Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn)/Byr Gofiant

Oddi ar Wicidestun
Mynegai Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn)

gan John Gwyddno Williams

Atodiad i'r Cofiant

Y DIWEDDAR BARCH. TOMOS EFANS

——————♦——————

MAB ydoedd y gwr annwyl uchod i Ifan a Margaret Ifans, Y Graig, Glan Conwy. "Bwthyn bach tô gwellt" oedd cartref dedwydd Ifan a Margaret Ifans, lle y buont yn ddarbodus, gofalus, a thyner iawn i fagu chwech o blant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Dysgent eu plant mewn geiriau ac esiampl. Nid oedd neb yn yr oes honno, oddeutu can mlynedd yn ol, mwy nag sydd yn yr oes oleu a breintiedig hon, fedrai roddi gwell addysg i blentyn na rhieni crefyddol yn teimlo eu cyfrifoldeb fel y cyfryw. Rhieni felly gafodd y diweddar Tomos Efans. Rhinweddau athrawon ydynt athrawon rhinweddau. Y mae hyn, yn ol natur pethau, yr un mor wir ag ydyw yr hen ddiareb Gymreig :- mai "Pechodau athrawon ydynt athrawon pechodau."

Gŵr duwiol, amlwg a defnyddiol oedd Ifan Ifans, ac fe chwareuodd ran bwysig iawn gyda gwaith yr Arglwydd yn Salem, Fforddlas. Yr oedd yn Fedyddiwr cadarn, a selog dros y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu; yn llenwi y swydd o ddiacon hyd yr ymylon, mewn ysbryd a gwaith, ac yn arweinydd diogel mewn byd ac eglwys yn y lle hanesyddol uchod. Ac yr oedd dylanwad amlwg y gwirionedd ar ei fywyd ef ei hun yn ddylanwad distaw, sanctaidd, ac amlwg iawn ar ei deulu, ac ar bawb y deuaï i gyffyrddiad â hwy. Gŵr gwastad ei fywyd oedd Ifan Ifans; dyn gonest ac ymroddol pa le bynnag y byddai ei ddyledswydd. Yr oedd ar ei oreu yn y capel, yn ei deulu, ac ar y ffordd fawr, lle yr oedd ei alwedigaeth feunyddiol. Cadwai Ifan Ifans yr ysbrydol yn uchaf bob amser, a gwnai bob peth megis i'r Arglwydd ac nid i ddynion, nid gyda llygad wasanaeth fe! boddlonwr dynion, ond mewn symlrwydd calon, yn ofn Duw.

Ac fel ei dad, un felly yn union oedd y diweddar Barch. Tomos Efans (Cyndelyn). Pan ydoedd yn fachgen, ac wedi tyfu i fyny, dwys a difrifol oedd ei fywyd yn wastad, a phob amser fel y wenynen yn ddiwyd gyda'i waith. Gŵr ymroddgar a hunan-aberthol fu ar hyd ei oes ddefnyddiol.

Diau mai amherffaith iawn oedd yr addysg a gafodd o'r tu allan i'w gartref, ac yr ydoedd wedi troi allan i weithio efo ffarmwrs cyn ei fod yn ddeuddeg oed, a'r peth tebycaf yw fod yr ysgol ddyddiol a gafodd cyn hynny y peth nesaf i fod heb ddim ysgol o gwbl, i gyfarfod â gofynion dyfodol ei fywyd.

EI ENEDIGAETH A'I FABOED

Ganwyd ef yn y flwyddyn 1837. Can mlynedd o fewn un i'r flwyddyn hon.

Dyddiau geirwon oedd y dyddiau hynny, y cyflog yn fychan, a'r ymborth yn brin. Trwy ddeddf 3 George IV, pen. 106, 1822, pasiwyd i werthu bara wrth ei bwysau. A blwyddyn cyn geni ein hanwyl frawd pasiwyd Deddf 6 a 7, William IV, pen, 37, i reoleiddio gwerthu bara. Yn 1836, ac yn y blynyddoedd rhwng 1830 a 1840, yr oedd pris y bara rhwng 10½d. a 9d. am dorth 4 pwys. Dyddiau "Deddfau yr Yd." Gwelwn felly i'n brawd a'n cyfaill gael ei eni yn y flwyddyn y bu farw y brenin William IV, ac yr esgynodd y frenhines Victoria į orsedd Prydain. Felly cafodd fyw ei theyrnasiad hi ar ei hyd, a theyrnasiad Edward VII, hyd 1908. Pwy na chlywodd am galedi y 40ties, fel eu gelwir cyn didaymu deddfau yr yd yn 1846. Ac mor ddifrifol oedd cyflwr addysg yn y Dywysogaeth yn y cyfnod, yr oedd yn ddifrifol o wael ei ansawdd, a'r wlad yn dioddef o'r herwydd. Cafwyd y Gyfundrefn Genedlaethol o Addysg yn 1834, rhyw dair blynedd cyn geni ein brawd. Ac o'r adeg honno, efallai y gallwn olrain y deffroad addysgol yng Nghymru yn 1847, pan ydoedd ein gwrthrych yn 10 mlwydd oed. Nid oedd ond 841 o ysgolion yng Nghyinru y flwyddyn honno, a'r rhai hynny gan mwyaf yn ysgolion eglwysig. Da oedd cael y pryd hwnnw rhyw fath o ysgol, a rhyw fath o ysgol- feistr. Ei brif gymhwyster oedd ei fod yn medru tipyn Saesneg. Ceid yr ysgol-feistri yn gyffredin o blith hen filwyr; rhyw un wedi bod yn Lloegr am yspaid, neu wedi bod yn gwasanaethu gyda Saeson yng Nghymru. Fel hyn ganwyd "Tomos Efans, Fforddlas", pan oedd Cymru yn dechreu deffro, rhyw ddylanwad cyfrin fel yr haul yn y bore yn goglais bywyd cysglyd gwerin ein gwlad annwyl. Pan y clywodd ac y deallodd ein cenedl fod y Saeson yn ei difrio, ac mai nid digon ganddynt oedd ein gormesu a sathru ein hawliau fel dineswyr o dan eu traed, ond y ceisient ein gwneud fel cenedl yn wawd i'r byd, hyd yr oedd yn eu gallu, a hyny yn bennaf o achos ein hymlyniad wrth ein hiaith a'n Hanghydffurfiaeth.

