Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price/Y Dr a Changenau Eglwys Calfaria

Oddi ar Wicidestun
Calfaria o 1866 Hyd 1888 Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price

gan Benjamin Evans (Telynfab)

Golwg Gyffredinol ar Fedyddwyr Aberdar a Price

PENNOD X.

Y DR. A CHANGENAU EGLWYS CALFARIA.

Y "Trem" a'r "Jubili"-Bethania, Cwmbach-Mountain Ash, dechreuad yr achos yno-Yr hen bobl-Adeiladu capel-Agoriad yn 1841-Annghydfod Effeithio yn niweidiol ar yr achos yno-Price yn dechreu gweithio yno-Y cerbyd wedi aros ar II o aelodau-Siams y garddwr a Price-Cyrddau gweddi-Price a'r chwiorydd-Paentio'r capel Y cerbyd yn ail gychwyn-Yr ail gapel-Ei agoriad-Sefydlu diaconiaid-Ymadawiad Price a sefydliad Williams-Gwawr-Storm gynnarol-Dyfyniad o "Seren Cymru"- Ffrwgwd Dewi Elfed a'r saint Lladrata y capel-Cyfraith-Gwroldeb Dr. Price Bwrw allan gythreuliaid Case for assault-Adferiad y capel-Ail agoriad -Y gweinidogion-Yr achos Saesneg-Jas. Cooper-Y ganwyll yn diffodd-Ail gychwyn yr achos-Yr achos yn llwyddo-Bethel, Abernant-Yr Ynyslwyd-Mynychu cyrddau wythnosol y cangenau-Adeiladu ysgoldai Bethel ac Ynyslwyd-Testyn tarawiadol-Bedyddio yn yr Ynyslwyd-Ei gweinidogion—Y Gadlys Cyw gwaelod y nyth-Sefydlu ysgol yn 1858-Adeiladu-Methu cael tir-Mynu ei gael cyn cysgu-Y seitfed capel-Y cangenau yn ymadael mewn heddwch-Nodion 1865 ar gofnodlyfr y Gadlys—Yr eglwysi godwyd gan Galfaria-Barn gohebydd.

Yol y Drem gan Dr. Price ar yr eglwysi a godwyd gan Galfaria, gwelir ei fod yn hawlio perthynas â rhyw un-ar-hugain o eglwysi, y rhai a ystyriai fel plant, wyrion, ac mewn rhai achosion gorwyrion. Yr oedd perthynas yn bodoli rhwng Calfaria â hwynt oll; ond y mae y ddisgynyddiaeth uniongyrchol mewn rhai achosion yn cael ei hamheu gan rai. Pa fodd bynag, ni pherthyna i ni fyned i fewn i'r achosion hyny yn bresenol. Y mae rhai eglwysi wedi ymgangenu allan o Galfaria nad oedd gan y Dr. lawer i'w wneyd â hwy, tra y mae ereill o'r plant, fel eu galwai, ag y bu efe yn gwneyd gwaith llafurfawr gyda hwynt. Gan fod nifer y cangenau mor lluosog, dichon mai annoethineb ynom fydd manylu ar yr oll, gan y gwna ychydig o honynt wasanaethu i ddangos y dyn.

Oddiwrth y Jubili gwelwn fod yr eglwysi ar Hirwaun ac yn y Tabernacl, Merthyr, wedi hanu allan o hen Eglwys Penypound, Aberdar. Cwmbach wedi hyny a gychwynwyd yn foreu, a chorffolwyd a derbyniwyd hi i'r gymmanfa yn y flwyddyn 1845, sef y flwyddyn y cafodd y Dr. alwad i ddyfod i Aberdar. Pregethodd Price lawer yma, a bu yn ofalus am dani pan dan ei weinidogaeth. Fel hyn y dywed am dani yn y Jubili:—"Bu yr eglwys yn y Cwmbach ar y dechreu yn un o'r eglwysi mwyaf addawol yn y sir. Yr oedd wedi cael y blaen ar bob cynnulleidfa arall yn y gymmydogaeth; perthynai iddi amryw o'r teuluoedd mwyaf cyfoethog a dylanwadol yn yr ardal; ond yn ol ein barn ni, hi a ymadawodd â'i mam-eglwys yn rhy gynnar."

Nid oedd Price yn anfoddlon i'r merched ymadael â'u mam, ac nid oedd ychwaith yn anfoddlon i'r merched briodi; ond yr oedd yn fawr am i'r cangenau aros yn ddigon hir dan nawdd y fam-eglwys hyd y gallent weled y ffordd yn glir i allu byw arnynt eu hunain yn weddol gysurus. Gwelwyd llawer pâr ieuanc yn tori i fyny, wedi methu byw yn ddedwydd ar ol priodi, ac yn gyffredin dychwelai y ferch adref at ei mam am dymhor, a dyna ddywedid yn aml am dani yn yr amgylchiad, "Buasai yn well ei bod wedi aros gartref gyda'i mam am ychydig flynyddau yn hwy." Bu rhywbeth tebyg feddyliwn yn hanes dechreuol yr eglwys yn y Cwmbach. Yn ei anerchiad ar ddydd ordeiniad y gweinidog presenol (y Parch. D. Thomas) yn Methania, Cwmbach, olreiniodd y Dr. ychydig ar hanes yr eglwys, yn nghyd â'r gweinidogion fuont yn gweinidogaethu yno o bryd i'w gilydd, ac wedi gwneyd hyny yn ofalus, fel yr arferai efe gyda materion o'r fath, dywedodd, "Yn awr, chwi a welwch fy mod I wedi cael y fraint a'r anrhydedd o fod yn weinidog ar ac i'r eglwys yn Methania dair gwaith, oblegyd bu yn ol dan aden ei mam yn Nghalfaria gynnifer â hyny o weithiau oddiar ei chorffoliad yn y flwyddyn 1845. Tebyg mai dyma'r tro olaf i'r Dr. fod mewn cyfarfod yn y Cwmbach, oblegyd nid hir y bu cyn cael ei analluogi gan wendid a chystudd i fyned yn mhell o'r ty. Yr oedd yn wanaidd yr adeg hono, a phawb braidd yn sylwi ei fod yn tori i fyny yn gyflym. Edrydd y Dr. fel y canlyn yn ei Jubili (1862) am Bethania, Cwmbach:— "Mae yn awr etto am dymhor o dan nawdd ei mam-eglwys, yr hon sydd wedi addaw ei chynnorthwyo am flwyddyn.' Eglwys dda oedd ac ydyw Bethania, Cwmbach, wedi y cwbl, a llafuriodd Price yn galed gyda hi o bryd i bryd. Teimlai ddyddordeb neillduol ynddi, oblegyd yn un peth, mai un oddiyno oedd ei anwyl briod, Mrs. Price, ac y mae ei theulu yn aros yno hyd heddyw. Gellir dweyd fod Bethania erbyn heddyw yn un o'r eglwysi goreu yn y cwm.

