Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn)/Gweithiau Barddonol

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Atodiad i'r Cofiant Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn)

gan John Gwyddno Williams

-

RHAGAIR I'W WEITHIAU.

Diau y bydd llaweroedd yn falch iawn o weled Gweithiau Cyndelyn mewn argraff; ceir ynddynt bethau o ddiddordeb i gylch eang; personau ac ardaloedd Glannau Conwy, etc. Wel, siroedd Dinbych, Môn ac Arfon, yn arbennig; a pheth o bwys i haneswyr y cylchoedd.

Gwelir mai canu wrth ei bleser yr ydoedd, ac nid am wobrwyon; gwelir, hefyd, beth allasai ei wneyd pe wedi rhoddi ei fryd ar bethau mwy. Nid oes yma ddim gwael, efallai y gellir galw rhai pethau yn gyffredin, yng ngoleuni y beirdd newydd; ond rhaid cofio mai doe canwyd hwy. Ceidw ei draed bob amser ar dir cysegredig. Y mae a fynno yr oll a'r pethau gorau. y Ceir yn y gwaith ddeunydd mwynhâd i laweroedd. Er fod Cyndelyn ei hun wedi arllwys eu cynnwys ar ben cynulliadau mawrion, eto dyma i fechgyn Glannau Conwy gymaint o ddeunydd difyrwch ac a gânt yn un man heb anghofio Llyfr gwerthfawr I. D. Ffraid.

Boed hedd i bawb e garant Lên a Barddas eu gwlad.

Yr eiddoch yn Llengar,
Gwyddno.
Gorffennaf, 1935.

Nodiad. Y mae y gweithiau yn hollol fel y gadawodd yr awdur hwy.--Gol.

GWEITHIAU BARDDONOL

CAETH A RHYDD

Y DIWEDDAR BARCH.

TOMOS EFANS (CYNDELYN),

FFORDDLAS, GLAN CONWY.

GWEITHIAU PRYDYDDOL.

GWEDDI

Llais o ing yn llys angel—mewn hyder
Mýn hedeg o'r dirgel;
I borth Iôr mewn aberth êl,
A'i ddichon drwyddi ddychwel.



ARALL AR YR UN TESTYN.

Gweddi i'r byd tragwyddol—esgyna'n
Ddwys gwynion moesol;
A'i raid i'r enaid yn ol,
Duw yr i'r byd dacarol.



I'R BUGAIL.

(Buddugol yn Eisteddfod Conwy, Beirniad (Y Myfyr).

Bugail gyda'i gail a'i gi—a'i ffon hoff
A wna fawr wrhydri;
Ei braidd a geidw mewn bri,
Uwchlaw adwyth a ch'ledi.



Y GWRAGEDD WRTH Y GROES.

(Buddugol yn Glanwydden. Beirniad: " Spinther.")

Yno yn dystion distaw—hwy wylent
O weled eu Hathraw,
A'r lleng anwariaid gerllaw,
Benodwyd i'w boenydiaw.

Gwel'd hoelio, taro y tirion—a'i ladd
Gan lu o elynion;
Ow! ffei, gweld rhoir waewffon,
O'r golwg trwy ei galon.



DYMUNIAD AM CREFYDD.

Crefydd bur ddihalogedig,
Dyro imi, Arglwydd mawr;
Crefydd ddeil yn wyneb popeth
Sydd am gael fy mhen i lawr,
Hon rydd imi
Fodd i ganu am Dy râs.


Y WAWR COCH AR FACHLUD HAUL.

Lliwiog wawr y gorllewin—hon ddywed
Hin dda medd Haul iesin,
Ar ol ei râd araul rîn,
Hoff wrida'n anghyffredin.


Y LLYGODEN

(Buddugol yn Eisteddfod Conwy. Beirniad, Gwilym Cowlyd).

Dygn ac òd ei hegni—yw, Llygoden
Llygadog a gwisgi;
Lladronllyd, hefyd, yw hi,
Dewr odiaeth mewn direidi.


CETAWCO.

(Buddugol yn Eisteddfod Conwy. Beirniad: Gwilym Cowlyd ").

Anhydrin frenin ei fro—dywedant
Ydoedd (Cetawco);
Am hyn, mewn ing mýn Jingo
Shôn Bull roes y dwl dan dô.


Y DIOG A'R MORGRUGYN.

Y diog ar bob rhyw dywydd—a geir
Yn segura'n benrhydd;
Sail ei fod, O! sâl a fydd,
Neu rhyw boen dirfawr beunydd.

Dewr, diwyd ar hyd yr ha'—yw agwedd
Morgrugyn—ac yna
Yn ei nyth, ymloni wna
O gyrhaedd rhew ac eira.

Ddiogyn, dod nawddogaeth—i agwedd
Morgrugyn wasanaeth.
Yna, oerni cynni caeth
Arbedi trwy ddarbodaeth.


Y CYBUDD.

Llwm ei wisg a llym ei ên—cwyno byth
Ac yn byw'n ei elfen;
Llunia ing, mae'n llawn angen,
A'i bwrs yn gymaint a'i ben.


Y CRISTION AR EI DAITH.

Teithio 'rwyf rhwng 'stormydd geirwon
Tua'r porthladd prydferth fry,
Mae fy enaid yn hiraethu
Am gael gwel'd fy Mhrynwr cu,
'Rwy'n hyderu
Caf ei gwmni yn y man.

Ton ar dòn sy'n myned droswyf
Bron a suddo lawer gwaith
Tywyll, niwlog, yw o'm deutu,
O na bawn ar ben fy nhaith
Yn ddihangol,
Uwch y byd mewn gwlad sydd well.

Creigiau mawrion anghrediniaeth
Ymddangosant oddi draw
Yn fy erbyn fel mynyddu,
Gwnânt i'm lawer tro gael braw,
Yna byddaf
Gan fy ofn bron troi yn ol.

Pan bwy' felly mewn tywyllwch,
Methu canfod ail i ddim,
Haulwen ffydd a ddaw i'r amlwg,
A goleuni gwerthfawr im,
Yna byddaf
Yn ail gychwyn yn fy mlaen.

Pan edrychwyf i Galfaria,
Gweled Iesu mawr ei hun
Yno'n dioddef loesion angau
Pan yn gorffen prynu dyn,
Bydd fy enaid
Yn cael achos llawenhau.


Myrdd o rwystrau elaf drwyddynt,
Mi gaf nerth yn ol y dydd,
Beth yw'r oll o'r 'stormydd erchyll,
Nid ynt ddim yn wyneb ffydd,
Ymwrolaf,
Af yn hy trwy nerth fy Nuw.


Wrth wrandaw ar y Parch. John Roberts, Pontllyfni, yn
darlithio ar y diweddar Barch, Robert Jones, Llanllyfni yn Glan Adda, Bangor.

Hynod Roberts ddywed inni—hanes
Yr enwog Lanllyfni;
Gwron ym mysg hen gewri,
Pert iawn oedd ein Robert ni.

Enwog a fydd ei hanes—am oesau,
Mae eisoes yn gynnes,
A'i gofrodd sydd yn gyfres,,
A'i hynod ddawn yn llawn lles.

Boddus ei drem ar Babyddiaeth—yn hir
Erys mewn hanesiaeth;
Noddir ei Emynyddiaeth,
A'i Emau syw sy'n fyw faeth.

Gweddus ac enwog weddiwr-ydoedd,
Hynodol bregethwr ;
Hoff hynod amddiffynwr
A fu i deulu y dŵr.


Y WAWR.

Cysgod haul, cu wasgod wen—ydyw'r wawr
Ar fron dwyrain wybren;"
Draw yn wiw hyd awyr nen
Hon hwylia o flaen heulwen.


ARALL.

Cenhades liwdeg gŵn. hudol-yw'r wawr
Ar ael nen ddwyreiniol,
Arianaidd a chyfriniol
O wedd hardd, a dydd o'i hol.


ARALL.

Hudolus yw y dlws awyr-yn dyweud
Fod dydd yn ei wewyr,
Hoff addas nos ddiffoddyr,
Yw'r wawr deg o'i goror dyr.


Ar ol y diweddar R. W. George, Menai Bridge.

Y duwiol hwn dawel hunodd—wele
William adref groesodd,
Aeth i fyd sydd wrth ei fodd-nefol wlad
Hoff oedd o'i Geidwad a'i ffydd a gadwodd,


Ar ol "Sushanah," merch Robert a Jane Williams,
'Rynys Fawr, Glan Conwy.

Hir nychodd o ran ei hiechyd—bu fyw
Heb fawr hoender bywyd;
O'i bodd yn ieuanc o'r byd-hi a aeth
I fro uwch alaeth yn ddifrycheulyd.


Ar ol Sarah," merch Enoch a Sarah Roberts, Factory.

Lodes rinweddol ydoedd—a hynod
Annwyl gan laweroedd;
Eisiau hon ar Iesu oedd
I baradwys ysbrydoedd.


A gyfansoddwyd wrth ganfod y diweddar Cynddelw yn
dod o gyfeiriad Ponttripont i orsaf y Valley, a'i farf fawr
yn cyhwfan yn y gwynt.

Barf hirach na barf Aaron-yn disgyn
Hyd wasgod y gwron;
Ni fedd neb farf yn Arfon
O liw hardd un ail i hon.


ER SERCHOC GOF am Flora Jane, annwyl ac unig blentyn
Richard a Marg. Williams, Smithy, Ty'n y Groes, yr hon a ymadawodd
a'r fuchedd bresennol Mawrth 2, 1894, yn 9 mis oed, ac a gladdwyd yn Mynwent Caer Rhun, Mawrth y 5ed.

Mynych gwelwyd yn y Gwanwyn
Foreu tawel hyfryd iawn,
Anian drwyddi yn ymloni
Dan belydrau heulwen lawn.
Mân eginau trwy y dyffryn,
Blodau blydd yn ber eu sawr,
Cor y goedwig yn cydbyncio
Molawd idd eu Crewr mawr.

Ond yn fuan gwelwyd arwydd
Y fod storm yn casglu draw,
Wele gwmwl du yn hofran,
Yna mellten yn rhoi braw,
Taran erchyll a llifddyfroedd,
Ac arswydol ddeifiol wynt,
Erbyn dranoeth, O'r olygfa,
Pob prydferthwch wedi mynd.


Ail i hyn fu gyda chwithau,
O'ch priodas yn y Llan,
Cartref dedwydd, ffawd yn gwenu,
A phob un yn gwneud ei ran,
Er coroni eich disgwyliad,
A'ch llawenydd yr un modd,
Ganwyd ichwi febyn annwyl,
A mawr eich diolch am y rhodd.

Yr oedd hoffter yn ei llygaid,
Ac anwyldeb yn ei gwen,
Penderfynwyd ar ei henw,
Galwyd hi yn Flora Jane,
Hawdd yw genym gwbl gredu
Ei bod wedi dwyn eich bryd,
A'ch gobeithion am ddiddanwch
Ar eich aelwyd ddedwydd glyd.

Pan yr oeddych felly'n llawen,
Pawb yn canmol Flora bach,
Ac yn dotio at ei phertrwydd,
A'i gwynebpryd siriol iach;
Wele'n sydyn arwydd eglur
Y fod cwmwl yn crynhoi,
Yn awyrgylch eich hapusrwydd,
Ac nas gallech ei ysgoi.

Gyda hyn mae'r storm yn rhuthro,
Gan andwyo eich mwynhad,
Cludodd ymaith o'ch mynwesau
Er eich gwaethaf Flora fâd.
Rhoddwyd archoll yn eich teimlad
Fydd yn anhawdd ei wellhau,
Mynych gofion byw am dani,
Bar i hwnnw hir barhau.

Ond rieni na alerwch
Am eich annwyl Flora Jane,
Eisiau hi oedd ar yr Iesu,
I fwynhau ei ddwyfol wên,
Ac i chwareu ei haur delyn
Ar y testyn mwyaf gaed,
Iddo Ef, yr hwn a'i carodd,
Ac a'i golchodd yn ei waed.

Pe gofynech iddi heddyw
Ddod yn ol i wella'ch clwyf,
Hi ddywedai-diolch i chwi
Gwell i mi y fan lle'r wyf.
Annwyl riaint, ymdawelwch,
Ymfoddlonwch' dan y drefn,
Os parhewch i ddilyn Iesu
Cewch wel'd Flora bach drachefn.

Mal pêr rosyn gwyn yn gwenu-y bu
Flora bach anwylgu;
O gôl y fam galw fu
Y Rhosyn at yr Iesu.

I J. T. Marks, Ysw., C.E., Llandudno, ar ei waith yn cadeirio
mewn darlith yn Fforddlas

Celfydd beirianydd enwog—yw ein Marks
Boneddwr mwyn, serchog;
A llywydd gwir alluog-mewn eisiau
Yn llenwi seddau yn llawen swyddog.


Llinellau Coffadwriaeth am y diweddar John Davies, Ffynnon
Roger, Codau, Abergele.

Nid yw ffermdy Ffynnon Roger
I mi heddiw megis cynt,
Er fod yno deulu hoffus,
Mae'r anwylaf wedi mynd;
Wedi mynd, medd dagrau priod,
Wedi mynd, medd dagrau plant,
Wedi mynd, medd Eglwys Codau-
Ydyw, ydyw, annwyl sant.

Aeth pan ydoedd haul ei fywyd
Yn awyrgylch canol dydd,
Cyn blodeuo o'r pren almon,
Na rhych henaint ar ei rudd;
Aeth o anfodd ei gyfeillion,
Aeth yn dawel a digryn:
Wedi brwydro â thrallodion
Aeth o'u gafael trwy y glyn.

Priod hawddgar, tad gofalus,
Tyner, tawel, oedd ei fryd,
A chymydog cymwynasgar,
Parod gyda'i help bob pryd;
Ond prif nod ei fywyd ydoedd
Bywyd ei Waredwr cu,
A dilynydd ffyddlon iddo
Hyd ei fedd efe a fu.

