Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach/Galar-gan

Oddi ar Wicidestun
Pennod IV Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach

gan Josiah Jones, Machynlleth

Attodiad

"GALAR-GAN[1]
I'R
DIWEDDAR BARCH. AZARIAH SHADRACH,
GAN
MR. ROBERT JONES, ABERYSTWYTH.

"Da, was da a ffyddlawn; buost ffyddlawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd."—Crist.

Hoff ieuenctyd Capel Sion,
Plant y dydd a'r breintiau mawr;
Coelbren nef a drefnodd i chwi
Etifeddiaeth deg yn awr:
Cael magwraeth eglwys Iesu,
Seigiau'r saint o'ch blaen o hyd;
A manteision addysg ddynol,—
Pethau goreu y ddau fyd.

Nid fel hyn gwladychai'r tadau,
Garwach oedd eu tymor hwy,
Fel y prawf croniclau'r oesoedd,
Hanes canrif fach neu ddwy:
Caddug tew o anwybodaeth,
Ofergoeledd, a drwg foes,
Cymru'n fro â сhysgod angau,
Welsant hwy o oes i oes.

Ond ymdorodd gwawr o'r diwedd,
Ar ymylau'r ddunos brudd;
Ac yn raddol ymledaenodd,
Nes bod hyfryd oleu ddydd:
Codi'n uwch wnai haul cyfiawnder,
Gwenai gwyneb yr holl wlad;
Ninau heddyw sy'n ymloni
Yn ei belydr dysglaer mad.

Nid mewn dydd bu'r cyfnewidiad,
Gorchwyl blwyddi meithion yw;
Gorchwyl wnaed er gwaethaf uffern,
Gorchest dynion dewraf Duw:
Poen a llafur, llid, colledion,
Gwawd ac erlid, eithaf gwae,
Brofodd ein hynafiaid duwiol,
Cyn cael Cymru fel y mae.

Dyma'r cwmwl tystion dysglaer,
Gwir wladgarwyr yn eu hoes,
Cymwynaswyr goreu'r genedl,
Dewrlu dan fanerau'r groes;
Mae eu henwau'n gysegredig
Yn nghynteddau Duw drwy'r tir;
Daw yr awen a chelfyddyd
I'w dyrchafu'n uwch cyn hir.

Nid y gwaelaf chwaith na'r olaf
Ar gofrestrau teulu'r ffydd,
Ydoedd Azariah Shadrach,
Gwrthddrych ein Galargan brudd
O! ei ffyddlawn ymdrechiadau
Geir mewn llawer parth o'r wlad,
Ac nid 'chydig o'n heglwysi
A'i haddefant ef yn Dad.

Ardal Abergwaun, yn Mhenfro,
Fagai'r plentyn llawn o hoen;
Hithau'r eglwys yn Nhrewyddel
Fagai'r dysgybl bach i'r Oen;
Ond y saint yn Rhosycaerau
Ganfu ynddo genad hedd;
A chywirdeb eu syniadau
Brofodd yntau hyd ei fedd.

Ni bu coleg nac athrofa
Yn caboli mo'no ef;
Trodd i'r prif-ffyrdd bywnt a'r caeau,
Dan rinweddol urdd y nef:
Ar ben 'stol yn nghysgod coeden,
Ac ar gareg farch y llan,
Galw wnai ar ol y werin,
Dweyd ei neges yn mhob man.

Mochnant, a phentrefi Maldwyn,
Pennal Meirion, Derwenlas,
Gawsant brofi blaenffrwyth peraidd
Doniau'r efengylaidd was:
Pa sawl calon a ddwysbigwyd,
Faint gadd eu bendithio'n llwyr,
Drwyddo, yn y bröydd hyny,
Nid oes ond y nef a ŵyr!

Nid amseroedd i orphwyso
Ydoedd ei amserau ef;
Planu a mwynhau y ffrwythau,
Eithriad oedd i weision nef:
Gwedi traethu gair y bywyd
Mewn ffyddlondeb yn un man,
Myn'd oedd raid i ddinas arall,—
Llafur cyson oedd eu rhan,

Yn nghyffiniau eitha'r Gogledd,
Yntau'n fuan wed'yn gawn ;
Deffro mae Llanrwst a Threfriw,
Dan ei nerthol danllyd ddawn:
Mân bentrefi tywyll Arfon,
A godrëon Dinbych, sydd
Yn adseinio'i lais taranllyd
Wrth bregethu'r farn a fydd.

Gwawd, a gwg, ac erlidigaeth,
Yma'n fynych brofodd ef;
Eto llosgi yn ei esgyrn
Yr oedd geiriau pur y nef:—
Hauodd had fel hyn mewn dagrau,
Gesglir yn ysgubau llawn;
Llawer eglwys gref geir heddyw,
Lle bu e'n ddigalon iawn.

