Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen X
← Pen IX | Bywyd y Parch. Ebenezer Richard gan Henry Richard a Edward W Richard |
Pen XI → |
PEN. X.
Hanes gwneuthuriad "Gweithred Gyfansoddawl" ("Constitutional Deed") y Trefnyddion Calfinaidd—Pigion o lythyrau Mr. Richard at ei feibion—Llythyr at y Parch. Mr. Howells, Trehil—Un arall at y Parch. John Elias ar farwolaeth ei wraig—Llythyr oddiwrth y Parch. Richard Jones, Wern.
Yn y flwyddyn 1826, ar ol ystyried hir a dwys, penderfynodd y Trefnyddion Calfinaidd ddefnyddio moddion i ddiogelu y meddiannau oedd yn perthyn iddynt fel corph crefyddol, trwy fynu gweithred gyfreithlon wedi ei pharotoi, yn ol y drefn ofynol gan ddeddfau'r wladwriaeth. I'r dyben hyn, ymofynwyd cyngor a gwasanaeth John Wilks, Ysw., o Lundain, yr hwn ydoedd cyn hyn wedi enwogi ei hun yn fawr, trwy ei zel yn amddiffyn hawliau yr Ymneillduwyr (Dissenters) yn gyffredinol.
Yr oedd yr angenrheidrwydd am hyn wedi dyfod yn amlwg trwy amryw brofion gofidus, yn mha rai, o ddiffyg y cyfryw ddiogeliad, yr oedd dynion beilchion, hunanol, a diegwyddor, wedi cymeryd mantais i briodoli, fel meddiant personol iddynt eu hunain, rai o'r addoldai a adeiladwyd er defnydd y corph. Wedi i'r weithred gael ei chwblhau, yr oedd yn angenrheidiol cael wrthi arwyddnodau holl Ymddiriedolwyr yr Ammod-weithredoedd (Trustees of Leases) perthynol i wahanol addoldai y corph trwy y wlad; ac i gyflawni yr amcan hwn, pennodwyd y Parch. John Elias i fyned drwy y Gogledd, a gwrthddrych y cofiant hwn i fyned trwy y Deheudir, i dderbyn y cyfryw arwyddnodau. Cymerodd y gorchwyl hwn gryn lawer o amser Mr. Richard i fynu yn niwedd y flwyddyn hon a dechreu yr un ganlynol.
Y mae yn angenrheidiol i ni nodi yma, y bydd genym o hyn allan fantais neillduol i bortreiadu hanes a chymeriad Mr. Richard o flaen ein darllenwyr, trwy osod ger eu bron bigion helaeth o'i lythyrau at ei blant, pan oddi cartref, yn enwedig ysgrifenwyr y cofiant hwn, y rhai a symudasant tua diwedd y flwyddyn 1826 i breswylio yn Nghaerfyrddin, lle yr arosasant am ysbaid tair blynedd.
Priodol yw sylwi mae yn Saesoneg yr arferai ysgrifenu atom, ac o ganlyniad mae cyfieithad yw yr hyn a roddir yma.
"FY MECHGYN ANWYL,
"Gyda hyfrydwch yr wyf yn cymeryd fy ysgrifell yn fy llaw, i hysbysu i chwi am ein hamgylchiadau ni yma.
Y mae eich mam a minau, yn nghyd a'ch chwiorydd, mewn iechyd da, a gobeithio eich bod chwithau yn parhau i fwynhau yr un fendith. . . . . Yr wyf yn gweddio ddydd a nos am i'r Arglwydd weled bod yn dda ddysgu i chwi, mae duwioldeb gyda boddlonrwydd sydd elw mawr.' Mae meddwl anfoddlon yn felldith fawr, oblegid os bydd dyn felly, pe b'ai yn cyfnewid ei sefyllfa bob awr o'r dydd, ni fydd byth yn esmwyth, oblegid y mae'r anesmwythdra, nid yn y sefyllfa, ond yn ei feddwl ei hun. Hyn a wnaeth yr angylion yn anesmwyth yn y nefoedd, Adda yn mharadwys, a Saul, brenin Israel, ar ei orsedd. . . . Goddefwch hefyd, fy mechgyn hoff, i'ch hanwyl dad i gymhell arnoch yr ystyriaeth fanylaf at onestrwydd, oblegid, fel y dywed y ddiareb, Honesty is the best policy, ac y mae awdurdod uwch na hyny wedi gorchymyn i ni ddarpar pethau onest yn ngolwg pob dyn;' a thrachefn, Y rhai ydym yn rhagddarparu, pethau onest, nid yn unig yn ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yn ngolwg dynion;' a thrachefn, Pa bethau bynag sydd wir, pa bethau bynag sydd onest, pa bethau bynag sydd gyfiawn, meddyliwch am y pethau hyn.' Yma gallaf lefain, Fel hyn y dywed yr Arglwydd;' a bydded i holl feibion dynion dalu sylw i'r hyn y mae ef yn ei orchymyn, oblegid nid oes dim esgusodi neu ochel i fod yma. Fy anwyl blant, cedwch yn wastad o flaen eich meddwl, mae eich trysor daearol gwerthfawrocaf, yn nesaf at eich bywyd, yw eich cymeriad. Tra y cedwir ef yn gyfan, yn glir, a dilychwyniad, y mae yn debyg i ddernyn o wydr, yn hynod ddefnyddiol ac addurniadol, ond, wedi unwaith ei dori, y mae wedi ei golli yn anfeddyginiaethol; nid oes dim modd ei gyweirio—gellir ei adael am ryw ychydig amser yn ei le, a'i ddiogelu yno, trwy sythdoes (putty) a moddion ereill, ond y diwedd fydd ei gymeryd i lawr a'i daflu ymaith fel peth diddefnydd a diwerth; felly dyn wedi colli ei gymeriad, fel gwr onest, gellir cyd-ddyoddef âg ef am ryw amser, ond y diwedd fydd ei wrthod, a chau y drws yn ei erbyn.
