Bywyd a Gwaith Henry Richard AS/Pennod VII

Oddi ar Wicidestun
Pennod VI Bywyd a Gwaith Henry Richard AS

gan Eleazar Roberts

Pennod VIII



PENNOD VII

Yn dod yn Aelod Seneddol—Ysgriw y tir-feddianwyr –Ei araeth gyntaf yn y Senedd a'i heffeithiau—y gronfa i gynhorthwyo y tenantiaid—Ei areithiau ar y pwnc o Addysg yn y Senedd.

(1868) Yr oedd llawer o gydwladwyr Mr. Richard wedi teimlo ers talm y dylasai fod yn Aelod Seneddol dros ryw barth o Gymru: Meddai gymhwysterau arbennig at y gwaith, ac yr oedd yn "caru ein cenedl ni." Ysgrifenwyd awgrymiadau i'r Amserau dro ar ol tro, yn galw sylw at hyn, gan ysgrifennydd y llinellau hyn, a chan ereill. Mewn cyfarfod yn Aberaeron, lle yr oedd Mr. Richard yn bresennol, wrth gynghori y Cymry i ddanfon dynion iawn i'r Senedd, troes Mr. Miall at Mr. Richard, gan ddweud, "Dyma eich dyn." Yn 1865, cynhygiodd Mr. Richard ei hun i'w sir enedigol, ac y mae pob lle i gredu, pe na buasai wedi tynnu yn ol, o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn y Traethodydd am 1865, at y rhai yr ydym, mewn nodyn blaenorol, wedi cyfeirio (t.d. 100), y cawsai ei ddewis. Pa fodd bynnag, yn etholiad 1868, pan roddwyd aelod ychwanegol i Ferthyr, etholwyd ef trwy fwyafrif mawr. Yr aelod blaenorol oedd yr Anrhydeddus H. A. Bruce, Rhyddfrydwr cymhedrol, a dyn rhagorol. Tybiodd meistriaid y gweithfeydd y gallasent gario y ddwy sedd, ond gwnaethant ymgais o blaid Mr. Fothergill yn bennaf, er mwyn cau allan Mr. Richard, tybient hwy. Ond yr oedd Mr. Richard yn anwyl gan y bobl, safasai o'u plaid yng ngwydd y Saeson pan warthruddwyd hwynt, ac yr oedd ei egwyddorion yr un yn hollol ag eiddo y mwyafrif mawr o honynt. Nid rhyfedd, gan hynny, i ffrwd o frwdfrydedd godi o'i blaid ag oedd yn cario popeth o'i flaen. Fel hyn yr ysgrifennid yn y Nonconformist ar y pryd,-

"Mae ymgyrch Mr. Richard yn ymgyrch buddugwr. Mae brwdfrydedd y bobl o'i blaid yn fawr dros ben. Llenwir yr adeiladau mwyaf y gellir eu cael. Derbynnir anerchiadau Mr. Richard, y rhai sydd mewn rhan yn y Saesneg, ac mewn rhan yn y Gymraeg, yn galonnog, ac y mae y penderfyniad i'w ddychwelyd yn unfrydol. Mewn pedwar o'r cyfarfodydd, mynnai y bobl dynnu s ceffylau o'r cerbyd, a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad, a llusgo Mr. a Mrs. Richard ynddo, trwy'r heolydd, i dŷ Mr. a Mrs. Davies, Maes y Ffynnon, lle yr oeddent yn aros. Nos Wener, ar y ffordd i Hirwaen, cyfarfu torf fawr â hwynt tua thri chwarter milltir o'r dref, gyda banerau a seindorf, a llusywyd y cerbyd i'r dref gyda banllefau uchel. Yn anffodus, nid oedd un adeilad yn y lle a gynhaliai y drydedd ran o'r bobl, a bu raid i Mr. Richard eu hannerch yn fyr yn Gymraeg, yn yr awyr agored, ac yna aeth cynifer ag a allai i'r capel Anibynnol. Un peth dyddorol iawn ynglŷn â'r cyfarfodydd hyn oedd nifer y gweithwyr cyffredin a gymerent ran ynddynt. Traddododd llawer o honynt areithiau ag oedd yn dangos gwybodaeth boliticaidd, a difrifoldeb llawn o arabedd, a hyawdledd cenhedlaethol, ag oedd yn taflu y cyfarfodydd i'r hwyliau mwyaf cyffrous."


