Bywyd a Gwaith Henry Richard AS/Pennod XX

Oddi ar Wicidestun
Pennod XIX Bywyd a Gwaith Henry Richard AS

gan Eleazar Roberts

Pennod XXI


—————————————

MR. ELEAZAR ROBERTS

—————————————

PENNOD XX

Adolygiad ar brif waith bywyd Mr. Richard—Ei safle ar y pwnc o Heddwch—Sylwedd ei brif ysgrifeniadau arno.

Credwn nas gellir darllen y tudalennau blaenorol heb ganfod fod Mr. Richard wedi cyflawni gwaith amhrisiadwy o werthfawr ynglŷn â Chymru,—ei chrefydd, a'i haddysg.

Dymunol fuasai sefyll uwch ben y gwaith mawr hwn, a dangos mor ddyledus ydym fel cenedl iddo yn y cysylltiadau hyn; y modd y gorfododd y Saeson i edrych gyda mwy o barch arnom, ac y danghosodd fod y Wasg Seisnig yn berffaith anwybodus mewn perthynas i neilltuolion y Cymry fel cenedl. Danghosodd hefyd fod eu Hymneillduaeth wedi eu dyrchafu, ac mai nid y peth dirmygedig hwnnw ydoedd ag y mynnai rhai ei bod. Gwnaeth hyn ar yr Esgynlawr, trwy y Wasg, ac yn y Senedd.[1] Ac ar ol marwolaeth ei gyfaill, Edward Miall, nid fel amddiffynydd Ymneillduaeth y Cymry yn unig yr edrychid arno yn y Senedd, ond fel cynrychiolydd Ymneillduaeth y Deyrnas yn gyffredinol.

Nid myned i'r Senedd a wnaeth Mr. Richard er mwyn ei anrhydedd ei hun, ond i wasanaethu ei oes. Dywedir fod Arglwydd Beaconsfield, pan oedd yn Mr. Disraeli, wedi torri unwaith i ymddyddan â John Bright yn un o gynteddau Tŷ y Cyffredin, ac wedi dweud wrtho yn ddifrifol mewn adeg o siomiant. "Gwyddoch, nad oes gennych chwi na minuau un amcan arall wrth barhau yn aelodau o'r Tŷ hwn, ond ennill enwogrwydd." Pan ddywedodd Mr. Bright wrtho ei fod yn hyderu fod ganddo ef (Bright), amcan uwch, sef lles y deyrnas, troes Disraeli ar ei sawdl, gan godi ei ffroen. Nid oedd yn gallu deall dyn gonest fel John Bright. Yn ddiameu, ni fuasai, ychwaith, yn deall Henry Richard, Nid oes neb erioed wedi tybied am foment fod ganddo ef un amcan arall yn chwilio am sedd yn y Tŷ, ond cario allan yr egwyddorion mawrion a phwysig y credai mor ddiysgog ynddynt. Yr oedd swydd, a sefyllfa, a dyrchafiad personol, fel amcanion i ymgyrraedd atynt, yn bethau nad aethant ar draws ei feddwl erioed, er, mae yn ddiau, nad oedd yntau, fel pob dyn gwir fawr a gwir onest, heb fod yn eiddigeddus iawn dros ei enw da, ac yn meddu mesur o uchelgais.

Ond, er cymaint a wnaeth Mr. Richard o blaid Cymru, Addysg ac Anghydffurfiaeth, mae yn rhaid cydnabod mai amcan mawr ei fywyd oedd gwasanaethu achos Heddwch. Tystiolaeth Mr. Gladstone am dano yw, mai ei egwyddorion heddychol oedd y "rhai goreu a goleddai."

