Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price/Y Llenor, y Darlithiwr, a'r Pregethwr

Oddi ar Wicidestun
Y Dr Fel Cymdeithaswr Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price

gan Benjamin Evans (Telynfab)

Ei Ddydd Lyfrau

PENNOD XVI.

Y LLENOR, Y DARLITHIWR, A'R PREGETHWR.

Y Llenor, Darlithiwr, a'r Pregethwr—Y Dr. fel Saul yn mhlith y proffwydi—Y'n rhagori mewn amryw bethau—Ei ddiwydrwydd a'i benderfyniad—Rhestr o ysgrifau y Dr.—Ei gyssylltiad a'r Wasg — Ei ysgrifau yn 1864—Ei "Nodion Gwasgaredig"—Mawredd ei waith llenyddol — Wedi ysgrifenu yn helaeth fel Golygydd—Cynnorthwyo ei gydgenedl—Enghraifft —Ei gyd—lenorion—Darlithiwr poblogaidd—Gwahanol farnau am y ddarlith—Darlithwyr enwog—Dr. ar y blaen—Gystal darlithiwr a phregethwr—Gwella i bregethu—Defnyddio darlunleni—Ffraeth—Ei bynciau—cynnwysdremiau—"George Muller a'r amddifaid"—"War in the East"— America—Darlithio yn Saesneg fel y Gymraeg—Barn am dano fel darlithiwr—Chwedlau digrif—Hyspysiad—Talu £4,000 o ddyledion capeli trwy ei ddarlithiau—Yn boblogaidd fel pregethwr pan yn ieuanc—Er nid yn un o'r pregethwyr mwyaf, etto yn boblogaidd—Pregethwr syml—Y Telegraph—Ei nerth yn yr hanesyddol—Cymmeriadau Beiblaidd—Dammegion— Pregethu cyfres o bregethau yn fynych—Y Beibl yn enghraifft—Rhai o'i sylwadau doniol—Ei ofal am ei bregethau.

N mha gyfeiriad bynag yr edrychwn ar wrthddrych YN ein Cofiant, ymddengys fel pe yn tyfu ac yn myned yn fwy yn barhaus. Yn y cyssylltiadau a nodasom yn flaenorol gwelwn ef yn ei fawredd dihafal, fel yn ymgodi uwchlaw pawb. Ymddangosai yn mhlith ei gydlafurwyr fel Saul yn mhlith y proffwydi. Fel llenor, darlithiwr, a phregethwr etto, gellir dweyd am dano mai nid y lleiaf ydoedd yn mhlith hyd y nod dynion o dalent ac athrylith. Nid yn fynych y ceir dynion hyd y nod y rhai mwyaf yn rhagori mewn llawer o bethau. Eithriadau yn y byd meddyliol ydynt y rhai a ragorant mewn mwy nag un peth. Rhaid hyd y nod i'r eithriadau wrth ganolfaniad y galluoedd ac ymlyniad mewn llafur ac ymdrechion. Y mae anhawsderau ar bob llwybr dyrchafiad, ac os am gyrhaedd y pinacl, rhaid cyn cychwyn benderfynu myned drostynt, heibio iddynt (yr hyn nid yw yn hawdd ei wneyd), neu, fyned drwyddynt. Ac os am ragori mewn mwy nag un cyfeiriad, rhaid dyblu y diwydrwydd a grymusu y penderfyniad, oblegyd bydd yr anhawsderau yn naturiol yn fwy, ac yn sicr, yn amlach. Dyn yn rhagori mewn llawer o bethau oedd y Dr., ac y mae y ffaith ei fod wedi gallu gwneyd hyn, yn profi yn eglur pa fath un ydoedd. Nodwedd amlwg ynddo oedd diwydrwydd; hebddi, nis gallasai fod wedi gwneyd cymmaint o waith yn mhob cylch. Elfen gref arall a'i nodweddai oedd Penderfyniad. Heb hyn etto nis gallasai fod wedi gorchfygu cymmaint a chynnifer o rwystrau ar bob llwybr a deithiodd. Meddiannai feddwl uwchraddol, onide nis gallasai fod wedi gosod ei nod mor uchel ag y gwnaeth mewn cynnifer o gyfeiriadau pwysig. Arnododd yn uchel fel gweithiwr yn mhlith ei bobl, ei eglwys, a'i enwad. Gwnaeth yr un modd fel gwleidyddwr a chymdeithaswr, a bu yn llwyddiannus i argraffu ei enw yn ddwfn, ac mewn llythyrenau breision yn y byd llenyddol. Yr oedd ei lafur yn yr ystyr hwn yn enfawr. Synir ni gan luosogrwydd ac helaethder ei gynnyrchion llenyddol, yn neillduol pan ystyriwn y gwaith aruthrol gyflawnid ganddo mewn cylchoedd pwysig ereill. Nid oedd yn esgeuluso ei ddyledswyddau fel pregethwr a gweinidog er ymroddi at lenyddiaeth. Cadwodd y pwlpud yn uchel, a'i eglwys yn ofalus hyd y diwedd, er cymmaint a wnai gydag ysgrifenu ar wahanol bynciau i wahanol newyddiaduron, cyhoeddiadau, a chofnodolion y wlad, ac yn neill- duol i'r papyrau oeddynt dan ei ofal golygyddol. Nis gellir dweyd fod y Dr. yn awdwr enwog, oblegyd nid yw y llyfr mwyaf a gyhoeddodd erioed yn uwch ei bris nâ rhyw swllt neu ddeunaw ceiniog. Credwn mai y llyfr mwyaf a gyhoedd ydoedd yr un ar Fedydd, yr hwn a ddygodd allan mewn atebiad i'r diweddar Barch. W. Edwards, Heolyfelin, yn y ddadl fawr a bythgofiadwy a fu rhyngddo a'r Dr. ar yr Ordinhad o Fedydd. Hefyd, cyhoeddodd lyfryn bychan tlws ar Hanes Eglwys Calfaria yn 1862, yr hwn a vai yn Juwbili Eglwys Calfaria, Aberdar, at yr hwn yr ydym wedi gwneyd cyfeiriadau mynych yn y gwaith hwn, ac wedi dyfynu yn helaeth o hono yn gyssylltiedig ag hanes Calfaria a'r Enwad yn y Dyffryn. Cyhoeddodd hefyd hanes gweithrediadau Eglwys Calfaria hyd y flwyddyn 1886, yr hwn a eilw yn Trem. Cyhoeddodd hefyd anerchiad byr at Eglwys Calfaria, a chofres gyflawn o holl aelodau a swyddogion yr eglwys dan ei ofal yn 1887. Hwn ydoedd ei anerchiad olaf i'w eglwys barchus fu dan ei ofal tyner am dros ddeugain o flynyddoedd, a chredwn mai cyhoeddi hwn ydoedd y gorchwyl diweddaf iddo yn ei berthynas â'r eglwys. Hefyd, y mae y Dr. wedi cyhoeddi amryw holwyddoregau, pamphledau, a phynciau ar destynau Ysgrythyrol a duwinyddol, megys y "Beibl," "Llwyddiant yr Efengyl," "Cyfiawnhad," &c., at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol.