Blaenor ydoedd, nid mewn enw,
Ond mewn cymwysterau llawn,
Blaenor hefyd i flaenoriaid
Yn ei gyngor, yn ei ddawn;
Pan gynheuai tân anghydfod,
Heb fawr reswm o'r paham,
Trwy ei bwyll a'i feddwl treiddgar
Medrai ef ddiffoddi'r fflam.

Bu'n arweinydd cyrddau Seion
Hyd nes pallodd o ran nerth-
Cydnabyddid ei alluoedd,
A'i wasanaeth o fawr werth;
Adnabyddai ddoniau'r brodyr,
Eu gwaith roddai i bob un,
Felly ceid y cyfarfodydd
Oll yn drefnus a chytûn.


Cerddor celfydd, ac arweinydd
Canu Seion ydoedd ef,
Medrai ennyn ysbryd canu
Gyda'i dyner, swynol lef;
Ysbryd moli a bendithio
Enw Duw am drefn Ei ras,
"Diolch Iddo," "Diolch Iddo,"
A ddatgenid gyda blas.

Colled dirfawr oedd ei golli,
Ergyd drom i'w briod cu,
Cwmwl dudew dros ddyfodol
Ei anwyliaid hefyd fu:
Colled bwysig oedd i'r Eglwys,
Tristwch glywir yn eu llef-
Gyda dwyster soniant beunydd
Am ei ymadawiad ef.

Chwi sydd heddyw yn galaru
Am fod Davies yn ei fedd,.
Cymedrolwch eich pur ddagrau,
Na thristewch fel rhai di-hedd;
Y mae gennych sicrwydd gobaith
Am ei gadwedigaeth ef-
Mynnwch chwithau sicrwydd hefyd
Cewch ei gwmni yn y nef.


Y DDAU-WYNEBOG

Yn eich wyneb y ddau-wynebog—geir
Mewn gwên yn gymylog;
Hyf elyn yw'r diaff euog
Yn dwyn ei gledd o dan glôg.

Dawn seraph, ond un sarphaidd—a'i aberth
I ddiben anweddaidd;
Oen o flew, ond hen flaidd
Hyll, a choryn llechwraidd,


Atgofion am fy hen gartref, lle y'm ganwyd a'm magwyd. Hen dy tô gwellt ydoedd, a dim ond cegin a siamber, ym mhen pellaf y Graig, ar y llaw dde wrth fynd o'r Llan i gyfeiriad Talycafn. Yr oedd gardd yn ei amgylchynnu. Y mae yn awr bedwar o dai newyddion ar y fan y safai. Yr oedd yr hen dy yn cael ei alw'n "Ty'n y Pant" ar lyfrau'r dreth.

Pa le, O! pa le mae y bwthyn
A elwid yn "Dy yn y Pant,"
Oedd hynod henafol ei arddull,
A'i oedran yn ddau neu dri chant?
Ei furiau oedd lydain a chedyrn,
Heriasant ystormydd a mellt,
Ac arnynt dylathau o dderw
Er cynnal ei drwchus dô gwellt.


O amgylch ei fychain ffenestri
Y tyfai pren rhosyn gwyn tlws,
Ac arogl ei beraidd rosynnau
A ddeuai i mewn trwy y drws;
O dan ei fargodion y nythai
Yr hynod aderyn y to,
A hithau'r fwyalchen ymbranciai
Ar frigyn gerllaw yn ei thro.

O'i amgylch 'roedd gardd a pherlysiau,
Lle'n fynych llafuriai ein tad,
A ninnau fel plant yn ei helpu-
Cael dysgu cedd dâl a boddhad;
Ac weithiau caem ddyrnaid o eirin,
Ac afal neu ddau, am ein gwaith,
Ond os y caem gyfle, fe elai
Yr afal neu ddau yn gryn saith!

O fewn ei glyd aelwyd henafol
Ymgasglem fel teulu ynghyd,
Ein tad gyda'i lyfr neu ei erfyn,
A'n mam gyda'i hosan 'run pryd;
A ninnau yn dysgu ein tasgau
Er myned i'r ysgol drachefn,
A'n tad â'i edrychiad yn cadw
Llywodraeth, a heddwch, a threfn.

Byw adgof a rêd trwy ein mynwes
Am arddull y siamber fach glyd-
Un gwely-ystafell ragorach,
Ni gredem, nid oedd yn y byd;
I'r gwely yn gynnar yr elem
Ar ôl dweud ein gweddi bob un,
Ac yno ceid stori ddiniwed
Cyn gorffwys yn dawel mewn hun.

Cael myned i wely'n rhieni
Ar ôl iddynt godi oedd fraint,
Ac yno yn ddistaw y byddem,
Yn edrych mor dduwiol â saint;
O fewn i'r hen siamber ddi-addurn,
Yng nghanol y gwely bach clyd,
Breuddwydiem am gyfoeth a phleser
Cyn gwybod am drallod y byd.

Ond heddyw nid diben ymholi
A gofyn pa le mae'r hen dy—
Llaw tynged ddaeth heibio a'i chwalu,
Ac heddyw nid oes ond lle bu;
Pa le mae ein hannwyl rieni
Fu yno'n ein magu mewn hedd?
'Rôl brwydro â llu o drallodion,
Maent heddyw yn huno'n y bedd.


Pa le mae y teulu a fagwyd
Ar aelwyd Hen "Dy yn y Pant"?
Trwy ddyrys, ddoeth droeon rhagluniaeth,
Ar chwalfa 'rym ninnau, y plant;
'Run dynged â'n hannwyl hen gartref,
I ninnau rhyw ddiwrnod a ddaw—
Am hynny ymdrechwn feddiannu
Y nefol dy nid o waith llaw.

Englyn byrfyfyr a wnawd i hen gymeriad hynod o Caergybi
a adnabyddid wrth yr enw Will Hughes.

Will dda gwr, Will ddiguro—yw Will Hughes,
A Will hael lle byddo;
Naws milan, llawn o smalio,
A llais 'run ffunud â llo.

ER COF am D. Williams, Cocau, Betws, Abergele, yr hwn
a hunodd yn yr Iesu Ebrill 17eg, 1897, ac a gladdwyd ym mynwent
y Bedyddwyr yn Llanelian y dydd Mercher dilynol.

O! ein brawd a'n cyfaill hoffus,
Paham y gadewaist ni?
A raid inni ymfodloni
Heb dy gwmni gwerthfawr di?
O! mae'n anhawdd gennym gredu
Fod dy gorff yn awr mewn bedd,
Ac na chawn dy weled eto
Yr ochr hon i wlad yr hedd.

Trwy y cyfnewidiad rhyfedd
Aethost cyn in' gredu'r ffaith,
Meddyliasom gael dy gwmni
Unwaith rhagor ar y daith;
Ond ti aethost i gwmnïaeth
Llawer gwell na'n cwmni ni-
Cwmni'th Arglwydd bendigedig,
Oedd mor annwyl gennyt ti.

O! na allet yrru llinell
O dy hanes yn y glyn,
Modd yr aethost drwy'r Iorddonen
Adref draw i Seion fryn;
A ddaeth rhywun i'th gyfarfod
I'th roesawu'r ochr draw?
Ddaeth yr Archoffeiriad ffyddlon
I roi iti help ei law?

Do, ni gredwn-ni chawn wybod
Yma'n myd yr anial maith,
Nid oes gyfrwng i'n hysbysu,
Anhraethadwy ydyw'r iaith;
Disgwyl raid i ni'n bresennol
'R ochr hon i'r afon ddofn,
Hyd y dydd y cawn ni ddyfod
Drwyddi atat yn ddiofn.


O fy mrawd, mae hiraeth arnaf,
Hiraeth fydd am amser maith,
Am yr annwyl gyfeillachau
Gawsom yma lawer gwaith;
Melys gennyf fydd adgofio
Ai groesffyrdd a'r ffordd i'r Llan,[1]
A gwastadedd y Brynhyfryd,
A phen yr allt, O! ddedwydd fan,

Lle y buom yn ymddiddan
Am y Groes a'r byd a ddaw,
Wedyn 'madael mewn tangnefedd
Trwy sylweddol ysgwyd llaw;
Nid rhyw ffug o gyfeillgarwch
A oedd rhyngom ni ein dau,
Meddwl am y golled gefais
Bâr i'm henaid wir dristáu.

Colled ddirfawr oedd ei golli,
Gwag hyd heddyw yw ei le,
Gwag yw'r ty, a'r ardal hefyd-
Gwir gymydog oedd efe;
Teimlai'n ddwys pan welai angen,
Ei law agorai yn y fan,
A chyfrannai'n ewyllysgar
Ran o'i dda i helpu gwan.

Gweithiwr diwyd a darbodus
Gyda'i orchwyl oedd efe,
Ei ddyledswydd a gyflawnodd
At y byd a theyrnas ne';
Colled bwysig oedd ei golli
Idd ei briod hawddgar fron,
Ac i'w annwyl eneth hefyd,
Hithau deimla'r golled hon.

Colled hefyd fu i'r Eglwys,
Un o'i phrif golofnau oedd—
Cristion didwyll, egwyddorol,
Yn dirgel ac ar g'oedd;
Ail i Simon mewn brwdfrydedd
Ydoedd dros ei Arglwydd mawr,
Cafodd ddeugain o flynyddau
I'w wasnaethu ar y llawr.

Yn yr eglwys blaenor ydoedd,
Llanwai'r swydd yn deilwng iawn—
Meddai allu, meddai brofiad,
A gwybodaeth Feiblaidd lawn;
Trefnydd ydoedd, doeth, gofalus,
Gwyddai'r modd i gario'r gwaith,
Ac i'r ieuanc bu yn athraw
Yn ei foes ac yn ei iaith.


Bu ei lety yn Bethania
I holl weision Iesu Grist,
Cartref oddi cartref ydoedd
I nerthu'r gwan a llonni'r trist;
Yr oedd ef a'i briod hoffus.
Am y gorau'n gwneud eu rhan—
Chwithdod meddwl na chawn mwyach
Ond adgofio'r ddedwydd fan.

Nawdd y nef fo idd ei weddw,
Ac i'w ferch a'i phriod cu,
Cymorth iddynt ymdawelu
Nes el heibio'r cwmwl du;
Fe ddaw eto heulwen olau,
Mae ein Harglwydd wrth y llyw,
Ac mae popeth er daioni
I'r rhai sydd yn caru Duw.


Y BLUEN AR YR AFON.

Mewn trobwll ar afonig dlos
Chwim nofiai pluen fechan,
Yr oedd fel pe buasai'n fyw,
Yn chwarae wrthi'i hunan;
Yn llawn o nwyi, pysgodyn ddaeth
A llamai ati'n sydyn-
Gan dybio mai pryfedyn oedd,
Bwytaodd yr amheuthyn.

Ond och! y siomiant ddaeth i'w ran,
Nid pryfyn oedd, ond abwyd—
Ynghudd o dan y bluen dlos
Angeuol fach ösodwyd;
Ar dorlan draw, pysgotwr oedd
Yn gwylied ei symudiad,
A chyda'i enwair, dal a wnaeth
Y brithyll mewn amrantjad.

Fel pluen ar yr afon yw
Holl hudoliaethau'r diafol—
I'r llygaid tra deniadol ynt,
Yn llawn o bob peth swynol;
Fel hen bysgotwr cyfrwys, call,
Gerllaw bydd ef ei hunan,
Ac O! mor fawr ei grechwen fydd
Pan lwydda yn ei amcan.

Ieuenctid hoff, gochelwch rhag
Cofleidio pob amheuthyn,
Os swynol ynt, ystyriwch hyn—
"Nid aur yw popeth melyn";
Tu ôl i'r llen yn fynych bydd
Golygfa a bar ddychryn,
Ac mae cwpanau hardd eu lliw
Yn dal eu llond o wenwyn.


DYMUNIAD

O Arglwydd Dduw, dod imi nerth
I ddringo hyd y rhiwiau serth,
Ac yna deuaf yn y man
I etifeddu'm nefol ran.


GWAHODDIAD I'R YSGOL SABOTHOL.

I'r Ysgol Sabothol, ieuenctid hoff, dewch,
Y mae yn eich gwahodd, a chroesaw a gewch,
A chwithan henafgwyr, rhoi iddi help llaw-
Trwy feddu eich cymorth daioni a ddaw;
Pob gradd a sefyllfa, pob oedran, pob rhyw,
Dewch iddi o'ch gwirfodd i ddysgu Gair Duw.

Athrofa fendigaid sy'n dysgu yn rhad
Yw'r Ysgol Sabothol-mae'n fendith i'r wlad,
Ei haddysg sy'n werthfawr lle bynnag yr ewch,
Cysuron ysbrydol o'i feddu a gewch;
Pob gradd a sefyllfa, pob oedran, pob rhyw,
Dewch iddi o'ch gwirfodd i ddysgu Gair Duw.

Mae llawer fu ynddi yn dysgu'r A B
Yr awrhon yn meddu safleoedd o fri,
A pharod gyffesant mai hi biau'r clod
O greu ynddynt awydd i gyrraedd eu nod;
Pob gradd a sefyllfa, pob oedran. pob rhyw,
Dewch iddi o'ch gwirfodd i ddysgu Gair Duw.

Os ydych am feddu gwir fwyniant a hedd,
A meddu y nefoedd rôl angau a'r bedd,
I'r Ysgol Sabothol, yn ffyddlon oll, dewch,
Derbyniwch ei haddysg, a'r nefoedd a gewch;
Pob gradd a sefyllfa, pob oedran, pob rhyw,
Dewch iddi o'ch gwirfodd i ddysgu Gair Duw.

CYFARFOD LLENYDDOL MORIAH, TANYFFORDD.
LLUN Y PASC, 1892.