Dymunem, gan hynny, alw sylw arbennig at y rhan hon o'i waith, a hynny, nid yn unig am mai hwn oedd gwaith mawr ei fywyd, ond am ein bod yn credu nad ydyw ei lafur a'i ddysgeidiaeth yn yr achos hwn, wedi cael y sylw ag sydd yn deilwng o'i bwysigrwydd a'i ddylanwad yn y dyfodol ar y byd. Heblaw hynny, yr ydym yn ofni nad ydyw pawb, hyd yn oed o'i edmygwyr pennaf, wedi dirnad yn drwyadl safle Mr. Richard gyda golwg ar y pwnc hwn. Mae rhai o Gristionogion goreu y deyrnas, dynion a'i parchent ef yn fawr, ac a gyd-weithient âg ef ym mhob achos da arall, dynion a gredent nad oedd un dadleuydd cadarnach, tecach, a mwy sylweddol nag ef, pan yn trin achos Cymru, Ymneillduaeth, Addysg, a phynciau cyffelyb, yn tybied, ar yr un pryd, gyda golwg ar y pwnc o Heddwch, fod 'hynawsedd a thynerwch ei deimlad yn meistroli ei ddeall a'i reswm, ac, o ganlyniad, nad oedd yn ddiogel ei ddilyn ar y pwnc hwn. Yn awr, y mae o bwys i sylwi nad oedd un pwnc ag yr oedd Mr. Richard wedi ei astudio yn fwy trwyadl, wedi darllen mwy arno, yn teimlo yn fwy aiddgar drosto, ac yn fwy argyhoeddedig ei fod yn sefyll ar dir cadarn a diysgog Cristionogaeth, rheswm a synwyr cyffredin, mewn perthynas iddo, na'r pwnc hwn o Heddwch. Nis gallwn dafu mwy o sarhad ar ei goffadwriaeth, na thrwy edmygu ei syniadau a'i lafur ym mhob cyfeiriad arall, a bod yn ddiystyr o'i argyhoeddiadau dyfnaf ar y pwnc hwn. Credwn mai dyma'r pwnc oedd nesaf at ei galon; a'r un y carasai iddo gael y lle amlycaf yn ei goffadwriaeth, a theimlwn, gan hynny, y dylem nodi yn lled fanwl ei olygiadau arno, gan hyderu y dygir lluaws ein darllenwyr i dalu sylw mwy arbennig i'w olygiadau neilltuol ef ar y pwnc pwysig hwn, er y gallant ymddangos i rai, fe allai, yn rhai eithafol.

Mae yn iawn i ni gydnabod, ar y dechreu, fod Mr. Richard yn un ag oedd yn dal fod rhyfel, o dan bob amgylchiad, yn groes i egwyddorion Cristionogaeth; yr un mor groes ag ydyw twyll, anonestrwydd, neu anwiredd. Nis gallai, mewn un modd, ddwyn ei feddwl i ddygymod a'r syniad fod dim yn cyfreithloni gwaith Cristion yn cymeryd arfau dinistr i'w ddwylaw, ac amcanu at fywyd ei gyd-ddyn. Yr oedd yn un ag y mae y byd yn arfer estyn bys ato mewn gwawd, gan ei alw yn Peace at any price man. Byddai, er hynny, yn anghymeradwyo yr enw hwn ar y blaid y perthynai iddo, ac ar un am gylchiad troes y gwawd yn erbyn ei wrthwynebwyr yn Nhŷ y Cyffredin, trwy olrhain tarddiad yr enw at y Duc Wellington! Dywedodd ar yr amgylchiad hwnnw, ei fod yn herio yr holl fainc esgobol i brofi fod rhyfel yn unol âg egwyddorion Cristionogaeth. Credai mai dyma'r tir cadarnaf i sefyll arno wrth ddadleu yn erbyn rhyfel. A mynych y cyfeiriai at gyngor Mr. Cobden iddo, at yr hwn y cyfeiriwyd eisoes. Ond gwelsom nad oedd Mr. Richard, er hynny, yn cadw at y cyngor hwn bob amser. Yn yr Herald of Peace, yn fynych, ac yn y Senedd, bob amser, arferai gymeryd amddiffynwyr rhyfel ar eu tir eu hunain, gan ddangos anghyfiawnder, ffolineb, barbareidd-dra, creulondeb, a difudd-der y rhyfeloedd arbennig a fyddent o dan sylw.