Ysgrifenodd y Dr. lawer iawn o anerchiadau galluog ar gyfer Cyfarfodydd Gwanwynol ac Hydrefol Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr a'r Iwerddon, megys "The Strict Baptists in Wales," "Annghydffurfiaeth ac Addysg Gyhoeddus yn Nghymru," "Hanes y Bedyddwyr" (yn L'erpwl, Hydref, 1866), "Hanes y Gymdeithas Genadol," "Y Genadaeth Dramor," "Y Gymdeithas Gyfieithadol," "Y Gymdeithas Grefyddol a Thraethodol," &c., &c. Ysgrifenodd hefyd erthyglau galluog ar brif bynciau y dydd perthynol i'n gwlad a'n cenedl, yn gystal ag ysgrifau achlysurol ar bynciau cyssylltiedig â gwledydd ereill, i'r papyrau a olygai efe. Pe cesglid at eu gilydd ei holl weithiau llenyddol, ei ysgrifau yn y gwahanol gyfnodolion misol a chwarterol, ei anerchiadau a i bamphledau cyhoeddedig, ei erthyglau i'r gwahanol newyddiaduron Cymreig a Seisnig, gwnelent gyfrolau mawrion a thra gwerthfawr; oblegyd yr oeddynt oll yn orlawn o fater sylweddol a gwybodaethau buddiol. Dechreuodd ei gyssylltiad â'r wasg fel golygydd yn y flwyddyn 1855; cyd—eisteddai yn y gadair olygyddol yr adeg hono â'r anfarwol Caledfryn, yn nghyd â'r galluog ddiweddar Hybarch John Davies, Aberaman, wedi hyny Caerdydd. Efe, yn ol fel y gallwn weled oddiwrth ei goflyfr perthynol i'r Gwron, oedd yn ysgrifenu dan y pennawd Crynodeb yr wythnos am flynyddau, a chymmerai olwg eang ar faterion yn gymdeithasol a gwleidyddol yn yr ysgrifau hyny. Heb fanylu yn y cyfeiriad hwn, oblegyd eangder aruthrol y maes, rhoddwn yma yn enghrefftiol hanes ysgrifau un flwyddyn, sef 1864, a ysgrifenodd yn gyssylltiedig âr Eglwys Sefydledig yn Seren Cymru yn unig. Y cyntaf a gawn yn y Seren am Ionawr iaf, 1864:"Yr Eglwys Wladol: Yr esgobion a'u cyflogau—Palasau yr esgobion—Yr archddiaconiaid a'u cyflogau—Cyflogau yr offeiriaid gweithgar—Cwyn y curad—Yr eglwysi cadeiriol a'u costau—Yr Ecclesiastical Commission a'i weithrediadau— Yr arwerthfa ysprydol, eneidiau dan y morthwyl—Y farchnad ysprydol—Y canonau—Ei meistr—Yr Eglwys Wladol yn Nghymru—Casglu y briwfwyd—Cydraddoldeb crefyddol yn hanfodol i ryddid gwladol—Chwech ysgrif etto ar yr un pwnc—Y gyfraith—Y fam yn trin y plant—Y Parch. Sydney Smith â swyddogion yr eglwys—Tair ysgrif ar yr un pwnc—Yr offeiriaid mewn cadwynau—Y dull o drafod y cyfoeth—Pedair ysgrif ar yr un pwnc—Yr eglwys yn yspeilio y plant—Profiad Eglwyswyr—Adgyfnerthion yr eglwys Y Parch. J. Dudson, Ficer Cockerham—Aberth er mwyn y gwir—Ei nerth a'i gwendid—Barn y bobl am bethau—Dwy ysgrif ar yr un pwnc—Ffordd newydd i lanw yr eglwys—Yr Eglwys Wladol yn Nghymru—Y dreth eglwys—Yr Eglwys Wladol yn Nghymru." Dyna i ni ddigon o eglwys, ond wedi y cwbl gwasanaetha y penawdau hyn i ddangos y sylw mawr yr oedd Price yn ei dalu i'r Eglwys Sefydledig, a dangosant yn eithaf eglur ei allu digyffelyb i ysgrifenu yn gyson ar bynciau o'r fath, a pha mor frwdfrydig y teimlai dros Ymneillduaeth ac Anghydffurfiaeth. Nid ydym wrth hyn wedi dangos yr holl erthyglau a ysgrifenodd yn y flwyddyn dan sylw, ond yn unig y rhai a ysgrifenodd mewn ystyr ar yr un pwnc, ond yn ei wahanol arweddion. Meddylier am yr ysgrifau hyn, ac adgofier etto am ei ysgrifau a'i "Nodion Gwasgaredig" am y flwyddyn a nodasom yn flaenorol, yn yr hon bu yn America, y rhai gyda'u gilydd, fel y crybwyllasom, a wnaethant dros 70 o golofnau yn y Seren, a chawn feddylddrych egwan am waith llenyddol Price. Ysgrifenodd rywbeth yn debyg i hyn yn gysson o'r flwyddyn 1855 hyd y flwyddyn 1876—dros 20 mlynedd—pryd y rhoddodd i fyny olygiaeth Seren Cymru yn herwydd anmhariad ei iechyd.

