Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price/Enghreifftiau o'i Areithiau

Oddi ar Wicidestun
Fel Dyn, Cristion, a Bugail Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price

gan Benjamin Evans (Telynfab)

Enghreifftiau o'i Bregethau

PENNOD XXI.

ENGHREIFFTIAU O'I AREITHIAU.

Araeth Yn Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas Traethodau y Bedyddwyr—Araeth yn Exeter Hall—Araeth ar y Genadaeth Dramor—Araeth Wleidyddol yn Aberhonddu

ARAETH YN NGHYFARFOD BLYNYDDOL CYMDEITHAS TRAETHODAU Y BEDYDDWYR

(Allan o'r "Primitive Church Magazine.)

CYNNALIWYD Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas uchod dydd Iau, Ebrill y 27ain, 1865, yn un o Ystafelloedd Exeter Hall, Llundain, dan lywyddiaeth Dr. Price, Aberdar. Am hanner awr wedi pump dechreuwyd y cyfarfod cyhoeddus drwy ganu mawl i Dduw; ac wedi i Mr. Stock, o Devonport, anerch gorsedd gras, cyfododd y cadeirydd i draddodi ei araeth arweiniol. Dywedai,

"Y mae y Gymdeithas hon wedi cyhoeddi 3,636,525 o draethodau, yn cynnwys pedair miliwn ar bymtheg o dudalenau. Gwasgarwyd y rhai hyn yn ngwahanol barthau y wlad, ac yn mhob man hauasant egwyddorion yr Efengyl. Oddiwrth erthygl bwysig iawn a gyhoeddwyd yn y Freeman allan o'r Spectator, gellid meddwl fod cyfenwad y Bedyddwyr ar gael ei lyncu gan yr enwad Annybynol. Cynnwysai yr erthygl dan sylw lawer iawn o synwyr a gwirionedd, ac hefyd lawer o gamsyniadau. Yr oedd yn gywir pan yn dywedyd nad oeddym yn llwyddo megys y dylasem; ond nid ydyw yn wirionedd ein bod ar gael ein llyncu i fyny gan yr Annybynwyr. Yr ydym yn gorff rhy fawr i gael ein llyncu. Daw gwrthweithiad etto, ac yn y diwedd perchir Cymdeithas Traethodau y Bedyddwyr am sefyll fel y gwna o blaid yr Efengyl. Oddiwrth erthygl a ymddangosodd yn ddiweddar yn y Baptist Magazine, canfyddwn mor hawdd y syrthia rhai i'r cyfeiliornad o dybied y dylem ni adeiladu capeli i bawb sydd yn cael eu cynhyrfu gan gariad brawdol. Tra fyddo un lleidr yn y plwyf, bydd yn rhaid cael cloion i'w gadw ef allan; a thra fyddo personau yn ein mysg yn barod i drosglwyddo meddiant y Bedyddwyr i ereill, bydd yn rhaid i ni gael gweithredoedd ymddiriedol (trust deeds). Wrth gyhoeddi y ddwy erthygl uchod, dywedai y Patriot fod ganddynt yr hyfrydwch mawr o gyhoeddi fod y Freeman a'r Baptist Magazine am gael gweithredoedd ymddiriedol, heb un gair o son ynddynt am fedydd na Bedyddwyr. Cynnygiai, ond i ni fynu gwared o'r gair Bedyddiwr,' y buasai yr Annybynwyr yn barod i roddi fyny eu henw hwythau. Ond atolwg, pa beth sydd gan yr Annybynwyr i'w roddi fyny? Dim ond bretyn bychan halogedig, wedi ei fenthyca oddiwrth Eglwys Rhufain, tra yr annogir ni i roddi fyny ordinhad a sylfaenwyd gan y Gwaredwr, ac a arferwyd gan yr apostolion. Ac etto i gyd, y mae llawer o weinidogion y Bedyddwyr, a gwyr arweiniol hefyd, yn barod i eilio a gweithredu yn ol golygiadau y Patriot. Yn ystod y cyfarfodydd eleni, dywedai un o'n prif ddynion, ei fod ef wedi cymmeryd ystafell mewn tref yn unig i bregethu yr Efengyl, ac nid i ffurfio eglwys, gan adael y personau a argyhoeddid i ymuno â'r eglwys a fynent. Pe buasai un o amaethwyr y wlad yn braenaru ei dir, yn hau ei had, yn medi y cnwd yn amser y cynauaf, ac wedi hyny yn gwahodd ei gymmyd- ogion i ddyfod a chludo yr ysgubau ymaith iddynt eu hun- ain, buasem oll yn galw y dyn hwnw yn ffwl; a chredaf fi fod y neb a gasglo eneidiau at Grist yn y dull uchod, heb ffurfio eglwys, yn ffwl hefyd. Yr ydym ni i alw ar ddynion i edifarhau, a chredu, cymmeryd eu bedyddio i enw y Drindod, ac i ymuno â phobl yr Arglwydd. Pa fodd y darfu i chwi yn Llundain fethu derbyn cynnyg Syr Morton Peto, i adeiladu nifer neillduol o gapeli ar yr ammod i'r enwad wneyd ei ran? Credaf mai am fod ein cyfeillion wedi gwasgu i feddyliau eu pobl y grediniaeth nad oes eisieu capeli i'r Bedyddwyr, am y gallant fyned i addoli i gapeli yr Annybynwyr. Nid wyf, gan hyny, yn synu dim at y canlyniad. Yr ydych yn gwneyd eich goreu i ddysgu eich pobl fod un enwad yn llawn cystal â'r llall, ac ychydig yn well hefyd. Wrth edrych i'r dyfodol, â llygad dynol yn unig, os eir yn miaen fel yr ydys yn awr yn myned, gellir dysgwyl y bydd deg neu bymtheg mlynedd ar hugain yn ddigon i ddifodi y Bedyddwyr fel cyfenwad o grefyddwyr. Am Loegr yn unig yr wyf yn llefaru. Nid ydyw pethau fel hyn yn Nghymru, nac yn Ewrop, nac yn America, nac yn y meusydd cenadol. Ond yn Lloegr bydd y cyfryw ganlyniad yn sicr o gymmeryd lle, os nad attelir ef gan Fedyddwyr Caeth Lloegr. Gobeithiaf, gan hyny, y bydd iddynt gael eu bendithio â modd. A gaf fi lefaru gair neu ddau wrth y Bedyddwyr Caeth? Yr wyf yn Gaeth Gymunwr trwyadl, ac yn hyn yr wyf yn hollol gyduno â'm brodyr Cymreig. Credaf y dylech chwi gymmeryd eich lleoedd priodol yn y cyfenwad. Ystyriaf nad ydych chwi, fel Bedyddwyr Caeth, yn gyffredin wedi gwneuthur hyny. Nid ydych wedi peru i chwi gael eich clywed a'ch teimlo yn ddigionol. Nid ydych yn dwyn eich dylanwad i weithredu i raddau digonol ar y cyhoedd. Nid oes genych yn Llundain gymmaint ag un gymmanfa o fath y rhai sydd genym ni yn Nghymru. Carwn yn fawr weled yr holl Fedyddwyr Caeth yn uno gyda'u gilydd i gynnal achos Duw. Credaf fod cynnifer o eglwysi o Fedyddwyr Caeth yn Llundain yn y blynyddoedd a aethant heibio ag sydd heddyw. Dylem ni, Fedyddwyr Caeth Cymru a Lloegr, fod yn fwy unol. Hir y cofir am araeth gynhyrfus Mr. Norton yn Nghymmanfa olaf Swydd Forganwg. Anfonwch ef, neu eich trysorydd, etto, fel y byddo i chwi gael ychydig yn ychwaneg o'r tân Cymreig. Bydded i ni gael mwy o undeb. Y mae genym yn y Dywysogaeth boblogaeth, mewn llawn rifedi, o filiwn o eneidiau, o'r rhai y mae 65,000 yn aelodau yn yr eglwysi Bedyddiedig. Nid oes genym ond pedair neu bump o eglwysi o Rydd Gymunwyr, ac y mae y rhai hyny oll yn Saeson. Yr ydym ni Gymry o waed pur. Nis gwyddom ddim am gymmysgedd. Pa ragoroldeb sydd mewn cymundeb cymmysg, nis gallaf fi ddirnad; ond gwn beth yw dwfr a llaeth wedi eu cymmysgu. Pan oedd Andrew Fuller ar ymweliad â Scotland, gofynwyd iddo fabwysiadu eu gofygiadau hwy; ond gwrthododd wneyd hyny hyd oni chaffai weled eu ffrwythau. Y mae gan ddynion hawl i ofyn beth all y Bedyddwyr Caeth ei wneyd, a gallant ddysgu rhywbeth ar y pwnc hwn oddiwrthym ni yn Nghymru. Yr ydys mewn rhai manau yn condemnio y Bedyddwyr Cymreig, fel rhai cul mewn barn ac ymarferiad, oblegyd nad ydynt yn derbyn neb at fwrdd yr Arglwydd ond rhai wedi eu bedyddio ar broffes o'u ffydd. Ond yr ydym ni yn ymogoneddu yn y ffaith fod yr holl eglwysi Cymreig yn ymlynu yn y ffurf hon o athrawiaeth, Eglur yw fod Duw yn gwenu arnom tra yn canlyn y llwybr hwn. Mae genym hawl i farnu y pren wrth ei ffrwyth, a byddwn yn fwy galluog i wneuthur hyny drwy gymharu cyflwr Cyfenwad y Bedyddwyr yn Nghymru â'i gyflwr mewn rhyw ran o Loegr, lle mae y boblogaeth yn gyffelyb. Y mae poblogaeth Yorkshire yn fwy. Cynnwysa 2,033,610, tra nad yw poblogaeth yr oll o Gymru, yn nghyd â Swydd Fynwy, ond 1,286,413; felly, mae poblogaeth Cymru yn llai nag eiddo Yorkshire o fwy nâ 700,000 o eneidiau. Yr oedd yn Yorkshire—

Yn 1790 1861
Eglwysi y Bedyddwyr 24 100
Gweinidogion y Bedyddwyr 22 72
Aelodau eglwysig 11,434
Ysgoleigion Sul 18,433

Yn Nghymru—

Yn 1790 1861
Eglwysi y Bedyddwyr 48 545
Gweinidogion y Bedyddwyr 61 351
Aelodau eglwysig 64,650
Ysgoleigion Sul 67,651

Yn 1861, yr oedd yn Yorkshire un Bedyddiwr ar gyfer pob 178 o'r boblogaeth, ond yn Nghymru a Swydd Fynwy yr oedd un Bedyddiwr ar gyfer pob ugain o'r trigolion. Mae tuedd y Gymdeithas hon at attal yr hyn a gredir genyf fi sydd yn ddrwg mawr; a hyderaf y bydd i ni yn Nghymru gael cydgyfranogi o'r bendithion y mae ein brodyr Seisnig wedi eu derbyn oddiwrthi."