Eilwaith wele lais rhagluniaeth
Yn ei alw'n ol i'r De;
A phan fyddo hi yn galw,
Ceir fod pobpeth yn ei le;—
Talybont, yn Ngheredigion,
A Llanbadarnfawr, a Paith,
Clarach, Salem, a'u hamgylchoedd,
Ydoedd ei esgobaeth faith.

Pymtheg mlynedd o'i ddwys lafur
Gafodd yr ardaloedd hyn,
Fel mae'i enw'n hoff a hysbys
Heddyw yn mhob bro a bryn:
Shadrach anwyl! medd hynafgwyr,
Shadrach enwog! medd y plant ;
Ac o oes i oes fe berchir
Coffadwriaeth yr hen sant.

Profodd yma adfywiadau
Nerthol, droion, gyda'r gwaith
Nes dychwelyd pechaduriaid,
Lloni Sion ar ei thaith:
Adeiladwyd yr eglwysi,
Gwreiddiai'r achos drwy y wlad;
Ac mae llu o'r plant a fagodd
Wedi ei gwrdd yn nhŷ eu Tad.

Annibynwyr Aberystwyth,
Chwi gymhellodd hyn o gân,
Rhaid fod parch i gof ein gwron
Yn eich plith, gan fawr a mân:
Mae ei enw yn glymedig
Wrth eich achos yn mhob gwedd;
Gyda chwi y treuliodd allan,
Yn eich daear chwi mae'i fedd.

Trwy ei lafur y sefydlwyd
Annibyniaeth yn eich tref;
Ac os ydyw'n hafaidd heddyw,
Blin amserau welodd ef;
Gorphwys bu yr arch flynyddau
Mewn tai annedd gwael cyn hyn;
Yntau'n gweithio drwy bob rhwystrau,
Nes ei dwyn i Sion fryn.

Syllwch, ie'nctyd, ar eich Capel,
A chanfyddwch ar bob maen
Ol ei ben, ei law, a'i galon,
Saif ei ddelw yna o'ch blaen :
Dodai wŷr i adeiladu,
Teithiai yntau i "hela'r draul,"
Nes o'r diwedd fod addoldy
Hardd, diddyled, wedi ei gael!

Ond pa beth a wnaf yn ceisio
Rhifo ei orchestion oll;
Os rhy gyfyng yw'r Alareb,
Maent ar lyfrau'r nef heb goll
Ie, mil o ymdrechiadau,
Llafur, poen, nas gwybu dyn,
Digalondid, angen, gofid,
Nas gŵyr ond y nef ei hun!'

Hoff fydd gan olafiaid wybod
Ffurf a llun ein harwr hyf,
Bychan ydoedd o gorffolaeth,
Eto lluniaidd, llym, a chryf;
Talcen uchel, llygad treiddgar,
Trwyn eryraidd, gwefus laes,
A grymusawl lais gyrhaeddai'r
Crwydryn pellaf ar y maes.

Am ei gred, Calfiniad ydoedd,
Egwyddorol yn y ffydd,
Fanwl fagwyd wrth draed tadau:
Athrawiaethus bore'i ddydd:
Medrai'r Bibl ar ei dafod,
Dyma oedd ei arfdy llawn;
A dymchwelai gyfeiliornad,
Drwy y gair, yn fedrus iawn..

Nid oedd uchel ddysg colegau,
Nac athroniaeth gywrain dyn,
Byth yn blino'i feddwl puraidd,
Hedai heibio i bob un:
Grasol drefn yr iachawdwriaeth,
Cynghor bore, arfaeth nef,
Angau'r Meichiau ar y croesbren,
Dyna'i hyfryd bynciau ef.

Chwilio wnai ddyfnderau'r codwm,
Olrhain camrau cariad rhad;
Dwyn ysgrythyr ar ysgrythyr,
Er mwyn prawf ac eglurhad
Gwedi cyrhaedd copa'r mynydd,
Cwrdd â'r groes, a'r Prynwr glân,
Allan torai'r floedd wefreiddiol,
"Diolch!" nes bai'r dorf yn dân.

Er mai Efengylwr ydoedd,
Tawel, tirion, yn ei ddydd,
Meddai ddawn Apostol hefyd,
Er amddiffyn banau'r ffydd:
Cadd Sosiniaeth, cadd Arminiaeth,
A Throchyddiaeth yn ei thro,
Deimlo llymder eitha'i saethau,
Nes cynhyrfu ambell fro.

Bugail ffyddlawn yn yr eglwys,
A gwyliedydd effro oedd;
Porthai'r praidd yn fwyn a diwyd,—
Pan fa'i perygl, rhoddai floedd;
Tyner iawn i'r gwan a'r ieuanc,
Tirion wrth y claf a'r tlawd;
Nid oedd rhyw, nac oed na chyflwr,
Na chaent ef yn Dad, yn Frawd.

Teithiodd filoedd o filldiroedd,
Gydag achos Duw erioed;
Bu drwy Wynedd a Deheubarth,
Pan yn un-ar-bymtheg oed:—
Oddi cartref mae eleni,
Yn y cymanfaoedd mawr;
Flwyddyn arall, taith i gasglu,
Dros rhyw achos llwyd ei wawr.

