Bywyd a Gwaith Henry Richard AS/Pennod IV
← Pennod III | Bywyd a Gwaith Henry Richard AS gan Eleazar Roberts |
Pennod V → |
PENNOD IV
Mr. Richard yn cael ei benodi i fod yn Ysgrifennydd Cymdeithas Heddwch—Ei lafur dros y Gymdeithas—Cynhadleddau Brussels, Paris, Frankfort, a Llundain—Yn rhoi i fyny ei Swydd Weinidogaethol—Arglwydd Palmerston a'r Gymdeithas Heddwch—Cynhadleddau Manchester ac Edinburgh.
(1848) Yn y flwyddyn 1848, ymgymerodd Mr. Richard â gorchwyl a droes allan wedi hynny yn brif waith ei fywyd, gwaith a'i dygodd i gysylltiad â rhai o brif enwogion y deyrnas a Chyfandir Ewrob ac America, ac a wnaeth ei enw yn adnabyddus ym mhob man fel prif "Apostol Heddwch." Cyfeiriwn at ei benodiad, ym mis Mai y flwyddyn uchod, i fod yn ysgrifennydd Cymdeithas Heddwch yn lle y Parch. John Jefferson, yr hwn a ymddiswyddodd oherwydd afiechyd. Profwyd, yn ystod y blynyddoedd dyfodol, mai gwir oedd datganiad pwyllgor y Gymdeithas eu bod yn cael yn Mr. Richard "olynydd galluog ac effeithiol."
Bu y Gymdeithas Heddwch yn ymlwybro ymlaen er dechreu y ganrif. Yr oedd y wlad y pryd hwnnw wedi syrffedu ar y rhyfeloedd, y rhai a derfynasant yng Nghynhadledd Heddwch Paris ym mis Tachwedd, 1815, a theimlai Cristionogion yn arbennig, fod yn llawn bryd meddwl o ddifrif am ryw lwybr i derfynu cwerylon rhwng teyrnasoedd, heblaw yr un barbaraidd o osod dynion i ladd eu gilydd. Mor fuan a'r flwyddyn 1814, galwodd un Mr. William Allen, F.R.S., aelod o Gymdeithas y Cyfeillion (Crynwyr), nifer o fonheddwyr i'w dŷ i geisio sefydlu cymdeithas i'r amcan hwnnw; ond ni wnaed hynny hyd y flwyddyn 1816, pan y darfu i Mr. Allen, a'i gyfaill, Joseph Tregelles Price o Sir Forgannwg, yntau yn Grynwr, alw nifer o gyfeillion a sefydlu Cymdeithas Heddwch. Yr oedd mwyafrif yr aelodau yn Grynwyr, ond nid yr oll. Egwyddor y gymdeithas oedd "fod rhyfel yn groes i ysbryd Cristionogaeth a gwir les dynolryw." Nid oedd, ac nid yw, y gymdeithas yn cau allan neb sydd "yn awyddus i ymuno i ddwyn oddi amgylch dangnefedd ar y ddaear, ac ewyllys da i ddynion."
Ffurfiwyd canghennau ar y cyfandir, a pharhawyd i gadw yr egwyddor o flaen y byd trwy y Wasg a thrwy foddion ereill yn ystod yr holl flynyddoedd. "Am flynyddau lawer," medd Mr. Richard ei hun mewn erthygl yn y Traethodydd am 1849, t.d. 239," taflwyd arnynt hwy a'u hymdrechion bob dirmyg; nid yn unig gan ein pendefigion a'n llywodraethwyr a'r gad filwraidd o bob gradd, y rhai oeddent, 'oddiwrth yr elw hwn, yn derbyn eu golud, ond gan y rhan amlaf o lawer o Gristionogion ein gwlad, ac hyd yn oed gan lawer o weinidogion yr Efengyl."
Blwyddyn hynod oedd 1848, y flwyddyn y penodwyd Mr. Richard i'r swydd; blwyddyn drylliad gorseddau, syrthiad coronau, chwaliad hen sefydliadau a ffoad brenhinoedd. Ym Mhrydain yr oedd cyffro ymysg y Chartiaid, ac yn yr Iwerddon ymysg y Gwyddelod; ar y cyfandir fe gyhoeddwyd rhyfel rhwng Awstria ag Itali, a rhwng Germani a Denmarc. Yr oedd yr Unol Dalaethau a Mexico hefyd yn ymladd brwydrau creulon a'u gilydd. Yn Switzerland yr oedd rhyfel cartrefol rhwng y gwahanol randiroedd (cantons) yn ysu y wlad; a Ffrainc, fel y gwyddys, fel crochan berwedig ar y pryd. Bu raid i Louis Phillippe, brenin Ffrainge, ddianc i Loegr o dan yr enw Mr. Smith, a chyhoeddwyd y Weriniaeth. Tybiodd rhai fod dydd dymchweliad pob trais a gormes wrth y drws, ac aeth llawer i astudio y seliau a'r phiolau, ac esponio y proffwydoliaethau. Bu un o brif feirdd a darlithwyr Cymru yn prysur esbonio y dirgeledigaethau ac yn dyfalu am y dyfodol.
Aeth Mr. Richard, pa fodd bynnag, nid i ddychymygu, ond i weithio. Credai fod y "dirgeledigaethau yn eiddo yr Arglwydd," a bod llafurio mewn achos da yn un o'r "pethau amlwg" a roddwyd iddo ef. Taflodd ei hunan o ddifrif i'r gwaith a gymerasai mewn llaw, a theimlai mai dyma'r pryd i gyfeillion heddwch godi eu llef o blaid eu hegwyddorion. Rhoes fywyd newydd yn y gymdeithas. Ymysg pethau ereill, perswadiodd ei phwyllgor i annerch gwahanol lywyddion y teyrnasoedd mewn ymrafael i geisio eu perswadio i wrando ar lais rheswm; a phan godwyd y cri yn Lloegr, fel y gwneir bob amser gan y blaid filwrol pan welant gyfleustra, fod y wlad hon hefyd mewn perygl, defnyddiodd Mr. Richard ei ysgrifell a'i lais i wneud a allai, mewn cydweithrediad a'i gyfeillion, Cobden a Bright, i dawelu yr ystorm, ac nid oes neb a all fesur y lles a wnaeth y gwŷr da hyn ar y pryd. Pan ddaeth ei gyfaill, Elihu Burritt, y gof dysgedig, drosodd o'r America i'r wlad hon gyda'i gynllun i gynnal nifer o Gynhadleddau rhyngwladwriaethol, cafodd groesaw calon gan Mr. Richard, a chan yr hen Grynwr gwrol, Joseph Sturge o Birmingham. Y mae Mr. Richard ei hun yn y rhifyn a nodwyd eisoes o'r Traethodydd, o dan y pennawd "Heddwch," yn rhoi hanes y Gynhadledd gyntaf yn Brussels; ond gyda'i ledneisrwydd arferol ceidw ei hun o'r golwg, er mewn gwirionedd, mai efe a Mr. Burritt oedd enaid y gynhadledd bwysig hon. Yr oedd ymgymeryd â'r fath waith, ar y fath adeg gyffrous yn hanes Ewrob, yn gofyn doethineb a gwroldeb digyffelyb. Dyma'r tro cyntaf i'r fath ymgynulliad gymeryd lle o blaid heddwch, ac yr oedd yr anawsterau ar y ffordd yn ymddangos ar y pryd yn anorfod. Yr oedd y bobl—er wedi blino ar ryfel—eisieu eu deffroi a'u codi i weithio ymhlaid egwyddorion heddwch, ac ymaflodd Mr. Richard yn y gorchwyl hwn gydag ynni a llafur dihafal.
