Neidio i'r cynnwys

Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price/Enghreifftiau o'i Bregethau

Oddi ar Wicidestun
Enghreifftiau o'i Areithiau Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price

gan Benjamin Evans (Telynfab)

PENNOD XXII.

ENGHREIFFTIAU O'I BREGETHAU.

Y Tabernacl—Y Corn Bychan—Geiriau Crist—Joseph—Angladd Jacob.

RHODDWN yma tua hanner dwsin o frasluniau o bregethau y Dr. fel yr ysgrifenwyd hwynt ganddo.

Gwyr pawb a'i hadwaenent yn dda am ei allu neillduol i lanw fyny ei amlinellau, ac am ei fedr digyffelyb i droi pob peth at ei wasanaeth ar y pryd. Cyfrifai hyny, yn ddiau, i raddau helaeth am ei boblogrwydd fel pregethwr. Nid ydym yn rhoddi y pregethau hyn yma am y credwn eu bod yn rhagori dim ar gannoedd o bregethau oedd gan y Dr., ond am y meddyliwn eu bod yn rhoddi syniad mor deg i'r darllenydd pa mor lleied oedd y parotoad angenrheidiol arno i bregethu braidd ar unrhyw fater. Gallasem roddi rhai pregethau o'i eiddo yn gyflawnach, ond ni fuasent mor nodweddiadol o hono.

Y TABERNACL.

Exodus xxxvi. 2—7.

Ein hamcan yw galw sylw at y Tabernacl, a gododd y bobl i'r Arglwydd yn yr anialwch.

Mae yn angenrheidiol i ni gadw mewn cof fod tri tha. bernacl wedi eu codi, ac y mae y Beibl yn son am y tri gwahanol hyn; ac mae o bwys i ni wylied am ba un o'r tri y byddys yn siarad.

1. Y Tabernacl a godwyd gan Moses wrth odreu Mynydd Sinai (Ex. xxxiii. 7—11). Gelwir hwn yn "Babell y Cyfarfod." Yr oedd yn dy lle yr oedd Moses yn cyflawnu ei waith swyddogol fel prif weinidog yr Eglwys fawr. Yma y byddai Duw yn cyfarfod Moses, ac yma y byddai Moses yn cyfarfod y bobl.

2. Y Tabernacl a godwyd gan y bobl i'r Arglwydd yn yr anialwch.—Daw hwn dan ein sylw heddyw.

3. Tabernacl Dafydd.—Darparodd Dafydd dabernacl i'r arch pan symmudwyd hi o dy Obededom i Ddinas Dafydd (2 Samuel vi. 17). Mae yn ffaith bwysig i ni ei chofio na fu yr arch ddim yn ol yn y Tabernacl wedi iddi gael ei chymmeryd allan gan feibion Eli, a'i dygiad hi gan y Philistiaid i dŷ Dagon. Yr oedd y Tabernacl yn aros yn Uchelfa Gibeon; a phan gymmerwyd yr arch i Jerusalem, trefnodd Dafydd fod nifer o offeiriaid i gyflawnu gwasanaeth crefyddol yn y lle neu y babell newydd; ac fe bennodwyd nifer arall o offeiriaid i gadw y gwasanaeth yn y blaen yn yr hen Dabernacl yn Gibeon (gweler a darllener i Chron. xvi. 37—40; hefyd, 2 Chron. i. 3—6).

Yr un a godwyd yn yr anialwch sydd i gael ein sylw heddyw. Mae yma dri neu bedwar o bethau rhagarweiniol:

1. Ty i Dduw oedd hwn (Ex. xxv. 8).—Mae yr Arglwydd mewn modd arbenig am gael tý iddo ei Hun: "Gwnant i mi gyssegr.

2. Yr oedd hyn yn cyfateb i amgylchiadau y bobl.—Byw mewn pebyll yr oeddynt hwy, ac mae Duw yn dyfod i'w plith, ac yn myned i fyw mewn pabell. Pan ddaeth Israel yn sefydlog yn Nghanaan a byw mewn tai, cafodd Duw ei dŷ hefyd—ei Deml sefydlog.