Am Mr. Cobden, nid oedd efe yn condemnio rhyfel ar bob amgylchiad. Ac er fod John Bright yn perthyn i gorff y Crynwyr, y rhai sydd yn credu fod pob rhyfel yn groes i egwyddorion Crefydd Crist, nid ydym yn siwr y buasai yntau yn gweithredu yn ol yr egwyddor honno bob amser. Dywedodd mewn cyfarfod cyhoeddus yn Westminster, ar yr 22ain o Chwefrol, 1887, y byddai yn ddigon buan gofyn iddo ef a oedd yn myned mor bell ag i gondemnio pob rhyfel pan ddeuai y byd i gondemnio rhyfeloedd anghyfiawn a di-raid; ac wrth ysgrifennu at gyfaill yn Manchester unwaith, dywedai,—"Gall fod yn wir nas gellid bob amser osgoi rhyfel, ac mewn rhai amgylchiadau, gallai fod yn gyfreithlon." Ac mewn llythyr i'r Spectator ar y 25ain o Fedi, 1882, dywedai,—"Nid wyf erioed wedi gwrthwynebu unrhyw ryfel neilltuol ar y tir fod rhyfel, o dan bob amgylchiad, yn anghyfreithlawn. . . . . Nid wyf yn awyddus i ddadleu y cwestiwn dansoddol hwn."

Ond am Mr. Richard, fe siaradai bob amser yn glir a difloesgni ar y mater. Yr oedd ei gredo ar y pwnc mor eithafol a'r Crynwr mwyaf aiddgar. Mor bell yn ol a'r flwyddyn 1845— tair blynedd cyn iddo fod yn Ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch—traddododd araeth yn yr Hall of Commerce ar "Ryfel," a thriniodd y cwestiwn o gyfreithlondeb, neu yn hytrach, anghyfreithlondeb rhyfel amddiffynnol, a datganodd ei syniadau arno. Cyn i un o'n darllenwyr ddechreu tosturio wrth ordynerwch neu anwroldeb Mr. Richard, cynghorem ef i ddarllen ei sylwadau ar y cwestiwn yn yr araeth honno.

Nid yw pawb yn deall y tir y saif y Crynwyr, ac y safai Mr. Richard amno yn y mater hwn. Camddeall y tir hwn sydd yn peri fod cynifer yn codi y gwrthddadleuon a wnant yn erbyn eu daliadau. Nid yw y Crynwyr, ac nid oedd Mr. Richard mor ffol a honni, na fyddai cario allan eu hegwyddorion yn peri iddynt ddioddef neu osod eu meddiannau a'u bywyd mewn perygl mewn amgylchiadau neilltuol. Dadleuai yr addefai pawb fod gonestrwydd a geirwiredd yn ddyledswyddau moesol rhwymedig ar bawb, ond byddai yn hawdd tybied amgylchiadau y gellid gosod dyn ynddynt ag y byddai ar ei golled, os nad yn peryglu ei fywyd wrth lynnu yn ddiysgog wrth y dyledswyddau hynny. Yr un modd gyda golwg ar beidio ymladd; er y gallai fod yn anhawdd iawn, ac yn beryglus i fywyd dyn i gario hynny allan ar amgylchiadau neilltuol, eto, gan fod ymladd yn groes i ddysgeidiaeth y Testament Newydd, rhaid oedd ufuddhau i Grist, bydded y canlyniadau yr hyn y bont. Ond tra yn dal hyn, yr oedd ganddo gymaint o ffydd yng Nghrist fel y credai fod yr egwyddorion Cristionogol hyn yn siwr o fod yn fwy diogel ac effeithiol i ddwyn dedwyddwch i'r byd, yn y pen draw, na'r egwyddorion cyferbyniol. Mae eu bod wedi eu gorchymyn gan Grist, a phrofiad dynion pan yn eu cario allan yn deg, yn profi hynny. Mae Mr. Richard, yn yr araeth y cyfeiriwyd ati, yn dangos fod y reddf sydd yn ein natur yn ein harwain i amddiffyn ein hunain pan ymosodir arnom, i fod o dan lywodraeth rheswm a chydwybod ; mai dyna sydd yn gwahaniaethu dyn oddiwrth yr anifail, fel y danghosir yn glir iawn gan Esgob Butler. Ac ym mhellach, fod rheswm a chydwybod drachefn i fod o dan ddeddf i Grist, gan fod yn rhaid "caethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist." Y cwestiwn, gan hynny, yw—A ydyw Cristionogaeth yn caniatau i ni i ddinistrio ein gilydd, hyd yn oed mewn rhyfeloedd hunan-amddiffynnol? Dadleua Mr. Richard ei bod yn dysgu yn gwbl groes i hynny, a'i bod yn bendant yn condemnio gweithrediad y nwydau sydd yu torri allan yn y cyfryw ryfeloedd. Ni thybiodd Crist na'i Apostolion erioed y buasai eu disgyblion yn euog o'r gweithredoedd creulon hynny yn erbyn bywydau dynion sydd yn cymeryd lle mewn rhyfeloedd ymosodol. Ond fe ddarfu iddynt ragweled, pan yr ymosodid arnynt ar gam, y gallent gael eu temtio i ddial, yn ol "greddi eu natur;" ac o ganlyniad, y maent yn gwahardd ac yn condemnio hyn gyda phwyslais a mynychder nas gellir ei gamgymeryd. "Nac ymddielwch, rai anwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint, canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae dial, mi a dalaf, medd yr Arglwydd." "Na wrthwynebwch ddrwg." "Gwelwch na thalo neb ddrwg am ddrwg i neb, eithr yn wastadol dilynwch yr hy sydd dda tuag at eich gilydd, a thuag at bawb." "Os a chwi yn gwneuthur yn dda, ac yn dioddef, y byddwch dda eich amynedd, hyn sydd rasol ger bron Duw." O ran hynny, byddai difynnu yr oll a ddywedir ar y pen hwn yn ddim amgen na difynnu cyfran helaeth o'r Testament Newydd.

