Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price/Golwg Gyffredinol ar Fedyddwyr Aberdar a Price

Oddi ar Wicidestun
Y Dr a Changenau Eglwys Calfaria Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price

gan Benjamin Evans (Telynfab)

Price yn ei Berthynas a'r Bedyddwyr yn y Sir ac yn Gyffredinol

PENNOD XI.

GOLWG GYFFREDINOL AR FEDYDDWYR ABERDAR A PRICE.

Golwg gyffredinol ar Fedyddwyr Aberdar—Meddylgarwch a charedigrwydd Price yn ennill iddo barch—Undeb Ysgolion— Cymmanfaoedd Ysgolion—T. ab Ieuan yn canu—Eisteddfodau Blynyddol yr Undeb—Price yn haul a bywyd y cylch—Y cangenau a'r bedydd—Dirmygu y bedydd a'r bedyddiwr— Chwedlau am Price wrth fedyddio—Egwyddorion y Bedyddwyr yn ddyogel yn ei law—Ei ddefnyddioldeb cyffredinol—Cydweithio yn hwylus a'i frodyr—Ei barch atynt—Cael ei barchu ganddynt.

BRON yn yr adeg yr ymsefydlodd y cangenau diweddaf yn eglwysi annybynol, yr oedd Price yn ei ogoniant. Bu mor llygadgraff, meddylgar, a charedig gyda phob symmudiad o'i eiddo, fel yr oedd, nid yn unig wedi ennill sylw, ond edmygedd cyffredinol yr eglwysi, y rhai oeddynt yn cyflym godi i sefyllfaoedd uchel a dylanwad mawr. Yn ymwybodol o lafuriadau Price, edrychent arno gyda pharch a mawrhad anarferol—braidd nad addolent ef drwy y dyffryn; ac nid yn unig yn mhlith y Bedyddwyr y ffynai y teimlad da hwn, eithr hefyd yn mhlith yr holl enwadau crefyddol ereill. Wedi ennill y teimladau hyn, ymdrechai Price eu cadw, a llwyddodd i raddau pell am flynyddau meithion. Bu ffurfiad yr Undeb Ysgolion yn gynnorthwyol iawn i hyn, oblegyd cedwid yr eglwysi yn agos at eu gilydd, a'r Ysgolion Sabbothol gyda'u gilydd yn bur effeithiol drwyddo. Er fod yr eglwysi ar wahan ac yn annybynol, etto byddent fel un gynnulleidfa pan gwrddent â'u gilydd, a chymmerai hyny le yn aml am flynyddau, yn neillduol yn nghylchran y dref. Wrth edrych dros yr hen newyddiaduron, megys y Gwron a'r Gweithiwr (papyrau a gyhoeddid yn Aberdar gan Mr. J. T. Jones, ac a olygid gan y Dr. yn eu blynyddau olaf); Seren Cymru, yn nghyd â chylchgronau cofnodol yr enwad, cawn hanesion mynych am gyfarfodydd undebol Ysgolion y Bedyddwyr yn Aberdar, a'r Dr. yn cael ei gydnabod yn brif yspryd symmudol, yn arweinydd, ac yn llywydd y cyfryw braidd yn ddieithriad.

Yn y Bedyddiwr am Ragfyr, 1854, cawn hanes cymmanfa flynyddol gyntaf Ysgolion Sabbothol y Bedyddwyr yn Mhlwyf Aberdar a'r cymmydogaethau. Yr oedd yn perthyn i'r undeb cynnulleidfaol hwn, yr adeg hono, saith o ysgolion, sef Pontbrenllwyd, Hirwaun, Heolyfelin, Aberdar, y Cymry, etto y Saeson, Aberaman, a'r Cwmbach. Cyfarfuant â'u gilydd y waith hon yn Heolyfelin ar yr 16eg o Ragfyr, 1854, ac anrhegwyd y plant â thê am eu ffyddlondeb gyda'r Ysgol Sabbothol. Canwyd ac Canwyd ac adroddwyd amryw ddarnau yn ystod y tê, a chafwyd anerchiadau gan Mr. Williams, Cwmbach, a Price, ac edrydd y gohebydd fel hyn am danynt:—"Yn ganlynol i hyn, cafwyd araeth hollol bwrpasol i'r amgylchiad gan Mr. Williams, Cwmbach, ac yn olaf, areithiodd Mr. Price, Aberdar, nes oedd ein calon yn gwresogi ynom, a'r oll o honom mewn hwyl a theimlad cysurus."

