Bywyd a Gwaith Henry Richard AS/Pennod III
← Pennod II | Bywyd a Gwaith Henry Richard AS gan Eleazar Roberts |
Pennod IV → |
PENNOD III
Mr. Richard yn weinidog capel Marlborough—Ei lafur gweinidogaethol—Ei gariad at Gymru—Ei ddarlith yn ei hamddiffyn yn erbyn cam—gyhuddiadau y dirprwywyr ar Addysg.
(1835) Bu Mr. Richard gartref yn Nhregaron yn glaf, yng Ngwanwyn 1835, am rai misoedd, ond yn Hydref yr un flwyddyn penodwyd ef yn weinidog Capel Marlborough yn Old Kent Road, Llundain. "Gweinyddwyd ar achlysur y penodiad gan y Parch. John Burnet, Dr. Henderson, Mr. Binney ac ereill." Yr oedd ei dad, ei fam, a'i frawd, yn bresennol ar yr achlysur, ac y mae ei dad yn rhoi y desgrifiad byw canlynol o'r amgylchiad mewn llythyr a ysgrifennodd at Mr. a Mrs. Jones, Llanbedr, Rhagfyr 11, 1835,—
"Y Saboth diweddaf ydoedd Sul Cymundeb cyntaf ein hanwyl Henry ar ôl ei urddiad; aeth ei fam a'i frawd a minnau i'w gapel i fod yn bresennol ar yr achlysur difrifol. Ond beth fydd eich syndod pan ddeallwch i'ch hen gyfaill, E. Richard o Dregaron, sefyll i fyny a phregethu pregeth Saesneg i gynulleidfa gyfrifol iawn yn y brif ddinas. Mi wn y chwardd Mrs. Jones yn iach am ben hyn, ac y dywed ond odid, — Yr hen ŵr gwirion, druan, y mae ei benwendid (dotage) yn dyfod arno; y mae yn dechreu myned yn hen.' Ar ôl y bregeth, cawsom y mawr hyfrydwch o eistedd i lawr wrth Fwrdd yr Arglwydd, a'n hanwyl Henry yn gweinyddu. Yr oedd bron yn ormod i'n teimladau ddal, ac mewn gwirionedd, yr oedd fel rhyw nefoedd fechan i ni ar y lawr."
Cyn hir wedi hyn, dechreuodd y Parch. Ebenezer Richard ymglafychu, a bu farw ym mis Mawrth, 1837; er dirfawr dristwch i'w fab tyner—galon, yr hwn a'i carai ac a'i hedmygai mor fawr, a cholled anhraethol i Gymru.
Pan gymerodd Mr. Richard ofal yr eglwys yn Old Kent Road, nid oedd ei ragolygon yn addawol iawn. Er fod ei gynulleidfa yn fawr, nid oedd yr eglwys ond bechan mewn rhif, a'i haelodau heb fod yn rhy unedig ychwaith, fel yr oedd yn gofyn doethineb mawr ar ran gŵr ieuanc 23ain oed i gyflawni y gwaith pwysig y galwyd ef iddo. Nid rhyfedd oedd i'w dad ei gynghori i gofio yr hen ddihareb Gymreig —
"Gwel a chêl a chlyw,
A chei heddwch yn dy fyw,"
cyngor y byddai yn dda i lawer gweinidog, hen ac ieuanc, ei gymeryd y dyddiau hyn. Arbedid felly lawer o anghysur.
O dan ofal doeth Mr. Richard, cynyddodd yr eglwys mewn rhif, ymadfywiodd y gwahanol sefydliadau perthynol iddi, a'r Ysgol Sul yn arbennig Bu Mr. Richard yn weinidog yng nghapel Marlborough am dros bymtheg mlynedd.
(1843) Yn 1843, cafodd y gweinidog ieuanc gyfleustra i ddangos yr eiddigedd hwnnw a nodweddai ei fywyd dros gymeriad ei genedl, trwy ysgrifennu i'r Daily News, a hefyd trwy bapur a ddarllenodd o flaen yr Undeb Cynulleidfaol yn achos y rhai a alwent eu hunain yn blant Rebeccah yn Neheudir Cymru y pryd hwnnw yr oedd y toll-byrthi yn faich trwm ar warrau y ffermwyr. Troent allan yn y nos, ac ymffurfient yn finteioedd o bum cant mewn nifer, a'u harweinwyr wedi eu gwisgo mewn dillad merched, a dinistrient y tollbyrth, ac yna ymwasgarent. Galwent eu hunain yn " blant Rebeccah," mewn cyfeiriad at yr addewid (Gen. xxiv. 60) y byddai i had Rebeccah etifeddu porth ei gaseion (possess the gate of those which hate them). Rhoddai y newyddiaduron ddesgrifiad ofnadwy o'r terfysgoedd hyn, a chymerid achlysur i ddifrïo y Cymry yn gyffredinol. Er nad oedd Mr. Richard, fel y gallesid disgwyl i'r hwn a ddaeth wedi hynny, mewn modd neilltuol, yn "Apostol Heddwch," yn cyfreithloni y terfysgoedd hyn, eto dangosodd yn ei ysgrifau nad oedd din amcan politicaidd mewn golwg, ond fod y cwbl yn codi oddiar orthrwm annioddefol, Y canlyniad fu penodi dirprwywyr i wneud ymchwiliad ; dangoswyd fod Cymru yn wlad heddychol ymhob modd arall, a phasiwyd mesur ag oedd yn gwella llawer ar sefyllfa pethau, a chafodd Mr. Richard ddiolchgarwch cynhes ei gydwladwyr am yr hyn a wnaeth.