3. Yr oedd i fod yn deilwng o'r Jehofa Mawr.—Ty i'r Arglwydd oedd. Dyma yr unig ffordd y gallwn gyfrif am a chyfiawnhau y draul fawr yr awd iddo wrth godi y Tabernacl. Duw a dynodd y cynllun, yr hwn a roddwyd i Moses ar y Mynydd (pen. xxv). Duw, hefyd, a roddodd ddoethineb i Bezaleel a Ahaliab. Maentioli y Tabernacl a benderfynwyd gan Dduw. Yn annybynol ar y cyntedd allanol agored, nid oedd y Tabernacl ond bychan. Mae yr enwog Jahu yn ei roddi yn 45 troedfedd wrth 15, neu 675 o droedfeddi ysgwar. Bydd hyn yn llai o 1,005 troedfedd ysgwar nag yw Hall Calfaria, yr hon sydd yn 84 wrth 20 heb y gallery, ac 1,439 llai na'r Ynyslwyd. Yr oedd y bobl i gael y fraint o roddi yr holl ddefnyddiau; ac at y rhoddion hyn y bwriadwn alw eich sylw.

I. YR OEDD Y RHODDION YN AMRYWIOL IAWN.

Mae yr Arglwydd yn fanwl iawn yn nodi yr hyn fydd yn eisieu, ac yn gadael ar y mechanics a'r artisans i nodi allan swm o bob peth oedd yn ofynol i gario allan gynllun Duw. Dyma y gyfres (Ex. xxv. 1—8):—Aur, arian, pres, sidan glas, sidan porphor, sidan ysgarlad, llian main, blew geifr, crwyn hyrddod, crwyn daearfoch, coed sittim, olew, llysiau, maen onix, sardius, thophas, smaragdus, carbuncl, saphir, adamant, lygur, aceat, amethyst, beryl, a jaspis. Dyma gyfres o 26 o nwyddau (gweler Ex. xxv. 1—7; a pen. xxiii. 17–19).

II. RHODDION COSTFAWR IAWN.

Dyma yr adeilad, yn ol ei faintioli, mwyaf costfawr ar wyneb y ddaear. Cofier mai bach oedd, ond yr oedd y draul yn fawr iawn; ond daeth rhoddion y bobl i fyny â'r angen. Fel enghraifft, cymmerwn un darn o'r dodrefn, sef y canwyllbren aur. Yn ol Deon Prideaux, yr oedd hwn, heb y gwaith, yn werth £7,013. Mae yr holl ddefnyddiau yn sefyll fel hyn:—Aur yn 4245 pwys, yn werth £198,347 12s. 6ch.; arian, yn 16,602 pwys, yn werth £45,266 5s.; pres yn 10,277 pwys, yn werth £513 17s.; defnyddiau ereill, £80,000; cyfanswm, 324,112 14s. 6ch. Ty i Dduw oedd hwn.

III. YR OEDD Y RHODDION YN GYFFREDINOL IAWN.

Yr oedd pob dosparth yn y gwersyll yn rhoddi, fel y dengys Ex. xXXV. 20—29. Dyma ddysgwyliad mewnol hynod o galonog. Darllen.

IV. MAE Y CWBL YN WIRFODDOL.

Darllen pen. xxxv. 5, 21, a 29. Calon ewyllysgar.

V. RHODDION PRYDLON.

Y cwbl yn mlaen llaw.

VI. YN FWY NA DIGON.

Danfonwyd allan orchymyn i atal rhoddion y bobl.

APPEL.—A gawn ni efelychu y bobl hyn:— 1. Yn nghyffredinolrwydd y cyfranu.

2. Yn y parodrwydd i weithio.

3. Yn eu haelionusrwydd i Dduw.

Amen.


Y CORN BYCHAN.

Daniel vii. 24– 27.

Mae y bennod hon yn cynnwys un o'r proffwydoliaethau mwyaf pwysig ag sydd i'w chael yn yr Hen Destament. Ni a gawn yma hanes cyfodiad a dinystr y pedair breniniaeth fawr ag oedd wedi bod, ac yn bod, ac i fod yn ben ar yr holl fyd adnabyddus o ddyddiau Nimrod hyd gwymp Pabyddiaeth, tra y mae yma ddarluniad bywiog o deyrnasiad y saint ar y ddaear yn y dyddiau diweddaf.

