Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun/Cathlau Blinder

Oddi ar Wicidestun
Athrwawon Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun

gan Ieuan Gwynedd

Gwaith Bywyd

V. CATHLAU BLINDER.

I. Y CLAF.

Ebrill, 1845, ar ol amryw wythnosau o gystudd trwm.

Y CLAF a ganfyddais, a nodau y bedd
Yn dewion a frithent ei ruddiau;
Drwy argraff ei glefyd edrychai ei wedd
Yn welw ym mlagur ei ddyddiau.

Y Claf oedd bellenig o freichiau ei fam,
A rhyngddynt y cribog fynyddoedd,
Yr anial wellt goedwig, a llawer hir lam,
Ysgarent, a'r bryniau a'r cymoedd.

Y Claf ydoedd estron o fwthyn ei dad,
A bryniau hen Feirion iachusol,
Yn unig a thruan o'r anwyl hoff wlad,
Lle triga ei geraint serchiadol.

O'i amgylch estroniaid ofynnent ei hynt,
Fel cwmwl yn cuddio yr heulwen;
Nid tebyg eu lleisiau i effaith y gwynt.
Yn ymlid y nifwl o'r wybren.

Eu gwên ydoedd oerllyd, eu llais oedd yn wan,
Arwyddion o fewnol ddibrisdod;
Ac yntau, wrth ganfod mai hyn oedd ei ran,
Ymsuddai yn ddyfnach i drallod.

Ei gell ydoedd lymllyd, a blodau y ddôl
Nid oeddynt yng nghyrraedd ei lygad;
Ni welai drwy'r ffenestr ond dernyn o gol.
Yr wybren, fel bwa o gariad.


Mor drymllyd i'r llygad oedd canfod ei boen,
Blinderus oedd gwrando ei ruddfan;
A meddwl mor gyflym y ciliodd yr hoen
Fu gynt yn ei wneuthur yn ddiddan.

Nid hir bydd yr ymdrech, ond buan ei fedd
A wlychir gan ddagrau rhieni;
A'i frawd dywallt ddeigryn yn athrist ei wedd,
Ac arall sydd dlysach na'r lili.

II. YMGOMIAD AM ANGEU.

Hydref, 1846.

ADDAS yw ar derfyn amser dafiu ymaith bryder bron,
Gweddus yw i'r meddwl godi uwch caledi'r ddaear hon ;
Er nad oes i'r corff ond gwendid, hir afiechyd dybryd, dwys,
Gall yr enaid wenu arno, er yn suddo dan ei bwys.

Buan, Amser, yw dy rediad, cynt na'r glwys oleuni glân,—
Cynt na'r fellten gochwen, ddeifiog, yn ei fforchog, dorchog dân;
Rhedaist á fy einioes ymaith, mae fy ymdaith fer ar ben:
Mae fy enaid bron ar gyrraedd byd na choda'r byw ei len.

Rhaid im' edrych arnat, Angeu, er mor erchyll yw dy wedd;
Rhaid im' edrych yn ddigyffro ar dy lym, angeuol gledd;
Dyna'r cleddyf fydd yn fuan yn frathedig yn fy mron,
Wele'r min, cyn nemawr ddyddiau, dyr linynau'r galon hon.

Lled anhyfryd ydyw tremio ar dy greulon, atgas bryd;
Ond, ai addas llygad-gauad ymadawiad byth â'r byd?
Na, mi dremiaf ar dy bicell, ac ni chrynaf ger dy fron,
Er mai ti yw llofrudd creulon holl drigolion daear gron.

Gwelaf di yn araf rodio, er rhoi diben ar fy môd;
Edrych arnat 'rwyf er deufis, pan gwnai ddewis, gelli ddod;
Eto ni chaiff dy arafwch dd'rysu heddwch pur fy mron;
Tyred yn dy flaen, a tharo, nes y syrthio'r babell hon.

Angeu, er nad wyf ond ieuanc, rhagot ni arbedir fi;
Ac nid ydwyf yn arswydo syrthio i dy faglau di;
Er y rhaid i'm corff falurio, hirfaith huno, yn y bedd,
Tawel iawn ar hyn edrychaf, gwenu allaf ar dy gledd.