Megis eraill o ardaloedd
A heirdd gymoedd Cymru fåd.
Medd yr ardal hon enwogrwydd,
Enwogrwydd natur-pwy a'i gwâd?
Oddi ar ei bryniau oesol
Ceir golygfa swynol iawn,
Yr arddunol a'r rhamantus
Yn eu gwisgoedd gorau gawn.

Mân ddoldiroedd teg a ffrwythlon,
A chornentydd llawn o gân,
Lle yr una'r côr asgellog
I delori'u hodlau mân;
Ar lechweddau'r gwyrddlas fryniau
Pora'r defaid, prancia'r ŵyn,
A'r lle cyntaf cana'r gwew
Yw ar gangau coed Ty'n Llwyn.


O geseiliau clyd y Bryniau
Tardda man aberoedd syw,
Pur a melys yw eu dyfroedd,
Disglair fel yr arian byw;
Ynddynt ceir y tlysog frithyll
A'r amliwiog eog hardd,
Edrych ar y rhain ynchwarae
Ddena, swyna, galon bardd

Nid prydferthwch gorau natur
Anfarwola'ch hyfryd fro,
Ond duwioldeb yr hen dadau
Aethant adref er ys tro—
'R hen John Jones a Robert Davies,
Eraill hefyd yn ddilyth;
Mae en henwau'n perarogli,
Ac a fyddant felly byth.

Llawn yw'r fro o hen allorau,
Aml i lannerch—Bethel yw
Lle bu'r ffyddlon bererinion
Yn gorchfygu gyda Duw;
Annwyi ienctid, ceisiwch grefydd,
Crefydd ddeil o dan bob gordd—
Crefydd felly ydoedd crefydd
Hen dduwiolion Tanyffordd.

CYFARFOD LLENYDDOL BRYNDAIONYN, EGLWYSBACH,
NOS IAU, TACHWEDD 26, 1896.

Bryn a gwerth iddo'n perthyn—ydyw
Nodwedd Bryndaionyn;
Uwch ei fri bo eich iach Fryn,
Ac aur fo'n hulio'i goryn.

Ar ei ben bo gwir beunydd—a thrylwyr
Athrylith ar gynydd;
A'i lenyddiaeth yn faeth fydd,
A gwir hufen i grefydd.

Heno ceir yn ddinacâd—ar ei ben
Wyr o barch a phrofiad;
A cherddorion mynion, mád,
Medrus mewn cân a mydriad.

A thraethodwyr gwyr llawn gwaith—a thalent
Fythola'i llafurwaith;
Adroddwyr a'u mydryddiaith,
Heno sydd mewn hoenus iaith.

A'u beirdd, ceir hwythau yn bod-ar y bryn
Er bri i'r cyfarfod;
Yn gewri clau, gwyr a'u clod
Yn bur ac eglur hyglod.


A beirniaid geir yn barnui—ddangos
Lle bydd angen dysgu;
Yn ddiffael er cael y cu,
Hwynt a allent wyntyllu.

Frodyr yn bybyr gwnawn bobpeth—fyddo.
O fuddiant yn ddifeth,
Er lles bachgen a geneth,
Ar ddawn o dras rhoddwn dreth.

Gweithiwch, ameanwch gynnal—achos Ior
A cheisiwch yn ddyfal;
A'ch Duw a rydd i chwi dâl,
Hwn ddaw eto'n ddiatal

CYFARFOD LLENYDDOL MORIAH, PASG, 1899.

I Moria mewn mawr awydd—y daeth
Hardd dorf yn ddidramgwydd;
A'r ŵyl hon yn foddion fydd,
O faeth i hynafiaethydd.

Er cynnydd ar y canu—a chynnydd
Gwych hynod cystadlu.
I ddwysgall wir addysgu,
Yn ddoethion lenorion lu.

Llenorion, dynion doniol-o'r bryniau
A'r bronnydd cylchynol,
Daw preswylwyr bryn a dól
I werth mawr wrth ymorol.

Ysgol er dechrau esgyn—i gyrraedd
Rhagoriaeth arobryn,
A nod talent yn dilyn
O radd hael, yw'r cyrddau hyn.

'R ŵyl hon yn foddion fyddo—i lawndeg
Undeb a llafurio;
A gwledd mewn tangnefedd fo
Hanes cystadlu heno.


ADGOFION AM FORE OES.

Ynghanol helbulon, trallodion yn llu,
Mor hyfryd yw cofio yr amser a fu,
Mae'n meddwl yn 'hedeg i'r adeg a'r oes,
Am ofid ni wyddem, ni theimlem un loes;
Mor hoenus chwareuem pan oeddym yn blant,
A meddem chwareuon ni gredwn gryn gant,
Un am ei dopyn, a'i chwipio'n ddiball,
Ond cyllell a naddu oedd hobi v llall;
O dyddiau dymunol rhowch eto eich côl,
Ond profiad a ddywed na ddeuwch yn ol.


Un arall a fynai gael ceffyl a chwip,
A gwaeddai'n ddi-ddiwedd, Way, Way, getro jip,
A'r llall fyddai wrthi yn buildio gerllaw,
Gan osod ei gerrig mewn mortar o faw;
A chodai adeilad fel Twr Babel fawr,
Ond rhywun a'i heibio a chic iddo'i lawr;
Am hynny y builder a fyddai o'i gô,
A'i gaddo hi'n erchyll o herwydd y tro;
O ddyddiau dymunol, chwi aethoch fel gwynt,
Mae profiad yn d'wedyd bod ninau yn mynd.

Ond wedi'r holl addo anghofid drachefn,
A phawb a chwareuai mewn heddwch a threfn,
Os byddai yn gwlawio aem ati'i wneud llyn,
A mawr y prysurdeb a fyddai'r pryd hyn;
Un gyda 'i ddwylaw, a'r llall gyda i raw,
A phawb am y gorau'n bwaeddu'n y baw,
Ar ol i ni wtychu yn wlyb at y cruen,
Difeddwl a tyddem am ofid a phoen,
O adeg fendigaid ple 'rydwyt yn awr?
Ni deimlem na wewn byth mwyach dy wawr.

Ar ol i ni faeddu a gwlychu'n ddidrefn,
Gwynebu ein cartref oedd galed drachefn,
Ein mam a otynai-ple buoch chwi blant ?
A ninnau a luniem esgusion gryn gant;
A hithau ddywedai yn arw fel gwnai,
A ninnau a ofnem wrth glywed y ffrae,
Oherwydd y trosedd, y ddeddf yn ei grym,
Fyddai gwely heb swper, a'i gaddo hi'n llym,
O ddyddiau gwir ddedwydd, ple'r aethoch ar hynt ?
Ein profiad a ddywed eich bod wedi mynd.

I hel nythod adar yr elem ar dro,
A chwilem yn ddyfal holl gloddiau y fro,
A dyna lle byddem yn gyntaf ac ail,
Cael ambell ryth Robin ynghanol y dail;
Wrth ddringo y cloddiau, cael rhwyg yn y clos,
A'i wnio yn ddirgel oedd raid gyda'r nos;
A mawr fyddai'r helynt wrth gyfrif pob wy,
Ceid rhai yn cael gormod ac eisiau cael mwy,
O ddyddiau ieuenctid chwi aethoch yn gynt,
Na gwenol y gwehydd, neu'r tarth ar ei hynt.

Ni godem yn forau i ddysgu ein tasc,
Er mwyn dillad newydd a gawsid y Pasc,
A phan ddeuni'r amser, i'r ysgol ar râs,
A mawr fyddai'n meddwl o Ysgol Fforddlas;
Y da William Roberts, ein hathraw oedd ef,
A phawb yn ei barchu fel angel o'r Nef;
O ddyddiau ieuenctid, ni chawn ddod i'ch côl,
Ond darpar ar gyfer y dyddiau sy'n ol.
Mae byd yn ein haros lle gallwn gael byw,
Am byth mewn ieuenctid, yng nghwmni ein Duw.


EISTEDDFOD CONWY, NADOLIG 1896.

Wele 'steddfod a'i chôd yn gwych ledu,
Edmygu talent a magu teulu,
Hen Gonwy addien yn iawn gynhyddu,
A'i mheibion giewion mewn gwaith yn glynu,
Yn fawr enw'r hen Dre fu- ac eilchwyl,
Am ei hoff orchwyl bydd mwy o'i pharchu;
Heddiw ceir mewn bri noddi llenyddiaeth,
A beirdd enwog i nyddu barddoniaeth,
Ac y mae eraill yn gu am araeth,
Ceir i dda arwain hoffwyr cerddoriaeth,
A cheir llenorion o chwaeth-Traethodwyr,
Chwareuwyr, goreuwyr pob rhywogaeth.


Eisteddfod Ebenezer Eglwysbach, 1897.
I'R LLYWYDD.

Cadeirydd, llywydd, llawen,—ydyw Lloyd.
Wele mae yn berchen
Adnoddau dyn addien,
Lawn ei barch mae heddiw'n ben.


LLOYD Y CHWAREUWR,

Cawn Lloyd arall ddiwall ddyn,—Ioan Lloyd
Hen lyw yr offeryn,
Yn ei le efe a fyn
Uniawn adwedd pob nodyn.


Y BEIRNIAD CERDDOROL.

O Niwbwrch i wynebu—y corau
Ceir Prys Jones i'w barnu,
Dealla gân a'i ddull gu
A chlir iawn gwna'i cloriannu.


BEIRNIAID ERAILL.

A beirniaid eraill heb wyrni—a fu
O'u gwirfodd yn tafoli,
Heddiw'n fawr cawn brawf o'u bri
A'u tegwch wrth ddatogi.


Eto i'r Wyl yn gyffredinol.

Ceir Eisteddfod a'i nôd a'i beirniadu
N'edmygu talent a magu teulu,
Llenorion a dynion fedr ein denu
A cherddorion rhai ceinion yn canu,
A'u hathrylith yn fendith fu—i'n gwlad
Yn ddiymwad nid hawdd ei ddiddymu.


Henffych i'r dydd pan mewn hedd gorseddir
Y da a'r teilwng, i'r dewr y telir
Mwy o sylw, a'r salw iselir,
Ac hyn o fodd mewn amser ganfyddir.
Eto'r Eisteddfod a'i chlod uwch ledir,
A gwagsaw hyllion arferion fwrir.

O fodolaeth, a'u hen fyd welir
Yn iawn deithio, a phawb fendithir,
Gwirionedd a goronir—Llenyddiaeth
A cherddoriaeth yn uwch, uwch, urddir;
Dyma'r dydd y bydd pob pau—mewn hoender
A phob Ebenezer a phawb heb un eisiau.


Y SALMYDD.
Cyd fyddugol a Llenor o'r Llwyni yn Llanfairtalhaiarn.

Cerddor a phen awenydd—ei genedl
Ni gawn oedd y Salmydd
Nerth i enaid wrth raid rydd
Nodau y perganiedydd.

Cymru ac addysg yn y flwyddyn 1895.

Dringo trwy rwystrau angen—yn awr
A wna ein gwlad addien,
A daw yn fath o Athen.
Ie, a mwy, mwy, Amen.


CYNGORI'R IEUENCTID.

Ymroddwch am wir addysg,—y meddion
I'ch meddwl fo'n hyddysg,
Y gwyr da gorau eu dysg
Ddaw a geinau yn gymysg.


Cyfarfod Llenyddol Llanelian, Mehefin sed, 1888.

Llanelian heddiw'n llon welir—a phlant
Ei phlwy anrhydeddir,
Cael diwrnod a'i glod yn glir,
Ac hefyd y ffaith gofir.

Y meddwl yn cael moddion,—i'w goethi
Cael gweithio yn gyson
A llês i'r rhai ieuanc llon,
Yw'r achos o'r ymdrechion.

Llanelian mewn llawn alwad,—a welir
Yn hwyliog yn wastad,
A mwy am eich defion mâd
Bydd son a boddus syniad.


HEN URDD Y COEDWIGWYR.

Hen urdd y Coedwigwyr un annwyl yw hi,
Ei henw a'i hanes sy'n uchel mewn bri,
Hon ddywed yn eglur, mewn undeb mae nerth,
Ac undeb mewn angen a ddengys ei werth.

Brenhines undebol dyngarol ein bro,
Yw'n hen urdd odidog mwy enwog y bo,
Trysorfa ddarbodol ar gyfer y cla',
Rhag angen a thlodi ei gadw a wna.

Nid rhaid iddo fyned ar ofyn y Plwy,
Na dioddef cras eiriau eu Hofficer hwy,
Mae ganddo drysorfa, ynghadw wrth gefn,
O hon y derbynia drachefn a thrachefn.

Derbynia wasanaeth y meddyg yn rhad,
A hwnnw ni gredwn y gorau'n y wlad,
A phan y dêl angau i'w alw o'r byd,
Mor werthfawr i'r teulu fydd help ar y pryd.

Am hynny mawrygwn, canmolwn ein hurdd,
Yr hon sydd yn meddu aelodau fil myrdd,
Cymhellwn yr ieuaine i uno a hi,
Hwy ydynt ei haddurn, a'i choron a'i bri;
Dywedwn yn eofn, mewn undeb mae nerth,
Cyflawnwn weithredoedd fo'n dangos ei werth.


Y CHWEDLEUWR DAU-WYNEBOG.

Ym mhob cymdeithas bron fe gawn
Rhyw un yn hoff o chwedlau,
Ei waith o forau hyd brynhawn
Fydd llunio rhyw gelwyddau,
A'u bwrw allan o'i hen bair,
Yn hynod ddefosiynol,
Fel pe bae neb yn deall gair
Oi fradwaith hyll afreidiol.

Mae'n gwybod hanes pawb trwy'r wlad,
A thraetha'r cyfryw hefyd,
Ac nis gall beidio rhoi sarhad
I'r gwrthrych wrth ymyryd;
Hyd atoch daw fel pe dan bwn,
Gofyna gyda syndod,
Glywsoch chwi am hwn a hwn ?
Mae pawb o'r braidd yn gwybod.