Mae y proffwyd yn gweled pedwar o anifeiliaid yn codi i fyny o'r môr. Mae y cyntaf ar lun llew, yr ail yn debyg i arth, y trydydd yn ymdebygoli i lewpart, tra yr oedd y pedwerydd yn gyfryw nad oedd y proffwyd yn gallu rhoddi enw arno; yr oedd mor wahanol i bob bwystfil ag yr oedd ef wedi ei weled o'r blaen. Mae yn amlwg fod yma ddarluniad yn 1. O Ynherodraeth Babilon. 2. Ymherodraeth Media-Persia. 3. Ymherodraeth Macedonia. 4. Ymherodraeth fawr Rhufain. Mae y deg corn ar ben y bwystfil ag oedd yn cynnrychioli Rhufain, yn dangos y deg breniniaeth i ba rai y rhanwyd yr ymherodraeth fawr hon. Mor bell ag y deallaf, y rhai hyn ydynt,—1. Senedd a phobl Rhufain. 2. Y Groegiaid yn Ravena. 3. Y Lombardiaid. 4. Yr Hungariaid. 5. Yr Almaeniaid. 6. Y Ffrancod. 7. Y Byrganiaid. 8. Y Saraseniaid, yn Yspaen. 9. Y Gothiaid yn y rhan arall o Yspaen. 10. Y Saxoniaid yn Lloegr. Yr oedd yr ymraniad hwn wedi cymmeryd lle cyn diwedd y bummed ganrif o'r cyfnod Cristionogol.

Tra yn sylwi ar, ac yn rhyfeddu gweled y fath nifer o gyrn yn cyfodi ar ben yr un bwystfil, gwelodd y proffwyd gorn arall yn cyfodi—un bychan oedd hwn. Cyfodai ar ol y deg ereill, ac yn mysg y deg oedd o'i flaen. Mae hwn yn gwahaniaethu llawer oddiwrth y rhai ereill; ac er ei fychandra dechreuol, mae yn darostwng tri o'r cyrn ereill, ac yn myned a'u teyrnasoedd. Mae hwn yn gwneyd rhyfel yn erbyn saint Duw ar y ddaear; ond, y mae ei dymhor yn bennodedig—mae ei gwymp yn cael ei sicrhau, ac Eglwys y Duw byw yn dyfod i feddiant llywodraeth gyffredinol ar y ddaear.

Cymmerwn ddau beth dan ein sylw.

I. Y DARLUNIAD A RODDIR YMA O'R CORN BYCHAN.

II. Y FENDITH FAWR A DDAW I RAN EGLWYS DDUW AR DDINYSTR Y CORN BYCHAN.

I. Y DARLUNIAD A RODDIR YMA O'R CORN BYCHAN.

Mae yn ymddangos yn dra eglur i mi mai yr un gwrthddrych sydd mewn golwg gan Daniel yma ag sydd gan Paul yn 2 Thes. ii. 3—10, dan yr enwau, y Dyn Pechod," a'r "anwir hwnw"; ac mai yr un gwrthddrych a elwir gan Ioan yn "annghrist." Mae y gwrthddrychau hyn yn cynnrychioli ac yn dadblygu cyfundraeth o grefydd gau a sefydlwyd yn y byd, ac sydd yn awr yn cael ei phleidio gan Babyddion y ddaear. Nid yw y desgrifiad yn gyfyngedig i berson, brenin, na Phab; ond y mae yn darlunio y gyfundraeth Babyddol, fel y mae wedi ei hegluro yn mhersonau a gweithrediadau y Pabau o ddyddiau y Pab Gregory I. hyd yn awr. Sylwn:—

1. Cyfodiad y Corn Bychan.—Mae dau beth yn cael eu llefaru am ei gyfodiad.

(1) Yr oedd wedi codi yn mhlith y deg corn ereill. Yna mae yn rhaid edrych am gyfodiad y gyfundraeth Babyddol yn mhlith y teyrnasoedd i'r rhai y rhanwyd Ymherodraeth Rhufain. Mae y rhan hon o'r broffwydoliaeth wedi ei wirioneddoli i'r llythyren, gan y gwyddis i'r Babaeth ddyfod i'r amlwg fel corn yn Rhufain ei hun, canolbwynt y deg brenhiniaeth dan sylw.

