Cân neu Ddwy/Actor
Gwedd
← Coeden Afalau | Cân neu Ddwy gan T Rowland Hughes |
Llan-y-Dŵr → |
ACTOR
(Lyn Joshua)
Milwr, morwr, tincer, teiliwr,
Rhyw goegyn ffôl, neu waeddwr ffair—
Ni waeth beth fyddai, haeddai'r actor:
"Ardderchog, Lyn, bôi, gwych bob gair!"
Weithiau, llusgo tua'r stiwdio
Ac yn ei wedd y nos ddi-hun;
Cellwair, canu, actio, chwerthin,
A thwyllo pawb ond ef ei hun.
"Well, so long, boys" meddai'n siriol
Wrth droi un nos i'r gwynt a'r glaw:
Dim ond ef ei hun a wyddai
Nad actio 'r oedd wrth ysgwyd llaw.