Heblaw hyny, y mae wedi ysgrifenu yn helaeth a thalentog yn ei sylwadau yn mwrdd golygydd y gwahanol bapyrau y bu yn eu golygu. Y mae y wybodaeth eang a chyffredinol ar wahanol faterion, teuluol, cymdeithasol, gwleidyddol, a chrefyddol yno yn synfawr. Cynnorthwyodd filoedd o'i gydgenedl yn ei nodiadau golygyddol, a rhoddodd gannoedd o gynghorion a chyfarwyddiadau cyfreithiol ar faterion pwysig yn rhad, heb gymmaint a gofyn na dysgwyl y 6/8. Fel hyn gwelwn i'r Dr. ddal cyssylltiad agos iawn â'r wasg ac â llenyddiaeth bron drwy ei oes, a bu yn alluog i wneyd daioni mawr yn y cylch pwysig hwnw. Oddiwrth ei ledger, yr hwn sydd yn ein meddiant, gwelwn iddo fod yn ysgrifenydd arianol Seren Gomer o'r flwyddyn 1853 hyd ddiwedd y flwyddyn 1859, ac y mae gyda'i gyfrifon, fel pob peth arall, yn gryno, destlus, a chyfundrefnol. Bu flynyddau, fel y dywedasom o'r blaen, yn olygydd y Gwron a'r Gweithiwr, papyrau a gyhoeddid yn Aberdar. Cawn ef etto yr un mor gyfundrefnol yma. Cadwai lyfr mawr, yn yr hwn yr oedd yn cofrestru yr holl erthyglau a dderbyniai yn y drefn a ganlyn:—

Yr ydym yn rhoi enghreiff'tiau am dair blynedd, er dangos fod yr un drefn yn cael ei chario yn mlaen ganddo o hyd. Byddai yn ddyddorol ail-gyhoeddi llawer o'r ysgrifau ysgrifenwyd gan y Dr. i'r Gwron a'r Gweithiwr. Gwehr nad ydoedd y Dr. yn ysgrifenu ei enw yn llawn, eithr yn unig ei gyn-lytherenau (initials). Bu y Dr. yn troi llawer yn mhhth lluaws o ddysgedigion, a Uenorion o nod ac urddas, a phob amser cydnabyddid ef ganddynt fel un a safai yn uchel fel flenor gwych ac ysgrifenwr galluog ac addfed. Yn mhhth ereill, cydlafuriodd â'r enwogion a ganlyn:— Caledfryn, John Davies, Caerdydd; ei gydolygyddion Cynddelw, Eben Fardd, Brutus, Dr. Emlyn Jones, Ieuan Gwynedd, Athan Fardd, Lleurwg, Nefydd, Mathetes, Spinther, Dr. Jones, Llangollen ; Dr. B. Evans, Castellnedd; Dr. Rowlands, Llanelh ; Hugh Tegai, a llu ereill o gyffelyb urddas ac enwogrwydd, fuont yn cyd-lafurio ag ef gyda llwyddiant mawr yn a thros lenyddiaeth ein gwlad a'n cenedl.

Ni fu llafuriadau Price yn gyfyngedig i hyn etto; eithr rhagorai fel darhthiwr a phregethwr. Yn ystod y deugain mlynedd diweddaf yr oedd y cythrawd darlithyddol wedi gafaelyd yn gryf yn meddwl y wlad, a bu darlithio yn boblogaidd am hir amser; ac yr oedd hyn yn fanteisiol iawn, gan fod amryw o brif ddynion y Dywysogaeth yn cymmeryd mantais o'r adeg i gyfranu llawer o wybodaeth fuddiol, ac i oleuo y werin ar bynciau buddiol a thra phwysig. Y mae gwahanol farnau wedi ac yn bod parthed darlithiau a darlithio. Teimla llawer yn groes a gwrthwynebol iddynt, tra y ceir ereill yn eu cefnogi yn y modd mwyaf selog. O ran ein hunain, yr ydym yn ffafriol i'r ddarlith ar bynciau teilwng a gweddus, am y rheswm y gellir dweyd llawer o wirioneddau oddiar y llwyfan nad ellir eu dweyd gydag anrhydedd o'r pwlpud. Tybia rhai mai ychydig o ddarlithwyr o fri a mawredd sydd wedi codi yn Nghymru erioed, er fod niferi y darlithwyr yn lleng. Addefwn yn rhwydd fod rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant yn ffurfafen y byd darlithyddol; etto, y mae llu mawr o ddarlithwyr enwog wedi bod yn mhlith a chyda y gwahanol gyfenwadau crefyddol yn Nghymru. Yn mhlith ereill, gallwn enwi Cynddelw, Dr. Emlyn Jones, Caledfryn, Hiraethog, Lleurwg, Kilsby Jones, Hwfa Mon, Matthews, Eweny; Myfyr Emlyn, a llu ereill o gyffelyb allu a dawn; a gellir bod yn sicr ddarfod i'r enwogion hyn wneyd lles dirfawr i'w cydwladwyr drwy eu darlithiau dyddorol a phoblogaidd. Gallwn, ni a gredwn, heb dynu dim oddiwrth anrhydedd y persouau parchus a enwasom, na chymmylu dim ar eu gogoniant fel arwyr dihafal y llwyfan, osod Price gyda'r uchaf a'r blaenaf o honynt fel darlithiwr; a gwn y byddai y rhan luosocaf o honynt yn barod i dynu eu hatiau yn foesgar iddo, gan ei gydnabod felly. Yr oedd y Dr. braidd yn enwocach fel darlithiwr na phregethwr, er cystal ydoedd yn y pwlpud. Dywedai Mr. Thomas Joseph wrthym unwaith ei fod ef yn credu fod y Dr. yn well darlithiwr o'r ddau na phregethwr, yn neillduol yn y blynyddau cynnarol o'i fywyd, er y teimlai fod y Dr. yn y blynyddau diweddaf yr oedd efe wedi ei glywed yn pregethu, wedi gwella llawer iawn—wedi dyfod yn fwy byw i'r teimlad, ac yn agosach at y dyn—y profiad, meddai, wedi addfedu, yr hyn sydd yn help mawr i bregethu yr Efengyl. Yr oedd hyn yn ffaith; wedi ei ddychweliad o'r Ysgotland ar ol ei gystudd maith pregethai gyda dylanwad neillduol. Yr oedd y bobl yn synu ato. Rhoddai y teimlad a'r yspryd crefyddol a feddiannai y Dr. yr adeg hono foddhad a dedwyddwch mawr iddo. Wedi clywed fod y Dr. wedi dychwelyd ac yn alluog i bregethu, gofynodd y Parch. R. J. Jones, A.C., Trecynon, i J.H., un o aelodau Calfaria, a oedd hyny yn wirionedd. "Ydyw yn eithaf gwir," atebai J.H., "ac yr oedd yn pregethu yn well nag erioed." Yn mhen diwrnod neu ddau ar ol hyn, cwrddodd Mr. Jones â'r Dr. a'i ferch, Miss Emily, yn Mharc Cyhoeddus Aberdar. Yn falch i'w weled, llongyfarchodd ef ar ei adferiad i'w iechyd a'i ddychweliad gartref, ac ychwanegai, “Yr oedd J.H. yn dweyd wrthyf nos Lun eich bod yn pregethu y Sabboth diweddaf yn well nag erioed." Yn wir,' atebai y Dr., ac edrychodd yn siriol yn ngwyneb Emily, "I am so glad, I thought he was looking rather diflas; J.H. is a good judge of a sermon. Darlithiodd y Dr. lawer iawn, ac yr oedd yn meddiannu y cymhwysderau gofynol er bod yn ddarlithiwr cymmeradwy a phoblogaidd. Yr oedd yn ddynwaredwr (mimic) da iawn; ac yr oedd digon o fywyd a myn'd ynddo. Tynai ei arabedd a'i hyawdledd dyrfaoedd i'w wrandaw yn mhob lle yr elai iddo, a chadwai hwynt drwy ei ffraethineb a'i chwedlau dyfyrus yn fyw gan deimlad o'r dechreu i'r diwedd. Medrai ddarlunio gyda r perffeithrwydd mwyaf, ac yn gyffredin defnyddiai ddarlunlenau (maps) i egluro ei ddarlithiau. Meddai hefyd feddwl parod, ac yr oedd mor witty braidd a Gwyddel. Gallai wneyd a dweyd beth a fynai; ond cadwai yn gyffredin o fewn terfynau. Gellir dweyd, yn sicr, ei fod wedi cyrhaedd enwogrwydd mawr iawn. Nid yn fuan yr annghofia y wlad ei ddarlithiau penigamp ar Ryfel Rwsia yn 1854-Rhyfel y Crimea, Gwrthryfel India, Garibaldi, Y Beibl, John Bunyan, Muller o Fristau, Y Glowr, Tywysog Albert, Tywysog Cymru, ac America. Siaradai braidd yn ddiderfyn, a hyny gyda y dyddordeb mwyaf. Clywsom rai yn dweyd a u gwrandawsant droion pan yn ei ogoniant ei fod yn aml yn darlithio am ddwy awr a hanner, ac weithiau dair awr, yn gryf a diflino, ac ni flinai y bobl ychwaith. Gosodwn yma ddwy neu dair cynnwysdrem (syllabus), y rhai yn gyffredin a wasgerid cyn ei ddyfodiad yn yr ardaloedd y byddai yn darlithio ynddynt:—