Daw atoch weithiau gyda gwedd
Dra hynod Phariseaidd,
Ond hyn yw'r gwir, bydd ganddo glêdd
O dan y wên falfedaidd;
Eich hudo bydd, er ceisio cael
Eich meddwl hyd ei waelod,
Ac wedi llwyddo yn ddiffael,
Bydd arnoch yn ymosod.

O herwydd arfer isel iaith
A mynd trwy'r wlad i glebran,
Bu hwn yn enwog lawer gwaith
O danio ardal gyfan;
Ac O! mor dduwiol byddai e'
Yn gwrando ar y cyffro,
A theimla'n ddwys fod dim o'i le
Ond pwy a gredai'r cadno.

Daw'r Meistr yn ei dro trwy'r gwaith
A bydd yn fawr ei dwrw,
A braidd nis gall ymatal, chwaith,
Heb arfer geiriau garw,
Ond erbyn dranoeth ceir paham
Yr ydoedd ef yn dwrdio,
Y clebrwr câs fu'n dweyd ar gam
Am rhyw bersonau wrtho.

Mae'n ail i Judas fradus gynt,
Edrychwch fel mae'n llechian,
A ble dybygech mae o'n mynd
Mor gydym wrtho'i hunan;
Mae ganddo 'stori newydd spon
Am rhywun, gellwch goelio,
A mynd y mae i adrodd hon
I'r lle disgwylia groeso.

Gweithredydd ydyw hwn dan gudd
Llechwraidd ei ymddygiad,
Diniwed iawn lle bynnag bydd
Os credwch chwi ei siarad:
Ond gwelir rhywbeth yn ei waith
A ddengys nad yw felly
Ac nid rhaid aros amser maith
Er mwyn cael praw o hynny.

Fel hyn yn wastad bydd ef
Yn creu a chodi cyffro,
Hyd nes bydd pawb ac uchel lef
Yn bwrw'i melldith arno;
Ei amcan yw dyrchafu'i hun
Wrth geisio gostwng arall,
Ond hyn yw'r gwir y mae y dyn
Yn wawd gan ddoeth ac anghall.


Yn bla mewn byd ac eglwys cawn
Y clebrwr câs ei galon,
Ar ol gweithredu'n deilwng iawn
Bydd ganddo ef achwynion;
A'r byd ymlaen yn llawer gwell
Pe ceid rhyw foddion addas
I'w roddi mewn daearol gell
O gyrraedd pob cymdeithas.


MARWOLAETH Y Parch. JOHN EVANS (I. D. FFRAID),
LLANSANTFFRAID, GLAN CONWY.

Wele ein Ffraid lawen ffraeth-Ow! wedi
Ein gadael ysywaeth,
Aml rai sy' yn teimlo'r saeth,
Ac yn welw gan alaeth.

Cawr o ddyn, cywir oedd e'-a rhodiad
Cymeradwy gartref;
Bu iddo pawb a addef
O du'i wlad godi ei lef.

Am ryddid llwyr ymroddodd-a dilys
Ei dalent ddefnyddiodd,
A'r gwan yn mhob man a modd
Hoff annwyl amddiffynodd.

Dwfn archoll oedd ei golli-i feirdd
Ef erddynt fu'n gweini,
Fel beirniad difrad, o fri,
Bu lenor yn blaenori.

Priod a Christion tirionwedd-a thad
Doeth iawn yn mhob agwedd;
Gweinidog o iawn nodwedd
Wele fu hyd ael ei fedd.

Ein bardd, er it ymadaw o'n byd-bydd
Dy barch yn ddisyflyd;
Pur yw hwn, parha o hyd
I derfyn pell daearfyd.

Fry yn awr yn ei fro newydd-y mae
A mawr ei lawenydd;
Calon drom, siom, yma sydd
A hiraeth mawr o'i herwydd.


IAITH Y BEDD.

Moes, moes er mawr loes i'r wlad-a ddywed
Y bedd oer yn wastad;
Geilw bawb i gael heb wâd-yn ei dŷ
Ddaear wely hyd ddydd yr alwad.


CYFLWYNO TYSTEB I SEIRIOL WYNN, CAERGYBI,
Am ei wasanaeth gyda'r Ysgol Sul,


Roddi heno i'r haeddiannol—yr y'ch
Yn rhwydd a dymunol;
You hir bydd i hon ei hol
A sieryd gyda Seiriol.

Nôd amlwg o deimlad—cywir odiaeth
Caredig gyd-gasgliad;
Er rhoi parch i'r gŵr heb wâd,
Llona geir llawn o gariad.

Da weithiwr mewn cymdeithas—a'i 'wyllus
Gwneud allo'n gyfaddas;
Yn wir, bydd i bawb yn wâs,
A myna wneud cymwynas.

Er esgyn safle'r ysgol—mae'n ddiwyd
Ac mae'n ddoeth neilltuol;
Dwg ei cham, a dug i'w chol
Mwy o ddeiliaid meddyliol.

Dyn i blant mewn dawn a bloedd—ydyw ef
Ceidw hwyl ar ganoedd;
A'u dysgu yn gu argoedd
Yn ei Biblau yn bobloedd.

A cherddor gwych ei raddau—yw efe
Hoew fardd o urddau;
Miwsig llawn gawn yn gwau
Yn nullwedd ei linellau.

Haedda fwy pe mwy y modd—o lawer
Ond wele rai punno'dd,
Diameu er hyn, dyma rôdd,
Hir gofia am yr aur gafodd.

Hir ces heb na chroes na chri—boed iddo
Byd addien a heini;
A'i glôd yn wir trwy'n gwlad ni-fo'n ddwbwl
A'r goreu o gwbl trwy Gaergybi.


PROFIAD Y CRISTION AR WELY CYSTUDD.


I blentyn Duw ar lawer pryd,
Ar daith trwy'r byd presennol,
Mae gwely cystudd o fawr werth,
A pheiriau certh yn llesol.

Dywedai'r Salmydd, wedi'r pair,
A'i air i ni sydd werthfawr,
Cyn fy nghystuddio 'roeddwn i
Yn cyfeiliorni'n ddirfawr.


A hyn yw profiad llawer fu
Ar wely newn cystuddiau,
Bendithiant Dduw, a dwedant-Da
Y gwnaeth â ni yn ddiau.

'Rwyf finnau'n dechrau teimlo'n awr
Bwys gwialen werthfawr cariad;
Trwy ffydd 'rwy'n gweled nad oes gwae,
Mil gwell mae lles mewn bwriad.

Fy Nuw, fy Nhad, yn ôl dy drefn,
Dod im' drachefn dy gymod,
A chadw'm henaid yn dy law,
Rhag llithraw gyda phechod.

Englyn o Gydymdeimlad oddiwrth Lewis Jones, Llanddulas,
pan oeddwn yn wael.

Frawd annwyl, hyfryd inni—yw meddwl
Fod moddion y profi
Yn llaw'n Tad, ac na âd ni
I adwyth gormod c'ledi.

Y LLUNIWR BAI LLE NA BYDD.

Pan gwrddo dau neu ddwy ynghyd
O rai ynt hoff o chwedlau,
'Rôl cyfarch gwell wrth drefn y byd,
Dechreuir olrhain achau;
Dywedir fod Miss hon-a-hon
A hwn-a-hwn mewn cariad,
A llunir stori newydd spon
Er mwyn cael testun siarad.

Mae rhai mor hoff o lunio bai
A cheisio codi cyffro,
Hwy safant oll yn nhrysau tai,
A'u barn ar bawb êl heibio;
Os bydd gan hwn neu hon ryw beth
Yn digwydd bod yn newydd,
Hwy ddwedant, a'u dwylaw ym mhleth,
Mai'r peth-a'r-peth yw'r deunydd.

Ar ôl ich' fod mewn llafur dwys
A hynod gydwybodol,
A'ch gweithrediadau o fawr bwys
I'r wlad yn gyffredinol,
Y lluniwr bai, gan dybio'n gall,
Wrth gwrs a wna cu mesur,
A dyma ddwêd wrth hwn a'r llall—
Mai'r fel-a'r-fel 'roedd gwneuthur.


Gwaith rhai yw gweld bai lle na bydd—a bod
Yn byw mewn gwaradwydd;
Ymboeni ar gam beunydd
Gyda'u sŵn y giwed sydd.

Gwenu dan greu bwganod—eu gwelir,
Heb g'wilydd o'u hathrod;
Y rhai mwya'u bai yn bod
Gâr achwyn, hen gorachod.

I LORD PENRHYN YN AMSER Y STREIC YN 1874.

My Lord trwy orthrech, ni threcha—y wlad
Pan lwyr ymwrola;
Yn wir, nid all trwy a wna
Byth ostwng gwyr Bethesda.

EISTEDDFOD ROE WEN, NADOLIG, 1874.

Y Roe Wen fo'n ben beunydd—a'i defion
Fo'n dyfod ar gynnydd;
A chludir hwnt ei chlodydd
Acw ar daith i Gaerdydd.

Heddyw mae pawb yn addef—y gwelir
Mai gwiwlon yw tangnef;
Heb drais, adlais hyfrydlef
Drwy y Llan draw yw y llef.

I'r Roe Wen yn arweinydd-—y cawsom
Wr cyson a chelfydd;
Ein Gwalchmai yn ddifai fydd,
Wele nid oes ei eilydd.

Owen Owen, un annwyl—a godwyd
I gadair 'r uchelwyl;
Un llon ei wedd, llawn o hwyl,
Gŵr parod ac i'r perwyl.

Eos Llechryd, was llachar—yntau geir
At y gân yn llafar;
Yn ei iawn bwnc hwn in' bâr
Gael hedd o agwedd hygar.

I'n Heisteddfod
Orwych ddefod
Wir iach ddifyr,
Llu ddaw yma
I gael eu gwala
Gwiwlon gwelir.

Ceir y Roe yn cario'u rhan—yn deilwng
O dalent ei threflan;
Ei meib mwy fydd ym mhob man
Yn cyrraedd clod ac arian.


AR YMADAWIAD Y PARCH. C. R. JONES O
FFORDDLAS I'R CEFN MAWR, MEHEFIN, 1875.

Amrywiol deimladau sy'n llenwi ein mynwes,
Rhoi ffordd i'r rhai hynny ni allaf yn iawn,
Ond gwyddwn pe ceisiwn ni allwn mewn hanes,
Na chwaith trwy rym ffeithiau, eu dangos yn llawn;
Clwyfedig yw'r galon wrth feddwl yr achos
A'n dygodd ni yma oll heno i'r cwrdd-
Cyflwyno ein ffarwel i un a fawr garem,
Ni chawn mwy ei gwmni, mae'n myned i ffwrdd.

Trwy'r hyn a gyfrennir dangosir yn eglur
Mai nid gwrthodedig yw Jones yn y wlad,
Gall yntau, yn ddiau, roi inni dystiolaeth
Nad yw yn ymadael oherwydd un brad;
Mae ffawd arno'n gwenu, yntau yn ei derbyn,
Dyledswydd yn galw am hynny y sydd,
Rhaid ydyw gofalu am lesiant y teulu,
Neu fod mewn cymeriad yn waeth na'r di-ffydd.

Rhyw gredu yr ydym er iddo ymadael,
A chael ei hun gartref yn ardal y Cefn,
Na all ef, er hynny, ein perffaith anghofio-
Ehed mewn myfyrdod hyd atom drachefn;
Ar ffurf y bryn acw a'r ddoldir deg frâs,
Dyweda mewn atgof wrth gyfaill fydd agos,
Mae hon yr un ffunud ag ardal Fforddlas.

Yn ddiau, nid ydyw heb daflu ôl gipdrem,
Droš naw o flynyddoedd bu yma mewn gwaith,
Mae llawer o bethau yn myned trwy'i feddwl,
Ac nid ânt yn angof mor fuan, ychwaith;
Bydd melys myfyrio am lawer cyfeillach,
Cwrdd gweddi ac oedfa lle cafwyd gwir flas-
Y nef yn cyfrannu, a'r saint yn moliannu,
A hwyl i lefaru yng Nghapel Fforddlas.

Hyderwn nad ydyw ond dechrau disgleirio,
Canolddydd ei fywyd sydd eto ymhell,
Yr hwn a'i cynhaliodd hyd yma mor wrol
Barhao i'w nerthu, a daw yn well, well;
Hen gleddyf yr Ysbryd fo arf ei areithfa,
Traddodi'r Efengyl y byddo'n ddi-gêl,
A'i ddoniau'n fwy melys a'i lais yn fwy treiddgar,
A'i enaid dros Iesu yn tanio mewn sêl.

Gobeithiwn mai didwyll, ac hefyd parhaol,
Yw'r undeb mae wedi ei wneuthur yn awr,
Boed eglwys ei ofal yn eglwys ei gysur,
A'i lafur dan fendith yn ardal Cefn Mawr;
A phan y dynesa i wyddfod ei Arglwydd,
A'i lin yn blygedig o flaen gorsedd gras,
Ymysg ei ofynion am rasau yr Ysbryd
Gofynned yn fynych dros Eglwys Fforddlas.


Yr Arglwydd fendithio ei briod serchoglawn
A modd i'w gyfnerthu yng nghyswllt ei waith,
Boed iddi ymarfer yr oll o'i dylanwad
Er cadw'i gymeriad yn berffaith ddi-graith;
Fel Eunice y byddo yn magu a meithrin
Ei phlant bychain annwyl ym more eu hoes,
O dan ei haddysgiaeth cynhyddu y byddont
A'u bywyd yn deilwng o'r Iesu a'i Groes.

Hir einioes a gaffont i wneuthur daioni,
A phawb yn eu parchu oblegid eu gwaith,
Na ddeued un cwmwl dros heulwen eu bywyd-
Eu hawyr fo'n ddisglair hyd derfyn eu taith;
A phan ddelo angau i dorri'r cysylltiad
Sy'n dal eu heneidiau tu yma i'r llen
Boed iddynt fynedfa i'r hafan ddymunol,
A glanio'n ddiogel ym mhorthladd nef wen.


