Bywyd a Gwaith Henry Richard AS/Pennod II

Oddi ar Wicidestun
Pennod I Bywyd a Gwaith Henry Richard AS

gan Eleazar Roberts

Pennod III


—————————————

TY GENEDIGOL MR. RICHARD, A.S.

—————————————

PENNOD II

Mr. Richard yn gadael cartref—Yn myned at frethynnwr i Gaerfyrddin—Yn meddwl am bregethu—Yn myned i'r Athrofa yn Highbury—Ei fywyd yno am bedair blynedd.


(1826) Wedi bod fel hyn o dan addysg fydol dda, ac wedi anadlu yr awyrgylch grefyddol fwyaf pur, cawn fod ddau frawd, Edward a Henry, yn y flwyddyn 1826, wedi myned i fyw i Gaerfyrddin, lle y buont am dair blynedd. Aeth Edward, yr hynaf, at feddyg yno, a Henry i wasanaethu ym masnachdy Mr. Lewis, brethynnwr. Mae'n ddigon tebyg fod Henry, fel y diweddar Barch. Herber Evans, yr hwn a fu mewn sefyllfa gyffelyb yn Lerpwl, yn teimlo yn fynych fod ynddo gymwysterau at waith llawer rhagorach na sefyll tu ol i'r bwrdd i werthu brethynnau. Pa fodd bynnag, cawn ei fod, ymhen tair blynedd, yn dychwelyd adref, ond nid heb brawf ei fod wedi gwasanaethu ei feistr yn ffyddlon, ac wedi rhoddi llwyr foddlonrwydd iddo ef ac i'w rieni. Mae yng Nghofiant Parch. Ebenezer Richard, a ysgrifennwyd gan ei feibion, fel y crybwyllwyd, liaws o lythyrau oddiwrth y tad parchedig at y meibion, yn dangos y gofal a'r pryder mawr oedd yn ei feddiannu mewn perthynas i'w crefydd a'u buchedd tua'r pryd hwn. Diau y bu y llythyrau hyn yn galondid mawr i'r ddau fab, yn help i'w cadw ar lwybrau rhinwedd, ac i ddyfnhau eu teimladau crefyddol. Tra yr ydoedd Mr. Henry Richard gartref, yr adeg hon, cawn ei fod wedi ei dderbyn yn "gyflawn aelod " ymysg y Methodistiaid Calfinaidd, yr hyn a ystyriai yn gam pwysig iawn yn ei fywyd.

(1830) Pan oedd Mr. Richard yn dynesu at fod yn ddeunaw oed, a phan yn byw yn Aberystwyth, danfonodd lythyr at ei dad, dyddiedig Ebrill 24, 1830, yn datgan ei awydd i ymroddi i waith y weinidogaeth,—awydd y bu yn ei ddirgel goleddu am amser cyn hynny. Mae y llythyr yn dangos teimlad gwylaidd a dwys, ac yn datgan llwyr benderfyniad i ymostwng i farn ei dad. "Bydd eich gair chwi," meddai, i mi yn ddeddf;"—geiriau ag y mae yn anhawdd gwybod pa un ai ar y mab ynte tad y maent yn adlewyrchu mwyaf o anrhydedd.

Ymddengys nad oedd cynhwysiad y llythyr hwn yn synnu dim ar y teulu. Danfonodd y tad atebiad iddo yn ei gynghori yn ddifrifol i ledu mater ger bron Duw mewn gweddi, ac addawai gymeryd "pob cam angenrheidiol yn yr achos pwysig hwn, heb un oediad pechadurus ar y naill law, nac, yr wy'n gobeithio, un byrbwylldra gwyllt ar y llaw arall," Ymawyddai y llanc i gael mwy o addysg, a chan nad oedd gan y Methodistiaid un Athrofa ar y pryd, penderfynodd fyned i Athrofa Anibynnol Highbury yn Llundain. Gosododd y tad y mater ger bron y Cyfarfod Misol, ac ni chafodd un gwrthwynebiad. Mae yn fwy na thebyg fod y parch a goleddid at Mr. Ebenezer Richard, a'r dylanwad a feddai mewn canlyniad, yn atal ymddangosiad y culni hwnnw a ddangoswyd yn achos y diweddar Dr. Lewis Edwards mewn amgylchiad cyffelyb. Cafodd Mr. Richard dderbyniad i Highbury ym mis Medi, 1830. Mae pryder a theimlad ei dad, pan glywodd am dderbyniad ei fab i'r athrofa, yn cael ei ddesgrifio yn fywiog iawn mewn llythyr a ysgrifennodd at ei "anwyl Henry," Medi 13, 1830.