Ydwyf, fy mechgyn anwyl,
Eich tad pryderus a gofalus,
EBENEZER RICHARD.
FY MECHGYN ANWYL IAWN,
Ysgrifenais atoch gyda Mr. Thomas Evans ar ol derbyn llythyr Edward ganddo ef. Ond gan fod genyf ryw ychydig amser a hamdden, nid oeddwn yn gwybod am un ffordd well i'w ddefnyddio na thrwy ysgrifenu atoch chwi.
Rhoddais i chwi ychydig gyfrif o'n Cymdeithasiad yn Aberhonddu. Yr oedd yn gyfarfod da iawn yn ddiau; ac er fod y tywydd yn arw iawn, eto 'roedd yr Arglwydd yn ddaionus, ac yr oedd ei bresennoldeb grasol gyda'i weinidogion annheilwng.
"Fy anwylaf fechgyn, pa le bynag yr elwyf, pa beth bynag a wnelwyf, pa un a'i yn unig a'i mewn cymdeithas, pa un a'i yn ddihun a'i yn nghwsg, pa un a'i yn teithio ar y ffordd neu yn eistedd yn yr ystafell, ïe, pa un a'i gweddio a'i pregethu, yr ydych chwi bob amser o flaen fy meddwl. Y mae eich llwyddiant yn gorwedd yn agos iawn at fy nghalon; eich hamgylchiadau tymhorol a'ch hachosion ysbrydol yn cael rhan yn fy meddyliau pryderus; ac yn aml, ïe, yn aml iawn, yr ydwyf yn dyrchafu fy enaid mewn saeth-weddiau taerion at Dduw trosoch. Yr wyf yn gweddio yn gyson am i chwi gael eich cadw rhag drygau y byd presennol, a chael bod yn gyfranogion o'r iechawdwriaeth hono a'ch dwg i ogoniant yn yr un a ddaw.
Y mae y ddau fyd yn bresennol bob amser o flaen fy ystyriaeth pan fyddwyf yn meddwl am danoch chwi, gan fod yn awyddus uwchlaw pob peth am i chwi ddianc oddiwrth halogedigaeth yn y byd hwn, a rhag damnedigaeth yn y nesaf. . . . . . Pan fyddwyf yn cyfarfod â rhyw ddyn ieuanc annuwiol, yr wyf yn dywedyd, O 'rwyf yn gobeithio na fydd fy mechgyn bach i yn debyg i hwn; a phan fyddwyf yn gweled rhyw ddyn ieuanc duwiol, yna yr wyf yn llefain, Gwnaed Duw fy mechgyn anwyl i fel hyn. O bydded i chwi fod yn wrthddrychau tra-anrhydeddus cariad Duw, yn ddeiliaid dedwydd ei ras, yn breswylwyr ei dŷ uchod, ac yn etifeddion o'i deyrnas uchod, wedi eich gwneuthur yn 'etifeddion i Dduw, ac yn gyd-etifeddion â Christ.'
"Yr wyf yn gobeithio nad anghofiwch byth i ymddarostwng eich hunain ger bron troedfainc trugaredd ddwyfol, ac i ymgynghori â thystiolaethau y gwirionedd dwyfol: yn y naill chwi gewch weled llwybr eich dyledswydd yn cael ei wneuthur yn eglur; yn y llall fe'ch diwellir â gras i gyflawni eich dyledswydd: yn y naill fe'ch goleuir, ac wrth y llall fe'ch cadarnheir; yn y naill fe'ch dysgir 'pa fodd y glanha llanc ei lwybr,' ac yn y llall Duw a ddywed wrthych, Digon i ti fy ngras i;' y mae y naill yn llusern i'ch goleuo, a'r llall yn ystordy i'ch diwallu.
