Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn)/Atodiad i'r Cofiant
← Byr Gofiant | Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn) gan John Gwyddno Williams |
Gweithiau Barddonol → |
ATODIAD I'R COFIANT
Ysgrif gan y Parch. D. B. Harris, Cemaes, Môn, oedd yn Weinidog y Fforddlas ym mlynyddoedd olaf ein brawd ar y ddaear.
I.
Nid oeddwn i namyn mab dwyflwydd yn y weinid- ogaeth pan y symudais o Sir Fflint i gymeryd gofal Eglwysi Salem, Fforddlas, a Bryn Seion, Eglwysbach, ym mis Mawrth, 1903. Yr oedd yn perthyn i Eglwys enwog a henafol Salem, Fforddlas yr adeg uchod, ddau weinidog ac un pregethwr cynorthwyol. Nid heb gryn bryder yr atebais yr alwad a roddwyd i mi i'w bugeilio, oblegid yr oedd Eglwys Salem, Fforddlas, wedi cael yr enw ei bod yn magu cewri, ac yn ymhyfrydu mewn bwyd cryf, ac nid ar laeth a dail; ond ceisiais ymgysuro wrth feddwl nad hwyrach y profai y ddau weinidog parchus oedd yno i mi yn rhyw Aaron a Hur i gynnal i fyny fy mreichiau gweinion, byr-brofiad, ac yn wir ni chefais fy siomi; un o'r ddau hynny yw gwrthrych yr ysgrif hon, sef yr hynaws a'r hawddgar "Cyndelyn." Fel y gwyr llawer mai pensaer ac arolygydd cwmni yr L. and N.W. Railway, yn y "Permanent Way Department" ydoedd "Cyndelyn" wrth ei alwedigaeth feunyddiol, a pherchid ef gan y cwmni uchod, a gwerthfawrogid yn fawr ei wasanaeth; ond gwasanaethai eglwys y Bedyddwyr yng Nghonwy fel gweinidog misol. Yr oedd wedi dychwelyd i drigiannu yn nes i'w fro enedigol, ac yn byw yn yr Ashlands, Glan Conwy, pan ddeuthum i i'r Fforddlas, a gwasanaethai eglwys fechan y Rowen yn bythefnosol. Nid oeddwn yn cael llawer o gyfle i'w weled a mwynhau ei gymdeithas oherwydd ei fod yn brysur a rhwym wrth ei alwedigaeth ar y gledrffordd, ond ar ol iddo gyrraedd yr oed i roddi ei waith i fyny, cefais y fantais a'r fraint o gael mwy o'i gymdeithas, ac i ganfod y wythien aur a oedd yn rhedeg drwy ei natur ddynol. Teimlwn bob amser ei fod yn ddyn glân yn ei gwmni. Nid oedd dim maswedd yn cael lle yn ei galon—yr oedd yn lân ei feddwl ei foes a'i wisg. Diau fod "Cyndelyn" heb os nac oni bae yn un o'r dynion gorau a fagwyd erioed yn ardal Annwyl y Fforddlas. Fel y nodwyd mai pensaer ydoedd wrth ei alwedigaeth, yr oedd felly hefyd wrth natur—bywyd y pensaer ddeuai i'r golwg ynddo fel dyn Christion—dyma'r argraff adawodd arnaf:
(a) Yr oedd yn bensaer yn ei gymwynasgarwch. Pan y daethum i'r Fforddlas nid oedd yr un ysgoldy gan yr eglwys i gynnal y gobeithlu a'r cwrdd gweddi a'r seiat, a lle i ddarparu lluniaeth ar achlysuron neilltuol. oedd yn amhosibl cael darn o dir ar werth gan neb i adeiladu ysgoldy, ond yr oedd rhyw gwt bychan yn nhalcen isa'r capel, ond yr oedd yn rhy fychan i wneud defnydd o hono heb gau y ffordd at y fynwent. Daeth Cyndelyn yna a gwnaeth y fath gynllun fel y medrwyd cadw y ffordd at y fynwent a lle hylaw yn y gwaelod i ferwi dwr a chadw'r glo a'r elor, &c., a goruwchystafell hwylus. Y syndod i mi yw ei fod wedi cynllunio ystafell mor ddefnyddiol o le mor anhebyg. Pwy ond pensaer & fedrai wneud yr hyn a wnaeth yn rhad ac am ddim.