Profais o bleserau bywyd, gwn beth ydyw adfyd du;
Rhodiais drwy iselder tlodi, codais i esmwythder cu;
Gwelais lawer cilwg aeldrom, gwelais fil o wenau llon;
Rhedodd holl bleserau daear felly'n gynnar drwy fy mron.

Profais nerth y grymus deimlad, Cariad, a'i lywodraeth gref,
Unodd fi â'r un ystyriaf yr hawddgaraf is y nef;
Dyna hi, a dyna'n baban, dyma finnau'r truan dad,
Ar eu gadael yn amddifaid rhwng dieithriaid estron wlad.

Maent yn rhwymau cadarn, nerthol, eto dynol ydynt hwy;
Eraill feddant rwymau tynnach, cryfach, hirach, meithach, mwy;
Hwy deimlasant awr eu drylliad, ac nid oedd eu teimlad hwy
Ond yr un a'm teimlad innau, minnau ni chaf ddyfnach clwy.

Trwm yw gadael gweddw hawddgar,-trymder na ddarlunia dyn,
Cyn y caffo fenthyg Duwdod i'w adnabod ef ei hun;
Dryllia fil-fil o linynan, sydd yn fyw gan deimlad pur,
Yfed diluw yw o drallod, bustl a wermod erchyll sur.

Gadael baban, brathiad llymdost, sydd yn gloesi'r galon, yw;
Ond y baban llesg a'r weddw gânt eu cadw gan fy Nuw;
Enaid! gwyddost pwy a'th dderbyn, onid Brenin mawr y Nef?
Cyflawn ymddiriedaist ynddo, byth dy ado ni wna Ef.

Clod a Gobaith, Parch a Mawredd, ymaith a'ch ynfydrwydd ffol;
Ewch o'm golwg, ciliwch, brysiwch, na ddychwelwch byth yn ol;
Draw ar unig gopa'r mynydd, boed fy ilonydd wely llaith;
Man priodol, mwyn, i'r prydydd, pan y derfydd poen ei daith.

Ddaear! beth yw'th wael deganau? dyma Angau o fy mlaen!
Gwelaf fod ei saeth yn barod, edyn fenaid sydd ar daen;
Dos, fy meddwl, i'w gyfarfod, gyda'th elyn ysgwyd law;
Noetha'th fynwes at ei ergyd, colli'th fywyd yn ddi-fraw.


Paid a chrynnu wrth ei weled yn dynesu bob yn gam;
Mantais yw i dremio arno, well na phan y daw ar lam;
Paid a rhoddi un ochenaid, pan yr ysa'i boen dy gnawd;
Cadw'th ddagrau—wyla'th briod, dy rieni, a dy frawd.

Wylai eraill, o ran hynny, pe y byddai iti'n lles;
Ond ni wna y chwerwaf ddagrau atal Angau i ddod yn nes;
Weithiau daw mewn oer wasgfeuon, weithiau mewn llewygon poeth;
Weithiau cuddia flaen ei bicell, weithiau dengys hi yn noeth.

Paid a grwgnach, pan y byddo cur y gwaed yn araf iawn,—
Pan fo'r oerllyd chwys yn tarddu dros dy ruddiau y prydnawn,—
Pan fo llannerch ar dy wyneb megis rhosyn coch y bedd,—
Pan fo'th galon wan yn sefyll na foed newid ar dy wedd.

Dal, pan wlycho tyner ddagrau ereill dy guriedig rudd,—
Pan ffarwelíant âg ochenaid, safa di ar dalgraig ffydd:
Gwena ar dy brudd gyfeillion, chwardd ar Angau—gâd dy chwyth—
Cau dy lygaid, er eu hagor yn yr oror olau byth.

III. MARWOLAETH BABAN.

Hydref, 1846. Ganwyd y baban Medi 15fed, a bu farw Hydref 22ain.

Fy maban hoff, mor fuan daeth
Dy oes i ben gan farwol aeth !
Fel deilen rydd y dygwyd di
Ar donnau y cynddeiriog li'.
Ti wywaist, fel blodeuyn haf
Cyn gauaf oer. Dy lygaid claf
Gauasant dan gysgodau'r nos,
Fel blodau tyner ael y rhos.
Pan oeddwn i a'th anwyl fam
Yn gwenu ar dy wedd ddinam,
Ein gwên a droed yn alar du,
A threiddiodd drwy ein calon lu
O brudd deimladau heb ymdroi,
Pan ddarfu ti o'n breichiau ffoi.

