion gyda hanes y llwythau '— Siarad rhydd ar hyn.

Mawrth 30—Yr Iuddewon—Ansawdd eu cymdeithas deuluaidd, Rhan II.—Beirniadaeth y traethodau ar hanes, cymmeriad, ac addysg bywyd Joseph—Siarad rhydd—Dadl—A oes rhyw reswm i gredu fod Ioan Fedyddiwr yn gweinidogaethu dan yr Hen Oruchwyliaeth?

Mae y Traethodau at eu beirniadu i fod yn llaw y llywydd wythnos cyn y cyfarfod, yn yr hwn y byddant yn dyfod i sylw.

"Os bydd i un o'r aelodau ymwrthod â darllen papyr Saesneg, wedi addaw, bydd yn ofynol iddo roddi pythefnos o rybudd o hyny, fel y gellir darparu arall yn ei le."

Yr oedd y Dr yr un mor gyfundrefnol gyda y cymdeithasau ereill, ac yn llawn mor ofalus ar ol eu gweithrediadau. Teimlai ddyddordeb neillduol ynddynt, gan eu bod, mewn ystyr, yn blant ei feddwl ac yn gynnyrchion ei ddarfelydd ei hun, ac yn profi, fel y nodai, yn dra gwasanaethgar a buddiol i'r eglwys a'r gynnulleidfa. Mae yn wir ei fod yn cael llawer iawn o gynnorthwy brodyr da a charedig gyda y gwaith mawr oedd yn cael ei gyflawnu gan y cymdeithasau hyn oeddynt yn gyssylltiedig â'r eglwys. Nid ydym yn gwybod am lawer, os am neb, wedi bod bob amser yn fwy ffodus yn ei ddiaconiaid nâ'r Dr., ac yr oeddynt hwy yn cymmeryd rhan dra blaenllaw gyda phob symmudiad o bwys yn holl gyssylltiadau yr eglwys. Hefyd, cododd yn yr eglwys nifer lluosog o ddynion ieuainc o dalent a chymmeriad, y rhai fuont ar eu heithaf yn cydlafurio yn heddychol â'r Dr. enwog, megys ei lysfab, Mr. Edward Gilbert Price; y Parch. James Jones, Abercwmboye, wedi hyny, Tonyrefail (yr oedd efe yn ddiau yn genius, a phe cawsai fyw, y mae yn ddyogel genym y buasai wedi rhoddi prawfion diamheuol o hyn); Gwerfyl James, a'i frawd James Spinther James, yr hwn erbyn heddyw sydd yn un o hynafieithwyr ac ysgrifenwyr goreu Cymru, yn llenor o nod ac enw, ac wedi graddio yn Athraw Celfyddydol; David Griffith, yn awr o Aberafon; a'r diweddar Barch. George Thomas, Porth. Yr oedd y rhai hyn ac ereill yn cael gwneyd eu rhan gan y Dr. yn nygiad yn mlaen waith amrywiol yr eglwys, yn neillduol yn y Dosparth Llenyddol a'r Ysgol Sul. Etto, enaid y gwaith—yr yspryd mawr symmudol yn yr holl weithrediadau—oedd y Dr. ei hun. Efe oedd yr ager yn y peiriant—yr haul yn y cyfundrefnau. Cawsai gan ei fedr i lywodraethu ac i arwain bob olwyn yn y peiriant i droi yn naturiol a thra ystwyth. Taflai oleuni ar holl gyssylltiadau y cyfundrefnau y perthynai iddynt, a thynai allan fywyd ac egnion pawb oedd yn perthyn iddynt. Trwy hyn, galluogwyd ef i wneyd toraeth o waith yn ei eglwys yn Aberdar a'r cylchoedd fydd yn glod i'w enw ac yn anrhydedd i'w ben a'i galon am oesau lawer i ddod.