(b) Yr oedd hefyd yn bensaer fel llenor a bardd a phregethwr. Ni chyfansoddodd ddarn o lenyddiaeth na barddoniaeth ond wrth gynllun. Wedi tynnu cynllun, adeiladai yn unol a'i gynllun—pob gair a brawddeg yn eu lle, a adeiladwaith yn gelfydd a gorffenedig. Ni chefais y fraint o'i wrando yn pregethu ond unwaith yn unig. Pregethai y pryd hwnnw oddiar y geiriau "Yr awrhon y mae yn aros ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn, ar mwyaf o'r rhai hyn yw cariad (1 Cor., 13. 13) Arafodd arnaf ei fod yn bensaer yn y pulpud-mor fedrus a deheuig oedd ei gynllun. Yr oedd ei bregeth yn drefnus a chelfydd a choeth, a gorffenedig—pob drws yn yr adeiladwaith yn ei le priodol, a phob ffenestr yn gyfateb i faintioli'r adeilad. Gwnaeth un sylw oedd fel math ar "bay window" i gael golwg eang a phell drem ar y tir pell. Ebai, "Un rheswm fod cariad yn fwy na ffydd na gobaith yw ei fod yn fwy dwyfol; peth dynol yw ffydd a gobaith, ond peth dwyfol yw cariad—Duw cariad yw. Y mae ffydd a gobaith fel dau blentyn yng nghwmni cariad eu tad. Y mae llawer plentyn naturiol yn dyfod yn gymaint a'u tad, ond ni ddaw ffydd gobaith byth yn gymaint a'u tad; meidrol yw ffydd a gobaith, ond y mae cariad yn anfeidrol." Cefais fwynhad a bendith wrth ei wrando. Yr oedd llawer mwy o sylwedd nag o swn ganddo. Yr oedd yn pregethu fel yr oeddynt yn adeiladu'r deml gynt, nid oedd swn y morthwyl ganddo yn y pulpud. Nid ar Seinai y codai ei bulpud, ond ar Hermon. Nid oedd byth yn creu mellt a tharanau ac yn peri llifeiriant nes rhwygo'r galon. Fel gwlith Hermon oedd efe ar fynyddoedd Seion, canys yno y gorchymynodd yr Arglwydd ei fendith. Tu ol i'w genadwri yr oedd ei gymeriad gwyn a phur yn ei chymeradwyo i'r gwrandawyr. Gallasai ddweud gyda'r Salmydd, "Dy ddeddfau oedd fy nghân." Yr oedd bob amser yn gosod ystyr i bob peth wnai. Yr oedd yn aelod dillyn o Orsedd Beirdd Ynys Prydain yn ol defod a braint, chyfenwodd ei hun yn "Cyndelyn." Gofynais iddo pa beth a'i cymhellodd i ddewis yr enw. "Cyndelyn," atebodd, y mae y bardd yn henach na'r cerddor, cyn bod telyn yr oedd bardd."
(c) Yr oedd yn bensaer fel dinesydd. Yr oedd gan bawb air da i "Cyndelyn," a chan y gwirionedd ei hun. Yr oedd yn dangnefeddwr mawr, ac felly yn blentyn i Dduw. Ni chlywodd neb air brwnt na miniog o'i enau ef erioed. Gallesid ei alw yn foneddwr o Gristion. Dywedir na fedr y wenynen sydd a llond ei mynwes o fel bigo. Yr oedd Cyndelyn mor llawn c fêl gras a gasglodd oddi ar flodau cariad yr efengyl fel na fedrai bigo neb. Ni adawi i neb ladd ar ei gyd- ddyn, heb ei fod yn gwneud fel y canodd Ceiriog : "
Pan glywodd lefaru llysnafedd a pharddu,
Gan ladd a thrabaeddu;
Rhowch air i mewn o radd i radd,
A chofiwch chwi ganmol y sawl fo' nhw'n ladd".