(2) Yr oedd i godi ar ol y deg corn ereill. Yma y mae yn iawn i nodi fod y corn yn golygu gallu gwladol y Pabau, ac nid eu hegwyddorion, yn eu hagwedd ysprydol. Yr oedd yspryd y Babaeth yn fyw er yn foreu iawn; ond fel gallu gwleidyddol, ni ddaeth i'r amlwg nes i'r deg corn ereill wneyd eu hymddangosiad. Yr oedd Yr oedd y deg corn cyntaf wedi eu sefydlu ar y bwystfil Rhufeinig cyn diwedd y bymthegfed ganrif; felly, o leiaf, gan' mlynedd cyn cyfodiad y corn bychan. Yna gwir yw iddo gyfodi yn eu plith, ac ar eu hol.

2. Nodweddau y Corn Bychan. Mae yma dri o bethau yn nodweddu y corn bychan.

(1) Yr oedd yn anırywio oddiwrth y deg ereill. Yr oedd gan y deg ereill awdurdod dymhorol yn unig; ond mae gan y corn bychan awdurdod dymhorol ac ysprydol—ar gyrff ac eneidiau—ar feddiannau a chydwybodau yn y byd hwn, ac yn y purdan draw. Heblaw hyn, efe yw brenin y deg brenin ereill yn yr holl faterion eglyswig ac ysprydol. Fel hyn y mae yn amrywio.

(2) Yr oedd iddo lygaid fel llygaid dyn. Mae hyn yn dangos treiddgarwch, rhagwelediad, ac yn aml, gyfrwystra y Pabau; trwy hyn y maent wedi gorfaelu y fath ddylan- wad ag y maent wedi ei gael yn y byd.

(3) Yr olwg arno yn arwach na'r deg corn ereill. Mae y gwreiddiol yn golygu ei fod yn edrych yn “fwy cryf,” yn fwy nerthol, ac yn fwy ei impudence na'r lleill o'r cyrn. Mae hyn yn syn, ac yntau ond bychan. Ond mae hyn etto wedi ei lwyr gyflawni gan y Pabau yn eu hyspryd balch, hunanol, a thraws-arglwyddiaethol. Mae y Pab yn honi goruchafiaeth ar ei frodyr crefyddol—ar holl blant Duw, ac ar benau coronog y ddaear. Dysgwylia i bawb blygu iddo ef.

3. Gwaith y Corn Bychan.

(1) Darostwng tri o'r cyrn ereill. Yn y flwyddyn 715 mae Gregory II. yn diarddelu yr Ymherawdwr Leo Isaurieus, ac yn cymmeryd meddiant o'r awdurdod dymhorol. Yn y flwyddyn 741, mae Zachary yn diarddelu Chideric, ac yn cymmeryd meddiant o Ravena, ac yn dyfod yn frenin ar y wlad. Yn y flwyddyn 754, mae Stephen III., yn y gynghorfa yn Caercystenyn, yn cael ei gyhoeddi yn frenin. Dyma yn awr dri o'r cyrn, neu dri o'r deg brenin, wedi eu darostwng o flaen a chan y corn bychan, sef Ravena, Lombardy, a Senedd a Llywodraeth Rhufain. Golygfa ryfedd i Daniel oedd gweled un corn bychan yn diwreiddio tri chorn mwy; ond etto, mae hyn wedi ei gyflawni i'r llythyren.