Cangen arall o Galfaria ag y teimlai y Dr. ddyddordeb neillduol ynddi oedd Mountain Ash. Y mae i'r eglwys hon hanes hynafol ac o ddyddordeb mawr; a chan fod Price, fel y dywedai ei hun yn y Jubili, "yn edrych arni gyda y teimladau mwyaf cysurus," dichon y maddeuir i ni am roddi ychydig o'i hanes wrth fyned yn mlaen. Yn ol erthygl alluog y diweddar anwyl frawd a'r diacon ffyddlon, Mr. Thomas Richard (Gwyno), Glyngwyn, tad y Parch. Richard Richard, gynt Pembroke Chapel, L'erpwl, yn awr Cotham, Bryste, yn Seven Gomer am Hydref, 1883, cawn fod Bedyddwyr yn byw yn Mountain Ash mor bell yn ol â'r flwyddyn 1786, ond ni fuont amgen i Nicodemus a Joseph o Arimathea, i raddau yn guddiedig oeddynt hyd y flwyddyn 1809, pryd y symmudodd gwr a gwraig o Lysfaen i'r lle, sef, Robert a Mary Frederick-aelodau oeddynt o Lysfaen. Rhoddasant eu hunain, yn nghyd â'r teulu Bedyddiedig arall oedd yn y Mount o'u blaen, yn aelodau yn Mhenypound, Aberdar, a thrwy eu dylanwad hwy byddai rhai o'u cymmydogion yn myned yn aml gyda hwy i Aberdar i wrandaw yr Efengyl, er fod y pellder dros bedair milldir. Yn y flwyddyn 1827, cawsant yr hyfrydwch o weled dau o'u cymmydogion yn ufuddhau i'r ordinhad o fedydd, sef Evan Morgan (yn ei 50 flwyddyn o'i oedran), Basin Isaf, a James Williams, neu fel y gelwid ef gan yr hen breswylwyr o gylch Mountain Ash, "Siams y Dyffryn," neu, "Siams y Garddwr." Efe oedd garddwr yr anrhydeddus H. A. Bruce, yn awr Arglwydd Aberdar, ac i'w dad cyn hyny. Yn 1829, bedyddiwyd dwy ereill, sef Hannah Davies a Margaret Morgan, gwraig y rhagddywedig Evan Morgan. Gelwid hi gydag anwyldeb mawr gan bobl y Mount yn Modryb Magws. Yr oedd ganddi hi a'i phriod, yn ogystal â'r brodyr ereill, dros bedair milldir i gerdded i Aberdar, etto, byddent yno yn gysson a phob amser yn brydlon. Ac wedi i Evan a Modryb Magws symmud i'r Basin Isaf, yr oedd ganddynt oddiyno dros bedair milldir i ddyfod i'r Mount, etto, nid oedd neb yn fwy cysson nâ hwy yn y moddion a'r cyrddau. Yn y flwyddyn 1832, bedyddiwyd dau ereill, sef Richard Richards a Gwenllian Thomas. Tyddynwr oedd Richard Richards, yn cadw tyddyn o'r enw Glyngwyn," yn ymyl Mountain Ash, a byddai ei ddrws bob amser yn agored i Arch Duw i ddyfod i fewn. Tua'r amser hwn dechreuwyd cadw cyfarfodydd sefydlog bob pythefnos ar brydnawn Sabboth, a byddai pregethu y rhan fynychaf yn y cyrddau hyn, a byddent yn cael eu cynnal yn gyffredin yn nhai y brodyr Evan Morgan a Richard Richards, a nodasom yn barod. "Yn y flwyddyn 1843," meddai y Dr. yn y Jubili, "Adeiladodd yr eglwys yn Aberdar dy cwrdd bychan yno, a thŷ annedd mewn cyssylltiad ag ef." Dyma'r ty cwrdd cyntaf gan y Bedyddwyr yn Mountain Ash, ond ymddengys, er mor gywir yr arferai y Dr. fod mewn cyssylltiad â dyddiadau a ffigyrau, ei fod wedi gwneyd ychydig gamsyniad yma, oblegyd dywed Gwyno yn Seren Gomer am Hydref, 1883, fel y canlyn:—

'Yn y flwyddyn 1840. dechreuwyd ar y gorchwyl o adeiladu capel. Mesurai y ty cwrdd newydd 24 troedfedd wrth 20 troedfedd rhwng y muriau. Adeiladwyd hefyd dy annedd mewn cyssylltiad â'r addoldy, a gorphenwyd y cwbl, yn nghyd â'r muriau oddiamgylch y lle, am y swm o £154 12S. 8c. Agorwyd y capel y dydd cyntaf o fis Gorphenaf, 1841. Y pregethwyr yn y cyfarfodydd agoriadol oeddynt y Parchn. D. Davies, Abertawe; W. Jones, Caerdydd; W. R. Davies, Dowlais; T. Davies, High Street, Merthyr, yn Saesneg; T. Morris, Casnewydd; R. Williams, Llancarfan, a Dr Jenkins. Hengoed. Cafwyd cyrddau hynod o effeithiol trwy y dydd, fel yr oedd hyd y nod yr Undodiaid yn gorfod cyfaddef na chlywsant erioed well pregethu. Casgliadau y dydd, yn nghyd â'r hyn oeddynt wedi gasglu yn flaenorol, oedd £27 16s. 2g: ac yn ystod y flwyddyn ddyfodol casglwyd £26 16s. 6c. gan adael £100 o ddyled ar yr addoldy."

Bu yr achos yr adeg hon yn lled lewyrchus, ac yn y flwyddyn 1842 bedyddiwyd deuddeg o bersonau, ac erbyn hyn yr oeddynt yn gwneyd ugain o bersonau mewn cymundeb, a phob peth yn ymddangos yn ffafriol iawn. Ond yn herwydd annghydfod rhwng y Parch. W. Lewis, cynweinidog Penypound, â Jonathan Jones yn nghylch rhai pynciau crefyddol ac amgylchiadau ereill, cafodd yr eglwys ddyoddef yn erwin. Ysgrifenodd Gwyno yn mhellach:—

Effeithiodd y drafodaeth hon mor ddrwg, fel na fedyddiwyd cymmaint ag un yn y lle hwn yn ystod y saith mlynedd dyfodol. Fel llin yn mygu oedd yr achos trwy y blynyddoedd hyn Dibrisiwyd yr Ysgol Sabbothol ac o dipyn i beth aeth yr ysgol i'r dim yn hollol. Tua diwedd y flwyddyn 1845 rhoddodd Mr W. Lewis ei lafur gweinidogaethol i fyny. a symmudodd i Dongwyrddlas: ac yn y mis Awst canlynol, daeth Mr T. Price, gweinidog presenol Aberdar, i ofalu am yr eglwys, yn nghyd a'r gangen yn Mountain Ash er na chafodd ei ordeinio yn weinidog hyd y dydd cyntaf yn y flwyddyn 1846. Llafuriodd Mr. Price yma yn ddiwyd a diflino am yn agos i bedair blynedd, heb ychwanegu cymmaint ag un at yr eglwys. Byddai yn pregethu yma un Sabboth o bob mis, ac yn aml yn fynychach na hyny, am ychydig iawn o gydnabyddiaeth am ei lafur Teimlai yn ddwys, fel y byddai yn arfer dweyd, wrth weled ei lafur mor aflwyddiannus yn methu ychwanegu dim un at yr eglwys; ond yn hyn, meddai efe, yr ymgysurai, nad oeddynt yn myned yn llai. Deuddeg oeddynt pan ddechreuodd lafurio yn eu plith, ac ni fuont oll yn llai na deuddeg. sef pedwar brawd ac wyth chwaer "

