Neidio i'r cynnwys

Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen VIII

Oddi ar Wicidestun
Pen VII Bywyd y Parch. Ebenezer Richard

gan Henry Richard


a Edward W Richard
Pen IX

PEN. VIII.

Hanes ffurfiad Cyfansoddiad a Chyffes Ffydd y Trefnyddion Calfinaidd —Llythyr oddiwrth Mr. R. at gymdeithasiad y Bala—Llythyr ato ef oddiwrth y Parch. Ebenezer Morris—Llythyr oddiwrtho ef at y Parch. H. Howells, Trehil.

Yn y flwyddyn 1823, gwelwyd yn angenrheidiol, fel yr oedd corph y Trefnyddion Calfinaidd yn cynnyddu mewn maintioli, ac amrywiaeth gweithrediadau, i ddefnyddio moddion cyfaddas gyda golwg i'w ddwyn i ffurf fwy rheolaidd a phendant, fel cyfansoddiad crefyddol. Ac er cyflawni hyn yn effeithiol, gwelwyd ar y cychwyniad cyntaf fod yn anhebgorol, fel sylfaen briodol i'r cyfryw gyfansoddiad, i barotoi mynegiad eglur o brif egwyddorion eu ffydd. Ni pherthyn i ni yn bresennol i ddadleu y pwnc dyrys pa mor bell y mae cyffesau ffurfiol o ffydd yn briodol, ac yn effeithiol yn y cyffredin; ond nid ydyw yn ymddangos i ni pa fodd y buasai yn bosibl i gorph o bobl wedi mabwysiadu y cyfryw ffurf-lywodraeth eglwysig ag eiddo'r Trefnyddion Calfinaidd, i barhau yn hir mewn cysur a chynghanedd heb ryw fesur tebyg i hyn. Gan nad oes, yn ol eu cyfansoddiad hwy, gan bob eglwys awdurdod ddeddfol ynddi ei hun i benderfynu pa fath athrawiaeth a bregethir iddynt gan eu gweinidogion, oni buasai sefydlu rhyw brofiedydd (standard) cyffredinol, ni feddiannasid un diogelwch rhag dygiad i mewn athrawiaethau amryw a dyeithr," ac fel hyn buasai y corph yn debyg i ryw offeryn cerdd mawr, a'i wahanol dannau heb eu gosod yn yr un cywair, ac, yn lle gwneuthur peroriaeth gywir a soniarus, yn peri yr annghydsain anhyfrytaf trwy yr holl dywysogaeth. Diau o leiaf, wedi i'r peth dderbyn cymeradwyaeth cyffredinol y corph trwy eu cynnrychiolwyr cyfreithlawn, nad oes gan aelodau neb rhyw gorph neu enwad arall hawl nac esgus yn afreidiol, "i ymyraeth â materion rhai ereill," oblegid "i'w Harglwydd eu hun y safant neu y syrthiant." Anmhosibl i unrhyw nifer o ddynion fyned yn nghylch gwaith mor bwysig gyda mwy o arafwch, difrifoldeb, ac ofn duwiol, nac a ddangoswyd gan y gwŷr enwog a bennodwyd i barotoi Cyffes Ffydd y Trefnyddion Calfinaidd. Ymddengys i'r peth gael ymdrin âg ef, a'i benderfynu ar ran y Deheudir, mewn Cymdeithasiad a gynnaliwyd yn Llangeitho, Awst y 7fed a'r 8fed, 1822, lle y pennodwyd y gweinidogion canlynol i fod yn gynnrychiolwyr dros y rhan hono o'r dywysogaeth, sef y

PARCH. JOHN WILLIAMS,
EBENEZER MORRIS,
DAVID CHARLES,
JOHN EVANS,
ARTHUR EVANS,
THOMAS JONES,
EBENEZER RICHARD.