Yn y flwyddyn ddylynol, yr oedd Ysgol Mountain Ash wedi ymuno â'r undeb, ac ar eu gwyl flynyddol, cawsant eu hanrhegu â thê gan Thomas Joseph, Ysw., a'i briod hawddgar, ar drum Mynydd yr Ysguborwen. Cawsant wledd foddhaol, a threuliasant ddiwrnod dedwydd yn nghyd. Darllenwyd cerdd—anerchiad i Ysgolion Aberdar gan T. ab Ieuan ar yr achlysur, yr hon a gyhoeddwyd yn y Bedyddiwr am Hydref, 1855, dau bennill o honi a ddyfynwn yma:—

"Penpound, Aberdar, a'r Saeson yn canlyn,
Cwmbach, Aberaman, Mountain Ash, Heolyfelin.
A Hirwaun a'r Bontbren sy'n cydgwrdd yr awrhon,
A Joseph a'i briod yn lloni eich calon :
Rhowch iddynt y parch sydd 'nawr yn ddyledus,
Am iddynt ddarparu i'ch gwneyd mor gysurus.

"Hir oes i'r boneddwr a'i hardd foneddiges,
A'u plant bach serchiadol, dymunaf yn gynhes;
Boed gwenau Rhagluniaeth a gras yn eu noddi
Ac iddynt wledd fythol fry, fry, gyda'r Iesu;
Hyn hefyd ddymunaf i chwithau, ysgolion,
Cael cydgwrdd â Joseph yn ngwlad Mynydd Seion."

Ymunodd ysgolion High Street (Merthyr) a Throedyrhiw ag ysgolion Aberdar y tro hwn: ond yr oedd y bardd wedi cyfansoddi ei gân cyn eu gweled yn dyfod. Parhaodd yr Undeb hwn am flynyddau meithion. Cyflwynwyd y merched ieuengaf,—Bethel, Ynyslwyd, a'r Gadlys, i'r cylch anrhydeddus gan Father Price, a chyfranogasant yn helaeth o'r un yspryd undebol â'r fam—eglwys a'r chwiorydd hynaf. Dan nawdd yr Undeb anwyl hwn cyfarfyddai nifer o ysgolion yn chwarterol yn nghyd i gynnal cyfarfodydd adrodd a chanu. Rhoddwn yma yn enghreifftiol adroddiad byr am un o'r cyfryw a ymddangosodd yn Seren Cymru am Ragfyr 8, 1871. Gelwid ef gan y gohebydd yn "Gwrdd Modrwyog," a chynnaliwyd ef yn Nghalfaria Tachwedd 28, 1871.

"Yr oedd yno bump o Ysgolion Sabbothol wedi cyfarfod mewn modrwy undeb a chariad. Dyna gwrdd! Yr oedd Ysgol Calfaria yno yn serchog a lluosog; Ysgol y Gadlys fel llu banerog; Ysgol Bethel fel byddin Duw; Ysgol Ynyslwyd fel duwies addysg, a'i thorf ysgolheigion; ac Ysgol Carmel fel teulu nefol. Taflai angel heddwch fodrwy cariad am danynt, gan eu gwneyd fel un am awr a hanner o gwrdd. Cafwyd adroddiadau, areithiau, barddoniaethau, a cherddoriaeth o'r fath oreu. Yr oedd y capel yn gysurus o lawn, a phawb yn teimlo dyddordeb yn ngweithrediadau y cyfarfod. Bydd cyfarfod arall etto yn mhen rhyw dri mis yn yr Ynyslwyd, a gobeithio y bydd cystal a'r diweddaf. Frodyr, dewch i'r rhengau. Codwch arf yn erbyn brenin y nos. Boed pawb yn perthyn i gatrodau yr Ysgol Sul."

Hefyd, cynnelid eisteddfodau blynyddol o fri ac enw ganddynt: torid allan waith i bob dosparth o'r bobl ieuainc,—yn draethodwyr, beirdd, adroddwyr, a chantorion, a cheid cystadleuaethau tỳn a phwysig. A ganlyn ydynt rai o ddosranau y testynau gwahanol,—traethodau, barddoniaeth, ieithyddiaeth, grammadegiaeth, daearyddiaeth, darllenyddiaeth, cerddoriaeth, &c.