Yr oedd Price hefyd yn neillduol weithgar a ffyddlawn gyda'r Ysgol Sabbothol. Mynychai hi yn y boreu hyd y blynyddau olaf o'i fywyd, ac yr oedd yn dra chysson yn mhrydnawn y Sul pan fyddai gartref. Bu dosparth dan ei ofal drwy y blynyddau yn rheolaidd yn yr Ysgol bob prydnawn y Sabboth. Yr oedd hefyd yn gweithredu fel athraw yn Ysgol y boreu, er fod gofal y dosparth yn cael ei gymmeryd gan un neu ddau o'r diaconiaid. Yr oedd ganddo amryw o frodyr galluog yn ei ddosparth, a theimlent ddyddordeb mawr yn yr Ysgol ar gyfrif y wybodaeth gyffredinol a dderbynient gan yr enwog Ddr. Defnyddiai yn gyffredin ddarlunlen (map) at wasanaeth ei ddosparth, a byddai bob amser yn awdurdod ar bwyntiau o ddaearyddiaeth, hanesiaeth, ac amseryddiaeth Feiblaidd. Yn fynych, clywid rhai yn yr Ysgol yn dweyd, "Onid yw y Dr. yn ddoniol? Y mae efe fel encyclopædia yn mhob pwnc." Yr oedd ei wybodaeth gyffredinol yn ddiarebol, a'i arabedd pan yn esponio yn ei ddosparth mal rhaiadr yn disgyn ar glustiau y dysgyblion. Yr oedd yn nodedig am ei ofal am y plant a'r bobl ieuainc yn ei Ysgol a'i eglwys. Torai bob amser ddigon o waith allan iddynt, ac ymhyfrydai siarad â'r plant a'u cefnogi yn mhob modd. Nid oedd y lleiaf a'r dystadlaf o honynt islaw ei sylw. Byddai bob amser yn siriol-ar ei wên yn myned oddiamgylch y dosparthiadau ychydig amser cyn eu diweddu, ac yr oedd yn dra charedig a moesgar i bawb. Yr oedd y plant yn hoff iawn o hono; gwaeddent allan pan welent ef yn dod, "Mr. Price,” "Price Penpound." Yr oedd hyn yn ei foddhau yn fawr, ac yr oedd gydag ef air caredig i'w ddweyd wrth bob un o honynt. Cyfrifai hyn o bossibl i raddau helaeth am ei lwyddiant gyda'r Ysgol Sabbothol. Yr oedd yr Ysgol Sul yn llewyrchus yn Mhenypound er yn foreu, a llwyddodd Price i gadw bywyd ynddi drwy y blynyddau, ac nid yn unig hyn, ond i greu a throsglwyddo yspryd y fam-eglwys yn y cangenau.