Pennodwyd o'r Gogledd i'r un achos, y

PARCH. JOHN Roberts,
JOHN ELIAS,
JOHN HUMPHREYS,
JOHN HUGHES,
MICHAEL ROBERTS,
HUMPHREY GWALCHMAY.


Am y dull yn mha un y cwblhawyd y gorchwyl pwysig hwn, bydd yn dda gan lawer ond odid weled yr hanes ganlynol o dan law gwrthddrych y cofiant hwn:—

Mewn Cymdeithasiad Achlysurol a gynnaliwyd yn Aberystwyth, Mawrth y 13eg a'r 14eg, 1823, y bu'r ymdriniaeth ganlynol:

Yn ol y penderfyniad yn Nghymdeithasiad Llangeitho, Awst y 7fed a'r 8fed, 1822, dechreuodd cynnrychiolwyr Deheubarth a Gwynedd ymgynnull yn nghyd nos Lun, y 10fed. Ond ni ddechreuasant ar eu gwaith pwysfawr hydd dydd Mawrth yr 11eg, pan y cyfarfuant yn nhŷ Mr. Robert Davies, Heol-y-Porth-Tywyll-Mawr, mewn goruwch-ystafell eang ac addas iawn. Dechreuwyd am 9 o'r gloch trwy ddarllen a gweddio gan John Roberts, Llangwm; a'r personau yn gwneuthur yr eisteddfod i fynu oedd y rhai canlynol:

Y PARCH. JOHN WILLIAMS, LLEDROD, Cymmedrolur.
EBENEZER MORRIS,
DAVID CHARLES,
THOMAS JONES,
JOHN ROBERTS,
JOHN ELIAS,
JOHN HUMPHREYS,
JOHN HUGHES,
MICHAEL ROBERTS.

HUMPHREY GWALCHMAY,
Ysgrifenyddion.
EBENEZER RICHARD,

Yn 1af, Cymerwyd rheolau a dybenion y cymdeithasau neillduol tan sylw; ac ar ol eu darllen trosodd yn araf ac ystyriol, penderfynwyd yn un llais arnynt gydag ychydig dalfyriadau ac ychwanegiadau. Yna darllenodd y brawd J. Humphreys yr hyn a ysgrifenasai o hanes dechreuad a chodiad corph y Trefnyddion Calfinaidd, a chytunwyd ar hwn hefyd gydag ychydig dalfyriadau ac ychwanegiadau.

Dechreuwyd yn nesaf ystyried y Gyffes Ffydd, a darllenwyd yr un o'r Gogledd gan y brawd John Elias, a yr un o'r Deheubarth gan Ebenezer Richard; ac ystyriwyd pob pwnc ac erthygl o honi gyda'r pwys, yr arafwch, a'r manyldra mwyaf; ac wrth fyned yn mlaen, dewiswyd, cyfnewidiwyd, ychwanegwyd, talfyrwyd, a chymysgwyd fel y gwelid yn fwyaf addas ac angenrheidiol, nes myned trwyddynt oll bob yn un ac un, a phenderfynu ar bob un o honynt yn un llais.

Yna penderfynwyd fod yr oll i gael ei ddarllen ger bron y corph yn nghyd, yn eu cymdeithas, am 2, y 13eg, ac am 8, y 14eg, a bod Ebenezer Richard i ddarllen y Rheolau a Chyfansoddiad y corph; yna bod y Gyffes Ffydd i gael ei darllen, y rhan o'r Gogledd gan y brawd John Elias, a'r rhan o'r Deheubarth gan Ebenezer Richard. Ac yn ol y penderfyniad uchod y gwnaed nes myned trwy'r cwbl; a chydunwyd gan yr holl gorph yn unllais, gyda'r cyd-gordiad mwyaf hyfryd, ar y cwbl oll, heb gymaint ag un llais croes nac un gwrthddadl.

Penderfynwyd gan yr eisteddfod i yr brawd J. Humphreys barotoi y rheolau a'r hanes i'r argraffwasg, ac i yr brawd H. Gwalchmay barotoi cyfansawdd y corph a'r Gyffes Ffydd.