Beth atolwg, fu ei wobrwy,
Am ei lafur caled, maith?—
Gwrida'r awen wrth ei grybwyll,
Ofna rhag parddüo'r iaith :
Tra'r oedd llawer athraw segur
Yn pentyru iddo'i hun,
Wele ŵr wnaeth fil mwy gorchwyl,
Am lai tâl na chyflog-ddyn!

Son wna'r byd am wneud aberthau,
Deued, gweled engraifft lwyr,
Dyn yn treulio ac ymdreulio,
Er mwyn ereill, fore a hwyr:
Cadw ysgol am geiniogach,
Gwneud a gwerthu llyfr, er byw
A rhoi oes, a nerth, a thalent,
Dros ei wlad ar allor Duw !

Ac ni gawn, wrth gofio'i lyfrau,
Olwg arall arno ef;
Nid fel dwfn athronydd natur,
Ond lladmerydd goleu'r nef:
Myfyrdodau tarawiadol,
Oll o fer y gair yn llawn;
A'u rhifedi'n brawf o'i lafur,
Ac o'i fywiog, ddifyr ddawn.

Gwawdio'i weithiau yw arferiad
Rhai doctoriaid yn ein mysg;
Doethwyr mawrion, coeth, clasurol,
Fynent gadw'r byd drwy ddysg!—
Pe cyflawnai un o honynt
Chwarter ei orchestion ef,
Byddai beth yn haws i'm clustiau
Oddef eu hasynaidd fref!

Bu ei lyfrau yn fendithiol,
Do, i filoedd yn eu dydd,
Er deffroi eneidiau cysglyd,
A chysuro teulu'r ffydd:
Do, bu llawer un yn derbyn
Uchel glod mewn gwlad a thref,
Wrth ail-adrodd ei bregethau,
Tynu dwfr o'i bydew ef!

Shadrach ffyddlawn, mae dy goron
Heddyw'n ogoneddus fawr;
Ac ni thynir perl o honi
Gan fan feirniaid cul y llawr:
Gŵyr dy Feistr werth dy lafur,
Nododd ef dy daith bob darn;
A cheir gwel'd dy ddefnyddioldeb
Fil mwy amlwg ddydd y farn.

Hola ambell Pharisead
Am y beiau ynddo oedd;—
Nid yw'r awen am eu gwadu,
Chwaith nis myn eu dwyn ar g'oedd:
Goleu mawr yr haul a guddia
Bob rhyw frychau arno sydd;
Felly ei wendidau yntau
Gollir yn ei ddysglaer ddydd.

Ffrwythai'n beraidd yn ei henaint,
Addfed oedd i'r palas fry;
A heirdd ddoniau'r Dwyfol Ysbryd
Oll yn gorphwys arno'n gu:
Swn y nefoedd yn ei eiriau,
Llonder angel yn ei wedd;
Teimlai dano Graig yr oesoedd,
Ac nid ofnai byrth y bedd.

Canmol Crist, a chymhell crefydd,
Wnai hyd derfyn eitha'i daith;
Teml oedd ei 'stafell wely,
Yntau'n gweini yn y gwaith:—
Pan fel hyn—daeth cerbyd tanllyd,
A gosgorddlu'r nefol wlad;
Ac yn nghanol y dysgleirdeb,
Colli wnaethom ein hoff Dad!

Yn mhriddellau oer St. Michael,
Huno mae ei lwch mewn hedd;
Chwäon heillt o'r môr chwareuant
Uwch ei gysegredig fedd:
Rhodia llu, o bell ac agos,
Heibio'r llanerch, ol a blaen;
Darllen wnant y pennill isod,
Sy'n gerfiedig ar y maen.

"Bu ei dafod a'i ysgrifell
Yn cyd-daenu efengyl Crist;
Perlau'r groes, ac aur Caersalem,
Gynygiai i dylodion trist;
Drych, a Cherbyd, a Goleuni,
Myfyrdodau lu ar g'oedd:
Un-ar-ugain rhif ei lyfrau,—
Bunyan Cymru'n ddiau oedd."

Ffarwel, Shadrach, ni chaiff Sïon
Weld na chlywed mo'not mwy,
A'th daranllais yn cyhoeddi
Gwerth y gwaed, rhin marwol glwy:
Syllu'r wyt ar dy Iachawdwr,
Treiddio'r drefn, a chwyddo'r gân;
Saint ac engyl yw'th gymdeithion,
Nef y nef dy breswyl lân!


Nodiadau[golygu]

  1. Cyfansoddwyd yr Alar-gan hon gyferbyn â thrydedd Gylchwyl Gwyr Ieuainc Capel Sion, Aberystwyth.-Beirniad, y Parch. W. Ambrose. Drwy ganiatad yr awdwr argreffir hi yma, gan dybied y bydd yn dra derbyniol gan y darllenydd. Teimlir yn ddiolchgar i'r awdwr am ei hynawsedd yn caniatau hyny.