Arferai y Dr. pan yn myned i Mountain Ash i bregethu, a byddai hyny flynyddau yn ol yn dygwydd yn aml, adrodd hanes yr eglwys fach yn y Mount, fel y galwai hi. "Buom am hir amser (meddai), yn cadw, fel yr Apostolion, o hyd yn 12, oddigerth yn amser ffair y Mount, pryd yr oedd Shon Ty'n y Gelli yn meddwi, felly yn cael ei ddiarddelu a'i. adferyd unwaith bob blwyddyn. Fel yma, gwelwch nad oedd yr Yspryd Glân yn ein gwneyd yn fwy nâ 12, ac yr oedd y d-lyn methu ein gwneyd un amser yn llai nag 11. Clywsom ef yn adrodd yr hanes droion yn y geiriau uchod mor agos ag ydym yn gallu cofio. Dywedai yr hanes mor fyw a chyda y fath deimlad fel y gyrai yr hen bobl i wylo y dagrau yn lli`, a'r bobl ieuainc i grechwen a chwerthin. Mawr oedd ei allu i ddarlunio a'r dylanwad gai pan yn gwneyd hyny. Yn y cyfnod marwaidd ar grefydd y soniwn am dano, yr oedd Price yn egniol iawn gyda'i gyflawniadau gweinidogaethol. Nid esgeulusai y praidd bychan; mynychai yn gysson y cyfeillachau a'r cyrddau gweddi, er fod pedair milldir o ffordd o Aberdar i Mountain Ash, a dychwelai yn ol i Aberdar ar ol y cyrddau ar hyd y ffordd drymaidd, a thra unigol y pryd hwnw. Adroddai hen bobl y Mount ei hanes yn y cyfarfodydd hyn gyda blas a hwyl; a buom yn siarad â'r Dr. ei hun ar hyn, ac yr oedd ei adroddiadau yn cydgordio yn gywir â'r hyn a glywsom. Bu ef a Siams y garddwr, ac ychydig o chwiorydd, yn cynnal llawer o gyfarfodydd gweddio anwyl gyda'u gilydd. Nid oedd Siams yn gallu canu llawer, ac nid oedd y Dr. wedi ei fendithio â'r ddawn hyn yn helaeth. Felly darllen Salm neu ddarn o bennod wnelent yn lle canu. Darllenai Price i ddechreu, yna elai Siams i weddi. Darllenai Price drachefn, ac yna elai efe i weddi; wedi hyny darllenid rhan o air Duw, ac äi Siams eilwaith i weddi, a therfynid y cwrdd gan y gweinidog. Fel yna byddai y brodyr yn gweddio dwy a thair gwaith yn yr un cyfarfod. Pan yn pregethu neu yn siarad mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn Mountain Ash, adroddai y Dr., er mwyn dangos y gwahaniaeth yn sefyllfa yr achos, gyda theimladau dwys, yr hanes hwn. Weithiau byddai yn eu hadgofio o waith y chwiorydd bach ac yntau yn glanhau ac yn paentio yr hen gapel. Paentiwr rhagorol, fel y nodasom yn barod, oedd Price, a rhoddodd brawfion ymarferol o hyn fwy nag unwaith ar gapeli yn Aberdar a Mountain Ash. Adroddai mewn cwrdd mawr unwaith yn Nghapel y Rhos am dano ef a'r hen chwiorydd, (ac yn ei ffordd ddoniol ei hun, enwai hwynt megys Mary Siams y garddwr, Rachel Williams o'r Lock, Shan Davies, a Marged Penybanc, &c.) yn glanhau y tŷ cwrdd. “ Yr oedd y chwiorydd bach," meddai, "a'r dw'r a'r sebon, a'r brwsh scrwbio, yn mynu cael y cwbl yn lân, a minau yn eu dylyn, a'r brwsh a'r paent, ac yr oedd yno weithio, chwythu, a chwysu, a phob un yn cael hwyl a blas wrth feddwl am ei waith ei hun."

Ar ol y cyfnod marwaidd y cyfeiriwn ato, tua diwedd yr Haf yn y flwyddyn 1849, agorodd drws gobaith ar grefydd yn y lle. Clywyd trwst yn mrig y morwydd; cafwyd arwyddion er daioni - daeth dau i'r gyfeillach, sef John a Chatherine Thomas, neu fel eu gelwid hwy yn gyffredin, Shon Benybanc a'i wraig.[1] Dyma y ddau gyntaf a fedyddiodd Mr. Price yn y lle hwn: ac yn ystod y tri mis dylynol bedyddiodd bymtheg ereill, a'r rhan fwyaf o honynt yn hen wrandawyr astud, yn gwybod eu gwaith, a buont o ddefnydd mawr i godi pen yr achos yn yn y lle. Ail gychwynwyd yr Ysgol Sul gydag egni. Sefydlwyd swyddogion, sef arolygydd ac ysgrifenydd, peth na fu mewn cyssylltiad ag Ysgol Sul Mountain Ash o'r blaen. Tua'r un amser sefydlwyd ysgol gân, o dan arweiniad y brawd David Evans, yr hwn fu yn ddiwyd a gweithgar gyda y rhan hon o'r gwasanaeth am flynyddau. Fel hyn aeth pethau yn y blaen yn gysurus. Amlhaodd y gwrandawyr, agorwyd amryw weithiau glo newydd yn y gymmydogaeth, daeth amryw ddyeithriaid i'r lle, ac yn eu plith rai oedd yn ofni Duw ac yn cilio oddiwrth ddrygioni; ac ambell un yn cael ei fedyddio. Yn fuan aeth y capel bach yn rhy fychan, teimlai yr eglwys angen am "helaethu lle ei phabell, ac estyn cortynau ei phreswylfeydd." Ac felly yn y flwyddyn 1853 cawn hi yn ystyried y mater o gael capel newydd, ac wedi trefnu i gasglu ar ei gyfer. Cytunwyd ar y 17eg o Fehefin, 1854, â Mr. Richard Mathias i adeiladu y capel am y swm o £487. Erbyn Tachwedd y 4ydd, yn yr un flwyddyn, yr oedd y capel wedi ei gwbl orphen, bythefnos cyn i amser yr ammod (contract) ddyfod i ben. Pregethwyd am y waith gyntaf yn y capel newydd yr ail Sabboth o'r un mis gan Mr. Price, ac ar yr 22ain o'r mis hwnw agorwyd y capel, pryd y pregethodd y Parchn. John Jones a John Lloyd, Merthyr; Robert Owen, Berthlwyd; William Williams, Llysfaen; J. D. Williams, Cwmbach; D. Davies, Waentrodau; B. Evans, Heolyfelin, a T. Davies, Merthyr. Wedi cael capel newydd, a lle cyfleus i addoli, a chael bendith ar lafur y gweision, trwy fod yr eglwys yn lluosogi a'r gwrandawyr yn amlhau, barnwyd yn angenrheidiol i ymgorffoli yr eglwys ar ei phen ei hun a chael gweinidog i fyw yn y gymmydogaeth. Hyspyswyd hyny i Price, y gweinidog. Rhoddwyd galwad wresog ac unfrydol i Mr. William Williams, Llysfaen, a derbyniodd yntau yr alwad. Dechreuodd ar ei weinidogaeth y Sabboth olaf yn mis Ebrill, 1855. Cynnaliwyd Cwrdd Chwarterol Morganwg yno ar y dydd diweddaf o Ebrill a'r dydd cyntaf yn Mai, yr un flwyddyn. Defnyddiwyd un o'r cyfarfodydd hyn i gorffoli yr eglwys ar ei phen ei hun a sefydlu y gweinidog. Ar yr achlysur pregethodd y Parchn. J. Davies, Merthyr, ar Natur Eglwys Iesu Grist; B. Evans, Heolyfelin, ar ddyledswydd y diaconiaid; J. Evans, Abercanaid, ar ddyledswydd y gweinidog; ac Ě. Evans, Dowlais, ar ddyledswydd yr eglwys. Y pump diacon a neillduwyd yn y cwrdd hwn trwy weddi ac arddodiad dwylaw y gweinidogion oeddynt, James Williams, David Jenkins, Thomas Richard, David Davies, a Richard John; ac yr oedd brawd arall, sef Evan Jenkins, neu fel y gelwid ef yn gyffredin, Ifan Shenkin, wedi symmud ychydig cyn hyn o'r Berthlwyd, ac wedi gwasanaethu yn y swydd yno am flynyddau. Cafodd yntau ei ddewis i wasanaethu yma (gwel Seren Gomer am Hydref, 1883).