Nid oedd gweinidog capel Marlborough mor ffôl a meddwl ei fod yn llychwino ei gymeriad trwy gymeryd rhan mewn materion gwladwriaethol, yn enwedig y materion hynny ag oedd yn dwyn cysylltiad ag addysg y bobl. Ymunodd â'i frodyr Ymneilltuol i wrthwynebu mesur Syr James Graham ar Addysg yn y Llaw-weithfeydd, ac, yn ddilynol, yn ffurfiad yr Anti-State Church Association, neu "Cymdeithas Rhyddhad Crefydd."
(1844) Yn 1844 hefyd fe'i penodwyd gan yr Undeb Cynulleidfaol i ymweled ag Eglwysi Anibynnol Cymru gyda'r Parch. John Blackburn, a chafwyd Adroddiad ganddynt ar Sefyllfa Crefydd ac Addysg yng Nghymru.
(1847) Gwnaeth Mr. Richard wasanaeth neilltuol i'w genedl yn 1847, yn amser yr hyn a ddaeth ar ôl hynny, i gael ei alw yn "Frad y Llyfrau Gleision." Nid oes un Cymro cenedl-garol nad yw naill a'i wedi darllen am, neu yn cofio y cyffro a godwyd ymysg y Cymry tua'r adeg yma. Yr oedd y cwestiwn o nifer cymhariaethol Ymneilltuwyr ac Eglwyswyr yng Nghymru wedi bod yn tynnu sylw cyffredinol, ac yn 1846 darfu i Weinyddiaeth Arglwydd John Russell ymgymeryd â'r gorchwyl o chwilio i mewn i "sefyllfa addysg yn Nhywysogaeth Cymru, ac yn enwedig y moddion oedd yng nghyrraedd y dosbarth gweithiol i feddu gwybodaeth o'r iaith Saesneg." Er mor dda y gallasai yr amcan fod, troes allan yn dra aflwyddiannus. Gyda'r dylni, neu'r difaterwch hwnnw, sydd yn rhy fynych wedi nodweddu ymddygiad y Llywodraeth at Gymru, penodwyd tri o fargyfreithwyr hollol anghymwys i'r gwaith, sef Mr. Lingen, Mr. Vaughan Johnson, a Mr. Symons. Yr oedd y tri yn Eglwyswyr; yr olaf yn elyn pendant i Ymneilltuaeth Gymreig. Nid oedd un ohonynt yn deall Cymraeg, a chamarweiniwyd hwynt yn druenus gan y rhai y daethant i gysylltiad â hwynt. Ymgynghorasant yn bennaf ag esgobion a chlerigwyr; yr oedd y rhai a alwyd ganddynt i roddi tystiolaeth bron i gyd yn Eglwyswyr, ac o'r Eglwyswyr hynny yr oedd tri o bob pedwar yn glerigwyr. Beth oedd i'w ddisgwyl oddiwrth y fath ddirprwyaeth ond Adroddiad unochrog ac annheg? Nid rhyfedd i Ieuan Gwynedd ganu fel hyn am waith y Weinyddiaeth:—
Anfonodd dri yspiwr,
Pob un yn llwm gyfreithiwr,
A'r tri yn Saeson uchel ben,
I Gymru wen mewn ffwndwr.
Y tri wŷr awdurdodol
A aent mewn brys ryfeddol
I gasglu pob budreddi cas
Yn llyfrau glas anferthol.
Ar ôl eu cael yn gryno,
Hwy aethant oll i lunio
Rhyw dri o lyfrau gleision, hyll,
Wnant ym mhob dull ein beio.
Tynnwyd darlun o'r Cymry yn y llyfrau gleision trwchus hyn ag oedd yn synnu Saeson a Chymry fel eu gilydd. Codai y Wasg Seisnig ei dwylaw mewn syndod fod pobl mor farbaraidd yn cyfansoddi rhan o deyrnas Prydain wareiddiedig. Yr oedd Cymru, yn ôl desgrifiad un papur, wedi suddo i ddyfnder anwybodaeth, ac i gors aflendid a llygredigaeth; yr oedd ei harferion mor anifeilaidd fel na oddefent ddesgrifiad.