ARAETH YN EXETER HALL, EBRILL, 1868.

Mr. Cadeirydd,—Ar yr awr hwyr hon, ac un boneddwr arall i'ch anerch etto, nid ydwyf yn gwybod braidd pa lwybr i'w gymmeryd. Fodd bynag, goddefwch i mi grybwyll un o'r ffyrdd drwy ba un y credaf y gellid cario allan yr amcanion a ddymunir yn y penderfyniad ag sydd newydd gael ei gynnyg mor alluog gan Mr. Wassal, a hwnw ydyw, Ymdrechu cael ein pobl ieuainc i deimlo dyddordeb yn hanesiaeth derfynol, gweithgarwch personol, a gobeithion dyfodol Cymdeithas Genadol y Bedyddwyr. Y mae gan y Gymdeithas hon enw, ac O! na fuasai a lle helaeth yn nghalonau pawb o'n pobl ieuainc. Yr wyf wedi meddwl ac ofni lawer gwaith ein bod ni fel gweinidogion, athrawon yr Ysgol Sul, a phenaethiaid ar yr aelwyd gartref, heb wneyd cwbl gyfiawnder â'r Gymdeithas hon yn ein hymwneyd â'n plant, â deiliaid yr Ysgol Sul, ac â phobl ieuainc ein cynnulleidfaoedd. Mae yn perthyn iddi ffeithiau ag y byddai o les annhraethol iddynt hwy fod yn gynnefin â hwynt, ïe, ffeithiau ag a wna i galonau pawb sydd yn caru gwir wroldeb Cristionogol lamu wrth feddwl am danynt. Pedwar ugain mlynedd yn ol bodolai y Gymdeithas hon yn meddwl, cartrefai yn nghalon, ac anadlai yn ngweddiau un dyn duwiol. Saith deg chwech o flwyddi yn ol daeth yn Gymdeithas weledig, yn cael ei galw i fodolaeth gan y brodyr difrifol hyny a gwrddasant â'u gilydd yn nhy y weddw hono yn Kettering, pryd y tanysgrifiasant cydrhyngddynt y swm o £13 18s. 6ch.; ond gall fentro dweyd fod y swm hwnw, yn gymharol felly, yn fwy nâ'r swm a gasglwyd yma heno, gan ei fod yn £1 os. 10c. yr un o'r cyfarfod bychan hwnw. I'r doeth a'r bydol, i'r anturiaethwr a'r athronydd, ymddangosai y swm hwn yn gwbl annigonol er cychwyn anturiaeth oedd a'i hamcan i argyhoeddi miliynau y byd paganaidd; ond nid felly i'r brodyr da a duwiol hyny yn Kettering. Cyflwynasant hwy y swm hwnw ar allor Duw, a derbyniodd yr Arglwydd ef fel blaenffrwyth o swm o £1,172,342, 7s. Ic. ag sydd wedi ei gyfranu hyd y 31ain o Fawrth yn y flwyddyn bresenol, a phob symiau ychwanegol ag a fydd yn angenrheidiol i gwblhau y gwaith gogoneddus a ddechreuwyd mewn cwbl ymddiried yn Nuw y pryd hwnw (cymmeradwyaeth). Y mae yr ychydig frodyr hyny a gynnullasant yn Kettering, yn anwyl iawn i ni, a gweddiwn yn ddifrifol ar i'w henwau fod megys perarogl yn nghalonau ein plant (clywch, clywch).

Gydag ymddiriedaeth gref yn Nuw, dechreuodd y Gymdeithas weithio mor fuan ag oedd yn bossibl, gan y cawn iddi yn yr Haf dylynol, ar y 13eg o Fehefin, 1793, ddanfon allan William Carey a John Thomas, ar fwrdd llong Ellmynig, ar eu ffordd i India, pryd yr oedd Andrew Fuller a'i frodyr gartref yn cyflwyno yr anturiaeth i nawdd Duw ac haelioni yr eglwysi. Y rhai hyn oeddynt ragredegwyr rhyw 230 o filwyr ffyddlon i Grist, sydd wedi eu danfon allan gan y Gymdeithas hon yn unig, 74 neu 75 o ba rai sydd yr awr hon ar faes y frwydr, yn ymladd yn wrol dros ein Harglwydd (cymmeradwyaeth). Byddai yn anmhossibl i'n pobl ieuainc deallus ddarllen hanes, ac ystyried hunanymwadiad, aberth, sel, a difrifoldeb y llu gwrol sydd wedi bod am saith deg pump o flynyddau yn dal cyssylltiad mor agos â'r Gymdeithas hon, heb blygu i lawr a bendithio Duw am godi y fath gymmeriadau, ac erfyn am gymhorth i ddylyn eu hol mewn ffydd a gweithredoedd. O!'r fath wersi a gawsid wrth fyfyrio bywydau tebyg i Fuller, Sutcliffe, Ryland, Pearse, ac ereill a ddylynasant fel cynnorthwywyr y Gymdeithas; neu ddylyn bywydau, llafur, lludded, a llwyddiant Carey, Marshman, Ward, Chamberlain, Yates, a'u brodyr yn y Dwyrain, a Knibb a Burchell, yn y Gorllewin. Mae hanes dynion o'r fath hyn yn llawn o wersi addysgiadol i ieuenctyd ein cynnulleidfaoedd (cymmeradwyaeth).

Y mae cynnydd ein Cymdeithas hefyd yn llawn o ddyddordeb i'n pobl ieuainc. O! fel y bu ein Tad nefol yn profi ffydd sylfaenwyr y Gymdeithas hon yn ystod y saith mlynedd cyntaf o'i bodolaeth. Yn ystod yr adeg hirfaith hon, bu gweithgarwch a chaledi y cenadon heb un llwyddiant ymddangosiadol, mor bell ag yr oedd argyhoeddiad eneidiau yn myned; etto, aethant yn y blaen gyda dyfalbarhad ffyddiog yn Nuw, gan adael y canlyniadau yn ei law gwbl—alluog Ef. Er na fu neb dychweledigion am saith mlynedd, yr oedd y Gymdeithas wedi helaethu ei therfynau i raddau mawr, gan ei bod wedi danfon allan amryw genadon Ewropeaidd yn ychwanegol, rhai o ba rai a adawsant y fuchedd bresenol yn bur fuan. Ond yn y flwyddyn 1800—y cyntaf yn y ganrif bresenol—yr oedd genym yn India 4 cenadwr Ewropeaidd, 1 capel bychan, 1 eglwys fechan, 1 Ysgol Sabbothol, ac 1 ysgol ddyddiol—oll yn gyfyngedig i'r cenadon a'u teuluoedd. Profodd y flwyddyn hon yn un fythgofiadwy yn hanesiaeth y Genadaeth, yn gymmaint ag mai ar y 17eg o Fawrth, 1800, y tynwyd y llen gyntaf o'r Beibl Bengaelaeg drwy y wasg. O!'r fath olygfa darawiadol oedd gweled y teulu bychan wedi cydgwrdd yn eu capel, a William Carey yn gosod y llen oedd newydd ei gorphen yn wlyb o'r wasg ar fwrdd y cymundeb, gan ei chyflwyno i'r Arglwydd, fel rhan o'r hyn oedd i ganlyn, a diolch iddo am yr holl drugareddau oedd wedi gael, a gweddio am ei gymhorth a'i arweiniad yn y dyfodol. Yr ydym yn gwybod heddyw i ba raddau y mae y weddi hono wedi ei hateb. Mae ein cenadon wedi cael y fraint o fod yn alluog i roddi Gair Duw i'r pagan mewn hanner cant o ieithoedd a thafod—leferydd. Mae hyn ar ei ben ei hun yn synfawr i'n golwg, ac yn galw am ein diolchgarwch mwyaf trylwyr i Dduw, a'n gwerthfawredd twymgalon o'r dynion fuont yn offerynau yn ei law i ddwyn y fath waith godidog oddiamgylch (cymmeradwyaeth). Oddiar hyny mae ein cenadon wedi bod yn abl i drosglwyddo i'r pagan dros filiwn o gyfrolau o Air Duw, ac yr ydym yn awr yn danfon i ffwrdd o wasg y Gymdeithas tua 45,000 o gyfrolau o'r Beibl yn flynyddol. Wrth edrych dros y ffeithiau hyn, pwy all ddiystyru dydd y pethau bychain? (cymmeradwyaeth). Tri diwrnod cyn terfyniad y flwyddyn 1800, dygwyddodd amgylchiad pwysig arall, yr hwn a lawenhaodd galonau ein dynion da. Rhagfyr 28ain, 1800, sancteiddiodd William Carey ddyfroedd y Ganges drwy drochi ynddi y cyntaf a ddychwelwyd i'r ffydd Gristionogol, sef Christnu Paul; a phan yr oedd y bedyddiedig yn dyfod i fyny o'r dwfr, llefarodd un o'r cenadon ar y lan y geiriau canlynol: "To-day is broken the first link in the chain of caste, and there is no power on earth or in hell that can reunite it." Yr oedd y dywediad hwna yn ffaith, ac yn fath o broffwydoliaeth—y naill y dydd hwnw, a'r llall wedi ei wireddu hyd y dydd hwn, gan nad ydyw caste yn India byth wedi hyny wedi cyrhaedd ei sefyllfa gyntefig (cymmeradwyaeth). Wedi hyny, mae ein cenadon wedi derbyn miloedd i Eglwys y Duw byw, llawer o'r rhai sydd wedi myned at eu gwobr, tra y mae eu rhifedi ar y ddaear yn cyflym gynnyddu o hyd. Beth raid fod llafur y brodyr ffyddlon a anfonwyd allan i ddwyn oddiamgylch ganlyniadau dedwydd y dydd heddyw? Gadewch i ni gymmeryd un gipolwg ar agwedd y maes y foment bresenol. Mae genym yno 74 o genadon Ewropeaidd, 300 o oruchwylwyr brodorol, 20 o weinidogion brodorol yn Jamaica, trysorfa y Calabar Institution, a 4 o sefydliadau er addysgu dynion ieuainc i waith yr Arglwydd. Ac wrth son am Jamaica, yr hon sydd yn blentyn anwyl i'r Gymdeithas hon, gallwn grybwyll fod genym yno gannoedd o eglwysi yn cael eu cario yn mlaen yn drefnus a rheolaidd, yn cynnwys cyfanswm aelodol o 30,000, gydag ysgolion a lle ynddynt i 12,000 neu 15,000 o blant. Y mae y Gymdeithas yn awr yn llanw sefyllfaoedd pwysig yn India, Ceylon, China, Affrica, Jamaica, Hayti, Trinidaad, Bahamas, Ffrainc, a Norway, tra y mae drysau newyddion yn parhau i agor, y rhai y dylasai gymmeryd meddiant o honynt, ond metha o herwydd angen haelioni mwy oddiwrth yr eglwysi.