Nid rhyfedd, gan hynny, fod y cyfrif ar ddydd yr etholiad fel y canlyn,-

Mr. Henry Richard . . . . . . . . 11,667
Mr. Richard Fothergill . . . . . . 7,613
Yr Anrhydeddus H. A. Bruce . . 5,797

Parhaodd Mr. Richard i gynrychioli Merthyr yn Senedd am ugain mlynedd.

Er bod 23 o aelodau Rhyddfrydig wedi eu dewis dros Gymru ymysg mwyafrif mawr Mr. Gladstone, sef 120, buan y daethpwyd i edrych ar Mr. Richard, ac y galwyd ef mewn modd arbennig, "yr aelod dros Gymru.” Yr oedd ei areithiau ar adeg ei etholiad yn rhai ardderchog. Ni chelodd un o'i egwyddorion, ac, fel y gellid tybied, cafodd cydraddoldeb crefyddol, ac yn neilltuol ei hoff bwnc, Heddwch, le arbennig ynddynt. Ceisiodd rhai ei ddiystyrru am ei fod yn bregethwr, ond ymffrostiai efe yn y ffaith, ac nid oedd un amser, hyd ddiwedd ei oes, yn anghofio datgan gyda llawenydd ei fod yn fab i un o “hen bregethwyr enwog Methodistiaid Cymru."

Ar agoriad y Senedd, yn Chwefrol, 1869, ar achlysur ciniaw llongyfarchiadol gan yr aelodau Cymreig, pryd yr oedd lluaws o wyr enwog yn bresennol, megys Mr. Knatchbull-Hugesson, Arglwydd Grosvenor, Mr. Morley, Mr. Edward Miall, ac ereill, cymerodd Mr. Richard achlysur i gyfeirio at "ysgriw” y tirfeddianwyr yng Nghymru, a chyda dig cyfiawn at waith clerigwr yn nacau i un o weinidogion Ymneillduol Cymru ddweud gair yn y fynwent ar achlysur claddedigaeth yr hybarch a'r enwog Barchedig Henry Rees.

Gwnaeth Mr. Richard enw iddo ei hun yn y Senedd yn bur fuan. Siaradai gyda phwyll, nerth, a choethder anghyffredin, er yr ofnai rhai y buasai y dôn bregethwrol, yr hon a gasheid gymaint gan y Tŷ, yn ei erbyn. Ond yr oedd Mr. Richard bron yn gwbl rydd oddiwrthi. Siaradai yn berffaith naturiol, a phan dwymnai yn ei bwnc, gyda nerth argyhoeddiadol. Ei araeth gyntaf yn y Tý oedd ar yr 22ain o fis Mawrth, 1869, ar ail ddarlleniad mesur dadsefydliad yr Eglwys Wyddelig. Wrth gwrs, yr oedd esiampl Cymru ganddo i'w gefnogi, a danghosodd ar unwaith ei fod yn un a wnai argraff ar y Tŷ, ac y mynnai wrandawiad. Gyda phresenoldeb y fath un a Mr. Richard yn y Tŷ, yr oedd dyddiau camddarlunio Ymneillduaeth yn terfynnu.