Ond a ydyw dyn felly i beidio amddiffyn ei hun? Na; y mae ganddo luaws o ffyrdd heb ddial a thywallt gwaed, defnyddio cleddyfau a bidogau. Y llwybr Cristionogol ydyw gorchfygu drygioni trwy ddaioni,—"Os dy elyn a newyna, portha ef." Pe byddai ein ffydd yn gryfach, gallem anturio i fysg ein gelynion gyda mwy o ddiogelwch na phe byddai gennym arfwisg o ddur.

Ond y mae y gwrthwynebydd yn dweud mai ofer siarad fel hyn, ac yn myned i ddychymygu amgylchiad neilltuol, megys pan ymosodid arnom gan leidr? Tra nad oedd Mr. Richard am osgoi anhawster fel hwn, cymer achlysur i nodi mor beryglus i achos moesoldeb ydyw bod yn rhy barod bob amser i "ddychymygu amgylchiadau" fel hyn. Yr ydys, trwy hynny, yn apelio, nid at reswm na Christionogaeth, ond at deimladau ofnus dyn. Hawdd fyddai dychmygu angylchiadau yn y rhai y byddai yn anhawdd cadw at y gwirionedd a bod yn onest; ond nid fel hyn yr ydys yn arfer dysgu y dyledswyddau hynny. Ond i gyfarfod â'r amgylchiad o ymosodiad personol arnom, dadleuai Mr. Richard nad oedd gennym un hawl i wneud ymosodiad dialgar yn ol. Gallem arfer moddion moesol, ac apelio at reswm a chydwybod yr ymnosodydd. Gwyddai y byddai rhai yn gwawdio y fath syniad, ond fe ddarfu i Barclay a Leonard Fell, ac ereill, wneud hynny, a buont yn llwyddiannus. Neu, fe allem ffoi, os byddai modd. Beth! bod mor anwrol a ffoi o herwydd perygl? Nage, ebe Mr. Richard, ond ffoi rhag y demtasiwn i gyflawni pechod. Dyma'r dewrder pennaf. Neu, hwyrach, y gellid arfer nerth neu allu corfforol i wrthweithio yr ymosodiad, ond peidio gwneud hynny mor bell ag i gymeryd bywyd. Gan Dduw yn unig yr oedd y cyfryw hawl.

Ond beth os byddai y cwbl yn aneffeithiol, ac nad oedd dim i'w wneud ond lladd, neu i mi gael fy lladd? Beth ydwyf i wneud y pryd hwnnw? "Gwneud," atebai Mr. Richard, "marw fel Cristion cywir, marw yn hytrach na chyflawni trosedd yn erbyn deddf Duw." Addefai pawb y byddai yn ddyledswydd arnom, yn hytrach na gwadu enw Crist, i farw fel y merthyron gynt. Pam na ddylid edrych ar dyn a ddewisai farw, yn hytrach na throseddu un o reolau moesol dysgeidiaeth Crist yn y Testament Newydd, yn ferthyr mor wirioneddol a'r dyn a rydd ei fywyd i lawr dros un o'i athrawiaethau?"[2]