Felly y byddai Cyndelyn yn gwneud bob amser.
(ch) Mynodd orffen ei yrfa fel pensaer". Ni welais i neb' mor hamddenol a boddlon ar wely angau. Yr oedd fel un wedi gorffen ei waith yn myned i orffwys a huno, wedi cyrraedd ohono ddyddiau'r addewid yn llawn. Diosgodd arfau ei filwriaeth dda. Gosododd ei gleddyf gloyw wrth draed y Pentywysog, a gafaelodd yn ei delyn Chwefror 10, 1908, yn 71 mlwydd oed.
Ac y mae efe, er wedi huno, yn llefaru eto yn y gyfrol fechan hon, ac nid aiff ei lafur yn ofer; fel y dywed Browning yn ei Abt Volger, "All we have wielded or hoped or dreamed shall exist, not its semblance but itself; no beauty, nor good nor power whose voice has gone forth, but each survives the melodist," ac yn y gyfrol hon wele lais Cyndelyn yn myned allan i fodoli a gorfucheddu ei oes.
Cyndelyn y cenad hylwydd,—dorwyd
I'r byd arall dedwydd,
Ei enw gwyn, bâr yn ein gwydd
Aroglau fel gardd yr Arglwydd.
Didwyll a hoff gredadyn,—ŵr o bwyll,
Llenor a bardd dillyn;
Un doeth fel Cristion, a dyn
O dalent oedd Cyndelyn.
Gweithiodd gan ddwys bregethu,—"Gwaed y Groes"
Gyda grym ei allu:
A chariad y Ceidwad cu,
Yn ei osod i ysu.
B. D. HARRIES.
II.
LLYTHYR ODDIWRTH MR. EDWARD E. JONES.
Annwyl Gyfeillion,–
Chwith iawn gennyf anfon llythyr heb ddweud Annwyl Frawd. Pan welais yn "Drych" fod y Parch. Thomas Evans wedi gorffen ei daith yn y fuchedd hon, fe ddaeth mil o bethau i'm meddwl, ac O! yr hiraeth ddaeth arnaf, ffrind borau oes, y ffrind cyntaf erioed, ffrind gorau, dim twyll, para felly am dros 58 mlynedd. O mor chwith gennyf feddwl am Tomos Marged Evans yn ei fedd, felly yr oedd ef i'w adnabod, Ned Edward Jones a Tomos Marged Evans, er fod gan Ned fam a Tomos dad, ond fel yna yr oeddym ni yn cael ein hadnabod. Yr oedd Tomos yn well bachgen na fi, mwy diniwed, oedd neb yn fy ngalw yn hogyn drwg ond yn hogyn direidus, ond nid wyf yn meddwl fy mod wedi bod yn faen tramgwydd i'm cyfaill. Y fi oedd y cyntaf hefo crefydd ac yntau yn ail, ac fe'n dilynwyd gan W. Davies a'r wraig, a Sarah y Maesydd, a Lisa Roberts, Bwlchwernhir. Nid wyf yn siwr fy mod yn gywir yn yr hanes, fe allai fod fy mrawd hoff, Parch. W. Davies yn gwybod yn well; yr wyf wedi anghofio rhai, buasai yn dda iawn gennyf gael yr hanes y dydd Sul hwnnw wrth ag yn llyn felin ucha, mi ysgrifennais yr hanes yn fanwl ond fe wnaeth rhyw lygoden fach ei nyth yn yr hanes; nid oedd yr un fach ddim yn gwybod y golled wnaeth i mi. Gwelwn ei fod wedi dechrau pregethu yn 1859, dwy flynedd wedi i mi adael y Graig. Gadawais i yn 1857, Mai 5, yn cychwyn o Lerpwl. Yr oeddwn yn deall iddo bregethu 1,152 o weithiau[1], ac O drueni, ni chlywais ef ond un waith yn y flwyddyn 1875, yn y Brynpwllbydr.