Bywyd a Gwaith Henry Richard AS/Pennod IX
← Pennod VIII | Bywyd a Gwaith Henry Richard AS gan Eleazar Roberts |
Pennod X → |
PENNOD IX
Y ddadl Seneddol ar Ddatgysylltiad, ac ar Addysg—Y Tugel—Achos yr Alabama—Araeth Mr. Richard yn erbyn cynhygiad Mr. Cardwell ar luestai milwrol—Y cyffro a ddilynodd—Ei daith yn yr Iwerddon, a'i araeth ym Merthyr Tydfil.
(1871) Ar y nawfed o fis Mai, 1871, cafodd Mr. Richard gyfleustra i draddodi un o'i areithiau nerthol ar un arall o’i hoff bynciau. Dygodd Mr. Edward Miall ei gynhygiad o flaen y Tŷ o blaid datgysylltiad yr Eglwys oddiwrth y Wladwriaeth, a chefnogwyd ef gan Mr. Richard. Noswaith hynod oedd honno pan meiddiodd y ddau wron hyn yn achos Anghydffurfiaeth, ddadleu ar lawr Tŷ y Cyffredin am y waith gyntaf erioed o blaid datgysylltu a dadwaddoli yr Eglwys Sefydledig. Yr oedd yn gofyn gwroldeb anghyffredin; ond pwy oedd yn fwy dewr na'r hynaws Mr. Miall pan oedd egwyddor a gwirionedd mewn cwestiwn, a phwy a geid a ymladdai yn fwy di-ildio yn achos rhyddid crefyddol nag Ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch? Wrth gwrs, yr oedd yr "Aelod dros Gymru” yn seilio ei ddadl ar y modd yr oedd yr Eglwys Sefydledig wedi troi yn fethiant mor druenus yng ngwlad ei enedigaeth. Ac nid oedd modd cael gwell sail i adeiladu dadl arni. Danghosodd Mr. Richard fod esgobion Cymru wedi eu penodi yn 1563 i ofalu fod yr Ysgrythyrau i gael eu cyfieithu i'r Gymraeg erbyn 1566, ond ni wnaethant; ac am y cyfieithiad a gyhoeddwyd yn 1588, yr oeddem yn ddyledus i Dr. Morgan am dano. Ni chyhoeddodd yr Eglwys yn yr hanner can mlynedd dilynol ond un argraffiad; ond cyhoeddodd yr Anghydffurfwyr yn ystod yr amser hwnnw 30,000 o gopiau o'r Beibl cyflawn, a 40,000 o'r Testament Newydd. Am 160 mlynedd cyn 1718, ni ddarparodd yr Eglwys ond tri argraffiad o 2,600 O gopiau o'r Ysgrythyrau, a'r rhai hynny ar gyfer yr Eglwysydd; ac am 145 mlynedd ar ol deddf y Frenhines Elizabeth, ni wnaeth yr Eglwys ddim tuag at roddi Beiblau i bobl Cymru. A'r un mor ddiffrwyth fu yr Eglwys mewn ystyriaethau ereill. Yn ol Dr. Morgan, nifer yr Eglwysydd yn Esgobaeth Bangor a Llanelwy yn 1560 ydoedd 318, yn 1855 nid ydoedd y nifer ond 360, sef ychwanegiad o ddim ond 42 mewn 295 o flynyddau. 0 1715 i 1855—ysbaid o 140 o flynyddoedd—nid yn unig ni fu dim cynnydd, ond yr oedd un yn llai! Troer drachefn a chymharer yr hyn a wnaed gan yr Eglwys a chan yr Ymneillduwyr. Nifer yr eisteddleoedd yn Eglwys Loegr yng Ngogledd Cymru yn 1801, ydoedd 99,216; gan yr enwadau Ymneilltuol, 32,664. Yn yr hanner can mlynedd dilynol, cynhyddodd y boblogaeth o 352,765 i 412,114, sef tua 63 y cant. I gadw y cyfartaledd a enwyd, dylasai yr Eglwys fod wedi darparu 62,505 o eisteddleoedd newyddion; ond ni ddarparodd ond 16,614. Dylasai yr Ymneillduwyr fod wedi darparu 