Gan ddwylaw oerllyd Angau erch
Fe dorrwyd holl linynau serch.
Y mêl a droed yn waddod sur,
A'r galon siriol lanwodd cur.
Er na bu ar dy wyneb wên,
Ond golwg boenus, athrist, hen;
Er hynny, gwan y galon yw,
Wrth edrych ar blanigyn gwyw,
A dorrwyd gan y gwyntoedd croes,
Wrth ddechreu ar ei egwan oes.
Fy maban, cwsg; esmwythach fydd
Dy hun o fewn y gwely pridd,
Nag a gefaist ar y fron
A'th garai gyda serch mor lon.
Myfi a'th fam cyn llawer lloer
Ddown atat ti i'r gwely oer.*
Pan ddygwyd di gan Angau du,
Gwnaeth erom gymwynasau cu;
Cynhesodd i ni'r oerllyd fedd,
Anwylodd wlad anfarwol hedd,—
Dy gartref di, a'r lle, cyn hir,
Gyrhaeddwn ni o'r anial dir,
1 gwrdd â'n JOHN yn ysbryd byw
Gerbron i orsedd danbaid Duw.
O hyfryd ddydd, ail fyw heb loes
Marwolaeth drwy anfarwol oes.



*Dy fam a ddaeth, a chyda thi
Yn ddistaw, ddistaw, huna hi;
Wyth loer ni welwyd yn y nen,
Cyn ar dy ol y plygai'i phen
I fynwes bedd:—a chodwyd di
I orffwys ar ei mynwes hi,
Mewn newydd fedd; ac yno'n gudd
Eich hûn, yn felus, felus sydd;
A minnau unig, unig wyf,
Yn gwaedu dan fy nyblyg glwyf,
A chrwydro fel drychiolaeth wyw,
Yn methu marw—methu byw.

Ebrill, 1848,

IV. BETH YW SIOMIANT.

Mawrth, 1847, pan oedd Mrs. Jones yn glaf iawn, a'i hadferiad yn anobeithiol.

BETH yw Siomiant? Tywyll ddu-nos.
Yn ymdaenu ganol dydd,
Nes i flodau gobaith wywo,
Syrthio megis deilach rhydd.
Beth yw Siomiant? Pryf gwenwynig
Yn anrheithio gwraidd y pren,
Nes ymdaena cryndod drwyddo,
Er dan iraidd wlith y nen.

Beth yw Siomiant? Llong ysblenydd,
Nofia'n hardd i lawer man,
Wrth ddychwelyd tua 'i phorthladd,
Yn ymddryllio ar y lan.
Beth yw Siomiant? Cwpan hawddfyd
Yn godedig at y min,
Ac yn profi'n fustlaidd wermod,
Yn lle bywiol felus win.

Beth yw Siomiant? Calon dyner,
Drom, yn gwaedu dan ei chlwyf,
Mewn distawrwydd, pan o'i deutu
Y mae pawb yn llawn o nwyf.
Beth yw Siomiant? Cynllun bywyd
Mewn amrantiad wedi troi,
Ninnau ar ei ol yn wylo,
Yntau wedi bythol ffoi!

Beth yw Siomiant? Tad yn edrych
Ar ei faban tlws, dinam,—
Arno'n gwenu,—yna'n trengu,
Pan ar fron ei dyner fam.
Beth yw Siomiant? Sylwi'n mhellach.
Ar y fam yn wyw ei gwedd,
Ac yn plygu, megis lili,
I oer wely llwm y bedd.


Beth yw Siomiant? Dim ond teimlad
Meddwl claf yn llawn o wae,
Pan yn canfod pob meddygon
Yn ei adael fel y mae.
Beth yw Siomiant? Chwennych bywyd,
Eto methu'n deg a byw;
Yna plygu'r pen i farw
Dan och'neidio—DYNA YW!


V. IN MEMORIAM.[1]

ℭ. 𝔍.

OBIIT APRIL XXV., A. D. MDCCCXLVII.

ÆTAT XXVIII.