GEORGE MULLER A'R AMDDIFAID.

Syllabus o'r Ddarlith.

"Cymmeriadau annghyffredin—George Muller yn un o'r cyfryw—Mae y rhai hyn yn gadael gwersi i ni—Dyddiau boreuol George Muller yn Prwsia, ei le genedigol—Ei ddyfodiad i Loegr—Ei fwriad i fyned yn genadwr—Ei symmudiad i Swydd Devon—Ei gyssylltiad â'r Farch. Henry Clark—Symmudiad y ddau i Gaerodor—Eu dull o weithio—Eu dull o fyw—Sefydliad y Gymdeithas—Dechreuad y gwaith o ofalu am yr amddifaid—Cymmeryd ty yn Wilson Street—Cymmeryd ail dy— Yna y trydydd—Y cwbl yn rhy fach—Codi y ty newydd cyntaf ar Ashley Down—Dull yr arian yn dyfod i fewn—Y draul yr awd iddo— Ei orpheniad yn hollol ddiddyled—Cyfodiad yr ail dy newydd—Felly y trydydd, ac yn olaf oll y pedwerydd a'r pumed—Ymweliad â'r Sefydliad—Yr olygfa o fewn—Dull y plant o fyw yno—Y gofal a gymmerir am y plant yn ol llaw—Golwg ar y treulion o'r dechreu, a'r draul flynyddol yn awr—Y gwersi oddiwrth yr hanes i ni. "Mae Cyfrinfa y "Gwron" yn rhoddi gwahoddiad calonog a gwresog i'w holl gyfeillion i ddyfod i gefnogi yr amcan daionus sydd mewn golwg wrth gael y ddarlith.

Bydd y ddarlith yn cael ei hegluro trwy ddarluniau mawrion o'r pump ty ar Ashley Down, wedi eu darparu yn arbenig i'r perwyl hwn."


The War!!

A LECTURE ON THE WAR IN THE EAST,

Will be delivered in the Welsh Baptist Chapel, Aberdare, by the Rev. Thos.
Price, on Wednesday evening, September 12th, 1855. The chair will
be taken at at 8 o'clock precisely, by David Davis, Jun., Esq.

Syllabus:—

"The nations engaged in the present war geographically considered —The great extent of the Russian Empire—Its rapid increase southward, from the time of Peter the Great until the death of Nicholas—The causes of the present struggle—The professed reason as given by Russia, and the true reason as transpired through the Secret Correspondence—That Great Britain is justified in taking part in the present war—The progress of the war——The battles of the Danube, the Alma, Balaklava, Inkerman—The siege works before Sebastopol—The naval operations in the Sea of Assof and the Baltic—The probable consequence of the war to Russia, Turkey, England, and to the European States generally—The duty of the English nation not to accept a peace that will not secure the RIGHTS OF THE PEOPLE.

"The Lecture will be illustrated by very large maps and diagrams, including the Seat of War, at one view; the position of the army before Sebastopol; large map of the Crimea and the Sea of Assof, the Battle of the Alma, the Baltic, &c.

Tickets of admission, One Shilling each. to be had of Mr. J. Lewis, Mr. Dance, sen., Mr. Dance, Jun., Mr. Phillip John, Mr. John Johns, Mr. Davies, Carpenter; and Mr. Evans, Aberdare; Mr. Lewis John, Aberaman; Mr. D. Jones, Grocer, Mill Street, and at the door the evening of the Lecture.

The entire profits accruing from the Lecture to be devoted to the purchasing of an Harmonium for the use of the English Baptist Chapel, Aberdare."


DARLITH AR AMERICA,

Gan Dr. Price, Aberdar.

Crynodeb:—

Y Wlad.—Sefyllfa ddaearyddol—Dosraniadau—Eangder a mawredd yn brif nodweddion—Ei Harwynebedd—Mynyddoedd—Afonydd—Llynoedd—Rhosdiroedd—Coedydd.

Argraffiadau personol am New York—Brooklyn—Philadelphia—Boston—Camden, N.J.—Washington—Y Llywydd Grant a'i Weinyddiaeth—Y Senedd—dai a r Ty Gwyn—Yr Afon Potomac—Virginia—Richmond —a meusydd y brwydrau mawrion.