O fy anwyl lanciau, clywch lais eich tad! Mae bywyd yn fyr, angeu yn sicr, y farn fydd ofnadwy, a thragywyddoldeb fydd yn hanfodiad diderfyn. Ni wna dim y tro yn fuan iawn i chwi a minau ond i adnabod yr unig wir Dduw a Iesu Grist, yr hwn a anfonodd efe; oblegid efe yn unig yw y bywyd tragywyddol. Gosodwch yr Arglwydd yn wastad ger eich bron, gan ddweud a gwneuthur pob peth fel yn ei bresennoldeb, a chredu eich bod yn awr, ac y byddwch bob amser, yn noeth ac yn agored i'w lygaid holl-weledig ef.
Ni chwanegaf ragor yn bresennol, gan ddymuno bendith yr Arglwydd ar y cynghorion hyn, y rhai a anfonir atoch gan un o'r tadau serchocaf ac anwylaf,
EBENEZER RICHARD.
"FY MACHGEN ANWYL,
"Sefyllfa eich meddwl yw yr hyn sydd yn gwneuthur yr argraff ddyfnaf arnaf fi. Yr ydych yn dweud fod dychrynfeydd yr Arglwydd yn eich amgylchynu, a saethau yr Hollalluog fel pe baent yn glynu yn eich calon: nid yw hyn ddim ond yr hyn a deimlodd y Salmydd duwiol o'r blaen, yr hyn a ellwch weled wrth ddarllen Salm xxxviii. 1-9, a'r lxxxviii. Yr wyf yn gobeithio y bydd i chwi ddarllen y Salmau hyn, ac yna chwi a ganfyddwch nad peth anghyffredin yw i bobl Dduw fod mewn trallod ac ing.
Teimlodd eich tad tlawd, saith-ar-hugain o flynyddau yn ol, ofnau a dychrynfeydd dirfawr ar ei feddwl, am ddyddiau a nosweithiau, fel nas gwyddai pa le i droi na pheth i'w wneuthur; ond, bendigedig fyddo enw Duw, esmwythawyd fi trwy y geiriau hyfryd hyny a welwch yn Heb. vii. 25; Am hyny efe a ddichon hefyd achub hyd yr eitha[1] y rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod yn byw bob amser i eiriol trostynt hwy.'
'Nawr fy anwylaf —— dyma newydd da ir pechadur truenus, amddifad, di allu, ïe, a di-obaith, yn alluog i achub. Y mae efe yn Waredwr Hollalluog; ac a oes dim yn ormod i'r Hollalluog i'w gyflawni? Na, O na, efe a ddichon, nid yn unig yr amser a aeth heibio (past tense), ond yr amser presennol. Y mae llawer wedi bod yn alluog i gyflawni yr hyn nis gallant yn awr, ond efe a ddichon heddyw, a ddichon yn awr, a ddichon y funud hon, achub—nid i wellhau i ryw raddau, ond i achub yn hollol, yn gyflawn, yn berffaith, ac yn dragywyddol. Hyd yr eithaf. O fy anwyl blentyn, pwy a all fesur yr eithaf gogoneddus hwn? Pwy? Nid oes neb a all ei chwilio allan! Eithaf Duw ydyw. Nid oes na dyn nac angel a eill ei blymio byth! O uwchder, a dyfnder, a hyd, a lled, y gwirionedd goruchel hwn, &c.
Wyf, fy machgen anwyl,
Eich tad,
EBENEZER RICHARD.
Yn y flwyddyn hon ysgrifenodd y llythyr canlynol at y Parch. Mr. Howells o Drehil, mewn atebiad i un anfonodd efe at y Gymdeithasiad yn Llangeitho. Y mae yn ddrwg genym ein bod wedi methu llwyddo i ddyfod o hyd i lythyr Mr. Howells ei hun.
AT Y PARCH. MR. HOWELLS, TREHIL.
BARCHEDIG FRAWD, A THAD YN YR EFENGYL,
Eich llythyr gwerthfawr a melus at Gymdeithasiad Llangeitho, yr hwn a ddyddiwyd Gorphenaf 20fed, a ddaeth yn brydlawn i fy llaw, ac a ddarllenwyd genyf fi i glywedigaeth yn nghylch tri chant o bregethwyr a blaenoriaid o Ogledd a Deheudir Cymru, yn gynnulledig yn y gymdeithas am un o'r gloch yr 8fed dydd. Anwyl Syr, y mae yn gwbl anmhosibl i mi fynegu i chwi deimladau y corph wrth wrando ei ddarllen -gwrandawyd ef gyda llawer o ddagrau a llawenydd, a chyda theimladau dwfn o orfoledd a hiraeth:—gorfoledd wrth weled un o'r brodyr hynaf yn y corph yn byw yn nghymmydogaeth y nef; gorfoledd wrth ddeall ei fod yn cael ffrwythau gwlad yr addewid ar drosolion i'r ardal lle mae'n byw; gorfoledd wrth ganfod ei galon mor gynnes at yr arch, a gweision ei Arglwydd sydd ar y maes gyda hi; a gorfoledd hefyd wrth weled nad ydyw wedi colli sylw ar, na serch at, long ein corph bach ni, yr hwn sydd yn nghanol llawer o dònau::-a hiraeth dwys hefyd am weled eich wyneb eto unwaith yn ein mysg; hiraeth am yfed yn helaeth o'r un ysbryd ag sydd mor gyflawn ar ein hanwyl frawd sydd yn rhwym; a hiraeth hefyd am y boreu dedwydd pan y caffom gyfarfod yn yr un gymanfa dragywyddol, heb neb o'r teulu yn eisiau, na neb ond y teulu yn nghyd.
