Bywyd a Gwaith Henry Richard AS/Pennod I

Oddi ar Wicidestun
At Y Darllennydd Bywyd a Gwaith Henry Richard AS

gan Eleazar Roberts

Pennod II


BYWYD A GWAITH
Y DIWEDDAR
HENRY RICHARD, A.S.

—————————————

PENNOD I.

Rhagarweiniad—Rhieni Mr Richard—Ei Febyd—Dylanwad crefydd Cymru arno—Yr addysg a gafodd gartref, ac yn ysgol John Evans, Aberystwyth.


O ba gyfeiriad bynnag yr edrychwn ar fywyd a gwaith y diweddar Mr. Henry Richard, nid ydym yn canfod dim ond yr hyn sydd yn cynhyrchu ynom barch ac edmygedd: parch at ei gymeriad personol dihafal, ac edmygedd oherwydd y gwaith pwysig a gyflawnodd yn ei fywyd. Treuliodd fywyd llafurus, anrhydeddus, a phur; bywyd y gellir cyfeirio ato fel esiampl a symbyliad i bob gŵr ieuanc ar ddechreu ei yrfa yn y byd; a chyflawnodd waith ag sydd a'i bwysigrwydd a'i effeithiau daionus ar y dyfodol mor fawr, nad oes ond ychydig mewn cymhariaeth yn gallu yn awr ei werthfawrogi yn ddyladwy. Fel gweinidog yr efengyl, yr oedd yn cael ei hoffi a'i barchu; fel "apostol heddwch" llafuriodd yn mwy na neb yn ei ddydd, a gwnaeth argraff annileadwy er daioni ar y deyrnas hon, ac ar wahanol deyrnasoedd Ewrob, ie, a'r byd; ac fel gwleidyddwr dadleuodd dros fesurau sydd, ac a fyddant, o anhraethol werth i'w genedl a'r deyrnas yn gyffredinol. Carai ei wlad—hen wlad ei dadau—yn angerddol, ond carai gyfiawnder yn fwy. Er cryfed ei wladgarwch, ni pheidiai a nodi beiau ei gydgenedl, ac nid anghofiai hawliau teg cenhedloedd ereill. Yr oedd ei ymlyniad wrth egwyddor, ei ymgysegriad i ddyledswydd, ei ymroddiad i wasanaethu achos dynoliaeth, gwareiddiad, ac iawnder cyffredinol, yn cyfansoddi neilltuolion pennaf ei fywyd. A'r hyn sydd yn adlewyrchu anrhydedd mwy na'r cyfan ar ei enw da yw, ei fod wedi arwain bywyd mor bur a dilychwin, fel nad allai ei elyn, os oedd ganddo un, gyfeirio at ddim a wnaeth, nad oedd yn gydweddol â chymeriad disgybl cywir i'r "Cyfiawn a'r Santaidd" hwnnw y bu mor ffyddlon yn ei ddilyn.

Bywyd a gwaith y gŵr enwog hwn yr ydym am geisio ei ddesgrifio. Anturiwn ar y gorchwyl oddi ar deimlad o hoffter o honno, a pharch tuag ato. Dymunem drwytho ein hysbryd ein hunain o'r newydd â'i esiampl a'i egwyddorion a hyderwn y bydd darllen hanes y fath gymeriad

—————————————

Y PARCH. EBENEZER RICHARD.

—————————————

rhagorol yn symbyliad i'n darllenwyr—y rhai ieuanc ohonynt yn arbennig—i arwain yr un bywyd pur a llafurus.

