Bywyd a Gwaith Henry Richard AS/Pennod XII
← Pennod XI | Bywyd a Gwaith Henry Richard AS gan Eleazar Roberts |
Pennod XIII → |
PENNOD XII
Datgorfforiad y Senedd–Mr. Richard yn cael ei ethol drachefn dros Ferthyr–Y Senedd-dymor Eglwysig–Cyfarfod llongyfarchiadol i Mr. Richard–Ei daith eto i'r Cyfandir–Ei lafur amrywiol a'i areithiau–Ei ymweliad a'r Hague–Ei areithiau yn y Senedd–Yn Gadeirydd yr Undeb Cynulleidfaol–Ei areithiau.
Y mae G. Barnett Smith, yn ei Fywgraffiad o Mr. Gladstone, yn rhoi dwy bennod o hanes ei Weinyddiaeth o dan y pen,—"Oes euraidd Rhyddfrydiaeth," ac y mae y Parch. Griffith Ellis, M.A., yn ei lyfr, Bywyd a Gwaith W. E. Gladstone, yn defnyddio y geiriau canlynol,—
Pa Ryddfrydwr a all edrych ar y pedair blynedd hyn, 1869, 1870, 1871 a 1872, heb deimlo mai blynyddoedd gogoneddus oeddent." Pan ddaeth Mr. Richard adref oddiar y Cyfandir canfu, er hyn oll, fod Gweinyddiaeth Mr. Gladstone yn dechreu adfeilio, ac wedi y cyfan, mai "gwaith di-ddiolch ydyw dwyn i mewn ddiwygiadau ag y llefa y wlad am danynt."
(1874) Ar y 23ain o Ionawr, 1874, ac yn hollol anisgwyliadwy, datgorfforwyd y Senedd. Tybiai Mr. Gladstone y gallasai apelio at y wlad gyda hyder, oblegid yr oedd ganddo ddiwygiadau pwysig i'w dwyn ymlaen. Ond un araf gyda diwygiadau ydyw y Sais, a chafodd y Toriaid eu hunain, ar ol yr Etholiad, gyda mwyafrif o 46. Ymddiswyddodd Mr. Gladstone, a daeth Gweinyddiaeth Mr. Disraeli i mewn. Ond yr oedd sedd Mr. Richard yn ddiogel. Ail-etholwyd ef gyda mwyafrif o 2,694; er fod pawb ag oedd yn gweithio drosto yn gwneud hynny yn ddi-dâl.
Teimlai Mr. Richard golled dirfawr ar ol rhai o'i gyfeillion a'i gyd-weithwyr yn y Senedd; ac yn enwedig ar ol ei gyfaill, Mr. E. M. Richards, yr hwn a gollodd ei sedd yn swydd Aberteifi, a Mr. Edward Miall, yr hwn a roes ei sedd i fyny o herwydd gwaeledd ei iechyd. Gomeddai Mr. Gladstone arwain Wrth-blaid, gan ei fod yn teimlo awydd am fwy o seibiant. Wedi tipyn o helbul, syrthiwyd ar Arglwydd Hartington i gymeryd ei le.
Dechreuodd y Weinyddiaeth Doriaidd ar un- waith wastraffu yr arian mawr a adewsid iddi gan Mr. Gladstone; a buan cododd y cri yn y papurau nad oedd ein llynges yn werth dim— cri ag y byddai Mr. Richard yn arfer dweud a wreiddiai bob amser ymysg y swyddogion milwrol. Ond llwyddwyd i ochel chwanegu mwy na chan mil o arian at gostau y llynges y tro hwn.
Senedd-dymor Eglwysig oedd un cyntaf y Weinyddiaeth hon. Dygwyd cynifer a deunaw o fesurau i mewn i reoleiddio materion Eglwysig. Dywedai Mr. Richard mai math o Gynhadledd Eglwysig oedd Tŷ y Cyffredin, na fu y Seneddwyr yn gwneud nemawr ddim ond dadleu ar Gredoau, Catecismau, Henaduriaethau, Cymanfaoedd, Defodau Crefyddol a materion o'r fath, ie, y Llyfr Gweddi Cyffredin; a'u bod wedi apelio at bob llyfr bron yn eu dadleuon, ond y Beibl! Un o'r mesurau a ddygwyd i Dŷ yr Arglwyddi oedd un i "buro yr Eglwys oddiwrth ddefodaeth," o dan yr enw "Rheoleiddiad Addoliad Cyhoeddus." Hawdd gwybod y modd y teimlai Mr. Richard mewn Tŷ yn gynwysedig o ddynion o bob math o gredo, a rhai heb gredo yn y byd, yn trin mater o'r fath. Traddododd araeth rymus ar y mesur, a danghosai mai yr yr unig "reoleiddiad" llwyddianus fyddai Datgysylltiad.