Ar yr wythfed o fis Gorffennaf yr un flwyddyn, cafodd Mr. Richard gyfleustra neilltuol i ddwyn achos Cymru a gorthrwm y tirfeddianwyr o flaen y Senedd. Cymaint oedd digofaint y boneddwyr hyn oherwydd buddugoliaeth y Rhyddfrydwyr yn yr etholiad fel y rhoisant rybudd i oddeutu dau gant o'u tenantiaid. Cododd hynny ystorm trwy yr holl Dywysogaeth. Yn ffodus, pa fodd bynnag, yr oedd gan Gymru, bellach, wr galluog a chymwys i ddadleu ei hachos yn y Senedd. Pan gododd yr aelod dewr dros Ferthyr i fwrw ei hyawdledd llym ar ben rhai o'r gwŷr hyn, yn eu gwydd, yr oedd yr olygfa yn un ddyddorol dros ben. Mewn perffaith hunan-feddiant, ac mewn iaith finiog, ond coeth, dadleuodd yr achos o flaen y Tŷ am dros awr. Mae adroddiad Hansard o'r araeth ragorol hon o'n blaen, ac nis gallwn ymatal rhag rhoddi talfyriad byr o'i chynhwysiad,—

Dywedai ar y dechreu nad peth hyfryd ganddo oedd dwyn cyhuddiad fel hyn o flaen y Tŷ yn erbyn dosbarth o'i gydwladwyr, ond yr oedd pethau wedi eu dwyn i'r fath sefyllfa fel yr oedd cyfiawnder, rhyddid etholiadol, a threfn, a thangnefedd yn galw am roi terfyn arnynt. Hawliai eu sylw oblegid nid oedd achosion Cymreig wedi bod o flaen y Tŷ er cyn cof. Yr oedd y Cymry yn Rhyddfrydwyr fel cenedl. Nid oedd eisieu un prawf arall o hyn na'r ffaith eu bod yn Ymneillduwyr o ran crefydd, a galw sylw at eu llenyddiaeth. Ar ol ymhelaethu ar y ddau bwynt hyn, dywedodd fod rhai Saeson mor ffol a thybied fod y Cymry yn meddu math o ymlyniad caeth wrth berchenogion y tir, ac y dilynent hwy mewn unrhyw gyfeiriad. Ni fu erioed fwy o gamgymeriad. Er fod addysg wedi ymledu ymysg y bobl, nid oedd y tirfeddianwyr wedi sylweddoli hyn. Dylent gofio nad arglwyddi ar gaethion oeddent mwyach, ond dynion ymysg eu cyd-ddynion. Canfyddid y cynnydd hwn mewn gwybodaeth yn bur eglur yn yr etholiad diweddaf. Yr oedd cydymdrech wedi cymeryd lle rhwng arglwyddi ac Eglwyswyr yn erbyn Rhyddfrydiaeth ac Ymneillduaeth. Y drwg oedd fod rhai—nid pawb, ond rhai—tirfeddianwyr wedi myned i dybied fod y bleidlais yn perthyn i'r tir, fel yr ysgyfarnogod neu'r coedieir, ac os meiddia neb heblaw hwy ofyn am bleidlais y tenant, ei fod yn fath o heliwr anghyfreithlon. Yna, darllennodd Mr. Richard, er mwyn profi ei bwnc, lythyr yn dangos fel y darfu i'r Milwriad Powell, yr aelod dros sir Aberteifi, ddirwasgu ei denantiaid; un arall oddiwrth W. Cottrell, mewn perthynas i denantiaid "Derry Ormond,"[1] at Mr. Rees Jones, Voelallt Factory, Llanddewibrefi, Yr oedd y gŵr hwn wedi meiddio pleidleisio yn groes i ewyllys y meistr, ac wedi cael rhybudd i adael ei ddaliad; ond dywedid wrtho y cawsai aros os talai 10 punt ychwaneg o ardreth, a phleidleisio dros ei feistr o hynny allan. Darllennodd Mr. Richard, fel hyn, lythyr ar ol llythyr, ac adroddodd ffeithiau diymwad, y naill ar ol y llall, i ddangos fel y gorthrymid y tenantiaid. Yr oedd yr holl fanylion o'i flaen ganddo ar bapur, yn rhoi hanes ugeiniau lawer o denantiaid wedi cael rhybudd fel hyn am bleidleisio yn ol eu cydwybodau, a phentyrrai hwynt ar ben y tirfeddianwyr yn ddiarbed, a danghosai y fath greulondeb oedd hynny mewn lluaws o amgylchiadau. Nid oedd dim deddf yn rhoi hawl i'r tenant i gael yn ol yr arian a wariasai ar ei fferm, ac yr oedd troi dynion allan o'u ffermydd, o dan y fath amgylchiadau, nid yn unig yn ormes, ond yn lladrad cywilyddus. Yna aeth ymlaen i ddangos mor ffol oedd ym- ddygiadau fel hyn, a defnyddiodd am y waith gyntaf, meddir, yn y Senedd, yr hen ddiareb,— "Trech gwlad nag arglwydd." Wedi hynny, aeth ymlaen i ddangos mor rydd oddiwrth droseddau ydoedd Cymru, a dywedai nad oedd ymddygiad y tirfeddianwyr ond temtio'r bobl i fod yn droseddwyr y gyfraith. Danghosodd hefyd mai celwydd oedd y cyhuddiad a wneid fod y gweinidogion Ymneillduol yn arfer dylanwad anheg ar y bobl, a heriodd brawf o'r cyhuddiad. Yna, apeliai Mr. Richard am gyfiawnder a thegwch tuag at y ffermwyr diamddiffyn hyn. Yr oedd yn adnabod llawer o honynt yn dda,—