Siarad yr ydym am ddyddiau "Brâd y Llyfrau Gleision.' Yn ei ddyddiau ysgol ef, yr oedd William Williams, Ysw., A.S., Coventry, yn codi ei lais yn y Senedd ac yn y wasg dros addysg Cymru, pan, er gwaethaf y Saeson a'r clerigwyr y cafwyd Deddf yr Ysgolion Brutanaidd, yr hon oedd i'w gweithio ar linellau anenwadol. Ac yng nghanol helyntion y cyfnod, yr oedd Tomos Efans yn blentyn, y gosodwyd i lawr seiliau y Gyfundrefn Addysg sydd gennym heddiw, ond sydd heb ei pherffeithio eto. Cerddai ein brawd drwy yr helyntion hynny yn fachgen diniwaid a meddylgar, ond digon posibl mai ychydig a wyddai am y nerthoedd mawrion dyfent o'i gwmpas hyd nes iddynt ymgorffori yn ffeithiau yn Neddf y Bwrdd Ysgol, a'r Ysgolion Canol a'r Prifysgolion i Gymru, y rhai y cafodd fyw i'w gweled led- led y Dywysogaeth. Diau iddo gael llawer o fwynhad ac ysbrydiaeth yng nghyffroadau cyfnod ei faboed. Ond nis gallwn feddwl iddo gael llawer o help personol allan o honynt, oherwydd amlwg yw ei fod wedi gosod ei nôd o'i flaen; a chan ei fod wedi dechreu gweithio yn ddeuddeg oed rhaid mai defnyddio ei ben a'i bastwn ei hun a wnaeth, a gwneyd ei hun yn athro iddo ei hun, fel y bu raid i lawer ereill wneud yn y cyfnod hwnnw. Rhaid i bawb gydnabod fod y cyfnod cyn 1860 dyweder, wedi cynyrchu cnwd o ddynion athrylithgar a diwylliedig, y rhai a adawsant waddol mawr mewn Llên, Barddoniaeth a Cherddoriaeth i oesau sydd i ddod. Meddylier am Lenyddiaeth gofnodol y cyfnod, a'r darllenwyr oedd yn y wlad y pryd hwnnw. Nid oes ond eisiau cymharu dyweder o 1850 hyd 1890, ddeugain mlynedd, ac o 1890 hyd 1930, deugain arall, er gweled y gwahaniaeth yn ansawdd y Lenyddiaeth ac yn chwaeth y darllenwyr. Dynion wedi eu magu mewn anfanteision oeddynt gynyrchwyr y Llenyddiaeth o 1850 hyd 1890; a dynion wedi cael y manteision goreu fedrai yr ysgolion goreu, yr Ysgolion Canol a'r Prifysgolion ei estyn iddynt, ydynt gynyrchwyr ein Llenyddiaeth o 1890 hyd 1980. Y mae yr Eisteddfod, y wasg, a'r Pulpud yn eu dwylaw. Beth sydd yn bod, tybed?

Tyfodd Tomos Efans yn gymeriad cryf, disglair, a diwylliedig trwy yr anfanteision mwyaf, ac uwchlaw popeth, tyfodd yn gymeriad defnyddiol, buddiol mewn byd ac eglyws.

Gwnaeth ef y goreu o'i holl anfanteision i amaethu a diwyllio ei feddwl, defnyddiodd bob cyfle. Nid oedd fawr o hamdden i'w gael y pryd hynny, codi yn fore, a myned yn hwyr i gysgu. Uwaith, gwaith, gwaith, a ddisgwylid gan ddyn a hogyn, gwas a morwyn; dim son am serbiant ac adloniant. Rhaid oedd trefnu yr oriau hamdden rhwng wyth o'r gloch y nos a phump o'r gloch y bore. Efallai fod yr oriau yn llai wedi ei brentisio yn asiedydd; o chwech y bore hyd chwech yr hwyr, efallai. Wel, mewn amgylchiadau fel yna y gosododd y diweddar Barch. "Tomos Efans, Fforddlas," i lawr seiliau ei fywyd dedwydd, defnyddiol a llwyddianus iawn, bywyd o wasanaeth gwerthfawr i Dduw a dynion.

EI DDYCHWELIAD AT YR ARGLWYDD A'I

FEDYDD, A'I FLYNYDDOEDD CYNTAF.

