Bywyd a Gwaith Henry Richard AS/Pennod VIII

Oddi ar Wicidestun
Pennod VII Bywyd a Gwaith Henry Richard AS

gan Eleazar Roberts

Pennod IX


PENNOD VIII

Y rhyfel rhwng Ffrainc a Phrwsia—Areithiau ac Ysgrifeniadau Mr. Richard arno—Rwsia yn cymeryd mantais ar yr amgylchiadau.

(1870) "Yn nechreu y flwyddyn 1870, gallesid meddwl fod egwyddorion Heddwch wedi ymluchio dros gyfandir Ewrob fel tôn gref. Taenid y gair yn y newyddiaduron, fod Ffrainc yn barod i symud yng nghyfeiriad diarfogiad helaeth. Pa fodd bynnag, codwyd y pwnc i'r gwynt trwy ymweliad Mr. Richard â'r Cyfandir ar ei neges dangnefeddus, a dadleuid ef yn fynych yn y papurau. "Yn yr holl wledydd o'n cwmpas (ebe M. Convreue, yn Senedd Belgium) mae y bobl yn gwaeddi allan am Heddwch, ac yn gwrthdystio yn erbyn yr ynfydrwydd milwraidd presennol." Mewn araeth a draddododd y Gwir Anrhydeddus Mr. Forster yn Bradford, dywedai wrth daflu ei olwg dros wledydd Ewrob, fod golwg obeithiol iawn ar bethau gyda golwg ar y cwestiwn o Heddwch rhwng gwledydd. Yr oedd Ffrainc yn gwneud gostyngiadau milwrol, a Phrydain yr un modd. Cynhygiai Gweinyddiaeth Mr. Gladstone wneud gostyngiad yn y treuliadau ar y fyddin o 1,136,000p., a 12,308 yn nifer y milwyr, ac yn y llynges ostyngiad o 746,111p., yn gwneud o gwbl 1,883,000p. yn llai na'r flwyddyn flaenorol.[1] Cyfeiriai y Frenhines hefyd, gyda llawenydd, yn yr Araeth ar agoriad y Senedd at yr arferiad oedd yn ymddangos, fel ar gynydd, o gyflwyno cwestiynau dyrus rhwng gwledydd i benderfyniad cyflafareddwyr.

Ond yn amser heddwch, nid oes nemawr o sylw yn cael ei wneud o Ymherawdwyr a Brenhinoedd, ac y mae y byddinoedd a'r llyngesoedd, y rhai ydynt eu tegannau chwareu, yn colli eu dylanwad. Yn anisgwyliadwy, ar ryw gyfrif, er fod y teimladau drwg yn croni, ac yn bygwth torri allan, tarawyd Ewrob â syndod cyn i Senedd-dymor y flwyddyn hon ddod i ben, trwy i ryfel dorri allan rhwng Ffrainc a Ger- mani. Mae Mr. Richard, yn y papur a olygai, yn desgrifio yr amgylchiad yn y geiriau a ganlyn,—

"Nid oes eisieu i ni ddweud wrth ein darllenwyr fod ein calon yn ddrylliedig wrth edrych ar sefyllfa ddifrifddwys Ewrob. Hawdd fyddai ysgrifennu cyfrol ar y pwnc, ond fel amddiffynwyr heddwch, gwell i ni fod yn gynnil gyda'n geiriau, rhag i ddim a ddywedwn gyffroi teimladau cynhyrfus y pleidiau ymladdgar, y rhai a allant yn hawdd beri cynnwrf rhwng y wlad hon ac un o'r Galluoedd. Eglur yw i bawb a ddarllenno y papurau Seneddol, fel yr ydym ni wedi gwneud, fod gwreiddyn y drwg yn gorwedd yn ddyfnach na dewisiad y Tywysog Hohenzollern i orsedd Yspaen. Mae pob rhyfel, fel y dywed Kant, yn cenhedlu rhyfel arall. Mae y rhyfel presennol yn profi hyn. Nid oes ynnom un awydd i ddweud gair a duedda i esgusodi ymddygiad llywodraeth Ffrainc ar yr amgylchiad presennol. Ni fynnem, er holl olud a gallu y byd, fod o dan y baich o waed ar ein heneidiau sydd yn rhwym o orwedd ar enaid yr Ymherawdwr a'i gynghorwyr. Nid oedd yr hyn a roddir allan fel achos y rhyfel yn ddiau ond esgus; o leiaf yr oedd yr achos hwnnw wedi ei symud oddiar y ffordd cyn penderfynnu myned i ryfel. Wrth eu drws hwy, yn ddiau, y gorffwys y cyfrifoldeb o fod wedi gollwng cwn rhyfel yn rhydd. Yr ydym yn dweud yn bendant ac yn glir mai wrth ddrws llywodraeth ac nid pobl Ffrainc y gorwedd."