Gosodai y Dr., er mwyn cadw y dyddordeb i fyny, wahanol bynciau Ysgrythyrol i'w myfyrio gan yr Ysgol, a newidiai y cynlluniau yn fynych, rhag y byddai gormod o unffurfiaeth mewn dull ac unrhywiaeth mewn gwaith a llafur yn eu lladd, fel y goddefir yn fynych yn ein Hysgolion Sabbothol. Holai yr ysgol yn fynych ei hun, a gosodai ereill i wneyd brydiau ereill. Yr oedd yn hynod eiddigeddus gyda golwg ar iachusrwydd yr athrawiaethau. Yr oedd bod yn orthodox yn beth mawr yn ei olwg ef. Pan welai rai yn tueddu myned ar gyfeiliorn, arweiniai hwynt yn ol yn ofalus, fel bugail tyner yn dychwel ei wyn crwydredig; ac os buasent yn ben-galed a chyndyn i gymmeryd eu harwain, rhoddai ergydion trymion iddynt nes y teimlent mai gwell oedd peidio ymgyndynu ag ef. Rhoddwn yn unig yma un enghraifft o hyn, yr hon, gan ei bod yn lled nodweddiadol o hono, a ystyriwn yn ddigon i'n gwasanaethu yn y mater dan sylw. Yr oedd yn perthyn i'r Ysgol Sul un adeg hen frawd da o Sir Benfro, o'r enw Shem Davies. Yr oedd Shem yn Uchel-Galfinwr. Arferid yr adeg a nodwn i'r dosparthiadau roddi adnodau dyrus y naill i'r llall i'w hesponio a'u hegluro. Yr oedd Shem a'i ddosparth wedi cael, yn ei dro, adnod i'w hesponio, yna yr oedd ganddo hawl i roddi adnod yn ol a chael esponiad arni. Rhoddwyd esponiad cyflawn ac eglur, fel y tybid, i Shem a'i ddosparth. Yna cododd y Dr., a gofynodd, Ydych chwi wedi cael eich boddloni, Shem, ar yr esponiad hwna?" Gyda golwg anfoddog, cododd Shem, a dywedodd "fod rhywbeth yn nglyn ag etholedigaeth ddiammodol a pharhad mewn gras yn peru iddo edrych ar yr adnod mewn goleuni hollol wahanol." Ond cyn agor y ddadl ar y mater, oblegyd i hyn yr oedd pethau yn arwain, cododd y Dr., a dywedodd yn hyf, fel yr arferai mewn amgylchiadau o'r fath, “Er mwyn Duw, Shem, eisteddwch i lawr, a thewch a son, y mae eich pen chwi wedi ei lanw â chymmaint o hooks a bachau crochan hen Galfiniaeth, nes y mae y tipyn synwyr a gawsoch wedi ei golli yn llwyr." Eisteddodd Shem i lawr yn eithaf tawel, a therfynwyd yr ysgol. Ymadawodd pawb wedi eu lloneiddio ychydig gan atebiad doniol y Dr. Byddai efe yn gyffredin yn gwybod, nid yn unig yn pa le i daro, ond hefyd yr adeg briodol i wneyd hyny; a phan yn ergydio gwnelai hyny, fel y dywedir, i dref. Yna cymmerai pobpeth ei gwrs yn llyfndeg am amser maith. Dyoddefai y bobl ganddo i ddweyd weithiau yn llym a chaled wrthynt, oblegyd gwelent bob amser ynddo ddyn gonest a gwynebagored, a theimlent fod ganddo galon ac yspryd rhagorol; felly nis gallai hyd y nod y rhai a fuasent yn awr ac eilwaith yn cael teimlo pwysau ei ordd lai na'i garu a'i barchu, wedi'r cwbl. Nid yn unig yr oedd y Dr. yn fynychydd cysson o'r Ysgol Sabbothol, ond yr oedd hefyd yn teimlo dyddordeb neillduol yn yr ysgol ganu, ac yn talu sylw neillduol i'r ddau gôr, sef y cor mawr a'r côr bach oedd yn ei eglwys. Gwelwn oddiwrth ddyddiaduron y Dr., ac y mae tystiolaethau aelodau y corau yn profi yr un peth, ei fod i'w weled yn aml yn yr ysgol gân. Yr oedd, ac y mae, bob amser, ddau gôr yn Nghalfaria-y côr mawr a'r côr bach, fel eu gelwir, ac y mae y ddau gor wedi gwneyd gwaith rhagorol yn yr eglwys hon erioed. Cofnoda y Dr. ei ymweliadau i'r ysgol gân mor ofalus ag y gwna groniclo ei fynychiadau yn y cwrdd gweddi neu'r gyfeillach. Ystyriai y corau yn deilwng o bob cefnogaeth, a chanu y cyssegr mor bwysig ag unrhyw ran o'r gwasanaeth Dwyfol. Cadwodd ei bresenoldeb yn yr ysgol ganu, yn ddiau, "gythraul y canu" oddiwrth y cor lawer gwaith, oblegyd byddai yn arw iawn rhwng Price a'r cantorion pan ddeuai Mr. Pwd i fewn i'r cor. Dywedai ei feddwl wrthynt yn weddol lym weithiau, ac wrth wneyd hyn byddai yn debyg o ddweyd rai pethau lled ddoniol. Yr oedd aelod o'r cor unwaith, o'r enw Evan Jones, wedi tramgwyddo, ac yn y gyfeillach un tro pallai Evan wneyd yr hyn a geisiai y diaconiaid ganddo, a bu ychydig ddiflasdod yno o'r herwydd. Cododd y Dr. ar ei draed, a gofynodd, "Paham na wnewch fel y ceisia y diaconiaid, Evan? Wel, wn I ddim, yn enw Duw, beth sydd y mater ar y bachgen, y mae fel pe yn gwisgo spectols gleision bob amser, ac yn byw ar wynt a chrafion erfin y cythraul trwy y flwyddyn." Chwerthinodd pawb, a darfu y cwbl yn y man.