Yn mhlith y Cymru yn Maryland—Virginia—Pennsylvania, a'r Rhanau Gorllewinol—Y Gweithfeydd—y Meistr a'r Gweithiwr Cyflwr masnach—Y Cyflogau, yn awr ac yn y dyfodol—Sefyllfa y Cymry yn America—yr hyn a fu, yr hyn yw, a'r hyn a ddylai fod.

Taith i'r Gorllewin.—Ohio, Kentucky—Tennessee—Indiana—Missouri—Illinois—Dinasoedd Cincinati—Louisville—St. Louis—Chicago—Cleveland—Pittsburg.

Sefyllfa—Crefydd—Addysg—Moesoldeb—Sobrwydd a Boneddigeiddrwydd—Lletygarwch ac Haelionusrwydd.

Diffygion i'w symmud—Modd i wneyd hyn—a'r dyfodol yn hollol addawol

Ymfudiaeth i America.—Pwy ddylai ymfudo—Pa fodd i gyrhaedd yr amcan—I ba le i fyned—Y ffordd i ymlwybro—A pha lwyddiant a ellir ei ddysgwyl.

America yn Wlad Newydd.—Agwedd anorphenedig—Digon o le i dderbyn holl weddill ein poblogaeth o'r hen fyd—a'r dyfodol yn addawol i'r Gonest, y Da, y Diwyd, a'r Sobr.

Bydd i'r Ddarlith gael ei hegluro gan Ddarlunlen ddarparedig at y pwrpas neillduol hwn."

LECTURE ON AMERICA,

By the Rev. T. Price, M.A., Ph.D, of Aberdare.

Syllabus:—

The Country.—Geographical situation—Districts—Extent and magnificence chief characteristics—Its Surface—Mountains—Rivers—Lakes—Valleys—Woods.

Personal Impressions—of New York—Brooklyn—Philadelphia—Boston—Camden, NJ.—Washington—President Grant and his Ministry—The Senate Houses and the White House—The River Potomac— Virginia, Richmond, and the great Battle Fields

Among the Welsh—In Maryland—Virginia—Pennsylvania—and the Western parts—The Works—Master and Workman—State of Trade—Wages at Present and in the Future—Condition of the Welsh—What it has been—What it is—and What it ought to be.

Journey to the West——Ohio—Kentucky—Tennessee—Indiana—Missouri—Illinois—The Cities of Cincinnati—Lousville—St. Louis—Chicago—Cleveland—Pittsburg.

State of Religion—of Education—Morals—Sobriety and Politeness—Hospitality and Liberality.

Defects to be remedied—Ways and Means—The Future full of hope.

Emigration to America—Who should emigrate—How to attain the object—Where to go—Mode of proceeding—and what success may be expected.

America a New Country—Incomplete aspects—Enough room to receive the superfluous population of the Old World—And the Future promising to the Honest, the Good, the Diligent, and the Sober.

The Lecture will be Illustrated by a Large Map prepared for this special purpose.

Gwelir oddiwrth yr enghreifftiau hyn fod y Dr. yn darlithio yn Saesneg yn gystal ag yn Gymraeg. Gwnai hyny yn fynych, a dywedir ei fod yn llawn mor rhwydd, ystwyth, a naturiol yn yr iaith fain, fel y gelwir hi, ag ydoedd yn yr hen Omeraeg anwyl. Dywedai Mr. Tudor Evans, Caerdydd, gynt perchenog y Principality:—"Yr oedd y Dr. Price yn ddarlithiwr godidog. Yr oedd yn wahanol braidd i unrhyw Gymro. Nid oedd arno ofn y Sais mewn dim, oblegyd yr oedd yn gystal Sais ag oedd o Gymro." Clywsom yn ddiweddar am ddyn o allu a chymmeriad yn adrodd ei deimlad wedi bod yn gwrandaw ar y Dr. yn darlithio. "Trueni," dywedai, "fod y Dr. yn myned yn hen, bydd yn rhaid iddo ef farw rywbryd; ond byddai yn werth ei gadw, a rhoddi oes Methuselah iddo i ddarlithio, oblegyd y mae yn gwneyd hyny mor ardderchog."

Yr oedd yn myned dipyn yn arw weithiau wrth ddarlithio. Un tro darlithiai yn ei gapel ei hun yn Nghalfaria ar un o'r rhyfeloedd y cyfeiriasoni atynt. Crogai y darlunleni o amgylch y llwyfan, ac yr oedd gydag ef arfau rhyfel yn ei ymyl. Defnyddiai gleddyf pren, a gwnai dipyn o hono yma a thraw yn y ddarlith. Yr oedd y Parch. William Edwards, Heolyfelin, ar y llwyfan y noson hono, ac ysgydwai Price y cleddyf yn o drwsgl o amgylch ei ben, ac yn ofni y gwaethaf, dywedodd, "Peidiwch tori fy mhen, Mr. Price." Atebodd yntau, "Ond mae nhw yn tori penau yn y rhyfel," a chyda hyn tynodd y cleddyf heibio copa pen Mr. Edwards mor agos fel y credai y bobl ei fod yn myned i ffwrdd. Yn ei ddarlith ar America desgrifiai y boss (gaffer) yn ceisio dynion i weithio ar nos Sadwrn neillduol, a hyny mewn ardal y byddai llawer o'r preswylwyr yn cael y cryd, yr hyn a alwent yn "siglo;" ond ni wyddai y Dr. hyny ar y pryd. Yr oedd y bobl, mae yn debyg, yn gwybod yr adeg y buasent yn myned i'r cryd, oblegyd yr oedd yn dyfod drostynt yn gyfnodol. "John," meddai y boss (fel yr adroddai y Dr yn ei ddarlith), weithi di nos Sadwrn?"

Na," atebai John, "byddaf yn siglo." Wnei di, Dafydd?" "Na," meddai hwnw, "byddaf yn siglo;" ac felly ryw hanner dwsin arall, a'r ateb oedd gan bob un, meddai Price, "byddaf yn siglo," ac yr oeddwn yn methu dyfalu beth yn enw pobpeth a feddylient wrth siglo." Yn yr un ddarlith, dywedai, "Gwlad fawr yw America, mewn gair, y mae pob peth yn fawr yno. Mynyddoedd mawrion, llynoedd mawrion, afonydd mawrion, pobpeth yn fawr o'r mynydd mawr i'r jo dybacco yn mhen yr Ianci, yr hon sydd bob amser gymmaint a dwrn dyn." Dywedai hefyd am dani, "Gwlad eithafol iawn ydyw. Os twym, twym iawn; os oer, oer iawn. Dynion tew, tew iawn; dynion teneu, teneu iawn—bydd y cwn bob amser yn eu dylyn gan feddwl mai esgyrn fydd yn myned. Yr oedd y moch tewion mor dew nes y methent wybod lle yr oedd eu penau nes gwneyd iddynt rochian." Cyfranai lawer o addysg gyda dyfyrwch yn ei ddarlithiau. Arddangosai bob amser ynddynt ffrwyth ymchwiliad diflin a sylwadaeth fanol; ac er rhoddi enghraifft o'i boblogrwydd fel darlithiwr wedi ei ddychweliad o'r America, gosodwn yma lechres sydd yn dangos iddo ddarlithio ar America mewn gwahanol barthau o Gymru 36 o weithiau mewn llai na thri mis o amser. Wele hi:—

AMERICA.