Ar ol dwyn profion o hyn, y mae yn troi at Prwsia, ac yn dweud ei bod mewn ysbryd anystyriol wedi dechreu teithio ar hyd llwybr rhyfel tua phedair blynedd cyn hynny. Pan oedd Ewrob yn heddychol, taflodd ei byddinoedd arni, ac heb hawl, ond hawl nerth cleddyf, trawsfeddianodd diriogaethau mawrion, a hynny yn groes i farn ei deiliaid ei hun. Ped aroshasai, syrthiasai y tiriogaethau hyn yn naturiol i'w dwylaw. Daeth Prwsia fel hyn yn allu cryf yn Ewrob, ac yr oedd ar Ffrainc ryw gymaint o'i hofn. Hyderai Mr. Richard, pa fodd bynnag, na wnai y wlad hon ymyryd mewn un modd yn y cweryl, os nad ymyrai i geisio atal tywallt gwaed. Yr oedd dosbarth o bobl yn y wlad hon, yn manteisio ar ryfel; ond meddai bob ymddiried yn Mr. Gladstone ac Arglwydd Granville. Ein perygl ydoedd oddiwrth ein swyddogion milwrol, y rhai, o dan yr esgus o osod y wlad mewn sefyllfa amddiffynnol, a waeddant am ychwanegiad at ein harfau rhyfel.

Mewn erthygl arall yn yr un cyhoeddiad, y mae Mr. Richard yn dychwelyd at y cwestiwn hwn. Gwawdia y syniad ffol, yn ol ei farn ef, o ymarfogi er mwyn cadw heddwch. Yr oedd byddinoedd anferth Ewrob yn ei gwasgu i'r llawr. Yr oeddent yn gwneud yr un peth a phe dyblid rhenti pob teulu. Elai naw ceiniog o bob swllt o'r trethi a godid oddiar bobl y wlad hon i dalu costau milwrol y dyddiau presennol neu y rhai a fu. Dywedid fod hynny yn angenrheidiol er mwyn diogelu heddwch. Ond fel arall yn hollol yr oedd pethau yn bod. Yr oedd pob blwyddyn o ychwanegiad at y moddion milwrol yn ychwanegu y perygl o ryfel yn y pen draw. Dywedai Ymherawdwr Ffrainc, yn ei gyhoeddiad o ryfel (Gorffennaf 23, 1870), fod yr "arfogiadau eithafol hyn wedi gwneud Ewrob yn wersyllfa, lle nad oedd yn aros ond ansicrwydd ac ofn am yfory." Dyna ganlyniad naturiol pethau. A oedd rhyw un mor ffol a meddwl, pe na buasai yr ystorfeydd o ynnau ac offer rhyfel o bob math yn bod, y buasai Ffrainc a Phrwsia wedi myned i ryfel? Ychwanegu perygl yr oedd y pethau hyn, ac nid diogelwch. A oedd y ddwy wlad yn agos mor gryf i gyfarfod â'u gilydd ag y buasent, pe heb dlodi eu hunain trwy drethoedd beichus am flynyddau?

Llwyddodd y wlad hon i gadw allan o'r trybini; ond bu raid ychwanegu dwy filiwn o bun- nau at ddyled y deyrnas, ac ugain mil o wŷr at nifer ein milwyr.

Tra bu y ddwy deyrnas fawr fel hyn yn ym- ladd, nid oedd Mr. Richard yn segur. Gwnaeth ei oreu, ar yr esgynlawr, yn y Senedd, a thrwy y Wasg, i ddadleu yn erbyn i'r wlad hon gymeryd ei llusgo i'r rhyferthwy ofnadwy oedd yn ymferwi ar y Cyfandir. I'r diben hwn gofalai gadw o flaen darllenwyr yr Herald of Peace ddifyniadau o'r gohebiaethau o faes y gwaed, er mwyn iddynt sylweddoli erchyllderau rhyfel Traddododd areithiau grymus yma a thraw yn ystod y tymor hwn, ac un bwysig iawn yn y Senedd ar y laf o Awst, yr hon y rhaid i ni gyfeirio ati. Canfyddir ei hamcan oddiwrth y crynhodeb canlynol,—