Gorchymynodd yr holl gorph, yn un llais, eu cofio yn y modd serchocaf a charedicaf atoch, a'u bod yn ddiffuant ddiolchgar i chwi am eich llythyr syml, siriol, ffyddiog, ac efengylaidd, darlleniad pa un a barodd i lawer brawd egwan wrth ei glywed, fyned yn hyf, a dywedyd, Awn, a meddiannwn y wlad.' Rhwymasant finau, fel eu hysgrifenydd gwael, i drosglwyddo y penderfyniad uchod i chwi, Syr. Ond O na buasai y gorchwyl yn syrthio ar ryw un mwy cyfaddas y mae gofid arnaf feddwl ysgrifenu at wr sydd yn byw tan wlith Hermon, a minau yn Gilboa-at wr sydd ar ben Pisgah yn gweled y wlad sydd yn llifeirio o laeth a mel, a minau yn nyffryn y celaneddau a glyn lladdedigaeth.
'Swn y rhyfel,
Ydyw'r fan 'rwi eto'n byw.'
Yr oedd pob rhan o'ch llythyr yn wir fuddiol; ond pan yr ydych yn agos i'r diwedd, mewn gwaed milwr, yn gwaeddi ar eich brodyr godi'r banerau, a sefyll yn eu rhesau, ac yn sicrhau y ceir gorchymyn i danio yn fuan, yr oedd byddin ein Hisrael ni yn barod i floeddio i'r gâd gyda hyn. Parhewch, anwyl Syr, ac na ddiffygiwch anfon yn aml atom bob cyfleusdra a gaffoch, canys y mae yn wir hoff genym glywed oddiwrthych. Cofiwch ni yn wastadol fel corph yn eich gweddiau beunyddiol, ac nac anghofiwch y gwaelaf o'ch brodyr oll, a'ch gwas yn yr efengyl,
EBENEZER RICHARD, Ysgrifenydd.
"FY MECHGYN ANWYL,
Daeth eich llythyr, a ddyddiwyd ar y 19 o'r mis hwn, yn ddiogel i law; a chan eich bod yn ymddangos wedi tramgwyddo oherwydd byrdra fy llythyr diweddaf i, yr unig ddiffyniad sydd genyf i'w gynnyg, yw byrdra y rhybudd oddiwrth y cludydd, yr hwn ydoedd yn barod i gychwyn ar yr amser, fel nas gallaswn ond ysgrifio ychydig linellau yn y brys mwyaf. . . . . Yr wyf yn gobeithio, fy anwyl blant, fod eich meddyliau yn cael eu cymeryd i fynu yn aml gydag hachos eich heneidiau anfarwol. Enaid colledig-O, y fath ddrychfeddwl ofnadwy! Nid oes dim yn nghreedigaeth Duw mor ddychrynllyd! Pwy a all ddyoddef yr olygfa resynol, Ffowch, O ffowch rhag y llid a fydd!
"Ar y llaw arall, enaid wedi ei achub, y fath olwg ogoneddus yw hon !-yma y gwelaf y nefoedd yn agored, yr angylion yn llawenychu, Duw yn gwenu, a'r enaid gor-ddedwydd yn tragywyddol ymorfoleddu. Ceisiwch hyn uwchlaw pob cais arall. Ymbiliwch, ymdrechwch, byddwch daer gyda Duw am hyn. Pechadur wedi ei achub yw un o'r rhyfeddodau mwyaf a welodd y nefoedd ei hun, neu a wel byth! Ond y mae achub oddiwrth bechod yn rhagbarotoawl i fwynhad o iechawdwriaeth dragywyddol yn ngwlad y goleuni. Ofer ac anobeithiol yw dysgwyl iechawdwriaeth yn angeu a'r ochr draw i'r bedd, oni waredir rhag pechod mewn amser. Fy mechgyn anwyl, nid oes genych ddim i'w ofni os ydych wedi eich gwaredu oddiwrth gaethiwed a chaledwaith (drudgery) pechod. Dymunwn yn fawr wybod yn eich nesaf, a oes un o honoch, neu a ydych eich dau, wedi eich derbyn at fwrdd yr Arglwydd?