Yn y Gwron a'r Gweithiwr ceir mynegiadau helaeth o'u gweithrediadau, y rhai a ddangosant fod bywyd helaeth yn meddiannu eglwysi ac ysgolion y Bedyddwyr yn y dyffryn yn y cyfnodau hyny. Troai yr oll o amgylch Price, yr hwn oedd fel haul mawr yn nghyssawd Bedyddiedig y cylch; taflai fywyd i'r holl gorff, a chadwai wres cariad a brawdgarwch yn yr holl gyfansoddiad. Ni fyddai yr yspryd unol a nodwn yn fwy amlwg un amser na phan y byddai yr ordinhad o fedydd yn cael ei gweinyddu. Troai y fam-eglwys a'i phlant, yn neillduol y tair ieuengaf, allan yn dorf gariadus yr adeg hon, ac arweinid hwy gan Price i lan yr afon pan fuasai yn bedyddio allan, neu cyfarfyddent yn nghyd yn y capel os mai yno y gweinyddid yr ordinhad. I ddangos hyn yn llawnach, dyfynwn etto o goflyfr y Gadlys, a chawn gipdrem ar bethau fel yr oeddynt pan oedd y gangen dan ofal Price:—

Heblaw hyny (meddai yr ysgrifenydd), yr oedd yn arferiad gan y pedair ysgol i gyfarfod â'u gilydd pan y byddai Dr. Price yn gweinyddu yr ordinhad o fedydd yr Arglwydd. Prydnawn dydd Sul, Hydref y 7fed, 1860, aethom gyda'n gilydd i'r lan tua Bethel, Abernant, i weled Mr. Price yn bedyddio pedwar ar broffes o'u ffydd yn y Gwaredwr. Hwn oedd y tro cyntaf yn Bethel.[1] Drachefn, Sul, Mai y 5ed, 1861, aethpwyd i fyny gyda'n gilydd i Bethel, pryd y bedyddiwyd deg gan Mr. Price. Dydd Sul, Ionawr y 5ed, 1862, gweinyddwyd yr ordinhad o fedydd am y waith gyntaf yn Nosbarth y Gadlys ar Gomin Hirwain, pryd yr ymgyfarfyddodd y pedair ysgol i weled y Dr. yn bedyddio pedwar o bersonau. Pregethodd Mr. Price ar y rhan olaf o'r 26 adnod, yn y xii. bennod o Exodus, Pa wasanaeth yw hwn genych?' Prydnawn dydd Sul, Ebrill 5ed, 1863, cyfarfyddodd yr ysgolion o flaen yr ysgoldy mewn trefn i fyned i weled pump o'r Gadlys yn ufuddhau i fedydd, a weinyddid gan Mr. Price yn afon Cynon, ger hen Brewery Trecynon. Aethpwyd i fyny dan ganu, ac yr oedd yr olygfa yn hardd iawn. Dyma y tro cyntaf i'r ordinhad gael ei gweinyddu yn yr afon uchod gan Ddosbarth y Gadlys."

Rhydd y ffeithiau uchod i ni olwg glir ar y modd y byddai Price yn arfer ac yn hyfforddi y cangenau ac yn eu cadw mewn cyssylltiad parchus â'r fam-eglwys o hyd. Parhaodd yr undeb agos ac anwyl hwn yn hir wedi i'r eglwysi fyned dan ofal gweinidogaethol ereill. Byddai yn olygfa gyffredin iawn flynyddau yn ol, pan oedd y Dr. yn ei ogoniant, i weled y pedair ysgol, drwy ragdrefniant, yn troi allan ar brydnawn Sul i gwrdd â'u gilydd yn nghanol y dref, ac yna ymdeithio dan ganu i un o'r capelau i gynnal cyfarfodydd adroddiadol, a byddai y Dr. yn eu plith fel brenin, yn cael sylw a pharch pawb, ac yn yr adeg hono yr oedd ei air braidd yn ddeddf yn mhob peth. Bu adeg yn hanes y Bedyddwyr yn Aberdar pryd yr edrychid arnynt yn ddirmygedig, ac y diystyrid hwy yn fawr, yn neillduol pan fedyddient yn yr afon. Dirmygid llawer ar Price pan yn bedyddio, ond yr oedd digon o'r arwr ynddo i wrthsefyll pob ymosodiad, ac i allu ymddwyn tuag at lawer wawdient yr ordinhad gyda dystawrwydd dirmygol, tra ar brydiau ereill rhoddai ergydion trymion i'r gwrthwynebwyr, a boddlonai hyn y Bedyddwyr yn fawr; ac, yn wir, yr oedd llawer o'r gelynion yn edmygu ei wroldeb, ac yn mwynhau ei ddonioldeb a'i ffraeth-atebion i lawer, er fod rhai o honynt weithiau yn gwrs ac yn myned yn mhell. Yr oedd dirgelwch mawr mewn myned a'r pedair ysgol dan ganu at lan yr afon. Yr oedd hyn yn gwneyd y bedydd yn boblogaidd, yn tynu torfeydd mawrion i weled, a chlywed lleferydd dystaw, etto effeithiol, y bedydd Cristionogol a'r bedyddiedigion, yn gystal a'r anerchiadau grymus geid gan Price, a brodyr da ereill a'i cynnorthwyent yn achlysurol. Hefyd, yr oedd hyn yn dylanwadu yn dda ar y Bedyddwyr eu hunain, gan eu bod yn uno eu nerth a'u dylanwad ar adegau o'r fath i ddal allan egwyddorion gwahaniaethol y Bedyddwyr o flaen y byd, ac i roddi tystiolaeth eglur a digamsyniol o blaid y "gwirionedd fel y mae yn yr Iesu.' Fel y nodwn, cafodd Price lawer o'i boeni pan yn yr afon yn bedyddio, ond ni thyciai dim, beth bynag a wneid iddo. Yr oedd gan fedydd a Bedyddwyr amddiffynydd cadarn ynddo.