Gallasem etto gyfeirio sylw ein pobl ieuainc at amgylchiadau pennodol o ofal Duw, am ei ddaioni tuag at y Gymdeithas hon. Cymmerer y flwyddyn 1812 er enghraifft, pryd yr oedd y Gymdeithas yn ugain mlwydd oed. Dinystriwyd yn hollol y swyddfa argraffu berthynol iddi yn India, pryd y collwyd adeilad yn mesur 100 wrth 42 troedfedd, amryw dunelli o bapyr, 5,450 pwys o dype Seisnig, tair tunell o argraft-nodau wedi eu gwneuthur yn bwrpasol i un-ar-bymtheg o lafar-ieithoedd Indiaidd, yr oll o'r cases a'r stock-in-trade, a chrynhofa helaeth o lyfrau, yn mhlith y rhai yr oedd Geiriadur y Sanscrit, yn bum' cyfrol, ac yn barod i'r wasg-oll yn chwyddo i'r golled arianol o £7,000! Yr oedd hon yn golled aruthrol. Etto, ni a welwn ddaioni Duw hyd y nod yn yr adeg gyfyng hon, canys y boreu canlynol, wrth daflu golwg dros adfeilion yr adeiladaeth, deuwyd o hyd i dair tunell a hanner o fetal (yr hyn oedd yn gynnorthwy mawr iddynt er ail-ffurfio yr argraff-nodau), a chafwyd y matrices a'r punches dur perthynol i'r ieithoedd Indiaidd heb eu hanafu mewn un modd, yr hyn oedd o fantais fawr mewn arian ac amser, a thrwy yr hyn yr oeddent yn alluog i ddechreu argraffu eilwaith mewn deng niwrnod, ac mewn llawn waith yn mhen chwech mis! Yna yr ydym yn canfod llaw Duw yn dal i fyny ein dynion da yn ngwyneb ergyd mor drwm, fel yr oeddynt yn alluog i roddi eu hymddiried ynddo Ef am y dyfodol. Wedi i'r newydd galarus am y golled fawr gyrhaedd y wlad hon, gwnawd appeliad grymus at bawb Cristionogion, ac atebwyd ef yn gwbl foddhaol, gan fod cyfraniadau wedi dyfod i law cyn pen tri-ugain niwrnod yn cyrhaedd y swm o £7,000. Heblaw hyn, gwnaeth y golosgiad yn Serampore i'r Genadaeth fod yn fwy hyspys, ac o'r dydd hwnw allan bu derbyniadau parhaol y Gymdeithas yn llawer helaethach (cymmeradwyaeth).

Yr oedd y flwyddyn 1829 hefyd yn gyfnod nodedig yn hanes y Gymdeithas hon, pryd yr oedd mewn dyled o £4,000; ond cyfarfu y cyfeillion mewn ffydd a dybyniaeth ar Dduw, a gwnaethant appeliad etto at haelfrydedd Cristionogol, ac mewn un cyfarfod yn y neuadd hon, llwyddwyd i gael £4,798 6s. 4c., y ddyled yn cael ei dileu, a gweddill mewn llaw o £788 6s. 4c. Y mae y flwyddyn 1832 yn gofus ar feddyliau llawer o'r brodyr a'r henafwyr a welaf o'm deutu. Yn y flwyddyn hono dinystriodd gelynion y Genadaeth ein capeli a'n hysgolion yn Jamaica, lle y collasom eiddo yn werth amryw filoedd; ond mewn atebiad i appeliad William Knibb (clywch, clywch,) a theimlad cyfiawn Ty y Cyffredin, ail-adeiladwyd y capeli a'r ysgolion mewn modd rhagorach, a gwelodd y diafol pan yn rhy ddiweddar ei fod wedi gwneuthur camsyniad dirfawr wrth losgi capeli y Bedyddwyr yn Jamaica (uchel gymmeradwyaeth). Ni annghofir byth y flwyddyn 1840 gan lawer o honom, pryd y cymmerodd Knibb-apostol mawr y Gorllewin-un-ar-bymtheg o genadon newyddion drosodd i Jamaica. O! y fath olwg ogoneddus oedd hono i ni pan yn ffarwelio â hwynt yma ar yr afon, ac yn edrych am y tro diweddaf ar wynebpryd gwrol Knibb, yr hwn oedd yn ddychryn i ormeswyr, ond yn gyfaill calon i'r caethion truenus. Dywedaf etto fy mod yn ofni yn ddirfawr ein bod yn ol o wneuthur ein dyledswydd tuag at ein pobl ieuainc, trwy esgeuluso eu gwneuthur yn gynnefin â ffeithiau o'r natur hyn, perthynol i sefydliad, cynnydd rhyfeddol, a'r llwyddiant bendigedig (dan fendith Duw) sydd wedi dylyn Cymdeithas Genadol y Bedyddwyr (cymmeradwyaeth).

Un gair arall o barth yr hyn yr ydym ni yn Nghymru yn ei wneyd mewn ffordd o gynnorthwy i'r Gymdeithas. Mae yn bleser genyf ddywedyd fod ein heglwysi yn gyffredinol yn teimlo dyddordeb dwfn yn y Gymdeithas hon, er mae yn wir fod rhai yn ei hesgeuluso, ond y mae y mwyafrif yn gwneuthur yr hyn a allant er dwyn y gwaith da i ben. În ystod yr un flynedd ar ddeg yn cynnwys o 1857 i 1867, mae yr eglwysi Cymreig wedi cynnyddu yn fawr yn eu cyfraniadau (clywch, clywch). Yn 1857, cyfanswm y cyfraniadau oddiyno (heblaw legacies) oedd £1,312 15s. 5¼c., ac y mae y swm hwn wedi cynnyddu mor raddol yn ystod yr un flynedd ar ddeg, fel y cyfranasant yn 1867 £2,360 4s. 10½c., yr hwn swm, o'i gymharu â'r unrhyw yn 1857, sydd yn dangos cynnydd o £1,047 19s. 5½c., neu 80 y cant; neu yn gwneuthur cyfanswm yn ystod yr un flynedd ar ddeg oddiwrth eglwysi na allant ymffrostio yn eu cyfoeth, ond sydd yn ddiarebol dlawd, o £20,998 17s. 8¾c. At hyn, goddefer i mi ychwanegu yr ychydig legacies sydd wedi eu rhoddi yn yr un cyfnod, yn cyrhaedd £209 8s. 5c., yr hyn a wna y cyfanswm o Gymru dlawd yn £21,308 6s. 1¾c. Yn awr, dywedir wrthym ei bod yn angenrheidiol i'r eglwysi gynnyddu 12 y cant at eu cyfraniadau presenol cyn y gall y Gymdeithas dalu ugain swllt yn y bunt, a dymunem dalu hyny. Wel, bydd i mi a'm brodyr yma gymmeryd arnom i gymmeradwyo i'r eglwysi Cymreig—a diolch i Dduw, hwy wnant unpeth a gymmeradwywn iddynt yn Nghymru (clywch, clywch)—i gynnyddu eu cyfraniadau i 20 y cant, yn lle 12½. A wna'r Saeson gynnyddu yr eiddynt hwy i 25 y cant? (uchel gymmeradwyaeth). Yna bydd genym £15,000 neu £18,000 yn flynyddol yn fwy nag sydd genym y dydd heddyw, a gallem yn rhwydd gymmeryd meddiant o'r sefyllfaoedd a gynnygir i ni yn India, o Cape Comorin yn y dehau hyd at Lahore yn y gogledd, ac o Burmah yn y dwyrain hyd Bombay yn y gorllewin. Fe ddaw y cyfandir hwn, a'i 200,000,000 eneidiau, i fod yn berl yn nghoron y Gwaredwr, ac yr ydym yn barod i gymmeryd gafael yn y gwaith, ond yn dysgwyl wrth yr eglwysi am eu cymhorth at hyny. Yr ydym yn credu y gwireddir syniadau proffwydoliaethol Dewi Wyn, bardd Cymreig, pan y canodd flynyddau yn ol fel y canlyn:—

"Od aeth y fendith hyd eithaf India,
O'i da ewyllys hi a'i diwalla;
Llwybr i'w chynniwair lle bu arch Noa,
Aed o'r Ararat i dir Aurora,
O'r ynys moried i'r hen Samaria,
Dychwel hi'n dawel i hen Judea,
Cyn hir pregethir ar ben Golgotha,
Neu mewn mawr awydd yn mhen Moria,
Yr Olewydd a Mynydd Amana?
Pwy? Hen eglwysydd penigol Asia;
Cwymp Babel uchel dan bla—yn ei hawr
Wele oleuwawr! Wi! wi! haleliwia!!
Ansawdd oer Ynysoedd Ia,—cynhesed
Eich tir, O! caned, a choed Hercynia!
Dawn Duw'n dwyn newyddion da—i'w hoffdir,
Hermon a Senir. Amen! hosanna!
Daw'r genedl adre i Ganaan—daw ail
Adeiliaw coed Liban,
Daw mil myrdd o demlau mân—mewn purdeb
O odreu Horeb draw i Haran;
Ac hefyd y byd cyfan—a fyn hi
Yn glau goroni, ac ail greu anian!
Nid boddi enaid byddant,
Byd ddaw'n well—bedyddio wnant,
Un buch â'r eunuch yr ânt,—i Grist mwy
O fodd hwy ufuddhant."

Bydded i ni un ac oll gael ein bedyddio ag yspryd yr awdl hon (chwerthin mawr), fel y byddo i ni gael ein deffroi i wneyd yr hyn a allom i ddwyn y byd wrth draed yr Iesu (uchel gymmeradwyaeth).