BLIN yw llym arteithiau gofid, pan, yn eigion mynwes brudd,
Y cartrefant hwyr a borau, heb ymadael nos na dydd;
Pwy all draethu'r blinder yma, cyn ei deimlo yn ei rym?
Pwy a'i teimla, heb ymsuddo dan ei ddirdyniadau llym?

O fy mynwes! llwythog ydwyt o ofidiau chwerw—ddwys,
Trwm yw baich fy ngalarnadau, wyf heb nerth i ddal eu pwys;
Collais iechyd, collais faban—cyntaf—unig—tlws ei wedd;
A fy mhriod hoff a hawddgar ddygodd Angau cas i'r bedd.

Trom yw'm calon, gwlyb fy llygad, cartref hiraeth yw fy mron;
Mangre galar yw'm gwynepryd, dieithr wyf i deimlad llon;
Estron ydwyf yn fy nghartref, cerfiodd Angau yn fy ngwedd,
Mewn llyth'rennau hawdd eu darllen, erchyll ddychryniadau'r bedd.


O! pa iaith a lawn esbonia gyflwr fy nheimladau prudd!
Beth ddynoetha'r pryf gwenwynig ysa'm hedd o ddydd i ddydd?
Pa ryw eiriau gaf ddefnyddio, pan yn siarad am fy ngwae?
Nid oes iaith i'w osod allan oll yn gyflawn fel y mae.

Peidied haul y nef a chodi mwyach ar yr anial fyd,
Na thywynned seren oleu mwy o'r wybren las ei phryd,
Nac ymdreigled ffrwd risialaidd byth o ochr y bryn i lawr,
A distawed mwyn gerddoriaeth creadigaeth oll yn awr.

Peidied blodau teg y dolydd gwasgar peraroglau mwy,
Na sisialed yr awelon eu hyfrydlon donau'n hwy,
Na foed arwydd o orfoledd yn un man o ddaear Duw,—
Prin dangosai'r byd fel yna fy mlinderau aml ei rhyw.

Mi allaswn fod yn dawel mewn afiechyd nychlyd, gwyw;
Ni suddaswn er im' golli IOAN bach o dir y byw;
Ond pan rwygwyd o fy mynwes fy hawddgaraf briod lon,
Cefais glwyf nad oes a'i gwella tra b'wyf ar y ddaear hon.

Blwyddyn lawn sydd wedi treiglo er yr hwyr gwnaem ganu'n iach;
Ond at ddifa prudd—der calon, nid yw hyn ond ennyd fach;
Ger fy mron y mae dy ddelw lesg, guriedig, megis pan
Yn arteithiau olaf Angau darfu dy anadliad wan.

Nid fel yna gynt y'th welais, ail y rhosyn oedd dy rudd,
Hawddgar oedd dy lednais amrant, megis amrant deg y dydd;
Bywyd oedd dy wên gariadus, melus oedd dy dyner iaith,
Tlysach na holl flodau daear oedd dy rudd dan ddeigryn llaith,—

Dan y deigryn fynych dreiglai pan o fewn i gysegr Duw,—
Pan wresogai'th enaid hawddgar wrth y son am Brynwr byw;
Gwawr y rhosyn coch a'r lili oedd unedig yn dy bryd;
Ond y tegwch newidiasai Angau cyn dy ddwyn o'r byd.

Wrth dy gofio 'rwyf yn synnu, d'rysu mae fy meddwl blin;
Gwelais ynnot iechyd nwyfus, ond fe ddaeth tymhestlog hin;
Ciliai'r gwrid, a'r cnawd a guriodd, darfu'r wên mor llednais fu,
Ger fy mron nid oedd ond cysgod o dy berson prydferth, cu.


Blin i'r meddwl yw adgofio, eto methu peidio mae,
Am y dyddiau hyfryd, diddan, cyn y profem ddafn o wae;
Oriau llawn o bob hyfrydwch ellir brofi ar y llawr;
Ond y tymor hwnnw ddarfu, darfu megis munud awr

O dynered oedd ein hundeb! cryfion oedd llinynnau serch;
Ond eu dryllio wnaed yn fuan gan gynddaredd Angau erch;
Trwm oedd eistedd wrth y gwely, edrych arno'n agoshau,
Gweld am bump o fisoedd meithion fod ei allu yn cryfhau.