DR, PRITCHARD.

ar ei waith yn llywyddu mewn Cyfarfod Llenyddol perthynol i Fedyddwyr Conwy.

Llywydd ac wyneb llawen—yn actio
Yw ein Doctor trylen;
Wele ef yn ei elfen,
Iawn ei barch, heddyw'n ben.

Gwron sydd yn rhagori—ar lawer,
Hael yw mewn caledi;
Yn feddyg, os gwael fyddi,
Eill â dawn dy wella di.


YR HEN LANC.

Rhyw fôd di-gartref ydyw—anwydog
Ei nodwedd digyfryw;
Ei hun bach y mae yn byw,
I'w fynwes ni fyn fenyw.


DAU ENGLYN BUDDUGOL I CYHOEDDWYR PENUEL, BANGOR.

Hughes enwog sydd was annwyl—cyhoeddwr
Cu addas ei orchwyl;
Gŵr parod ac i'r perwyl,
Llon ei wedd a llawn o hwyl.

Llais eglur mewn llys hyglod—mwyn a fedd,
Ac mae'n feistr ei dafod;
Bennydd yr unrhyw bennod,
Er ei ddawn, gawn o'i god.


I JOHN FFOULKES YNG NGHYNGERDD Y CODAU.

Mae'r hen lanc heno'n prancio—wrth ei fodd,
Gwerth i fyd ei wrando;
Mae'n arwr, a myn rorio,
O'i fath 'does neb-dyma fo.


YR YSGOLFEISTR.

Gwerthfawr iawn mewn dawn a dysg—gwêl, i fyd
Yw ysgolfeistr hyddysg;
I bob gradd dyry addysg,
A mawr yw hwn yn ein mysg.


COCHELWCH Y GWR FO'N CWERTHU BLAWD.

Wrth sylwi, cewch fod hwn i'w gael
Ym mhob cymdeithas, bron,
O ran ei waith mae'n hynod hael,
A didwyll iawn ei fron;
Mewn ymddangosiad gellir dweud
Ei fod mor fwyn â brawd,
Ond nid yw'r oll mae yn ei wneud
Yn ddim ond gwerthu blawd.

Os byddwch mewn helbulon lu,
Heb wybod p'le i droi,
Eich hen gyfeillion unwaith fu,
Yr awrhon wedi ffoi;
Daw hwn ymlaen dan hoffi sôn
Am aml golledion gawd,
Ond A! nid yw ei leddfaidd dôn
Yn ddim ond gwerthu blawd.

Os bydd i gyfoeth ddod i'ch rhan.
Trwy rhyw ddigwyddiad llawn,
Efe ddaw atoch yn y man,
A'i wedd yn siriol iawn;
A dwed ei fod yn llawenhau
Wrth feddwl am eich ffawd-
Y pryd na bydd ef yn ddiau
Yn ddim ond gwerthu blawd.

Bydd weithiau eisiau dewis dyn
I swydd o fri mewn gwlad,
Ac wedi cael y cymwys un
Amlygir mawr foddhad;
Rhaid cael cyfarfod yn y dref
I ddathlu llwydd y brawd,
Ac yno yn uchel iawn ei lef
Bydd ef—y gwerthwr blawd.


Mae hwn i'w ochel yn ein gŵydd,
Oblegid bydd drachefn
Yn llawn o waith, a dyna'i swydd-
Ein gwawdio yn ein cefn;
O dan ei wên mae twyll a brad,
Drygionus yw ei rawd,
Nid yw ei iaith ond mawr sarhad
Pan fydd e'n gwerthu blawd.

I MR. EVAN HUGHES, RHYL, AM EI RODD HAELIONUS
I EGLWYS Y CODAU.

Gŵr annwyl a gâr weiniaid—ein Hughes yw,
Hynaws iawn yn ddibaid;
Cyfrannwr, rhoddwr wrth raid,
Dyma anian dwym ei enaid.

Caed i Eglwys y Codau—o'i law ef
Yn hael iawn mewn eisiau;
Rhydd i wan aml gyfrannau,
A bron o hyd heb brinhau.

Boed bendith fel gwlith a gwlaw—ar ei waith
Yn rhoi aur o'i ddwylaw;
Yn wir, clod roddir iddaw,
A heddyw dêl yn ddidaw.

I SEIRIOL WYNN, CAERGYBI.

Seiriol Wynn, un siriol wedd—ein pencerdd
Sy'n pyncio'n ddiddiwedd;
Synna fil â'r swyn a fedd
Yn ei odlau a'i hyawdledd.

MAE'R BYD YN GWAU A DATOD.

Wrth syllu ar y byd
Canfyddir ffeithiau eglur,
Fod pawb o bryd i bryd
Yn ymgais am gael cysur;
Ymdrechir lladd y bai,
Ond dyma'r gwir er syndod,
Nid yw gweithredoedd rhai
Ddim gwell na gwau a datod.

Fe welwn lawer un
Yn esgyn i anrhydedd,
A phawb yn moli'r dyn
Oblegid ei haelfrydedd;
Ond och! fe gaed y gwir,
Yr amcan drodd yn wermod,
Ac yntau cyn bo hir
'Rôl gwau ddechreuodd ddatod.


Fe welwyd lawer tro
Miss Hon-a-Hon yn ddestlus,
A phawb yn dweud trwy'r fro
Fod Hwn-a-Hwn yn lwcus;
Yn un fe wnaed y ddau
Hyd angau mewn cyfamod,
Ond och! ar ôl y gwau
Canfyddwyd arwydd datod.

Fe welwyd bachgen hardd
Yn selog fel Good Templar,
Oedd gynt yn ddiwahardd,
A meddwyn heb ei gymar;
Ond gyda gofid mawr
Yr ydym, ow! dan orfod
I ddwedyd i chwi'n awr,
Mae'r gwead wedi datod.

Mae Eglwys Loegr fawr
Mewn cyswllt â'r wladwriaeth,
A llawer sydd yn awr
Trwy hyn mewn brás fywoliaeth;
Ond er y gorthrwm sydd,
Mae amser gwych i ddyfod,
Ceir gweled hon rhyw ddydd
A'i gwead wedi datod.

Fe welwyd lawer gwaith
Rhyw lu yn dod at grefydd,
A'r oll am amser maith
I'n tyb yn mynd ar gynnydd;
Gwauasant lawer iawn,
A'u sêl oedd danbaid hynod,
Ond erbyn hyn ni gawn
Y cyfan wedi datod.

Fe wauwyd ddoe yn ddel,
A phopeth ydoedd barod,
Ond heddyw y mae fel
Pe byddai'r gwaith ar ddatod;
A dyna fel mae'r byd
Yn hynod gyfnewidiol,
Nes ceir o bryd i bryd
Ryw siomiant anamserol.

Ti, enaid, sydd i fyw
Am byth mewn byd tragwyddol,
Bydd ddoeth, ystyria, clyw
Yr hyn sydd angenrheidiol;
Yr wyt yn gwau i'th ran
Yr hyn na elli ddatod,
Ac nas datodir pan
Fydd byd a'i bethau'n darfod.


AR OL MARIA
annwyl ferch John ac EEzabeth Hughes, Birkenhead.

Maria Hughes, ai marw hon?—y ferch
Oedd fawr ei rhagorion;
Ai tybed ceir atebion—o’r bedd dir
Mai yno’th welir mwy, eneth wiwlon?


GAIR I ETHOLWYR MON, ETHOLIAD 1874.

Rhyddfrydwyr a gwyr llawn gwaith—da chwi oll,
Dewch allan ar unwaith;
Oni ochelwch eilwaith
Ystryw a nód estron iaith.

Gochelwch rhag ich eilwaith—i wrando
Ar undyn mewn gweniaith;
Ple mae'r dociau gorau gwaith
Oganwyd, do, ugeinwaith.

Yn ddiau, eto addewir—yn dda
Ond ddel a ddywedir;
Na, canys hyn a amcenir—
Denu : er gwarth dyna’r gwir.

Trio denu er troi dynion—y maent,
A mawr eu dichellion,
A rhwyddawl gyrrant roddion;
Ond pid siwr, rhaid peidio sôn.

Mewn eisiau, y Monwysion—iawn eich gwaith,
Mynnwch gael eich gwron;
Y Cymro geir o Feirion,
A chlod fydd i wych wlad Fôn.

Mawrygwch enw Morgan—ag M.P.,
Dyma gampwaith weithian;
Capten Verney a’r Tori, tan
Wylo, ellwch adael allan.

Ymleddwch, mynnwch, y Moniaid—eich dyn,
A chewch dâl wroniaid;
Taniwch yn erbyn Hamntoniaid,
A “blow” rhowch i Verney a’i blaid.

Drwy y blwch cedwir y blaidd—a’i 'winedd
Rhag gwenwyno’n ffiaidd;
Hanos mwy (ha, ha) nis maidd—a’i hyll wg
Ni ddaw i’r golwg trwy’r drefn ddirgelaidd.

O galon gyda'ch gilydd—y byddoch
Pawb heddyw’n weithredydd;
A Morgan yn y fan fydd,
Wr annwyl, eich arweinydd.


A gyfansoddwyd wedi gweled y ffugchwedl a elwid "Yr Hen "Stori," wedi
meddiannu'r Colofn Farddol yn y "Faner" am Ionawr, 1874.

Wel, mae'r nofel yn awr—O! ddynion,
Am feddiannu'r nithlawr;
Hyntio holl faes y Wyntyll fawr,
A'i gyrru i ffwrdd o'i gorawr.

'R hen 'stori, tro anystyriol—oedd it'
Ddwyn y golofn farddol;
Gwylia di i gael o d'ôl
Athrod y beirdd aruthrol.


AR BRIODAS MR. WILLIAM WILSON, PLAS TIRION, A
MISS OWEN, PANTYFFRITH.

Mewn cwlwm serch fe unwyd
Dau ieuanc annwyl iawn,
A chawsant ddydd eu hundeb
Gan bawb groesawiad llawn;
Yn tanio mewn brwdfrydedd,
A sêl a pharch dibaid,
Ceid hen gymdogaeth brydferth
A thawel Llansantffraid.

Dyrchafwyd heirdd lumanau,
Gwnawd bwâu dros y ffyrdd,
Arwisgwyd 'rhain yn ddestlus
A dail sy'n fythol wyrdd;
'Roedd sŵn yr erch fagnelau
Yn crynu creigiau'r lle,
A thân yr holl goelcerthi
Oleuai wlad a thre'.

Hir oes i William Wilson
A'i briod serchog lon
Na ddeled cwmwl:drostynt,
Na saeth o dan eu bron;
Boed iddynt fywyd dedwydd,
Pob un yn gwneud ei ran,
A ffawd a phob anrhydedd
I'w dilyn ym mhob man.

I nawdd yr Iôr goruchel
Cyflwynwn hwynt yn awr,
A boed Ei fendith arnynt
Tra yma ar y llawr;
A phan derfyno angau
Eu gyrfa is y nen,
Boed iddynt rwydd fynedfa
I mewn i'r nefoedd wen.


AR FARWOLAETH EMRYS BACH, TY CAPEL,
FFORDDLAS.

O'i febyd o'r byd i'r bedd—Emrys aeth
Er mor sionc ei nodwedd;
A'i enaid aeth i annedd
Angylion gwynion eu gwedd.

Y DDADL DDIRWESTOL

yn yr "Herald Gymraeg," wedi ei chychwyn rhwng Dewi Hafesp
a Threbor Mai, Hafesp yn ddirwestwr a Threbor yn wrth-ddirwestwr.
Cymerodd amryw feirdd ran yn y ddadl, rhai o blaid Hafesp,
ac eraill o blaid Trebor. Yr oeddym ni o blaid Hafesp,
a bu'r ddadl yn cael ei chario ymlaen am wythnosau.

Fel hyn y canasom ni:—


Cyfaill y call diwallog—a ystyr
Ddirwestiaeth ardderchog;
A chwrw cryf chwerw grog
Ddyry i gŵn cynddeiriog.

ETO.

Yr ych, lle bynnag yr â—yn bur hyf
Bawr wellt nes ei wala;
O'i fodd yf ddŵr ni feddwa,
Wrth hwn glyn, fel y dyn da.

ETO.

Diau, yn hyn mae deall—at yr iawn,
Eto rhed fel arall
Troi'r dwfr a'r yd hefyd all
Er mwyn ing i'r dyn angall.

I ffwrdd â dadwrdd didor—y dafarn
Er dofi ein Trebor;
Wedi'r rhwyg ni cheid rhagor—un meddwyn
I'w gadw'n asyn fel Nebugodonosor.

AR OL Y DIWEDDAR DAVID JONES, COLWYN.
yr hwn a fu yn flaenor flyddlon a gweithgar yn Eglwys Colwyn.

Ai Dafydd Jones sydd, O! mae'n syn—wedi
Ymadael mor sydyn;
Mewn adeg ail munudyn
Ei gloi dan briddellau'r glyn.

Daeth ingoedd trwy dy waith, angau—yn dwyn
Dyn da, llawn rhinweddau,
I orwedd mewn bedd, oer bau,
Och! isod at lwch oesau.

Ydoedd yn briod odiaeth—ac yn dad
Cun, doeth ei ddysgeidiaeth;
A gŵr o farn gywiraf oedd,
Llaweroedd fu'n well o'i araith.


Oedd gyfaill bydd ei gofio—yn hir,
Anhawdd ymgysuro
Wrth feddwl y gwerth fyddo
Ar ei drem a'i air ar dro.

Didwyll ac annwyl gredadun—ydoedd,
A'i nodwedd yn ddichlyn;
Gŵr i Dduw, hawddgara ddyn
Ddaliodd hyd fedd i'w ddilyn.