Er fod cyssylltiad uniongyrchol Price a'r eglwys yn awr wedi darfod, etto teimlai yr eglwys a'r gymmydogaeth yn gyffredinol barch neillduol ato, a dangosent bob amser y dyddordeb mwyaf ynddo. Yr oedd fel tywysog yn y lle bob tro y deuai i lawr, ac yr oedd hyny am lawer o flynyddau, fel y nodasom yn barod, yn bur aml. Yr oedd wedi cael cyfeillion trwyadl yn hen deuluoedd parchus y Glyngwyn, Penybanc, y Darran Las, &c. Byddai Ambrose, Shon, Evan a Thwmi Glyngwyn, yn llythyrenol yn ei addoli. Credai Shon a Thwmi Penybanc nad oedd ei ail i'w gael, ac nis gallai fod yn uwch yn marn y Morganiaid, Modryb Magws, a Mrs. Mary Thomas o'r Bruce Arms, lle yr arferai gael ei giniaw a'i dê braidd bob Sabboth yn ystod y deg mlynedd y bu yn gofalu am yr eglwys, ac nid y lleiaf o'i edmygwyr oedd yr hen frawd doniol ac hwyliog, Richard Shon. Hefyd, teimlai Price ei hun ymlyniad serchgarol wrth hen bobl barchus y Mount. Gwnaeth eu serch ato yn nghyd â'r parch mawr ddangosasant iddo argraff ddofn ar ei galon a'i deimlad. Yn ei Jubili dywed eiriau a brofant hyn yn eglur: "Nid annghofia y rhai ag oedd ar y cymundeb hwnw[2] y telmladau ddangoswyd at Mr. Price ar ei ymadawiad, wedi bod yn eu gwasanaethu fel eu gweinidog am y deng mlynedd blaenorol." "Yr oedd yno," meddai yn mhellach, "ychydig o oreuon y ddaear yn byw, a thrachefn, tra y byddom byw, bydd genym adgofion parchus iawn an aelodau boreuol Mountain Ash. Y maent gan mwyaf wedi ymadael; ond cawn etto gwrdd yn y nef er adolygu llawer cyfarfod cysurus a gawsom gyda'n gilydd ar y ddaear."

Y mae yr eglwys hon wedi parhau oddiar sefydliad Mr. Williams, yr hwn sydd yn aros hyd heddyw, ac yn un o gymmeriadau puraf y pwlpud yn Nghymru, yn ei gweith garwch, mae ei llwyddiant wedi bod yn dra helaeth, ac y mae mor flodeuog a llewyrchus heddyw ag erioed. Gwawr, Aberaman, hefyd sydd gangen arall o hen Eglwys Penypound. Credaf y cawn ddelweddiad mor gywir o Price yn ei gallder ymarferol, a'i fedrusrwydd digyffelyb i gwrdd ag achosion helbulus yn ei gyssylltiad a'i berthynas ag eglwys Gwawr ag a gawn mewn unrhyw gyfeiriad y bu ynddo. Bu yr eglwys hon yn ei dyddiau boreuol mewn trallodion lu, fe ddichon yn herwydd toriad cynnarol ei chyssylltiad â'r fam—eglwys Camsyniad sydd yn cael ei wneyd yn rhy gyffredin gan gangenau ydyw hwn, ac y maent yn fynych yn gorfod dyoddef canlyniadau chwerwon yn ei herwydd. Dywed gohebydd yn Seren Cymru am Ionawr y 4ydd, 1867, pan yn ysgrifenu ar achlysur jubili dyled yr eglwys yn Ngwawr, fel y canlyn:

Mae y ffaith fod yr eglwys wedi talu y ddyled oll yn achos o syndod ac yn destyn diolchgarwch Mae y syndod yn fwy. gan fod yr Eglwys yn Gwawr, Aberaman. wedi dyoddef mwy o dywydd garw, ac we li cael mwy o gam—chwareu nâ nemawr eglwys yn Nghymru. Yr ydym ni sydd yn ei hadnabod o i genedigaeth hyd yn awr yn synu mwy, ac yn diolch i Dduw yn fwy difrifol nag a wyr neb ond yr ychydig frodyr da sydd wedi bod gyda ni yn y tywydd chwerw ag y bu yr eglwys hon ynddo "

Mewn trefn i ddangos yr helbulon y cyfeiria y gohebydd hwn atynt, a chan eu bod yn dwyn perthynas agos â Price, fel un yn benaf a aeth drwyddynt, gosodwn yma fraslinelliad o'i hanes fel yr adroddir ef gan Price yn ei Jubili. Dywed yn debyg i hyn:—

"Dechreuodd Eglwys Aberdar lafurio yn Aberaman yn niwedd y flwyddyn 1846. Wedi i Arch yr Arglwydd fod yn ymsymmud o dỷ i dy am dymhor hir. ardrethwyd ystafell eang yn ymyl y King William.' yn yr hon y dygwyd y gwasanaeth yn mlaen ar y Sabbothau ac yn yr wythnos. Yn 1848, penderfynwyd codi capel cyfaddas i sefyllfa gynnyddol y lle. Erbyn Mehefin, 1849, yr oedd y ddalysgrif (lease) wedi ei chymmeryd ar adeiladu ar gael ei gychwyn. Ar y Sul o flaen y Gymmanfa y flwyddyn hono, yn ddisymmwth gwnaeth y gangen gais at y fam eglwys am ei chorffoli, er bod yn eglwys ar ei phen ei hun." Yn groes i feddwl aelodau goreu Aberdar, ac i farn a theimlad Price, caniatawyd eu cais, ac er hyrwyddo y ffordd iddynt gael derbyniad dioed i'r gymmanfa, corffolwyd hwy gan Price, yn cael ei gynnorthwyo gan y Parch. B. Evans, Hirwaun, y pryd hwnw, ar y nos Lun cyn y gymmanfa, a gollyngwyd 121 o aelodau i'w ffurfio. Derbyniwyd hi i'r gymmanfa yn y flwyddyn 1849.