"Ofnai," meddai, "nad oedd y blaid a gynrychiolai efe yn boblogaidd iawn ar y pryd, sef plaid heddwch; a chyhuddai Mr. Disraeli o fod wedi traddodi araeth anoeth, un llawn o ysbryd rhyfel. Yn wir, tybiai efe fod y cwrs a gymerid gan y boneddwyr ar yr ochr arall i'r Tŷ, ymhell o fod yn un ag oedd yn dangos gwir wladgarwch. Beth oedd bwrdwn eu hareithiau? Cyhoeddent gyda phwyslais arbennig fod y wlad hon yn berffaith ddiamddiffyn; nad oedd gennym na byddin na llynges o ddim gwerth. O ran hynny, dyna eu cri bob amser. Yr oedd efe wedi cymeryd dyddordeb yn y materion hyn ers pum mlynedd ar hugain, ac yn ol y boneddigion hyn, ni fu gennym erioed arfau amddiffynnol o ddim gwerth. Mor fuan ag y caniateid yr arfau a geisient, dwedid wrthym nad oeddent dda i ddim. Os oedd ein sefyllfa mor ddiamddiffyn, yr oedd gennym yn sicr hawl i ofyu beth oedd wedi dod o'n harian, y miliynnau ar filiynnau oeddem wedi bod yn eu tywallt i'w trysorfa. Ond hyderai na wnai y Weinyddiaeth gymeryd ei dychrynnu i wastraffu mwy o arian y wlad, tra yr oedd, yn ol tystiolaeth y gwŷr a enwyd, mor ddifudd. Na, yr oedd gan y ddau Allu ymladdgar ddigon ar eu dwylaw heb gweryla â'r wlad hon. A oedd yr holl baratoadau rhyfelgar a wnaed ganddynt wedi sicrhau heddwch? Yn hytrach, fel arall yn hollol."

Yna aeth Mr. Richard ymlaen i roddi cyngor difrifol i wŷr y Wasg, o ba un yr oedd efe yn aelod gostyngedig Cyfeiriodd at eiriau Arglwydd John Russell ac Arglwydd Derby i ddangos fel yr enynwyd ysbryd rhyfel rhwng gwledydd trwy ymadroddion annoeth a chythruddol, a dywedai nad oedd ganddo ef un gronyn o dosturi i'w hebgor tuag at y ddwy lywodraeth oedd yn ymladd a'u gilydd,—

"Rhaid i mi," meddai, "gadw fy nosturi i'r miliynnau deiliaid o'u heiddynt oedd yn dioddef cymaint oherwydd eu cynghorau balch hwy. Yr wyf yn meddwl am y degau o filoedd o wyr ieuainc Ewrob a hyrddir i'w beddau cyn eu hanser; am y myrddiyunau o gartrefi, oedd hyd yma yn ddedwydd, a len wir â thristwch ac anghyfanedd-dra; am y lluaws pobloedd ar bobtu y Rhine oedd yn foddlawn i aros yn dawel a chymydogol gyda'u gilydd pe gadawsid iddynt, ond y rhai y cyffroir eu calonnau bellach gan nwydau gwenwynig, digofus, ac anghristionogol."

Credai fod dosbarth gweithiol y wlad hon o blaid anymyriad, a diolchai yn gynnes i Mr. Gladstone am ei benderfyniad i gadw y wlad hon yn glir o'r helynt

Cadwai Mr. Richard y cwestiwn fel hyn o flaen y bobl yn barhaus, a gwasgai adref, trwy y Wasg, y gwersi y dylesid eu dysgu oddiwrth y rhyfel. Gan fod yn ffyddlon i bwysigrwydd yr ystyriaeth, ni adawai i'w ddarllenwyr anghofio mai y darpariadau milwrol oedd wedi dwyn y rhyfel oddiamgylch, ac nad oedd y cwestiwn rhwng Ffrainc a Phrwsia, a defnyddio geiriau paffwyr pen-ffordd, ond yr hen gwestiwn pwy oedd y dyn goreu (the best man). Ac nid cwestiwn oedd hwn rhwng pobl y ddwy wlad, ond rhwng eu harweinwyr milwrol.