Aeth efe a Mr. Burritt i Brussels i wneud y trefniadau; ymwelsant â phrif ŵyr Llywodraeth Belgium, a dadleuasant eu hachos gyda sêl a doethineb nid bychan. Gorchymynnodd M. Rogier, y Prif Weinidog, i'w ysgrifennydd roddi iddynt lythyrau at amryw o brif ddinasyddion Brussels, ac ymysg ereill at M. Visschers, yr hwn oedd ei hun yn aelod o'r Llywodraeth, a'r hwn a etholwyd mewn canlyniad i fod yn Llywydd y Gynhadledd. Ar ol gwneud yr holl drefniadau, aeth 200 o Ddirprwywyr Prydeinig ac Americanaidd ar y 19eg o Fedi i Ostend, ac aethant mewn cerbydres arbennig, wedi ei danfon ar draul y Llywodraeth, oddiyno i Brussels.
Cynhaliwyd y Gynhadledd yn neuadd ardderchog yr Harmonic Society, yr hon oedd wedi ei haddurno â banerau y gwahanol deyrnasoedd; parhaodd am dridiau, a chymerwyd rhan yn y cyfarfodydd gan rai o wŷr enwocaf Ffraingc, Holland, Itali, America a Phrydain. Yr oedd yno hefyd gynrychiolwyr o Loegr, Ysgotland a Chymru.
Er fod y Cynhadleddau hyn bellach yn rhai blynyddol, yr oedd yr un gyntaf fel hyn yn Brussels yn tynnu sylw yr holl fyd gwareiddiedig ymron. Fel y dywed Mr. Richard ei hun, "Peth newydd yn hanes y byd oedd gweled trigolion saith neu wyth o wahanol wledydd Ewrob, y rhai a fuont am lawer o ganrifoedd yn cashau, yn rhwygo, ac yn traflyncu eu gilydd, yn awr yn eistedd ochr yn ochr i ystyried y dull goreu i uno holl genhedloedd y ddaear yn rhwymyn tangnefedd."
Ar ddiwedd y Gynhadledd, dywedodd y Llywydd,—"Y mae presenoldeb Apostolion, Heddwch (Mr. Richard a Mr. Burritt) yn ddigwyddiad ag y mae ein pobl ni yn cymeryd dyddordeb mawr ynddo, a da gennyf ddweud fod carreg gyntaf Teml Heddwch wedi ei gosod yn Brussels." Fel hyn y coronwyd llafur y gof dysgedig o'r America, a'r pregethwr ymneilltuol o Loegr y Cymro o Dregaron—â llwyddiant annisgwyliadwy, a phenderfynwyd cynnal Cynhadledd gyffelyb y flwyddyn ddyfodol yn Paris.
Byrdwn araeth Mr. Richard oedd, fod rhyfel yn hollol anghyson â holl ysbryd Cristionogaeth. Teimlai fel cynrychiolydd y Gymdeithas Heddwch, fod eisieu rhoi arbenigrwydd i'r wedd hon ar y pwnc,—
"Er y gellid" meddai, "gael rhesymau anwrthwynebol yn erbyn rhyfel oddiwrth egwyddorion cyfiawnder, dyngarwch, rhyddid, gwareiddiad, a masnach, eto nid oedd condemniad rhyfel yn dod o un man gyda chymaint o awdurdod a phwyslais, a phan y dygid ef at faen prawf Cristionogaeth. Pan ystyrid beth oedd rhyfel, ei ddrygau, ei greulonderau, ei erchyllderau, yr egwyddorion drygionus, sef uchelgais, trachwant, a dialedd, oedd yn rhoi bod iddo; fel yr oedd yn dwyn allan holl nwydau mwyaf drygionus ein natur, dig, cenfigen, casineb anghymodlawn a nwydau anifeilaidd; pan gofid beth oedd rhyfel wedi ei wneud ym mhob oes, y dinistr ac ing a ddygasai i anheddau y ddynoliaeth, fel yr oedd wedi gorchuddio y ddaear â gwaed goreu ei meibion, wedi herio honiadau iawnder ac wedi dirdreisio ysbryd dynoliaeth; y modd yr oedd wedi hyrddio miliynau o ddynion i bresenoldeb ofnadwy y Barnwr tragwyddol a'u dwylaw wedi eu trybaeddu yng ngwaed eu brodyr, a'u hysbrydoedd wedi eu llyrgunio gan y nwydau mwyaf creulon a gorwyllt; pan ystyrid yr holl bethau hyn, yr oedd, mewn gwirionedd, yn ymddangos yn beth hynod fod yn rhaid i neb sefyll i fyny yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg o oes Crist, yng nghanol gwledydd Cristionogol, i geisio profi fod y fath gyfundrefn a hon o angenrheidrwydd yn hollol anghydweddol, ac mewn gwrthdarawiad tragwyddol â holl ysbryd a naws crefydd Crist."