[2] Aeth ef a minnau un prynhawn Saboth, ac mi gefais y fraint o gario ei gôb ucha. ac fe gefais fraint arall, dechreuais yr odfa iddo, ond nid am gario ei gôb c chwaith, [dar ar goll yn y fan hyn.-E.E.], y milldir- oedd gerddodd, a minnau ddim yn y cyfrif hwnnw pan oedd ef yn y Croesau, a finau yn Ffrithyfoel, degau ag ugeiniau weithiau i'r Fforddlas. Yn yr adeg hono y bedyddiwyd ef minau, diwinyddiaeth fyddai y siarad braidd bob amser Ond un noswaith, wrth ddod adra o Fforddlas, aeth ef a minau yn dipyn seryddwyr; y gofyniad oedd paham yr oedd rhyw ddwy seren mor agos i'w gilydd. Yr oeddym yn sefyll wrth wal gerrig sydd wrth rhyw gae hir yn perthyn i'r Croesau, yn rhedeg i lawr gyda chaeau y Maesydd, mae y ddwy seren yno o hyd, yr wyf yn eu Weled yn aml, ac yn cofio am y tro, wedi hynny, yr ef a finau yn y Llan hefo'n gilydd, efe hefo Dr. Williams, a minau hefo [darn eto ar goll.—E.E], ond ni chymerais erioed y fantais i edrych i lawr arno ef, oblegid yr oeddwn i wedi llwyr gredu ei fod yn well bachgen nag oeddwn i. Wel, gyfeillion hoff, yr wyf wedi bod yn hir Iawn yn anfon atoch, wn i ddim a oes maddeuant am bechod fel hyn ai peidio Pan oedd yn dweud fod llawer wedi marw yn y cymdogaeth, buasai'n dda gennyf gael eu henwau. Mae yr hen gartref yn ddieithr iawn i mi. Wn i ddim beth oedd oed Robert, wn i ddim pa un ai byw ai marw yw Mary, fy chwaer, pa faint sydd o deulu fy chwaer Elizabeth yn fyw. Yr wyf yn anfon hyn o lythyr atoch, ni fyddai ein hanes ni yn fawr o gysur i chwi, yr wyf fi a'r wraig yn byw mor gysurus ag y gallwn nid ydym mor iach ag y dymunem ni fod, ond fe allai fod lawer iawn yn waeth.
byddwch wych oll.
III.
LLYTHYR Y PARCH. R. T. OWEN
At Mr. Edwin Evans.
Annwyl Frawd, —Drwg gennyf nad oeddwn gartref pan alwasoch..... Parthed cofiant eich annwyl dad teimlaf beth anhawster beth i'w ddweud nid oherwydd prinder am gymeriad oedd mor lawn o rinweddau a grasusau yr Efengyl a'i deyrngarwch llwyr i'w Annwyl Geidwad, ac yn wyneb hyn, y mae dau o bethau perthynol iddo yn dod i'm cof. I'r diweddar frawd William Roberts, Cae Robin, yr ydwyf yn ddyledus am hyn. Dywedai mai wanaidd oedd Tomos Efans yn nechrau ei oes, ac nad nodd lawer o obaith am hir oes iddo, ac yn bur naturiol parai hyn lawer o bryder i'w rieni annwyl. Modd bynnag, ni fu raid aros yn hir i weled ei fod yn fachgen darllengar, myfyrgar, a meddylgar. Ond oes anfanteisiol dlawd oedd yr oes honno iddo ef a'i gyffelyb. Llyfrau yn brinion, a'r ysgolion mor brinion a hwythau. Ond i bawb gafodd y fraint o'i adnabod a'i glywed