ARAETH AR Y GENADAETH DRAMOR.[1]

Yn nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Genadol y Bedyddwyr, yn Exeter Hall, y llynedd, yr oedd y Pwyllgor yn alluog i fynegu:— "Nid yn aml y mae y Pwyllgor wedi bod yn alluog i gyflwyno balance-sheet mor gefnogol a boddhaol a'r un am y flwyddyn hon. Y mae ganddynt i hyspysu yr incwm mwyaf a dderbyniwyd erioed, gyda'r eithriad o flwyddyn y Jubili." Fel hyn, yr oedd y Pwyllgor yn alluog i dalu pob gofynion yn erbyn y Gymdeithas, a dechreu y flwyddyn gyda swm bychan mewn llaw. Nis gallaf alw i gof unrhyw gyfnod yn hanes y Gymdeithas, oddiar ddyddimiad Caethwasanaeth Jamaica, pan y safai mewn gwell sefyllfa nag y gwna yn bresenol. Yn fasnachol, yr ydym yn alluog i gwrdd â phob hawl yn erbyn y Gymdeithas. Yn gartrefol, yr ydym yn awr yn byw yn ein ty ein hunain—buom un amser fel yr Apostol Paul, yn byw mewn "ty ardrethol" (chwerthiniad); ond yr ydym wedi symmud o'r ty ardrethol yn John Street i'n palas ein hunain yn Castle Street (chwerthiniad). Er nad oes genym ryw gyfnewidiadau mawrion i'w mynegu, nac unrhyw newyddion pwysig i'w gosod ger eich bron; etto, wrth daflu golwg dros yr holl faes a feddiennir gan oruchwylwyr y Gymdeithas hon, y mae genym reswm da dros fendithio Duw, a chymmeryd cysur. Yn China, yr ydym wedi colli dyn da a ffyddlon, yn nghanol ei ddyddiau; ond yr ydym yn diolch i Dduw fod genym un arall i gymmeryd i fyny ei le, yn mherson fy nghydwladwr ieuanc, Mr. T. Richard. Y mae angeu hefyd wedi bod ar waith yn India, ac wedi sym- mud yr anrhydeddus a'r duwiol Mr. Leslie, Calcutta, a'r enwog Mrs. Martin, Serampore; etto y mae gwaith yr Arglwydd yn myned rhag ei flaen yn India. Dydd Gwener diweddaf, derbyniais lythyr hir oddiwrth y brawd Evans, o Allahabad, yn mha un y rhoddai hanes dyddorol o weithrediadau Duw yn y Talaethau Gogledd-Orllewin, a'r tebygolrwydd wedi y flwyddyn hon, i rai o'r eglwysi gynnal eu hunain, heb dderbyn rhagor o gymhorth o Ewrop. Y mae ein gwahanol genadaethau yn yr India Orllewinol mewn llawn gwaith; ac oddiwrth fynegiad galluog Dr. Underhill, gallem feddwl fod cyfnod llwyddiannus yn aros ein cenadaeth yn Affrica, pan y mae pob peth o'n hamgylch yn lled arwyddo y dylem gynnyddu ein hymdrechion ugain gwaith yr hyn ydynt yn Ewrop. Gan ein bod yn y sefyllfa ffafriol hon, ni fydd allan o lei gyfeirio at sefyllfa wirioneddol eglwysi y Bedyddwyr yn y Deyrnas Gyfunol yn eu cyssylltiad â Chymdeithas Genadol y Bedyddwyr. Nid ydym yn awr yn myned i achwyn.

Nid yw y Pwyllgor yn anfon allan apeliadau torcalonus am gynnorthwy i ddyrchafu y Gymdeithas o ddyfroedd dyfnion. Na, yr ydym yn awr mewn sefyllfa dda. Gallwn edrych yn ddigywilydd yn ngwyneb pawb, a thalu u gain swllt yn y bunt; ac yn awr, heb achwyn, gadewch i ni nodi allan rai colliadau, ac awgrymu gwelliant i'r drwg; canys er fod y Gymdeithas heddyw, gydag incwm y flwyddyn ddiweddaf, yn alluog i gwrdd â phob ymrwymiadau, rhaid i ni gofio fod y maes yn barhaus yn eangu; ac nid gwiw i ni freuddwydio am eiliad i ymfoddloni ar gadw ein sefyllfa bresenol yn unig. Bydd genym yn fuan ddau genadwr yn China—Mr. Richard a Dr. Brown—ïe, dau, a dim ond dau, i faes mor eang. Edrychwch wedi hyny ar y maes newydd a phwysig a egyr drwy agoriad ffordd fawr y Dwyrain. Agora hon yr holl wlad rhwng Caercystenyn a Gogledd India. Yna edrychwch yn nes gartref—i Ffrainc, Yspaen, ac Itali. Y mae ein brodyr yno, fel y Macedoniaid gynt, yn gwaeddi o waelodion eu heneidiau, "Deuwch drosodd, a chynnorthwywch ni." Gwn y gall fod rhwystrau ar ein ffordd i agor meusydd newyddion yn Ewrop; ond gadewer i'r eglwysi roddi y moddion wrth law y Gymdeithas, a chilia y rhwystrau fel gwlith y boreu. Onid yw'r amser wedi dyfod, pan mae Arglwydd y lluoedd ar "siglo y nefoedd, a'r ddaear, a'r môr, a'r tir sych," gan chwyrndaflu oddiar eu gorseddau drawsfeddiannwyr iawnder a rhyddid, fel y byddo i Efengyl ei Fab gael ffordd rydd, a chael ei gogoneddu. Bydded i'r penau coronog uchelfrydig ag ydynt yn aros gymmeryd gwers oddiwrth yr hyn sydd wedi dygwydd i Ferdinand o Naples, Theodore o Abyssinia, Lopez yn Nehaubarth America, Maximilian yn Mexico, Isabella yn Yspaen, ac yn ddiweddaf oll, Napoleon ac Eugenie, y cyntaf yn llettywr anfoddog yn Germani (cymmeradwyaeth), a'r olaf mewn annedd huriedig yn y wlad hon—yr hon sydd yn ddinas noddfa i freninoedd a breninesau, ymherawdwyr a thywysogesau, ag ydynt yn dygwydd colli eu sefyllfaoedd. Ac edrychwch ar yr hen ddyn crynedig yna yn Rhufain—dyna ddyn hen a methedig yn cael ei gyhoeddi yn anffaeledig—dyna fe, yn methu penderfynu pa beth i'w wneyd na pha le i fyned—pa un a â efe mewn agerlong i Malta, ac yno i fod yn dywysog ysprydol i arolygu yr Eglwys Rufeinig, neu ynte i gymmeryd ychydig ystafelloedd huriedig yn Belgium; neu ynte a fydd iddo eistedd i lawr a marw yn y Vatican, ac i gael ei amddiffyn yno gan filwyr Itali. Gan mai dyma sefyllfa pethau yn Ewrop, byddai yn bechod ynom — yn bechod o'r fath waethaf yn erbyn Duw a dyn, i beidio cymmeryd mantais o arwyddion yr amserau, ac i fyned yn mlaen, a chymmeryd meddiant o'r tir yn enw ein Harglwydd a'n Meistr mawr. Ond i wneyd hyn, rhaid i ni gael rhagor o arian. A pha fodd y gallwn ni ychwanegu ein trysorfa? Y mae yn ngallu ein heglwysi i ychwanegu derbyniadau y Gymdeitnas, heb feichio y rhai ag ydynt yn awr yn gwneyd yn dda, a hyny drwy wneyd y casgliadau blynyddol yn gyffredinol, ac nid yn rhanol fel yn bresenol. Wrth gymmeryd i fyny y Llawlyfr a Mynegiad y Gymdeithas Genadol am y flwyddyn hon, cawn y canlyniadau canlynol. Rhoddir cyfrif o eglwysi, heblaw 757 o gangenau a gorsafoedd pentrefol; bydd i ni adael allan y cangenau, gan ymwneyd yn unig ag eglwysi corffoledig. Cyfanswm yr eglwysi yn y Deyrnas Gyfunol yw 2,335; o'r rhai hyn y mae genym yn Lloegr, 1,716; yn Nghymru, 501; yn Scotland, 87; yn yr Iwerddon, 31; ac o'r 2,335 eglwysi yn y Llawlyfr, cawn yn Mynegiad y Gymdeithas fod 1,297 wedi casglu at y Genadaeth yn y flwyddyn oedd yn diweddu Mawrth 31ain, 1870—a gwahaniaetha y tanysgrifiadau a'r casgliadau o 3s. 4c. a gasglwyd gan yr eglwys fechan yn Lixwm, Swydd Fflint, i'r swm tywysogaidd o £254 1s. 9c., a gasglwyd gan yr eglwys sydd dan weinidogaeth alluog Dr. Brock. Gadawa hyn 1,038 o eglwysi na wnaethant gasglu yn ystod y flwyddyn. O'r eglwysi na wnaethant gasgliad, y mae 834 o honynt yn Lloegr, 141 yn Nghymru, 46 yn Scotland, a 17 yn yr Iwerddon. Cawn fel hyn fod 5½ y cant o'r eglwysi yn Lloegr yn gwneyd casgliad, a 48½ y cant na wnaethant gasgliad yn ystod y flwyddyn ddiweddaf; yn Nghymru, cawn 71¾ y cant o'r eglwysi yn gwneyd casgliadau, a 28¼, y cant heb wneyd hyny; yn Scotland casglodd 47⅛ y cant o'r eglwysi, a 57⅞ y cant a esgeulusasant wneyd hyny; ac yn yr Iwerddon casglodd 45⅙ y cant, ac ni wnaeth 54⅝ y cant ddim. Wrth gymmeryd yr holl eglwysi yn y Deyrnas Gyfunol, cawn fod 55½ y cant wedi casglu, a 44½ y cant heb wneyd hyny y flwyddyn ddiweddaf. Nid wyf yn gwybod a fyddai i mi bechu wrth deimlo yn falch o Gymru dlawd wedi y cwbl: tlawd fel yr ydym, ymddangoswn yn ffafriol er hyny, wrth ein cymharu â rhanau ereill o'r deyrnas. Yn awr,tybier fod y 1,038 eglwysi na wnaethant gasgliad yn gwneyd yn ol cymhariaeth yr hyn a wneir gan eglwysi tlodion Cymru, byddai genym y canlyniad canlynol:—Casgla 360 o eglwysi yn Nghymru y swm o £2,125 15s. 2g.; yna, byddai i'r 1,038 eglwysi, os byddai iddynt roddi o gwbl, gasglu y cyfanswm o £6,129 5s. 4¾c. Yn awr, y mae colli y swm yna yn golled fawr mewn ystyr arianol, ond y mae y golled foesol i'r eglwysi yn llawer mwy: collant y pleser a'r anrhydedd o fod yn gydweithwyr â Duw; amddifadant eu plant o'r pleser o gynnorthwyo yn y gwaith da o achub eneidiau; mewn gwirionedd, dygir plant yr eglwysi hyn i fyny fel paganiaid. Dywedai yr enwog Andrew Fuller unwaith ei fod ef a'r eglwys wedi eu darostwng i'r fath raddau, fel yr oedd pob mwynhad crefyddol wedi eu gadael; ond dechreuasant ar y gwaith cenadol, a daeth cyfnewidiad llwyr dros yr eglwys a'r gweinidog; gweithient yn galonog dros y paganiaid yn ngwledydd pellenig y byd, a bendithiai Duw eu heneidiau yn helaeth gartref. Y mae angen ymdrech unol arnom yn yr anturiaeth hon, yn gystal a chydweithrediad holl eglwysi—oll i wneyd rhywbeth yn flynyddol dros y Gymdeithas. Ofnaf fod rhai o'n brodyr henaf wedi annghofio, a gall fod rhai o'n brodyr ieuangaf heb glywed na darllen hanes cyfarfod cenadol a gynnaliwyd yn Jamaica gan gynnulleidfa o negroaid. Gwnawd y cyfarfod i fyny yn gyfangwbl o ddynion duon; a chan ei fod wedi ei alw yn nghyd yn rheolaidd ac amserol, dygid pobpeth yn mlaen mewn trefn a gweddeidd-dra. Er nad oedd ganddynt ryw benderfyniadau llafur-fawr a hir—eiriog, etto yr oeddynt yn hollol uniongred; canys pasiwyd ganddynt y tri phenderfyniad canlynol:—1. Bydd i ni oll roddi rhywbeth. 2. Bydd i ni oll roddi fel y galluogwyd ni gan Dduw. 3. Bydd i ni oll roddi yn llawen. Wedi pasio y tri phenderfyniadau hyn, dechreuasant yn y man eu gosod mewn gweithrediad. Cymmerodd negro henafol ei le wrth y bwrdd, gyda'i lyfr yn ei law, er gosod i lawr y symiau a gyfrenid. Daeth lluaws yn mlaen, a chyfranent i'r drysorfa symiau bychain yn ol eu hamgylchiadau cyfyng. Yn mhlith ereill, daeth hen negro cyfoethog yn mlaen, yr hwn a osododd i lawr ddernyn bychan o arian. Cymmerwch hwn yn ol," ebe yr hen ddyn wrth y bwrdd. Gall fod yn ol y penderfyniad cyntaf, ond nid yn ol yr ail; cymmerwch ef yn ol." Gwnaeth y gŵr cyfoethog felly, a brysiodd yn ol i'w eisteddle. Daeth un ar ol y llall o'r bobl dlodion yn mlaen; a chan fod y rhan amlaf o honynt yn rhoddi rhagor nag a gynnygiodd y negro cyfoethog, teimlai yn gywilyddus o hono ei hun. Daeth yn mlaen drachefn, a bwriodd ar y bwrdd ddernyn gwerthfawr o aur, gan ddweyd mewn llais digofus, "Dyna, cymmerwch hwna." Ond dywedodd y gŵr da wrth y bwrdd, "Na, ni wnaf hyny ychwaith; gall fod yn ol y penderfyniad cyntaf, ac yn ol yr ail, ond nid yw yn ol y penderfyniad diweddaf." A gorfu i'r hen ddyn fyned yn ol drachefn. Eisteddodd i lawr, ac wedi myned dros y mater yn ei feddwl, teimlodd ei fod yn feius, a thrwy gymhorth gras Duw, y byddai iddo wneyd yn iawn. Yna aeth yn mlaen at y bwrdd gyda gwên ar ei wyneb, yr hyn a arwyddai fod ei galon wedi ei chyfnewid, a chyflwynodd swm mawr i'r drysorfa. "Da iawn," ebe y trysorydd negroaidd, "gwna hyn y tro,—mae hyn yn ol yr oll o'r penderfyniadau." Tarawyd fi yn hynod gan dair ffaith yn ystod fy ymweliad ag America y llynedd. Gofynwyd i mi fwy nag unwaith i roddi anerchiad gerbron aelodau y "Gymdeithas Ymofynol" yn ein Prifysgolion yno. Yr oedd teitl y gymdeithas yn newydd i mi; ond cefais allan yn fuan fod ein myfyrwyr gweinidogaethol yn ein Prifysgolion a'n Colegau yn yr America yn ffurfio eu hunain yn gymdeithas, i'r dyben o osod eu hunain mewn gohebiaeth uniongyrchol â'r cenadon mewn gwledydd tramor. Cadwant yn mlaen ohebiaeth barhaus â'r holl oruchwylwyr mewn gwledydd pell, a thrwy hyny deuant yn gydnabyddus â dyledswyddau, treialon, dyoddefiadau, peryglon, a llawenydd y cenadon. Meithrinant yspryd cenadol yn ystod eu cwrs athrofaol, a deuant yn barod i gynnyg eu hunain at wasanaeth cenadol mewn gwledydd tramor. Cefais fod sefydliad duwinyddol Prifysgol Madison yn unig wedi anfon allan dros driugain o'i gwyr goreu i China, Siam, Burmah, ac India. Trwy y moddion hyn, nid yw Undeb Cenadol y Bedyddwyr yn America yn fyr o ddynion i'r meusydd cenadol. Y mae'r Ysgolion Sabbothol yn America yn gwneyd gwaith da yn y cyfeiriad hwn hefyd. Y mae llawer o'r ysgolion yn argymmeryd i gynnal cenadwr, neu athraw, mewn lleoedd neillduol; a chant fynegiadau parhaus o'r maes gyda golwg ar y defnydd a wneir o'u tanysgrifiadau. Fel hyn, y mae yr Ysgolion Sabbothol yn America yn dyfod yn fath o sefydliadau cenadol, gan gydweithredu â bwrdd gweithredol yr Undeb; a cha y plant eu meithrin mewn yspryd cenadol o'u mabandod i fyny. Dysgir hwy fel hyn yn foreu i gyfranu—ac y maent yn cyfranu—cyfranant oll, a hyny yn llawen. A chymmeryd y ddwy ffaith a nodwyd, cyfrifant braidd yn hollol am y canlyniadau a geir yn Mynegiad diweddaf Undeb Cenadol Bedyddwyr America. Y mae ganddynt yn awr 1,919 o orsafoedd, 630 o eglwysi, 957 o oruchwylwyr, a bedyddiwyd yn ystod y flwyddyn 4,600. Cynnydd ar y flwyddyn ddiweddaf:—169 o orsafoedd, 12 o eglwysi, 110 o oruchwylwyr, 1,050 trwy fedydd, a 1,345 o aelodau. Cyfrifa eu trefn reolaidd o weithio wedi hyny am ffaith arall, sef fod y tanysgrifiadau wedi cynnyddu yn ystod y 25 mlynedd diweddaf i'r swm o 384 y cant. Credaf y gellid dilyn 'siampl y myfyrwyr ieuainc yn ngholegau America gan bobl ieuainc yn ein colegau yn y wlad hon; a phe efelychai ein Hysgolion Sabbothol yn Mhrydain Fawr Ysgolion Sabbothol America, ennillai y Gymdeithas o leiaf £5,000 y flwyddyn mewn arian, pan y byddai y dylanwad moesol ar y genedl bresenol, a chenedloedd ag ydynt etto heb eu geni, tuhwnt i ddim a allwn gyfrif yn bresenol.