Dywedwn ei "Ddychweliad" yn fwriadol. Nid ydys yn meddwl iddo erioed fod yn fachgen ofer. Na,bachgen dwys a difrifol ydoedd bob amser. Nid oedd ef mwy na phlant eraill yn arfer aros yn y gyfeillach. Gofalai ei rieni am ddysgu eu plant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, fel y gwnaeth ei fam a'i nain gyda Timotheus, ond yr oedd yn rhaid iddo ef, fel Timotheus, benderfynnu y mater drosto ei hun, ie, fel pob mab a merch gyda'r Bedyddwyr. Nid ydym yn dal neb trwy ddichell yn eu hanwybodaeth; na, y rhai sydd yn derbyn gair yr Arglwydd yn ewyllysgar a fedyddir gennym bob amser, hyd y gwyddom. Rhaid i bob un rhoddi ei hun i'r Arglwydd, ac i'w bobl yn ol ei ewyllys. Felly y gwnaeth Tomos Efans. Pan ydoedd wedi troi ei ddeuddeng mlwydd oed, yr ydoedd yn hogyn yn y Croesau, ac wedi aros yn y gyfeillach yn y Fforddlas, a'i ffydd a'i wybodaeth wedi eu profi. Yn y

flwyddyn 1849, yn y mis Mai, bedyddiwyd ef a'i gyfaill, Edward E. Jones, ac eraill na wyddis eu henwau, yn Llyn y Felin, gan y diweddar Barch. William Roberts, y gweinidog annwyl ac adnabyddus hwnnw.

Gwnaethant broffes dda o'u ffydd yn Iesu Grist fel eu Gwaredwr.

Ymroddodd y ddau gyfaill ieuanc i fynychu'r moddiannau yn Salem, Fforddlas, ac i wneud popeth yn eu gallu gydag achos yr Arglwydd yno. Ymarferion crefyddol oeddynt yn sicr, o dan fendith Duw, o sancteiddio eu cymeriad, a maethu eu tyfiant mewn gras ac yng ngwybodaeth ein Harglwydd a'n Hachubydd Iesu Grist, ac o'u newid hwy a phawb arall yn raddol i fod yn un ffurf a delw ei Fab Ef. Gresyn na ellid argyhoeddi holl broffeswyr crefydd yr oes freintiedig hon mai dyma bwrpas ysbrydol moddiannau gras. Peth amhosibl i'r rhai anffyddlon i'r moddiannau, ydyw cynyddu mewn gras ac yng ngwybodaeth am Dduw, ac ni ddaw y cyfryw byth ar ddelw yr unig anedig Fab heb newid eu ffyrdd.

Gwelodd ein brawd werth yn y moddiannau, a bu yn ffyddlon iddynt ar hyd ei oes. Ni ellid cymdeithasu i Tomos Efans heb deimlo fod ei gymdeithas yntau yn wir gyda'r Tad a chyda'i Fab Ef, Iesu Grist.

Y mae gobaith am gadw pob mab a merch roddant bwys ar eu bedydd, ac sydd yn byw i'w egluro i'r byd. Pobl ddieithr i'r Arglwydd, yn sicr, yw'r bobl broffesant ei enw, ac sydd yn anffyddlon i foddiannau gras. Bu'n gweini yn yr ardal mewn amryw leoedd, megis y Croesau a'r Llan, gyda Dr. Williams, &c., &c. Prentisiwyd ef gyda Mr. Hugh Hughes, y Graig, i fod yn Asiedydd. Gŵr a gariai ymlaen fasnach bwysig, oedd yn adnabyddus iawn i gylch eang mewn byd ac eglwys oedd Hugh Hughes. Cadwai weithwyr, ac yr oedd yn ŵr amlwg a phwysig gyda'r Achos yn Salem, Fforddlas, ac wedi i'n gwrthrych fyned trwy ei ddwylo ef, yr ydoedd yn addas i fyned i bob man wedi hynny, ac yr oedd erbyn hyn yn wr ifanc tair ar hugain mlwydd oed; wedi dysgu ei grefft, wedi ennill ffafr ei feistr, ac wedi gwneud lle annwyl iddo ei hun yn yr eglwys yn Salem, Fforddlas, ac yn yr holl ardal, fel gŵr ifanc y gellid ymddiried ynddo, yn gymeriad cryf, gonest, a diymffrost, wedi ei drochi yn ysbryd a nerthoedd dwyfol "Diwigiad 1859," a'i fywyd yn addewid am ddyn gwerthfawr i'r eglwys Gristionogol ar y ddaear, ac ni siomwyd neb ynddo. Daliodd i dyfu o'r adeg y daeth at yr Arglwydd hyd ddiwedd y daith mewn rhinwedd a defnyddioldeb.

EI SYMUDIAD I GONWY.

Dyma y symudiad cyntaf yn ei hanes wedi'r symudiad mawr o'r tywyllwch i'r goleuni. Nid oedd Conwy ymhell o'r Fforddlas, rhyw bedair milltir a hanner, ond pan y mae dyn yn myned oddi cartref am y tro cyntaf, y mae pob man ymhell, a phawb yn ddieithr, eisiau ffurfio cyfeillion newydd, a gwneud lle newydd iddo ei hun mewn amgylchoedd newydd. Pan oedd ein brawd yn rhyw dair ar hugain mlwydd oed, yn y flwyddyn 1860, cafodd le yn Iard y Ffordd Haiarn, yng Nghonwy y pryd hwnnw, Bangor yn awr.

Saer coed ydoedd, ac yn weithiwr da, distaw diwid; ac wedi bod yno am ychydig flynyddoedd, oherwydd ei waith a'i gymeriad, cafodd ffafr yng ngolwg ei gyflogwyr, ac fel Joseff yn yr Aifft, dyrchaf- wyd ef i fod yn benweithiwr (foreman) ar y Seiri coed, a chafodd y Cwmni y fantais o weled ei werth yn y safle honno. Dyrchafwyd ef drachefn, wedi ychydig flynyddoedd, yn Arolygydd y Pontydd, Dosbarth Bangor (Bridge Inspector). Swydd bwysig, cyfrifoldeb mawr yn perthyn iddi. Rhaid oedd iddo fod yn medru ar bensaerniaeth, tynnu planiau, a bod yn gyfarwydd âg egwyddorion Adeiladaeth pontydd, &c. Ymddiriedai y cwmni ynddo am y gwaith pwysig hwn. Llanwodd y swydd bwysig yma er bodlonrwydd i'w gyflogwyr ac anrhydedd iddo ei hun hyd y flwyddyn 1904, pan yr ymddeolodd ar ei flwydd-dâl. Oherwydd yr ymddiried oedd ganddynt ynddo, cadwasant ef gyda'i waith ddwy flynedd o leiaf dros yr amser arferol i'w gwasanaethyddion ymddiswyddo. Ac ar y 26ain o Dachwedd, 1904," daeth cynrychiolwyr y gweithwyr yn yr Iard i'w bresantu ac gyflwyno iddo eu dymuniadau da yn ei gartref yn Glan Conwy.

