Bywyd a Gwaith Henry Richard AS/Pennod XVI

Oddi ar Wicidestun
Pennod XV Bywyd a Gwaith Henry Richard AS

gan Eleazar Roberts

Pennod XVII


PENNOD XVI

Yr helynt yn yr Aifft—Areithiau Mr. Richard yn y Senedd ar y cwestiwn—Ymddistwyddiad Mr. Bright—Ei araeth yn erbyn blwydd-dal Arglwydd Wolseley a'r Llyngesydd Seymour—Y rhyfel yn y Soudan—Araeth Mr. Richard arno—Yr ymgais i Waredu Gordon.


(1882) Yn y flwyddyn hon y cododd y cyffro yn yr Aifft, yr hwn a dynnodd sylw cyffredinol ar y pryd, ac a barodd y fath ganlyniadau alaethus ar ol hynny; a'r rhai, yn wir, sydd yn aros hyd y dydd hwn. Gwelodd Mr. Richard fod y cwmwl yn ymgrynhoi, a pharai bryder mawr iddo. Cododd yr helynt trwy fod pobl arianog yn Ffrainc a'r wlad hon wedi rhoddi benthyg arian ar log uchel i Ismael Pasha, yr hwn oedd yn talu treth flynyddol i Twrci, ac yn dal y teitl Khedive. Trwy ei fod yn wastraffus, suddodd i ddyled drom; methai dalu y llogau i'r gwŷr yr oedd yn eu dyled, a bu raid iddo werthu ei gyfrannau yng Nghamlas Suez am bedair miliwn o bunnau, y rhai a brynwyd gan y wlad hon o dan weinyddiaeth Arglwydd Beaconsfield. Ond gwaeth yr oedd pethau yn myned trwy'r cwbl, a danfonwyd un Mr. Cave, o'r wlad hon, i edrych i mewn i sefyllfa arianol y Khedive. Credai Mr. Cave nad oedd modd gwneud dim heb i ni gymeryd arnom gyfrifoldeb arianol pwysig; ac ym mis Mai, 1876, cyhoeddodd Ismael nas gallai dalu y llogau. Gallesid meddwl, ar ryw gyfrif, mai gwell fuasai gadael rhwng y gwŷr arianog a roddasant fenthyg eu harian ar logau mor fawr rhwng 12 a 263 y cant—a'u helynt. Ond yr oedd eu dylanwad yn rhy fawr, yn y ddwy wlad, i gael ei ddibrisio. Danfonwyd Mr. Rivers Wilson gan y wlad hon, ac wedi hynny Mr. Goschen, a M. Joubert ar ran Ffrainc, i gynrychioli y gwŷr arianog oeddent yn dal ysgrif-rwymau, sef y bond-holders. Y mae Mr. Richard, yn ei araeth yn y Senedd, yn 1882, yn galw sylw arbennig at y ffaith, pan benodwyd Mr. Rivers Wilson yn aelod o Gyfrin-Gyngor yr Aifft, fod Llywodraeth Prydain yn ymwrthod â phob cyfrifoldeb yn yr achos. Ni wnaeth ond rhoddi benthyg gwasanaeth Mr. Rivers Wilson, megys am ddwy flynedd, i geisio gwastad hau eu cyfrifon a diogelu taliad y llogau os gellid. Gwnaed ef yn Weinidog y Cyllid. Ar hyn, mynnodd Ffrainc gael cynrychiolydd hefyd ar y Cyfrin-Gyngor, a phenodwyd M. de Bligniers. Cododd anesmwythder ymysg y bobl, a diswyddodd y Khedive y ddau. Yna, newidiodd Arglwydd Salisbury sefyllfa pethau, a mynnodd ail osod Mr. Rivers Wilson yn ei swydd. Gomeddodd y Khedive gydsynio, a diorseddwyd ef, a phenodwyd Khedive arall gan Twrci, ar gais y ddwy Lywodraeth, sef ei nai—y Tywysog Tewfik. Yr oedd yn rhaid i hwnnw wneud yr hyn a orchymynnid iddo gan y ddau Allu. Dyma'r rheolaeth ddyblyg, y dual control y sonnid cymaint am dani ar y pryd. Parhaodd pethau yn dawel am ddwy flynedd, ac yr oedd presenoldeb y ddau reolwr hyn yn cael edrych arno fel sicrwydd y perchid y gyfraith. Ond siomwyd y disgwyliad. Ymddengys nad oedd y bobl yn hoffi ymyriad y tramoriaid hyn. Yn Chwefrol, 1881, torrodd gwrthryfel allan yn Cairo, o dan arweiniad Arabi, swyddog yn y fyddin Aifftaidd, a lledodd dros y wlad. Cododd y cri, "Yr Aifft i'r Aifftiaid, a dim ymyriad gan Alluoedd Tramor." Penderfynnodd Ffrainc a Lloegr ddal i fyny awdurdod y Khedive, ac ar yr esgus o amddiffyn bywyd ac eiddo Alexandria, danfonwyd yno ddwy o longau rhyfel; ond, ar gais Germani, meddir, gwrthododd Ffrainc fyned ymlaen. Yr oedd Mr. Richard yn teimlo yn bur ofidus oherwydd y cam hwn o eiddo y Weinyddiaeth, gan fod ei barch i Mr. Gladstone, y Prif Weinidog, yn fawr. Ac yr oedd yn teimlo hefyd oherwydd fod ei gyfaill, Mr. Bright, yn aelod o'r Weinyddiaeth. Pa fodd bynnag, pan benderfynnodd y Llywodraeth wneud ymosodiad ar Alexandria, rhoes Mr. Bright ei swydd i fyny. Yr oedd presenoldeb y llynges yn hytrach yn gwneud perygl yr Ewropeaid yn Alexandria yn fwy. Ar y 17eg o fis Mehefin, torrodd terfysg allan, llusgwyd Consul Cyffredinol Lloegr o'i gerbyd, a lladdwyd lluaws o Saeson ac o Ffrancod. Tân-belenwyd Alexandria ar yr 11eg o fis Gorffennaf gan lynges Prydain. Yr oedd llynges Ffrainc, fel y dywedwyd, wedi tynnu yn ol. Parhaodd yr ymosodiad am ddau ddiwrnod. Gadawodd Arabi yr amddiffynfeydd caerog, gan adael Alexandria yn nwylaw y bobl. Torrodd pob math o aflywodraeth allan, taflwyd drysau y carcharau yn agored, gosodwyd rhannau o'r ddinas ar dân, ac am ddeuddydd nid oedd dim ond difrod a dinistr yn cymeryd lle. Lladdwyd tua 2,000 o Ewropeaid.