Aeth Mr. Richard ymlaen fel hyn gyda hyawdledd ag oedd yn cario dylanwad anghyffredin ar y dorf o ŵyr enwog oedd o'i flaen, a diweddodd ei araeth yn y geiriau a ganlyn,—
"Uwchlaw popeth rhaid i ni ddangos rhyfel yn ei liw ei hun. Rhaid i ni feddu digon o wroldeb i rwygo'r gorchudd oddiar ei wyneb; ac heb falio dim am y pomp a'r gwychder sydd ynglŷn ag ef, a'r ymadroddion chwyddedig am anrhydedd, gwladgarwch, a gogoniant, â pha rai y mae yn arfer cuddio a lliwio ei wir gymeriad, rhaid i ni ei ddangos o flaen llygad y byd fel y mae mewn gwirionedd; yn llofrudd cawraidd wedi meddwi ar chwant ac uchelgais, ac wedi ei drybaeddu yn arswydus gan waed ei fyrddiwn aberthau."
Nid ydym yn gwneud un esgusawd dros roddi ychydig ddarnau fel hyn o araeth gyntaf Mr. Richard yn y Gynhadledd yn Brussels. Dangosant ei fod wedi ei drwytho â'r un ysbryd o atgasrwydd at ryfel, a'i fod yn defnyddio yr un rhesymau yn ei erbyn, sef ei wrthdarawiad uniongyrchol yn erbyn Cristionogaeth, ag a fu yn ei lywodraethu trwy ei oes.
Rhoes y Gynhadledd hon symbyliad neilltuol i achos heddwch. Casglwyd cronfa o bum mil o bunnau, a helaethwyd yr Herald of Peace, yr hwn a olygid ac yr ysgrifennid iddo yn helaeth gan Mr. Richard ei hun. Tynnwyd sylw at gwestiwn Heddwch hefyd trwy fod Mr. Cobden wedi dwyn y pwnc o Gyflafareddiad o flaen y Senedd ar y 14eg o fis Mehefin, 1849, pryd y cafwyd 79 allan o 176 o'i blaid.
Gwnaeth Mr. Richard lawer o blaid y cynygiad hwn, a bu hefyd yn gynhorthwy mawr i Mr. Cobden yn ei lafur yn achos heddwch; oblegid erbyn hyn, ystyrrid ef yn un o'r awdurdodau uchaf ar gwestiynau yn dwyn cysylltiad â'r achos. Cynhaliodd Elihu Burritt ac yntau, gydag ereill, ym mhrif drefydd y deyrnas, o ddeugain i hanner cant o gyfarfodydd o blaid egwyddorion heddwch ; a diau fod y llwyddiant a gyfarfu Mr. Cobden pan ddygodd y pwnc o flaen y Tŷ fel hyn am y waith gyntaf, i'w briodoli, i fesur mawr iawn, i lafur Ysgrifennydd brwdfrydig y Gymdeithas Heddwch. Mewn llythyr at Mr. Sturge, dywed Mr. Cobden fod y deisebau cyntaf o blaid Cyflafareddiad yn cael eu derbyn gan aelodau y Tŷ gyda gwawd a dirmyg cyffredinol ; ond pan ddygodd ei gynhygiad ymlaen, cafodd y gwrandawiad mwyaf astud. Ac y mae yn cynghori Mr. Sturge, fel y cynghorodd Mr. Richard ar ol hynny, i lynu wrth yr egwyddor fod rhyfel yn anghristionogol, tra y byddai ef ac ereill yn dadleu y wedd boliticaidd ac ymarferol ar y cwestiwn. Daliodd Mr. Richard hyd y diwedd, fel Ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch i gymeryd y safle hwn yn ol cyngor Mr. Cobden. Ar yr un pryd, byddai yn aml iawn yn yr Herald of Peace, a phob amser yn y Senedd, yn condemnio rhyfel oddiar yr un safle ymarferol ag a gymhellid gan Mr. Cobden ei hun.
(1849) Ym mis Ebrill, 1849, aeth Mr. Richard ac Elihu Burritt i Paris i wneud trefniadau ar gyfer Cynhadledd Heddwch yno. Yr oedd y gwaith yr ymgymerasant âg ef yn fawr, Ymwelasant âg aelodau Senedd Ffraingc, aelodau y Weinyddiaeth, awdwyr enwog, a golygwyr newyddiaduron; ac o'r diwedd cawsant dderbyniad hyd yn oed i dŷ yr enwog Lamartine fwy nag unwaith, yr hwn a ddatganai ei barodrwydd i wneud a allai o blaid eu hamcan. Mae y desgrifiad a rydd Mr. Richard yn ei ddyddlyfr o'r derbyniad a gawsant, ac o'u hymweliad â rhai o enwogion ereill Paris yn dra dyddorol. Mawr gymeradwyent yr amcan oedd gan y ddau gennad hyn mewn golwg, a dymunent bob llwyddiant iddynt; ond prin yr oedd neb o honynt yn edrych ar yr ymgais i roddi terfyn ar ryfel yn beth tebyg i lwyddo. Wrth gwrs, yr oedd yn gofyn gwroldeb, doethineb, a gochelgarwch mwy na chyffredin wrth ymddiddan fel hyn â gwŷr enwog Ffrainc, ond nid oedd yn hawdd cael neb oedd yn meddu y cymwysterau hyn i raddau mwy helaeth na Mr. Richard a'i gyfaill, Mr. Burritt.
Cynhaliwyd Cynhadledd Paris yn Awst, 1849, Victor Hugo yn llywydd. Yr oedd yna ŵyr enwog yn cynrychioli Prydain, America, Ffrainc, Germani, Itali, a mannau ereill. Tynnai Mr. Cobden sylw neilltuol. Siaradai yn Ffrancaeg. Yr oedd yr areithiau a draddododd yn wir ardderchog. Yr ydym yn teimlo wrth eu darllen yn awr fod yn resyn na ddarllenid hwynt eto yn y dyddiau hyn gan gyfangorff ein pobl. Yr oedd yr adroddiadau yn y newyddiaduron ar y cyfan yn ffafriol. Anghofiodd eu golygwyr gymysgu eu diferynnau arferol o wermod â'u beirniadaethau, oblegid yr oedd y syniad o blaid heddwch yn dechreu gafael, ac nid hawdd oedd ei wawdio o fod; a theimlai Mr. Richard lawenydd nid bychan wrth ganfod hynny. Ac nid tâl i'w fynwes yn unig a gafodd, ond derbyniodd dâl sylweddol yn y ffurf o Archeb am 1,000p., a Beibl Teuluaidd ardderchog, fel arwydd o barch ychydig o gyfeillion am ei lafur yn achos heddwch. Ymysg y tanysgrifwyr yr oedd enwau Cobden, Bright, Morley, a Sturge, yr hyn oedd yn dangos y pris uchel a roddai y gwŷr da hyn ar lafur Mr. Richard.