Ond dywedir weithiau nad yw y ddysgeidiaeth hon yn y Testament Newydd, ond yn gymhwysiadol at bersonau unigol, ac nid at lywodraethau a theyrnasoedd. Ond gofynnai Mr. Richard a ydyw y Testament Newydd mewn un man yn dweud hynny; sef bod gweithredoedd a waherddir i Gristion unigol yn gyfreithlon i lywodraeth Gristionogol? Ni fyddai hyn ond dymchwelyd holl seiliau moesoldeb. Ond pe addefid fod rhyfel amddiffynnol yn gyfreithlawn; gofynna Mr. Richard, pa le y gorwedd y llinnell rhwng rhyfel gwir amddiffynnol, ac un ymosodol? Os hunan-amddiffyniad yn unig sydd yn gyfreithlon, y foment yr eir dros ben hynny, ac y dechreuir ymosod ar y gelyn, yr ydys yn myned i dir anghyfreithlon. Y gwir yw, na fu erioed ryfel a ystyrid yn un amddiffynnol yn unig ar y dechreu, na therfynodd yn un ymosodol. Mae hanes holl ryfeloedd y byd yn dangos hynny, yr hyn sydd ynddo ei hun yn profi geudeb yr ymresymiad o blaid yr hyn a elwir yn rhyfel hunan-amddiffynnol yn unig, tra yn condemnio rhyfel ym- osodol.

Dyna oedd dysgeidiaeth Mr. Richard yn 1845, a glynnodd wrth yr un ddysgeidiaeth hyd ei fedd. Carem i'r rhai fydd yn edrych arni yn eithafol, ddarllen y gwahanol erthyglau a ysgrifennodd Mr. Richard yn yr Herald of Peace ar y wedd hon ar y cwestiwn. Y mae yn ei drin mewn atebiad i luaws o wŷr dysgedig sydd yn dwyn rhesymau tebyg i'r rhai a nodwyd uchod, ac yn eu hateb. Pa bryd bynnag y teimla rhyw un awydd i daflu y Bregeth ar y Mynydd, a dysgeidiaeth yr Epistolau o'r neilltu, gan honni nad oeddent i gael eu hesbonio yn llythyrenol, troai Mr. Richard arnynt bob amser, gan ddweud mai nid ar y llythyren yr oedd efe yn dibynnu, ond ar yr ysbryd cyffredinol oedd yn rhedeg trwyddynt oll. Er na olygid i ni yn llythyrenol droi y rudd aswy pan darewid ni ar yr un dde, a oeddem, gan hynny, i fyned i'r eithafion cyferbyniol, a thrywanu ein gelyn, a'i ladd, a llosgi ei dai ac yspeilio ei eiddo? Ac os nad oedd gwadiad yr esboniad llythyrenol yn cyfreithloni y pethau hyn, nid oedd yn cyfreithloni rhyfel.

Pwysai Mr. Richard yn fynych ar y ffaith fod y Cristionogion, ym mlynyddoedd boreuaf Cristionogaeth, yn ymryddhau oddiwrth y fyddin Rufeinig; a bod y paganiaid hynny a droent at Gristionogaeth trwy offerynoliaeth y Cenhadon, bob amser, megys o honynt eu hunain, yn teimlo fod rhyw anghydnawsedd rhwng y grefydd newydd a'u rhyfeloedd, a'i bod yn rhwystr ar eu ffordd i fyned allan i ymladd yn erbyn llwythau gelynol.

Ond nid dyma'r unig dir, na'r un mwyaf cyffredin y safai Mr. Richard arno. Dadleuai fod rhyfel, nid yn unig yn groes i Gristionogaeth, ond yn un o olion barbariaeth, yn beth ynfyd, costus, creulon, ac anynol, a chredai fod yn llawn bryd dyfeisio moddion i derfynnu anghydfyddiaethau rhwng teyrnasoedd ag oeddent yn fwy cydnaws â thyfiant gwareiddiad a Christionogaeth na rhyfel. Yn wir, nid oes un wedd ar y cwestiwn nad yw wedi ei chymeryd i fyny yn ei wahanol ysgrifeniadau.[3]