Dro arall yr oedd Evan wedi pwdu, ac wedi gadael y cor a'r capel am ychydig. Yn y cyfamser cyrchai i'r Gadlys, a phan yno ymunai â'r cor. Yr oedd y Dr. yn pregethu un Sabboth yn y Gadlys, ac yn meddwl ei fod yn gweled Evan ar front y gallery, cododd ei spectol i fyny, ac edrychodd yn graff ar y cantorion, a dywedodd, "Evan, ti sydd yna? Os oes gormod o'r diawl ynot ti i ganu gyda'r cor yn Nghalfaria, nid wyt i ganu yma heddyw. Symmud i'r ochr, wnei di." Gwnaeth Evan ei gais yn uniongyrchol, a bu hyn, mae yn debyg, yn foddion nid i yru Evan yn mhellach, ond i'w wella i raddau o'r yspryd pwdu. Triniai Price y bechgyn a'r merched yr un fath fel hyn weithiau. Dywedai y drefn wrthynt yn ddidderbyn-wyneb, ac yn aml yn arw iawn; ac etto, yr oedd yn garedig iddynt ac yn hoff iawn o honynt, a hwythau, er pob croesdynu, yn ei garu ef yn fawr. Dywedai un o aelodau hynaf a mwyaf sefydlog y cor, yr hwn sydd hefyd yn ddiacon parchus yn yr eglwys, sef Mr. Walter Leyston, fod y Dr. yn un neillduol dda yn yr ysgol ganu, ac yn hynod garedig iddynt fel cantorion. Credai fod y Dr. wedi rhoddi gwerth ugeiniau o bunnoedd o lyfrau i'r corau o'i logell ei hun. Pan oddicartref prynai bob llyfr a welai o werth i'r corau, a mynai iddynt gael y llyfrau goreu at eu gwasanaeth. Calonogai hyn y cantorion yn fawr, felly ymegnient i gael canu da bob amser. Cynnorthwyai hyny y weinidogaeth i ennill a chadw cynnulleidfa dda. Cafodd Calfaria ei bendithio nid yn unig â gweinidog da yn y pwlpud, ond hefyd, yn gyffredin, ag arweinwyr da o flaen y corau. Bechgyn da oedd John a Shem, dilladyddion fuont yn arwain yn yr hen Benypound, bron yr adeg gyntaf y daeth Price yno. Wedi hyny cafwyd gwasanaeth John, mab Henry Moore; Thomas, neu, fel eu gelwid ef yn gyffredin, Twmi Parry; Bili Shon Morgan, o Rymney gynt; John Roberts, awdwr y dôn, "Alexander;" Jenkin Howell, ac yn ei ganlyn y ddau frawd o ardaloedd y Groesgoch a'r Mathry, ger Llangloffan, Swydd Benfro, George a William Griffiths. Yna dychwelodd y cor eilwaith i ofal Jenkin Howell. Dilynwyd ef drachefn gan y brawd talentog Evan Leyshon, yn awr argraffydd, Porth; y medrus Theophilus Jenkins, ysgolfeistr Abernant; ac wedi hyny gan yr arweinydd presenol, Daniel Griffiths. Mae corau Calfaria, am dymhor maith, wedi bod yn cynnal budd-gyngherddau blynyddol i glirio dyledion yr eglwys yn y lle, ac y maent wedi sylweddoli symiau mawrion o arian bob tro, yn neillduol gan eu bod yn gweithio'r cyngherddau i fyny ar ychydig draul. Nid oedd un aelod o'r cor yn gweithio yn fwy egniol a ffyddlawn i gael y cyngherddau hyn i fyny na'r Dr. Yr oedd yn sicrhau nawdd- ogaeth prif deuluoedd y dref a'r gymmydogaeth. Nid yn unig sicrheid cynnalleidfa a orlenwai y capel ar noson y gyngherdd; eithr byddai yn un dra pharchus ac anrhydeddus. Byddai y Dr. gyda'r cantorion fel un o honynt, a gofalai am danynt fel tad tyner a gofalus. Wrth ddiolch ar ddiwedd y cyngherddau am y gefnogaeth oeddynt wedi ei gael, dywedai eiriau caredig am y cor a'i weithgarwch. Ymffrostiai ynddynt fel ei blant ei hun. Dywedai mor ddoniol, fel y taflai braidd ddigon o yspryd ynddynt i fyned yn mlaen gyda'u gwaith am flwyddyn gyfan. Yr oedd yn hynod fforddus yn hyn. Llwyddai i gadw y corau yn dda dan law, a phob amser mewn hwyl ac yspryd gweithio.