Traddodir Darlithiau gan Dr. Price, Aberdar, yn y lleoedd canlynol, ar y dyddiau a nodir:—Liverpool, Ebrill 16; Llundain, o Ebrill 22 hyd Ebrill 29; Caerfyrddin, Mai 2; Ebenezer, Dyfed, Mai 3; Llandyssul, Mai 4; Aberteifi, Mai 5; Glynnedd, Mai 6; Bethesda, Abertawy, Mai 10; Clydach, Mai 11; Ystalyfera, Mai 12; Treorci, Mai 16; Nebo, Ystrad, Mai 17; Treherbert, Mai 18; Caerdydd, Mai 19; Tongwynlas, Mai 20; Nantyglo, Mai 23, Penycae, Mai 24; Tredegar, Mai 25; Rhymni, Mai 26; Pisga, Talywaen, Mai 28; Hengoed, Mai 30; Pontestyll, Mai 31; Llandilo, Mehefin 1; Saron, Llandybie, Mehefin 2; Bassaleg, Mehefin 7; Llaneurwg, Mehefin 8; Horeb, Blaenafon, Mehefin 9; Casnewydd, Mehefin 29; Ravenhill, Mehefin 13; Llwynhendy, Mehefin 14; Hwlffordd, Mehefin 15; Salem, Meidrim, Mehefin 16; Maesycwmwr (Seisnig), Mehefin 27; Caernarfon, Gorph. 5; Pontllyfni, Gorph. 6; Garn, Gorph. 7.

"THOMAS PRICE."

Fel darlithiwr yr oedd efe yn llawn o wahanfodaeth (individuality). Nid oedd yn debyg i neb ond iddo ei hun. Trwy ei ddarlithiau gwnaeth dros bedair mil o bunnau tuag at achosion gweinion ac er talu dyledion capeli yn mhob man.

Fel pregethwr, yr oedd Dr. Price, megys y dywedasom mewn pennod flaenorol, yn boblogaidd pan yn fyfyriwr yn Ngholeg Pontypwl, ac er ei fod, fel y dywedai Paul mewn achos arall, wedi "llafurio yn helaethach" nâ'r rhan fwyaf o'i frodyr yn y weinidogaeth mewn cylchoedd gwahanol, ac wedi cyflawnu gwaith sydd braidd yn annesgrifiadwy gan ei fawredd a'i amrywiaeth, etto, parhaodd yn dderbyniol a chymmeradwy fel pregethwr. Mae yn wir nad oedd yn un o'r pregethwyr mwyaf nac ychwaith yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd; etto, gellir dweyd ei fod fel pregethwr yn wir fawr, yn lled boblogaidd, ac yn gymmeradwy dros ben. Yr oedd yn cael galwadau mynych i gyfarfodydd mawrion, a gwasanaethai yn aml yn mhrif wyliau yr enwad. Yn ei erthygl alluog yn Y Geninen dywed yr enwog Lleurwg, yr hwn a'i hadwaenai yn dda, am dano fel hyn:—

"Fel pregethwr, yr oedd yn eglur, syml, Efengylaidd, ac Ysgrythyrol. Bob amser cymmerai olwg eang, naturiol, a phriodol ar y pwnc yr ymdriniai ag ef, nes ei wneyd yn beth dealladwy, dyddorol, a buddiol, i'r gwrandawyr yn gyffredin. Nid ydoedd fel llawer yn gorlwytho ei bregeth â hanesynan (anecdotes) diddefnydd, ac, yn fynych, disail, fel ag i dagu cymmaint o Efengyl ag a allasai fod ynddi, a thramgwyddo pob gwrandawr o chwaeth a synwyr. Er ei fod yn bregethwr grymus a chadarn, yn athraw athrawiaethau mawrion a sylfaenol, ac yn ordinhadau y Grefydd Gristionogol, etto, yr oedd weithiau yn hoffi cymmeryd i fyny bynciau mwy dyeithr ac annghyffredin."

Dywedai gohebydd galluog yn y Merthyr Telegraph am Mai 31, 1878, am dano,

"Dr. Price's forte as a preacher lies in his treatment of the historic; he is great in Biblical narrative, and there is coherence, beauty, and logical precision in the most of his pulpit daguerrotypes. Several of the eminent Welsh preachers have excelled in the same direction; the Welsh appear to have special aptitude for the rhetorically pictorial."