yn darllen a gweddio a phregethu a sylwi ar ei fywyd sanctaidd, hawdd oedd gweled mai y Beibl oedd ei lyfr. nodais fod ei fynych wendid yn peri pryder mawr i'w rieni, a rhoddid coel rhyfedd y pryd hwnnw na fyddai ond oes fer i blant henaidd a chall fel ag oedd Tomos Efans yn ei faboed. Yr oedd ffrind i'w fam o'r enw Grace Williams, ac iddi hi y dywedai Margaret Efans ei phrofiad a'i phryder. Cwynai wrthi mai y darllen a'r myfyrio oedd yr achos o fynych wendid y bachgen. Ond siaradodd Grace Williams hi i beidio a dweud gair wrtho fo. Bydd yn y nefoedd yn fuan iawn i chwi," meddai. Ond gofalodd ei annwyl Geidwad am ddigon o nerth iddo i'w wasanaethu am 71ain mlynedd. Oherwydd prinder amser dwedaf un hanesyn eto, yr hwn a ddeil berthynas ag ef ac a brawd nad oedd yn ddigon gwyliadwrus gyda'i bechod parod. Syrthiai yn fynych i'r un pwll, ond fel yr afradlon, gwell oedd ganddo ddod yn ol na marw yng ngwlad y moch a'r cibau. A'r tro yma, wedi dod yn ol, ni fynai i neb ei dderbyn yn ol ond Tomos Efans, er bod amryw i'w cael. Ac erbyn y Sul i'w dderbyn, er ei siom ni dderbyniai Tomos Efans mo honno, ac ni fynai y pechadur ei wrthod. Wedi'r cyfarfod aeth T. E. i'w ddanfon beth o'r ffordd gartref, ac adroddodd iddo hanes diweddar Barch, A. J. Parry, D.D. gyda chymeriad tebyg, yr hyn a fu yn ddigon i gael y ddau i gyd-weled, ac ar y cyfle cyntaf wedi hyn derbyniwyd y syrthiedig yn ol, a bu yn aelod a brawd ffyddlon hyd y diwedd. Nis gwn a fydd hyn yn dderbyniol genych. Yr ydwyf mewn brys yn terfynnu gyda'r dymuniadau gorau.
R. T. Owens.
IV
CYNGOR HEN WEINIDOG I BREGETHWR IEUANC.
"Fod pregthwr yn debyg i saer coed yn curo hoel fwrdd caled; digwydd weithiau na fydd ganddo hoel o werth Pregethwr yw hwnnw yn amddifad o bregeth. Un arall a chanddo hoel, ond heb forthwyl. Pregethwr heb dawn i draddodi yw hwnnw. Y mae arall gyda hoel a morthwyl, ond heb ebill ganddo i dyllu y bwrdd faen yr hoel. Pregethwr heb gymeriad da yw hwnnw. Un arall sydd a chanddo yr holl bethau hyn, eto yn gyrru y hoel yn afrwydd y mae, am nad oes ganddo olew i dochi yr hoel ynddo. Pregethwr yn fyr o'r eneiniad ar eil ysbryd yw hwnnw drachefn. Ond y mae un arall yn fwy anhapus na'r cyfan; un yn meddu hoel a morthwyl da, ond pan y bydd yn amcanu taro yr hoel, bydd yn taro ei fys yn wastad. Yr hyn y mae y pregethwr yn gondemnio yn eraill, y mae yn euog o honno ei hunan. Bydded gennych ffydd a chydwybod da. (Y mae y dernyn uchod o'm blaen yn llaw-ysgrif Tomos Efans, a gwelaf lawer o'i ddelw arno mewn mwy a un ffordd. Ni wyddis mai ei waith ef ydyw, ond y mae yn werth i fod i mewn.-Gol.)
V.
ACHOSION NEWYDD.