Ar y 25ain o Fai y flwyddyn hon, cynhaliwyd cyfarfod yn Llundain, i longyfarch Mr. Richard ar lwyddiant ei deithiau yn achos Heddwch ar y Cyfandir, o dan lywyddiaeth Mr. Mundella, yr hwn oedd wedi cefnogi ei gynhygiad ar yr 8fed o Orffennaf blaenorol. Yr oedd y cyfarfod yn gyfansoddedig o wŷr dylanwadol iawn. Dywedai y Cadeirydd, ymysg pethau ereill, fod dwy fil o weithwyr ar wastadeddau Lombardy wedi cyflwyno i Mr. Richard Anerchiad o ddiolchgarwch a llongyfarchiad; ac yr oedd yn weddus, meddai, fod y cyfryw arwydd o ddiolchgarwch yn dod o Lombardy, gan fod ei meusydd wedi eu mwydo â gwaed goreu Ewrob.
Yn y cyfarfod taflodd Mr. Richard fras olwg ar helyntion ei daith, a'r wedd obeithiol oedd ar achos Heddwch. Nid oedd mor ffol a dychmygu fod y mil blynyddoedd ar wawrio, ond credai, ar yr un pryd, fod ei Gynhygiad yn y Senedd, a'i daith ar y Cyfandir wedi gwneud rhywfaint tuag at hyrwyddo dyfodiad y blynyddoedd dedwydd hynny. Llawenychai fod cynifer o'r dosbarth gweithiol ar y Cyfandir yn bleidiol i'r symudiad. Cyfeiriai hefyd at bleidwyr Heddwch ymysg dosbarth gweithiol y wlad hon, fel peth priodol iawn. Eu gwaed a'u hesgyrn hwy oedd yn gorchuddio meusydd rhyfel; hwy a'u teuluoedd oedd yn dioddef, ond ereill oedd yn cael y tâl a'r anrhydedd. Cymerodd Mr. Richard hefyd yr achlysur i ddweud mai nid gwir oedd yr haeriad a wnaed gan rai fod ei Gynhygiad yn Nhŷ y Cyffredin wedi ei basio ar yr awr giniaw. I'r gwrthwyneb, ni chymerodd y rhaniad arno le hyd yn agos i hanner nos, pan oedd pawb, hyd yn oed yn yr amseroedd hynny o giniawa yn hwyr, wedi cael amser i fwyta eu ciniaw, ac i'w dreulio hefyd.
Yn y mis Mehefin canlynol, gwnaeth Mr. Richard ymgais egniol yn y Tŷ i ddiddymu yr adran gaeth ym Mesur Mr. Foster ar Addysg, sef y 25ain. Traddododd araeth gref, ond bu yn aflwyddiannus. Nid oedd gwaith ail Senedddymor y Weinyddiaeth hon ond rhywbeth tebyg i'r un flaenorol, ac ar ei derfyn aeth Mr. Richard, a Mrs. Richard gydag ef, ar ymweliad drachefn a'r Cyfandir, yn achos Heddwch. Ar ol bod yn Paris, aeth i bentref Aigle, yn Switzerland, lle y bu yn trefnu a darllen llythyrau Mr. Cobden gyda'r bwriad, y pryd hwnnw, o ysgrifennu ei Fywgraffiad.
Ar ol dychwelyd o'r Cyfandir, cafodd Mr. Richard, fel pob gŵr sydd wedi cyrraedd enwogrwydd, fod y galwadau arno i bob math o waith, cyfarfodydd, areithiau, darllen papurau, a gwaith ynglŷn â'r Gymdeithas Heddwch, yn ddi-ben-draw, ymron. Un o'r cyfarfodydd arbennig hynny ydoedd yr un ar agoriad Neuadd Goffadwriaethol yr Anibynwyr a'r Llyfrgell yn Farrington Street, Llundain, yn 1875.