Yr oedd ychydig o wýr dewr, fel Mr. Richard ac ereill, yn codi eu llef yn uchel yn erbyn y galanastra hwn. Ar yr 22ain o Awst, glaniodd Arglwydd Wolseley a chadfridogion ereill yn Port Said, gyda 40,000 o wŷr, ac ymladdwyd brwydrau Tel-el-Mahuta, Kassassin, a Tel-el. Kebir. Gorchfygwyd Arabi, a dihangodd i Cairo; ac, yn y diwedd, rhoes i fyny i'r Galluoedd Prydeinig.

Yr oedd Mr. Richard wedi cyhoeddi, rhai wythnosau cyn toriad y rhyfel allan, wrthdystiad yn erbyn gwario arian a thywallt gwaed pobl y wlad hon i sicrhau llogau ir bond-holders. Ceisiodd gan y Llywodraeth hefyd addaw peidio arfer gallu milwrol cyn rhoddi cyfleustra i'r Tŷ ddatgan ei farn, ond gomeddodd y Prif Weinidog rwymo ei hun. Pan ddaeth y newydd fod Alexandria wedi ei than-belennu, gofynnodd Mr. Richard ai nid oedd dealltwriaeth ymysg y Galluoedd oeddent yn cael eu cynrychioli yn y Gynhadledd yng Nghaercystenyn, na chymerid dim cam gan un Gallu tra yr oedd yr ymdrafodaethau yn myned ymlaen; ac ai nid oedd tan-beleniad Alexandria yn drosedd o'r ddealltwriaeth honno? Addefai Mr. Gladstone fod y cyfryw ddealltwriaeth yn bod, ond yn ddarostyngedig i eithriadau, a bod y tan-beleniad i gael edrych arno fel un o'r eithriadau hynny.

Yn ei araeth yn y Senedd ar y cwestiwn, datganai Mr. Richard ei ofid fod gwŷr fel Mr. Gladstone ac Arglwydd Granville wedi ein harwain i'r trybini hwn.