Fry yn awr yn ei fro newydd—y mae,
A mawr ei lawenydd;
Ond ow! wylo'n Seion sydd,
A hiraeth trwm o'i herwydd.


AR OL Y BARDD, IOAN EMLYN.

Ow! cwympodd y bardd campus—y llenor
A'r cynllunydd medrus;
Un oedd hynod gyhoeddus yn ein mysg
A mawr ei addysg, athraw ymroddus.

Ef oedd un o fodd annwyl—a chyfaill
Gwych hefyd ei orchwyl;
Cennad hedd ac hynod ei hwyl-a fu
Dros enw Iesu hyd y rhoes noswyl.

[2]Am farw diau myfyriodd—a'r bedd
I'r byw a ddarluniodd;
Ar gewri gwych rhagorodd-mewn cariad,
Hon o fawr alwad a'i hanfarwolodd.

O'i fyned erys ei fonedd—a'i barch
'Mysg beirdd De a Gogledd;
Och! ow! boed yn llwch y bedd
Y gwron mawr yn gorwedd.

Boed heddwch i'w lwch lechu—oddi fewn
Idd ei fedd tra'n cysgu,
Hyd nes y delo Iesu-Brynwr mâd,
Drwy ei gu archiad, adre' i'w gyrchu.


ETHOLIAD SIR CAERNARFON YN 1874,
pryd yr oedd Parry, Yswain Madryn, a'r Anrhydeddus Douglas
Pennant yn ymgeisio. Etholwyd y Tori.

Ti orfuaist, O! Arfon—dy yrru
I dir y gelynion;
Torïaeth, ysywaeth sôn,
Gariodd ymaith dy goron.


Moedraist trwy wrthod Madryn—a dewis
Y dieithr o'r Penrhyn;
O! dihafal sâl, mae'n syn,
Gwneud 'sgutor o gnawd 'Sgotyn.

O! chwarelwyr, Och! yr alaeth—wnaethoch
Trwy wenieithio'n helaeth;
Gwrthod, nid gorfod nac arfaeth,
Y rhydd wr cu, a graddio'r caeth.

Llwydion fyddo'ch dilladau,Cwylwch
Am waeledd eich moesau;
O hyd gwnewch edifarhau,
Ac ystyr eich drwg gastiau.

I JOHN FFOULKS, Y DYN DALL.

Am ganu pwy yn amgenach—na Ffoulks,
Na phwy yn siriolach?
Yn siwr, mae ganddo lond sach—o bethau,
Hoyw ganiadau nas cawn eu hodiach.

Un brwd, addas am brydyddu—yw Ffoulks,
A phawb yn ei garu;
Gŵr hir, llawn, ac arwr llu,
Ac hynod hoff o ganu.

CYMANFA UNDEB YSGOLION LLANELIAN A'R CYLCH,
yr hon a gynhaliwyd yng Ngholwyn, Mehefin 8, 1876.

Hawddamor i'r Undeb Ysgolion,
Daeth yma hardd dyrfa ynghyd,
Ac hefyd canfyddir yn eglur
Eu bod yn cael pleser i gyd;
Nid pleser fel pleser y dafarn,
'Rol hwnnw bydd gwayw 'n y pen,
Ond pleser rydd loniant i'r meddwl,
Heb drallod, na gofid, na sen.

Fe gafwyd gwasanaeth athrawon,
Arweinwyr ysgolion ein gwlad,
Rhai hyddysg yng Ngair y Gwirionedd
Er dysgu yr ieuanc yn rhad;
Ac hefyd ceir yma adroddwyr,
Rhai cofus a dawnus eu hiaith,
Mae arwydd o dalent a llafur
Edmygol ym mhob peth o'u gwaith.

Ceir yma dalentog draethodwyr,
Rhai medrus mewn meddwl a gwaith,
A cheir gyda hynny y beirddion,
Ac nid rhyw wehilion ychwaith;
Yn gweithio ceir Llanfair a'r Codau,
Llanelian, Bodgynwch, ynghyd,
Glanwydden a Cholwyn yr unwedd,
Llawn bywyd yw'r Undeb i gyd.


AR OL Y DIWEDDAR BARCH, JOHN JONES, LLANBERIS,
a adnabyddid wrth y ffugenw "Hen Gloddiwr."

Ioan mâd, yr ym ni mwy—o'i herwydd
Mewn hiraeth yn tramwy;
Ein gwlad a welir dan glwy,
Am ŵr hyglod mae mawrglwy.

Oedd gyfaill haedda'i gofio—yn wir,
Anodd meddwl peidio;
Dyn di-frad, dyn da i'w fro,
A dyn 'roedd pawb amdano.

Diymhongar yn ei lafar,
Iawn leferydd;
Nid ymchwydd pan y delai
Pen hudolydd.

Ni weithredai ond dda wyddai
Ydoedd addas;
Pan y gallai, ef a fyddai
Yn ufuddwas.

Didwyll ac annwyl gredadun—ydoedd,
A'i rodiad yn ddichlyn;
Gweddigar, maddeugar ddyn—llawer gwaith
Y rhoddai eilwaith yn rhydd i'w elyn.

Gwleddoedd fu gwaith "Hen Gloddiwr"—a gwleddoedd
'Rôl hen gladdu'r awdwr;
Ond seigiau gorau y gŵr-
Ei weithiau fel pregethwr.

Llafuriodd, a dyna'i holl fwriad—dwyn
Dynion at y Ceidwad;
Ar waed y Groes rhoes fawrhâd,
Nôd amlwg oedd ei deimlad.

Hael fwriad Pen Caliaria—a welodd,
Mawr olud Jehofa;
A thlodion ddynion di-dda
At hwn efe a'u tynna.

Weithiau ergydiai yn gadarn,—amlwg
Gwnâi ymlid bob rhagfarn;
Dywedai byddai barn
O orfod, ac nid gwyrfarn.

Bryd arall mewn brwd eiriau,—yn tanio
Mewn tyner deimladau;
Yn fôr o hedd gwnâi fawrhau
Ei Dduw annwyl, a'i ddoniau.


Gwas i Iesu fu o'i fodd—a dilesg
Hyd alwad y daliodd;
I fwynhâd o'r Ne'n rhâd rodd,
I'w heddwch, pawb wahoddodd.

Yn naear Llandinorwig—ŵr annwyl,
Yr huna'i gorff ysig;
Ond, o ras, ei enaid drig
Gyda y Bendigedig.


CYNGERDD BRYN SEION, EGLWYSBACH, IONAWR 14, 1881.

Cael undeb a'r gwyneb yn gwenu—a chael
Gwych hwyliau i ganu;
Yn ddi-feth mor dda a fu-cael wrth raid
Canu eosiaid idd ein cynhesu.

Gwyr y ddau blwy' yn hygar ddwyblaid—gawn,
Gwyr Conwy yn deirplaid,
Yn ddiboen ac yn ddibaid,
Ar gân yn helpu'r gweiniaid.

Heb arbed y ddyled ddu—a delir
Yn deilwng tan ganu,
Yma, o fodd, ceir am a fu
Iawn achos llawenychu.

I'r corau, iesin rhoir croesaw—hefyd,
Hir gofir hwy'n pynciaw;
Eu clod sy'n dod yn ddidaw,
A gwir deilwng guro dwylaw.


AR OL MARY.
annwyl ferch Robert a Jane Williams, Ynys Fawr.

Mary fach, nid marw fu—yr eneth,
Eithr huna i ddadebru;
Daw o'r bedd a'i gwedd yn gu
I rasol barlwr Iesu.


CYNGERDD BRYN SEION, EGLWYSBACH.

Mae llawer o ieuenctid
A'u meddwl a'u bost
Am gael rhyw bleserau,
Beth bynnag fo'r gost;
Gwnânt lawer o ymdrech
Er cyrraedd eu nôd,
Ond wedi'r holl lafur
Bydd siomiant yn bod.

Byrdwn.—
Ond heno'n ddiffuant
Cawn londer a lles,
Ac Eglwys Bryn Seion
Ychydig o bres.


Ar ôl bod yn gweithio
Mewn llafur a chwys,
Mae rhai am roi'u harian
I borthi eu blys;
Waeth be' ddweda'r siopwr,
Y teiliwr, na'r crydd,"
Hwy fynnant eu pleser,
Beth bynnag a fydd.
Ond heno'n ddiffuant &c

Mae rhai am roi'u harian
m gwrw brâg haidd
I wneuthur eu 'mennydd.
Mor feddal a maidd;
Ac eraill am bibell,
Tybaco a smôc,
Er edrych yn ddynol
A thipyn o "rogue."
Ond heno'n ddiffuant &c

Yn canu'n rhagorol
Ceir Côr y Fforddlas,
A chôr Dafydd Dafis
Sy'n debyg mewn blas;
Ac eraill yn ddawnus,
Soniarus a gawn,
Mae pawb am y gorau,
A phawb yn dda iawn.
Ond heno'n ddiffuant &c

Dywedwn o galon,
Ewch eto ymlaen,
Eich llwyddiant fo'n fwyfwy,
A'ch clodydd ar daen;
Dyledion capeli
Chwi dynnwch i gyd,
A hynny tan ganu
Yn llawen eich bryd.

Byrdwn.—
Wrth helpu y gweiniaid
Mae llonder a lles,
A heno diolchir
Am bentwr o bres.


BUDDUGOLIAETH Y COR CYMREIG AR Y COR SEISNIG
YN LLUNDAIN, GORFFENNAF 10, 1873
.

Y llynedd chwalwyd llenni—gaddug
Guddiai ein gwrhydri;
Pwy gymaint mewn braint a bri,
Gwir ddewrion am gerddori.

Yn ben eto eleni—ni fuom,
Mae'n falch gennym nodi;
Ein meib glân, hwy ym mhob "glee,"
Gurent Proudman a'i gewri.


Caradog enwog, annwyl—aeth â hi
Y waith hon, da orchwyl;
Wedi'i golchi'n deg eilchwyl,
Mwynhaed y gwpan mewn hwyl.

B'le yn awr mae John Bull a'i nâd—a'i lafur
Lifeiriai'n wastad?
Dyma ei lais a'i deimlad,
Amryw fai ar Gymru fâd.

Ha! gwn nad gwiw i'r gŵr ganu—bellach
Ymbwylla rhag cablu;
Y Cymro glân a'i gân gu
Ro'i fodd i'w ryfeddu.


LLONGYFARCHIAD I CWMNI O CERDDORION O
DDOLWYDDELEN MEWN CYNCERDD YN BRYNDAIONYN,
IONAWR 24, 1891
.

Breiniol gewri y bryniau—a gawsom,
Ac eosiaid yn ddiau,
Yn llawn hwyl i'n llawenhau
A'u swynol, beraidd seiniau

Eu bro hardd mewn bri o hyd—hi a geir
Ac enwog iawn hefyd;
O'i Rhos fach hi roes i'r byd
Gewri, sy'n awr mewn gweryd.

Yn y gweryd o dan goron—y maent,
Rai mawr eu rhagorion;
Iawn agwedd yr enwogion
A erys ar yr oes hon.

Bertheos bortha awydd—y lliaws
Wna'n llawen beunydd;
A'i gwmni mâd yn fâd fydd,
Mwy yn canu mewn cynnydd.

Dolwyddelen fo'n ben beunydd—yn y gan
'Rhain a geir yn gelfydd;
Adlais syw eu hodlau sydd
Yn glodus trwy y gwledydd.


DYMUNIAD AM WIR GREFYDD

Arglwydd grasol dod dy gymorth
Imi yn yr anial dir,
I wrthsefyll fy ngelynion,
Ac i rodio'n ol y gwir;
Byw yn llewyrch Ei oleuni,
Ar fy nhaith holl ddyddiau'm hoes,
Fel y gallwyf mewn gorthrymder
Orfoleddu dan y groes.


Garw ydyw taith yr anial,
Minnau'n eiddil ac yn wan,
Ond os caf dy gymorth grasol,
Deuaf drwyddi yn y man;
Os ym gwelir wedi'm cadw,
Bydd y clod yn eiddo Ti,
Canu byddaf yn dragywydd,
Am rin aberth Calfari.

Testun praff


EISTEDDFOD CONWY YR HON A CYNHELIR AR DDYDD NADOLIG.

Er gwir feithrin cyfrinion—Llenyddiaeth
Llawn noddi cerddorion,
A Barddas hoff y Beirddion,
Wele hawl yn yr wyl hon.

Er mwyn clod y Traethodwr—a weithia
Yn goethus fel awdwr,
Weithiau hefyd areithiwr—o feib gwlad
A fydd o alwad yn fawr feddyliwr.

Er cu enyn llafur ac yni—gwaith
Gwych fydd er daioni,
Diwyd frawd yn dod i fri,
A rhyw gawr yn rhagori."

Ac eofn agwedd cefnoger—y da
A'r diwyd canmoler,
I'r haeddol y wobr rhodder,
Yna bydd ei enw'n bêr.

O fudd yr wyl a fyddo—na fydded
Anfoddus i'w gofio,
I beri gŵg un drwg dro-na wneler,
Hedd ddadseinier yn ddawnus heno."


CYNGERDD FFORDDLAS NOS CALAN.

Ar nos Galan mor hynaws gwelir—lliaws
Yn llawen ganfyddir,
Cael mwynhad diwâd yn wir,
A thalent a fytholir.

Wele heno Galenig—o nodwedd
Ddeniadol a gwledig,
Byw yn ddoeth heb neb yn ddig,
Unol frodyr haelfrydig.

Calenig ac hwyl hynod—i ganu
'Sy gennym er mawrglod,
Mae heno bawb yn mynu bod,
Yn beraidd ac yn barod.


Profir a gwelir mai gwiwlon—ydyw
Nodwedd y cerddorion,
Yn canu mae'r llu yn llon,
A'u hadlais yn hyfrydlon.