Fel y gellid disgwyl, tarawyd y Cymry â syndod a digofaint. Nid y desgrifiad a roddai y Dirprwywyr o sefyllfa addysg oedd yn tynnu sylw gymaint. Gwyddai y Cymry am eu diffygion yn y wedd honno ar y pryd, ac nid oedd neb yn fwy awyddus i wella pethau na hwy, fel y mae hanes y Dywysogaeth yn y blynyddoedd dilynol wedi profi. Ac yn yr ystyr yma hwyrach fod Adroddiad y Dirprwywyr wedi gwneud lles i ni fel cenedl. Ond am y desgrifiad o agwedd foesol y genedl, cynhyrfodd y Cymry ym mhob man. Mae yn anhawdd i'r rhai nad ydynt yn ddigon hen i gofio y dyddiau hynny ffurfio barn, fel y gall yr ysgrifennydd, am y modd y cyffrôdd y Cymry yng ngwyneb y gwaradwydd a daflwyd arnom fel cenedl ar y pryd. Cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus, traddodwyd areithiau grymus, ysgrifennwyd erthyglau i'r newyddiaduron, a chyhoeddwyd pamphledau lawer. Gwnaeth y diweddar Dr. Lewis Edwards, Ieuan Gwynedd, ac ereill, wasanaeth mawr trwy amddiffyn ein cymeriad fel cenedl. Yr oedd erthyglau Dr. Edwards yn y Traethodydd yn eiriasboeth a miniog dros ben, a'i ymosodiad ar y man glerigwyr celwyddog a fwriasant eu llysnafedd arnom wrth y Dirprwywyr yn dra nerthol. Chwipiodd hwynt fel y gwnelai tad digofus chwipio bachigen drwg a boerodd i wyneb ei fam. Do, cystwyodd hwynt fel yr haeddent. Mae'n wir fod y Dr., wrth gyhoeddi ei Draethodau Llenyddol yn llyfr yn ysgrifennu mewn nodiad ei fod yn ystyried bu yn "rhy chwerw o lawer" yn yr erthygl yn y Traethodydd, ond nid yw hynny ond dangos tymer garedig y Dr., a'i fod wedi oeri llawer ymhen blynyddau wedi i'r cyffro ddarfod. Ond pan gofiwn yr holl amgylchiadau, a'r teimladau oedd wedi eu codi, nis gallwn lai na meddwl fod y rhai yr ymosoda y Dr. arnynt yn cyfiawn haeddu y fflangell, oddigerth, hwyrach, mai gwell fuasai peidio priodoli gau ddibenion i neb. Pan gofiom y cyhuddiadau, nid rhyfedd fod pob Cymro yn teimlo i'r byw dros gymeriad ei genedl, ac yr oedd yn anhawdd cael neb a allasai ddefnyddio y fflangell yn fwy effeithiol na'r doctor dysgedig o'r Bala.
Ond nid oedd y Saeson, er hyn i gyd, yn gwybod nemawr am ein digofaint fel cenedl hyd nes y daeth Mr. Henry Richard allan i'n hamddiffyn. Yr oedd cwrs o ddarlithoedd yn cael eu traddodi y pryd hwn ar "Addysg," o dan nawdd y Bwrdd Cynulleidfaol. Gofynnwyd i Mr. Richard draddodi un ar "Gynnydd ac effeithiolrwydd addysg wirfoddol yng Nghymru." Ond methodd teimlad cenedlgarol Mr. Richard a pheidio troi holl gwrs ei ddarlith i amddiffyn cymeriad y Cymry yn erbyn camgyhuddiadau y Dirprwywyr. Dygodd ffeithiau diymwad, trefnodd hwynt mewn modd meistrolgar, curodd hwynt ar eingion ei hyawdledd nes oeddent yn wynias, a daliodd hwynt o flaen cynulleidfa astud, do, am ddwy awr a hanner! Cyhoeddwyd y ddarlith yn y British Banner, ac wedi hynny ymysg y Crosby Hall Lectures. Nid oes un Cymro a ddarlleno y ddarlith hon na theimla ei galon yn cynhesu mewn diolchgarwch i'r gweinidog cymharol ieuanc hwn oedd fel hyn yn sefyll yn ddewr yn y brif ddinas i droi yn ôl, gyda'r fath rym, y picellau gwenwynig a anelwyd gan y Dirprwywyr at galon Cymru. Cof gan yr ysgrifennydd ddarllen y ddarlith ar y pryd yn y British Banner, ac wrth ei darllen yr oedd ei galon Gymreig yn curo, a' i waed yn cyflymu trwy ei wythiennau. Cynghorem y darllenydd i astudio y ddarlith hon os caiff afael arni. Goddefer i ni ddyfynnu yr ychydig eiriau olaf o honni. Ar ol condemnio y Dirprwywyr am gasglu pob budreddi a allent fel esiamplau o gymeriad y Cymry, y mae yn gofyn pa le, yn y llyfrau gleision, yr oedd dim i'w gael am eu rhinweddau, ac yna y mae, gyda hyawdledd, yn eu nodi, a therfyna gyda'r geiriau canlynol : —