"O mor fynych," meddai, "y canlynais chwi at Dr. Henderson a Mr. Halley at Mr. Wilson, ac o flaen y Cyfeisteddiad! O mor bryderus y bum yn eistedd wrth eich penelin pan oeddech yn ysgrifennu eich ateb i'w gofyniadau, a chyda'r fath gerddediad crynedig y bum yn cyd-fyned â chwi i gyfarfod a'r Cyfeisteddiad y prydnawn hwnnw ! Fel y bum yn eistedd yn eich ymyl dros y pedair awr hirfaith o ddisgwyliad pryderus, ac fel yr aethum gyda chwi, â chalon grynedig, pan eich gwysiwyd i'w presenoldeb! Mor fynych y bum yn gofyn—Pwy ydyw y bachgennyn gwridgoch acw sydd yn sefyll o flaen doctoriaid dysgedig Llundain ? Ai fy anwyl Henry ydyw? Ie, efe yw. Nid yw bosibl! Os efe yw, pa le y mae ei gyfeillion a'i gynorthwywyr? Pa le y mae ei gynghorwyr a'i gyfarwyddwyr? Os oes ganddo y cyfryw, y maent yn hollol anwybodus o'i sefyllfa bresennol; gall ddywedyd gyda'r Salmydd, Car a chyfaill a yrraist ym mhell oddi wrthyf.' A oes ganddo neb i ateb drosto? Pa le y mae ei dad, a'i fam,—yr hon a'i hymddug? Y maent ragor na dau gant o filltiroedd oddi wrtho, yng nghanol mynyddoedd Cymru. A oes ganddo neb cydnabod yn Llundain ag y geill droi atynt? Nac oes; neb yn y byd! Wel, yn wir, y mae e' yn unig iawn—wedi ei adael gan yr holl fyd! Ond, boed felly; mi allaf fi ganfod nad ydyw yn unig—yr oedd Duw hwnnw oedd gyda Joseph o flaen Pharoah, gyda Henry o flaen y Cyfeisteddiad, yn dadleu ei achos ac yn ateb drosto—Duw hwnnw a arweiniodd ei rieni y deugain mlynedd hyn yn yr anialwch, a fu yn gynghorwr ac yn gynhorthwy iddo. Bydded yr holl fawl iddo ef !"

Pwy fedr ddesgrifio y fath galondid i'r gŵr ieuanc, yng ngwyneb ei anfanteision ar y pryd, oedd cael y fath lythyr a hwn oddiwrth dad oedd mor lawn o gydymdeimlad ag ef?

Pan yn Highbury daeth i gydnabyddiaeth â gŵyr ieuainc o gyffelyb feddwl ag ef ei hun, ac yn eu mysg, Syr Hugh Owen, y Parch. David Thomas, ac ereill. Bu yn Highbury am bedair blynedd. Yn y Congregationalist, am y flwyddyn 1876, fe ysgrifennodd Mr. Richard ddwy erthygl o'i Adgofion am ei gyfaill, y Parch. David Thomas, ar gais golygydd y cyhoeddiad hwnnw; a chan fod yr erthyglau yn cynnwys hanes o'r modd y cafodd Mr. Richard dderbyniad i Highbury, ac o'i fywyd colegawl am y tymor y bu yno, a'u bod wedi eu hysgrifennu mewn arddull mor ddyddorol, gwnawn rai dyfyniadau ohonynt.