Ganwyd Mr. Henry Richard yn Nhregaron, swydd Aberteifi, ar y 3ydd o Ebrill, 1812. Yr oedd ei dad, Ebenezer Richard, a'i ewythr, Thomas Richard, yn ddau o'r pregethwyr mwyaf enwog ymysg y Methodistiaid Calfinaidd. Mae eu henwau yn perarogli yn hyfryd yng Nghymru hyd y dydd hwn. Nid oes neb a ddarllenodd Hanes Bywyd y Parch. Ebenezer Richard, gan ei feibion, E. W. Richard a Henry Richard, gwrthrych yr hanes hwn; Methodistiaeth Cymru, gan y diweddar Barch. John Hughes, Lerpwl; y bennod ddoniol ar "Hen Bregethwyr Cymru," gan y diweddar Dr. Owen Thomas, yng Nghofiant John Jones, Talsarn, a'r Tadau Methodistaidd, gan y Parch. J. Morgan Jones, nad yw yn gwybod am enwogrwydd y cyff yr hanodd Mr. Henry Richard o honno. Bu ei daid, Henry Richard, yn cadw ysgol, ac yr oedd hefyd yn bregethwr cymeradwy gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Am Ebenezer Richard, ei dad, ni fendithiwyd unrhyw gyfundeb â gweinidog mwy ffyddlon a defnyddiol nag ef. Fel pregethwr, yr oedd ymysg y rhai enwocaf yn ei ddydd. Meddai fedrusrwydd dihafal gyda'r Ysgol Sabothol, ac ac yn arbennig fel holwr pwnc. Yr oedd hefyd yn drefnydd gwych, y goreu, meddir, a gafwyd yn y De er amser Howell Harris a Charles o'r Bala. "Meddai lygad craff, ewyllys benderfynol, medr arbennig, ac ynni diderfyn."[1] Yr un ydyw tystiolaeth Dr. Rees am dano.[2] " Yr oedd," meddai," yn un o'r gweinidogion mwyaf defnyddiol a dylanwadol yn y Dywysogaeth; yn addfwyn, ond eto yn benderfynnol; yn dra duwiol, ond heb ddim rhith santeiddrwydd; bob amser yn effeithiol fel pregethwr, ac ar brydiau yn anorchfygol; yn dra doeth a medrus fel trefnydd achosion y cyfundeb, ac yn llafurio yn ddi-baid yng nghyflawniad ei ddyledswyddau." Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf, ac yn brif offeryn, i sefydlu Ysgolion Sabothol Neheudir Cymru, ac y mae yr holl enwadau yn awr yn medi ffrwyth ei lafur. Llafuriai tu hwnt i'r cyffredin. Dywed ei feibion, yn hanes ei fywyd, ei fod yn ystod y ddwy flynedd ar hugain olaf o'i oes wedi pregethu 7,048 o weithiau, wedi gweinyddu y Cymun Santaidd 1,360 o weithiau, wedi bedyddio 824 o blant, wedi cymeryd rhan mewn 651 o gyfarfodydd cyhoeddus, ac wedi teithio 59,092 o filltiroedd, sef mwy na dwy waith amgylchedd y byd.

Yr oedd Ebenezer Richard hefyd yn ysgolhaig da, cyfarwydd yn y ddwy iaith, ac yn meddu rhyw gymaint o wybodaeth am yr ieithoedd clasurol. Bu yn ysgrifennydd y Gymanfa, yn y De, o'r flwyddyn 1813 hyd ei farwolaeth, a chyflawnodd ei waith yn y modd mwyaf medrus a ffyddlon.

Dywedir y gwnaed cais arbennig unwaith i'w demtio i adael y Methodistiaid ac ymuno â'r Eglwys Sefydledig, ond gwrthododd yn bendant, gan ddweud ei fod yn Ymneilltuwr oddiar argyhoeddiad. Hawdd credu hynny, oblegid dywedodd unwaith gyda digllonedd wrth son am y Ddeddf Goddefiad, " Dim ond ein tolerato ni y maent hwy eto. Ffei, ffei, goddef dynion i addoli Duw yn ôl eu cydwybod."[3] Nid rhyfedd fod yr un teimlad yn gorwedd yn ddwfn yng nghalon ei fab, Henry Richard.

Er fod Ebenezer Richard yn teithio llawer, ni fyddai byth yn esgyn i'r pulpud heb fod ganddo bregeth wedi ei pharatoi. Treuliai ei holl amser, pan fyddai gartref, yn ei fyfyrgell, mewn cyfarfodydd crefyddol, neu yn ymweled â'r claf. Mewn gair, a defnyddio ei eiriau ei hun, arhosai gartref yn cyweirio ei rwyd, ac yna elai allan i'r môr drachefn gyda'r llanw cyntaf Cafodd Mr. Henry Richard ei fendithio hefyd â mam ragorol, un o sefyllfa dda, wyres i un o hen gynghorwyr y Methodistiaid. Dywedir y byddai yn cyflawni swydd bugail yn ystod absenoldeb ei gwr. Yr oedd yn hynod fel heddychydd rhwng pleidiau cynhennus, yn gymaint felly, fel y gelwid hi yn Ustus Heddwch; teitl priodol iawn i fam "Apostol Heddwch."