YN PRIODI, AC YN GWNEUD CARTREF IDDO EI HUN.

Wedi ei sefydliad yng Nghonwy, yn 1860, cael gwaith sefydlog o fewn llai na dwy flynedd—1861 neu 1862—priododd ag Ann, merch Ellen Jones, Bryn Goleu, Ochr y Penrhyn, ger Llandudno. Tyddyn bychan oedd Bryn Goleu, ag ydyw, hyd y gwyddom. Ni wyddis enw ei thad. Merch oedd ei mam-Ellen Jones-i John ac Ann Jones, Bryn Goleu. Pan oedd Ann, a ddaeth wedi hynny yn wraig y Parch. Tomos Efans, yn ychydig fisoedd oed, bu farw ei mam o'r Typhoid Fever, a chyda'i thaid a'i nain yn y Bryn Goleu y magwyd priod ein gwrthrych, yn annwyl a gofalus. Cafodd bob mantais ag oedd yn eu gallu i'w rhoddi iddi mewn addysg, &c., a rhoddasant iddi grefft, sef hetwraig (Milliner). Nid ydys yn gwybod hanes John ac Ann Jones, Bryn Goleu, mewn unrhyw fodd. Tueddir ni i gredu mai Annibynwyr oeddynt, am yr unig reswm mai yn Llandudno y priodwyd Miss Ann Jones, gyda gwrthrych y gwaith hwn. Priodwyd hwy gan y diweddar Barch. Richard Parry (Gwalchmai), gŵr adnabyddus ac cnwog yn ei ddydd.

Y mae gennym sail i gredu mai yng Nghonwy y gwnaeth Mr. a Mrs. Tomos Efans eu cartref wedi iddynt briodi, a'i fod yn gartref hedd. Bu iddynt naw blant, sef chwech o feibion a thair o ferched. Cafodd saith o honynt fyw i weled claddu eu tad—pedwar yn unig sydd yn fyw heddyw yr oll wedi eu magu yn annwyl a gofalus. Cawsant bob hyfforddiant yn ddiau i'w cychwyn ar ffordd y bywyd pan o dan ofal eu rhieni.

DECHREU PREGETHU A'R BLYNYDDOEDD YNG NGHONWY.

Y mae cryn dywyllwch ar ei hanes yn y wedd a'r cyfnod yma. Yma y bu y drafferth fawr, ac er chwilio a holi ni ddaeth goleuni. Dywedir iddo ddechreu pregethu yn 1859, a chael ei ordeinio yng Nghonwy yn 1863. Peth digon naturiol i wr ifanc o'i dueddiadau crefyddol ef, ac yntau yn ddwy ar hugain mlwydd oed, yng nghanol y dylanwadau nerthol hynny, oedd bod yn barod i wneud popeth dros ei Arglwydd. Cadwai yr enwad gyfrif o'u gweinidogion a'u pregethwyr.


Y mae llythyrau y cymanfaoedd o'm blaen, ac nid oes air o son am Tomos Efans fel pregethwr cynorthwyol hyd y flwyddyn 1866. Yn y flwyddyn hon cawn ei enw y tro cyntaf fel pregethwr cynorthwyol "T. Ifans, Conwy". Ni chadwai y Gymanfa (D. F. a Meirion) restr o'i phregethwyr cynothwyol cyn y flwyddyn 1866. Gallai ei fod yn pregethu er 1859, ond Llythyr 1866, fel pregethwr cynorthwyol, ac fel "T. Efans, Conwy," y cawn ei enw gyda'r pregethwyr cynorthwyol, hyd y flwyddyn 1868. Felly, yno yr oedd yn byw, ac yn aelod. Yn 1869 cawn ei enw gyda'r pre- pothwyr cynorthwyol fel "T. Efans, Fforddlas," wedi dod yn ei ol i fyw i'w hen ardal, ac yma y cawn ef yn yr un cymeriad hyd 1874. Yn 1875 ceir ef yn weinidog Conwy, yng Nghymanfa Arfon yn awr. Yr oedd Llandudno, Glanwydden, Conwy a'r Roe Wen yn aelodlau o Gymanfa D. F. a Meirion cyn 1870. Derbyniwyd y podair, trwy lythyr, i Gymanfa Arfon, a gynhaliwyd ym Mhwllheli, Mehefin, 1870.