"Nid wyf," meddai, "wedi arfer defnyddio geiria, gweniaeth tuag at y boneddwr anrhydeddus sydd yn ben ar y Weinyddiaeth. Ni fuaswn yn ystyried fy hun yn ddigon pwysig i wneud hynny; ond yn awr, gan fy mod yn gwahaniaethu oddiwrtho, fe ganiateir i mi ddweud nad wyf yn ildio i neb yn fy edmygedd dirfawr o'i alluoedd dihafal, ac yn fy mharch dwfn i'w gymeriad. Y mae enwogrwydd a chymeriad gwŷr fel efe yn ffurfio rhan o etifeddiaeth gyffredin y blaid Ryddfrydig, ac, yn wir, y genedl yn gyffredinol, ac nid yr ofn lleiaf sydd yn fy meddiannu, yn awr, yw y bydd i'r digwyddiadau anffodus sydd wedi cymeryd lle daflu cysgod ar ddiwedd gyrfa mor enwog a disglaer. (Cym.) Nis gallaf bleidleisio dros yr arian yma; nid yw i mi ond gwerth gwaed, a chan nas gallaf, ond trwy bleidleisio yn erbyn, roi ar gof a chadw fy nghwrthdystiad yn erbyn y gweithredoedd hyn, rhai yr wyf yn gydwybodol yn credu sydd mor anoeth ag ydynt o ddrygionus, a'r rhai sydd yn agor o'n blaen ddyfodol llawn o bosibilrwydd bygythiol a pheryglus, yr wyf yn penderfynnu pleidleisio yn erbyn y cynhygiad pe byddai raid i ni gerdded i'r lobby fy hunan." (Cym.)

Y cynhygiad a wrthwynebai Mr. Richard gyda'r fath wroldeb oedd, fod y swm o 3,300,000p. i gael ei ganiatau i'w Mawrhydi i gryfhau ei galluoedd milwrol ym Môr y Canoldir, yn ychwanegol at y costau arferol.

Ond nid gwrthwynebu Mr. Gladstone oedd unig ofid Mr. Richard ar yr achlysur hwn. Gofidiai fod cynnifer o gyfeillion Heddwch wedi troi eu cefnau yn nydd y frwydr. Pe buasent wedi dilyn yr un cwrs ag y darfu ef ac ychydig ereill, mae lle i gredu y buasai y rhyfel hwnnw wedi ei osgoi, ac na fuasai yr holl helynt a ddilynodd, hyd ryfel y Soudan, wedi cymeryd lle. Pan roes Mr. Bright ei swydd i fyny, yr oedd yntau yn teimlo yn drist oherwydd gwahaniaethu oddiwrth ei gyfaill, Mr. Gladstone. Pan yn esponio, yn y Senedd, ei waith yn ymddiswyddo, dywedai,—

"Chwi ellwch ofyn paham na fuaswn yn gwneud hyn yn gynt. Y gwirionedd syml ydyw fy mharch dwfn i'm cyfaill gwir anrhydeddus, y Prif Weinidog, ac i'r rhai sydd yn eistedd gydag ef, a barodd i mi oedi hyd y funud olaf. ... Yr oeddwn yn anghytuno ar bwnc o egwyddor, a phe buaswn yn dal fy swydd, buasai raid i mi ymostwng yn ddistaw i gario allan fesurau yr oeddwn i fy hun yn eu condemnio yn hollol, neu buasai raid i mi fod mewn cweryl parhaus & fy nghyd-swyddogion. Gŵyr y Tŷ fy mod am 40 mlynedd wedi ceisio dysgu fy nghydwladwyr yn y syniad fod y ddeddf foesol yn rhwymedig ar genhedloedd fel ar bersonau. Yn yr achos hwn yr ydwyf yn credu fod y gyfraith foesol wedi ei throseddu, ac o ganlyniad nis gallwn i gydsynio. ... Nis gallaf wadu yr hyn y bum yn ei bregethu a'i ddysgu drwy fy holl oes boliticaidd. Gofynnais i'm barn bwyllog, ac i fy nghydwybod, pa gwrs y dylasyn ei gymeryd. Yr wyf yn meddwl eu bod wedi ei bwyntio allan i mi â bys di-gamgymeriad, ac yr wyf yn ceisio ei ddilyn."