Y mae eich mam a Hannah yn uno mewn cariad atoch eich dau.
Ydwyf, fy mechgyn anwyl,
Eich tad,
EBENEZER RICHARD.
Yn agos i ddechreu y flwyddyn hon bu farw gwraig gyntaf y Parch. John Elias, ac anfonwyd y llythyr canlynol ato ar yr achlysur gan Mr. Richard.
AT Y PARCH. JOHN ELIAS, LLANFECHELL, MON.
FY ANWYL FRAWD,
Ychydig ddyddiau yn ol daeth i'm llaw lythyr caredig a doeth oddiwrth ein cyfaill cywir, y Parch. W. Roberts o Amlwch, yn dwyn y newydd poenus ac annysgwyliadwy i mi, am symudiad eich ffyddlon gydmares chwi, a'n chwaer garedig ninau, Mrs. Elias.
Nis gallaf oddef i'm pin ysgrifenu aros i ysgrifio eich colled fawr chwi a'ch anwyl blant—colled yr ardal a'r eglwys—colled pregethwyr cartrefol a theithiol, yn enwedigol yr olaf,—canys gwn nas gwnawn wrth hyny ond ail waedu hen archollion sydd wedi gwaedu gormod eisoes; ac agor dyfr-ddorau sydd wedi llifo yn rhy ddiarbed yn barod.
Ond goddefwch i mi, frawd, droi ar unwaith yn fy nychymyg i eich annedd dawel yn Llanfechell; ac ar ol taflu golwg i'r shop, ac i'r parlour, i'r llofft, ac i'r llawr, i ofyn pwy fu yma, gan fod y dernyn harddaf o'r dodrefn wedi ei symud, gan fod y trysor gwerthfawrocach na'r carbyncl wedi myned yn eisiau? Pwy fu yma, gan fod y penaf o gysuron daearol, un o weision Crist, wedi myned ar feth, ac un o'r mamau doethaf a thirionaf heddyw heb fod yn ei lle? Pwy fu yma, gan fod y priod serchocaf wedi myned yn weddw, a'r plant hoffaf wedi myned yn amddifaid o'u mham? Pwy fu yma? Ai rhyw leidr digydwybod a fu yma? Nage. Ai rhyw ysbeiliwr calon-galed a fu yma? Nage, nage; ond Tad a fu yma yn ymofyn un o'i blant adref ato i fyw. Perchen cyfiawn a fu yma yn ymofyn ei eiddo ei hun. Ganddo ef yr oedd yr hawl gyntaf, benaf, a chadarnaf. Ond och, syrthiodd yr arf gwerthfawr a defnyddiol i'r Iorddonen, a chollwyd hi yn anadferadwy! Minau welaf fy anwylaf frawd Elias yn sefyll ar lan y dwfr, a chydag wylofain chwerw yn dywedyd, Och fi, fy Meistr, canys benthyg oedd!' Eto ni osododd yr Arglwydd ei law ar ddim ond ar ei eiddo ei hun, yr hyn a allasai wneuthur yn gynt, a gwneuthur mewn modd garwach a chwerwach nag y gwnaeth.
"Gallasai ei chymeryd ymaith â dyrnod disymwth, pan y byddech chwi ar rai o'ch teithiau meithion gyda'r efengyl yn Nghymru neu Loegr. O'r tu arall, gallasai gael ei gadael i ddihoeni am flynyddau mewn clefydau blin a phoenus, a chwithau, frawd, wedi eich rhwymo fel nas gallasech, gyda dim tawelwch, ymadaw ag echwyn ei gwely, na myned un awr o'i golwg. Gallasech ei cholli pan oedd y plant yn fabanod ar y gliniau a'r bronau. Gallasai gael ei symud trwy ddyrnod o'r parlys mud, heb i chwi gael yr un gair o’i genau; neu fod wedi colli pob sylw a synwyr yn hir cyn ymadael. Hefyd, ni wnaeth yr Arglwydd i chwi, frawd, yn y tro hwn, ond y peth a wnaeth â miloedd o'i anwyl bobl o'ch blaen. Felly gwelir am Abraham, Isaac, a Jacob, yn nghyd a lluaws ar ol eu dyddiau hwynt.
Hefyd, nid oedd datod y cwlwm priodasol ddim ond amgylchiad a goffawyd wrth ei wneuthur,—hyd oni's gwahano angeu' ydoedd iaith y cyfammod.