Ar ol desgrifio bywyd boreuol Mr. Thomas, ei ddygiad i fyny gyda'r Methodistiaid, a mantais y Seiat" fel moddion amaethiad crefyddol, dywed:

"Dyma'r pryd y daethum i gydnabyddiaeth ag ef. Yr oeddwn innau wedi penderfynu cysegru fy hun i'r weinidogaeth. Fel Mr. Thomas, yr oeddwn yn Fethodist Calfinaidd, yn fab i weinidog enwog a phoblogaidd perthynol i'r enwad hwnnw. Ond nid oedd gan y Methodistiaid Cymreig un Athrofa nac ysgol i roddi addysg i ŵyr ieuainc ar gyfer y weinidogaeth. Mae ganddynt yn awr ddau o sefydliadau o'r fath, un yn y Bala, ac un arall yn Nhrefecca. Yr oeddwn i wedi penderfynu peidio bod yn weinidog heb addysg athrofaol, ac felly daethum i Lundain heb un cynllun penodol, ond gyda phwrpas penderfynol i weithio fy ffordd, os oedd modd, i ryw sefydliad a roddai i mi ddymuniad fy nghalon. Yr oedd yr anturiaeth yn un wyllt. Nid adwaenwn neb; ni ddygaswn gyda mi unrhyw lythyrau cyflwyniad, oblegid yr oedd Llundain, y dyddiau hynny, ymhell iawn o Gymru, a chyfleusterau trafodaeth rhwng y ddau le yn anaml ac anghyfleus. Yn ffodus aethum i letya i dŷ'r capel, a phan ddywedais wrth rai o'r cyfeillion fy amcan, hysbyswyd fod gŵr ieuanc o Ferthyr o'r enw David Thomas yn lletya yn y tŷ, a'i fod ar fedr myned i Athrofa Highbury. Ymgyfarfuasom. Yr oedd David Thomas yn llanc tal a theneu, ysgwyddau llydain ganddo, a thoraeth o wallt melynaidd heb fawr o drefn arno. Adwaenai fy nhad yn dda, yr hwn, and odid, a dderbyniasid i dŷ ei fam ym Merthyr yn ystod rhai o'i ymweliadau â sir Forgannwg, oblegid yr oedd llafur fy nhad yn cyrraedd dros bob parth o'r Dywysogaeth. Clywsai ef yn pregethu lawer gwaith, a choleddai y parch dwfn hwnnw tuag ato, ag oedd yn ymylu bron ar addoliad,—sydd yn cael ei deimlo gan y Cymry, ac yn enwedig y Cymry Methodistaidd at eu pregethwyr mawr.

Derbyniodd fi, gan hynny, yn garedig, ac aeth a fi at Thomas Wilson. Nid af i adrodd hanes fy nerbyniad i Highbury, er ei fod i mi yn ddigon difyrrus. Y cwbl a ddisgwyliwn oedd cael fy nanfon ar brawf am dymor i Rowell, fel yntau. Ond rhywfodd, llwyddais i basio gyda'r ychydig wybodaeth a feddwn, ac ar ol myned trwy y prawf arswydus o bregethu o flaen y pwyllgor, a'r arholiad a ddilynodd, cefais fyned ar unwaith i'r Athrofa."

Ar ol son am y cyfeillgarwch cynnes a dyfodd rhyngddo â Mr. Thomas, y mynych ymddiddanion a'r dadleuon rhyngddynt ar bob math o bynciau; a dylanwad daionus ei gyfaill arno, dywed ei fod ef a Mr. Thomas o dan yr anfantais o fod yn gorfod ymarfer yn gyhoeddus mewn iaith ag oedd iddynt hwy yn un ddieithr, ac mewn dull nad oeddent hwy wedi cynefino ag ef, ac "fel hyn," meddai, "er ei fod ef a minnau wedi ein dwyn i fyny mewn awyrgylch pregethwrol, nid aethom i mewn gydag un sêl arbennig i'r cydymgais areithyddol ag oedd yn cyfansoddi y symbyliad mwyaf i lafur yn Highbury y pryd hwnnw." Rhydd Mr. Richard ddesgrifiad doniol o'r helbul y byddai efe a Mr. Thomas ynddo oherwydd eu hoffter o bregethau Cymraeg. Tynnent wg Dr. Halley arnynt, am y byddent yn hwyr, yn fynych, yn dychwelyd i'r Athrofa ar nos Sabothau. Ceuid y pyrth am ddeg, ac ar ol hynny cenid y gloch, a chymerid enwau yr hwyrddyfodiaid i'w rhoi i'r athraw.