20,576, ond mewn gwirionedd darparodd 217,903. Hynny yw, fe syrthiodd yr Eglwys 73 y cant islaw yr hyn a ddylasai wneud, tra y darfu i'r enwadau ereill wneud 960 y cant uwchlaw eu dyledswydd. Yn y Deheudir, yn 1801, nifer yr eisteddleoedd yn yr Eglwys ydoedd 133,514; ac eiddo yr Ymneillduwyr oedd 82,443. Cynhyddodd y boblogaeth erbyn 1851, o 288,892 i 593,607, neu 105 y cant. Dylasai cynnydd eisteddleoedd yr Eglwys, yn ol y cyfryw gyfartaledd, fod yn 140,854, ond nid oedd ond 15,204. Ni ddylasai cynnydd yr Ymneillduwyr, yn ol yr un cyfartaledd, fod yn fwy na 86,975, ond yr ydoedd yn 270,516. Felly, fe syrthiodd Eglwys Loegr 89 y cant islaw, a chododd yr Ymneillduwyr 211 y cant uwchlaw y nod. Yr oedd Esgob Llandaff yn ei Gyngor diweddaf yn ymffrostio fod 39 o Eglwysydd newyddion wedi eu codi yn ei Esgobaeth er 1850, a 36 wedi eu helaethu. Ond yn yr un amser yr oedd yr Anibynwyr wedi codi 68 o gapelau, ac wedi ail- adeiladu a helaethu 46; y Bedyddwyr wedi adeiladu 67, ac ail-adeiladu a helaethu 40; y Methodistiaid Calfìnaidd wedi adeiladu 55, ac ail-adeiladu a helaethu 40. Hynny yw, yr oedd yr Anghydfíurfwyr o fewn yr Esgobaeth honno, er y flwyddyn 1850, wedi adeiladu 186 o addoldai newyddion ar gyfer 39 gan yr Eglwys; ac wedi ail-adeiladu a helaethu 127 ar gyfer 36 gan yr Eglwys. Ac nid oedd un amheuaeth nad allesid dweud pethau cyffelyb am Esgobaethau ereill.
Nid oes un amheuaeth nad oedd croniclo ffeithiau fel hyn, a'r rhai sydd eto yn werth eu gosod i lawr, er eu cadw mewn cof, yn peri mawr syndod i'r Seneddwyr—y rhai sydd bob amser mor anwybodus am sefyllfa pethau yng Nghymru—ac yn dangos tu hwnt i bob dadl, nad oedd Eglwys Sefydledig wedi bod yn llwyddiant yng Nghymru, pa fodd bynnag. A'r syndod yw, fod yn rhaid ail-nodi ffeithiau fel hyn o bryd i bryd, hyd yn oed yn awr, ac nad ydynt eto yn cael yr effaith a ddylent. Mae y ffeithiau, er hynny, yn anhyblyg, ac yn rhwym o "ddweud" yn y pen draw.
Collodd Mr. Miall ei gynhygiad trwy fwyafrif o 374 yn erbyn 89. Ymysg y lleiafrif yr oedd deg o'r aelodau Cymreig.
Yn y flwyddyn hon (1871), y dygodd Mr. Forster Fesur y Tugel[1] i mewn. Ymladdodd y Toriaid yn ffyrnig yn erbyn y Mesur, ond pasiodd Dŷ y Cyffredin. Gwrthodwyd ef gan Dŷ yr Arglwyddi; ond yn y flwyddyn ganlynol, pa fodd bynnag, ni feiddiodd yr uchelwyr hyn ei wrthod. Profodd y wlad yn fwy trech na'r arglwyddi. Traddododd Mr. Richard araeth ragorol pan oedd y Mesur o flaen Ty y Cyffredin, a chymerodd achlysur i enwi esiamplau o orthrwm y meistri tir, yn ychwanegol at y rhai a ddygasai o flaen y Tŷ ar yr achlysur blaenorol. Crybwyllodd am wyth o denantiaid yn sir Aberteifi-Rhyddfrydwyr dewr-a drowyd o'u ffermydd; ac nid oedd hynny ond rhai, allan o'r llawer, a dioddefasant mewn amryw ffyrdd, oherwydd eu hegwyddorion politicaidd.