(2) Traethu geiriau mawrion yn erbyn (neu fel) y Goruchaf. Mae fel y Goruchaf yn fwy cydnaws â'r gwreiddiol, ac yn ateb yn well i'r hyn a ddywed Paul yn 2 Thes. ii. 4. Mae y Pabau, o ddyddiau Gregory hyd yn awr, yn honi hawl i faddeu pechodau; agor a chau dorau y nefoedd ; rhwymo dynion i ufuddhau iddynt hwy yn hytrach nag i Dduw; cyhoeddi eu hanathema yn erbyn teyrnasoedd cyfain; ysgymuno tywysogion, a chollfarnu breninoedd y ddaear. Hona'r Pab oruchafiaeth ar bawb o'i gyd-ddynion; gwisga deitlau anaddas i'r un bôd meidrol, megys ei "Sancteiddrwydd," "Anffaeledig," "Ficer Duw," "Ar- glwydd Dduw y Pab," &c. Fel hyn, hona weithredoedd Duw, eistedda yn nheml Duw, a dengys mai Duw ydyw.

(3) Gwrthryfela yn erbyn saint Duw. Dyma etto ydyw yspryd Pabyddiaeth yn mhob oes o'r byd. Mae hyn wedi cael ei wneyd drwy gyfreithiau gormesol, anathemau, y cleddyf, yr ystanc, y tân a'r ffagodau, y chwil-lysoedd damniol—mewn gair, trwy ladd a difa yn nihob modd bawb na fuasent yn plygu y lin i'r gyfundrefn Babyddol. Pwy a all feddwl heb deimlo y gwaed yn berwi am y Waldensiaid a'r Albigensiaid yn Piedmont, yr hen Gymry yn y dyddiau gynt, a'r afonydd o waed a dywalltwyd gan y Pabau er attegu y gyfundrefn a rag-ddangoswyd gan y corn bychan. Yspryd y grefydd Babaidd yw lladd a difa saint y Goruchaf; dyna oedd, dyna yw, a dyna fydd.

(4) Cyfnewid amseroedd a chyfreithiau. Gellir yn hawdd grynhoi hanes y Babaeth i'r dywediad, "Cyfnewid amseroedd a chyfreithiau." Nid oes un deyrnas yn Ewrop nad yw bys y Babaeth wedi bod yn ei chyfreithiau; a thrwy ei dylanwad mae cyfreithiau teyrnasoedd y byd wedi eu cyfnewid. Mae yn newid amseroedd, trwy neillduo a ffugsancteiddio dyddiau i'r sanct hwn a'r sanct arall. Mae hefyd wedi newid holl drefn y Beibl o addoli Duw; yn rhoddi pynciau newyddion i'w credu, a mil a mwy o orchymynion i'w cyflawnu.

4. Amser teyrnasiad y corn bychan.—Dywedir yma mai am amser, amseroedd, a rhan amser," y byddai iddo fodoli fel corn; hyny yw, fel un yn arfer gallu tymhorol a gwleidyddol. Mae hyn yn golygu blwyddyn, dwy flynedd, a hanner blwyddyn; mewn geiriau eglur, mae hyn yn golygu tair blynedd a hanner, yn ol cyfrif y proffwyd; sef cyfrif diwrnod am flwyddyn; yna bydd y cyfnod yn 1,260 o ddyddiau, neu yn ol ein cyfrif cyffredin ni, yn 1,260 o flynyddau. Mae hyn yn cyduno ag oed y bwystfil yn Llyfr y Datguddiad; tymhor y wraig i fod yn yr anialwch; ac amser y tystion i fod mewn sachlian a lludw. Yna mae yn amlwg mai tymhor breninol Pabyddiaeth ar y ddaear yw 1,260 o flynyddau.