ARAETH WLEIDYDDOL YN ABERHONDDU.

Ar ol ateb rhai gofyniadau am dano ei hun, dywedodd Dr. Price,

"O barthed i'm hawl i ddyfod i geisio eich pleidleisiau, yr oeddwn yn meddwl fod genyf gystal hawl ag unrhyw berson, os yn barod i wneyd yr aberthau gofynol i wasanaethu eich lles chwi. Yr wyf yn Gymro ganedig a magedig, yn Gymro mewn calon a theimladau. Yr wyf yn Annghydffurfiwr oddiar argyhoeddiad. Ganwyd fi yn nghymmydogaeth Aberhonddu, magwyd fi yn eich plith chwi, dechreuais fy ngyrfa grefyddol yn eich plith, ac er pan wyf wedi gadael eich tref, nid wyf wedi gwneyd dim i'w gwarthruddo. Meddyliais, ar ol saith mlynedd ar hugain o absenoldeb, y gallwn dd'od yn ol yn anrhydeddus i ofyn i chwi fy nychwelyd fel eich cynnrychiolydd i'r Senedd. (Cymmeradwyaeth.) Yr wyf fi, a llawer ereill, wedi teimlo er's amser bellach ei bod yn warth ar Gymru, am nad yw, o'r 32 aelodau y mae wedi ddanfon i'r Ty Cyffredin, wedi danfon un Annghydffurfiwr Cymreig erioed. (Cywilydd). Nid oes genym yn awr yn y Ty Cyffredin un aelod, yr hwn yn deg sydd yn cynnrychioli teimladau crefyddol wyth rhan o naw o bobl Cymru. (Bloeddiadau, 'Cywilydd,' 'Yr ydych yn iawn.') Yn yr etholiad cyffredinol diweddaf, danfonodd Lloegr ac Ysgotland 40 o aelodau Ymneillduol i'r Ty, tra y danfonodd yr Iwerddon 40 o Babyddion i gynnrychioli teimladau y bobl Wyddelig i'r Senedd; ond Cymru, er ei gwarth oesol, ni ddanfonodd un Annghydffurfiwr i'r Senedd newydd. Onid yw yn amser i ni ddeffroi, a symmud ymaith y gwarthnod sydd yn gorphwys ar Gymru fel gwlad Ymneillduaeth? (Cymmeradwyaeth.) Wel, yr wyf wedi dyfod i roddi cyfle i etholwyr Aberhonddu wneyd felly, wedi methu eich darbwyllo i wahodd arall a gwell dyn. Yr wyf yn cynnyg fy hun fel y dirprwywr goreu allwn gael. (Cymmeradwyaeth a chwerthiniad.) Wedi i mi glywed am farwolaeth eich diweddar barchus aelod, gwyliais eich amgylchiadau gyda phryder mawr, gan obeithio y byddai i ryw foneddwr o ddylanwad lleol, a golygiadau haelfrydig a rhyddgarol, megys eich maer, ddyfod allan; ond cefais fy siomi yn hyn. Danfonodd dau foneddwr eu hanerchiadau allan, ond nid oedd un o honynt, feddyliaf, yn adlewyrchu golygiadau rhan fawr o etholwyr annybynol y fwrdeisdref hon. Gadewch i ni am funyd edrych ar yr anerchiadau sydd wedi eu dwyn allan ganddynt. Cymmerwn anerchiad Iarll Aberhonddu. Mae y paragraph cyntaf yn deilwng o deimlad caredig ei Arglwyddiaeth tuag at y diweddar aelod; yr ail a'r trydydd ydynt yn unig hen ymadroddion ystrydebol (stereotyped) sydd wedi eu defnyddio ganwaith mewn anerchiadau o'r blaen; ac y maent mor ddiystyr ag ydynt o gyffredin i bob dyn sydd yn darllen y papyrau. Sylwedd yr anerchiad yw, y bydd iddo roddi cymhorth diysgog ac annybynol i lywodraeth a theimlad Arglwydd Palmerston. Yr oedd gwladlywiaeth dramor llywodraeth Arglwydd Palmerston yn dda, am yr hyn yr oeddem yn ddyledus i Iarll Russell; ac am ei yswirdeb argyllidol yr oeddem yn ddyledus i Mr. Gladstone. Gyda'r ddau eithriad hyn, yr oedd gwladlywiaeth Palmerston yn ddidrefn, gwastraffus, anwadal, ac anfoddhaol. (Clywch, clywch.) Yr oedd yn Rhyddfrydwr mewn enw, ond mewn gwirionedd, yn gwneyd archiadau y Toriaid. Ac etto, dyma yr oll mewn sylwedd a addawyd gan yr urddasol ymgeisydd yn ei anerchiad cyntaf.