"A chan" (meddai wrth derfynnu), "fy mod yn eu hadnabod mor dda, y mae fy mynwes yn chwyddo mewn gofid a digllonnedd wrth weled y cyfryw ddynion yn cael eu mathru dan draed gan ryw fân dirfeddianwyr fel hyn. Yr wyf yn galw am gydymdeimlad ac amddiffyniad y Tŷ hwn ar eu rhan. Nid yw hynny yn llawer i'w ofyn oddiar eich llaw. Nid ydynt yn gofyn ond am i chwi beidio gadael i'r etholfraint a ymddiriedasoch iddynt gael ei droi yn offeryn poenydiad ar eu cydwybodau, a bod yn foddion gorthrwm a difrod ar eu hamgylchiadau. Mewn gair y maent yn gofyn, gyda golwg ar yr hawliau yr ydych wedi eu rhoddi iddynt, neu yn hytrach y ddyledswydd a osodasoch arnynt—pwysigrwydd a chyfrifoldeb yr hon a deinilant—eu bod i gael caniatad i gyflawni y ddyledswydd honno yn ddi-ofn ac yn anibynnol, fel rhydd-ddinasyddion gwlad rydd."

Hawdd y gellir dychmygu fod yr araeth hon wedi creu cyft'ro mawr ymysg tirfeddianwyr y Tŷ. Dyma'r tro cyntaf iddynt gael eu galw fel hyn " o flaen eu gwell " i ateb am eu traha. Y mae Mr. Edward Miall, yr hwn oedd yn y Tŷ ar y pryd, yn dweud fod desgrifiad Mr. Richard o'r Cymry, eu gwybod- aeth am wleidyddiaeth, a'u teimladau dwfn, wedi peri syndod mawr. Fel y nodai engraifft ar ol engraifft o orthrwm y tirfeistriaid, yr oedd teimlad digofus yn eglur godi. Pan y desgrifiai, gyda theimlad dwys, ymadawiad ffermwyr o'u hen gartrefi, ceisiodd rhai wawdio, ond buont yn aflwyddiannus, oblegid yr oedd Mr. Richard wedi ennill "clust y Tŷ."