Cynhaliwyd cyfarfodydd mawrion hefyd fel math o Ategiad i'r Gynhadledd yn Llundain, Manchester, a Birmingham, yn y rhai y darllenwyd llythyrau oddiwrth y fath wŷr enwog a Victor Hugo, Lamartine, ac ereill. Yr oedd areithiau Cobden a Bright yn frwdfrydig, yn gryfion ac argyhoeddiadol iawn, ac yn cario dylanwad mawr.
Codai y cwestiwn bellach ai nid dyledswydd Mr. Richard oedd rhoi i fyny ei swydd weinidogaethol fel y gallai ymgysegru yn fwy llwyr i'r gwaith mawr a phwysig yr oedd Rhagluniaeth yn ei dorri allan iddo. Gwnaeth y pwnc yn fater gweddi ddwys ac ystyriaeth ddifrifol, a daeth i'r penderfyniad mai dyna oedd ei ddyledswydd; fod dadleu o blaid "tangnefedd ar y ddaear" yn rhan o'r " Newyddion da o lawenydd mawr" y daeth y "llu nefol" i'w cyhoeddi uwch ben meusydd Bethlehem i'r byd, a'i fod yn waith mor gysegredig ymhob ystyr a'r gwaith yr oedd yn ei gario ymlaen yng Nghapel Marlborough.
(1850) Yn 1850, gan hynny, rhoes i fyny ei gysylltiad â'i eglwys, a danghosodd yr eglwys ei pharch iddo trwy ei anrhegu mewn cyfarfod cyhoeddus â phwrs o aur, a chopi cyflawn o'r Encyclopaedia Metropolitana. Wedi ei ryddhau fel hyn, ymdaflodd Mr. Richard yn llwyr i'r gwaith mawr yr ymgymerasai âg ef, a'r hwn oedd bellach yn cymeryd bron ei holl amser, ac i fod o hyn allan yn brif waith ei fywyd. Aeth efe ac Elihu Burritt i Germani i wneud darpariadau ar gyfer Cynhadledd Heddwch yn Frankfort. Mae Mr. Richard, mewn llythyr a ysgrifennodd at Mr. Stokes, Ysgrifennydd Cynhorthwyol y Gymdeithas Heddwch, dyddiedig Halle, Gorffennaf 16, 1850, yn rhoi hanes y daith i Frankfort; hanes ag sydd yn dangos gallu desgrifiadol o radd uchel. Buasai yn ddifyr gennym roddi difyniadau helaeth o honno, ond elai hynny a gormod o le.
Cawsant dderbyniad tywysogaidd ar y ffordd, yn Paris, yn Flanders, a mannau ereill, a gwnaethant a allent i gyffroi meddyliau gwŷr mwyaf dylanwadol y parthau hynny, a'u codi i roddi cynhorthwy i'r achos mawr yr oeddent yn ceisio ei hyrwyddo. Wedi cyrraedd Frankfort, y ddinas lle y coronid Ymerawdwyr Germani, ac y pregethodd Luther ynddi ar ol dychwelyd o'r Diet of Worms, ymwelwyd â rhai o ŵyr pennaf y lle. Cafwyd caniatâd y Senedd i gynnal y Gynhadledd, a gwnaed trefniadau i gynnal y cyfarfodydd yn Eglwys St. Paul. Nid gorchwyl hawdd oedd symud y rhwystrau oedd ar eu ffordd, anewyllysgarwch rhai, eiddigedd ereill, a gwrthwynebiad y lleill, ond darfu i "heddychlawn ddyfodiad" y gwŷr hyn orchfygu pob anhawster. Ymwelodd Mr. Richard â dynion enwog, megis Dr. Tholuck, Dr. Hengstenberg, Dr. Dollinger, Baron Von Humboldt, ac ereill, a rhydd ddesgrifiad dyddorol iawn yn ei ddyddlyfr o'u personau a'u hymddyddanion. Amrywiant yn fawr yn eu syniadau am eu neges. Cafodd fod yr esboniwr enwog, Hengstenberg, yn credu yn gryf mewn rhyfel.
Yr oedd y Gynhadledd hon yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus, yn gymaint felly, fel y buasai yn dda gennym, pe buasai gofod yn caniatáu, roddi hanes cyflawn o honi. Daeth tua 500 o garedigion yr achos o Lundain yno, ac yr oedd Mr. Richard a Mr. Burritt wedi trefnu gyda llywodraethau Belgium a Phrwsia iddynt gael pasio trwodd heb drwyddedau teithio, ac wedi gwneud trefniadau ar gyfer lletya'r dieithriaid. Dywed Mr. C. S. Miall, ei fod ef yn un o'r teithwyr, ac nad anghofia yn fuan y bloeddiadau llongyfarchiadol gyda pha rai y derbyniwyd Mr. Richard a Mr. Burritt, pan ddaethant ar fwrdd y llestr i'w croesawu, ac y rhanasant y papurau angenrheidiol iddynt.
Yr oedd yr eglwys lle y cynhelid y Gynhadledd ynddi wedi ei haddurno yn brydferth, ac yn un mor fawr fel y cynhaliai tua 3,000 o bersonau. Llenwid y llawr gan y gwahanol gynrychiolwyr, a'r llofftydd gan wrandawyr. Dyddorol ydyw darllen fod y Cadfridog Haynau yno, y "Cigydd Awstraidd" fel y gelwid ef, fflangellydd merched Hungari, a'r hwn, ar y bydd o Fedi, 1850, a chwipiwyd gan y gweithwyr yn Narllawdy Barclay a Perkins pan ar ymweliad â Llundain. Hyderwn y cafodd fendith yn y gynhadledd, ac y cyffyrddwyd a'i gydwybod er daioni. Danghoswyd y brwdfrydedd mwyaf yn y cyfarfodydd, ac yr oedd areithiau y gwyr enwog ynddynt yn dra effeithiol. Bu raid i Mr. Cobden siarad fwy nag unwaith, a derbyniwyd ef bob tro gyda'r banllefau mwyaf byddarol. Nid peth bychan oedd fod y fath gynhadledd wedi pasio, yn ddiwrthwynebiad, benderfyniad yn condemnio byddinoedd sefydlog, ac yn galw ar y gwahanol deyrnasoedd i wneud ymgais i leihau eu byddinoedd.