Penderfynwyd, fod y nifer a fernid yn eisiau ar Wynedd i gael eu hargraffu yn y Bala, a'r nifer a fernid yn eisiau ar y Deheubarth i gael eu hargraffu yn Aberystwyth.

Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel."

Fel prawf o'r teimladau dwys oedd yn eu meddiannu am bwysfawrogrwydd ac anhawsdra y gwaith oedd ganddynt mewn llaw, gellir coffâu yr hanesyn canlynol, yr hwn a adroddwyd gan Mr. Richard ychydig amser cyn ei farwolaeth. Wedi desgrifio y teimladau cymmysgedig o ddychryn a phryder trwm oedd fel llwyth yn gorthrymu eu meddyliau i gyd, trwy yr holl amser hwnw, yn nghyd a'r ysgafnhad hyfryd a deimlent ar orpheniad heddychlon a chysurus eu gwaith, dywedai fod y Parch. John Humphreys yn enwedig wedi ei orchfygu i'r fath raddau, fel y gosododd ei ben i lawr ar y bwrdd yn yr ystafell, ac a wylodd y dagrau yn hidl; ac y mae'n debyg, pe buasent yn ymollwng i'w teimladau, y gallasent oll gymmysgu eu dagrau gyda yr eiddo ef. Rhaid i ni ofyn cenad i gadw meddwl y darllenydd am funud uwch ben y drych cyffröus hwn. I'n meddyliau ni, ac edrych arno nid mewn ysbryd cul pleidgarwch, (ac y mae yn sicr mae nid felly yr oeddynt hwy yn ei ystyried,) y mae rhyw beth hynod fawreddig a chynhyrfiol yn yr olygfa ac y mae y desgrifiad hwn yn ddwyn o flaen y llygad, pan y byddom yn dychymygu gweled cynifer o feddyliau gwrol a chedyrn ("oblegid yr oblegid yr oedd cewri ar y ddaear y dyddiau hyny") yn cydgrymu dan bwys teimladau o gyfrifoldeb ac ofn duwiol am ddiogelwch arch Duw, ydoedd wedi ei chyflwyno mewn modd neillduol i'w dwylaw hwy; ac yna, ar ol dyfod allan yn ddiogel o'r dyryswch a'r pryder mawr, yn ymroddi fel plant, gan rym eu gorfoledd a'u diolchgarwch.

Y mae y llythyr canlynol yn esbonio ei hun:

Y brodyr yn Sir Aberteifi yn gynnulledig yn eu Cyfarfod Misol, at y brodyr yn Ngwynedd, yn gynnulledig yn eu Cymdeithasiad Flynyddawl, yn y Bala, yn anfon annerch:

Gras, trugaredd, a chariad oddiwrth Dduw ein Tad, yr Arglwydd Iesu Grist, a'r Ysbryd Glan y Dyddanydd, a fyddo gyda chwi oll, ac a orphwyso yn ehelaeth arnoch chwi oll.

"FRODYR ANWYL A HOFF,

Yr ydym yn atolwg i chwi ein gwrando ar fyr eiriau, oblegid ar fyr eiriau yr ysgrifenasom atoch. Y mae yn ofidus genym fod amryw o'n brodyr yn y sir hon, a fyddent arferol er ys llawer o flynyddau o fod yn Nghymdeithasiad y Bala, eleni yn cwbl fethu, fel y gellwch glywed gan y brodyr sydd o'n gwlad ni yna; ac yr ydym yn gobeithio na bydd i neb o honoch gyfrif eu habsennoldeb i ddiffyg serch ac ymdrech gyda'r gwaith, nac ychwaith i ddiffyg awydd am eich cymdeithas chwithau yn yr efengyl, ond yn hollawl ac yn gyfan-gwbl i ddiffyg gallu.