Yn ddioedi wedi hyn, rhoddasant alwad i ddyn drwg o'r enw David Jones (Dewi Elfed) i ddyfod i'w bugeilio, a chymmerwyd arolygiaeth y capel yn hollol o law Eglwys Aberdar; ac er tori y cyssylltiad yn ddigon llwyr, tynwyd enwau Price a John Davies o'r ddalysgrif, a gosodwyd enwau David Jones a David Richards yn eu lle. Gwnawd hyn yn ddiau yn fwriadol gan Dewi Elfed er cyrhaedd ei amcan ystrywgar o fyned â'r capel oddiwrth y Bedyddwyr. Codwyd muriau y capel, a gosodwyd tô arno, a phwlpud ac un sedd ynddo, ac awd iddo yn y cyflwr anorphenedig hwnw; ac felly y bu hyd amser dinystriad yr eglwys. Nid hir y bu y dyn hwn cyn dangos ei ddrygioni. Yn y flwyddyn 1850, diarddelwyd yr eglwys a'i gweinidog o'r Gymmanfa yn herwydd cyfeiliornadau dinystriol y gweinidog. Ond er holl ddrygioni a chyfeiliornadau Dewi, cafodd rai Bedyddwyr i'w bleidio, a chan iddo gael ei gefnogi gan ychydig deuluoedd camsyniol, bu fel cancr yn difa pob rhinwedd a phob yspryd crefyddol yn yr ardal, ac yn planu chwyn gwenwynllyd, y rhai a adawsant eu heffeithiau yn Aberaman am flynyddau amryw. Wedi i'r dyn hwn wneyd a allasai i ddifodi achos y Bedyddwyr yn y lle, aeth ef ei hun—ac amcanodd fyned â'r capel a'r eglwys—drosodd at yr haid crefyddwyr a elwid yn y gymmydogaeth yn "Seintiau y Dyddiau Diweddaf." Llwyddodd, trwy ei dwyll yn newid y lease, i fyned â'r capel, a dylynwyd ef gan rai o'r aelodau; ac felly, llwyr ddinystriwyd yr eglwys yn Aberaman, ac ni achubwyd o'r drygfyd hwn ond ychydig a ddychwelasant i Aberdar. Collwyd y capel i'r eglwys am yn agos i flwyddyn; ond cymmerwyd y mater mewn llaw gan Price a'i eglwys er adennill y capel i'r Bedyddwyr o grafangau yr yspeilwyr oeddynt wedi ei drawsfediannu. Cafwyd, fel y gellid dysgwyl, bob gwrthwynebiad gan Dewi a'i blaid; ond er syndod a gwarth tragwyddol, cafwyd pob gwrthwynebiad gan ychydig Fedyddwyr oeddynt â llaw yn y mater. Perodd yr achos hwn bryder a thrafferth mawr i Price, a degau o bunnau o gost i'r eglwys yn Nghalfaria. Ond er pob gwrthwynebiad, yn Mrawdlys Haf 1851, adennillwyd y capel trwy y gyfraith, a chafwyd ailfeddiant o hono gan Uchel Sirydd Morganwg. Ar Tachwedd y 4ydd, 1851, daeth tua dwy fil o ddynion at eu gilydd i weled y capel yn cael ei adfeddiannu gan y Bedyddwyr; ond yr oedd y dyn drygionus, David Jones, yn nghyd â rhyw apostol gau, wedi cloi eu hunain o fewn y capel, a chan nad oedd hawl gan y Sirydd i dori y drws, yr oedd yn ymddangos fod y Seintiau yn debyg o gadw y capel, er fod y gyfraith yn eu herbyn. Ond nid oedd Price, wedi ymladd ei frwydr hyd yn hyn yn fuddugoliaethus, yn myned i gael ei orchfygu gan y ddau saint-gythraul oeddynt yn cadw gafael yn y capel.

Clywsom ef yn ei flynyddau olaf yn adrodd yr helynt gyda blas a hwyl, a cheisiwn osod yr hanes mor agos ger bron ag y cawsom ef ganddo, yn cael ei attegu gan ereill oeddynt yn llygaid-dystion o'r cwbl. Yr oedd Dewi a'r apostol wedi cloi a bolltio drws y capel gan ei osod mor ddyogel ag oedd yn bossibl. Hefyd, yr oeddynt wedi hoelio yn sicr bob un o'r ffenestri, y rhai oeddynt ychydig yn anhawdd eu cyrhaedd o'r tu allan. Yr oedd y bobl yn aros yn ddysgwylgar am olygfa, ac yn teimlo i raddau yn gas at y trawsfeddiannwyr oeddynt yn y deml. Dacw Price yn dyfod, yn wyllt yr olwg, cerddai yn gyflym, edrychai yn benderfynol, ac yr oedd pob ysgogiad o'i eiddo yn dweyd capel i'r Bedyddwyr ac nid i'r Seintiau oedd Gwawr i fod yn y man. Yn nghanol cynhyrfiad y bobl wele ef yn treio y drws, ond i ddim pwrpas. Ar hyn, y mae yn gwaeddi mewn modd awdurdodol ar un o'i ddiaconiaid, Mr. Phillip John, ac ar David Grier, saer, yr hwn oedd ag ychydig offer gweithio yn ei logell ar y pryd. "Agorwch y ffenestr yma, Grier," gwaeddai yn wyllt, "ac af i fewn at y d——liaid." Gwnawd hyn yn ddioedi, a chynnorthwywyd Price i fewn trwy y ffenestr gan Phillip John a Grier, a chanlynasant ef ar unwaith. Yr olygfa gyntaf gawsant oedd gweled Price yn cwrsio ar ol Dewi a'r apostol o amgylch y capel, i fyny i'r pwlpud ac i lawr drachefn, ac wedi myned o amgylch ddwy neu dair gwaith daethant i'r ddalfa yn y lobby. Cydiai Price ynddynt gyda gafaeliad cawr. Dywedodd wrth Grier a John am agor y drws, yr hyn a wnaethant drwy gryn drafferth. Ar hyn troediwyd yn llythyrenol y ddau ddyhiryn y naill ar ol y llall o'r capel gan Price, nes yr oeddynt yn disgyn yn y pellder draw yn nghanol llongyfarchiadau y dorf fawr ag oedd yn lygad-dystion o'r weithred. 'Dyna i chwi,' meddai, enghraifft bur dda o'r hyn yw 'bwrw allan gythreuliaid yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg." Diangodd y ddau sant am eu bywyd, er nad oedd yno genfaint o foch i fyned iddynt. Y dydd hwnw gofalwyd gosod y capel yn ddyogel mewn ymddiriedolaeth i'r Bedyddwyr.

Er fod y capel erbyn hyn wedi ei adfeddiannu i'r Bed- yddwyr drwy ymdrech egniol Price, nid oedd yr helynt ar ben etto. Yr oedd Dewi a'r Seintiau wedi gosod yr achos yn llaw Mr. Owen, Cyfreithiwr, Pontypwl, yr hwn a elwid yr adeg hono "the workmen's friend," oblegyd efe yn gyffredin gai ei bennodi i ddadleu achosion y dospaath gweithgar; ac yr oedd bob amser yn bur arwraidd a llwyddiannus yn ei frwydrau drostynt. Credai y Saint fod eu hachos hwythau yn ddyogel yn ei law; ond nid oeddynt wedi cyfrif gallu a medr cyfreithiol y gwr bach gwridgoch a phengrych oedd yn weinidog yn Mhenypound, Aberdar. Yr oedd yr achos o du y Bedyddwyr wedi ei ymddiried i Mr. Frank James, Merthyr, gan Price. Ymgeisiodd cyfreithiwr y Saint gael gan Price dalu treuliau oedd ddyledus iddo, ond methodd, a gorfu i Dewi Elfed eu rhoddi iddo y y dydd y bwriwyd ef allan o'r capel. Ar ol hyn gwysiwyd y Dr. gan Dewi Elfed, drwy ei gyfreithiwr Owen, am assault, a gofynai iawn am y niwed oedd wedi ei dderbyn drwy y troediad. Anfonodd y Dr. yn ol ato, a dywedodd fod perffaith roesaw iddo fyned yn mlaen a'r case, y buasai yn ei gyfarfod ef a Dewi Elfed yn y llys, ond ei fod yn hyspysu mai y peth cyntaf fynai yn ei erlyniad oedd dynoethi Dewi yn y llys er gweled y fan oedd wedi derbyn y niwed a'i archwilio yn llwyr, er gweled faint o niwed oedd wedi ei dderbyn. Rhoddodd hyn derfyn ar y cwbl, ac ni chlywodd Price ddim mwyach am dano. Wedi i Price a'i eglwys yn Aberdar ad-feddiannu y capel i'r Bedyddwyr, ail-agorwyd ef ganddynt yn ddioed. Am hyn edrydd Price yn ei Jubili.