"Yr oedd anerchiad Mr. Gwyn yr oll a allech ddysgwyl oddiwrth Geidwadwr proffesedig a chysson. Yr ydym yn cael yn aml ddarluniad o'r gwarchodion a'u pruning knife, fel pe bai y Ceidwadwyr erioed mewn cariad â'r gyllell docio. (Cymmeradwyaeth.) Mae pob un sydd wedi darllen hanesyddiaeth yn gwybod fod Ceidwadaeth wedi bod yn bwysau marwol i bob cynnydd, diwygiad, a gwelliant. (Cymmeradwyaeth.) Yna, mae yr Ymneillduwyr cydwybodol' yn dod, fel pe na f'ai Mr. Gwyn erioed wedi cyfarfod ag Ymneillduwr cydwybodol. Beth! Yr oedd hyd y nod William Hopkins, y crydd, Ystradgynlais, yn dal fod ganddo gydwybod, er fod yr ynadon yn rhyfeddu am y fath ddrychfeddwl, ac yn cymmeryd lledr y dyn, a'i werthu i'r heddgeidwaid am hanner ei werth marchnadol, er talu y dreth eglwys. Nid oes un cweryl rhyngof a'r boneddigion hyn y mae ganddynt hawl i feddu eu golygiadau; ond rhoddaf y gofyniad hwn i chwi, A ydyw yr egwyddorion a osodir allan yn yr anerchiadau hyn yn arddangos golygiadau y mwyafrif o etholwyr Aberhonddu? Credaf nad ydynt, a hyn oedd fy rheswm yn dyfod allan i'ch cynnorthwyo chwi, neu rai o honoch, i argymmeryd eich gwrthdystiad yn y cyfarfodydd, ac ar lyfr yr etholres, yn erbyn y cyhoeddiadau (manifestoes) hyn. Daethum allan er gwneyd prawf—gosod wrth y test y galwadau uchel a wnawd mewn rhai lleoedd a chynnulliadau o barthed yr angenrheidrwydd o ethol Cymro ac Annghydffurfiwr Cymreig i gynnrychioli o leiaf un o'r 32 o'r cynnrychiolaethau (constituencies) Cymreig, ac yr oeddwn am weled pa help allasai dyn ymarferol gael i fyned i'r Senedd, heb ei orfodi i ymgyduno â hanner cyfreithwyr y fwrdeisdref, a sicrhau hanner y tafarnwyr (uchel gymmeradwyaeth), ac a allai dyn gael ei ddychwelyd ar lai traul na phunnoedd bathawl yn cael eu cyfrif wrth y miloedd? Yr ateb wyf wedi ddysgu yw, fy mod ychydig o flaen yr amser. Ond, foneddigion, fe ddaw yr amser pryd y gwneir hyn, a gallesid meddwl fod Aberhonddu yn faes teg er gwneyd y fath brawf (clywch, clywch), gan fod yma yn y fwrdeisdref hon ddim llai nag wyth cynnulleidfa o Annghydffurfwyr, ac hefyd Goleg pwysig, lle y mae ein gweinidogion dyfodol yn cael eu dysgu yn yr egwyddorion dros y rhai y darfu ein tadau Puritanaidd waedu a marw. (Cymmeradwyaeth.) Mae y cwestiwn o Ddiwygiad Seneddol yn sicr o gael sylw y deddfwyr yn yr eisteddiad nesaf, a dylech chwi fod yn barod i edrych y gofyniad yn deg yn ei wyneb. Credaf fod tri phwynt i ymwneyd â hwy cyn y gall y gofyniad hwn gael ei ystyried a'i benderfynu-yr etholfraint, dyogeliad y pleidleisiwr, ac ail-ddosparthiad eisteddleoedd Seneddol. Gadewch i ni edrych ar yr etholfraint fel y mae yn awr yn meddiant y corff etholiadol yn y wlad hon. Mae Ty y Cyffredin presenol yn gyfansoddedig o 656 o aelodau, 466 o honynt wedi eu dychwelyd i gynnrychioli siroedd a bwrdeisdrefi yn Lloegr; 105 dros yr Iwerddon; 53 dros Ysgotland; a 32 dros Gymru. Mae y rhai hyn yn cael eu hethol yn ol darpariadau Ysgrif Ddiwygiadol 1832, gan ryw nifer o bersonau sydd â chymhwysder rhoddedig ganddynt i arfer yr hawl hon. Mewn siroedd dan ryw drefniadau, gall y rhydd-ddeiliad, nawdd-feddiannwr, prydleswr, a thir-ddeiliad, os bydd ei rent yn £50 y flwyddyn, bleidleisio dros gynnrychiolydd i'r Senedd; tra mewn bwrdeisdrefi, mae gan ddaliedydd tai a thir gwerth £10 y flwyddyn hawl i fod yn nghofres y pleidleiswyr. Cafodd hyn ei benderfynu yn y flwyddyn 1832-34 mlynedd yn ol, ac nid oes un cyfnewidiad wedi cymmeryd lle er hyny, mor bell ag y mae a fyno â Lloegr, Ysgotland, a Chymru; ond yn yr Iwerddon, mae yr etholfraint wedi cael ei hiselhau gryn lawer. Trwy Act 1850, cafodd ei darostwng i £12 o ardreth-dâl yn y siroedd, ac i £8 yn y bwrdeisdrefi. Yn y flwyddyn 1864, cyfanrif y pleidleiswyr ar holl lechresau y Deyrnas Gyfunol oedd 1,333,690. Byddai y nifer anferth hwn i roddi canolrif o 2,033 o bleidleiswyr i bob un o'r 656 aelodau, a chaniatau eu bod yn cael eu dosparthu yn gyfartal. Ond pan yn tynu allan o'r llechres yr holl ddychweliadau deublyg, cymmeryd i ystyriaeth yr holl farwolaethau, y symmudiadau, a'r annghymhwysderau ereill, byddem yn lleihau llawer iawn ar lechres y pleidleiswyr gweithredol, ac yn eu cael yn rhifo i'r eithaf tua 1,100,000, allan o'r boblogaeth anferth o rhwng 29 a 30 miliwn, fel nad oes genym yn y wlad hon ond un person allan o bob 29 o eneidiau â hawl ganddo i bleidleisio dros aelod i Dy y Cyffredin. Gadewch i ni geisio gwneyd hyn yn hollol eglur i bob un o honoch. Meddyliwch pe bai yn bossibl i ni gasglu at eu gilydd holl drigolion y Deyrnas Gyfunol, byddai iddynt gyda'u gilydd orchuddio arwynebedd o 1,567 o erwau o dir. Yn awr, byddai i 1,500 o erwau osod allan yn gywir y rhan hono o bobl y wlad hon nad oes hawl ganddynt i bleidleisio, tra y byddai y 67 erw fyddai ar ol yn dangos y rhan sydd â llais ganddynt yn bresenol yn etholiad aelodau i'r Senedd i wneyd ein cyfreithiau. (Cymmeradwyaeth.) A ydyw yn iawn i feddwl am fynud fod hyn yn gynnrychioliad teg o'r bobl? Onid yw yn annghysson, annghyfiawn, a chreulawn? Yn ddiau, mae enwi y cyntaf yn ddigon i argyhoeddi yr ystyriol. (Uchel gymmeradwyaeth.) A ydyw yn deg a chyfiawn i gyfyngu yr etholfraint i lai na 4 per cent. o boblogaeth y deyrnas hon? Etto, pe meddyliem fod un o'r 1,100,000, y rhai ydynt ar y rhestr, yn benau teuluoedd yr hyn nid ydynt mewn gwirionedd—ond tybiwn hyny am funyd; yna, gallwn osod i lawr y byddai iddynt hwy gynnrychioli eu hunain, eu gwragedd, eu plant, a'u gweision teuluol, pan yn defnyddio yr hawl i bleidleisio; ond hyd y nod wed'yn, byddem yn gadael 5,000,000 o deuluoedd heb eu cynnrychioli o gwbl. Neu, dywedwch y byddai i'r 1,100,000 etholwyr hyn i gynnrychioli 5,500,000 o eneidiau mewn etholiad pennodedig, etto y mae genym y ffaith bwysig y byddai 25,500,000 wedi eu cau allan yn hollol oddiwrth ragorfreintiau yr etholfraint. Credaf, fonoddigion, fod chwareu teg, gonestrwydd cyffredinol, a chyfiawnder noeth yn galw am helaethiad yr etholfraint. (Cymmeradwyaeth.) Heb fyned yn bresenol i ymresymu dros nac yn erbyn platform Llundain am etholfraint i bob dyn mewn oedran, neu dros gyhoeddiad Manchester am etholfraint bleidleisiol eglur, neu dros y cynllun cynnygiedig gan ryw gyfeillion yn Birmingham neu Newcastle-upon-Tyne, mae yn amlwg fod yn rhaid i gryn helaethiad gymmeryd lle. Yr wyf yn ystyried na wna dim yn fyr o £10 rentdâl yn y siroedd, a £5 yn y bwrdeisdrefi, gyfarfod â galwadau yr achos. (Cymmeradwyaeth.) O'm rhan fy hun, awn yn mhellach, a dywedwn y dylai pob dyn sydd â'i enw ar y treth-lyfrau, wedi byw 12 mis yn yr un district etholiadol, ac yn gwbl rydd oddiwrth drosedd, gael pleidlais. Byddai hyn yn gyfiawn a gonest i'r gweithiwr sydd yn talu ei ran er cynnal anrhydedd ac urddas ei wlad. Ond mae y gofyniad yn dod, A ddylai y cyfoeth hwn a'r anwybodaeth hon fod yn sylfaen cynnrychioliad? Hyd y nod ar y cyfrif hwn, ni ddylai y dyn gweithgar gael ei gau allan oddiwrth y fraint o gael pleidlais.