Yr oedd y Dr. yn enwog am ei ofal o lechres aelodiaeth yr eglwys. Rhoddai gerdynau aelodiaeth, yn cynnwys dyddiad eu derbyniad i'r eglwys, wedi eu llawnodi ganddo ef ei hun, y rhai yn gyffredin a gedwid yn barchus a gofalus gan y cyfryw aelodau drwy y blynyddau. Coflyfrai y manylion am danynt, megys lle a dyddiad eu genedigaeth, dyddiad eu bedyddiad a'u derbyniad i'r eglwys. Gwnai hyn hefyd â'r rhai a dderbynid i'w eglwys drwy lythyrau. Ni welsom neb erioed yn fwy cyfundrefnol gyda hyn nag ef. Yr oedd yn gredwr mawr yn yr adnod bwysig hono o eiddo yr apostol, "Gwneler pob peth yn weddus ac mewn trefn." Perai syndod edmygol i lawer i edrych ar y modd y mae efe wedi cadw llechres-lyfr yr eglwys trwy y blynyddau meithion y bu yn weinidog arni.

Arferai hefyd y gofal a'r manylwch mwyaf gyda chyfrif- on amrywiol a gwahanol yr eglwys. Er fod gydag ef bob amser ysgrifenydd manwl a llu o ddiaconiaid gofalus, a thrysorydd galluog a ffyddlon, etto mynai ef weled fod y gwaith yn cael ei wneyd gyda'r llwyredd mwyaf. Cyhoeddai fantol-len a chyfrifon arianol yr eglwys bob blwyddyn, ac yr oedd hyn yn gynnorthwyol i gadw tangnefedd yn yr eglwys, ac i'w symbylu i fwy o gydweithred- iad, gweithgarwch, ac ymddiriedaeth. Pan gyflwynai y swyddogion eu mynegiadau o weithrediadau yr eglwys am y flwyddyn, yn nghyd â chyfrifon arianol pob trysorfa, rhoddai yntau ei anerchiad iddynt. Cawn amryw o'i anerchiadau i'r eglwys, a'r cyfrifon arianol wedi eu hargraffu yn fân bamphledau, ac ereill wedi eu cyhoeddi yn Seren Cymru. Fel hyn, gwelwn fod y manylwch a'r llwyrder mwyaf yn cael eu harfer ganddo i weled nad ydoedd un adran o'r fyddin ysprydol oedd wedi ei hymddiried i'w ofal yn esgeuluso ei gwaith. Nid oedd yn caniatau gwywder yn un rhan o'r cyfansoddiad. Yr oedd "cyfander a llwyredd ' gwaith yn bwysig yn ei olwg ef, ac y mae hyn i raddau helaeth, yn ddiddadl, yn cyfrif am gyflwr iachus a dymunol, yn o gystal ag am sefyllfa ragorol yr eglwys yn Nghalfaria yn mhen deunaw mlynedd o'i weinidogaeth, sef yr adeg y cyhoeddodd ei Jubili i'r eglwys. Yno dengys

sefyllfa yr eglwys fel y canlyn:—

SEFYLLFA BRESENOL EGLWYS CALFARIA.

Mae yr eglwys hon wedi cael y fraint o fod yn llawen fam plant. Y mae wedi gwneyd ei rhan i fagu a meithrin ei merched, ond mae hi fel eglwys yn para yn gryf a nerthol; mae yn lluosog a gweithgar. Y mae yn awr mewn cyflwr i wneyd cymmaint o ddaioni ag y bu ar unrhyw adeg flaenorol. Nid yw ei phlant wedi difa eu nerth, ac nid yw hithau wedi myned yn hen yn ngwasanaeth ei Harglwydd. Y mae yr eglwys hon o'r flwyddyn 1845 wedi gollwng aelodau er ffurfio y gwahanol gangenau, y nifer o 484; er hyn oll, mae ei rhif hi yn para yn fawr, a'i nerth heb wanhau, gan na fu yr eglwys erioed mewn cystal cyflwr ag y mae yn awr.

Ni a roddwn yma enwau swyddogion yr eglwys, rhif ei haelodau, cyflwr ei hysgolion, ei gwerth meddiannol, gyda y ddyled arosol ar feddiant yr eglwys.