'Y dydd Sul canlynol, Tachwedd, 1851, ail agorwyd y capel gan Eglwys Calfaria ac Eglwys y Cwmbach, a gosodwyd yr achos o dan nawdd y Parch. J. D. Williams ac Eglwys y Cwmbach. Fel yna terfynodd y frwydr hon. Ond arosodd effeithiau cythreuleiddiwch David Jones, a chamsyniad ffol a phengamrwydd rhai Bedyddwyr yn fawr ar Aberaman, ac yn wir nid yw yr effeithiau weli llwyr ymadael hyd y dydd hwn."

Ond er cymmaint oedd y stormydd a'r helbulon yr aeth yr eglwys hon drwyddynt, cafodd ei bendithio à dynion da yn weinidogion arni, megys y Parchedigion W. Jones, yn awr Philadelphia, Abertawe; T. Abertawe; T. Nicholas; Morgan Phillips, yn nghyd a i gweinidog da a gweithgar presenol y Parch. T. Davies.

Bu Price yn llafurus a diwyd iawn yn dechreu achos Seisnig yn Aberdar. Yr oedd ganddo lygad craft i weled angenion y gymmydogaeth, a gallu arbenig i ddarparu ar eu cyfer, yn neillduol yn ei gylch a'i gyssylltiadau crefyddol. Dechreuodd efe yr eglwys hon, fel y gwneir yn gyffredin wrth gychwyn achosion newyddion, trwy fyned a'r cyfarfodydd o dy i dy. Cyflogodd ystafell fawr berthynol i'r Horse and Groom am dymhor byr; yna, cafodd un mwy cyfleus yn ymyl y Black Lion. Bu y frawdoliaeth yno hyd symmudiad yr eglwys Gymreig i Gapel Calfaria, pryd y rhoddwyd yr hen gapel i'r Saeson, a chorffolwyd hwynt yn eglwys reolaidd gan Price ar y 15fed o Chwefror, 1852. Dewiswyd y Parch. James Cooper yn weinidog; ond ni fu ei arosiad yn hir yn Aberdar, er ei fod yn yn ddyn rhagorol, ac yn weinidog da. Yn mhen tair blynedd wedi corffoliad cyntaf yr eglwys, diflanodd yn llwyr, a chauwyd y capel i fyny yn mis Mawrth, 1855. Ar y dydd Sabboth, Mai y 13eg, yn yr un flwyddyn, agorwyd y capel drachefn gan Price, yn cael ei gynnorthwyo gan Mr. Edward Gilbert Price i ofalu am yr Ysgol, Mr. William Davies i ofalu am y canu, a Mr. John Lewis i ofalu am y ddiaconiaeth. Dyma y cwbl," adroddai Price, "oedd genym i ymddybynu arnynt i ddechreu yr achos newydd. achos newydd." Ond ymdrechodd Price yn egniol gyda'r brodyr da hyn, a chynnyddodd yr achos yn raddol. Yn y flwyddyn 1856, gollyngwyd 81 o aelodau Calfaria er ffurfio eglwys yma etto, yr hon a gorffolwyd yn rheolaidd, ac a dderbyniwyd i'r Gymmanfa y flwyddyn hono. Tynwyd yr hen gapel i lawr, ac adeiladwyd un newydd a hardd yn yr un man â'r hen dy. Agorwyd ef Mawrth yr 8fed, 1857, gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. G. P. Evans, York Place, Abertawe, (gweler Gwron Mawrth 14, 1857). Bu yr eglwys, fel cangen o Galfaria, dan arolygiaeth a gofal Price hyd sefydliad Mr. James Owen, yn awr o Mount Pleasant, Abertawe, yn weinidog arni yn y flwyddyn 1860, a fu yn llwyddiannus i godi achos llewyrchus yn y lle.

Bron yn yr un adeg codai yr eglwysi yn Methel, Abernant, a'r Ynyslwyd; ac arferai y Dr. yr un diwydrwydd ac egni gyda hwynt ag a ddangosasai gyda r cangenau ereill. Mynychai pobl Abernant y cyfarfodydd crefyddol yn Nghalfaria, oddigerth yr Ysgol Sul a'r cyfarfodydd gweddio, y rhai a gynnelid, fel y dywedir, ar hyd y tai yn eu cymmydogaeth. Ceisiai Price drefnu y cyfarfodydd yn y cangenau i beidio bod ar yr un nosweithiau, ac felly, yn gyffredin, yr oedd yn gallu bod yn bresenol ynddynt. Nodweddid ef yn neillduol gan ffyddlondeb a chyssondeb yn ei fynychiadau i'r cyfarfodydd wythnosol yn y cangenau, ac yr oedd dylanwad mawr gan ei bresenoldeb ar yr aelodau gan y gwelent ei fod yn teimlo y fath ddyddordeb ynddynt. Yr oedd hyn yn effeithio yn ddaionus hefyd ar y cymmydogion a'r gwrandawyr, gan ei fod yn eu tynu i'r cyfarfodydd hyn. Yn gweled fod yr achos yn llwyddo yn gyflym yn Abernant, penderfynwyd yn y flwyddyn 1856 adeiladu ysgoldy eang yno, yr hyn a wnawd yn ddioedi; oblegyd cawn ei fod yn cael ei agor ar y 25ain o Ionawr, 1857, a phregethwyd ynddo am y waith gyntaf gan Dr. Price ar nos Sul, y dyddiad crybwylledig. I gyfarfod y ddyled drom o £374 12s. oedd yn awr ar Bethel, mabwysiadodd y Dr. gynllun rhagorol, yr hwn a wnaeth y baich yn hawdd i'w ddwyn gan y bobl. Sefydlodd yn yr eglwys yr hyn a alwai yn Gymdeithas Ceiniog yr Wythnos. Cyfranai pob aelod ei geiniog bob wythnos, ac felly cyd-ddygent y baich yn ogoneddus. Yn fuan, aeth yr ysgoldy yn rhy fychan, felly rhaid oedd codi capel newydd yn llawer eangach: ac ar yr 20fed o Fai, 1862, fel y cawn hanes, gosodwyd y garreg sylfaen, neu goffadwriaethol, gan Mrs. Hosgood, Rose Cottage, Abernant. Rhoddwyd an- erchiad pwrpasol ar yr achlysur gan y Dr., yn cael ei gynnorthwyo gan y Parchn. W. Williams, Mountain Ash; W. Harris, Heolyfelin; Dr. John Emlyn Jones, Caerdydd; a T. E. James, Glynnedd, yr hwn a wnaeth gân odidog ar "Bethel fach yn myn'd yn Bethel fawr." Bu y Dr. drwy y blynyddau yn dra charedig i eglwys Bethel; teimlai ddyddordeb neillduol yn newisiad y gweinidogion fuont yn gweinidogaethu arni o bryd i bryd. Cawn ei fod wedi traddodi amryw ddarlithiau yn rhad i'r eglwys hon er dileu ei dyledion. Bu yn enwog yn ei weithgarwch a'i ffyddlondeb yn gyssylltiedig â hi, yn neillduol tra fu dan ei ofal neillduol ef ac ar adegau y byddai heb weinidog. Da genym nodi er lleied a gwaned oedd Bethel, pan broffwyd- ai y caredig frawd T. ab Ieuan am dani, ei bod bellach wedi dyfod yn Bethel fawr dan weinidogaeth lwyddiannus ei gweinidog presenol y Parch. John Mills, yr hwn hefyd sydd yn aelod gwreiddiol o Bethel.