"Ond," meddai, "yr oedd y gwasanaeth yn y capel Cymraeg yn fynych yn gynwysedig o ddwy bregeth, a chyfarfod eglwysig ar ol hynny, yr hwn a barhâi am amser maith. Yr oedd cerdded o Jewin Crescent i Highbury yn cymeryd awr gron. Nid oedd Omnibuses ond yn dechreu dod i arferiad, ac nid oedd ystâd ein llogellau ni yn caniatáu i ni logi ceir. Nid oedd dim i'w wneud ond ei throedio hi; David Thomas gyda'i goesau hirion a'i gamrau breision, a minnau gyda'm coesau byrion a'm camrau bychain, yn prysuro adref â'n holl egni; gan yspio i bob siop y ceid golwg ar gloc, ac yn llawn pryder gyda golwg ar y posibilrwydd o fedru cyrraedd y pyrth cyn deg, ac felly osgoi aeliau gwgus Dr. Halley, fyddai yn ein haros, os methem. Yr oedd yn y pulpudau Ymneilltuol y pryd hwnnw bregethwyr enwog megis Dr. Fletcher, Dr. Bennett, Dr. Leifchild, Dr. Vaughan, Dr. Reed, Mr. Burnet, Mr. Blackburn, ac ereill; a Mr. Binney, yn arbennig, ac yr oeddwn wedi eu clywed i gyd; ond, fel rheol, byddai Mr. Thomas a minnau, am y ddwy flynedd gyntaf o'n bywyd Athrofaol, cyn i gyhoeddiadau Sabothol dorri ar ein traws, yn myned i'r capelau Cymraeg yn amlach nag i un arall, oblegid i ni, yr oedd y weinidogaeth Seisnig yn cael ei theimlo yn oer a ffurfiol, o'i chydmaru â hyawdledd gwresog ein cyd-wladwyr. Yn y dyddiau hynny, hefyd, llenwid pulpud Jewin Crescent gan rai o brif bregethwyr y Dywysogaeth,—John Elias, Ebenezer Richard (fy nhad), Henry Rees, ac ereill, y rhai a dybiwn i, y pryd hwnnw, ac a dybiaf eto, yn feistriaid digymar hyawdledd cysegredig."

Rhoddasom y desgrifiad hwn gan Mr. Richard ei hun o'i fywyd yn Highbury, er dangos, unwaith eto, mor ddofn oedd yr argraff a wnaed ar ei feddwl gan yr hen bregethwyr Cymreig, yr hyn a rydd gyfrif am y teimladau cynnes a goleddai bob amser tuag at bopeth Cymreig, ac am y digllonedd cyfiawn a'i meddiannai pan wneid ymosodiad annheg ar gymeriad ei genedl.

Yr oedd Proffeswr Godwin a Dr. Stoughton hefyd yn gyd-efrydwyr â Mr. Richard, ac y mae yr olaf yn tystio ei fod ef a David Thomas yn ddynion o alluoedd rhagorol, yn efrydwyr diwyd, ac ymroddedig i'r gwaith y galwyd hwynt iddo. Yr oedd eu cyfeillgarwch yn gyfryw, fel y gelwid hwynt yn Dafydd a Jonathan. Dywed y Parch. D. Rowlands, M.A., yn y Traethodydd am 1888, t.d. 448, ar dystiolaeth y Parch. J. Jones, Ceinewydd, yr arferai Mr. Richard bregethu yng nghapelau y Methodistiaid pan ddeuai i'r wlad ar y gwyliau, a'r un modd wedi iddo ymsefydlu yn weinidog yn Llundain; ei fod wedi pregethu mewn Cymdeithasfa yn Nhwrgwyn yn 1835, am ddeg o'r gloch yn Saesneg, a Mr. Evans, Llwynfortun, o'i flaen yn Gymraeg, a Mr. Henry Rees ar ei ol. Dywedir ei fod yn pregethu mewn capel yn Sir Aberteifi ar un o'i ymweliadau, a bod hen flaenor, wrth sylwi ei fod yn 'troi ei wallt," wedi myned ato pan ydoedd ar esgyn i'r pulpud, ac wedi tynnu ei law hyd ei ben dros ei dalcen, a dweud, "Fy machgen anwyl, bydd weddus yn y pulpud!"

Ar ol pedair blynedd o addysg athrofaol mewn Coleg Anibynnol, "yr oedd yn naturiol iddo gymeryd yn garedig at y lle," ac mor naturiol wedi hynny iddo ymsefydlu fel gweinidog ymysg y bobl a osodent gymaint gwerth ar ei lafur.

Nodiadau[golygu]