Hwyr a borau, nawn a dú—nos, ddygent eu harwyddion prudd,
Fod ein bythol, drwm ysgariad yn neshau o ddydd i ddydd.
Siarad weithiau am adferiad, yna siarad am y Nef,
Yna wylo dagrau heilltion, a dyrchafu athrist lef.

Gwenu weithiau ar ein gilydd, nes i'r llygad droi yn llaith;
Canfod popeth yn mynegu dy fod bron ar ben y daith;
Yna sychu'r cyflym ddagrau, edrych gyda siriol wedd,
Nes yr ail frawychai'r galon pan feddyliem am y bedd.

Ac o'r diwedd, daeth yr adeg iddi gefnu ar y byd,
Dirdyniadau poenfawr Angau ymddanghosent yn ei phryd;
Rhaid oedd rhoddi'r cusan olaf ar y wefus oedd fel ià;
Bloesga'r tafod, gwibia'r llygaid, llinyn bywyd torri wna.

Dyna yr ochenaid olaf, dyna'r llaw yn cwympo i lawr;
Swn y dymestl a ddistawodd, distaw iawn yw'r cwbl yn awr;
Llwyd yw'r llygad, oedd fel seren, marwol—welw yw ei phryd;
Nid oes yma ddim ond Angau, bywyd sy mewn amgen byd.

Rhaid oedd cilio o'r ystafell, Angau oedd ei harglwydd hi;
Cilio wnawn yn weddw unig, anial oedd y byd i mi;
Câr nid ydoedd ar fy aelwyd, yn y dymestl fawr ei grym;
Hiraeth wanai drwy fy enaid fil-fil o bicellau llym.


Weithiau syllwn ar ei darlun, siarad wnawn â'r papyr mud,
Tremiwn ar y lle'r eisteddai pan yn iach, nes oedd ei phryd
Yn adgodi megis bywyd, am ryw ennyd ger fy mron,
Yna deffro,—deffro i deimlo nad oedd ar y ddaear hon.

Trwm oedd edrych ar ei llyfrau, trymach ar ei hysgrif—law,
Cofio fod yr hon a'i lluniodd yn y beddrod oerllyd draw;
Methwn ddarllen ei llythyrau, gan y cof nad ydoedd mwy;
Llewyg—iasau lanwai'm calon, na wyr dyn eu llymder hwy.

Pan yn rhodio yn fy nhrymder, Natur oedd yn clwyfo'm bron,
Chwith i mi oedd gweled unpeth yn meddiannu golwg lon;
Gwnaethwn bron gusanu'r gwlithyn, am fod deigryn ar ei rudd,
Dagrau oeddynt fy anwyliaid, hoff i mi bob golwg brudd.

Dyna rai o'r blin deimladau drigent yn fy mynwes wan,
Pan ddylaswn lawenychu mai nid daear yw ei rhan;
Yn lle meddwl am ei Nefoedd, meddwl am ei bedd a wnawn;
Dow fy Mhrynnwr! maddeu imi, nid yw hyn yn ddoeth nac iawn.

Huna dithau, dlws fy enaid, er fy nagrau ar dy fedd;
Maddeu im', nid wyf yn wylo am dy fod mewn Dwyfol hedd;
Anhawdd yw i deimlad beidio hidlo deigryn, pan y mae
Calon glwyfus yn gorlifo gan lifogydd mewnol wae.

Cwsg yn dawel—mae ein baban yna'n gorwedd gyda thi;
Cwsg yn dawel—fel y dwedaist, buan deuaf atat ti;
Cwsg yn dawel—ail gyfarfod gawn uwch holl wendidau'r cnawd,
Pan y gwisgwn anfarwoldeb pur ar ddelw'n hynaf Frawd.

Huna di—dy dymor gweithio ddarfu—cefaist fynd i'r wledd;
Lydd fy mhrofiad i sy'n para, er mor egwan yw fy ngwedd;
Purir fi drwy ddioddefiadau, yna daw i ben fy nydd;
Gwylia droswyf o'r Uchelder, nes i'm henaid ddod yn rhydd.

Ebrill 25, 1848.

Nodiadau[golygu]

  1. Er cof am C. J. (Catherine Jones). Bu farw Ebrill 25ain, 1847, yn 21 mlwydd oed. (Ond ÆTAT XXVIII, sef 28 oed, yn ôl y sylwadau Lladin)