Rhaid felly mai yn 1875 yr ordeiniwyd ef i fod yn weinidog Conwy. Yr oedd rhif yr Eglwys y flwyddyn honno yn 23, a 28 yn yr Ysgol Sul. Rhywbryd cyn Mehefin, 1877, rhoddodd i fyny i ofalu fel gweinidog am Gonwy, a chawn ef yn "weinidog heb ofal," wedi dod yn ei ol i Gymnanfa D. F. a Meirion, ac yn aelod o'r Fforddas, ac felly y parhaodd am 31ain mlynedd yn weinidog heb ofal. Bu'n ffyddlon a defnyddiol iawn yn y cylchoedd agosaf i'w gartref. Ni pheidiodd a gwasannothu Conwy yn ffyddlon ac yn effeithiol wedi rhoddi i fyny eu gofal fel gweinidog. Yr oedd aelodau Conwy yn 32 yn 1877. Nid oes air am ei symudiadau yn y naill gymanfa na'r llall, ond yn yr ystadegau. Nid oedd neb mwy derbyniol na Tomos Efans, Fforddlas,' yn holl eglwysi y cylch. Bu'n ddiwid a ffyddlon yng ngwasanneth ei Feistr hyd y diwedd.

Nis gallai fyned ar y Suliau ond i'r manau hynny lle y gallai fynd a dod, gan fod rheidrwydd arno i fod gyda'i waith ar y Lein o fore Llun hyd brynhawn Sadwrn. Ac yn gyffredin byddai ganddo deithiau pell i'w cerdded ar y Suliau. Cofiwn ef yn dda wedi cerdded ar fore Sul i daith Llangernyw; pregethu dair gwaith, ac eisiau myned yn ol nos Sul, ar bob tywydd. Gwelsom ef ar nosweithiau tywyll, gaeafol ac ystormus, yn gorfod ei wynebu. Gwyddom y byddai rhywun yn dod i'w gwrdd yn y blynyddoedd olaf, ac y byddai y diweddar Mr. Robert Williams, Ffrith y Llan, coffa da am dano, yn rhoddi cymorth amserol iddo yn fynych.

Gwnaeth bethau y buasai yn waith anodd cael neb i'w gwneud heddyw. Cafodd yr ysgrifennydd fenthyg tri o'i ddyddiaduron, y rhai a ddangosent beth oedd ei destunau, a pha le yr ydoedd bob Sul am oddeutu hanner ei oes fel pregethwr. Ac os byddai rhywbeth eithriadol, megis bedyddio, ceir popeth i lawr yn drefnus. Gresyn na fuasai yr oll o'i ddyddiaduron ar gael i bwrpas y byrgofiant hwn. Buasent yn wir ddiddorol a buddiol. Byddai galw mawr am ei wasanaeth; damwain oedd ei gael yn segur ar y Sul. Dau beth a'i cadwant gartref, sef, gwaeledd, a thywydd eithriadol o arw.

TAFLEN EI DEITHIAU.

Taflen a ddengys deithiau a llafur gweinidogaethol y diweddar Barch Tomos Efans (Cyndelyn), yr hon a gymer i mewn y blynyddoedd 1879-1883, 1889-1901, a 1901 hyd Rhagfyr, 1907, o fewn dau fis i'w farw. Felly gwelir fod o'r amser y dechreuodd bregethu hyd ganol Medi, 1879, ac o 1883 hyn Ionor, 1889, oddeutu ugain mlynedd o ddechreu a chanol ei fywyd gwerthfawr heb fod gennym gyfrif am danynt. Dyma y daflen :—

Dylai y darllenydd gofio mai amcangyfrif o'r milltiroedd i bob man, un ffordd, sydd gennym i lawr, felly dylid dyblu y cyfryw i gael rhyw syniad gwan am ei lafar di-flin. A chofied y darllenydd mai hanes gweinidog a ddilynai ei ddiwrnod gwaith yw yr uchod, ac nid un oedd yn y weinidogaeth feunyddiol. Cofier, hefyd, nad ydyw y daflen yn cynnwys ond oddeutu hanner ei oes fel pregethwr.

Er enghraifft, dywedodd un o ddiaconiaid Roe Wen, ar ol marw ein hannwyl frawd, "Y mae ein diweddar frawd wedi bod yn hynod o ffyddlon i ni yn y Roe Wen. Yn yr amser y bu yn dyfod i'r Roe Wen pregethodd 1,152 a weithiau, cyfrannu yr ordinhad 576 o weithiau, a cherdded 11,520 o filldiroedd i'n gwasanaethu. Pwy na ddywed, 'Well done ? Ond nid yw hyn ond rhan fechan o'i lafur ef."

Byddai yn gwasanaethu yr eglwysi gartref yn Fforddlas ac Eglwysbach bob pymthegnos am flynyddoedd yn olynol pan y byddent heb yr un gweinidog, ac wrth fyned trwy restr ei destunau, gwelir y byddai ganddo beregeth newydd bob tro. Yr oedd ei fywyd sanctaidd a'i brofiad dwfn a gwirioneddol o nerth a gwerth ysbrydol yr efengyl yn ei fywyd ef ei hunan yn sicr o fod yn help iddo i wneud pregethau, ac nid yn eu gwneud rhywsut y byddai; nage, yn siwr, gwnai ei bregeth fel pob peth arall o'i eiddo, wrth gynilun wedi ei feddwl yn ofalus, ac mewn trefn dda, a'r gwirionedd megis y mae yn yr Iesu wedi ei brofi hefyd, a'i weithio allan ym mywyd y Parch. Tomas Efans (Cyndelyn). Mwynhad di-ddarfod ydyw i'r hwn sydd yn byw yr efengyl ei phregethu, ond y mae gwrando; pregethau hynny, i'r bobl sydd heb brofiad o'r efengyl, yn sicr o fod y peth mwyaf diflas iddynt, a chyffredin yn eu golwg. Nid oedd ond y bobl oeddynt yn cael y gorau allan o'u proffes grefyddol, trwy fod ar eu gorau, yn gwneud eu dyledswyddau yn ofn yr Arglwydd, fedrant fwynhau pregethau Tomos Efans; i'r bobl hynny, aur a pherlau oeddynt i gyd.

FEL PREGETHWR.