Y siaradwyr yn y cyfarfodydd oeddent y gwŷr enwog canlynol:—Y Llywydd, Herr Jaup, diweddar Brif Weinidog Hesse Darmstadt, y Parch. J. Burnet, M. Coguerel (ieu.), y Parch M. Bounett, M. de Cormenin, y Parch. Henry Garnet, Dr. Creiznach, M. Emile de Girardin, Mr. L. A. Chamerozvou, M. Visichers, Herr Beck, Proffeswr Cleveland, o Philadelphia, Mr. R. Cobden, Charles Hindley, Ysw., A.S., y Parch. Rabbi Stein, M. Joseph Garnier o Paris, y Parch. Dr. Bullard, George Dawson o Birmingham, Dr. Hitchcock, Prif Athraw Coleg Amersham, yr Unol Daleithiau, y Parch. E. B. Hall, M. Drucker o Amsterdam, Ka-Ge-Gah-Bowh (Parch. G. Copway wedi hynny), un o benaethiaid yr Indiaid Coch, Dr. Weel, Dr. Bodurstedt, Edward Miall, Dr. Madonao, Elihu Burritt, Lawrence Heywood, A.S., y Parch. E. H. Chappin o Efrog Newydd, y Parch. Andrew Reid, B.A., Mr. Saeckhart o Frankfort, M. Corminin, a Henry Richard. Fe welir oddiwrth y rhestr uchod o enwau mai nid cyfarfodydd oedd y rhai y siaradai y fath ŵyr ynddynt y gellid eu dibrisio neu eu gwawdio. Yr oedd araeth Mr. Richard, wrth gynnyg diolchgarwch i Senedd Frankfort ac ereill, wrth adolygu y Gynhadledd a'i gwaith, yn un odidog. Desgrifia yn ddoniol iawn ddyfodiad cyntaf Mr. Burritt ac yntau i'r ddinas. Nid oeddent yn adnabod un dyn byw ynddi ond Dr. Varrentrapp. Yr oedd yr olwg am lwyddiant yn anobeithiol bron, ond ar ol danfon eu cais i'r Senedd cawsant atebiad cymeradwyol yn ddi—oed. Pe buasai gofod yn caniatáu, carasem gyfieithu yr oll o araeth ragorol Mr. Richard. Yr oedd pob brawddeg o honni yn derbyn cymeradwyaeth, ac y mae yn amlwg wrth ei darllen, fel y mae yn awr o'm blaen, fod ei waed Cymreig wedi cynhesu, a'i fod yn cael "hwyl" wrth ei thraddodi. Mae y dernyn canlynol yn rhy dda i'w adael allan —
"Rhybuddiwyd ni drachefn a thrachefn y derbynnid amcan ein Cynhadledd gyda chwerthiniad. Bydded felly. Byddem yn hollol annheilwng o fod yn amddiffynwyr achos mor ddyrchafedig a chysegredig pe na buasem wedi cymeryd i mewn i'r cyfrif y gallasem gyfarfod â gwawd y coegyn a'r hunan—geisiol, y rhai sydd yn awr, ac a fuont bob amser, yn gwrthwynebu pob meddylddrych mawr a haelfrydig pan gyflwynir ef gyntaf i'r byd. (cym.) Fy atebiad i i'r dirmygwr yw hwn,— Os oes rhyw un yn tybied mai peth rhesymol ydyw i fodau deallgar geisio sefydlu cyfiawnder trwy drais, chwardded y cyfryw ! (cym.) Os oes rhyw rai yn tybied mai peth hyfryd yw fod tadau yn cael eu lusgo o ganol mynwes eu teuluoedd, a meibion o freichiau eu rhieni, a'u danfon ymaith i'w lladd a'u saethu fel cwn, a'u gadael i ymdrybaeddu yn eu gwaed, a threngu yn ddiymgeledd ar faes y frwydr, chwardded y cyfryw! (cym.) Os oes rhai yn tybied mai peth doeth a synhwyrol i genhedloedd ydyw sefyll o flaen eu gilydd, ac er mwyn dal i fyny eu hanrhydedd, gymeryd eu llethu gan fyddinoedd sefydlog anferth, y rhai sydd yn ysu eu hadnoddau yn fwy na phla o locustiaid, chwardded y cyfryw ! (cym.) Os oes rhai yn tybied mai anrhydedd i athroniaeth a dealltwriaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg ydyw fod eu holl gyfundrefn o wareiddiad yn gorffwys, nid ar wybodaeth, nid ar ryddid, nid ar grefydd, ond ar allu anifeilaidd, chwardded y cyfryw! (cym.) Os oes rhai yn meddwl mai peth santaidd a chrefyddol i'r cenhedloedd hynny sydd mewn modd arbennig yn galw eu hunain yn Gristionogion, ydyw cael eu gweled gan baganiaid, a barbariaid yn rhwygo eu gilydd fel bleiddiaid; os oes rhywrai, meddaf, yn meddwl yr holl bethau hyn, chwardded y cyfryw." (uchel gym.)
Brawddegau fel hyn sydd yn britho araeth Mr. Richard. Un o'i ddarnau mwyaf prydferth ydyw ei ddatganiad o'i obaith o lwyddiant achos Heddwch trwy ddefnyddio cymhariaeth o'r môr yn codi llong fawr oedd ar y traeth, fel y gwelsai "yng ngwlad ei enedigaeth, sef Cymru," ac yn nofio yn ardderchog tua'r eigion mawr.