Gwelodd er ei lawenydd godi llaweroedd o achosion newyddion yn ei ddydd. Cafwyd cnwd toreithiog nid yn unig oddychweledigion, ond o achosion a chapelau newyddion i'r Bedyddwyr ar ol Diwygiad nerthol 1859. Cafodd ef y fraint o bregethu yn y lleoedd canlynol a nodwyd yn ei oes bregethwrol ef: Abergele, 1862, Bodgynwch, 1862 (nid 1852 fel y mae yn y Dyddiadur 1935), Cargybi, Hebron, 1862; Colwyn, 1862; Bau Colwyn, 1888 Eelwysbach, 1878; Ffestiniog, Seion, 1860; Calfaria, 1871; Moria, 1890; Ffynnongroyw, 1892; Glan-Adda, Bangor, 1892; Groeslon, 1871; Cyffordd. Llandudno, 1900; Llanfairtalhaearn, 1862; Llanfairfechan, 1878; Llysfaen, 1884; Porthaethwy, 1884; Penmaenmawr 1892; Ochr y Penrhyn, 1895; Bethania, Rhos, 1905; Rhosneigr, 1895; Valley, 1868. Nid y ddwy ar hugain hyn yn unig â godwyd i'r Bedyddwyr yn ei amser ef. Nid ydys yn sicr iawn am ddyddiad corffoliad yr Eglwysi hyn, gan y rhoddir yn y Dyddiadur yn y golofn Corffolwyd," weithiau adeg adeiladu y capel, ac nid adeg y corffoli, megis yn hanes Ffynnongroyw. Corffolwyd yr eglwys yno Gorffenaf 10fed, 1890. Dylid rhoddi y Dyddiadur a phethau fel hyn yn y ffwrnes, a llosgi pob celwydd sydd ynddo.
VI.
LLONDER EI YSBRYD YN LLWYDDIANT YR EFENGYL
Nid oedd dim a lonai ei ysbryd yn fwy na gweled gwaith yr Arglwydd yn llwyddo, a'r saint yn codi allorau iddo yng Nghymru annwyl. Ceir nodiad yn ei Ddydd-lyfr sydd yn dangos llonder ei fywyd wrth weled achos yr Arglwydd yn llwyddo ym mhob man, ac yn arbennig felly yn Salem, Fforddlas. Dywed hanes y Sul, Chwefror 12fed, 1905, pan fedyddiwyd yno 23 gan y Parch B. D. Harris, y Gweinidog. Dywed fod yr Eglwys yn Fforddias wedi cyrraedd cant a chwech mewn rhif, a rhydd enwau y rhai a fedyddiwyd ac a adferwyd. Wrth ddarllen y cyfryw teimlwn fod swn ei orfoledd yn yr awyr o'm cwmpas am y gwyddwn mai felly yr ydoedd.
Yn yr un Dyddlyfr ceir ganddo gyfrif dychweledigion yn y Diwygiad ddiwedd y flwyddyn 1904 a dechrau 1905, wedi ei godi o'r "Pioneer," Chwefror 9fed, 1906, yr hwn a ddengys i'r enwadau gael ychwanegiadau fel y canlyn: Bedyddwyr, 24,133; Annibynwyr, 13.490; Methodistiaid Calfinaidd, 8.133, a'r Methodistiaid Wesleyaidd, 7,481.
VII
Syniad uchel y diweddar Mr. Tom Davies, o'r Cefn Mawr, Arweinydd y Gân yn y Tabernacl am lawer o flynyddoedd, am y diweddar Barch Tomos Ffans fel pregethwr:
Yr oedd y diweddar Mr. Tom Davies wedi bod yn- wael ei iechyd, ac wedi gwella yn ddigon da i fyned i Gartref (Convalescent Home), Rhyl. Mr. Davies oedd tad yr enwogion Emlyn Davies, Ysw., y cerddor enwog; Gethin Davies, Ysw., y gŵr defnyddiol ac adnabyddus; a'r diweddar Barch. Arthur Davies, Porthcawl, sydd a'i enw yn perarogli.