(1875) Traddododd Mr. Richard araeth ar "Ymdrech Anghydffurfwyr diweddar am Gydraddololdeb Crefyddol." Ymhen ychydig iawn, penodwyd ef yn Gadeirydd Dirprwywyr y Tri Enwad. Cymdeithas oedd hon a ffurfiwyd mor bell yn ol a'r flwyddyn 1735, ac yn gynwysedig o Ymneillduwyr Llundain o'r tri enwad, sef Henaduriaethwyr, Anibynwyr a Bedyddwyr, gyda'r amcan o amddiffyn eu hawliau gwladwriaethol. Yr oedd dewisiad unfrydol Mr. Richard i lenwi y swydd o Lywydd, yn dangos y parch mawr oedd gan y Dirprwywyr tuag ato. Traddododd araeth agoriadol, yn yr hon y datganai ymlyniad wrth Mr. Gladstone; ond dywedai ar yr un pryd, fod yn rhaid i'r Ymneillduwyr bellach ymsythu a sefyll ar eu traed yn ddewr. Parhaodd Mr. Richard i fyned yn ffyddlon i holl gyfarfodydd a phwyllgorau y Dirprwywyr, ac enillodd barch cyffredinol, a therfynodd y llafur hwn o'i eiddo yn y flwyddyn 1887, gydag araeth rymus ar y cynnydd yr oedd rhyddid crefyddol weli ei wneud o flwyddyn gyntaf teyrnasiad Victoria hyd y flwyddyn honno, sef blwyddyn y Jiwbili.
Traddododd Mr. Richard araeth yn Nhŷ y Cyffredin yn y flwyddyn 1875 o blaid Mesur Claddu Syr G. Osborne Morgan, pryd y taflwyd y Mesur allan trwy fwyafrif o 14 yn unig (sef 248 yn erbyn 234), er mai y Toriaid oedd mewn awdurdod. Traddododd araeth alluog a chynhwysfawr hefyd ar Fesur Esgobol St. Albans.
Mor fuan ag yr oedd y Senedd-dymor hwn drosodd, aeth Mr. Richard a'i wraig i'r Hague, lle yr oedd y ddwy Gymdeithas Gyfreithiol yn cynnal eu heisteddiadau. Cyrhaeddodd yno ar yr 31ain o Awst, a chafodd fod Cymdeithas Cyfraith Rhyngwladwriaethol wedi terfynnu ei heisteddiadau, a hysbyswyd Mr. Richard fod Brenhines y Netherlands wedi dymuno cyfarfod aelodau y ddwy Gymdeithas. Gwahoddwyd Mr. Richard a'i wraig gyda hwynt. Mae Mr. Richard yn ei Ddyddlyfr, yn rhoi adroddiad o'i ymweliad, Cyflwynwyd Mr. Richard i'r Frenhines fel "awdwr y Cynhygiad nodedig ar Gyflafareddiad yn Nhŷ y Cyffredin." "Mae yn dda gennyf gael y cyfleusdra i'ch adnabod, Mr. Richard," ebe'r Frenhines, mae eich enw yn dra adnabyddus i mi, fel y mae trwy'r byd.” Ac yna aeth yn ymddiddan rhydd rhyngddynt. Dengys hyn fod y Cynhygiad crybwylledig, a'r ymraniad arno, wedi tynnu sylw neilltuol ar y Cyfandir, pa effaith bynnag a gynhyrchodd yn y wlad hon.
Fe welir fel hyn fod llafur Mr. Richard, tua'r anser hwn, yn cael ei rannu rhwng Tŷ y Cyffredin a dadleu achos rhyddid a Heddwch yno, a gwasanaethu yr un achosion gartref; rhwng areithiau ac ysgrifeniadau a myned i "orffwys" mewn llafur ar y Cyfandir yn achos Cyflafareddiad. Yr oedd Disraeli yn dechreu dadlennu tueddiadau uchelfrydig-tueddiadau “Ymherodraethol," fel y gelwir hwynt—fel y mae Gweinyddiaeth Arglwydd Salisbury yn awr. Yn ystod y ddwy flynedd y bu Arglwydd Beaconsfield mewn awdurdod, cynhyddodd y costau milwrol dros ddwy filiwn o bunnau, a phob golwg mai cynhyddu fwy-fwy a wnaent.