Gweinidog—Y Parch. Thomas Price. Gweinidogion Cynnorthwyol —Y Parchn. David Hopkins, David Adams, Ebenezer Morgans[4] Pregethwyr Cynnorthwyol—Y brodyr James Jones, Humphrey James, David Jones, Jeremiah James, David Williams, George Thomas. David Morgan. Diaconiaid—Benjamin Lewis, Philip John, David Hughes, John Thomas, 1af, William Davies, 1af, Henry Davies, John Roberts, William Richards, Moses Saunders, Stephen Phillips, Benjamin Wheeler, William Davies, 2il, Bethuel Williams, William Miles, William Davies, 3ydd, William Jones, 1af, David Davies, Benjamin Phillips, William Evans, Edw Gilbert Price, Dan James, John Moore, Abraham Davies, William Jones, 2il, John Francis, Richard Dowton. John Thomas, 2il, Rees Rees, Thomas Roberts. Trysorydd—Philip John. Ysgrifenydd—William Davies.

Rhif yr aelodau mewn cyflawn gymundeb ar Awst 3, 1863, oedd 1031

Rhif yr ysgolion Sabbothol perthynol i'r eglwys. 4

Rhif yr athrawon yn yr ysgolion 131

Rhif yr ysgolheigion yn y pedair ysgol 1214

Cyfanswm gwerth yr eiddo perthynol i eglwys Calfaria, yn cynnwys capel Calfaria, ysgoldy Bethel, Ynyslwyd, y Gadlys, dau dŷ annedd yn un a chapel Calfaria, un tŷ annedd yn perthyn i Bethel, un tŷ yn ymyl Ynyslwyd, a thri ty annedd yn ymyl y Gadlys, yw... £2,900 15 11

Mae ein dyled o'r tu arall ar gapel Calfaria, Bethel, Ynyslwyd, y Gadlys, a'r tai annedd, yn cyrhaedd y swm o...£1,000 0 0

Mae hyn yn dangos fod yr eglwys er y flwyddyn 1852, pan adeiladwyd capel Calfaria, wedi talu o gorff y ddyled heblaw y llog blynyddol, y swm mawr o... £1,900 15 11

Ond wedi gorphen y ddau dŷ helaeth a hardd sydd genym yn awr ar waith yn Ynyslwyd ac Abernant, bydd ein dyled wedi chwyddo £1,300 arall; felly, bydd ein dyled erbyn y Nadolig nesaf yn... £2,300 0 0

Ond erbyn hyn, bydd ein gwerth mewn eiddo wedi ei sicrhau i'r enwad yn cyrhaedd y swm o ... £4,200 15 11

Goddefwch gyda mi am un foment etto tra y rhoddwn olwg ar sef- yllfa bresenol eglwys Calfaria, gyda yr eglwysi hyny sydd wedi ym- gangenu o honi, a rhoi rhif eu haelodau, cyflwr yr ysgoliod Sul, gwerth eu meddiannau, a'r ddyled sydd yn aros ar yr eiddo perthynol iddynt. Ni a gymmerwn y cyfrif am 1862.

Rhif yr eglwysi a'u canghenau ... 17

Rhif y capeli a'r gorsafoedd ... 17

Rhif yr aelodau mewn cyflawn gymundeb...3096

Rhif y gweinidogion... 7

Rhif y gweinidogion a'r pregethwyr cynnorthwyol ... 18

Rhif yr ysgolion Sabbothol ... 17

Rhif yr Athrawon ... 419

Rhif yr ysgolheigion ... 3272

Cyfanswm gwerth y capeli, tai, &c ... £16,850 15 11

Dyled arosol ar yr eiddo ... £7,362 11 4½

Dyna ni wedi myned mor fyr ag oedd modd dros hanes eglwys gyntaf y Bedyddwyr yn Aberdar, gyda y rhai a hanasant o honi yn ystod yr hanner can' mlynedd diweddaf. Mae y fechan wedi myned yn FILOEDD, a'r wael yn GENEDLOEDD cryfion. Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen. Mae adolygiad y gorphenol yn ein cysuro yn y presenol, ac yn ein cryfhau erbyn y dyfodol. O'r Arglwydd y mae hyn oll, ac iddo ef yn Dad, Mab, ac Ys- pryd Glán, y byddo yr holl ogoniant yn awr ac yn oes oesoedd. Amen.