"Ond mae genych chwi, anwyl frawd, resymau ardderchocach yn eu natur, a chadarnach yn eu cyfansoddiad, y rhai yn ddiau ydynt yn gweini i'ch meddwl llwythog gysuron mwy sylweddol na dim sydd genyf fi, sef, fod eich anwyl gymhares a chwithau yn rhwym yn yr un cyfammod cadarn; wedi eich prynu â'r un anfeidrol werth, wedi eich galw i'r un berthynas sanctaidd, eich golchi yn yr un ffynnon, eich gwisgo â'r un cyfiawnder, eich harddu â'r un gras, ac y cewch yr un adgyfodiad gwell, cael gweled yr un wyneb, a mwynhau yr un Duw, heb dor, heb gymysg, a heb gwmwl byth.
Mae fy anwyl wraig yn uno gyda mi yn y cydgwyniad mwyaf teimladwy a serchiadol atoch chwi a'ch dau blentyn, gan ddymuno i chwi gredu fy mod, fy anwyl frawd yn yr efengyl,
Eich cyfaill diffuant,
{{c|EBENEZER RICHARD."
Yma y canlyn amryw bigion o wahanol lythyrau a ysgrifenodd atom yn ysbaid y flwyddyn 1828.
FY LLANCIAU ANWYL,
Er fy mod yn llawn o lafur, yn teithio, yn pregethu, yn egwyddori (ysgolion), yn astudio, yn ysgrifenu, yn darllain, &c., fel y mae fy holl amser yn cael ei gymeryd i fynu yn gwbl, heb genyf funud i'w hebcor; eto, yn nghanol y ffwdan mwyaf, rhaid i mi gael munudyn i ysgrifenu at fy mechgyn bach anwyl.
*****
"Y mae yr hyn a ysgrifenodd Henry yn ei lythyr diweddaf, mewn perthynas i ddiddymiad y Cyfreithiau Prawf a Corphoraeth' (Test and Corporation Acts) yn newydd, ac yn newydd da, ac yr oedd yn llawen genyf ei glywed, er na pharodd i mi fyned i ryw berlewyg o orfoledd, fel rhai. Y mae genyf finau newydd i fynegu i chwithau mewn atebiad, a hyny yw, am y diwygiad mawr a gogoneddus sydd wedi tori allan yn y rhanau uchaf o Sir Gaerfyrddin. Y mae yn rhyfeddod gweled ugeiniau yn wylo, ac yn gwaeddi allan ar unwaith, Pa beth a wnawn fel y byddom cadwedig?'
*****
O fel yr oedd eich anwyl fam a minau yn llawenychu, dan grynu, wrth dderbyn y newydd, yr hwn a adfywiodd ein calonau, am eich bod wedi tyngu eich hunain yn filwyr dan fanerau Immanuel. Gweddiwch yn fynych ac yn daer, ar i chwi, trwy allu Duw, gael eich cadw trwy ffydd i iechawdwriaeth. O na wnewch eich hunain byth yn agored i'r cyhuddiad o fod yn ymadawyr (deserters) o'i fyddin. . . . . Yr wyf yn gobeithio nad yw, — er ei fod yn achwyn yn ei lythyr diweddaf ar ofnau ac ammheuon mewn perthynas i'w addasrwydd i fod yn gyfranog o swper yr Arglwydd, yn goddef i'w feddwl ymollwng; ond cofied fod y wledd wedi ei phennodi, nid i angylion sanctaidd, ond i ddyn, ac nid i ddyn yn ei sefyllfa o ddiniweidrwydd cyntefig, nac i ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd,' ond i ddyn yn ei sefyllfa anmherffaith yma ar y ddaear, ïe, gwledd o basgedigion breision, a gloyw win puredig,' i bechaduriaid. Yma, y mae Iesu yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwyta gyda hwynt;' ac nid yw fy machgen anwyl ddim gwaeth na phechadur, ac, yr wyf yn gobeithio, yn bechadar wedi ei achub.
Yn eich nesaf, byddaf yn dysgwyl hanes fanwl a phennodol am y Parch. Mr. Charles, gan obeithio fod yr Arglwydd yn drugarog, wedi ei adferyd, i ryw ***** Ar ol rhoddi hanes y daith yr oedd arni y pryd hwnw, dywed,
"Chwi welwch, fy llanciau anwyl, fy mod wedi llenwi fy nhudalen cyntaf âg hanesyddiaeth dymunwn lenwi hwn â duwinyddiaeth.
Y mae dau air mewn duwinyddiaeth ymarferol, ac os dysgwch y ddau air hyny yn gywir, yna chwi gewch yr holl gyfundraeth yn oleu ac yn rhwydd. Y cyntaf yw gostyngedig, a'r llall yw sanctaidd. Gostyngeiddrwydd yw prif addurn y llu angylaidd, a'r gem werthfawrocaf yn nghoron y seintiau sydd wedi eu gogoneddu; ond yn nghymeriad dwyfol ein bythanrhydeddus Gyfryngwr y llewyrchodd y gras hwn yn fwyaf amlwg, a'r rhai hyny sydd wedi agoshau nesaf ato ef yw y rhai mwyaf enwog yn yr eglwys isod. Sancteiddrwydd yw gogoniant a pherffeithrwydd y Duwdod ei hun-rhagoriaeth benaf y nefoedd, &c.