Dywedai y diweddar Syr George Osborne Morgan, yr hwn a draddododd araeth ardderchog yn cefnogi cynhygiad Mr. Richard, fod effaith yr araeth, nid yn unig ar ei gefnogwyr, ond ar ei wrthwynebwyr, yn wir aruthrol; a bod edrych ar wynebau y rhai yr ymosodai arnynt yn olygfa gwerth ei gweled; a bod y gair ar led am un cyniychiolydd tra pharchus, ei fod bron wedi llyncu ei gadach poced. Pan eisteddodd Mr. Richard i lawr y noson honno, yr oedd dau beth yn amlwg, sef fod Cymru o'r diwedd wedi cael gwir gynrychiolydd, a bod Mr. Richard wedi sicrhau ei enwogrwydd Seneddol. Mae yn ddiau fod yr hyn a ddygwyd i'r goleu y pryd hwnnw wedi gwneud llawer er paratoi y íFordd i ddygiad mesur i mewn i ddiogelu yr etholwyr trwy foddion y tugel, yr hwn, ar ol hir frwydro, a basiodd yn 1871.

Fel y noda Mr. Richard yn yr Ol-ysgrif i'r Llythyrau y cyfeiriasom atynt, t.d. 103, ffurfiwyd, yn niwedd 1869, gronfa i gynorthwyo y rhai a drowyd allan o'u ffermydd, a gwnaeth Mr. Richard ei ran ymhob modd i hyrwyddo y symudiad, trwy gynnal cyfarfodydd mewn gwahanol barthau o Gymru a threfydd Lloegr. Yr oedd ei areithiau yn y cyfarfodydd hyn yn frwdfrydig iawn. Nid yn fuan yr anghofiwn ef mewn cyfarfod yn Lerpwl, pan yn desgrifo y gwahaniaeth rhwng y Cymry a'r Gwyddelod yng ngwyneb gorthrwm y meistr tir, ac yn pwysleisio y geiriau,—We don't tumble our landlords. Casglwyd rhai miloedd o bunnau fel hyn i gynorthwyo y tenantiaid gorthrymedig.

Nid oedd dim diwedd bron ar y galwadau oedd am wasanaeth Mr. Richard ar ol iddo sefydlu ei enwogrwydd mewn modd mor arbennig. Dadleuai o blaid addysg, rhyddid crefyddol, yr achos cenhadol, ac achosion cyffelyb, oddiar lwyfannau lawer. Ond ni fyddai byth, er hynny, yn anghofio prif waith ei fywyd, sef achos Heddwch. Yr oedd y rhyfel rhwng Ffrainc a Germani yn ymyl, a thalodd Mr. Richard a'i wraig ymweliad â'r Cyfandir wedi i'r Tŷ gael ei ohirio. Aeth i Ffrainc, Belgium, Holland, Prwsia, Bavaria, Awstria, ac Itali, i geisio perswadio aelodau y gwahanol Seneddau i wneud rhywbeth effeithiol ynddynt o blaid Cyflafareddiad. Llwyddodd y tu hwnt i'w ddisgwyliad. Cafodd penderfyniad o blaid Cyfalareddiad yn Senedd Berlin 90 o bleidleisiau, pasiwyd un cyffelyb yn Dresden trwy fwyafrif mawr; ac yn Awstria cafwyd 53 yn erbyn 64 o blaid. Derbyniwyd Mr. Richard ymhob man fel Apostol Heddwch, a chynhaliwyd cyfarfodydd mawr i'w groesawu. Cawn rai erthyglau rhagorol yn yr Herald of Peace ganddo tua'r amser hwn ar y pwnc o Heddwch yn ei wahanol agweddau. Nid segura y byddai Mr. Richard pan ddadgorfforid y Senedd, ond gorffwyso trwy newid gwaith.