Yr oedd Mr. Richard yn gwneud ei hun yn ddefnyddiol mewn amryw ffyrdd heblaw yn y Senedd tua'r amser hwn. Yr oeddid yn galw am ei wasanaeth ar bob math o achlysuron bron. Yr ydym yn ei gael yn niwedd 1871 yn cadeirio yng nghyfarfod ymadawol y cerddor enwog, Mr. Joseph Parry, Mus. Bac., pan ar fyned i'r America; hefyd mewn cyfarfod i longyfarch y Côr Cymreig oedd wedi cario y brif wobr yn y Palas Grisial. Yr ydym yn ei gael hefyd yn nechreu 1872 yn Gadeirydd Cynhadledd fawr o Ymneillduwyr yn y Free Trade Hall, yn Manchester, yn achos Mesur Addysg Mr. Forster, lle yr oedd tua dwy fil o ddirprwywyr o gannoedd o fannau wedi cyfarfod i wrthwynebu rhannau o'r Mesur hwnnw. Penderfynwyd yn y cyfarfod y dylai y cyfrifoldeb o gyfrannu addysg grefyddol orffwys ar ymdrechion gwirfoddol. Yr oedd y diweddar Dr. Dale a Mr. Chamberlain yn siarad yn y cyfarfod o blaid y cynhygiad. Teimlai yr Anghydffurfwyr yn gryf iawn y pryd hwnnw ar y cwestiwn, a chawsant gyflestra i'w ddwyn o flaen y Tŷ ym mis Mawrth, pan gynhygiwyd cyfres o benderfyniadau gan Mr. George Dixon yn condemnio y Mesur Addysg, am ei fod yn caniatau talu arian o'r trethi i ysgolion enwadol, ar y rhai nad oedd gan y trethdalwyr un math o lywodraeth; a bod addysg grefyddol sectol yn cael ei chyfrannu mewn ysgolion yn perthyn i'r Byrddau. Traddododd Mr. Richard araeth rymus, yn ystod y ddadl, yn dangos natur yr addysg enwadol a ddysgid gan y clerigwyr. Addawodd y Weinyddiaeth gymeryd gwrthwynebiadau yr Anghydffurfwyr i ddwys ystyriaeth, ac o ganlyniad, pasiodd y Mesur trwy fwyafrif o 355 yn erbyn 94. HENRY RICHARD, A.S. 139
(1872) Yn y flwyddyn 1872 y terfynwyd achos yr Alabama mewn modd ag oedd yn llawenydd calon i gyfeillion Heddwch. Gŵyr pawb, bellach mai llong oedd yr Alabama, a adeiladwyd yn Birkenhead gan y Mri. Laird yn amser y rhyfel rhwng De a Gogledd yr Unol Daleithiau. Adeiladwyd hi at wasanaeth y De. Danfonodd y Taleithiau Gogleddol at y wlad hon rybudd i'w hatal i fyned allan, neu ynte y delid ni yn gyfrifol am y difrod a wnai. Ond allan yr aeth, a gwnaeth ddinistr ofnadwy ar longau masnachol y Taleithìau Gogleddol. Daliodd a dinistriodd o gwbl 65 o longau. Ond dinistriwyd hithau o'r diwedd gan un o longau rhyfel y Gogledd. Yn 1862—3 cododd yr Unol Daleithiau y cwestiwn, a gofynasant am iawn am y dinistr a wnaeth yr Alabama a llongau ereill. Parodd hyn gyffro nid bychan yn y wlad hon. Gwadai Prydain ei chyfrifoldeb, a chrewyd teimladau chwerwon. Bu y peth o flaen y Tŷ, o dro i dro, am amser maith, a'r teimladau yn myned yn waeth-waeth. Heb i ni fanylu gyda golwg ar y gwahanol agweddau ar y ddadl ddyrus hon, digon yw dweud y bu Mr. Gladstone o'r diwedd yn ddigon doeth i gyflwyno y cwestiwn i gael ei benderfynnu gan Gyflafareddwyr. Cyfarfu y dirprwywyr dros y ddwy lywodraeth yn Geneva, a'r canlyniad fu, dyfarnu fod Prydain ar fai, a bod iddi dalu 3,229,166p. o iawn.
Nid heb lawer iawn o helbul yr aeth y symudiad pwysig hwn drwodd. Yr oedd cynifer o gwestiynau dyrus ynglŷn âg ef, y teimladau yn uchel yn y ddwy wlad, y Wasg weithiau yn cyffroi y teimladau yn fwy, nes oedd ar rai eisieu taflu y cwbl i fyny, a gwrthod talu dim, gwnaed yr Unol Daleithiau eu gwaethaf. Nid nes eisieu dweud fod Mr. Richard yn bur bryderus, oblegid yr oedd ar fedr dwyn y pwnc o Gyflafareddiad o flaen y Tŷ y Senedd-dymor hwnnw, ond yn petruso hyd nes y terfynid achos pwysig yr Alabama. Teimlodd efe a'i gyfeillion mai gwell oedd oedi y cwestiwn hyd nes y byddai yr achos hwnnw wedi ei lwyr benderfynnu.