Gyda golwg ar gyfoeth y wlad, cymmerwn Dŷ yr Arglwyddi. (Gosododd Mr. Bowden ofyniad i fewn yn y fan hon, yr hwn a foddwyd gan dwrf mawr y gynnulleidfa.) Efallai mai yn hwn y mae y corff mwyaf cyfoethog yn yr holl fyd. Mae un o awdurdod digonol, ar ol ymchwiliad manwl, wedi gosod i lawr gyllid blynyddol Tŷ yr Arglwyddi yn £11,000,000; ond i fod yn gwbl sicr, gadewch i ni ddyblu y swm uchod, ac i osod swm anferthol Tŷ yr Arglwyddi yn £22,000,000; yna, cymmerwch ochr arall y gofyniad. Mae yr un awdurdod wedi gosod swm cyllid blynyddol dosparth gweithiol y wlad hon yn £250,000,000; ond i fod yn gwbl sicr ar y pen hwn etto, ni a'i tynwn i lawr i'r hanner, a'i ystyried yn £125,000,000; felly, mae cyllid y dosparth gweithiol yn y man lleiaf yn ddeg cymmaint ag eiddo Tŷ yr Arglwyddi. (Uchel gymmeradwyaeth.) Felly, os mai eiddo neu gyfoeth sydd i fod yn sail etholfraint, y dosparth gweithiol, sydd yn dal mwyaf o eiddo ddylai ei chael. Edrychwch ar y trethi a delir trethi a delir gan wahanol ddosparthiadau yn y wlad hon, a chawn weled mai y gweithiwr, o bawb dynion, sydd yn talu y trethi trymaf. Mae yn talu allan o bob punt a ennilla drwy chwys ei wyneb bum swllt yn drethi. Felly, mae yn cael ei drethu yn ol £25 y cant ar ei holl enillion; o ganlyniad, nid yw ond gwir onestrwydd a chyfiawnder i roddi iddo lais yn ffurfiad y deddfau hyny a wasgant gymmaint arno (cymmeradwyaeth). Os cymmerwn ddysgeidiaeth yn sail i gyfreithloni hyn, yr ydym yn dweyd fod gan y gweithiwr hawl ar y tir hwn hefyd. Mae cynnydd mawr wedi bod yn mhlith y dosparth gweithiol er pan basiwyd y Reform Bill yn 1832; ac os oedd sefyllfa addysg yr adeg hono yn cyfreithloni y Llywodraeth i helaethu yr etholfraint—yn Mwrdeisdref Aberhonddu, er enghraifft, o 15 i 242: cyn y Reform Bill yn 1832, rhif y pleidleiswyr oedd 15 yn unig; ond ar ol iddo basio ychwanegwyd hwynt i 242—yr ydym yn sicr ddigon fod sefyllfa pethau ar hyn o bryd yn gofyn am helaethiad ychwanegol arni. Yn awr, gadewch i ni gymmeryd cipolwg am fynyd ar rai pethau, fel prawf o ddealltwriaeth, doethineb, a sefydlogrwydd y dosparth gweithiol yn y Deyrnas Gyfunol. Yn y flwyddyn 1831—blwyddyn cyn pasiad y Reform Bill—yr oedd 1,276,747 o blant yn y gwahanol ysgolion, sef trwy ystyried un ysgolor am bob 11 o'r holl boblogaeth. Yn 1861, pryd y gwnawd y cyfrif ddiweddaf, yr ydym yn cael fod 2,750,000 o blant dan addysgiaeth, ag ystyried un am bob saith o'r boblogaeth. Mae hyn yn gynnydd ardderchog mewn 30 o flynyddau, ac y mae y rhif o hyd ar ei gynnydd. Yn 1831, yr ydym yn cael yn yr holl wlad 55 o sefydliadau celfyddydol (Mechanics' Institutes), yn cynnwys ynddynt oll 7,000 o aelodau; ond yn 1861, yr ydym yn cael dim llai na 800 o'r sefydliadau hyn, yn cynnwys tua 140,000 o aelodau. Yn 1831, yr oedd yn y wlad 429,503 o bersonau ag arian yn y Savings' Bank, symiau y rhai yn nghyd oeddynt yn £13,000,000; ond yn 1861, yr ydym yn cael dim llai na 1,500,000 yn ei ddefnyddio, a chanddynt, er anrhydedd iddynt, y swm mawr o £40,000,000 yn y sefydliadau hyn (clywch, clywch). Edrychwch etto ar y cymdeithasau dyngarol, aelodau pa rai a rifir wrth y cannoedd o filoedd, a'u heiddo yn werth rhwng 12 a 15 miliwn o bunnau. Mae genym yn bresenol un o bob pedwar o rai mewn oed yn aelodau yn y sefydliadau hyn yn ein gwlad, pan y cewch ar Gyfandir Ewrop ddim ond un allan o bob 70 yn aelod yn unrhyw sefydliad dyngarol o gwbl. Mae genym yn ein cymdeithasau adeiladu 100,000 o aelodau, a swm eu tanysgrifiadau yn £1,790,000 yn flynyddol (cymmeradwyaeth). Cymerwch un ffaith arall. Yn 1831, yr oedd yn y wlad hon 295 o bapyrau newyddion; ond yn awr, mae genym 1,270, ac y mae eu rhif yn cynnyddu o hyd, tra y mae y cynnydd wedi bod yn fawr yn y rhai chwarterol, misol, ac wythnosol. Yr wyf yn nodi y pethau hyn er dangos fod gan bobl weithgar ein gwlad hawl deilwng i'r etholfraint (clywch, a chymmeradwyaeth).

"Yna bydd ail ddosparthiad eisteddleoedd seneddol yn ffurfio rhan bwysig yn unrhyw reform bill er boddlonrwydd i'r wlad, trwy fod cymmaint o gyfnewidiadau wedi cymmeryd lle er y flwyddyn 1831. Wrth gymmeryd y gofrestr etholiadol am 1864, a rhanu y pleidleiswyr yn gyfartal rhwng y 656 aelodau sydd yn Nhy y Cyffredin, gwelwn y bydd y canolrif yn gosod 2,033 o bleidleiswyr ar gyfer pob un o'r 656 aelodau. Byddai y canolrif sydd ar gyfer 466 sydd yn Lloegr yn cynnwys 2,073 pleidleisiwr i bob aelod; i'r 105 sydd yn yr Iwerddon byddai 1,958 ar gyfer pob un o'r aelodau; ar gyfer pob un o'r 53 sydd yn Ysgotland byddai 1,919; a'r 32 a aelodau sydd dros Gymru, byddai 1,860 o bleidleiswyr ar eu cyfer. Ond y mae yr annghyfartalwch rhyngddynt yn bresenol y tu hwnt i bob crediniaeth. Gwnawn egluro hyn gydag un ar ddeg o fwrdeisdrefi mawrion, ag sydd yn dychwelyd rhyngddynt 24 o aelodau i'r Ty, a deuddeg o fwrdeisdrefi bychain sydd yn dychwelyd 24 o aelodau i'r Senedd. Yn mlaenaf, ni gymmerwn Bristol, Finsbury, Lambeth, Liverpool, Manchester, Dinas Llundain, Marylebone, Tower Hamlets, Westminster, Glasgow, a Dublin. Y rhai hyn yn nghyd a gynnwysant 3,758,668 o eneidiau. Rhif y pleidleiswyr ar y cofrestr ydyw 212,329; gwerth blynyddol y berchenogaeth yw £29,164,664; maent yn talu o ardreth y swm o £3,433,635; ac yn dychwelyd 24 o aelodau i'r Senedd. Wrth gymmeryd y deuddeg bwrdeisdref canlynol, sef Andover, Buckingham, Chippenham, Thetford, Cockermouth, Harwick, Devizes, Honiton, Leamington, Great Marlow, Marlborough, a Richmond, ni a gawn fod eu poblogaeth yn 68,106, etholwyr yn 3,858, a gwerth blynyddol eu perchenogaeth yn £314,202, yr ardreth yn £22,679; ac etto, y maent yn anfon 24 o aelodau i'r Senedd. Dangosa hyn o hono ei hun yr annghyfartalwch a'r anghyssondeb mawr o eiddo ein cynnrychiolaeth. Os cymmerwn fwrdeisdref fechan Portarlington dan sylw, gyda ei 106 etholwyr, yr ydym yn cael fod un etholwr yn Portarlington yn gyfartal i 48 yn Salford, yn gyfartal i 151 yn Swydd Cork, ac yn gyfartal i 290 o etholwyr yn Tower Hamlets. Mae yr afresymoldeb yn un rheidiol o fod yn amlwg i bawb. Edrychwch ar Bristau a Thetfordy blaenaf yn werth 13,829 o etholwyr, a'r olaf ddim ond 223; etto anfonant yr un nifer o aelodau, sef dau, i'r Senedd; ac yn ol fel y mae pethau yn aros yn awr, y mae Thetford, gyda ei 223, yn gyfartal i Bristau, gyda ei 13,829, mewn aelodau Seneddol. Pe cawsai bwrdeisdrefi Thetford, Marlborough, Andover, Honiton, Knaresborough, Calne, Arundel, Tewkesbury, a Leominster, eu gwneuthur yn un fwrdeisdref, byddai rhif eu pleidleiswyr yn llawn 2,001, yr hyn a roddai hawl iddynt ddychwelyd un aelod rhyngddynt; ac ar sail rhif, cyfoeth, a gwybodaeth, dylai Bristau gael anfon wyth aelod i'r Ty (clywch, clywch, a chymmeradwyaeth). Trwy archwiliad manwl yn y cofrestr, canfyddir fod un hanner o'r aelodau presenol yn cael eu hanfon i fewn wrth lai nâ 14 y cant, pan y mae yr hanner arall yn cael eu dychwelyd yn ol 86 y cant. Felly, yn Nhy y Cyffredin, ar unrhyw raniad, y mae yr aelodau yn ol 14 y cant yr un mor bwysig, ac o'r un dylanwad, a'r rhai yn ol 86 y cant. Yr ydym felly yn meddwl y dylai ailffurfiad gael ei ddwyn oddiamgylch (clywch, (clywch). Carem ni weled Crughywel, Gelli, Glasbury, a Llanfairynmuallt, yn gystal a Threfcastell, wedi eu hychwanegu at Aberhonddu (cymmeradwyaeth uchel), fel ag i ffurfio un fwrdeisdref (cynimeradwyaeth barhaol). A chredwch fi, foneddigion, byddai yn ddoethineb mawr ynoch i ddwyn hyn oddiamgylch yn ddioed, onide chwi gewch weled rhyw foreu teg y caiff Aberhonddu ei hysgubo oddiar y cofrestr yn gyfangwbl (clywch, clywch).

"Y pwynt nesaf yn unrhyw reform bill ddylai fod dyogelwch y pleidleisiwr wrth bleidleisio. Rhoddi cyfle i'r gweithiwr i bleidleisio heb y dyogelwch priodol ar ei gyfer wrth ymwneyd â hyn, fyddai ddim amgen na thwyll, neu siom a magl. (Clywch, clywch.) Credaf fod y Tugel yn ffordd a gynnwys y dyogelwch priodol (bravo, a chymmeradwyaeth); ac felly, byddwn yn llawen i weled y tugel yn rhan o gyfraith y tir. (Cymmeradwyaeth adnewyddol).