Derbyniodd yr Ynyslwyd yr un gofal a charedigrwydd gan y Dr. a'r fam-eglwys yn Nghalfaria ag a wnaeth Abernant, ond yn unig ei fod wedi pregethu yn amlach yn Methel nag a wnaeth yn yr Ynyslwyd. Y tro cyntaf y cawn iddo bregethu yn yr Ynyslwyd, yn ol ei ddyddiadur, yw ar y 29ain o Ragfyr, 1858. Ei destyn oedd Esay liv. "Helaetha le dy babell." Traddododd araeth yn y gyfeillach y noson hono hefyd ar "Ddiwedd y flwyddyn;' ond tebyg ei fod wedi pregethu yno yn flaenorol: fodd bynag, cawn ei hanes yn rhoddi anerchiadau yn yr Ysgol Sabbothol yno cyn hyn. Cymmerodd y Dr. lawer iawn o ddyddordeb gydag adeiladu yr ysgoldy a'r ty annedd yn y flwyddyn 1858, y rhai oeddynt yn werth £254 17s. 8c.; ac yn y flwyddyn 1862 adeiladwyd y capel eang a phrydferth presenol, yr holl waith yn cael ei arolygu gan y Dr. ei hun. Agorwyd ef yn gyhoeddus ar y dyddiau Mercher ac Iau, y 4ydd a'r 5ed o Chwefror, 1863. Ond yr oedd Price wedi pregethu ynddo y nos Sul blaenorol. "Holl gynghor Duw" oedd y pwnc, ac wedi y bregeth bedyddiodd saith o gredinwyr proffesedig yn y fedyddfa newydd. Y cyntaf o'r saith oedd Mr. David Davies, yr hwn oedd wedi treulio dros bymtheg mlynedd ar hugain yn aelod gyda y Methodistiaid. Hyd yma yr oedd yr eglwys yn aros yn gangen dan nawdd a gofal y fam-eglwys, ac wedi ei hymadawiad bu yn llwyddiannus iawn dan ofal gweinidogaethol y Parch. Thomas John, yn awr o Ffynnonhenry. Olynwyd ef gan y Parch. R. E. Williams (Twrfab), y gweinidog presenol, ac y mae yr eglwys yn parhau yn llewyrchus a blodeuog dan ei weinidogaeth.

Yr oedd golwg fawr gan y Dr. ar y Gadlys, y gangen olaf a godwyd gan Calfaria. Arferai Price, pan yn siarad yn gyhoeddus am hanes yr eglwysi Bedyddiedig yn y dyffryn (a gwnai hyny yn aml yn ei flynyddau olaf), ei galw yn gyw gwaelod y nyth. Sefydlwyd Ysgol Sul yn y Gadlys yn y flwyddyn 1858. Cynnaliwyd yr ysgol gyntaf yn nhŷ Dan James, yr hwn a fu yn llafurus iawn ynddi, ac yn ddiacon ffyddlon a gweithgar yn yr eglwys am flynyddau, ond gwnaeth longddrylliad yn y ffydd a chafwyd colled enfawr ar ei ol. Cawn a ganlyn ar goflyfr y Gadlys am yr Ysgol Sul:-" Rhif yr ysgol gyntaf oedd 113, o ba rai yr oedd 39 yn aelodau. Yr oedd Dr. Price, ein hanwyl weinidog, yn bresenol, a'i holl enaid yn y gorchwyl o sefydlu achos yn y lle." Wedi bod yn ymdreiglo o dy i dy â'r ysgol am rai misoedd, penderfynwyd ar godi ysgoldy. Ymgymmerodd Price, yn ol ei barodrwydd arferol, at sicrhau tir, a chafodd addewid am lecyn cyfleus gan Mr. Thomas Wayne ar ystâd y Gadlys, ond pan ar fedr tynu allan y cytundeb, trodd allan na ellid ei gael, am fod lease y cwmni yn gwahardd rhoddi tir i adeiladu capelau i'r Ymneillduwyr arno, ond cyn gynted ag y cafodd Price y nacâd, dywedodd yn ei ddull meistrolgar a phenderfynol, "Land for building my chapel I will get ere I sleep to-night," ac felly y bu: aeth yn uniongyrchol at foneddwr o gyfaill iddo, sef J. L. Roberts, Ysw., meddyg, Gadlys Uchaf, ac wedi gosod ei gais o flaen Dr. Roberts, llwyddodd yn y man. Cafodd ddewis ei le, a phenderfynodd ar y darn y saif Capel y Gadlys arno yn bresenol. Awd yn mlaen â'r gwaith o adeiladu yn ddioed, ac nid hir y bu yr ysgoldy a'r annedd-dai perthynol iddo cyn bod yn barod. Cynnaliwyd yr ysgol gyntaf yn y lle newydd Chwefror y 6ed, 1859. Cynnyddodd yr ysgol yn gyflym, ac mewn ychydig amser rhifai 180 o ysgolheigion, 56 o'r cyfryw oeddynt yn aelodau o'r fam-eglwys yn Nghalfaria. Yn gweled fod yn y Gadlys lawer iawn o bobl ieuainc, bywiog, ac yn meddu ar hoffder i ganu ac adrodd, cyfansoddodd y Dr. bwnc, fel y dywed ysgrifenydd y Gadlys yn ei gronicliad o hanes boreuol yr eglwys, "at wasanaeth yr ysgol hon; y testyn oedd 'Yr Efengyl a'i llwyddiant.' Yr oedd i fod wedi ei ddysgu ganddynt erbyn dechreu 1860. Yr elw oddiwrtho i fyned at genadaeth China." Cynnyddodd yr ysgol a'r eglwys hon yn gyflym, fel yr oedd yn 189 o aelodau pan yn cael ei derbyn yn aelod o'r gymmanfa yn Nowlais yn Mehefin, 1865. Yn y flwyddyn hono yr agorwyd y capel. Rhoddwyd y contract o'i adeiladu allan i Mr. Thomas Roberts dydd Llun, Mai yr 8fed, 1864, am y swm o £675. Yn ei fynegiad o hanes cyfarfodydd agoriadol y Gadlys yn Seren Cymru am Mehefin y 30ain, 1865, dywed y gohebydd,

"Mae yn deilwng o sylw mai hwn yw y seithfed capel ag y mae Eglwys Calfaria wedi ei godi er sefydliad y Dr. Price yn weinidog yn Aberdar, yn agos i 20 mlynedd yn ol; a hon yw y chwechfed eglwys a gorffolwyd o aelodau yn cael eu gollwng yn rheolaidd ac yn gariadlawn o Eglwys Calfaria, yn ystod y blynyddau diweddaf. Ac y mae pob un o'r eglwysi hyn yn alluog i, ac yn cynnal gweinidogion eu hunain. A bydd yn dda gan ein cyfeillion wybod fod y fam-eglwys yn para yn gryf ac iachus, ac yn cynnal ei gweinidog ei hun mewn cysur ac anrhydedd. Mae yn ffaith deilwng o sylw fod pob un o'r eglwysi hyn wedi ymadael â'r fam-eglwys mewn heddwch, cariad, a brawdgarwch. Nid oes cymmaint â gair croes wedi bod rhwng y gweinidog a'r fam-eglwys o'r naill du, a'r eglwysi newydd o'r tu arall. Mae perffaith unoliaeth a brawdgarwch wedi ac yn parhau i lywodraethu pawb o honom o'r henaf hyd yr ieuengaf."