Tuag at ddeall safle ymarferol Mr. Richard ar y pwnc o ryfel, dichon nad allwn wneud yn well na rhoddi cynhwysiad papuryn a ddarllenwyd ganddo o flaen Cynhadleddau yn yr Hague, Cologne, Milan, Llundain a Lerpwl, rhwng y blynyddoedd 1875 ac 1887, ar "Resymoldeb Cyflafareddiad Ryng-wladwriaethol;" a Thraethawd a ysgrifennodd ar "Fuddugoliaeth raddol Cyfraith ar Nerth Anifeilaidd."[4] Gan y gellir edrych ar y Traethawd hwn fel math o sylfaen ar ba un y gellir adeiladu y pwnc o Gyflafareddiad arni, ni a gyfeiriwn ato gyntaf. Mae y Traethawd yn un galluog iawn ar y testyn, ac yn ffrwyth darlleniad helaeth ac ymchwiliad manwl. Gofynna a oedd rhywbeth ffol yn y dybiaeth y gall teyrnasoedd Ewrob ddod i gydnabod hawl cyfraith i benderfynnu ymrafaelion ac anghydfyddiaethau, yn lle nerth anifeilaidd? Credai fod y syniad hwn yn berffaith gyson â thuedd gynhyddol gwareiddiad.

Gwyddys, mai yr arferiad ar y dechreu oedd, i ddynion amddiffyn eu hunain a'u hawliau trwy nerth corfforol. Ac y mae yn syn mor hir y buwyd cyn diddymu yr arferiad hwn. Un o'i holion ydoedd y drefn o benderfynnu achos trwy ymladd. Yr oedd y drefn farbaraidd hon yn cymeryd y ffurf o brawf cyfreithiol. Dygid y ddwy blaid ymlaen, ac yna gorchymynai y Barnwr iddynt ei hymladd hi allan. Dewisid y maes; yn fynych byddai yn agos i Eglwys; elai y ddau i wasanaeth yr offeren yn gyntaf, a chyflawnid llawer o seremoniau gyda holl bwysigrwydd defodau llys barn. Caniateid i foneddwyr ymladd ar feirch, merched a chlerigwyr i ymladd trwy ddirprwywyr, ac yr oeddent i ymladd hyd yr hwyr, neu nes i un gael ei orchfygu. Am beth amser, ar ol y flwyddyn 1066, hon oedd yr unig drefn.

Wedi amser Harri yr ail, dygwyd y drefn o brawf trwy reithwyr i arferiad, os na fyddid yn dewis yn hytrach y prawf trwy ymladd. Parhaodd cyfraith y profi trwy ymladd hyd y flwyddyn 1818, a'r hyn a barodd y diddymiad oedd, fod dyn, yn y flwyddyn honno, wedi apelio am gael ymladd â'i wrthwynebwr. Diau fod pawb yn teimlo yn awr fod y dull hwn o brofi achos mewn llys yn un barbaraidd; ond y mae Mr. Richard yn gwasgu tri sylw adref oddiwrth yr arferiad. (1.) Nas gellid dweud dim yn erbyn yr arferiad nad ellir ei ddweud hefyd yn erbyn rhyfel. (2.) Bod dynion wedi ymlynnu wrth yr arferiad am fynyddoedd lawer gyda'r un ystyfnigrwydd ag y maent yn awr yn glynnu wrth ryfel. (3.) Ac eto, er hyn oll, fod yr arferiad o'r diwedd wedi gorfod cilio o flaen gwareiddiad a synwyr cyffredin.