Yr ydoedd yn fuddiol, addysgiadol, ymarferol, mwy o sylwedd nag o sŵn. Elai i mewn i ystyr ac ysbryd ei destyn bob amser. Symleiddiai ei gynnwys, a deuai a phethau mawrion a gogoneddus yr efengyl i gylch dealltwriaeth ac amgyffredion ei wrandawyr oeddynt ar yr un lefel ysbrydol ag ef ei hun; amcanai at hynny a llwyddai i'w wneud hefyd.

Ceir ambell i bregethwr yn amcanu, ac yn gallu gwneud pethau syml yr efengyl yn bethau mawr, tywyll, a dyrus, na ellir eu deall. Os nad yw y pregethwr yn eu deall ei hunan, nis gall y dyn hwnnw obeithio cael neb arall i'w deall. Ac y mae pob lle i ofni fod llawer bethau amherthynasol yn cael eu dweud o lawer pulpud am nad oes gan y pregethwr weledigaeth bersonol phrofiad o nerthoedd; gwirionedd yn ei ysbryd ei hun. Un peth yw annerch cynulleidfa, peth arall yw pregethu yr efengyl; un peth yw gwylied beth a ddywed pob math o ddynion am y gwirionedd ac am bethau eraill Cysylltiol, peth arall yw gwybod y gwirionedd, gwybod cariad Crist, yr hwn orfoda y pregethwr i ddweud y pethau a welodd ac a deimlodd am Air y bywyd. Y perygl mawr i ni fel pregethwyr ydyw bod yn gyfarwydd â llenyddiaeth Trefn inwr y Cymod, heb fod yn gyfarwydd a'i hysbryd. Gall pregethwyr felly synnu'a diddori eu gwrandawyr, ond mid eu lleshau. Pan y mae mwy o sôn am y pregethwr mewn ardal wedi iddo fod yno nag am y Gŵr sydd yn destun y weinidogaeth, y mae rhywbeth heb fod yn iawn yn y bobl sydd yn gwneud hynny, ac yn y pregethwr hwmw hefyd, fe ddichon. Y peth sydd yn hanfodol bwysig ydyw fod y pregethwr yn "gwybod y Ddysgeidiaeth," pa un bynag a fydd yn ddysgedig ai na fydd. Gwyddai "Cyndelyn" y "Ddysgeidiaeth." Yr oedd ganddo brofiad o'i nerth, ei gwerth, a'i chynnwys yn ei enaid ei hun. Amcanai yn wastadol roddi i'w wrandawyr yr hyn a wyddai, ac a brofai ei hunan. Yr oedd ei bregeth fel ei fywyd, yn dawel a dirodres; deuai ei bregeth trwy ei galon ef ei hun, a hawdd oedd gweled a theimlo wrth ei wrando yn ogystal ag wrth ymddiddan ag ef ei bod yn bwysig iawn yn ei olwg pa beth a ddywedai "ddoe" wrtho am "yfory" o hyd. Holai ei galon pa beth a wyddai am yr hyn a ddywedai bob amser. Caem yr argraff hon bob amser yn ei gwmni ac wrth ei wrando yn pregethu. Ac yn y goleu hwn, gosodwn ef yn uchel ar restr pregethwyr mawr y Bedyddwyr yn ei oes. Nid y pregethwyr poblogaidd a feddyliwn, ond y pregethwyr mawr. Y pregethwyr mwyaf buddiol, fel y credwn, yw y pregethwyr mwyaf bob amser. Hoffaf ddisgrifiad Cowper o bregethwr. Etyb y diweddar Tomos Efans iddo yn llawn ni gredwn, heb eisiau gadael gair allan. Fel hyn y mae

"Would I describe a preacher ...... I would express him simple, grave, sincere. In doctrine uncorrupt, in language plain, and plain in manner, decent, solemn, chaste, and natural in gesture, much impressed. Himself as conscious of his awful charge, and anxious. mainly that the flock he feeds may feel it too; affectionate in look, and tender in address, as well becomes messenger of Grace to guilty men."

William Cowper, The Task, Vol II., Book II.
2nd Edition, London, 1786, P.P. 65

Dyna fo Tomos Efans heb ddim gormod o ansoddeiriau.

Pregethai bob amser trwy eiriau detholedig, ac fel y lili dlos heb ddim geiriau, trwy ei gymeriad glân,

Crist-debyg.

FEL BARDD A LLENOR.

Yr oedd "Cyndelyn yn ŵr cyfarwydd a diwilliedig. Gallai gerdded mor henni ac ysgafndroed ar lethrau Parnanus. Yr oedd yn fardd wrth fraint a defod Beirdd Ynys Prydain. Ni wyddis pa le yr urddwyd ef. Tueddir ni i gredu mai yn "Arwest Glan Geirionydd", a hynny yn ol pob tebyg pan oedd yr Arwest yn ei bri mwyaf, yn amser Owen Gethin Jones, Trebor Mai, Ellis o'r Nant, Henry Gwynedd Hughes, Llenor o'r Llwyni, Clwydfardd, Gwalchmai, Dewi Hafesp, Tudno, Fferyllfardd, I. D. Ffraid, Glan Collen, Ioan Cernyw, a Gwilym Cowlyd, Bangorian, ac eraill yn ddiau, nad ydys yn cofio am danynt yn bresenol. Nid y lleiaf o feirdd yr Arwest oedd Cyndelyn, ac nid oedd neb ohonynt yn ddiau yn fwy gostyngedig, dirodres a diymffrost nag ef. Yr ydoedd yn feistr ar y mesurau caethion fel eu gelwir. Rhodiai yn berffaith rydd yn hualau Dafydd ap Edmwnt, a medrai fod yn syml a naturiol yn y mesurau rhyddion hefyd, fel y dengys ei weithiau.