Y mae cysur wrth lafurio—i'w gael
Gwelwn fel mae'n llwyddo,
Rhoi'r in brawf gan arwyr ein bro—o'r lles,
Dyna yw hanes eu doniau heno.

Cerddoriaeth a'i henwog arwyddion—gawn
Ar gynnydd yr awrhon,
Am ein gwlad mae siarad a son—mor gu,
Y mae'n canu yn ei menyg gwynion.


CUSAN JUDAS,

Heb wrido deuai'r Bradwr—a'i gusan
I geisio'r Gwaredwr,
Nodi'r Glân; ffei aflan ŵr,
O dan goron dyngarwr.


Darlith Mr. Harris ar y testun Nain a'i Hystranciau.

Y ddidrane Nain a'i 'stranciau—hon a geir
Mewn gwaith yn gwneud drygau
Gochelwn, gwelwn mai gau,
A chostus yw ei chastiau.


Y FWYELL.

Miniog ac arfog erfyn—o wir fudd
Ydyw'r bwyell ddillyn,
Yn ei lle da yn llaw dyn,
Hi nadda, hollta ddelltyn.


CYFLWYNEDIG I DR. PRITCHARD, CONWY.

Mae enw Doctor Pritchard,
Yn annwyl trwy y dref,
Gan wreng a chan fonheddig,
Yn fawr y perchir ef;
Mewn cyfyng amgylchiadau,
Yn barod ceir e'n bod,
Ac am ei lu rinweddau,
Pentyrir arno glod.

Hawddgarwch sy'n teyrnasu,
Ar wedd y gwron llon,
Haelfrydedd a thosturi,
Gartrefent yn ei fron;
Ar gŵyn y tlawd y gwrendy,
Ac iddo rhydd yn rhad,
O rhyw feddyglyn gwerthfawr,
Fydd er ei lwyr iachad.


Fel meddyg medd enwogrwydd,
Dihafal trwy y wlad,
Ym mysg meddygon eraill,
Efe sydd megis Tad;
Ynglyn a'r afiechydon,
A fydd trwy'r wlad a'r dref,
Medrusrwydd mewn celfyddyd,
A arddangosa ef.

Fel arwydd fach o urddas,
Dyrchafwyd ef i'r swydd,
O lywydd y Fwrdeisdref,
A llanwodd hi yn rhwydd;
Fel teyrnged o'i deilyngdod,
Câdd y boneddwr mâd,
I'r Sedd Ynadol alwad,
I wasanaethu'i wlad.

Pan ar y Faine eistedda,
Fe wrendy ar bob cwyn,
A phan ddechreuai siarad,
Fe sieryd eiriau mwyn ;
Trwy hyn fe rydd foddlonrwydd,
Os coshi fydd y rhaith,
Y llys ag ef gydsynia,
Mai cyfiawn fydd y gwaith.

Dyrchafiad teilwng arall,
Oedd ei ddyrchafiad ef,
Yn aelod o'r Bwrdd Sirol,
I gynrychioli'r Dref;
Hir oes i Doctor Pritchard,
I wasanaethu'i wlad,
A miloedd a'u canmolant,
Am ei weithredoedd mâd.


MARWOLAETH CYNDDELW

Wr mawr, tydi ni cheir mwy—diosgaist
Dy wisgoedd gweithiadwy,
Yn ddiwad mae'n weladwy,
Ein gwlad o'th herwydd dan glwy.

Tad i feirdd tydi a fu—a noddwr
I lenyddiaeth Cymru,
Diwylliant trwy dy allu,
I dy wlad ddefodau lu.

Yn hanesiaeth y cynoesau—oeddit
Dra hyddysg yn ddiau,
Dal y gwir didol y gau,
Oedd nawdd dy arwydd nodau.


Dy barabl yn nabl i'n oedd—mor swynol
Yn mawr synnu pobloedd,
Lawer gwaith yn hael ar goedd,
Yn dy wlad rhoist oludoedd.

Mawr wron dros y gwirionedd—fuost
Yn fawr dy anrhydedd,
Llawn o hwyl a llon o wedd,
Od o ddoeth hyd dy ddiwedd.

Yn fywyd ein cymanfaoedd—ni chawn
Chwaneg o'th alluoedd,
Nac i ddysgu yn gu, ar goedd,
Air y Beibl i'r bobloedd.

Ein Harwr dy goffadwriaeth—a fydd
Yn fyw mewn hanesiaeth,
Dy weithiau celfydd fydd yn faeth,
I feddyliau o fodd helaeth.


Wedi gwrando ar y Parch. William Hughes, Colwyn Bay, yn
darlithio ar gyflwr moesol Affrica ynghyd a gwrando ar ddau
o'r bechgyn duon yn canu.

Ein Hughes heno sy' hynod—ei dalent
'Sy hudolus barod,
Yn ŵr rhagorol ei nôd,
A difyr iaith ei dafod.

A dau o fechgyn duon—o hil Ham,
Wele hwy ei weision,
Da weithwyr a doethion—ânt yn ol,
Yn wrol a hynodol genhadon.

I addas Efengyleiddio—trigolion
Treigleodd y Gongo,
I adael ei gau gredo—troi'i gwyneb,,
Caru undeb ar Dduw fedr ei gwrando.

Daw Franc yn llanc i wneud lles—N.Kasa
Yn gyson ei hanes,
Y gwir draddodant mewn gwres,
O'r Gongo draw i'r Ganges.

Hughes a'i ddewisol weision—a lwyddant
I ladd ofergoelion,
Drwy gael holl drigolion—Affric boeth.
O'i hen ffyrdd anoeth i'r iawn ffordd union.


AR OL FY NHAD

Bu'n dawel ben i'w deulu—er beunydd
Mawr boenau i'w nychu,
Diwyd trwy ei fywyd fu,
Mêl ei oes oedd mawl Iesu.


Written as a TOKEN OF RESPECT to H. D. Pochin, Esq.,
Bodnant Hall, for his kindness in entertaining to tea, the
Schoolchildren and others, on Bodnant Hall Park, on the 18th,
June, 1887, in commemoration of the 50th year of the reign of
our Gracious Queen Victoria.

On lovely spot and quiet,
Where silvery rivulet stroll,
Through charming groves and meadows
Stand gorgeous Bodnant Hall;
While Nature, Art and Science,
Around the mansion dwell,
As if where all competing,
In beauty to excel.

'Twixt all we find the mansion,
The Park and walks along
It's fishing lakes and gardens,
Are worthy of Poet's song;
The family Tomb structure,
Is not the least renowne,
And richly ornamented
With polished marble stone.

The name of Mr. Pochin,
Is household lovely name,
And will be so for ages
With bright untarnished fame;
Though bless'd with wealth unbounding,
He shares with those in need,
He's hero in Lib'rality,
Indifferent sect or creed.

May it please our heavenly Father
To grant him a long life,
With blessing of all comfort,
And his beloved wife;
And when in death departing,
This world with closing eyes
Their home will be in glory,
In Heaven above the skies.


BEDDARCRAFF RICHARD WILLIAMS, FURNACE, YR
HWN OEDD GERDDOR GWYCH,

Bu yn dad gyda chaniadaeth—i lu
Mawr les fu'i wasanaeth,
Ond i hedd ei enaid aeth-byth mewn hwyl,
Mawl yw ei orchwyl a mel ei archwaeth.


CYFLWYNEDIG I MR. DAVID WILLIAMS, MRS. A MISS
WILLIAMS, TY CAPEL Y CODAU.

Mewn ardal dawel wledig,
Rhwng amryw fryniau heirdd,
Lle darfu awdur natur
Ddarparu gwaith i feirdd;
Yng nghesail un o'r bryniau
Fe saif addoldy syw,
Lle cyrcha, yr ardalwyr
I wir addoli Duw.

Gerllaw mae doldir fechan,
A ffrydlif o ddwfr glan,
Y ddwy ni fyth anghofir
Gan lu o deulu'r gân;
Oherwydd yma gwnaethant
Wir arddel Brenin Nef,
Trwy ddangos yn eu Bedydd,
Eu cariad ato ef.

Yng nghyswllt a'r Addoldy
mae anedd-dy tlws
Bethania gweision Iesu,
Hawdd gwybod yn ei ddrws;
Yn hen Bethania Juda,
Y teulu oeddynt dri,
Y mae'n Bethania ninnau,
Yr un o ran eu rhi'.

Yn hen Bethania Juda,
'Roedd dwy o chwiorydd da,
A brawd o'r un cymeriad,
Eu hoffi Iesu wna;
Y mae'n Bethania ninnau
I'r hen yn debyg iawn,
Dwy chwaer a brawd caredig
Yn Gristionogion llawn.

Yr eithriad yma ydyw,
Mai Tad a Mam a Merch,
Sy'n gwneud i fyny'r teulu
Ynt yn wrthrychau serch;
Yn ol y cylch teuluaidd,
Mae'r tri yn llanw'i lle,
Trwy hyn mwynhant dangnefedd,
Ac ernes o'i gwir Ne'.

Hir oes i chwi fel teulu
I wasanaethu'ch gwlad,
I wasanaethu crefydd,
Yn ol eich arfer mâd;
A pan ddel adeg gorffwys,
Cewch orffwys yn y nef,
A chael eich bythol wobrwy
Gan Iesu gydag ef.


EISTEDDFOD BEDYDDWYR CONWY, NADOLIG 1890.

Eisteddfod a'i chlod wych leda—yw hon
O hyd y cynhydda,
Erys ei doeth wersi da
Yn weision i'r oes nesa.

Llwyddiant a mwyniant myner— i noddi
Ein llenyddiaeth syber,
A byw fyddo'n hen iaith bêr,
Uwch hefyd ei dyrchafer.


YNG NGHYNGERDD FFORDDLAS, IONAWR 20, 1886.

Ar lan afon Conwy
Saif Plwy Llansantffraidd,
A'i thonnau sy'n golchi
Ei ochrau'n ddibaid;
Fel eraill o Blwyfydd
Henafol ein gwlad,
Medd yntau hynodrwydd
Fydd hir ei barhâd.

Lle bynnag ym teflir
Gan donnau y byd,
Ei enw fydd imi
Yn annwyl o hyd;
Yn un o'i heirdd gymoedd
Mae doldir deg frâs,
Ac ynddi cyfodwyd
Hen gapel Fforddlas.

Ar aelwyd Ty'r Capel
Y siglwyd mewn cryd,
Y doethawr gerflunydd
Fu'n synu y byd;
Yr enwog John Gibson,
Efe oedd y dyn,
Enwogodd yr ardal
Ac hefyd ei hun.

Ac yma am flwyddi
Yn arwain y gâd
Y bu William Roberts
Y duwiol hen dâd;
Hir gofir amdano
Gan lawer trwy'r wlad,
Ei weddi a'i bregeth
A hawliant goffhâd.


Mae eraill yn huno
Fu'n enwog mewn gwaith,
Eu henwau sydd annwyl,
A'u clod yn ddigraith;
Yng nghanol y Dreflan
Mae hen siop y Bee,
Tra pery ei hadail
Fe bery ei bri.

Llaweroedd a glywir
Yn holi'n ddibaid
Dangoswch i'n gartref
Y doeth I. D. Ffraid;
Efe ydoedd feirniad,
Cynghorwr wrth sail,
Tad beirdd a phregethwyr,
Arweinydd diail.

Llafuriodd hyd farw
Dros hawliau ei wlad,
Ei gas bethau oeddynt
Caethiwed a brâd;
Os deuwch ychydig
Yn bellach ar hynt,
Cewch gartref gwych awdur
"Yr hen amser gynt."

Mewn bri ceir ei ganig
Fe ddeil yn ystôr,
Tra pery'r hen Gonwy
I redeg i'r mor;
Rhaid imi ffarwelio,
Y tadau ni chlyw,
A throi at y meibion
Sydd heno yn fyw.

Hawddamor i gyngerdd
Blynyddol Fforddlas,
Mae pawb yn eu hwyliau,
A phawb yn cael blas;
Ni gawsom gydgasgliad
O ddoniau dau blwy,
Enwogion o Gonwy
I'w chwyddo yn fwy.

Mae gennym gerddorion,
Blaenoriaid y gân,
Chwareuwr a Llywydd
I enyn y tân;
Areithwyr difyfyr,
Rhai gorau'n y Sir,
Ac un o'r rhai hynny
Iw gŵr Bwlchwernhir.


Arweinydd cerddorion
A beirddion y byd,
Yw gwron y Peulws
Mae'n barod bob pryd;
Ond onid yw'n resyn
Ei fod yn hen lanc,
Ac ofnwn y mynna
Fod felly hyd dranc.

Rhaid tynnu i derfyn
A hyn a wnawn i,
Oherwydd y canu
Sy'n myned a hi;
Dyweder a fyner,
Mae canu'n gwneud lles,
Oblegid mae canu
Yn foddion hel pres.


I" Llais y Wlad," sef Papur Newydd Toriaid, Bangor, bu farw o ddiffyg cefnogaeth

Llais Tori oll ystyriwn—ydyw ef
Od o wael e'i barnwn,
Rhyw gryglais a'i gais ydyw gwn,
Ein hudo, o gwaredwn.

Rhyw lysenw ar lais anwn—ydyw
Udiad llu o gorgwn,
Rhyw oer nâd siarad a swn,
Diflas, nyni ai taflwn.


Yr hyn a glywir o ben y Prenol, mewn atebiad i gân o eiddo John Foulkes, y dyn dall, ar yr olygfa o Ben y Prenol.

O'i gawraidd greigiog goryn—'e glywir
Dadwrdd gwlad yn esgyn,
Swn gweithio effro'n y dyffryn,
Braidd o hyd yn y broydd hyn.

O'r hen Brenol freiniol fryn—y clywir
Odlau clau y dyffryn,
A chlywir yn glir o'r glyn,
Hoff eco llais ein Ffowcyn.

Seiniau o'r Peulws enwog—hynodol
Ganiadau ardderchog,
Swn y gwr, fel sain y gogi
Neu cnopian yn Bryncnapiog.