Y mae llawer o ystoriau doniol yn cael eu hadrodd am Price yn gyssylltiedig â'r bedyddio yn afon Cynon a manau ereill, y rhai sydd, yn wir, yn dra nodweddiadol o hono. Yr oedd, un tro, yn bedyddio yn afon Cynon, yn ymyl y Bont Haiarn, ac yr oedd, fel arferol, dyrfa aruthrol wedi dyfod yn nghyd, ac yn eu plith lawer o wawdwyr. Y tro hwn, yr oedd dau Sais-fasnachwr cyfrifol yn y dref yn siarad yn uchel â'u gilydd er aflonyddu ar Price. Edrychai yntau arnynt yn awr ac eilwaith, ac äi yn mlaen â'i anerchiad; ond o'r diwedd, symmudodd gam neu ddau yn mlaen i wynebau yr aflonyddwyr, a dywedodd gydag awdurdod, "I thought it was the devil or some Englishmen!" Gosododd hyn glo ar eu geneuau, a chafodd Price lonydd am y tro hwnw.

Dro arall, yr oedd yn bedyddio yn yr un lle, ac yn mhlith y dyrfa enfawr oedd wedi dyfod i'r bedydd, yr oedd llawer o dirgloddwyr (navvies) y rhai oeddynt yn lluosog yn Aberdar yr adeg hono, yn gwneyd y cledrffyrdd newyddion—wedi dyfod i weled y bedydd. Taflent dyweirch i'r dwfr er aflonyddu y bedyddiwr, a phan "aeth i waered i'r dwfr," taflasant gi neu ddau i fewn i'r afon. Edrychodd y Dr. arnynt—cyfeiriodd ei fys atynt, a dywedodd yn Saesneg, "Dacw nhw! Saeson ydynt. Mae mwy o synwyr yn mhenau ceffylau Cymru nag sydd yn mhenau y Saeson!" Profodd hyn yn effeithiol i'r gweilch, a rhoddwyd llonyddwch i'r Bedyddiwr gyflawni ei waith pwysig ac anrhydeddus.

Unwaith, pan yn bedyddio yn ymyl Pont Haiarn Trecynon, cododd rhyw fachgenyn yn ei erbyn, ac aflonyddai yn fawr arno. Pan oedd Price ar fedr myned ato, gwaeddodd un o'i ddiaconiaid (yr hen frawd da, William Davies), allan, "Mr. Price, peidiwch gwneyd sylw o hwna! Under value, under value!" "O'r goreu, William," atebai y Dr., "gwnaf eich cynghor. Gwyddoch chwi i'r eithaf faint yw gwerth taclau o'r fath." Bu "under value" yn cael ei arferyd yn gyffredin am hir amser wedi hyny yn y gymmydogaeth.

Yr oedd dau aelod cyfrifol gyda r Annybynwyr, dro arall, wedi dyfod i weled y bedydd, a safent yn ymyl yr afon. Pan oedd Price yn arwain brawd i'r dwfr i'w fedyddio, clywodd un o'r Annybynwyr yn dweyd wrth y llall, "Edrych ar y diawl yn arwain y diawl hwna i'r dw'r." Cododd Price ei olwg ato, a dywedodd, "Ai y diawl ddywedodd wrthyt ti, y diawl, fy mod yn arwain y diawl i'r dw'r? Dylasai fod cywilydd ar dy wyneb." Trodd y ddau Annybynwr ymaith dan gwmmwl o warth a chywilydd, a chrechwenai y dyrfa gyda boddlonrwydd am wroldeb Price yn ngwyneb y fath ddirmyg ar un oedd yn rhoi ufudd-dod i orchymynion Crist.