FEL BEIRNIAD.

Mynych y gelwid arno i feirniadu, a chadwai ei wybodaeth a'i onestrwydd Lenyddol ei glorian yn gywir bob amser. Byddai ei feirniadaeth yn fanwl ac addysgiadol yn wastad. Awyddai am helpu y rhai mwyaf anobeithiol mewn cystadleuaeth. Nid oedd Cyndelyn fel y mwyafrif o feirniaid ein prif Eisteddfodau, am ladd pawb ond y goreuon; ac yn ol beirniadaethau heddiw, nid yw y berniaid yn rhy garedig wrth lawer o'r ymgeiswyr goreu, y rhai allant wneud gwell gwaith na hwy eu hunain. Yn sicr, y mae bywyd yr Eisteddfod mewn perygl yn nwylo y bobl hyn heddiw. Nid gŵr fel yna oedd Cyndelyn; na, nid ymgymerai ef âg unrhyw orchwyl o'r fath oni allai ei wneyd er mantsis i fywyd yr Eisteddfod a'r ymgeiswyr. Gwr di-ddichell a naturiol oedd ef, phob amser yn cerdded ar dueddau moesol ac uchel, chwaeth a barn dda. Gwyddai mai nid mesurau chynghaneddion yw barddoniaeth; gwyddai hefyd fod gwisg dda yn harddu enaid a chorff cerdd, gan nad beth fyddai ei maint. Un o rinweddau amlwg barddas ydyw y gallu i roddi llawer mewn ychydig. Yr oedd bywyd tawel Cyndelyn yn dweud llawer heb siarad dim. Dywaid y Trioedd mai:— Tair sail awen: Rhodd Duw, ymgais dyn, a damwain bywyd." Prif waith y bardd yw Caru Gwirionedd, Teimlo Gwirionedd, a Mynegi Gwirionedd." Dyna fu gwaith bywyd Cyndelyn; ei rinweddau oeddynt gyfaredd ei fywyd, ei gân, a'i bregeth. Dywed Ben Johnson y gwneir bardd yn ogystal a'i eni. Pawb sydd yn cofio ein gwrthrych, gwyddant fod ôl y gwneud a'r geni yn amlwg iawn arno ef.

EI UCHELGAIS

Nid oedd ynddo fawr o uchelgais. Yr ydym ar dir diogel, fel y credwn, pan ddwedwn nad oedd ynddo ddigon o'r math gorau o uchelgais. Amaethodd diweddar annwyl frawd holl argymhellion naturiol a chyfreithlon ei fywyd yn well na'r peth yma. Credwn na enir neb i'r byd heb fod ynddo ddigon o reddfau a nwydau i ateb gofynion dwyfol ei fodolaeth. Gall pob dyn amaethu ei nwydau i wasanaethu y drwg neu y da. Dylai pob un fedru llywodraethu holl nerthoedd ei natur trwy gael nerth gan ei Dduw i wneud hynny. Credwn mai cariad at y pur a'r dyrchafol ydyw mamaeth uchelgais gwir. Yn ol ein hadnabyddiaeth o Cyndelyn credwn fod y cariad hwnnw yn gryf iawn ynddo; eto rhaid fod ei ysbryd gostyngedig a hunanymwadol yn gryfach, a'r tebygolrwydd yw mai hwnnw a rwystrodd dyfiant ei uchelgais gyfreithlon. Yr oedd yn weithiwr diwyd a gonest ym mhob cylch, ac ni welwyd ef erioed yn cardota anrhydeddau o unrhyw fath, naddo, yn ddiau. Cafodd anrhydeddau, ond nid yr oll a haeddodd. Caiff llawer ormod o anrhydeddau, a llawer lai na'u haeddiant. Cymerodd ef a gafodd, a bodlonodd ar hynny, a diau fod hynny yn llawer gwell iddo na phe buasai uchelgais wedi mygu rhinweddau ei fywyd. Awyddai ef am fod yn fwy o ddefnydd yn y byd i'w gyd-ddynion pac am yr hyn a dderbyniai gan ddynion am ei lafur.

Lladron anrhydedd yw Balchder a Hunan, os cânt lywodraethu bywyd unrhyw un, ond nid oedd iddynt le na llywodraeth ym mywyd Cyndelyn. Talodd ef yn onest am bob anrhydedd a gafodd, ie, yn sicr, lawer mwy na gwerth y cyfryw hefyd. Yr ydoedd yn Llenor diwilliedig, er mai ychydig a adawodd ar ei ol ond mewn pregethau a barddoniaeth. Ychydig a ysgrifennodd i'r Wasg. Wel, nid oedd ganddo amser i hynny. Y mae ar ei ôl gnwd toreithiog o bregethau mewn llawysgrifen, a chyhoeddir ei weithiau. eraill yn y gyfrol hon.

YR EISTEDDFODWR.

Yr oedd Cyndelyn yn Eisteddfodwr pybur. Byddai alw mawr am ei wasanaeth fel beirniad ac arweinydd, fel y dengys ei waith yn y gyfrol hon. Nis gallai fyned yn bell oddi cartref—bu yn cystadlu weithiau, ac yn ben campwr hefyd yn ei dro fel pawb arall.

NODIADAU CYFFREDINOL AR EI GYMERIAD.