Meddylier eto am arferiad neu sefydliad arall. Am ganrifoedd lawer yr oeddid yn caniatau rhyfeloedd rhwng pleidiau anghyoedd-pleidiau yn cydnabod yr un gyfraith gyffredinol—fel yn meddu yr un hawliau a rhyfeloedd rhwng teyrnasoedd yn awr. Os gallai unrhyw ddyn a gydnabyddid fel math o arweinydd ar ddynion, eu casglu ynghyd a'u harwain i ddial rhyw gam ar ei gymydog mewn cyffelyb amgylchiadau, cydnabyddid ei hawl i wneud hynny. Ond yr oedd yn rhaid iddo fod yn fath o bendefig. Yr oedd cydnabod a chaeth-ddeiliaid y penaeth o dan orfod i ymladd drosto. Hawdd deall fel yr oedd yr arferiad hwn yn darostwng pobl i sefyllfa farbaraidd, fel y dengys Robertson, yr hanesydd. Yr oedd yr eithafion mewn creulondeb yr elai yr ymladdwyr hyn iddynt yn arswydus. Buwyd yn hir iawn cyn gallu darostwng yr arferiad barbaraidd hwn a'i ddwyn o dan ddylanwad cyfraith, er bod yr Eglwys a Chynghorau wedi siarad yn uchel yn ei erbyn. Cydsyniwyd i ddechreu, i beidio ymladd yn ystod gwyliau yr Eglwys a dyddiau arbennig ereill, a gelwid y dyspeidiau hyn yn Rhyfel-baid Duw (Truce of God). Mae Mr. Richard, wrth alw sylw at yr ymdrechion lawer a wnaed i ddiddymu yr arferiad, yn dweud fod pelydr o oleuni o'r diwedd wedi tywynu ar feddyliau y barwniaid eu hunain, a'u bod wedi cytuno i apelio yn eu cwerylon at ddyfarniad eu cyd-benaethiaid, a gwasga y ffaith adref gyda grym argyhoeddiadol, nad oedd dim yn gwahaniaethu y rhyfeloedd hyn, o ran ffolineb ac anghyfiawnder, oddiwrth ryfeloedd y dyddiau presennol rhwng teyrnasoedd â'u gilydd. Geilw Mr. Richard sylw eto yn y Traethawd dan sylw, fod yr holl wledydd mawrion sydd yn awr yn cyfansoddi Cyfandir Ewrob, ychydig o ganrifoedd yn ol, yn cael eu gwneud i fyny o daleithiau neu genhedloedd gwahanol, y rhai a dybient fod eu buddiannau yn amrywio; ac yr oeddent yn ymladd a'u gilydd fel y mae teyrnasoedd mawrion yn gwneud yn awr.

Yr oeddyn Lloegr unwaith, saith o deyrnasoedd gwahanol, o dan yr enw Heptarchy, ac yr oedd Gorllewinbarth yr Ynys yn cael ei rannu i bum teyrnas. Yr oedd y rhai hyn yn byw mewn anghydfod a rhyfel parhaus a'u gilydd. Pe dywedasai rhyw un y pryd hwnnw y buasai y Taleithiau hyn yn ymuno o dan yr un awdurdod llywodraethol, prin y credid ef. Ar ol trin y pwnc hwn gyda mesur helaeth o fanylder, mae Mr. Richard yn gofyn, os ydyw gwareiddiad wedi diddymu rhyfeloedd taleithiol, pam nad all gwareiddiad uno y gwahanol deyrnasoedd yn y fath fodd ag i gael rhyw gyfraith neu ddealltwriaeth a fydd yn foddion i atal rhyfeloedd rhyngddynt? Credai fod yr anhawsterau ar y ffordd yn llawer llai na'r rhai sydd wedi eu gorchfygu eisoes trwy y moddion a enwyd. Nid yw y teimladau gelyniaethol rhwng cenhedloedd mor gryf ag oeddent rhwng y Celtiaid a'r Sacsoniaid yn y wlad hon, a'r cenhedloedd cyffelyb yn Ffrainc a Rwsia. Ac y mae moddion trafnidiaeth a chymdeithasiad rhyngddynt yn fwy helaeth yn y dyddiau hyn nag oeddent rhwng cenhedloedd cymharol agos y dyddiau gynt. Pam, gan hynny, yr edrychir ar y dynion sydd yn ceisio cario i'r dyfodol y ddeddf fawr a welsom mewn gweithrediad yn y gorffennol yn ynfydion ? Onid ein dyledswydd yw dwyn y ddeddf hon i weithredu mewn cylch eangach, sef rhwng teyrnasoedd a gwladwriaethau? Mae rhyw fath o gyfraith rhwng teyrnasoedd mawrion eisoes, ond y mae yn bennaf mewn cysylltiad â dygiad rhyfel ymlaen. Os gellir cytuno ar rai pwyntiau, pam nad ellir ar ereill, a thrwy hynny ddwyn y cenhedloedd o dan weithrediad deddf neu gyfraith, yn lle o dan lywodraeth nerth anifeilaidd yn unig? Ceisiwn ddangos yn y bennod nesaf fel y profai Mr. Richard fod hyn yn beth ymarferol.