Yr oedd ein Cymdeithasiad Flynyddawl ni (fel y. gwyddoch yn dda) yn arfer cael ei chynnal er ys yn agos i 80 mlynedd yn Llangeitho, gydag ychydig iawn o lysiant, ond barnwyd eleni mai gwell fuasai symud y gwersyll yn nes i amddiffynfa (citadel) y gelyn, fel gallai'r magnelau mawrion gael gwell cyfle i ollwng ar fagwyrydd y castell. O ganlyniad, mae y rhyfel wedi ei gyhoeddi, a'r lle a'r amser wedi eu nodi i agor y frwydr y lle yw Llanbedr, a'r amser y 6ed a'r 7fed o Awst nesaf. Nid oes neb o honoch chwi yn y Gogledd ag sydd yn adnabod y maes, nas bernwch fod Llanbedr yn sefyllfa addas i wneuthur yr ymosodiad. Gan hyny yr ydym yn deisyf arnoch anfon y nifer fwyaf a fyddo yn bosibl i chwi hebgor o eich tal-filwyr, eich llym-saethwyr, ac eich tân-belenyddion, wedi eu trwsio a'u harfogi yn Nhŵr Dafydd, yr hwn a adeiladwyd yn dŷ arfau; tarianau fil sydd yn crogi ynddo, i gyd yn estylch y cedyrn.' Chwi a wyddoch, frodyr, fod cyngreiriad diffynawl ac ymosodawl rhyngom ni a chwithau, a gwyddom y byddai yn ddrwg dros ben genych fod eich brodyr gweiniaid yn y Deheubarth yn cael eu baeddu a'u dadymchwel; a phe byddai unrhyw orchest arnoch chwithau yn Ngwynedd, ni thrigai ewin o honom ninau gartref heb ddyfod i'ch cynnorthwyo a'n holl egni."

Hyd yma yr ydym wedi dyfod o hyd i'r llythyr hwn, a ysgrifenwyd gan Mr. R. fel ysgrifenydd y Cyfarfod Misol.

Er mwyn coffadwriaeth y gwr enwog a'i hysgrifenodd, ac fel dangosiad o bryder effro Mr. Richard rhag mewn un modd golli cariad ei frodyr, rhoddwn yma y llythyr canlynol, yr hwn a ysgrifenodd Mr. Morris mewn ateb i ryw achwyniad haner-difrifol oddiwrth ei gyfaill, am fyned heibio Tregaron yn un o'i gyhoeddiadau diweddar.

CAREDIG GYFAILL,

Derbyniais eich llythyr y 25 o'r mis hwn, ac yr oedd yn synedig i mi eich bod yn meddwl drwg am eich cymmydog, ag yntau yn trigo yn ddiofal yn eich ymyl. Nid oedd genyf fi un bwriad fyned heibio Tregaron, oherwydd un gradd o oerfelgarwch, nac wedi cael yr achos lleiaf o dristwch oddiwrthych chwi na'ch gwraig ychwaith, na chyfeillion y society hefyd; ond yr oeddwn yn golygu tynu adref erbyn y Sabbath, ac am gael golwg ar y gwaith newydd yn Llangeitho. Ond 'rwyf fi wedi ffailu a'r cwbl—'rwyf wedi fy nal â'r hen anhwyl yn fy ngenau, trwy wres a phoethder, ac amryw bethau ereill, fel yr wyf yn meddwl yn gydwybodol nas gallaswn ddod i'r Cyfarfod Misol, a myned yr ail wythnos i'r Association, ac oddiyno i Forganwg. O'r ddau, 'roedd yn well genyf golli'r society fisol na cholli'r Association. Ond yr wyf yn gobeithio nas gwelaf yr amser y byddaf yn ddifater am Gyfarfod Misol y Sir. Nid yw ond ofer i mi geisio gyru dynion i gredu fy amgylchiadau i o ran fy natur, ac yr wyf yn teimlo fy hun yn fwy tawel i ddynion dynu'r casgliadau y fynont o bethau; ond 'rwyf yn arfer mwy o hyfder arnoch chwi, fel un o'r brodyr anwylaf yn y sir i adrodd fy helynt.