Dichon y bydd rhai yn barod i ofyn yn y fan hon pa les a ddeilliodd o'r holl lafur gyda'r Cynhadleddau hyn? Nid ydym am ateb y cwestiwn hwn yn awr; cawn wneud hynny pan ddeuwn i sylwi yn fwy neilltuol ar "waith" Mr. Richard. Ond caniatäer i ni yn y fan hon ddifynnu ei eiriau ei hunan mewn araeth a draddododd yn Leicester yn 1881, i ddangos beth oedd y cymelliadau uchel ac anrhydeddus a'i cynhyrfai wrth gario ymlaen y gwaith pwysig hwn,—
"Bum" meddai, "yn siarad ym Mharis, Brussels, Antwerp, yr Hague, Berlin, Dresden, Munich, Vienna, Geneva, Bremen, Cologne, Rhufain, Venice a mannau ereill. Hwyrach y gofynnwch i mi beth ydyw'r effeithiau? Wel, nis gallaf ddweud. Ein gwaith ni yw gweithio o blaid gwirionedd, ac nid ceisio gogoniant. Yr wyf yn berffaith argyhoeddiadol nad yw lledaeniad gwirionedd ac ymgysegriad syml a difrifol iddo byth yn myned yn ofer. Yr wyf yn anturio dweud fod yr arddangosiad amlwg a gymerodd le yn yr Etholiad diweddaf (1880) yr atgasrwydd a ddangoswyd gan y wlad at wladlywiaeth ryfelgar, a'r awydd i droi yn ol at wladlywiaeth fwy heddychol, mewn rhan yn effaith dysgeidiaeth cyfeillion heddwch, yn ystod yr hanner can mlynedd diweddaf. Bu adegau pan fyddai dynion ag oedd yn gweithio i amcanion cyhoeddus, ac nid rhai personol ynglŷn â bywyd gwladwriaethol, yn teimlo yn ddigalon; yn teimlo fel y dywedodd y mwyaf o'r holl ddiwygwyr, mai yn 'ofer y llafuriodd, ac am ddım y treuliodd ei nerth;' ond yr oedd yr hyn a gyflwynent iddo ef y noswaith honno[1] yn brawf nad oedd eu llafur wedi bod yn ofer. Aent yn ol, gan hynny, at eu gwaith, wedi eu cyfnerthu a'u calonogi i lafurio hyd angeu." Er mwyn canfod effaith y cyfarfodydd hyn, gallwn nodi mai sylw un Prif Athraw Germanaidd ar ei ddychweliad o Frankfort oedd, — Aethum i Eglwys St. Paul yn Saul, a daethum allan yn Paul."
1851 Yn ystod yr Arddangosfa fawr yn y Palas Grisial, yn 1851, pryd yr oedd ymwelwyr wedi dod i Lundain o bob parth o'r byd, cynhaliwyd Cynhadledd Heddwch yn y brif ddinas. Ymddanghosai egwyddorion Heddwch fel yn cymeryd gafael ar feddyliau pobl. Yr oedd yr Herald of Peace wedi helaethu ei gylchrediad yn ddirfawr; casglwyd mil o bunnau yn ychwanegol at y pum mil at y Gronfa Gynhadleddol, ac yr oedd pob peth yn dra ffafriol i lwyddiant y Gynhadledd, yr hon a ddechreuodd yn Exeter Hall ar yr 22ain o fis Gorffennaf, Syr David Brewster yn y gadair. Yr oedd yno gynrychiolwyr o brif drefydd Ewrob. Anhawster Mr. Richard oedd gwneud dewisiad o siaradwyr o fysg y lluaws enwogion oedd yn bresennol.
Yr oedd John Bright yn absennol, oherwydd marwolaeth ei wraig; ond yr oedd Richard Cobden yn fwy effeithiol nag arferol. Ysgrifennodd Carlyle lythyr—fel efe ei hun—i ddweud "pa beth bynnag a ddywedid am y natur ddynol, ei fod yn eglur mai goreu po leiaf o dorri gyddfau a gymerai le yn y byd." Traddodwyd areithiau yn y cyfarfodydd gan y Cadeirydd, gan y Parch. J. Angel James, Mr. Cobden, Edward Miall, a thua phedwar ar hugain o wŷr enwog ereill. Wrth gwrs, yr oedd y Times a'r Morning Chronicle, fel arferol, yn gwatwar yr ymdrechion hyn, ond yr oedd nifer fawr o'r papurau wythnosol yn ffafriol. Ceisiodd y Gymdeithas Heddwch gan Ddirprwywyr yr Arddangosfa gau allan o honi bob offer rhyfelgar, ond yn aflwyddiannus; er hynny llwyddodd i atal pob gwobrwyon am danynt.
Ond er yr holl ymdrechion hyn, a'r disgwyliadau y buasai yr Arddangosfa yn creu teimladau brawdgarol ymysg cenhedloedd, siomwyd hwynt yn bur fuan. Troes teimladau y wlad megis i'r cyfeiriad gwrthwynebol, fel y maent yn dueddol, yn fynych, i wneud; ac yr oedd rhai, oddiwrth hynny, yn cymeryd achlysur i wawdio holl ymdrechion pleidwyr heddwch, gan waeddi allan, "Edrychwch ar y cyfandir." Cymerodd Mr. Richard y cri i fyny yn yr Herald of Peace, a throes y byrddau arnynt. Danghosodd fod yr hyn oedd yn cymeryd lle ar y cyfandir yn llefaru yn uchel o blaid egwyddorion Heddwch, ond darllen "arwyddion yr amserau" yn briodol.
Ymhen tua deufis dymchwelodd Louis Napoleon ryddid y Weriniaeth, gyda'i coup d'etat, ac yn fuan wedi hynny darfu i Arglwydd Palmerston, o'i ben ei hun, roddi cymeradwyaeth y wlad hon i'r hyn a wnaeth. Bu ffrwgwd rhyngddo âg Arglwydd John Russell mewn canlyniad, a llwyddodd yntau drachefn i ddymchwelyd y Weinyddiaeth. Gwelodd swyddogion ac ysgrifenwyr milwrol fod cyfleustra yn bod i chwythu tân rhyfel ac i fygu y teimladau oedd wedi eu codi o blaid heddwch. Dechreuasant gymeryd mantais ar sefyllfa gyffrous pethau yn Ffrainc, a defnyddiasant y Wasg i ddychrynu y bobl, trwy ddweud fod Prydain mewn sefyllfa ddiamddiffyn, ac y gallai Louis Napoleon ein goresgyn pan y mynnai. (1852) Ac nid oedd y Duc Wellington heb gefnogi y syniad. Parhaodd y deyrnas mewn cyflwr cyffrous, taflwyd hi yn ol a blaen gan bob awel teimlad aflywodraethus, dymchwelwyd Gweinyddiaeth Arglwydd Derby, a ffurfiwyd Gweinyddiaeth Gymysg, o dan arweiniad Arglwydd Aberdeen ym mis Rhagfyr, 1852; "Gweinyddiaeth Gyfuniadol," fel y gelwid hi, a disgwylid llawer oddiwrthi. Arglwydd John Russell oedd y Gweinidog Tramor, ac Arglwydd Palmerston yr un Cartrefol.