Y mae yn deg hysbysu yma, hefyd, y dywed yr Herald of Peace (Ebrill, 1889, t.d. 205), fod Mr. Bright wedi cyfaddef wrth Mr. Richard fod ei araeth ef ar dan-beleniad Alexandria wedi prysuro ei ymddiswyddiad.[1]

Yr oedd llawer yn edrych ar wrthwynebiad Mr. Richard i'r hyn a wnaed yn yr Aifft yn ddim amgen na chanlyniad naturiol ei syniadau am ryfel yn gyffredinol. I wrthweithio hynny, dywedai ar ddechreu ei araeth yn y Senedd, nad felly yr ydoedd. Nid oedd efe erioed, meddai, wedi gwthio y syniadau hynny ar y Tŷ, oblegid yr oedd yn argyhoeddiadol mai nid diogel fyddai apelio at egwyddorion pur Cristionogaeth yn y fath le.

"Gallwn," meddai, "fod yn Gristionogion aiddgar, ie, gwaedwyllt, bron, yn y Tŷ hwn ar brydiau, yn enwedig pan y bydd yn dwyn perthynas â chydnabyddiaeth allanol a defodol o Gristionogaeth. Ond ni fyddai neb yn ddiogel rhag cael ei wawdio yma ped anturiai ddwyn ein gwladweiniaeth genedlaethol, ac yn neilltuol ein gwladweiniaeth dramor, i gael ei phrofi wrth safon egwyddorion moesoldeb pur Cristionogaeth." Gwers lem i Senedd Prydain, rhaid addef; ond ofnwn mai nid heb ei haeddu, nid yn unig yn y dyddiau hynny, ond yn arbennig yn y dyddiau hyn.

Edrychai Mr. Richard ar wrthryfel Arabi, nid fel yr edrychai Llywodraeth Mr. Gladstone arni, sef fel gwrthryfel milwrol, ond fel gwrthdystiad yr Aifftiaid yn erbyn ymyriad tramor â'u hachosion hwy. Ysgrifennodd erthyglau galluog ar y cwestiwn, seiliedig ar dystiolaethau eglur papurau swyddogol oedd yn cadarnhau ei olygiadau ef ar y gwrthryfel.

(1883) Cafodd Mr. Richard gyfleustra ar y 13eg o Ebrill, 1883, i ddweud ei farn ar un wedd ar Ryfel nad yw yn aml yn cael ei ddwyn i'r amlwg, a danghosodd wroldeb yn siarad mor gryf ag y gwnaeth arno o dan y fath amgylchiadau. Ar y dydd crybwylledig, cynhygiwyd yn y Tŷ fod y Llyngesydd Seymour, ac Arglwydd Wolseley, a'u holynwyr am ddwy genhedlaeth, i gael blwydd-dâl o 2,000p. Gwrth wynebwyd y cynhygiad gan Syr J. W. Pease, Dr. Illingworth, a Syr Wilfred Lawson. Traddododd Mr. Richard araeth gref ar yr achlysur. Nid oedd yn gwrthwynebu y cynhygiad ar y tir ei fod yn anghymeradwyo y rhyfel, oblegid nid oedd y ddau filwr a nodwyd yn gyfrifol am gyfiawnder y rhyfel; na, eu gwaith hwy oedd ymladd yn unig. Yng ngeiriau Syr Charles Napier unwaith, y "gyfraith a'r proffwydi, crefydd a moesoldeb," i'r milwr ydoedd y Llyfr Rheolau. Ond yr oedd yn bryd gofyn paham y telir y fath anrhydedd i'r dosbarth hwn o ddynion. Ai am ragoroldeb eu gwaith—y gwaith o ladd a dinistrio? Ai dyma'r gwaith oedd i gael ei gydnabod mewn modd mor arbennig gan wlad Gristionogol? Ai yn unig am eu bod wedi gwneud eu dyledswydd? Ai am fod eu gwaith yn un peryglus? Beth am y miloedd mwnwyr oedd yn peryglu eu bywyd bob dydd er ein mwyn? Nid oedd y dynion dewr hyn byth yn cael tlysau. Ai am fod y milwyr yn ychwanegu at ogoniant y wlad? Yn ol ei farn ef, yr oedd gwaith llawer o honynt yn ystod y deng mlynedd ar hugain blaenorol, yn lle bod yn ogoniant, wedi dwyn gwaradwydd arnom. Aeth Mr. Richard ymlaen i enwi rhes o engreifftiau, ac yn eu mysg, tan-beleniad Alexandria. Na; nid oedd efe yn chwennych y fath ogoniant i'w wlad, ac am hynny nid oedd am wobrwyo y rhai a gyflawnent y fath weithredoedd. Trueni mwyaf Ewrob oedd yr ysbryd milwrol. Yr oedd ynddi ddeuddeg miliwn o ddynion yn dwyn arfau. Creadur oedd dyn, yng ngolwg ein swyddogion milwrol, i gael ei ddysgu i ladd ei gyd-ddyn. Yr oedd yn llawn bryd i ddos barthiadau ereill godi i wrthdystio yn erbyn y gorfoli ar y dosbarth hwn Llywodraethau Ewrob oedd yn dysgu y bobl i ddibynnu ar allu anifeilaidd; ac eto, yr oeddent yn ofni iddo gael ei ddefnyddio pan godai y bobl hynny i hawlio eu hiawnderau. Nid oedd efe yn credu fod y gallu milwrol yn feddyginiaeth rhag unrhyw anghyfiawnder; ond nid oedd yn rhyfedd fod y bobl weithiau yn troi i'w ddefnyddio, gan fod eu llywiawdwyr yn eu dysgu felly. Cafodd Mr. Richard 85 allan o 217 i'w bleidio ar yr achlysur hwn. Nid am boblogrwydd yr oedd efe yn gweithio, ond i amddiffyn gwirionedd.