Rhaid ei fod wedi byw yn ddiwid a meddylgar ar hyd el cos i gyflawni y gwaith a wnaeth, ac i gadw y safle enillodd, a'i fod yn feistr ar ei waith a'i amgylchiadau. Ni fu erioed yn gryf ei iechyd, ond daliodd ati, a chadwodd ei orsedd fel brenin arno ei hun a'i amgylchiadau yn holl gylchoedd ei fywyd gwerthfawr. Gŵr o deimladau dwys a thyner oedd efe, eto nid llwfryn ydoedd. Nage, safai fel y graig yn y mor heb syflyd yn y stormydd dros gyfiawnder a gwirionedd. Y nerthoedd cryfaf mewn bywyd yw cariad a thynerwch. Dyma dŵr cadarn i gymeriad pob dyn a dynes. Dyma yr unig alluoedd mewn bywyd fedrant lywodraethu y tafod fel y dywed y ddibareb Lladin :—"Power can do by Gentlenes that which violence fails to accomplish, and calmness best enforces the imperial mandate." Digon gwir, a yma ddywediad arall yn yr un iaith: "Gentle in manners, firm in reality." "Dyna Cyndelyn i'r dim.

EI YSBRYD CRISTNOGOL A MADDEUGAR

Gŵr tebyg iawn i'w Arglwydd oedd Tomos Efans, Fforddlas. Wynebai bob math o ddynion ac amgylchiadau yn dawel a diofn. Gwyddai yn dda fod poen ar lwybr dyletswydd yn llawer iawn gwell na holl bleserau y byd ar lwybr anufudd-dod i ewyllys Duw; ac fel pawb. arall i'r graddau yr oedd yn caru y pur a'r rhinweddol. Yr ydoedd yn casau, pob gwedd ar bechod a llygredigaeth. Y mae cariad at y da yn gyfwerth â'i gasineb at y drwg. Goleuai ei ysbryd addfwyn a hynaws bob nos iddo yn sicr.

Gall pob dyn a dynes o'r ysbryd yma wynebu a cherdded trwy bob math o dywydd, digofaint a theimladau drwg byd annuwiol heb dderbyn unrhyw niwed.

Dywedodd rhywun nad oedd iddo elyn yn y byd. Pe gwybaswn fod hynny yn wir, ni fuaswn yn ysgrifennu ei Gofiant. Na, nid oedd Cyndelyn heb ei elynion, mwy na ffyddloniaid eraill yr Arglwydd Iesu Grist, ond methasant wneud dim drwg iddo fel y dymunent. Diau fod ei fywyd tawel a dedwydd yn poeni llawer ar rhyw fath o bobl, a'i safle bwysig gyda chwmni y Ffordd Haearn yn poeni llawer ar eraill. Ond aeth ef yn ei flaen a'i waith gan dosturio wrthynt, a maddeu iddynt; megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist iddo yntau. Ni soniai byth am ei elynion wrth neb ond ei Waredwr. Nid oes dim anymunol mewn bywyd, gan nad o ba gyfeiriad y daw, na fedr y Cristion dynnu cysuron fyrdd o'r cyfryw. Diau fod ein brawd annwyl yn ei oes wedi bwrw allan lawer o ysbrydion drwg; y mae tynerwch ac ysbryd maddeugar bob amser yn gallu gwneud hynny. Yr ydoedd yn ddigon cryf i beidio a son am ei elynion, yr hyn a brofai ei fod yn gallu maddeu ac anghofio pob math o bethau a phersonau a gyfodent i'w erbyn. Dyma lle y gwelir nerth y Cristion, ac y gellir ei fesur. Yn ei allu i fod yn ddistaw pan gamfernir ef ac y dywedir anwiredd arno. Gwelaf fy Ngwaredwr yn gryf yn y fan yma, pan fedrodd dewi yn y Llys. Yn sicr, nid oes mewn bywyd hunanymwadol flodeuyn mwy persawr na phrydferthach nag ysbryd maddeugar.

FFYDDLONDEB EIN BRAWD

Golyga y gair Ffyddlon llawn o ffydd fel Steffan, un cywir, credadwy, un yn cadw ei air, un y gellir ymddired ynddo, un ar ei orau. Y mae ffyddlondeb yn un o reidiau bywyd llwyddiannus ymhob cylch. Yr oedd Cyndelyn yn ffyddlon yn yr ystyr a roddir i'r gair yn yr Hebreaid III., 5, a Dat. XVII., 14. Ni ellid ei rwystro i gyflawni ei ddyletswydd ond gan amgylchiadau na allai eu llywodraethu. Bu'n ffyddlon hyd. angau, trwy lawer o wendid corfforol. Bu'n ffyddlon i'w deulu, i'w gyflogwyr, ac i'w broffes o'i ffydd yn Iesu Grist fel ei Waredwr. "Ymdrechodd hardd deg ymdrech y ffydd, a gorffenodd ei yrfa mewn llawenydd, Chwefror 10fed, 1908, ac efe yn 71ain mlwydd oed. Claddwyd ef yng Nghladdfa Salem, Fforddlas, y dydd Iau canlynol i'w farw Daeth torf fawr i'w arwyl o bell ac agos. Boed heddwch i'w gorff i orffwys hyd nes y caiff eto glywed lleferydd Mab Duw, a chodi ar ei ddelw, wedi ei wisgo mewn anfarwoldeb ac yn ddigon cryf i ddal tragwyddol bwys gogoniant ei Waredwr.

Yn Brynhyfryd yr oedd ei drigfa pan yr hunodd. Gwnaeth ddiwrnod da o waith, a rhaid i ni gredu mai mawr ydyw ei wobr yn y Nefoedd. Y nawdd Dwyfol a gysgoda weddill y teulu sydd yn aros, hwythau yn disgyn ir bedd o un i un. Diolchwn i Dduw pob Gras am fywyd a gwaith y diweddar Barch. Tomos Efans (Cyndelyn), Fforddias Glan Conwy y.