(1876) Yn Senedd-dymor 1876, gwnaeth Mr. Richard ei oreu i wrthweithio y cynnydd hwn. Cynhygiodd Syr Wilfrid Lawson, pan gyflwynwyd yr amcan-gyfrifon o flaen y Tŷ, welliant yn datgan nad oedd gwir angen am ychwanegiad at gostau milwrol y deyrnas, mewn araeth hapus iawn, a chefnogwyd ef gan Mr. Richard mewn araeth gyrhaeddgar. Ni phetrusodd gyhuddo y dosbarth milwrol, yn y wlad hon, ac ar y Cyfandir, o geisio dal i fyny y gyfundrefn ddrygionus o gydymgais rhwng teyrnasoedd mewn arfau milwrol, er mantais eu crefft. Collwyd y Cynhygiad, pa fodd bynnag, trwy fwyafrif o 192 yn erbyn 93. Ond parhau i weithio yn yr un cyfeiriad a wnai Mr. Richard. Ar y 15fed o Fai, 1876, cododd ei lef yn groew yn erbyn codiad yn y dreth Incwm. Danghosodd fod hyd yn oed y blaid Ryddfrydig yn rhy barod i anghofio cynhildeb, er maint oedd ei phroffes. Dywedai nad oedd dim digoni ar y ddwy adran filwrol, y fyddin a'r llynges; yr oeddent fel gelen y meirch yn gwaeddi “moes, moes,” yn ddiddiwedd, a pha faint bynnag a roddid, yr oedd fel tywallt dŵr i ogor; nid oedd dim yn aros i'w ddangos am yr oll a roddwyd i mewn. Yr oeddid yn ystod yr ugain mlynedd blaenorol wedi gwario 550 o filiynnau o bunnau ar ein harfau milwrol, ac eto dywedai ein hawdurdodau milwrol fod y wlad yn hollol ddiamddiffyn!
Ym mis Mehefin, dygodd Mr. Richard achos China ger bron y Tŷ, a'r un mis cynhygiodd benderfyniad i'r perwyl y byddai arfer gorfodaeth yn achos Addysg yn anghyfiawn, oni wneid darpariaeth i osod yr Ysgolion Cyhoeddus o dan reolaeth y wlad. Cymerodd ran arbennig yn nadleuaeth y Mesur hwn, a phan basiodd ar y 5ed o Awst, gwnaeth wrthdystiad yn ei erbyn, gan ei fod yn gosod Addysg y wlad yn nwylaw Eglwys Loegr. Danghosai fel yr oedd yr Eglwys yn defnyddio yr Ysgolion Cyhoeddus hyn i ddibenion proselytaidd. Yn wir, ni fu Mr. Richard erioed yn gyfaill calon i Addysg orfodol o gwbl, oblegid yr oedd ganddo ymlyniad tyn yn yr egwyddor o ryddid oddiwrth bob ymyriad â meddwl ar ran unrhyw lywodraeth wladol. Nid oedd yn edrych ar yr ysgolion a elwid yn Ysgolion Gwirfoddol yn deilwng o'r enw; oblegid yr oedd yr Eglwys Sefydledig, yn yr un-mlynedd-ar-bymtheg blaenorol, wedi derbyn oddiwrth y Llywodraeth dros ddeng miliwn o bunnau at eu hysgolion, tra nad oedd ei chyfraniadau gwirfoddol ond tua chwe chan mil yn y flwyddyn.
Ar derfyn y Senedd-dymor, yr hwn a fu yn un blin a llafurus iawn i Mr. Richard, aeth ef a'i wraig ar y Cyfandir, er mwyn bod yn bresennol yn y Gynhadledd a gynhaliwyd ym mis Medi yn Bremen, ar y cwestiwn o Gyfraith Ryngwladwriaethol. Cyfarfu yno â lluaws o gynrychiolwyr o Germani, Ffrainc, Awstria, Denmarc, Norway a Sweden. Traddododd araeth faith yn y Gynhadledd ar yr egwyddorion a ddylent lywodraethu gwledydd Cristionogol yn eu hymwneud â gwledydd barbaraidd neu anghristionogol, a siaradodd ar faterion ereill, a derbynid ei sylwadau bob amser gyda'r parch mwyaf.