Nid rhyfedd fod Mr. Henry Richard, yn ei ddyddiau olaf, yn arbennig, yn teimlo yn falch, ac yn datgan mor groew, ei "fod wedi hanu o gyff da, cyff ag oedd wedi gwasanaethu Cymru yn y dyddiau gynt." Ar ôl bod yn troi ymysg mawrion byd, ar ôl blynyddau lawer o lafur yn y Senedd, yr oedd adgofion am hen bregethwyr Cymru, a'r dylanwadau grymus oedd yn cyd—fyned â'u pregethau, yn anwyl mewn cof ganddo. Hyd yn oed yn ei ddyddiau olaf, pan ar ymweliad â Mr. Richard Davies, Treborth, aeth i Gymanfa Caernarfon, pryd y torrodd "gorfoledd" allan o dan bregeth rymus y diweddar Dr. Owen Thomas. Llawenychai Mr. Richard yn fawr, a theimlai yn ddwys, a dywedai ar ôl dychwelyd i'r tŷ, fod yn dda ganddo ei fod wedi myned i Gaernarfon y dydd hwnnw. "Clywais orfoledd," meddai, "lawer gwaith pan yn fachgen, ond ni thybiais y cawswn ei glywed mwy." Yn ei Letters and Essays on Wales, am y rhai y cawn sylwi eto, rhydd Mr. Richard ddesgrifiad byw iawn o neilltuolion a rhagoriaethau pregethwyr Cymru. Drwg gennym nas gallwn ei ddodi yma yn llawn, ac ni fyddai ei dalfyrru ond yn gwneud cam â'r fath ddernyn prydferth o gyfansoddiad. Pan oedd Mr. Richard yn byw yn Llundain, ni fyddai byth yn fwy hapus na phan yn cael cyfleustra i ymddifyrru yn yr adgofion am danynt. Ein profiad yw, y gall dyn droi ymysg Saeson a mawrion byd am flynyddau lawer, ond y cyfryw ydyw rhagoroldeb pregethau Cymraeg fel y mae eu hargraff ar y meddwl bron yn anileadwy.

Do, fe gafodd Mr. Richard ei eni a'i fagu yng nghanol y bywyd crefyddol grymus ag oedd yn creu Cymru o'r newydd ar y pryd. Carai y capel a phethau y capel hyd y diwedd. Nid oedd dim yn ormod ganddo ei wneud, na dim gorchwyl yn rhy isel ganddo ei gyflawni, os byddai yn wasanaeth i grefydd. Dywedir y byddai yn aml, pan yn fachgen yn Nhregaron, yn dringo yr ysgolion, ac yn glanhau ffenestri y capel.

Am addysg fydol Mr. Richard, pan yn ieuanc, nid oes nemawr i'w ddweud. Gan y bu ei dad yn cadw ysgol, a'i fod yn ysgolhaig gweddol dda ei hunan, bu yn ofalus i roddi yr addysg oreu a allai i'w blant, er nad oedd ganddo lawer o dda y byd hwn. Yr oedd ganddo dri o blant ereill, sef Edward, y meddyg yr hynaf, a'r hwn a fu farw yn 1866; a dwy ferch, Mary (Mrs. Morris), yr hon a fu farw yn 1882; a Hannah (Mrs. Evans), yr hon a fu farw yn 1884. Bu Henry (gwrthrych ein Cofiant) yn yr ysgol Ramadegol yn Llangeitho; ac hefyd yn ysgol Mr. John Evans, y mesuronydd enwog, yn Aberystwyth, lle y bu amryw o enwogion ereill Cymru o dan addysg, megys Dr. Lewis Edwards, y Bala, a'r Parch. David Charles Davies, " triawd o ŵyr rhagorol o feddwl a deall uchelryw, yn cynrychioli Cymru fechan yn ei diwinyddiaeth, ei gwleidyddiaeth, a'i gwyddoniaeth." Oddiwrth yr hanes a rydd Dr. Lewis Edwards yn y Goleuad am Medi 11, 1875, a Mr. Samuel yn yr ail gyfrol o'r Cymru, am y John Evans hwn, amlwg yw ei fod yn ysgolfeistr campus. Yr oedd, nid yn unig yn fesuronydd da, ond hefyd yn ddiwinydd rhagorol, ac yn ysgrythyrwr di—ail; a di—os yw, fod addysg y fath un a Mr. Evans—yr hwn oedd hefyd yn flaenor yng nghapel y Tabernacl yn Aberystwyth—wedi cael ei fawr werthfawrogi gan un o gyneddfau cryfion Henry Richard ieuanc, ac wedi creu ynddo awydd cryf am ychwaneg o wybodaeth. Mae y chwant am ddysg, pan enynnir ef, yn dod yn angherddol.

Nodiadau[golygu]

  1. Y Tadau Methodistaidd.
  2. History of Protestant Nonconformity in Wales, t.d. 45. HENRY RICHARD, A.S
  3. Bywyd y Parch. Ebenezer Richard, gan ei feibion, t.d. 221.