Tuedd yr holl gynyrfiadau hyn oedd byddaru, i fesur mawr, sŵn gweithrediadau Cymdeithas Heddwch; ond nid un i ddigalonni oedd ei hysgrifennydd diflino, ond ymroddodd i lafurio yn fwy egnïol. Ysgrifenodd erthyglau rhagorol i'r papurau, ac i'r Herald of Peace—erthyglau y buasai yn dda pe darllenasid hwynt y tair blynedd diweddaf gan y wlad hon. Ysgrifennodd Mr. Cobden hefyd bamffled o dan y teitl "1793 ac 1853," yr hwn a dynnodd sylw mawr ar y pryd; ond y mae yn deg dweud mai Mr. Richard fu yn casglu llawer o'r defnyddiau i Mr. Cobden; oblegid yr oedd Mr. Richard yn astudiwr "Llyfrau Gleision" heb ei ail. Yr un modd pan ysgrifennodd John Bright lythyr at Mr. Absalom Watkins, yn erbyn rhyfel y Crimea, cyhoeddwyd ef gan y Gymdeithas Heddwch, gyda Nodiadau wedi eu cymeryd allan o'r " Llyfrau Gleision" ac areithiau seneddwyr, a'r oll wedi eu casglu gan Mr. Richard. Yr oedd pobeth a gymerai mewn llaw yn dangos ôl llafur ac ymchwiliad trwyadl.
Yn niwedd 1852, daeth y Gymdeithas Heddwch i dipyn o helbul, ac y mae yn werth nodi yr amgylchiadau, gan eu bod yn dangos gwroldeb Mr. Richard. Cododd yr helbul yn achos Mesur y Cartreflu (Militia Bill) a ddygwyd i mewn i'r Tŷ o dan Weinyddiaeth Arglwydd Aberdeen. Penderfynodd y Gymdeithas Heddwch wrthwynebu y mesur, a danfonodd allan law—lenni wrth y miloedd, yn egluro i'n dynion ieuainc natur y mesur, gan ei bod yn ystyried eu bod yn cael eu camarwain. Cymerwyd un neu ychwaneg o'r rhai oedd yn gwasgaru y llaw—lenni hyn i'r ddalfa. Dygwyd y mater o flaen y Senedd. Gwnaeth 64ain o bleidwyr y Gymdeithas Heddwch addefiad cyhoeddus mai hwy oedd yn gyfrifol am anfon allan llaw—lenni, a danfonasant eu henwau, gyda deiseb, at yr Ysgrifennydd Cartrefol, Mr. Walpole, ar yr achos. Mae y ddeiseb yn gyfansoddiad yr ysgrifennydd, ac yn gampwaith mewn ymresymiad penderfynol ac eglurder iaith. Dadleua hawl pob dyn i esponio i arall beth yw y gyfraith; bod llaw—lenni cyffelyb wedi eu caniatau yn flaenorol; nad oedd dim ynddynt ond gwirionedd; ac y byddai gweinyddu cosb am eu lledaeniad yn ddim amgen nag ymgais i fygu y gwir trwy orfodaeth; bod ereill yn cael hud—ddennu dynion ieuainc, trwy ddiodydd meddwol a chelwydd, i ymuno â'r fyddin; a'i fod yn rhyfedd o beth na chaffai dynion Cristionogol roddi ein gwŷr ieuainc anwybodus ar eu gwyliadwriaeth trwy ddweud y gwir wrthynt.
Canlyniad danfon y ddeiseb gref hon oedd peidio erlyn y gwŷr am ledaenu y llaw—lenni; ac hysbysodd Arglwydd Palmerston yn ymffrostgar, yn y Senedd, fod yn dda ganddo ddweud eu bod wedi cael y nifer gofynedig o wyr i ymuno â'r cartreflu er gwaethaf pob rhwystr. Mae Mr. Richard, yn yr Herald of Peace, yn datgan yn difloesgni fod hyn yn groes i'r gwirionedd, ac nid yn unig hynny, ond y gwyddai Arglwydd Palmerston ei fod yn dweud yr hyn nad oedd wir. Yna y mae yn defnyddio y geiriau miniog a ganlyn,—
"Mae Arglwydd Palmerston wedi bod mor garedig a rhoddi cyngor bach i'r Gymdeithas Heddwch. Fel cydnabyddiaeth ddiolchgar am hynny, nis gallwn ond dychwelyd ei garedigrwydd yn ol trwy roddi cyngor iddo yntau. Ein cyngor i'w Arlwyddiaeth ydyw hwn,—ar fod iddo geisio llywodraethu ei dafod, a pheidio bod mor barod i daflu ei ddirmyg ar bersonau sydd o leiaf gystal ag yntau yn y pethau sydd yn hawlio parch ac ymddiried ein cyd—ddinasyddion. Y mae yn awr yn hen ŵr, a dylai fod ganddo ddigon o lywodraeth arno ei hun fel ag i beidio cyffroi dygasedd a rhagfarn tuag ato ei hun, a'r rhai sydd gydag ef yn y Weinyddiaeth, trwy ei anfoes— garwch a'i dafod rhydd."
Yr oedd Mr. Richard yn amddiffyn ei gyfeillion, cofier, ac fe welir mai nid gŵr i gellwair ag ef ydoedd pan wedi twymno, er ei fod yn "Apostol Heddwch."
(1853) Yng ngwyneb teimlad y wlad ar y pryd, tybiodd y Gymdeithas Heddwch mai dymunol fyddai cael Cynhadledd yn 1853, y tro hwn yn Manchester. Ymroddodd Mr. Richard i'r gwaith gyda'i ynni arferol. Penderfynwyd casglu deng mil o bunnau. Casglwyd pedair mil mewn hanner awr o amser mewn un cyfarfod. Arwyddwyd y cylchlythyr, yn galw y Gynhadledd ynghyd, gan ddau gant o wŷr dylanwadol, pedwar ar bymtheg ohonynt yn aelodau Seneddol. Areithiwyd yn y cyfarfodydd gan y cadeirydd, Mr. George Wilson (cadeirydd enwog y Corn Law League), a lluaws mawr o wŷr enwog ereill, megys Cobden, Bright, Dr. Davidson, &c. Rhoes Mr. Richard, yn un o'r cyfarfodydd, hanes ein rhyfel â Burmah, wedi ei seilio ar bapurau swyddogol y llywodraeth. Afreidiol ydyw dweud fod areithiau Cobden a Bright yn rhai rhagorol, ac iddynt dynnu sylw yr holl wlad. Yr oedd Punch yn gwawdio, a'r Chronicle yn bytheirio, ond yr oedd yr had da a hauwyd yn siŵr o ddwyn ffrwyth. Tystiolaeth Mr. Richard ei hun am y cyfarfodydd ydoedd, na bu areithiau erioed mwy difrifol ac effeithiol ar y cwestiwn o Heddwch.