Bedyddiodd y Dr. am y waith gyntaf yn nosparth y Gadlys prydnawn dydd Sul, Ebrill y 5ed, 1863, a rhoddodd y cymundeb cyntaf yn y Gadlys nos Sul, Ionawr 24, 1864. Nos Sul cymundeb, Mai yr 21ain, 1865, yn yr hwn yr oedd y Dr. yn bresenol, rhoddwyd galwad unfrydol i'r doniol bregethwr, Mr. D. Davies (Dewi Dyfan), myfyriwr o Bontypwl; cyflwynwyd hi iddo ar y 23ain. Derbyniodd hi gyda boddlonrwydd. Rhoddodd Price y cymundeb am y tro olaf yn y Gadlys fel eglwys dan ei ofal nos Sul, Rhagfyr y 24ain, 1865. Ymsefydlodd Dewi Dyfan yma, a chynnaliwyd cyfarfodydd ei urddiad ar y dyddiau Sul a Llun, Ionawr y 14eg a'r 15fed, 1866. Bu yn dra llwyddiannus hyd ei ymadawiad i Aberteifi yn 1875. Olynwyd ef gan y gweinidog presenol, y Parch. B. Evans, gynt o Dy Ddewi, yr hwn, yn ngwyneb llawer o anfanteision achoswyd trwy lwyr attaliad gweithfeydd haiarn ac alcan y Gadlys, sydd wedi cael ffafr yn ngolwg Duw a dynion.

Dengys y nodion geir yn nghofnodlyfr y Gadlys am 1865 fawr ofal Dr. Price am yr eglwys hon. Mae y manylion am ei fynychiadau a'i ymrwymiadau i'r eglwys yn ystod y flwyddyn yn rhy luosog i'w croniclo yn llawn yma. Ceir ef yn pregethu ar foreu neu nos Sul yn fynych, yn tori bara bob mis, yn yr Ysgol Sul yn aml, yn lled gysson yn y cyrddau gweddïo a'r cyfeillachau, ac hefyd yn bedyddio â threfnu amgylchiadau allanol yr eglwys.

Credwn fod y braslinelliad ydym wedi ei dynu o gyssylltiad Price â changenau ei eglwys yn ddigon i ddangos ei weithgarwch difefl, ei egnïon parhaol, ei benderfyniad diysgog, ei ofal diflin, ei serch ymlynol, a'i fawredd dihafal. Hoffa yr hen bobl siarad yn fynych am yr amser hwnw, a chredant nad oedd tebyg y Dr. i'w gael i weithio a chodi eglwysi newyddion. Dywedodd un o honynt wrthyf yn ddiweddar, "Gellwch ddweyd yn dda am y Dr., poor fellow, ac wedi i chwi ddweyd neu ysgrifenu eich goreu am dano, bydd ei waith yn llawer mwy wed'yn. Ni fedr neb ddweyd gormod am dano yn ei berthynas â Bedyddwyr Aberdar." Yr ydym o'r un farn â'r hen frawd hwnw, oblegyd y mae codi cynnifer o ysgoldai a chapelau newyddion mewn tymhor mor fyr yn golygu gwaith a llafur anarferol, heblaw fod ganddo amryfath ddyledswyddau pwysig ereill yn galw am ei amser a'i wasanaeth; ac er fod ganddo gynnorthwywyr effeithiol yn ei ddiaconiaid gweithgar a brodyr da ereill oeddynt yn aelodau yn y cangenau hyn, mynai Price gyda phobpeth i'r baich trymaf bwyso ar ei ysgwyddau ei hun; ac felly yma.

Yn ei Drem, fel y crybwyllasom yn barod, noda y Dr. allan 21 o'r eglwysi ydynt wedi hanu o Galfaria. Fel hyn yr ysgrifena:—

EGLWYSI A GODWYD GAN EGLWYS CALFARIA.

"Yr wyf am osod yr eglwysi hyn i lawr yn ddaearyddol, yn hytrach nag yn ol eu hoedran:—Pontbrenllwyd; Ramoth, Hirwaen; Bethel, Glynnedd; Heolyfelin, Resolfen. Llwydcoed, Gadlys, Tabernacl, Merthyr Tydfil; Carmel (Seisnig); Bethel, Abernant; Gwawr, Aberaman; Bethania, Cwmbach; Aberaman (Seisnig); Cwmaman; Abercwmboye; Rhos, Mountain Ash; Nazareth, Ferndale; Penrhiwceibr; Penrhiwceibr (Seisnig)."

Ond gwelir nad yw y rhai hyn yn gangenau uniongyrchol o Galfaria. Mae rhai o honynt yn blant y plant: maent yn ŵyrion, os nad gorŵyrion, rai o honynt. Felly, nid ateba lawer o ddyben i ni eu dylyn yn fanwl, ac ni wnawn amgen nodi eu bod wedi cael llawer o sylw a chynnorthwy ymarferol y Dr. mewn gwahanol amgylchiadau o bryd i'w gilydd.

Bellach, yr ydym yn cael yr achos Bedyddiedig wedi lledu ei esgyll drwy yr holl ddyffryn, ac y mae y gwaith o adeiladu capelau, &c., ar ben. Fel hyn y dywed gohebydd yn ei adroddiad o gyfarfodydd ordeiniad Dewi Dyfan yn Seren Cymru am Ionawr y 26ain, 1866:—

"Mae Dr. Price mewn fix, yn methu yn deg a gwybod b'le y ca le i godi capel etto. Mae wedi codi capeli yn mhob man ag oedd galw am danynt, ac os na wna rhywle newydd agor yn fuan, bydd yn sicr o fyned allan tua'r Iwerddon neu rywle, oblegyd helaethu terfynau teyrnas Emanuel yw ei fwyd a'i ddiod. Mae wedi llanw dyffryn Aberdar ag egwyddorion y Bedyddwyr; ac y mae fel tad parchus a thyner yn nghanol yr eglwysi sydd wedi myned allan o'i eglwys, a'u gweinidogion."

Nid anmhriodol, credwn, fyddai i ni yn awr edrych yn fyr ar y modd hwylus y gweithia yr eglwysi hyn, a dyferu gair am eu teimladau tuag at y Dr. fel eu tad mewn ystyr, neu fel yr ystyrid ef yn gyffredin, tywysog y Bedyddwyr yn y cwm. Cawn weled hyn yn ngoleuni yr undebau gwahanol berthynent i eglwysi ac Ysgolion Sul Dyffryn Aberdar.

Nodiadau[golygu]

  1. Wedi claddu Shon, priododd Kate, fel ei gelwid hi, â John Griffiths, yn awr y Parch John T. Griffiths. Lonsdale, Pensylvannia, America, ac y maent wedi byw yn ddedwydd gyda'u gilydd.
  2. Sef y Sul o flaen y cwrdd sefydliad. Yr oedd Price i fedyddio y Sul hwnw, ond collodd y tren yn Aberdar. felly gorfu iddo gerdded lawr i'r Mount. Yr oedd Mr. Williams wedi gwisgo yn barod i fed voldio ei hunan, wedi gweled na ddaeth Price gyda y tren, ond pan oedd Mr. Williams bron yn barod i arwain y bedyddiedigion i'r dwfr, gwelent Price yn dyfod wedi cerdded bob cam ac yn llaca mawr hyd ei benlin iau. Yn mlaen yr aeth yn benderfynol i wneyd y gwaith y dysgwylid iddo ei gyflawnu. ond gwrthodwyd iddo gan y brodyr, gan ei fod wedi poethi yn ormodol ac yn llawn chwys.