"ATTODIAD. JUBILI EGLWYS CALFARIA, ABERDAR.[5]

"Hanner can mlynedd i'r haf hwn, agorwyd y capel cyntaf gan y Bedyddwyr yn mhlwyf Aberdar. Adgofiwyd am y tro trwy i eglwys Calfaria gynnal Jubili ar y Sul a'r Llun, Awst 3ydd a'r 4ydd. Cawsom yno tu hwnt i bob dadl res o'r cyfarfodydd mwyaf dymunol a gwlithog a dreuliwyd gan yr eglwys yn ystod yr hanner canrif diweddaf. Dechreuwyd trwy gynnal cwrdd gweddi am 9 boreu dydd Sul. Yna, am ddeg, pregethodd y brodyr Williams, Hengoed, a Morgan, Llanelli, gyda dylanwad anarferol. Am 12 o'r gloch, gweinyddwyd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Yr oedd yr olygfa a gafwyd, a'r teimlad a brofwyd yn fath nas annghofir byth. Yr oedd y capel ëang i lawr ac i fyny, gyda y vestry, yn llawn o blant Duw, yn cofio am gariad Iesu. Gweinyddwyd yr ordinhad gan y brawd Price, y gweinidog, yn cael ei gynnorthwyo gan y brodyr Roberts, Trosnant; Morgan, Llanelli; Williams, Hengoed; ac Adams a Hopkins, Aberdar. Ni chafwyd yn ol pob tebygolrwydd, y fath olygfa yn Nghymmru erioed. Yr oedd eglwys Calfaria ei hun yn rhifo y boreu hwnw 1031 o aelodau, heblaw ugeiniau o'i phlant ag oeddynt wedi dyfod o bellder ffordd i ymweled â hi ar ddydd ei Jubili. Yn y prydnawn, gorfuwyd ni i fyned allan i'r awyr agored, gan faint y dyrfa. Yn ffodus iawn, cawsom dŷ ein hanwyl frawd Evans, Draper, yn agored i ni, a'r balcawd o'i flaen yn lle hollol gyfleus i'r gweinidogion, a digon o le i'r miloedd i wrandaw yn gysurus. Yn y nos, rhanwyd y gynnulleidfa yn dair, a chafwyd cyfarfodydd a'u llon'd o Dduw.

"Dydd Llun, dechreuwyd mewn cwrdd gweddi am 9 o'r gloch; a dyma y cwrdd gweddi rhyfeddaf y buom ynddo yn ein bywyd. Y fath weddio, y fath wrando, a'r fath fendithio. Am 10, darllenwyd Hanes yr Eglwys gan Mr Price, a phregethodd Mr. Evans, Castellnedd, bregeth y Jubili. Yr oedd hon yn bregeth o'r radd flaenaf, yn cael ei thraddodi mewn nerth mawr. Mae yr hen bobl dda yn dweyd nad annghofiant byth mo honi. Am ddau, pregethwyd gan y brodyr Lloyd a Roberts, Merthyr. Yn yr hwyr, anerchiadau byrion, bywiog, nefolaidd, yn gymmysgedig â chanu a gweddio, gan y Parchn. James. Llanfairtalhaiarn; Phillips, Trefforest; Nicholas, Aberaman; Williams, Mountain Ash; Lloyd, Ebenezer; Roberts, Tabernacl; Llewellyn Jenkins, Ysw., Hengoed; Evans, Castellnedd; Roberts, Trosnant; a'r gweinidog. Cymmerwyd rhan hefyd yn y cyfarfodydd gan Adams, Aberdar; Harris, Heolyfelin; Griffiths a Thomas, Athrofa Pontypwl. Gyda y gweddio taer, y pregethau dylanwadol, a'r annerchiadau cynnes, cawsom y canu cynnulleidfaol mwyaf nerthol a nefolaidd.