Tua'r amser hwn barnwyd yn ddoeth i Mr. Richard dreulio ychydig o fisoedd o'r flwyddyn yn Manchester. Nid oedd efe ei hun yn mawr hoffi y drefn, ond credai, er hynny, mai dyna' oedd ei ddyledswydd, a thua'r un amser fe beidiodd a galw ei hun yn "Barchedig," a hynny, meddir, ar awgrym Mr. Cobden. Dechreuai hefyd gadw cofnodion o ffeithiau a syniadau ar wahanol faterion, ac yn enwedig ar gwestiwn mawr ei fywyd, sef Heddwch, oblegid yr oedd cylch ei ddarlleniad yn eang iawn. Y mae, yn wir, yn syndod ei fod yn gallu ysgrifennu ar gynifer o faterion, ac yn medru dyfynnu o weithiau cynifer o wahanol awduron ar bob gwedd ar y materion yr ymdrinnir â hwy. Dywedir hefyd ei fod ar brydiau yn agored i bruddglwyfni, yr hyn oedd yn ddigon naturiol wrth ystyried mor ddiwyd y byddai yn efrydu. Ond yr oedd y gwaith mawr a gyflawnai yn rhwystro, fe ellid meddwl, i'r pruddglwyf ei flino yn hir. Yn ychwanegol at ei lafur ynglŷn â'i swydd, byddai hefyd yn pregethu weithiau mewn pulpudau Ymneilltuol. Tua diwedd y flwyddyn hon cafodd wahoddiad ddod yn athraw Coleg Aberhonddu, a bu yn hir, oherwydd sefyllfa ei iechyd, yn petruso beth oedd ei ddyledswydd; ond ar ol ystyriaeth ddwys ac ymgynghoriad â Dr. Campbell, penderfynodd lynnu yn ei swydd, ac ymaflodd yn ei waith gydag ymroad adnewyddol.
Ym mis Hydref y flwyddyn hon, cynhaliwyd Cynhadledd Heddwch yn Edinburgh. Yr oedd y "cwestiwn Dwyreiniol" yn dechreu codi, a chymerodd Mr. Richard a'i gyfeillion achlysur i rybuddio y wlad o'r perygl yr oedd ynddo gyda golwg arno, a'r ysbryd rhyfelgar ac ymffrostgar oedd yn ffynnu. Ysgrifennodd erthyglau yn yr Herald of Peace, yn gynnar yn y flwyddyn, yn egluro gwir natur y cwestiwn, a gresyn na fuasai pobl ein teyrnas wedi ei ddeall yn gynt nag y darfu iddynt, oblegyd—fel y mae yn anffodus yn digwydd yn fynych gyda golwg ar ryfeloedd—ni phelydrodd y gwirionedd ar eu meddyliau nes oedd yn rhy ddiweddar. Danghosai Mr. Richard y ffolineb o wag ymffrostio mewn erthygl rymus o dan y teitl, "Is National boasting good?" ac ni ddarfu neb rybuddio y deyrnas yn fwy ffyddlon o'i pherygl a'r tebygolrwydd iddi "lithrio" i ryfel nag y darfu ef. Ond fel y gorfu i Arglwydd Aberdeen gyfaddef ar ol hynny, "llithro" a wnaed wedi y cyfan.
Yr oedd y gynhadledd yn Edinburgh yn un dra llwyddiannus. Parhaodd am ddau ddiwrnod, a chynhaliwyd pedwar o gyfarfodydd mawr. Siaradwyd yno gan liaws o wŷr enwog, megis Mri. Cobden, Bright, Miall, ac ereill. Byrdwn araeth Mr. Cobden oedd y cwestiwn, "A ddylem fyned i ryfel i ddal i fyny annibyniaeth Twrci?" Un o hynodion y cyfarfod oedd fod Syr Charles Napier, y llyngesydd enwog, yr hwn a wnaeth ei hun mor hynod yn y rhyfel yn erbyn Rwsia ar ol hynny, wedi codi i siarad ar ol Mr. Cobden. Ymddengys iddo ymffrostio yn y London Tavern, yn y brif ddinas, y buasai yn myned i'r cyfarfod i wrthwynebu y rhesymau a ddygid ymlaen yno; ond wedi codi ar ei draed, yr oedd yn amlwg y teimlai fod rhesymau Cobden yn rhai nad allesid eu chwalu â bwledi ei fagnelau ef, a phan ofynnwyd iddo a oedd am gynnyg gwelliant gwrthododd, a dywedodd fod yn well ganddo gefnogi y cynygiad! Gwrandawyd ar ei siarad dibwynt yn amyneddgar, ond yr oedd yn dda ganddo gael eistedd i lawr. Gwynfyd na ddeuai mwy o lyngeswyr a chadfridogion o fewn cylch dylanwad cyfarfodydd fel hyn.
Yr oedd araeth Mr. Bright, ar ol y llyngesydd, yn un o'r rhai mwyaf hyawdl o'i eiddo. Ysgydwai y dorf anferth o'i flaen fel y môr ar wynt nerthol. Chwalodd ddadleuon y llyngesydd, ac yna gwnaeth apêl difrifol at ddysgawdwyr crefydd.
"O fewn terfynau y wlad hon," meddai, "y mae mwy na 20,000 o demlau yn cael eu taflu yn agored bob Saboth, yn y rhai y mae meibion a merched duwiolfrydig yn ymgynnull i addoli' Tywysog Heddwch.' Ai peth gwirioneddol ydyw hyn gennych, ynte a ydyw eich Cristionogaeth yn beth rhamantus, a'ch proffes yn freuddwyd? Na, yr wyf yn siwr mai nid rhamant ydyw eich Cristionogaeth, ac mai nid breuddwyd yw eich proffes, ac am hynny yr ydwyf yn apelio atoch gyda hyder, ac y mae gennyf obaith a ffydd yn y dyfodol."
Da fuasai gennym pe gallesid gosod yr araeth i lawr yn ei chrynswth yn y fan hon, er mwyn i'n darllenwyr gael eu trwytho â'i hysbryd yn y dyddiau hyn.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Cyfeiriai Mr. Henry Richard at yr anerchiad prydferth a gyflwynwyd iddo yn y cyfarfod.