5. Dinystr y corn bychan. (1) Amser ei ddinystr. Y pwnc y carem ei benderfynu yma yw, Y pryd y darfu i'r Babaeth hawlio ei gallu tymhorol a gwleidyddol; canys dyna adeg cyfodiad y corn bychan. Ffrwyth yr ymchwiliad mwyaf gonest a manwl o fy eiddo yw hyn :—Yn y flwyddyn 590 daeth Gregory I. i'r Gadair Babyddol yn Rhufain. Bu yn Yn y y swydd am bedair blynedd ar ddeg, ac yn ystod y tymhor hwn gwnaeth fwy na neb arall i barotoi y ffordd i godiad y corn bychan; ond bu farw cyn cyrhaedd yr amser. Yn y flwyddyn 606 daeth Boniface III. i'r gadair, a chyhoeddwyd ef gan Phocas yn ben cyffredinol yr holl Eglwys ar y ddaear. Dyna gam tuag at godiad y corn bychan. Yn y flwyddyn 608 daeth Boniface IV. i'r gadair; ac yn y flwyddyn 610, darfu iddo ef yspeilio senedd a phobl Rhufain o'r Pantheon, a'i chyssegru i'r holl saint. Dyna y weithred orphenodd, i'm tyb I, roddi bodolaeth i'r corn bychan. Yr oedd ei ben erbyn hyn yn ddigon uchel i Daniel ei weled yn mhlith y deg corn ereill. Un bach oedd ef, ond yr oedd yn y golwg, a buan y daeth yn ddigon cryf i ddiwreiddio tri o'r deg cyrn mawrion ag oeddynt yn bodoli o'i flaen. Yn ystod y pum' mlynedd nesaf mae y corn bychan yn dyfod yn amlwg iawn. Yna, yr wyf yn mentro dywedyd, ni chyfododd y corn bychan cyn y flwyddyn 610, ac nid oedd ei ymddangosiad yn ddiweddarach na'r flwyddyn 615; ond credaf yn hollol ei fod i'w ganfod yn mherson a gweithred Boniface IV, yn y flwyddyn 610. Yna, os ychwanegwn 1,260 o flynyddau at 610, cawn y bydd ei gwymp fel corn, neu allu tymhorol a gwleidyddol, i gymmeryd lle yn y flwyddyn 1870. Dyna adeg cwymp (2) Yr y corn bychan, yn ol fel y deallaf y broffwydoliaeth, a hanes yr Eglwys Babaidd yn y 5ed, 6ed, a'r 7fed ganrif. achos o'i ddinystr. Achosir ei ddinystr gan ei eiriau cableddus ei hun (adnod 11). (3) Natur ei ddinystr. Bydd ei ddinystr yn llwyr a chyflawn (adnodau 11, 12). Mae dinystr y corn bychan yn arwyddo dinystr y bwystfil hefyd. Mae y galluoedd hyn wedi bod yn cydfyw-yn uno i erlid a lladd plant Jehofa; ond yma dangosir y bydd i honiadau a geiriau cabledd y corn bychan fod yn ddinystr iddo ef, ac hefyd i'r bwystfil o ben yr hwn y daeth ar y cyntaf.

II. Y fendith FAWR A DDAW I RAN EGLWYS DDUW AR GWYMP Y CORN.

Mae saint Duw, am gannoedd o flynyddoedd, wedi cael eu hyspeilio o'u hiawnderau. Mae y corn bychan wedi bod, ac yn awr yn erlid y saint, ac yn eistedd yn nheml Dduw; mae yr Eglwys wedi bod dan draed y bwysfil hwn am hir dymhor; ond daw y boreu i ben pan y ceir tro ar yr olwyn fawr, fe gwymp y corn, fe leddir y bwystfil, ac fe fydd i blant Duw gymmeryd eu safle priodol yn y byd. "Y freniniaeth a'r llywodraeth dan yr holl nefoedd a roddir i blant saint y Goruchaf." Ië, y saint fydd yn teyrnasu, plant Duw fydd a'r llywodraeth dan yr holl nefoedd."

Mae yma ddau beth,—y llywodraeth yn ei heangder, ac yn ei pharhad.