Nodiadau[golygu]

  1. Er mwyn dangos fel y byddai Mr. Richard yn defnyddio pob cyfleustra i ddweud gair o blaid Cymru, a'i hiaith, cymerer yr hanesyn canlynol,—"Mewn araeth ym Mhorthmadoc, ar y 15fed o fis Medi, 1892, dygodd Mr. Gladstone, yng nghanol banllefau cymeradwyol, enw Mr. Henry Richard i mewn, a dywedai,—gaf fi adrodd hanesyn i chwi? Yr oedd y nifer fwyaf o honoch yn adnabod Mr. Henry Richard, A.S. Yr oed Mr. Richard yn Gymro twyıngalon, ac fel y mae nifer fwyaf o Gymry, yn un gwrol iawn hefyd. Un diwrnod, yn Nhy y Cyffredin—nis gallaf ddweud i chwi sut y bu, oblegid nid peth cyffredin ydyw i ni ddadleu cyfieithiadau o'r Ysgrythyr,—ond ar ryw achlysur, fe gododd dadl neu ymddiddan ar bwnc y cyfieithiad awdurdodedig o'r Ysgrythyr, a siaradodd Mr. Richard i'r perwyl a ganlyn,—Y mae gennych chwi, y Saeson, gyfieithiad ardderchog ac amhrisiadwy o'r Ysgrythyrau Santaidd, ac yr wyf yn gobeithio y gwerthfawrogwch ef, fel y dylech; ond mi hyderaf na ddigiwch wrthyf am ddweud fod gennym ni, y Cymry, gyfieithiad llawer rhagorach. Y rheswm dros fod ein cyfieithiad ni yn fwy rhagorol na'r eiddoch chwi yw, nid am fod eich cyfieithwyr chwi wedi esgeuluso gwneud eu dyledswydd, ond am fod ein hiaith ni yn tra rhagori ar yr eiddoch chwi.'"
  2. Yr ymdriniaeth fwyaf effeithiol ac argyhoeddiadol o eiddo Mr. Richard ar y wedd hon ar y cwestiwn o hunanamddiffyniad, ydyw yr un a ymddanghosodd mewn dwy Erthygl yn yr Herald of Peace am 1858, t d. 78 a 90. Ysgrifennodd awdwr galluog The Eclipse of Faith, sef Henry Rogers, lyfr o dan yr enw Selections from the Correspondence of R. E. H. Greyson, yn yr hwn yr ymdriniai â gwahanol faterion. Yn eu mysg y mae yn trin y cwestiwn o hunanamddiffyniad yn ol egwyddorion y Crynwyr, ac yn ceisio profi geudeb yr egwyddorion hynny. Yr oedd enwogrwydd yr awdur yn galw am atebiad cyflawn a manwl, ac y mae Mr. Richard yn y ddwy erthygl a nodwyd, yn ein tyb ni, yn codymu y Prif Athraw gyda deheurwydd digyffelyb. Y mae yr erthyglau yn gynllun o ymresymiad teg, manwl, a chyflawn. Mae y diweddar Barch. G. Parry, D.D., yn Y Traethodyld am 1871, yr ail godi dadl Greyson o blaid rhyfel, ond y mae yn amlwg nad oedd wedi darllen atebiad Mr. Richard.
  3. Credwn, pe cesglid at eu gilydd yr holl Erthyglau a Thraethodau a yegrifennodd Mr. Richard ar Ryfel, y byddent yn ystorfa o ffeithiau a rhesymau na fyddai yn bosibl cael eu gwell mewn un man. Nid ydym yn petruso dweud y cyfansoddent lenyddiaeth gryno a chyflawn ar yr holl gwestiwn. Draent yn gorwedd, gan mwyaf, yn yr Herald of Peace, cyhoeddiad misol a fu o dan ei olygiad, ac y bu yn ysgrifennu iddo am tua deugain mlynedd. Neu pe cesglid detholiad o'r ysgrifau hyn, yn un gyfrol, byddai yn gaffaeliad gwerthfawr i achos Heddwch, a byddai yn well coffadwriaeth am lafur ac ymchwiliad Mr. Richard i'r pwnc nag y gallai un colofn o farmor fod byth.
  4. The Gradual Triumph of Law over Brute Force, by Henry Richard, M.P., Third Edition, 1881.