Nid anyddorol ydyw'r ffaith fod Mr. Richard, y flwyddyn hon, wedi ysgrifennu llythyr i'r Tyst a'r Dydd, am ei fod yn credu fod y papur hwnnw yn gwyro oddiwrth y gwirionedd, trwy droi i geryddu Syr Wilfrid Lawson, a'i gyffelyb, am wrthwynebu rhyfel yr Aifft, a'r rhan a gymerodd Mr. Gladstone yn y rhyfel hwnnw. Mae y llythyr hwn yn werth cyfeirio ato hefyd, oherwydd y perygl yr oedd Mr. Richard yn ei ragweled a ddeilliai o'r rhyfel yn yr Aifft yn y dyfodol. Dywed ein bod wedi myned i'r Aifft, ond pa bryd y deuem oddiyno, nid oedd neb a wyddai. Yr oedd mor anhawdd i ni ddod allan o wlad Aifft ag yr oedd i blant Israel gynt, ac ofnai na ddeuem allan heb fyned trwy Fôr Coch o waed dynol. Hwyrach mai parch i Mr. Gladstone oedd yn cyffroi y Golygydd, ond dywedai Mr. Richard,—

"Yr wyf yn tystio fy mod yn parchu ac yn hoffi Mr. Gladstone gymaint ag un dyn yn y deyrnas; ond y mae un teimlad wedi gwreiddio yn fwy dwfn yn fy meddwl, a hwnnw ydyw ofn y Duw hwnnw sydd yn cashau anghyfiawnder a gormes.”

Ni fuwyd yn hir cyn gorfod gwynebu y "Môr Coch o waed" y cyfeiriodd Mr. Richard ato. Cododd gwrthryfel yn y Soudan, ac ym mis Medi danfonwyd Hicks Pasha, Swyddog Indiaidd yng ngwasanaeth y Khedive, i'w ddarostwng, gyda byddin o 11,000 o filwyr yr Aifft; ond ar ol dioddef caledi dirfawr, o dan wres haul y Cyhydedd, gorchfygwyd a dinistriwyd hwynt gan luoedd y Mahdi, y gau broffwyd. Wedi hynny, llethwyd Baker Pasha gyda'i fyddin o 3,500 gan filwyr Osman Digna. Fel arferol, gwaeddai y wlad am fynnu dial y colledion hyn, a danfonwyd cadgyrch o dan y Cadfridog Graham, ac ymladdwyd brwydrau yn El Teb, Tamai, a Tanianieb, a lladdwyd tua 5,000 o'r Soudaniaid.