(1870) Pasiwyd lluaws o fesurau pwysig yn Senedd- dymor 1870. Ym mis Mai, dygodd Mr. Watkin Williams benderfyniad ymlaen ar fod gwaddoliadau Eglwysig Cymru i gael eu defnyddio at achos Addysg, a bwriadai Mr. Richard ei gefnogi, ond collold y cyfleustra. Treuliwyd rhan fawr o'r Senedd-dymor gyda chwestiwn Mesur Addysg Mr. Forster. Cymerodd Mr. Richard ran neilltuol yn y ddadl, gan wrthwynebu yr ymgais i dreulio arian y wlad ar ysgolion yn dysgu crefydd enwadol. Amrywiai hyd yn oed y Rhyddfrydwyr yn eu barnau ar wahanol agweddau y cwestiwn hwn. Yr oedd areithiau Mr. Richard ar yr achlysur yn gryf a galluog, ac eto yn gymodol. Nid y cwestiwn ydoedd a oedd crefydd i gael ei dysgu, ond gan bwy? Ni feddai fawr o ymddiried y byddai dylanwad y clerigwyr a'r tirfeddianwyr yn yr iawn gyfeiriad. Cariodd y Llywodraeth y mesur, gyda chynhorthwy y Toriaid, trwy fwyafrif mawr. Gwrthdystiai Mr. Richard yn erbyn y wedd enwadol oedd arno, a gwnaeth Mr. Miall ac yntau rai sylwadau llym, y rhai a allesid dybied a fuasent yn chwerwi ysbryd Mr. Gladstone tuag atynt. Ond nid felly y bu. Gwyddai y Prif Weinidog yn dda mai gwŷr pybyr yn dadleu dros eu hegwyddorion mawr oeddent, ac ni wnaeth hynny ond ychwanegu ei barch tuag atynt, er ei fod ar un adeg, ar ol hynny, wedi ffromi yn fawr wrth Mr. Miall, tymher yr hwn oedd yn fwy chwerw nag eiddo Mr. Richard. Yr oedd un newyddiadur yn sylwi ar y pryd fod Mr. Gladstone ar fwrdd llestr gyda'r Cobden Club yn myned i Greenwich, a phan welodd Mr. Richard yn eistedd yn wylaidd ymhen ol y llestr, ei fod wedi myned ato ac ysgwyd llaw âg ef, ac eistedd wrth ei ochr, ac ymgomio yn hir ac yn hamddenol âg ef. Dyna fel y gall gwŷr bob amser ymddwyn. Meddai Mr. Gladstone, yn ddiau, barch dwfn i onestrwydd a chydwybodolrwydd Mr. Richard. Yr oedd gwybodaeth drwyadl Mr. Richard o'r holl ffeithiau ynglŷn â phob pwnc a ddygai ymlaen yn y Senedd, ei allu ymresymiadol clir, ei barch i egwyddorion Cristionogaeth, unplygrwydd ei amcan, a'i ymlyniad diwyro wrth ei argyhoeddiadau, yn rhwym o ennill cymeradwyaeth gŵr o gymeriad Mr. Gladstone. Anaml y codai i siarad ar ol Mr. Richard heb dalu teyrnged o barch iddo, hyd yn oed pan yn trin y pwnc o Heddwch. Yn wir, nid ydym heb feddwl fod ganddo lawer iawn o gydymdeimlad â'i syniadau.

Nodiadau[golygu]

  1. Digrifol ydyw darllen y llythyr hwn yn awr yn llawn yn Hansard, a sylwi ar y nifer o engreifftiau o gamsillebiaeth a gwallau ereill sydd ynddo, megys "as" yn lle "have," "interfeer" yn lle "interfere," "you refuses" yn lle "you refuse," ac yr ddiau nid difyr oedd darllen y llythyr fel yr oedd, a dodi y gair "sic" ar ol pob gwall; ac nid difyr, ychwaith, oedd i ysgrifennydd y llythyr weled ei anwybodaeth yn cael ei ddinoethi ger gwydd y deyrnas.