"Mae eglwys Calfaria, yn ystod y tymhor byr o hanner can mlynedd, wedi cael y fraint fawr o fod yn FAM i dyrfa fawr o blant. Er gweled hyn, digon yw nodi bod eglwys Calfaria, gyda'r eglwysi a'r cangenau sydd wedi hanu o honi, yn 17, yn cynnwys yn awr 3,096 o aelodau; 25 o weinidogion a phregethwyr cynnorthwyol; a 17 o ysgol. ion Sabbothol yn cynnwys 3,691 o ddeiliaid. Mae yr eglwysi hyn yn meddu eiddo gwerth £16,850 15s. 11c., ond bod eu dyled yn £7.362 11s. 4c. Ond er magu y fath nifer o blant, a gollwng y fath nifer i ffurfio eglwysi newyddion, mae y fam yn para yn gryf, ac yn awr mor iach ag erioed. Mae ei haelodau yn rhifo 1031, a deiliaid yr Ysgol Sul yn rhifo 1345. Diolch i Dduw am yr hanner can mlynedd a aethant heibio; a'i wenau fyddo ar eglwysi Aberdar am yr hanner cant nesaf.

Gwelir yn eglur, oddiwrth y ffeithiau blaenorol, fod gweithio egniol a chysson wedi bod gan Fedyddwyr y dyffryn, ac yn neillduol gan y fam-eglwys yn Nghalfaria a'i gweinidog, cyn y buasai yr eglwys yn gallu cyrhaedd y fath allu nerthol, a dyfod i'r fath gyflwr cysurus mewn amser mor fyr. Gwelsom y gweinidog ieuanc yn dechreu ar ei weinidogaeth yn nghanol yr anfanteision mwyaf, ond y mae anfanteision yn rhoddi cyfleusdra i ragoriaethau ddyfod i'r golwg. Felly y bu yn yr amgylchiad hwn. Cyflawnai Price ei waith yn onest a phenderfynol, gan adael y canlyniadau i Dduw. Chwarddai, mewn ystyr, yn ddiystyrllyd ar anhawsderau. Dywedai am y rhwystrau godent ar ei ffordd bob cam o'r daith, "Y mynydd mawr, pwy wyt ti, gerbron gwaredydd Israel y byddi yn wastad. Ac felly y bu yn ei holl hanes. Gosodwyd meini lawer gan elynion iddo ar ddrws llwyddiant yr achos yn ei eglwys a'r dyffryn, ac wrth edrych yn mlaen arnynt yn ymddangos yn y pellder, gofynai Price, "Pwy a dreigla i mi y maen?" Ond yn ngrym penderfyniad a ffydd yn ei Waredwr, aeth yn mlaen, a chafodd y maen yn gyffredin wedi ei dreiglo, ac achos mawr y Bedyddwyr yn Nghalfaria ac yn y dyffryn yn gyffredinol yn codi ei ben, ac yn dyfod yn fwy rhydd yn barhaus.

Nodiadau[golygu]

  1. Wedi ysgrifenu yr uchod, bu farw Mrs. Hughes.
  2. Yr oedd y Dr ychydig cyn hyn wedi bod yn cymmeryd rhan bwysig a thra blaenllaw gydag etholiad gwleidyddol y Sir, ac felly wedi bod o gynnorthwy mawr i ddychwelyd yn llwyddiannus y boneddwr parchus ac haeddglodus o Fargam. ac yr oedd yntau, fel y gwelir, yn cofio yn garedig am y Dr. drwy gyfranu yn dywysogaidd at yr eglwys oedd dan ei ofal.
  3. Y mae y gymdeithas ragorol hon mewn bod yn bresenol, ac yn llewyrchus; ond nid ydyw yn dal cyssylltiad neillduol â'r eglwys yn Nghalfaria, yn amgen na'i bod yn cael ei chynnal yn Nghalfaria Hall.
  4. Er ein Jubili mae y brawd Dd. Hopkins wedi sefydlu yn America; y brawd David Adams wedi sefydlu yn weinidog ar eglwys y Brithdir; y brawd Ebenezer Morgans wedi cymmeryd gofal gweinidogaethol yr eglwys yn y Twyngwyn; y brawd James Jones wedi ei ordeinio yn fugail ar yr eglwys yn Abercwmboye; y brawd David Lewis wedi sefydlu yn weinidog ar yr eglwys Gymraeg yn Witton Park, swydd Durham; a'r brawd David Griffith wedi cymmeryd gofal eglwys Ebenezer, Dyfed.
  5. Cymmerwyd yr hanes canlynol allan o "Seren Cymru," am Awst 15fed, 1862.