Yr oedd yr enwad a'r egwyddorion Bedyddiedig yn bur ddyogel yn llaw Price, a theimlai Bedyddwyr y dyffryn hyny, ac felly, ymddiriedent lawer iawn iddo, a meddylient bob amser yn uchel am dano.

Yr oedd Price yn bur flaenllaw gyda phob achos pwysig ddaliai berthynas â'r enwad yn y cwm. Anfoddlonai yn fawr i'r brodyr gadwent draw mewn taro, fel y dywedir. Yr oedd efe bob amser yn nghanol y fflam, os byddai tân yn bod. Os chwythai storom heibio unrhyw eglwys yn y dyffryn, byddai efe yn ei dannedd, mewn trefn, os gallai mewn unrhyw fodd, ddyogelu yr achos, a chadw y "defaid rhag y bleiddiaid." Gwelai berygl o draw. Yr oedd ei rybuddion yn brydlon, a'i gynghorion yn bwrpasol a dyogel. Bu yn gyfarwyddwr cywir a diwyro i'r holl eglwysi drwy y dyffryn mewn achosion o gyfyngder a thrallod. Yr oedd hefyd yn ddiarebol am ei gyssondeb gyda phob peth, ac yn enwog am ei brydlondeb yn ei holl gyflawniadau. Mewn cyfarfodydd mawrion, cyrddau misol, neu bwyllgorau nid oedd byth eisieu aros i'r Dr. Byddai efe yn ei le yn brydlon, ac yn barod i waith. Rhoddai ei bresenoldeb yn mhob man foddlonrwydd cyffredinol i bawb a'i hadwaenent.

Cydlafuriodd y Dr. yn llwyddiannus â'i frodyr yn y weinidogaeth drwy y dyffryn. Bu efe fel tad tyner i'r gweinidogion ieuainc, ac yn gyfaill a brawd caredig ac anwyl i'r rhai hynaf. Cydweithiodd yn dda â'r diweddar anwyl frawd, yr Hybarch Ddoctor B. Evans, Castellnedd, pan oedd efe yn gweinidogaethu yn Hirwaen ac Heolyfelin. Buont mewn llawer brwydr galed gyda'u gilydd dros yr achos goreu, a dalient ati fel y dur hyd fuddugoliaeth bob tro. Ffynodd a pharhaodd y teimladau goreu rhyngddo ef a'r awenydd athrylithgar, ´y Parch. W. Williams (Gwrhir), Mountain Ash, ac er fod Mr. Williams yn hynach nâ'r Dr., etto talai warogaeth bob amser iddo, yn herwydd ei allu dihafal a'i ddefnyddioldeb cyffredinol. Cafodd y galluog gerddor a'r doniol bregethwr, y Parch. W. Harris, Heolyfelin, ef yn gyfaill cywir a charedig, a chydweithient bob amser yn hwylus gyda phob mudiad o bwys yn y dref a'r gymmydogaeth. Teimlai ddyddordeb neillduol yn ngweinidogion yr holl eglwysi, a chymmerai hwy yn anwyl i'w fynwes. Galwai yn achlysurol i'w gweled er gwybod eu helynt ac ansawdd yr eglwysi dan eu gofal. Derbyniai y brodyr yn siriol a charedig pan alwent i'w weled yn ei gartref ei hun yn Rose Cottage. Dyfyrai hwynt â'i chwedleuon doniol, a chyfnerthai hwynt â'i gynghorion dwys ac a'i gyfarwyddiadau buddiol. Yr oedd yn rhy fawr ac uchel i neb deimlo yn eiddigeddus wrtho; ac yr oedd wedi ennill y fath safleoedd a dylanwad yn mhob cylch braidd fel nad oedd neb a ewyllysiai ymgystadlu ag ef. Felly bu fyw hyd ei fedd yn heddychol â'i frodyr, a theimlent yn ddieithriad y parch dyfnaf ato. Bu ei syrthiad yn angeu yn golled gyffredinol i achos y Bedyddwyr yn nyffryn poblog Aberdar, ac yn achos o alar mawr i'w frodyr yn y weinidogaeth.

Nodiadau[golygu]

  1. "Yr oedd Dr. Price," adrodda y Parch. J. W. Moore (Darfab) yn ei Draethawd ar Hanes Eglwys Bethel, Abernant, "wedi cael y fraint of fedyddio llawer o ymgeiswyr am fedydd o'r gangen hon yn afon Cynon, gerllaw y Trap [yn flaenorol i'r uchod]. Bedyddiodd hefyd amryw yn y nant uwchlaw yr ysgoldy, mewn man cyfleus a wnaethpwyd at y pwrpas trwy garedigrwydd Mr. Fothergill."