Y CRYDD

Dyn medrus, craffus yw'r crydd—a'i ddwylaw
Ar ei ddeulin beunydd,
Addasaw draed ddiddosydd,
A gwr da am bynciau'r dydd.


ARALL,

Ar ei eistedd gwr ystwyth—ac awdur
Esgidiau i dylwyth,
Ein traed geidwad rhag adwyth,
A'i barch 'nol ei air a'i bwyth.


Y LLYGODEN.

Anghenus dreng ei hanian—ydyw
Llygoden gall—aflan
O'i thwll ymwthia allan,
Lle bydd, pla fydd, yn y fan.


Y BUGAIL.

Llygadog enwog arweinydd—a dewr
Yw bugail da celfydd,
I'r defaid dibaid y bydd,
A'i ffon yn amddiffynydd.


ARALL.

Dewr, dyfal, a gofalus—yw agwedd
Y Bugail da medrus,
Ei braidd a geidw heb rus,
Er ubain bleiddiaid rheibus.


I'R EHEDYDD, BUDDUGOL YN GLANWYDDEN, NADOLIG, 1881.

Yn ei reddf i'r nen yr â—Ehedydd
Ar ei adain safa,
Ac hynod ber y cana,
Fry ei hun foreuau ha.


ER PARCHUS GOFFADWRIAETH AM HANNAH THOMAS
annwyl briod John Thomas, Gof, Ty'n y Groes, yr hon a hunodd
yn yr Iesu Awst 3, 1884, ac a gladdwyd ym Mynent Rhosgolyn
ger Caergybi.

Hannah Thomas glywodd lawer,
Newydd marw hwn a'r Hall.
Newydd marw hen ac ieuanc,
Newydd marw yn ddiball;
Newydd marw hen gyfeillion,
Newydd marw'i hannwyl dad—
Ond mae eraill heddyw'n clywed
Newydd marw Hannah fâd.


Gorchest ydyw ei hanghofio,
Y mae hynny'n ormod gwaith,
Meddwl am ei chwmni hawddgar
A rydd imi ruddiau llaith;
Ond er im' wir hiraethu
A galaru ar ei hôl,
Ni chawn eto ei chymdeithas,
Aeth i fyd ni ddaw yn ôl.

Er i'w thyner lais ddistewi
Pan yr hunodd yn y glyn
Mae hi eto yn llefaru
Mewn modd arall y pryd hyn,
A llefara i'r dyfodol
Yn ei choffawdwriaeth bur;
Cofio am ei hymddiddanion
Olew fydd i boen a chur.

Hi lefara wrth ei phriod,
Hi lefara wrth ei phlant,
Hi lefara wrth yr Eglwys,
A llefara megis sant;
'Roedd yn briod hawddgar, ddiwyd,
Ac yn fam dynera'n fyw,
Yn ei gwaith yn Gristion cywir,
Parchai bawb ac ofnai Dduw.

Colled ddirfawr oedd ei cholli,
Colled idd ei phriod cu,
Colled amhrisiadwy hefyd
Idd ei hannwyl blant a fu;
Colled fawr i'r cwrdd eglwysig,
Colled, colled, yw ein cri,
Ond os ydoedd i ni'n golled,
Ennill bythol iddi hi.

Ca'dd ei magu yn yr eglwys,
Ca'dd ei dwyn ym more'i hoes
I adnabod Crist yn geidwad,
A mawr werth Ei angau loes;
Penderfynodd roi ei bywyd
I fod iddo o rhyw werth,
Teimlai rym yr hen addewid-
"Yn ôl dy ddydd y bydd dy nerth."

Hoffus ydoedd o'r gyfeillach,
A'r cwrdd gweddi yr un wedd,
Llawer gwaith y ca'dd i'w henaid'
Ynddynt ddarparedig wledd;
Gwledd o basgedigion breision,
Gwin puredig nefol wlad,
Ernes fach o'r wledd dragwyddol
Ydoedd fry yn Nhy ei Thad.


Cafodd hithau megis eraill
Ran o orthrymderau'r byd,
Ambell ddiwrnod lled ddigwmwl,
Llall yn niwlog ar ei hyd;
Dioddefodd gystudd dirfawr,
Ni rwgnachodd ar ei thaith,
Ac mae heddyw'n gwisgo'r goron
A enillodd am ei gwaith.

Angel fyddo yn gofalu
Am ei chorff yng ngwely'r bedd
Hyd y dydd caiff atgyfodi
Yn anfarwol hardd ei gwedd;
Wedi uno gyda'i henaid
Heb raid byth ymadaw mwy,
Meddu gorsedd, meddu telyn,
Canu byth am farwol glwy'.

Ar ei hôl 'rym ninnau'n teithio
Tua thragwyddoldeb mawr;
Megis tarth neu niwl y bore
Yw ein bywyd gwael bob awr:
Ymofynnwn am wir grefydd,
Crefydd ddeil o dan bob croes,
Crefydd felly ydoedd crefydd
Hannah Thomas, Ty'n y Groes.

FFYDDLONDEB HYD ANGAU. (DATCUDDIAD ii, 10).


{{center block|
<poem>
Bydd ffyddlon, bydd ffyddlon, O Gristion,
Yn erbyn d'elynion bob pryd,
Bydd ffyddlon, bydd ffyddlon, cei goncwest,
Er maint yw y rhwystrau i gyd;
Ymdrecha yn deg yn y rhyfel
Yn erbyn y diafol a'i lu,
Gwregysa dy hunan yn gadarn,
Mae'r Iesu bendigaid o'th du.

Er iti gael yma dy guro
Gan stormydd cynddeiriog y byd,
A'r diafol a'i erchyll ddyfeisiau
Yn ceisio dy rwystro o hyd,
Bydd ffyddlon, bydd ffyddlon hyd angau,
Cei'n ddiau fawr dâl am dy waith,
Mae'r Arglwydd bendigaid yn addaw
Hardd goron 'rôl gorffen y gwaith.

A honno yw coron y bywyd,
Sydd fry yn y nefoedd i ti,
Ei gwisgo a gei yn dragwyddol,
Bydd iti'n anrhydedd a bri;
Cei wisgoedd claerwynion amdanat,
A thelyn o aur yn dy law,
A chanu i'r Iesu'n oes oesoedd
Heb arnat byth eisiau, cael taw.


PAN YN WAEL O DAN AFIECHYD YR IAU, HYDREF, 1880.

Gwael wyf ac wedi'm clwyfo—ac wele,
Mae'm calon yn curo;
Poen i'm cefn drachefn ar dro—ar ôl hyn
Fy mhen wedyn fydd yn fy mhoenydio.

Rhyw ddrwg yn anharddu'r iau—a honno
Mor hynod ei phethau;
Mewn anhedd a'm gwedd yn gau—a dios
Wyf mwy, o'i hachos, yn llwyd fy mochau.


CYNGERDD FFORDDLAS, NOS LUN, IONAWR 12, 1882.

I ddechrau ein canig, dymunwn hir oes,
I wreng a bonheddig na fydded un loes,
Y flwyddyn bresennol fo'n flwyddyn o dde,
Cyfalaf a llair yn llwyddo 'mhob lle,
Ac yna y meistr a'r gweithiwr ynghyd
Gydunant i ganmol Creawdwr y byd,
A heno dechreuwn mewn llonder a blas,
A phawb yn cael testun yng nghyngerdd Fforddlas.

Mae gennym i ganmol ein Crewr bob pryd,
Oherwydd Ei roddion yr ydym ynghyd,
Yn hen ac yn ieuanc, pob oedran, pob rhyw,
Mae'n destun o syndod ein gweled yn fyw;
Mae miloedd ddechreuodd y flwyddyn mewn hedd,
Yn llawn eu gobeithion, yr awrhon mewn bedd,
Ond wele ni'n canu mewn llonder a blas,
A phawb yn cael testun yng nghyngerdd Fforddlas.

Hoff gennym yw gweled cynifer ynghyd,
Mewn undeb mae gallu a llwyddiant y byd;
Daeth yma gerddorion, rhai mwynion a mâd,
I ganu alawon henafol ein gwlad,
A phawb yn ei arddull, pob un yn ei drefn,
A phawb yn wir barod i ganu drachefn,
A ninnau trwy hynny mewn llonder a blas
Yn cael ein bodloni yng nghyngerdd Fforddlas.

Ni gawsom "official" o Gonwy wrth raid,
A daeth idd ein helpu wych gor Llansantffraid,
A chawsom fel arfer i gynneu y tân
John Ffoulks wrth ei bleser, a'i gôr yn rhoi cân;
Athrofa wir werthfawr, rhaid i ni roi coel,
I ddysgu cerddoriaeth yw Ty Ffrith y Foel,
Oblegid eich llafur ceir llonder a blas,
A phawb yn eich canmol yng nghyngerdd Fforddlas.


Ac hefyd mae gennym 'nawr gor newydd spon,
A chanant yn swynol—y blaenor yw John,
Ac wele rai eraill gwir enwog mewn cân
Yn canu nes toddi ein calon yn lân;
Mae pawb yn cael heno, ni gredwn, rhyw les,
Dim un yn anfodlon oherwydd rhoi pres:
'Rôl hyn, ni a gredwn, dywedir mewn blas,
Un hynod o ddifyr oedd cyngerdd Fforddlas.


I JOHN FFOULKS YN YR UN GYNGERDD

Yr hen lane hyd dranc ar dro—a rydd
Help yn rhad lle byddo;
Hyf ei ddawn, difyr fydd o—a medrus
Ac mewn da 'wyllys cân gymaint allo.


ETO I MISS JONES, BIRKENHEAD, YN YR UN GYNGERDD

Cân hon yn llon er ein lles
Yng Ngwalia fel angyles.


ETO I COR CONWY YN YR UN CYNGERDD.

Alaw Mabon yn llon, a llu—pert iawn
Y parti wnânt ganu;
Cyneuant dân ar gân yn gu—wrth raid
Ni gawn eosiaid idd ein cynhesu.


ETO I COR Y LLAN YN YR UN GYNGERDD.

Heno gwyr Ffraid, hen gewri ffraeth—rhwyddawl
Rhoddant eu gwasanaeth;
Ac yn eu llef ceir gwin a llaeth,
Hoff foddion Solffayddiaeth.


CYLCHWYL LENYDDOL CONWY, NADOLIG, 1881.

Mae disgwyl wedi bod
Am enwog ŵyl Nadolig,
A daeth wrth drefn y rhod
Yr amser penodedig;
Ceir llawer dull a modd
I drenlio'r dydd yn ddiau,
Derbynnir amli rodd,
A cheisir rhyw bleserau.

Mae pawb yn cael mwynhad
Pe na bae lles yn hynny,
Ond 'leni ceir heb wad
Y ddau yn 'Steddfod Conwy;
Mae rhai am gicio pêl,
A rhedant fel rhai angall,
Rhaid ennill, doed a ddêl.
Neu gicio rhywbeth arall.


Mae rhai am fynnu gŵydd,
A'u hobi ydyw gwledda,
Ceir eraill yn eu swydd
Am ganlyn cŵn a hela;
Mae pawb am gael mwynhad,
Pe na bae lles yn hynny,
Ond 'leni ceir heb wâd
Y ddau yn 'Steddfod Conwy.

Addawodd ambell un
Nad yfai yn dragywydd,
Ond heddyw wele'r dyn
Yn mynnu boddi'r m'linydd;
Rhaid ydyw iddo gael
Yr hyn a'i gwna yn wrthun,
A gwelir ef, un gwael,
A'i wedd ym muchedd mochyn.

Mae pawb am gael mwynhad,
Pe na bae lles yn hynny,
Ond 'leni ceir heb wâd
Y ddau yn 'Steddfod Conwy;
Bydd hon-a-hon yn rhydd
I fynd am dro y gwyliau,
A mawr ddarparu fydd
Trwy brynu newydd bethau.

Rhaid cofio am y pwrs
Er mwyn cael pres i wario-
Rhaid dangos parch, wrth gwrs,
Tra byddo ffyrling ynddo;
Mae pawb am gael mwynhad,
Pe na bae lles yn hynny,
Ond 'leni ceir heb wâd
Y ddau yn 'Steddfod Conwy.

Ymgyrcha rhai ynghyd
I drin y byd a'i bethau,
A llawen fydd eu pryd
Wrth ddiwyd bigo beiau;
Fel hyn mae dull y byd
O wyl i wyl mynd heibio,
A phawb yn cael o hyd
Rhyw fath o bleser ynddo.

Mae pawb am gael mwynhad,
Pe na bae lles yn hynny,
Ond 'leni ceir heb wad
Y ddau yn 'Steddfod Conwy;
Y mae pleserau i'w cael
Nad ydynt werth eu meddu,
Ond beddyw yn ddi-ffael
Ni gawn rai gwerth eu parchu.


Cyfiawnder heddyw fydd
Arwyddair yr Eisteddfod,
A phawb yn cael trwy'r dydd
Yn ôl eu gwir deilyngdod;
Ac yna ceir llesâd
A gwir fwynhad trwy hynny,
A dwedir heb nacâd,
Un dda oedd 'Steddfod Conwy.


DR, GOMER LEWIS, YN DARLITHIO YN FFORDDLAS,
NOS FAWRTH, HYDREF 2, 1906.

Gomer sy'n byrlymu gemau—o'i ben
Daw baich o drysorau;
Yn ei ddawn mae yn ddiau
Yn bwythwr ar iawn bethau.

Mae'n ddyn od a bydglodus—a'i enw
Sydd annwyl yn ddilus;
Yn dda ei raen, yn ddi-rus,
A'i dalent yn hudolus.



—————————————

—————————————

Argraffwyd a rhwymwyd yn Swyddfa'r "North Wales Times," Dinbych

Nodiadau[golygu]

  1. O'r Codau i Langernyw.
  2. "Bedd y Dyn Tylawd."