Yr oedd, fel yr awgrymir uchod, ei brif nerth fel pregethwr yn yr hanesyddol. Adroddai hanesion Beiblaidd mor naturiol ac effeithiol nes y gwefreiddiai y gynnulleidfa fawr a ymdyrai i'w wrando, ac ymddangosai pawb fel pe yn ymgolli gan fedr a gallu desgrifiadol y pregethwr. Yr oedd yn fath o Raphael Cymreig ac yn Filton ei oes. Pregethai yn aml iawn ar destynau yn yr Hen Destament, ond fynychaf rhedai ar y llinell hanesyddol. Byddai yn hoff iawn o bregethu ar gymmeriadau, a thynai i fyny wersi buddiol a phwysig hyd y nod o'r manau a'r amgylchiadau mwyaf annhebyg. Wrth edrych dros ei ddyddiaduron, yn y rhai y croniclai ei holl destynau, yn nghyd â'r dyddiadau y pregethai hwynt yn mhob man, cawn yn y llyfr cyntaf, yr hwn sydd yn cyrhaedd y tu ol i'r flwyddyn 1858, nifer lluosog o bynciau, fel y canlyn :—Abraham, Jacob, Enoch, Moses, Melchisedec, Senacherib a Hezeciah, Joseph, Daniel, Dafydd, Elias yn Horeb, Mordecai, Esther, Jonah, Abiah Bach, Haaman, Nehemiah, Sorobabel, y Tri Llanc, a'r Llances Fach," &c. Nid ydym wedi codi ond nifer fechan o honynt cofier. Gyda chymmeryd cymmeriadau Ysgrythyrol i fyny yn ei bregethau, pregethodd ar ddefodau a seremonïau Iuddewig, yn nghyd â'r hen gyfundrefn yn ei gwahanol agweddau, yn dra chyflawn. Hoffai ddarlunio y Tabernacl, ei lestri, a'r defodau cyssylltiedig ag ef. Pregethodd lawer o bryd i'w gilydd ar y Deml, ei hoffeiriaid, ei harchoffeiriaid, a'r gwahanol ddodrefn a'r gwasanaeth gyflawnid ynddi. Yr oedd yn lled hyddysg yn hanesiaeth henafol yr Iuddewon. Yr un modd gyda'r Testament Newydd; ymhyfrydai fod gyda'r hanesyddol. Teimlai yn ddedwydd yn Llyfr yr Actau yn darlunio yr apostolion a'u teithiau, ac hoffai feusydd hanesyddol a phroffwydoliaethol yr Hen Destament; dammegion Crist a'i wyrthiau, hefyd, oeddynt feusydd y treuliai lawer o'i amser ynddynt. Codai o honynt egwyddorion mawrion a thragwyddol teyrnas Crist i'w dangos yn eglur a syml i'w wrandawyr. Byddai y gwersi a dynai oddiwrthynt yn naturiol a phrydferth, a gwasgai hwynt yn ddifrifol at galonau a chydwybodau y bobl. Cymmerai yn aml wahanol ranau o'r gwirionedd, rhyw wedd neillduol arnynt, a chyhoeddai gyfres yn olynol o bregethau galluog a dyddorol ar y cyfryw adranau, a theimlai y gwrandawyr ddyddordeb mawr ynddynt. Nodwn er enghraifft ei bregethau ar y saith eglwys yn Asia, y rhai a elwir gan bobl Aberdar hyd heddyw yn bregethau y Dadguddiad." Darluniai yr eglwysi hyn yn eu gwahanol gyflyrau ac arweddion yn y modd mwyaf byw i'r bobl. "Y Beibl" ydoedd bwnc arall, ar yr hwn y pregethodd ddeg o bregethau hanesyddol a gwir alluog i bobl ieuainc ei gynnulleidfa. Cyhoeddai ei bynciau a'i destynau yn mlaen llaw, a dirgymhellai ei wrandawyr, yn neillduol y dosparth ieuengaf o'i gynnulleidfa, i ddarllen y testynau a chymmaint ag a allent arnynt, gan y teimai fod cael y bobl i efrydu y pynciau cyn ei fod yn pregethu arnynt yn fanteisiol iddo ef a hwythau. Gosodwn yma enghraifft o'r man-leni (slips) a wasgarai i'r bobl pan yn myned i bregethu cyfres o bregethau ar ryw bwnc neillduol. O blith ereill, gosodwn y Beibl yn enghrefftiol, yr hwn sydd fel y canlyn:—

‘Y BEIBL.'

"Er mwyn ieuenctyd cynnulleidfa Calfaria, Aberdar, bwriada Dr. Price draddodi cyfres o bregethau ar y Beibl fel dadguddiad Duw o'i ewyllys i ddynion; unig reol bywyd yn y byd presenol; a'r unig hyfforddwr am ein dedwyddwch yn y byd a ddaw.

"Traddodir y pregethau hyn ar nos Suliau, yn Nghapel Calfaria, gan ddechreu nos Sul, Tachwedd y 27ain, 1870; ac hyd y gellir bob nos Sul yn olynol hyd ddiwedd y gyfres.

"Ymdrechir ymdrin â'r pwnc yn y drefn ganlynol :-Pregeth I. Y Beibl yn Llyfr Duw, Psalm cxxxviii. 2, 'Oblegyd ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll.' Pregeth II. Y byd heb y Beibl. Ephesiaid ii. 12, 'Heb obaith genych ac heb Dduw yn y byd.' Pregeth III, Y Beibl yn cwrdd ag angen dyn. Psalm cxix. 9, 'Pa fodd y glanha llanc ei lwybr ? Wrth ymgadw yn ol dy air di.' Pregeth IV. Dylanwad y Beibl ar ddynolryw. Esiah lv. 11, 'Felly y bydd fy ngair, yr hwn a ddaw o'm genau: ni ddychwel ataf yn wag; eithr efe a wna yr hyn a fynwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o'i blegyd.' Pregeth V. Dyogeliad y Beibl. Matthew xxiv. 35. ' Nef a daear a ânt heibio, eithr fy ngeiriau I nid ânt heibio ddim.' Pregeth VI. Cyssondeb ac unoliaeth y Beibl. Actau iii. 18, ‘Eithr y pethau a ragfynegodd Duw trwy enau ei holl broffwydi, y dyoddefai Crist, a gyflawnodd efe fel hyn.' Pregeth VII. Y Beibl yw unig safon crefydd. Esiah viii. 20, 'At y gyfraith, ac at y dystiolaeth; oni ddywedant yn ol y gair hwn, hyny sydd am nad oes oleuni ynddynt.' Pregeth VIII. Ein dyledswydd i ddarllen y Beibl. Ioan v. 39, 'Chwiliwch yr Ysgrythyrau, canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol; a hwynthwy yw y rhai sy'n tystiolaethu am danaf fi. Pregeth IX. Crist yn ganolbwnc y Beibl. 1 Corinthiaid ii 2. Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio.' Pregeth X. Y Beibl yn y dyfodol. Esiah xi. 9, Canys y ddaear a fydd lawn o wybodaeth yr Arglwydd, megys y mae y dyfroedd yn toi y môr.'"

Nid yw yr enghraifft uchod ond un o lawer.