Ond y mae fy amser i fynu: gweddiwch yn ddibaid, ac na ddiffygiwch nes eich gwneuthur yn fwy gostyngedig ac yn fwy sanctaidd.
Ydwyf, fy mechgyn bach anwyl,
Eich tad pryderus,
EBENEZER RICHARD.
"Yr hyn sydd lawer ar fy meddwl y dyddiau diweddaf hyn, yw y gwerth mawr a'r angenrheidrwydd anhebgorol am grefydd calon, oblegid y mae lluoedd yn awr wedi cymeryd i fynu ryw fath o grefydd ysgafn, ddychymygol, fasw, a di-ysbryd. Y maent yn siarad llawer am dani, yn enwedig am bethau nad ydynt hanfodol, ond yn ymddangos yn ddieithriaid i fywyd a chalon crefydd. Goddefwch i mi, fy anwylaf lanciau, wasgu hyn ar eich meddyliau; cymerwch ef o dan eich sylw mwyaf sobr, meddyliwch lawer am dano, a phwyswch ef yn fanwl.
Ymddengys yr angenrheidrwydd am grefydd calon os ystyriwn, yn 1af, Sefyllfa ein calonau wrth natur: nis gall crefydd y pen adnewyddu ein calonau llygredig a drwg-gwahanglwyf y galon yw ein gwahanglwyf ni-pla y galon yw ein pla ni—am hyny nid oes dim ond crefydd calon a all gyfartalu ein hangen ni.
2il. Y mae fod llygad holl-wybodol y Barnwr, o flaen brawdle pa un y bydd raid i ni yn fuan sefyll, yn chwilio y galon, yn profi tu hwnt i bob ammheuaeth, na wna dim ond crefydd calon y tro yn yr amser pwysig hwnw; am hyny, ymdrechwch lawer am y grefydd hon. ***** Aeth Mr. Henry Rees heibio i ni ar ei ffordd i lawr i Sir Benfro. Yr oedd yn ymddangos fel seraph cyflym yn ehedeg yn nghanol y nefoedd, a'r efengyl dragywyddol ganddo i efengylu i'r rhai sydd yn preswylio ar y ddaear. Pregethodd yma prydnawn Sadwrn diweddaf oddiwrth Luc ix. 61, a boreu Sabbath yn Llangeitho, oddiwrth Diar. xxii. 17-21. Yr oedd y gynnulleidfa yn fawr anarferol yn Llangeitho, a'r addoldy, er ei fod yn llawn, nis gallai gynnwys yn agos y dorf luosog: yr oedd llawer wedi dyfod o bellder mawr, ac yr wy'n credu na chafodd neb eu siomi. ***** Fy mechgyn anwyl, erbyn yr amser y derbynioch y llythyr hwn, bydd blwyddyn arall wedi myned heibio, ac fel hyn treuliwn ein blynyddau fel chwedl,' ac yr ydym yn prysuro i'n cartref tragywyddol.
Y mae tragywyddoldeb yn crogi ar funud; ac O'r fath bwys i grogi ar edefyn mor wan! Nid yw y byd ansefydlog presennol ond lle pererindod-tragywyddoldeb yw ein cartref ni. Yn y byd hwn amser hau yw arnom-tragywyddoldeb fydd y cynhauaf i fedi am byth o'r hyn a hauasom yma. O edrychwn at ein llestr had, fel y gwybyddom pa beth yr ydym yn ei hau. Cedwch yn agos at orsedd gras, at foddion ac ordinhadau gras, 'a Duw pob gras, yr hwn a'n galwodd ni i'w dragywyddol ogoniant, trwy Grist Iesu, a'ch perffeithio chwi, a'ch cadarnhao, a'ch cryfhao, a'ch sefydlo. Iddo ef y byddo'r gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd. Amen.'"
Da, ond odid, fydd gan lawer weled y llythyr canlynol a dderbyniodd Mr. Richard, yn ystod y flwyddyn hon, oddiwrth y diweddar barchedig Richard Jones o'r Wern.
AT Y PARCH. EBENEZER RICHARD.
ANWYL SYR,
Yr wyf yn gobeithio eich bod chwi a'r eiddoch o dan gysgod grasol aden Hollalluog Dduw. Byddaf ddiolchgar iawn os byddwch mor fwyn a gosod y llinellau canlynol o flaen y cyfeillion yn Nghymdeithasiad Llanbedr.