"Dyma," meddai yn un o'i erthyglau, "ddernyn allan o un o'r newyddiaduron. Ar y 12fed o fis Gorffennaf, cynhaliwyd cynghor pwysig yn y Tuileries, a phan oedd yr holl weinidogion ereill o blaid heddwch, tarawodd y Cadlywydd Lebouf ei ddwrn ar y bwrdd, a dywedodd y rhoddai ei swydd i fyny os na chyhoeddid rhyfel.' 'A ydych yn barod,' oedd gofyniad y Cyfrin-gyngor, 'i fyned i ryfel yn erbyn y gallu cryfaf yn Ewrob Ni fuom erioed yn fwy parod,' oedd yr ateb; ac yna dywedai yr Ymherawdwr,— Rhaid i ni, o ganlyniad, fynnu ymrwymiadau gan Prwsia; dyna ben ar y mater.'"

Cynlluniau i oresgyn Prwsia oedd gorchwyl swyddogion milwrol Ffrainc yn eu horiau hamddenol. Ar y llaw arall, pan gyfarfyddai swyddogion milwrol y Tywysog Frederick Charles ar giniaw, eu gwaith fyddai i un osod i lawr gynllun i oresgyn Ffrainc, ac i'r lleill ei feirniadu. Gwasgai Mr. Richard y gwirionedd adref fod yr un dosbarth yn fyw i'r un gwaith yu y wlad hon, a nodai ffeithiau i brofi hynny. Ewyllysiai y dosbarth hwn i ni efelychu y Galluoedd mawrion oedd yng ngyddfau eu gilydd, a dymunent wneud pob dyn ieuanc yn filwr. Ac y mae yn hawdd credu hynny, oblegid onid dyna oedd y cri a godwyd yn y deyrnas hon, yn ddiweddar, yn ein hymdrechfa â'r Transvaal? Gwyn fyd na fyddai ysgrifeniadau Mr. Richard ar y mater yn cael eu gwasgaru led-led y wlad.

Yr ydym yn cael fod Mr. Richard, ar y 24ain o Fedi, yn areithio mewn cyfarfod mawr yn Newcastle. Yr oedd y rhyfel yn peri fod rhai yn gofyn yn ddiystyrllyd yn y papurau,— "Beth y mae y Gymdeithas Heddwch yn ei ddweud bellach?" Mae Mr. Richard yn ateb y buasai yn well i'r byd erbyn hynny pe talasai fwy o sylw i'r hyn a ddwedid gan y Gymdeithas honno,—

"Chwi welwch," meddai, gan droi ar y cyhuddwyr, beth y mae Cymdeithas Rhyfel yn gallu ei wneud, yn y 250,000 o wyr sydd, yn ol y papurau, yn gorwedd yn gelaneddau ar y ddaear, neu wedi eu hanafu am eu hoes. Chwi welwch waith y Gymdeithas Rhyfel yn y "milltiroedd o ing"—ymadrodd tarawiadol a fathwyd gan y Dr. Russell, gohebydd y Times —sydd yn gorwedd yn yr yspyttai â'r tai ar lannau y Rhine a'r Moselle, yn y tai anrheithiedig a thruenus yn Ffrainc a Germani, lle y mae gwragedd torcalonnus yn disgwyl yn ofer am tadau, y gwŷr, y meibion, y brodyr, y rhai a dorrwyd i lawr yng nghanol eu cryfder, nid gan law natur, na barn Duw, ond gan law ddrygionus ac ynfyd eu cyd-ddyn. Chwi welwch waith y Gymdeithas Rhyfel yn y meusydd a ddifrodwyd, yn y pentrefi a losgwyd, ac a ddrylliwyd ar du dwyreiniol a gogleddol Ffrainc, lle y gwelir y trigolion anffodus yn ymlwybro mewn dychryn yng nghanol adfeilion eu tai, ac yn danfon cri o ing, ac apel at genhedloedd Ewrob i ddod i'w cynhorthwyo, am fod pob moddion cynhaliaeth wedi eu dinistrio, rhag iddynt drengu o newyn a haint. Dyma fuddugoliaethau y Gymdeithas Rhyfel, ac yng nghanol y fath amgylchiadau a hyn, hwyrach y gwrandewch ar lais Cymdeithas Heddwch gyda rhyw gymaint o barch. A pha beth a ddywed y Gymdeithas honno? Dywed fod moddion gwell, doethach, mwy rhesymol, mwy dyngarol, mwy Cristionogol, i derfynnu cwerylon rhwng cenhedloedd na'r drefn hon o osod dynion i lofruddio eu gilydd; oblegid, dwedwch yr hyn a fynnoch, nid ydyw rhyfel yn ddim amgen na llofruddiaeth ar raddfa eang. Dywed nad yw y byddinoedd hyn yn ddim amgen na'r ffolineb mwyaf, gan nad ydynt yn diogelu heddwch. Yr oedd pum miliwn o filwyr yn Ewrob, ac yr oedd efe (Mr. Richard) yn gwrthdystio yn eu herbyn am eu bod yn peryglu heddwch Ewrob."