Yng ngwanwyn y flwyddyn hon, dewiswyd Mr. Richard yn Gadeirydd yr Undeb Cynulleidfaol am y flwyddyn ganlynol; y tro cyntaf y gosodwyd y fath anrhydedd ar un oedd erbyn hyn yn ei ystyried ei hun yn lleygwr. Pan yn traddodi ei araeth agoriadol y flwyddyn ganlynol, cyraerodd yn destun "Perthynas y gallu tymhorol ac ysbrydol mewn gwahanol wledydd." Nid oedd pawb yn y fath gynhulliad dysgedig, fel y gallesid disgwyl, yn cydsynio ym mhob peth â'r hyn a ddywedai, a cheisiodd Dr. Dale o Birmingham, ddwyn y "Cwestiwn Dwyreiniol i mewn," er mwyn dangos cydymdeimlad â'r cwrs a gynghorai Mr. Gladstone, er arfer gorfodaeth ar Twrci, at yr hyn y cawn alw sylw eto. Siaradodd Dr. Allon, Dr. Raleigh, y Parch. J. G. Rogers, y Parch. Newman Hall a Dr. White o blaid Cynhygion Mr. Gladstone yn Nhŷ y Cyffredin.[1] Yr oedd y siaradwyr yn awyddus i orfodi Twrci i gario allan orchymyn y Galluoedd Ewropeaidd. Teimlai Mr. Richard fod "gorfodi" yn golygu, yn y pen draw, myned i ryfel, ac nid oedd efe, fel "Apostol Heddwch," yn bleidiol i hynny; a theimlai ei sefyllfa fel Cadeirydd yn un gaeth, gan fod ei gydymdeimlad mor fawr o blaid y gorthrymedig ar y naill law, a'i atgasrwydd at ryfel yr un mor fawr ar y llaw arall. Gyda'i ddeheurwydd a'i benderfyniad arferol, cefnogodd benderfyniad Dr. Dale, yr hwn oedd yn datgan gwerthfawrogiad o lafur Mr. Gladstone o blaid rhyddid, ac yn llawenhau oherwydd ei waith yn gomedd rhoddi unrhyw gefnogaeth foesol na materol ar ran Lloegr i Twrci.
(1877) Ar achlysur arall, Hydref 18, 1877, pan yn Gadeirydd yr Undeb, traddododd araeth ar "Gymhwysiad Cristionogaeth at Boliticiaeth." Ar derfyn y flwyddyn, pasiwyd penderfyniad gwresog a chryf o ddiolchgarwch i Mr. Richard, a dymuniad ar iddo gael hir oes ac iechyd i gyflawni gwasanaeth yn Nadleuon Eglwysyddol y dydd. Dywedodd Dr. Allon, cynhygydd y penderfyniad, ei fod yn y mis Mai blaenorol yn methu yn hollol a chytuno â Mr. Richard gyda golwg ar gwestiwn y rhyfel; ond yr oedd, er hynny, wedi gosod egwyddorion mawrion i lawr, ac yr oedd yn ddiau, yn ddyledswydd arnynt oll, fel gweinidogion yr Efengyl, wneud a allent yn erbyn rhyfel. Wrth ddiolch iddynt, dywedai Mr. Richard, hwyrach y byddai yn dda ganddynt glywed fod ei araeth ym mis Mai wedi peri cyffro mewn amryw barthau o Ewrob. Cyhoeddwyd hi yn Paris, yn y Revue Politique, a chyfieithwyd hi i'r iaith Isellmynaeg ac ieithoedd ereill, a hyderai y byddai yr hâd a hauwyd yn dwyn ffrwyth. Yr oedd yn ddrwg ganddo fod Gweinidogion yr Efengyl yn pregethu mor anfynych ar Heddwch, ac erfyniai arnynt gymeryd y cwestiwn i fyny, ac i bregethu o leiaf un bregeth yn y flwyddyn ar y mater pwysig hwn.
Cwynai Mr. Richard ar achlysuron ereill oherwydd hyn. Ac nid heb achos. Pa nifer o ryfeloedd Prydain a wrthwynebwyd gan y fainc esgobol? Ni chafwyd ond dau esgob i wrthwynebu y rhyfel anghyfiawn yn erbyn yr America gynt! Mor lleied o weinidogion yr efengyl a godasant eu llef yn erbyn rhyfel diangenrhaid y Crimea, a'r un modd gyda'r rhyfel presennol yn Affrica. Gwyddom mai nid y pulpud ydyw y lle i drin materion politicaidd, ond credwn y dylid ei ddefnyddio i gondemnio ysbryd rhyfelgar, dialgar, a chreulon y bobl pan y cymer feddiant o honynt. Yr oedd y proffwydi yn ddigon eofn i godi eu llef yn erbyn pechodau llywodraethwyr y tir. Pan y mae Arglwydd Wolseley, er engraifft, yn ei Soldiers Pocket Book yn gwawdio gonestrwydd a geirwiredd, tybed na ddylai fod gan y pulpud air i'w ddweud ar y mater?
Nodiadau
[golygu]- ↑ Am natur y Cynhygion hyn, gweler William Ewart Gladstone: Ei Fywyd a'i Waith, gan y Parch. Griffith Ellis, 21.4., tudal. 300.