Barchedig dadau a brodyr cynnulledig yn Llanbedr,—Gobeithio yr wyf y bydd presennoldeb Arglwydd y cynhauaf yn amlwg y tro hwn yn eich plith, a phelyderau ei ogoniant yn ofnadwy i deyrnas y gelyn, a bod amrantau boreuddydd y Jubili ar ymagor, ac y bydd i drigolion ardaloedd Teifi brofi bendithion anorchfygol hon, pa rai sydd a'u goleuni yn dywyllwch, a'u ffydd yn darian cadarnach na phres yn erbyn purdeb y gwirionedd, fel y mae yn yr Iesu; ac nid yw Duwdod person y Gwaredwr ond testun eu gwawd, er dywedyd o'r Ysbryd Glan mae efe yw y gwir Dduw, a'r bywyd tragywyddol.'
Yn awr yr wyf yn gofyn eich cenad i'r brawd yr anfonais hyn o linellau ato, i ddarllen i glywedigaeth y brodyr yr hysbysiad canlynol: sef,
Megis yr anfonais er's amser yn ol ychydig sylwadau i Oleuad Cymru, mewn dull o wawdiaeth a duchan, yn erbyn rhai geiriau a golygiadau perthynol i'r Gyfundraeth Newydd (The New System), yr hon sydd yn ymloewi draws y wlad; yr wyf yn ddiweddar gwedi bod uwch ben y mater mewn modd mwy difrifol ac egniol, trwy yr hyn y cyfansoddais draethawd, yr hwn wyf yn ei alw Drych y Dadleuwr. Ond wrth grybwyll am yr enw Dadleuwr, efallai y tybia rhai mai tanllwyth o ddadleuaeth yw; eithr yr wyf fi yn meddwl nade; o'r hyn lleiaf, yr wyf wedi ei fwriadu i'r gwrthwyneb.
Yn y drych hwn, debygaf, y gall y darllenydd diragfarn weled pa mor agos y mae'r golygiadau uchod yn dyfod i'r gwirionedd, ac ar yr un pryd yn arwain y darllenydd i eithafion a dychymygion anorphenol. Mae'n cynnwys natur dadl, ei da a'i drwg, ei hachlysuron, cyndynrwydd mewn dadl, profion o waith amryw, y niweid o wyrdroi'r Ysgrythyrau, anghysondeb golygiadau Usher ar wir helaethrwydd marwolaeth Crist yn yr iaith y'i ysgrifenwyd, cyfieithad o'r cyfryw, golygiadau Mr. R. yn gyferbyniol, sylwadau arnynt, prynedigaeth, rhybudd i bregethwyr ac ysgrifenwyr, sylwad ar y geiriau neillduol a chyffredinol. Ond tebyg, er fy mod yn ymdrechu i ymgadw o dir dadl, na bydd yn achos o'i gohirio, eto, efallai y bydd i ryw beth sydd ynddo beri i ddynion gwyntog glecian. Ond yr wyf yn gobeithio er hyny y gall fod yn foddion i'r darllenydd diduedd i weled mor ddibwys, o'r hyn lleiaf o ran cu dechreuad, yw llawer o bethau ag sydd yn peri cynhyrfiadau ynfyd yn y byd crefyddol.
Ond gwybydder, nid wyf yn gofyn eich llythyrau canmoliaeth i'r gwaith, nac uchel-udganiad o'r eiddoch o'u blaen, (rhag y byddo i neb oherwydd hyny gael achlysur o'm rhan i, i gablu corph nac enaid,) ond gadael iddo pob chwareu teg, ac na byddo i neb o fy mrodyr, pwy bynag trwy wyneb, genau, nac ael, fod yn blaid i ragfarn na chenfigen, rhag ofn iddynt fod yn achlysur o friw i feddwl neu feddiannau un ag sydd yn caru eu lleshad, ac yn sicr ei fod yn amcanu at ddaioni. Bydd i'r gwaith ddyfod allan yn rhanau. Y rhan gyntaf yn werth chwech-cheiniog; a chymerir ychydig ymofyniad yn nosbarthiad hon, fel y gwybydder pa nifer i'w hargraffu rhagllaw: bydd y llyfr i gyd oddeutu gwerth pedwar swllt.
Ac fel hyn, fy mrodyr, yr ydwyf yn gwybod fy mod yn anturio gorchwyl na anturiwyd o'r blaen, (o'r hyn lleiaf yn Gymraeg,) ac yr wyf yn sicr mae fy amcan yw gwneuthur daioni; a chan nad wyf fi o gyfansoddiad natur, nac o amgylchiadau, fel y gallaf wneuthur nemawr trwy deithio, eto byddai hyny yn Ilondid i mi pe gallwn wneuthur daioni yn rhyw fodd. Ac os gwel Arglwydd y fendith yn dda ond anadlu o ochr fy ymdrechiadau tlodion yn hyn, yr wyf yn meddwl y gallai ateb dybenion daionus yn yr amser presennol.
Ydwyf y llai na'r lleiaf o'r holl frodyr,
Wern, Llanfrothen, Gorph. 26, 1828RICHARD JONES.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Y cyfieithad Saesoneg.