Yn ystod yr araeth hon danghosodd Mr. Richard ynfydrwydd y cydymgais rhwng gwahanol wledydd mewn darpar arfau milwrol trwy gymhariaeth syml, ac y mae yn werth ei dodi i lawr yma,—

"Tybier," meddai, "fod dau ddyn yn Newcastle, un yn bobydd, a'r llall yn gigydd, yn byw gyferbyn a'u gilydd yn yr un heol. Mae rhywun yn myned at un o'r dynion hyn—y pobydd dyweder—ac yn ei berswadio fod y cigydd bwriadu gwneud rhyw niwed iddo. Mae y pobydd yn dweud wrtho ei hun, "Wel, nid wyf am osod fy hun yn agored i gynddeiriogrwydd y dyn yna," ac y mae ar unwaith yn hurio dyn, ac yn rhoi dryll iddo, ac yn peri iddo gerdded i fyny ac i lawr yr heol, a'i bwyntio at ei gymydog y tro cyntaf y gwel fod hynny yn angenrheidiol. Dyna beth mae y pobydd yn ei wneud. Yna y mae y cigydd yn dweud, "Oh, wel, fe all mwy nag un chwareu y gamp yna;" ac y mae yntau yn llogi dyn, ac yn rhoi dryll yn ei law, ac yn peri iddo gerdded i fyny ac i lawr yr heol ar yr ochr aralı. Yna y mae y pobydd yn dweud, "Mi fynnaf fi ddau o ddynion," a'r cigydd yn dweud, "Mi fynnaf finnau ddau." "Mi fynnaf dri," medd y pobydd. "Os felly, ini fynnaf finnau dri," ebe y cigydd; ac felly y mae y ddau ynfytyn yn gwario eu harian i logi dynion, ac i brynnu llaw-ddrylliau. A'r hyn sydd yn hynod ydyw fod y ddau, yn ystod yr holl amser yma, yn masnachu â'u gilydd; y cigydd yn prynnu torthau y pobydd, a'r pobydd yn prynnu cig y cigydd. Dyna'n gymhwys yr hyn yr ydym ni yn ei wneud. Mae Ffrainc a Lloegr yn gwneud masnach helaeth â'u gilydd—diolch i Mr. Cobden am hynny—ac eto, tra yr newid nwyddau fel hyn, dywed ein llywodraethwyr fod yn rhaid iddynt gael degau o filoedd o ddynion, a threulio miliynnau lawer o arian, er mwyn rhwystro i'r Ffrancod a'r Saeson ruthro i yddfau eu gilydd."