Cododd Mr. Richard ei lef yn erbyn y rhyfelgyrch hwn. Nid oedd yn gweled mai dyledswydd Prydain oedd dial gorchfygiad un fel Hicks Pasha, oedd yn unig wedi gwerthu ei hun i ymladd brwydrau yr Aifft, yn enwedig gan nad oedd wedi myned allan ar gais, nac yn wir, gyda chymeradwyaeth Prydain. Dywedai mewn erthygl a ysgrifennodd yn Ionawr, 1884, y gwyddai pob un meddylgar o'r dechreu fod y Soudan mewn gwrthryfel yn erbyn yr Aifft, ac y byddai ein hymyriad yn dwyn arnom drybini. Yr wyf yn dychryn," meddai, "wrth feddwl am y pethau ofnadwy a all fod yn ein haros mewn cysylltiad âg achos Soudan. Da y dywedodd y gŵr doeth, Pen y gynen sydd megis ped agorid argae.' Yr ydym wedi agor llif.ddor yn yr Aifft, a phwy a all atal y llifeiriant?"

Cymerodd Mr. Richard ran yn y ddadl yn y Senedd hefyd yn erbyn yr ymgyrch hwn yn y Soudan, ac areithiodd yn Darlington, Lerpwl, a mannau ereill ar y pwnc. Mae ein darllenwyr, yn ddiau, yn gwybod y modd y terfynodd yr helynt. Cymerwyd Khartoum gan y Mahdi, a chollodd Gordon ei fywyd. Credwn y buasai yn dda iawn gan Mr. Gladstone pe gallasai dynnu yn ol allan o'r helynt yr oedd yr ymyraeth yn yr Aifft wedi ei arwain iddo. Ni ddanfonodd ryfelgyrch i geisio gwaredu Gordon, hyd nes y cododd y wlad ei llais yn rhy uchel i allu peidio rhoddi gwrandawiad. Danfonwyd rhyfelgyrch allan, o'r diwedd, ond yn rhy hwyr i waredu Gordon, a thynodd hyn lawer o anfri ar Weinyddiaeth Mr. Gladstone ar y pryd.

Yr oedd Mr. Richard yn erbyn danfon allan yr ymgyrch hwn, ac yn tybied fod anhueddrwydd Mr. Gladstone ar y dechreu i wneud hynny yn beth canmoladwy. Beiai llawer o gyfeillion Mr. Richard ef am y rhan a gymerodd yn yr achos hwn; ond nis gallesid disgwyl dim yn amgen oddiwrth un oedd mor ffyddlon bob amser i egwyddorion Heddwch. Heblaw hynny, yr oedd wedi gwrthwynebu pob ymyriad o'r dechreu, a hynny nid oddiar safle manylaf Cymdeithas Heddwch, ond oddiar safle cyfiawnder a moesoldeb, a'r hen athrawiaeth Ryddfrydig o anymyriad diangenrhaid â helyntion gwledydd tramor.

(1885) Traddododd Mr. Richard araeth alluog yn y Senedd ym mis Chwefrol, 1885, ar yr achos hwn, ar achlysur cynhygiad a wnaed gan Arglwydd Iddesleigh. Wrth ddarllen yr araeth finiog ac effeithiol hon, yr ydym yn canfod yn eglur fod Mr. Richard wedi ennill nerth a gwroldeb mawr fel dadleuydd Seneddol. Dadleuai fod pawb a gymerodd ran yn yr ymyriad hwn yn helyntion yr Aifft, yn gyfrifol am yr helbul yr oedd y wlad ynddo. Yr oedd y Prif Weinidog wedi dweud fod y cam cyntaf a gymerwyd yn yr achos wedi arwain yn anocheladwy i'r camrau dilynol. Llawenychai Mr. Richard, gan hynny, fod ei ddwylaw ef yn lân, gan ei fod wedi codi ei lef o'r dechreu yn erbyn pob cam a gymerwyd. Beiai y Toriaid, yn bennaf, am eu bod wedi ymyrryd mor ddiachos ar y cychwyn, ac am eu bod y pryd hwnnw eto yn gwneud a allent i hyrddio y Weinyddiaeth ymlaen ym mhellach. Gwnaeth ymosodiad trwm iawn arnynt am hyn. Ond nid oedd, meddai, am arbed y Weinyddiaeth bresennol. Cyflawnodd hithau bechodau lawer. Dylasai y Cyfrin Gynghor ymwrthod â gwladlywiad eu rhagflaenwyr yn yr Aifft, fel y gwnaethant yn Afghanistan, yn y Transvaal, ac yn Zululand. Ni ddylasent ddanfon llynges i ddyfroedd yr Aifft, nid oedd ond taflu yr awenau o'u dwylaw i ddwylaw milwyr; ni ddylasent ymyrryd yn achos y Soudan, ac yn wir, yr oeddent wedi penderfynnu ar y dechreu i beidio. Dywedasai y Prif Weinidog nad oedd un achos cyfreithlon gennym dros ymyrryd. Ymostyngasant i gri annoeth y lluaws. Cenhadwri heddychol oedd un Gordon i fod ar y dechreu, ond troes allan fel arall. Gofynnai pa hawl oedd gennym ni i ymladd yn erbyn y Soudaniaid? Yr oeddent, fel yr addefai Arglwydd Hartington, wedi codi yn erbyn un o'r llywodraethau mwyaf creulon a fu erioed. Dywedasai Syr William Baker y buasai efe ei hun, pe yn y Soudan, yn codi yn erbyn y Llywodraeth.