Carwn yn annghyffredin, pe buasai amser yn caniatau (Ewch yn mlaen am wythnos, os mynwch '), i gyfeirio eich sylw at faterion eglwysig. Yn fy anerchiad i chwi fel pleidleiswyr, ar y 19eg o'r mis diweddaf, nodais fy ngolygiadau yn agored a gonest ar y cyssylltiad, neu yr annghyssylltiad, yn hytrach, a ddylai fodoli rhwng crefydd a'r Wladwriaeth. (Clywch, clywch). Rheda y nodiad fel hyn:— Mewn materion eglwysig, yr wyf yn Annghydffurfwr. Credaf nad yw crefydd Crist wedi cael ei bwriadu gan ei Sylfaenydd dwyfol i fod yn fath o beiriant neu offeryn i'r Wladwriaeth, ac y byddai yn llesiant mawr i wir grefydd gael ei rhyddhau oddiwrth bob nawdd a rheolaeth wladwriaethol. Felly, tra yn sefyll yn gadarn dros iawnderau, ac yn caru llesiant pawb dynion, a meithrin y teimladau mwyaf o barch a chariad tuag at yr Eglwys Esgobaidd, fel un o gymdeithasau Cristionogol ein gwlad, mi a gefnogwn yn llawen fesur er perffaith ddadgyssylltiad yr Eglwys oddiwrth y wladwriaeth, gan gredu yn gadarn y profai hyny yn weithred o fendith i'r Eglwys ei hunan, yn gystal a mesur syml o gyfiawnder tuag at gynnulleidfaoedd crefyddol ereill ag sydd o fewn i'r deyrnas hon.' (Cymmeradwyaeth). Nid wyf wrthyf fy hun ar y pen hwn. Mae rhai o'r dynion goreu yn yr Eglwys Sefydledig o'r un fath opiniwn. Er profi hyn, ni wnaf ond cyfeirio eich sylw at bregeth alluog a bregethwyd yn ddiweddar o flaen Prifysgol Cambridge, gan y Parch. John Ingle, o Trinity College, lle y noda:—'Nid yw yr amser yn mhell, pryd yr amddifadir yr Eglwys o bob rhyw oruchafiaeth (predomination), yn gymdeithasol neu wleidyddol, a feddiennir ganddi yn bresenol, ac y bydd i'r gwahanol sectau a'i hamgylchyna i gael eu gosod, gyda golwg ar yr holl freintiau a'r iawnderau cyhoeddus, ar yr un tir o gydraddoldeb a hithau.' (Cymmeradwyaeth). Cofiwch nad fy ngeiriau I ydoedd y rhai hyna, ond geiriau a draddodwyd o flaen Prifysgol Cambridge ychydig ddyddiau yn ol. (Cymmeradwyaeth.) Gallaswn eich arwain hefyd at achos Colenso, a'r effaith uniongyrchol ar weithrediadau pum' esgob New Zealand, y rhai ddychwelasant, mewn modd parchus, eu breint—lythyrau fel esgobion i'r Goron, gan ddymuno o hyny allan, yn hytrach, i fyw yn gydradd â'r sectau crefyddol ereill yn y lle hwnw. (Clywch, clywch). Cyfeiriaf chwi at nodiad arall yn fy anerchiad a gyhoeddwyd mewn cyssylltiad â nawdd yr Eglwys, sef:— Gwnawn fy ngoreu dros gael pwyllgor ymchwiliadol, er chwilio i mewn i waith yr Eglwys Sefydledig a'r Ysgolion Gwaddoledig, er cael allan gyfanswm y ddarpariaeth a wnawd, ac a wneir ar gyfer angenrheidiau ysprydol y bobl, ac addysg plant tlodion, yn nghyd â'r effaith o osod mewn swyddau uchel rai nad ydynt yn deall iaith y bobl; y drwg mawr o fyned a chyfraniadau y Llywodraeth at eglwysi tlodion Cymru er mwyn gwaddoli eglwysi cyfoethog mewn manau ereill; a pha un a yw y Sefydliad yn Nghymru wedi ateb dyben ei fodolaeth, ac a ydyw wedi dwyn ffrwyth cyfartal i'r symiau mawrion a gymmerir ganddo o drethi y wlad. Credaf nad oes un wlad ag y mae Eglwys Sefydledig ynddi a`i nawdd yn cael ei gam—arfer yn fwy nag yn Nghymru y tri chan' mlynedd diweddaf. (Clywch, clywch). Cyfyngaf fy hun yn gwbl i ffeithiau— ffeithiau ag sydd yn gwbl awdurdodedig. Yn Johnes Essay on the causes of Dissent in Wales,' yr ydym yn cael y gosodiad canlynol:— Pan ymgymmerodd Harri VIII. a'r gwaith o reoli y Sefydliad, cwympodd y mynachdai yn Nghymru, yn gystal ag yn Lloegr, yn nghyd a thai crefyddol ereill; ond nid dyma yr unig ddystryw. Dihatrwyd Swydd Feirionydd o'r degwm yn gyfartal i un hanner o swm holl elw yr offeiriaid a drigai ynddi, a hyny er adeiladu esgobaeth newydd Litchfield. Sir Gaernarfon a drethwyd yr un fath er mwyn Caerlleon Gawr, tra esgobaethau newyddion ereill a gyfoethogwyd ar draul Deheudir Cymru. Yn y Gogledd, gosodwyd degymau amryw o'r plwyfi cyfoethocaf er cynnal colegau Seisnigaidd; yn y Deheudir, gosodwyd degymau y rhan amlaf i'r lleygwyr. Mae yn Swydd Forganwg yn unig ddim llai na deg plwyf yn rhodd Deon a Chapter Gloucester.' Rhaid i ni gofio hefyd y ffaith mai y personau pennodedig i'r esgobaethau Cymreig ydynt Saeson (cywilydd), a'r esgobion Saxonaidd hyn nid ydynt byth yn annghofio eu cyssylltiadau teuluaidd pan yn gwneuthur pennodiadau i'r bywoliaethau goreu yn y Dywysogaeth. Yna y mae yn canlyn fod swm mawreddog o'r nawdd gwladwriaethol y tri chan' mlynedd diweddaf wedi cael ei roddi i'r Saeson, ac felly yn amddifadu trigolion Cymru o'u teg a'u teilwng ran o gyfoeth yr Eglwys yn eu gwlad eu hunain. (Llais: 'Yr wyf yn rhyfeddu nad ydynt yn aros gartref'). Pan y gallant gael digon o hufen yn Nghymru, ni wnant yfed llaeth dihufen gartref. (Bloedd o chwerthin, a tharan o guriadau)."

Yna aeth y Dr. yn mlaen i ddangos pa fodd yr oedd y nawdd (patronage) hwn yn cael ei ranu rhwng Esgobion St. Asaph, Bangor, St. David's, Llandaf, Deoniaid a Chapters y tair esgobaeth, Archddiaconiaid Aberhonddu a Llandaf, Provost a Fellows Coleg Eton, Coleg yr Iesu (Rhydychain), Coleg Crist, Esgobion Lincoln, Chester, Lichfield, Gloucester, a Brystau, yn nghyd a Deoniaid a Chapters Gloucester a Brystau. Heblaw y swyddau cadeiriol, yr oedd 400 o fywoliaethau at eu llaw, 330 o'r rhai oedd yn rhodd pedair o esgobaethau Cymreig. Yna dywedodd:— "A wna rhyw gyfreithiwr Philadelphaidd yn yr ystafell hon ddywedyd wrthyf pa sawl Cymro sydd yn mhlith y llu a enwyd? (Mr. Bowden: 'You aint going into none of 'em, are you?' Llefau: 'Trowch ef allan '). Nid yw ein hysgolion gwaddoledig mewn gwell sefyllfa (yr wyf yn cyfeirio yn awr at ryw ddwy neu dair blynedd yn ol). Tystiai Syr Thomas Phillips, ryw gymmaint o amser yn ol, fod Coleg Crist yn Aberhonddu, 'o'i sefydliad i lawr hyd at ein hamser ni, wedi bod yn warthrudd i'r Eglwys, yn gystal a'r Wladwriaeth.' Yr un fath y gellir dweyd am ysgolion Bangor a Llanrwst; i'r cyntaf or cyfryw y mae swm blynyddol o £500, ac i'r olaf y y swm bob blwyddyn yn cael ei roddi o £600, y rhai, ar y dechreu, a sefydlwyd er lles plant dynion tlawd;' ond cafodd plant y dynion tlawd eu hyspeilio o'u hiawnderau, ac y mae yr eiddo tuag atynt wedi myned i gyfoethogi sefydliadau Eglwysaidd nad ydynt yn meddu un cydymdeimlad tuag at Gymru na'i dynion tlawd. Felly, yr wyf yn credu fod eisieu, ac y dylai pennodiad Seneddol gael ei wneuthur, er edrych i mewn i'r camdriniaethau hyn—ymchwiliad manwl a didwyll, a brofai yn fendith i'r Eglwys, ac a fyddai yn weithred o gyfiawnder tuag at offeiriaid gweithgar Cymru.

"Ond etto, gan gyfeirio at y Reform Bill, credaf mai dau brif beth y Bill nesaf fydd helaethu sail y gynnrychiolaeth, ac ail drefniad eisteddleoedd Seneddol. Y rhai hyn, wrth bob tebyg, fydd prif gynnwysiad y Bill; ac yr wyf yn falch i glywed fod y Llywodraeth yn barod i sefyll neu syrthio yn ol y Bill.

"Caniatewch i mi, wrth derfynu, eich rhybuddio i wylied pob symmudiad o eiddo y rhai sydd yn promoto y Bill newydd. Byddwch yn effro, onite, ar ryw foreu braf, chwi ellwch ddeffro, a chael allan fod bwrdeisdref Aberhonddu wedi ei hamddifadu o'i braint bresenol o anfon aelod i'r Senedd. Rhaid i un o dri pheth, yn fy nhyb I, ddyfod i ben. Rhaid i drefydd Crughywel, Llanfair-yn-muallt, Glasbury, a Threcastell, gael eu huno, a'u hychwanegu at Aberhonddu, neu bydd tref Aberhonddu yn sicr o gael ei huno â'r wlad, ac yna chwi gewch anfon un aelod, yn lle dau, fel yn awr; neu, y mae yn bossibl i Aberhonddu gael ei gadael allan o'r gyfres, er rhoddi lle i'r trefydd mawrion a chynnyddol (yr un fath a Staleybridge), yn ngwahanol ranau o'r deyrnas. Byddwch yn mhob achos ar eich gwyliadwriaeth, a gofalwch am lesiant eich tref; chwiliwch yn fanwl bob rhan (draft) o'r Reform Bill; anfonwch ddeiseb er uno y trefydd a enwyd, a gofalwch gael y dyn goreu er eich cynnrychioli yn Nhy y Cyffredin."

Nodiadau[golygu]

  1. Ychydig ddiwrnodau cyn cyfarfod mawr Cambridge, derbyniodd y Dr. delegram, yn ei hyspysu fod Mr. Birrell, Liverpool, yn methu dyfod i'r cyfarfod, ac yn taer erfyn arno ef i gymmeryd ei le yn y cyfarfod mawr cenadol. Felly y bu; traddododd yr anerchiad hwn; ac yr ydym yn cyhoeddi cyfieithad o hono o'r Cambridge Independent Press, lle yr ym. ddangosodd yn llawn Sadwrn, Medi 24ain, 1870.