"Pa le mae'r hanes am gymeriadau a rhinweddau y dynion hyn? Y mae cannoedd a miloedd ohonynt i'w cael yr wyf yn gwybod. Onid wyf wedi bod yn sefyll o dan eu cronglwydydd llwydaidd, lle yr oedd y tylathau noethion wedi eu caboli a'u duo gan fwg mawn y mynyddoedd? Onid wyf wedi eistedd wrth eu byrddau ffawydd, noeth, i gyfranogi o'u bara ceirch a'u llaeth enwyn, bwyd, er mor gyffredin ydoedd, y teimlent yn falch cael ei gynnyg yn groesawus? Onid wyf wedi penlinio ar y llawr pridd wrth erchwyn y gwelyau gwael yr oeddynt yn gorwedd arnynt, ac wedi clywed gwersi yn disgyn oddiar wefusau oeddent yn welw gan ddynesiad angeu, yn dangos ymostyngiad Cristionogol ac ymddiried santaidd a gorfoleddus yn Nuw, y fath na chlywais yn un man arall? Pa le, meddaf, y mae y dynion hyn, y rhai a wasgarasant oleu eu duwioldeb gostyngedig dros fryniau a dyffrynnoedd gwlad fy ngenedigaeth? Nid wyf yn canfod dim son am danynt yn y llyfrau gleision hyn, a hyd nes y gwnaf ganfod hynny, yr wyf yn gwrthod derbyn eu cynhwysiad fel darluniad teg o gymeriad fy nghydwladwyr."
Parodd traddodiad yr araeth ardderchog hon i enw Mr. Richard gael ei barchu yn fawr gan Gymru. Teimlai fod un o'i phlant ei hun wedi anturio sefyll i fyny yn ddewr i'w hamddiffyn yng nghanol ei gelynion, a gwnaeth fwy i ddyrchafu ei chymeriad nag, ond odid, a wnaeth y Dirprwywyr i'w darostwng.
Yn ystod yr amser hwn yr oedd Mr. Richard yn ymgysegru i'w waith gweinidogaethol yng nghanol ei lyfrau, yn debyg iawn fel y dychmygai ei dad, cyn hynny, am dano wrth ysgrifennu ato, sef ei fod "yn awr yn y parlwr, maes law yn y pulpud, weithiau yn eich ystafell, pryd arall yn nhŷ'r capel, yn awr yn parottoi eich pregethau, yn fuan ar ol hynny yn eu traddodi, weithiau yn eich ystafell yn ymdrechu gyda Duw, ac ymhen ychydig drachefn, yn y deml yn cynghori, yn gwahodd, ac yn ymresymu â phechaduriaid." Dyna yn hollol oedd bywyd gweinidogaethol Mr. Richard, er ei fod yn ychwanegu, at hynny, gyfansoddi a thraddodi areithiau ar faterion ereill y tu allan i'r pulpud. Fel Dr. Chalmers, darllen ei bregethau y byddai Mr. Richard bron bob amser, ond, fel y Dr., darllenai hwynt yn y fath fodd fel nad oeddid yn colli dim bron o'r dylanwad hwnnw ag sydd yn gwneud traddodiad rhydd mor effeithiol. Clywodd yr ysgrifennydd ef yn traddodi darlith, yr hon a ddarllenai, gyda'r fath nerth fel ag i gyffroi yr holl gynulleidfa i'r brwdfrydedd mwyaf.
Yn y Traethodydd am y flwyddyn 1848 cawn erthygl ddysgedig o'i eiddo ar "Athroniaeth y meddwl," sef adolygiad ar lyfr Morell ar "Athroniaeth Ewrob yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg;" erthygl ag sydd yn dangos fod Mr. Richard yn wir etrydydd, ac yn gallu ysgrifennu Cymraeg da ar bwnc dyrus mewn athroniaeth. Fel hyn yr oedd Mr. Richard, trwy astudiaeth ddwys a llafur diflino, yn cymhwyso ei hun i'r gwaith mawr a phwysig a gyflawnodd yn ei oes. Gweithiwr, ac nid segurwr, ydoedd.