Dyna oedd tystiolaeth Gordon, yntau hefyd. Os felly, pa hawl oedd gennym i fyned yno i'w lladd am ymgais am eu hiawnderau? Pam na fuasem yn ceisio dod i fath o ymdrafodaeth â'r Mahdi i gael ganddo roddi yr amddiffynfeydd i fyny? Yr oedd tri o honynt wedi eu rhoi i fyny. Ni wnaed un ymgais i ddod i delerau. Yr oedd yn rhaid cael ymostyngiad diamodol. Beth oedd y cyfarwyddiadau a roed i Arglwydd Wolseley? Dod a Gordon a Stewart o Khartoum, a dim mwy na hynny. Pleidleisiodd Mr. Richard o blaid gwelliant Mr. Morley, sef bod y milwyr i gael eu dwyn adref o'r Soudan mor fuan ag oedd modd.

Dywedodd Mr. Balfour unwaith, os cymerai Prydain un cam ymlaen, na fyddai byth yn tynnu ei throed yn ol. Ai doeth hyn bob amser sydd gwestiwn. Cymerodd gam yn yr Aifft, ac y mae, nid yn unig heb dynnu yn ol, ond wedi cymeryd camrau lawer ymlaen, o fodd neu anfodd, ac y mae lle i ofni, y byddant yn rhai pwysig, os nad peryglus iawn. Fel y dywed Mr. Justin McCarthy yn ei gyfrol olaf ar Hanes ein Hamseroedd,—"Pe buasent wedi ymgynghori â phobl ddeallgar Prydain, ni fuasid byth yn tanbelennu Alexandria, ac ni fuasid wedi ymladd âg Arabi Pasha, a'i ddanfon i alltudiaeth; ond, with gwrs, nid oedd pobl Lloegr yn gwybod ar y dechreu beth oedd yn myned ymlaen. Mae ein Gwladweiniaeth Dramor yn hollol yn nwylaw ein llywodraethwyr, fel y mae yn nwylaw Unbenaethiaid y Cyfandir." Yr oedd Mr. Richard yn teimlo hyn, a dygodd y cwestiwn o flaen Tŷ y Cyffredin mewn un ffurf arbennig arno, fel y gwelir ar t.d. 253. Gwyddom fel y mae Prydain wedi myned ymlaen, nes cymeryd meddiant o'r Soudan trwy dywallt gwaed miloedd o'r trigolion anwar hyn. A ydyw yr ennill yn cyfiawnhau y traha ofnadwy sydd gwestiwn ag y mae llawer, fel John Morley, yn methu ei weled. A dilys yw y buasai Mr. Richard wedi codi ei lef yn uchel yn y mater hwn, pe buasai byw.

Nodiadau[golygu]

  1. Dywed Mr. William Jones, yn ei Quaker Campaigns in Peace and War, i John Bright ddweud wrtho ar ol hyrny,—"Gwelais Arglwydd Granrille y prynhawn cyn y tan-beleniad, a sicrhaodd i mi fod popeth yn myned ymlaen yn iawn yn yr Aifft. Drannoeth daeth y newydd am ddinistr yr Amddiffynfeydd. Syrthiodd y newydd ar y Cyfrin Gyngor fel taranfollt. Synwyd pawb oherwydd y tro ar bethau, a phenderfynais nas gallwn yn hwy fod yn aelod o'r Weinyddiaeth."