Yr oedd yn gwybod daearyddiaeth Gwlad Canaan yn neillduol o dda. Gellid meddwl fod y cwbl wedi ei argraffu ar ei gof. Pan yn siarad am dani i egluro ei faterion, gallai un farnu ei fod wedi byw ynddi erioed. Cyfeiriai ati a desgrifiai hi mor naturiol nes o'r braidd nad oedd y bobl yn gweled y lleoedd a'r trigolion, ac yn teimlo eu bod yn nghanol yr amgylchiadau. Nid annghofiwn yn rhwydd ei bregeth ragorol a elwir gan y bobl, "Pregeth yr asyn bach." Darluniai y ddinas, Bethphage, Bethania, a'r wlad o gwmpas, yn nghyd â'r dyrfa, yn y modd mwyaf tarawiadol. Actiai Petr ac Ioan yn myned i bentref Bethphage i ymofyn yr asen a'r ebol, ac adroddai yr hyn a ddychymygai efe a siaradent â'u gilydd ar y ffordd. "Ofnai Petr," ebai efe, fwy nâ Ioan. Yr oedd confidence mawr gan Ioan yn ei feistr. Nid oes dim fel dyn yn meddu cariad mawr i'w wneyd yn ymddiriedwr mawr yn ngwrthddrych ei gariad. Yr oedd sefydlawgrwydd ac ymddiriedaeth gref yn Ioan; ond nid felly Petr: yr oedd efe yn fwy wit-wat—dim cymmaint o ddal arno, ac mewn cyfyngder yr oedd yn ofnus ac yn llwfr. Dacw'r ddau frawd yn myn'd, ac yn codi dros y breast draw, ac meddai Petr, 'Ioan, byddwn ein dau yn y jail cyn dod yn ol heddyw. Mae y Meistr yn arfer bod yn llygad ei le, ac yn iawn bob amser, ond y mae yn colli tipyn heddyw.' ‘Dere 'mlaen,' meddai Ioan, 'bydd ef yn sicr o fod yn ei le heddyw etto.' Dyw e' ddim wedi dweyd am ofyn benthyg y creadur bach, nac wedi dweyd y caffai ei berchenog ef yn ol-dim ond 'Gollyngwch a dygwch.' Mae Duw yn gwybod, Ioan bach, byddwn yn llaw y policeman ar unwaith.' 'Pob peth yn iawn, Petr,' dywedai Ioan, 'y mae wedi ein dysgu i ddweyd 'Rhaid i'r Arglwydd wrtho,' ac y mae 'Rhaid' y Meistr yn clirio y ffordd at y cwbl ac yn ateb am yr oll." Cai Dr. Price hwyl fawr yn gyffredin pan yn traddodi pregeth yr asyn bach.

Pregeth fawr gan y Dr. oedd pregeth yr esgyrn sychion. Byddai yn ddoniol yn darlunio y dyffryn, y proffwyd, a'r esgyrn. Braidd na osodai yr esgyrn i siarad pan y darluniai y naill asgwrn yn chwilio am ac yn dyfod "at ei asgwrn."

Un tro, pan yn pregethu ar daith plant Israel yn yr an- ialwch, yr oedd gydag ef grydd a theiliwr (brodyr da) yn ddiaconiaid, a dywedai ar ei bregeth, "Ie, yr oedd eu dillad yn para o hyd o ddechreu y daith i'w diwedd. Lle gwael fyddai yno i Henry Dafis: 'chai e' ddim mesur troed na gwneyd pâr o'sgidiau o'r naill flwyddyn i'r llall; ac am Thomas Morgan, 'chai yntau byth fesur am bâr o ddillad, ac ni fuasai yn cael gwaith i wneyd mourning ar ddydd Sul." Wedi bywiogi ei gynnulleidfa, a'i chodi i grechwen, dychwelai at y difrifol a'r dwys, ac y mae yn bossibl y gwelid y bobl yn colli dagrau mewn ychydig funydau. Byddid yn sicr o gofio hanesion Ysgrythyrol wedi eu clywed ganddo ef.

Yr oedd ganddo allu mawr i gymhwyso ei bregethau at leoedd, ac amgylchiadau yn y lleoedd hyny. Un o'i ddewis-bregethau oedd pregeth y "Llances Fach." Yn mha le bynag y pregethai hono, gwnai ddefnydd da o honi. Gellid meddwl iddo ei darparu ar gyfer y lle hwnw yn unig. Ar ei daith yn America, cai y llances ddangos ei gwyneb siriol yn fynych. Gwnai iddi edrych yn dlos, gwisgai hi yn ei dillad goreu; ac wedi ei chael yn ei haddurniadau goreu, dywedai, "Dyma fel mae merched bach prydferth Cymru sydd wedi eu codi yn yr Ysgol Sabbothol ac ar aelwydydd crefyddol. Gawn ni ddweyd fod merched bach America yn debyg iddi hefyd?" Dywedai gyda y fath nerth a dylanwad weithiau nes peri i bawb deimlo yn awyddus bod fel y "Llances Fach." Traddodai bregeth y "Llances" unwaith mewn dyffryn poblogaidd, yn yr hwn y mae gweinidog, yn awr canol oed, yn enwog am ei ddiwydrwydd a'i weithgarwch gyda gwahanol achosion cymdeithasol, ac mewn gwahanol gyfeiriadau yn nheyrnas yr Arglwydd Iesu Grist. Cymhwysai ei nodiadau at ofal am y plant a llafur gyda hwy. Dywedai y gwyddai am weinidog yn awr yn anterth ei nerth, wedi ac yn gweithio yn galed fel aelod ar wahanol fyrddau lleol ac addysgol, a gyda gwahanol gymdeithasau buddiol. Yr oedd hefyd yn llanw amryw swyddau pwysig yn yr enwad, ac yn aelod gweithgar ar bob pwyllgor braidd yn y cyfenwad; ond meddyliai ef fod y gwaith a wnelai gyda'r plant bach yn ei Ysgol Sul a'i eglwys yn fwy na'r cwbl. Y brawd, meddai, a ddarluniaf yw gweinidog parchus ac anwyl yr eglwys fedyddiedig yn Nhreorci. Yr oedd y Dr. yn pregethu mewn cwrdd mawr yn Nghwmparc, cangen o eglwys Treorci, ac heb fod yn neppell oddiyno. Y mae amryw o'i bregethau ereill, megys y "Corn Bach," "Y Garreg Fach," Garreg Fach," "Y Talentau,' "Y Jubili," "Elias ar Carmel," "Y Deml," (pregeth fawr y casgliad) "Cyfiawnhad," &c., y carem gyfeirio yn helaeth atynt; ond rhaid ymatal, gan fod yn bossibl y cyhoeddir cyfrol o'i ddewis bregethau gan ei anwyl ferch, Miss Emily Price. Y mae miloedd o'i bregethau ar gael, wedi eu cadw yn ofalus ganddo, ac y mae wedi eu cofnodi oll yn ei ddyddlyfrau, fel y gellir gwybod pa bryd ac yn mha le y pregethwyd hwynt ganddo. Arweinia hyn ni yn naturiol at ei ddyddiaduron a'i goflyfrau, y rhai a gant ein sylw yn fyr yn y bennod nesaf.

Nodiadau[golygu]