1. Eangder llywodraeth y saint.—Mae yn gyffredinol: "dan yr holl nefoedd." Bydd hon yn fwy nag un a fu o'i blaen. Cymmerwn olwg ar ddarlunlen o arwynebedd y ddaear, er gweled terfynau llywodraeth y saint. Mesurwn y Deyrnas Gyfunol, o Dyddewi i greigiau Dover, ac o John o'Groat's i Land's End—dyma ddernyn da iawn; ond mae yn rhy fach. Caiff yr Eglwys yr oll o Ewrop, o Iceland i Fôr y Dwyrain, o Lapland i Greigiau Gibralter. Daw Asia fras i fewn, o Ogledd America i For yr India, ac o Holland Newydd i Gaergystenyn. Mae Affrica dywell ar y map gan Fab Duw; daw yr oll i fewn, o Ynysoedd y Gorllewin i Madagasgar, o Gogendor Persia i Benrhyn Gobaith Da. Ië, daw America eang i fewn, yn y Gogledd o Greeland i Mexico, ac o Afon Coke i Ynys Trinidad. Daw America Ddeheuol, o For y Werydd Gogleddol i'r Mor Tawel Deheuol, ac o For y Werydd Deheuol i'r Mor Tawel Gogleddol. O! olygfa fendigedig, pan ddaw y byd crwn o fewn i Eglwys y Duw byw. Fe a ddaw. Y mae y llywodraeth i fod "o for hyd for, ac o'r afon hyd eithaf y ddaear." Mae yn d'od; mae yn gwneyd ei ffordd. Gallwn yn awr ganu gyda'r enwog Ddewi Wyn o Arfon:—

"Od aeth y fendith hyd eithaf India," &c.

Ond er cymmaint sydd wedi ei wneyd, ac yn cael ei wneyd,

"Nid yw etto ond dechreu gwawrio,
Fe gwyd yr haul yn uwch i'r lan ;
Teyrnas annghrist gaiff ei dryllio,
Iesu'n Frenin yn mhob man."

2. Parhad y llywodraeth.—Bydd yn dragwyddol ei pharhad. Nid oes un deyrnas arall wedi bod, nac yn bod, a all honi hyn. Mae cyfnewidioldeb a darfod yn perthyn i bob teyrnas arall; ond "para byth yw arwyddair teyrnas plant Duw. Bydd iddynt deyrnasu o gwymp y corn, a dinystr y bwystfil, hyd y mil blynyddau; yna teyrnasant ar y ddaear am dymhor y mil flwyddiant, a chyda Crist yn y nef am dragwyddoldeb. Na ddigalonwn. Duw a baro i ni gael gweled cwymp y corn, a gweled Crist yn ben trwy'r nef a'r llawr. Amen.

GEIRIAU CRIST.

Matt. xxiv. 35.

Mae Crist wedi ymadael â'r Deml am byth! wedi rhoddi ei bregeth gyhoeddus olaf! Mae yn awr ar Fynydd yr Olew—wydd, yn cael golwg ar y Deml a'r ddinas. Mae yn tynu darlun o (1) dinystr y Deml, (2) dinystr Jerusalem, ac yn (3) dinystr y Gyfundraeth Iuddewig. Mae yma ddarluniau byw o farnedigaethau trymion, tra mae yma ofal mawr yn cael ei ragfynegu—gofal Duw am ei eiddo. Mae y darluniau bron yn annghredadwy, a'r dysgyblion o'r braidd yn gallu eu cymmeryd i fewn. Yna mae Mab Duw yn llefaru geiriau y testyn, er dysgu i'w ddysgyblion ddau wirionedd mawr,—

I. CYFNEWIDIOLDEB Y BYD HWN.

II. CADERNID GAIR DUW.

I. CYFNEWIDIOLDEB Y BYD HWN.

"Y nef a'r ddaear a ânt heibio." Mae Mab Duw yn cymmeryd y pethau cadarnaf yn y byd hwn—y pethau mwyaf digyffro a disigl, er dangos pa mor gyfnewidiol yw y cwbl sydd yma. Dyma y nef! y ddaear!

1. Mae Duw wedi eu sylfaenu. Duw greodd y nef a'u llu hwynt. Gwaith dwylaw Duw yw y nefoedd, gwaith ei fysedd yw y sêr. Duw greodd y ddaear. "Efe a seliodd y ddaear ar ei sylfeini," Salm civ. 5—9. Er hyn, darfyddant!