Nid wyf fi yn gallu y peth a ellais, er amcanu, ac yn ffindio fod pob llafur gorchestol yn fy nhaflu yn anghysurus. Eto dymunwn gael rhwyfo gronyn tra b'wyf gyda'r gwaith goreu. Dymunaf eich gweddiau drosof yn hyn. Mae'n gysurus genyf glywed eich bod chwi yn gallu gweithio'n galed; 'rwyf yn rhydd yn dymuno eich llwyddiant, a'r holl frodyr sanctaidd.

Gobeithiaf eich gweled yn Llanymddyfri.

Cofiwch fi at eich caredig wraig, a d'wedwch wrthi fod St. Paul yn rho'i hyny yn un nod ar gariad Cariad ni feddwl ddrwg.'

Mae fy ngwraig yn cofio atoch eich deuoedd yn garedig.

Eich gwael gyfaill,

EBENEZER MORRIS.

Blaen-y-Wern,
Meh. 26, 1824.

Yma y canlyn lythyr a ddanfonodd Mr. Richard, fel ysgrifenydd y Gymdeithasiad yn y Deheudir, at ei hen dad anwyl a pharchedig, Mr. Howells, o Trehil, Sir Forganwg.

AT Y PARCH. H. HOWELLS, TREHIL.

Llantrisant, Hyd. 20fed, 1824.

BARCHEDIG AC ANWYL SYR,

Darllenwyd eich llythyr brawdol a charedig ar g'oedd yr holl frodyr yn eu cymdeithas am ddau o'r gloch, a bu yn effeithiol iawn i gyffroi tristwch a llawenydd, fel ag yr oedd lluaws o'r brodyr yn wylo ac yn chwerthin ar unwaith-wylo wrth glywed am y dolur poenus ac yr ydych yn llafurio tano; a chwerthin wrth glywed am yr agwedd dawel mae'r Arglwydd daionus yn ei gadw ar eich meddwl yn ei ganol. Tristaem yn ddirfawr wrth weled nas gallem gael eich mwynhau yn ein cyfarfodydd fel cynt, a gorfoleddem hefyd wrth ddeall, er llygru eich dyn oddiallan, fod eich dyn oddimewn yn cael ei adnewyddu o ddydd i ddydd. Llonwyd ni oll yn fawr tros ben wrth weled eich cynhesrwydd at y corph, eich gofal neillduol am achos yr Arglwydd yn y sir, eich gwroldeb yn ngwyneb pob digalondid a llwfrdra, yn nghyd a'ch hyder gref yn addewidion y digelwyddog Dduw, a'r annogaethau syml a roddwch i ninau oll, i ymegnio yn ddigoll gyda'r gwaith.

Y mae'r holl gorph, yn un llais ac fel un gwr, yn dymuno cu cofio yn y modd mwyaf serchiadol atoch, ac yn addaw y cewch le helaeth yn eu gweddiau tra byddoch ar faes y gwaed.

Yr ydym oll yn cydfarnu â chwi y syrth teyrnas Satan o flaen arfau'r filwriaeth; ie, y mae hi yn syrthio beunydd. Y mae'r tywalltiadau rhad a rhyfedd sydd o'r Ysbryd Glan y flwyddyn hon ar amryw ranau o'r achos, yn wystlon bod yn rhaid iddo Ef (yr Arglwydd Iesu) gynnyddu, canys, Hwn a fydd mawr.

Dymunaf finau fy hun gofio atoch, ac at anwyl Mrs. Howells, yr hwn wyf, barchedig ac anwyl Syr, tros gorph y Gymdeithasiad,

Eich gwas gwael yn yr Efengyl,

EBENEZER RICHARD,

Ysgrifenydd Cymdeithasiad y Deheudir.

Nodiadau

[golygu]