Ym mis Awst y flwyddyn hon (1872), traddododd Mr. Richard araeth yn y Tŷ yn erbyn cynllun Mr. Cardwell o sefydlu tua 60 neu 70 o ganol-fanau milwrol ar hyd y wlad, ac adeiladu lluestai iddynt, y rhai oeddent i gostio tua thair miliwn a hanner o bunnau. Gwrthwynebodd Mr. Richard y cynhygiad, nid yn unig ar gyfrif y gost, ac y tueddai i'n gwneud yn genedl o filwyr, ond yn bennaf oherwydd dylanwad anfoesol milwyr ym mhob lle y byddont. Dygodd brofion diymwad o'r modd yr oedd milwyr yn llygru cymdogaethau lle yr ymsefydlent. Parodd araeth onest Mr. Richard gyfFro mawr ymysg y blaid íìlwrol, a cheisiodd rhai o honynt ei hateb, ond ni ddygasent un prawf yn erbyn fFeithiau Mr. Richard. Ymddanghosodd nifer o lythyrau yn y Times, a phapurau ereill, mewn canlyniad i'r araeth hon ; ond nid oedd un o honynt yn dymchwel y fFeithiau. Dywedai Mr. Richard mai y gwir ydoedd, fod y syniad milwrol am foesoldeb yn isel iawn. Addefai Syr Henry Storkes, swyddog yn Adran y Fyddin yn 1865, fod yn hawdd gwybod wrth edrych ar íilwyr fod lluaws o honynt yn dioddef o dan anhwylder arbennig, ac â ymlaen i ddweud,—"Fy marn i yw, na ddaw dim lles oddiwrth unrhyw foddion a ddyfeisir, hyd nes y bydd puteindra yn cael ei gydnabod fel peth o angenrheidrwydd." Ymddangosodd llythyr maith yn y Nonconformist ag oedd yn dadlennu gwir sefyllfa pethau, a chredwn y buasai yn well gan y swyddogion milwrol pe buasent wedi gadael haeriad cymhedrol Mr. Richard yn llonydd.
Ym mis Awst y flwyddyn hon,[2] cawn Mr. Richard a'i wraig yn teithio trwy'r Iwerddon er mwyn ei iechyd ef, a hefyd yn achos y Gymdeithas Heddwch. Cynhaliodd gyfarfodydd mawrion yn Dublin, Limerick, Belfast a mannau ereill. Yr oedd y cyfarfodydd yn rhai dylanwadol a brwdfrydig, a chyflwynid ef yng ngeiriau Mr. McClure, A.S., fel un "hollol adnabyddus yn Nhŷ y Cyffredin, a dadleuydd galluog a hyawdl dros bob mesur dyngarol." Ffurfiwyd pwyllgor i geisio cario allan yr amcan oedd gan Mr. Richard mewn golwg.
Ym mis Rhagfyr, talodd ymweliad â Merthyr Tydfil, pryd y traddododd anerchiad tra effeithiol ar y tugel, masnach y ddiod feddwol, addysg, ac wrth gwrs, y pwnc o Gyflafareddiad. Dywedai nad oedd y cynnwrf a godid gan y dosbarth milwrol am ein perygl, ond ymgais i gael ychwanegiad yn y fyddin a'r llynges. Ffrainc oedd y bwgan blaenorol; ond gan ei bod hi y pryd hwnnw yn gorwedd megys yn glwyfedig ar y llawr, codid cri mai ein perygl oedd oddiwrth Germani. Ie, yr oedd dynion ag oeddent heb fod yng ngwallgofdy Bedlam yn ceisio ein dychrynnu y byddai y wlad honno yn gwneud pont o gychod i groesi y mein-for i oresgyn Lloegr! Cyfeiriai at un lles oedd wedi deilliaw oddiwrth ei araeth yn y Tŷ, mewn perthynas i anfoesoldeb milwyr. Yr oedd y ddeddf hyd hynny, yn gwneud yn amhosibl tadogi plentyn anghyfreithlon ar filwr. Wedi iddo alw sylw at y peth yn ei araeth, cododd Syr John Pakington i ddweud fod y gyfraith yn un waradwyddus i'r deyrnas, ac fe'i diddymwyd mewn canlyniad.
Ar y 15 o Hydref, 1872,[3] yr ydym yn cael Mr. Richard yn bresennol ar agoriad Coleg Aberystwyth, ac yn traddodi araeth yno. Dywedai mai eu cam nesaf fyddai cael rhodd oddiwrth y llywodraeth. "Byddent," meddai, "yn foddlon pe caent bris dau o gyflegrau mawrion Armstrong."
Ond gwaith mawr Mr. Richard y tymor hwn oedd parotoi ar gyfer y cynhygiad a fwriadai ei ddwyn ger bron y Tŷ yn y mis Gorffennaf dyfodol. Mae y darn mawr hwn o waith bywyd Mr. Richard mor bwysig, ac wedi cynhyrchu y fath effeithiau yn y wlad hon ac ar y Cyfandir, fel yr ydym yn rhoi pennod gyflawn iddo.