Ond tra yr oedd y Cyfandir yn ferw drwyddo gan ryfel ofnadwy, dyma'r wlad hon yn cael ei gosod mewn perygl o gael ei chyffroi drwyddi gan ysbryd rhyfel. Yr oedd rhyfel y Crimea wedi gorfodi Rwsia i ymostwng i delerau gyda golwg ar longau rhyfel yn y Môr Du nad oedd yn teimlo yn esmwyth danynt; nac yn eu hystyried yn deg. A phan y mae unrhyw Allu yn cael ei orfodi i wneud peth, nid yw yn debyg y pery i wneud y peth hwnnw yn hwy nag y gwel y cyfleustra i ymwingo allan o'r ymrwymiad. Pan welodd Rwsia fod gan Ffrainc ddigon o waith ar ei llaw ei hun, ac nad oedd yn bosibl iddi geisio helpu Prydain, fel yn amser rhyfel y Crimea, danfonodd rybudd at y Galluoedd oedd wedi llaw-nodi Cytundeb Paris, nad oedd am ymostwng yn hwy i'r gorthrwm. Nis gellir cyfiawnhau Rwsia yn yr achos hwn ar dir tegwch a chyfiawnder. Cytundeb ydyw cytundeb, a dylai gwledydd, fel personnau unigol, gadw ato. Ond y gwir yw, fod y Galluoedd yn fynych yn barod i dorri cytundeb heb gywilyddio dim, os bydd hynny yn fantais iddynt. Mae yn resyn dweud fod Lloegr wedi gwneud hynny lawer gwaith. Nid oedd y wlad hon yn malio nemawr, mae'n wir, am delerau Cytundeb Paris ynddynt eu hunain. Yr oedd wedi dod i weled mai yn ofer ac am ddim yr ymladdwyd brwydrau gwaedlyd y Crimea. Eto, yr oedd y dull y tynnai Rwsia allan o'i hymrwymiad yn anioddefol gan lawer yn y wlad hon. Nid gofyn am gyfnewidiad yn y telerau yr oedd, ond datgan ei phenderfyniad. Ac felly, er nad oedd y peth yn werth bywyd un dyn, er na fuasai un o'r pleidiau yn y Cytundeb yn barod i'n cynorthwyo i orfodi Rwsia i gadw ato, a bod perygl i ni ar bob llaw, er bod ein cweryl yn achos yr Alabama heb ei benderfynnu rhyngom ag America, er y rhagolygon truenus oedd fel hyn o'n blaen, a'r esiampl ofnadwy o echryslonrwydd rhyfel yn cael ei weithio allan yng ngwydd y byd ar y Cyfandir, yr oedd y Wasg, a phlaid gref yn y deyrnas hon, yn gwaeddi yn uchel am i ni fynnu gorfodi Rwsia i gadw at y Cytundeb! Gwnaeth Mr. Richard ei oreu, trwy'r Wasg, ac ar yr esgynlawr, i wrthweithio yr ysbryd rhyfelgar oedd yn ffynnu, a danghosodd mor ynfyd ydoedd. Dywedodd fod rhai o oreugwyr y wlad yn erbyn y fath ynfydrwydd, a bod yn ofidus meddwl fel yr oedd y Wasg, megys y Saturday Review a'r Pall Mall Gazette yn chwythu fflam rhyfel. Ie, yn wir, yr oedd dynion oedd yn proffesu bod yn ddyngarwyr a Christionogion, megys Arglwydd Shaftesbury ac Esgob Carlisle, o blaid rhyfel. Ond yr oedd Gweinyddiaeth Mr. Gladstone yn rhy gall i gymeryd ei harwain gan y blaid ryfelgar hon. Yr oedd wedi dysgu erbyn hyn nad oedd yr hyn yr ymladdwyd cymaint o'i blaid yn 1854—5 yn werth tywallt diferyn o waed er ei fwyn. Cafodd Rwsia ei ffordd, i fesur; oblegid cyfarfu y Galluoedd yn Llundain, a gwnaed Cytundeb ar y mater. Fel hyn, dyma un o'r pethau a ystyriem yn hanfodol yn ein cweryl â Rwsia, ac yr ymladdasom mor ffyrnig er ei gyrhaeddyd, yn cael ei ysgubo ymaith gyda'r difrawder mwyaf. Mae Mr. Richard, mewn erthygl a ysgrifennodd yn 1872,[2] yn cyfeirio at y modd yr erlidiwyd pleidwyr Heddwch am wrthwynebu y rhyfel ynfyd hwn. Pan aeth efe, meddai, i Gaerdydd, i areithio yn ei erbyn, cyhuddid ef, mewn mur-lenni, o fod yn "Gennad Rwsia," a bu am awr a hanner yn ymdrechu â rhai a ddanfonwyd i'r cyfarfod i geisio boddi swn ei lais. "Ond pwy," gofynna, "sydd yn awr yn barod i amddiffyn y rhyfel hwnnw? Mae yr holl bethau yr ymladdwyd drostynt bellach wedi eu caniatau gan y Galluoedd hynny a ddygodd y rhyfel oddiamgylch." Pa ryfedd i Mr. Richard roddi y geiriau, "Pwy oedd yn iawn?" yn benawd i'w erthygl?

Nodiadau[golygu]

  1. Y mae Mr. Richard wrth ysgrifennu ar hyn, yn galw sylw at y ffaith bwysig nad oedd, er hynny, ddim gostyngiad yu nifer y Swyddogion milwrol yn y fyddin a'r llynges, y rhai oeddent yn parhau i dderbyn symiau mawrion am wasanaeth ddychmygol. Yn wir, codai y dosbarth hwn eu llef yn uchel yu erbyn y gostyngiad.
  2. Herald of Peace. Rhag. 2, 1872.