Bu Mr. Tom Davies yn y Rhyl am rai wythnosau, ac yn ol ei arfer gartref yn y Cefn, elai i'r Tabernacl bob Sul yu fyddlon yn y Rhyl. Ac yn ol a ddeallaf yr oedd doniau gwahanol yno bob Sul, ac ar un o'r Suliau hynny yr oedd y diweddar Barch. Tomos Efans (Cyndelyn) yno y pregethu. Cafodd Mr. Tom Davies y fath fwynhad yuddo fel pregethwr. Gosododd ef yn uchel iawn ar lechres y Pregethwyr Mawr; ni flinai son am dano, ac o fewn, rhai wythnosau wedi iddo fyned gartref yn ol i'r Cefn Mawr, yr oedd Eglwys y Tabernacl yn dewis pregethwyr i'w chwrdd blynyddol. Gwnaeth Mr. Davies araith a gariodd bawb gydag ef, a chynigiodd y Parch. Tomos Efans, Fforddlas, a phasiwyd gydag unfrydedd i'w gael. Anfonwyd ato a disgwyliwyd yn aiddgar am ei ateb, yr hwn a ddaeth yn diolch yn gynhesol iddynt am eu gwahoddiad anrhydeddus, ond nas gallai feddwl am ddod yn ol eu cais, ei fod yn pregethu yn yr Eglwysi o gylch ei gartref, ond na allai feddwl am fyned i "Gwrdd Mawr " unrhyw gyfrif.
Dyna Tomos Efans, Fforddlas, yn union fel ef ei hun Cefais yr hanesyn uchod gan T. G. Jones, Ysw., Coedllai, diweddar Brifathro Ysgol y Cyngor yng Nghoedlai, a mab i'r diweddar Barch. G. R. Jones, cyn-weindog y Fforddlas, oedd yn weinidog y Tabernacl, Cefn Mawr, ar y pryd.
Dywedodd Mr. Jones iddo ysgrifennu yr hanesyn i "Seren Cymru," ond nad oedd yn cofio pa flwyddyn, ac nid oes amser i chwilio am y cyfryw. Gobeithiaf na wneuthum gam ag ef. Diolchaf i'm cyfaill hoff am ei ddweud wrthyf pan oeddwn yn cardota am ddefnyddiau yng Nghymanfa Rhuthyn.—Gwyddno.
VIII
Llinellau er cof am y diweddar Barch. Tomos Efans (Cyndelyn), Fforddlas, gan y diweddar Barch. Benjamin Davies, Rhuthyn.
Hiraeth mawr ar glawr y glyn
A'n daliodd am Cyndelyn;
Y dyn da, diniwaid oedd
A didwyll ŵr Duw ydoedd;
Awen fwyn ar lan ei fedd
Gorona'i hawddgar rinwedd.
Yr haeddol ŵr o'r Fforddlas,—a erys
Dan glodforedd addas;
Ni waherddir i'w urddas
A'i uniawn gred. wanwyn gras.
Dawel frawd, ei lafur ydoedd-onest
Fel cenad y Nefoedd;
Rhaid wylaw, medd ardaloedd
Ein gwir was Nef-deyrngar oedd.
Ni ddaliai ef swyddol waith,—ar y "Line"?
Drwy haelionus weniaith;
Geiriau Duw, drwy gur ei daith
Ni ddifwynodd ef unwaith.
Cadarnhau a'i foesau fu
Ddewisol grefydd Iesu.
Yr aelwyd deg ar ol dydd,—gysegrwyd,
A'i hedd fwriadwyd er budd efrydydd.
Yr Hen Lyfr anwylai O
Yn ei sel ro'l noswylio
I droi enaid yr annuw
Ei gariad oedd geiriau Duw,
Ei oriau'n llwyr wariai'n llon
At leshau teulu Seion.
Ei fendigedig Geidwad.—a gododd,
A'i gadarn gymeriad;
Yn ddi-len ei ddylanwad
Sy' ar lwydd Eglwysi'r wlad.
Adwaenir ei rawd union
A'i wir ffyrdd drwy'r argraff hon—
Yma yn huno ceir mwyn awenydd,
Cywir ei ofal, dros achos crefydd;
Gwylaidd ei enaid, gloew ddiweinydd,
Yn dilyn rhodiad ei lân Waredydd;
Yn ei foes i'r ddalen fydd,-a'i waith da,
Yn swyn na wywa, a'i oes yn newydd.