2. Maent wedi para yn hir. Mae y nefoedd yn awr fel cynt, yr haul gystal ag oedd ar ddydd ei greadigaeth, y lloer fel yn nyddiau Adda, y sêr fel yn moreu y byd. Mae y ddaear yn sefyll yn ddigryn. Er yr holl gyfnewidiadau, mae hi yn aros. Mae Assyria, Syria, Babilon, Persia, Groeg, a Rhufain, wedi myned, ond mae yr hen ddaear yn aros. Ond mae hi i ddarfod!

3. Mae yn ymddangos mor gadarn ag erioed. Ni fu y nefoedd erioed yn well. Ni fu y ddaear erioed yn gadarnach. Ond hwy a ddarfyddant!

II. CADERNID GAIR Duw. Nid gallu, mawredd, doethineb, a nerth Duw; na, Gair Duw. Dyma y peth mawr sydd yn perthyn i ni—Gair Duw. Mae ei allu, ei ddoethineb, a'i ddaioni, i'w canfod yn mhob rhan o'r cread. Dyn bïa y Gair. Dyma sydd yn aros. Mae Gair Crist yn gadarn—

1. Yn ei dystiolaeth (1) am a fu, (2) y sydd, (3) ac am a fydd.

2. Yn ei rybuddion.

3. Yn ei addewidion.

Mae cadernid a dyogelwch yn perthyn i'r Gair. Mae y geiriau hyn—

1. Yn fawreddog—sublime: "Fy ngeiriau I." (Cymharer Gen. i. I â'r testyn.)

2. Yn wir—dim os yma.

3. Yn bwysig i'r annuwiol.

4. Yn llawn cysur i'r duwiol.

O! parchwn ei Air Ef. Amen.


JOSEPH.

Gen. xli. 39—45.

Mae cymmeriad Joseph wedi bod dan sylw genym o'r blaen, ond nis gallwn lanw y gadwyn o dduwiolion yr Hen Destament sydd genym yn awr dan ein sylw heb gael Joseph o flaen ein pobl ieuainc.

I. JOSEPH YN FACHGEN.

Mab hynaf Rahel, ond y plentyn ieuengaf ond un. Nodweddau dyddiau boreuol—

1. Parch i'w rieni. Mae hyn yn amlwg. Parhaodd hyd y diwedd.

2. Gonestrwydd. Dynoethodd fai y brodyr.

3. Gwrthddrych sylw Duw.

Mae Joseph yn esiampl dda i'n pobl ieuainc.

II. JOSEPH YN NHY PUTIPHAR.

Daeth yma drwy greulondeb ei frodyr.

1. Mae yn gaethwas.

2. Mae yn ffyddlon i'w feistr.

3. Mae yn ofni Duw.

III. JOSEPH YN Y CARCHAR.

1. Mae yn garcharor diniwed.

2. Carcharor yn ennill ymddiried.

3. Carcharor ag y mae Duw gydag ef.

IV. JOSEPH MEWN DYRCHAFIAD.

1. Dengys ddoethineb mawr.

2. Dengys ofal mawr. 3. Bu yn llwyddiannus iawn—(1) I gadw bywydau y bobl, (2) I gryfhau dylanwad y brenin, (3) I wneyd cartref i'r Eglwys.

Addysgiadau-

1. Crefydd foreu o werth mawr.

2. Gall y da a'r duwiol ddyoddef.

3. Ond daw y fuddugoliaeth. Amen.


ANGLADD JACOB.

Gen. 1. 7-9.

I. PERAROGLI CORFF JACOB.

I. Y dull.

2. Y gost, £250; £60-swm llai.

3. Yr amser, 40 a 70 niwrnod.

II. Cais JOSEPH.

Gofyn caniatad i Pharaoh.

III. Y CWMPEINI.

1. Yn urddasol iawn.

2. Yn lluosog iawn.

3. Yr angladd fwyaf yn y byd.

IV. Y FFORDD.

300 milldir.

V. YR ADDYSG.

1. Dangos ffydd Jacob.

2. Parch Joseph i'w dad.

3. Argraff ddofn ar feddwl yr Aifftiaid am ddyfodol Israel.

Amen.



JENKIN HOWELL, ARGAFFYDD, &c., ABERDAR.

Nodiadau

[golygu]