Cân neu Ddwy/Coeden Afalau

Oddi ar Wicidestun
Cynnwys Cân neu Ddwy

gan T Rowland Hughes

Actor

COEDEN AFALAU

Mae'r goeden 'falau ym mhen yr ardd
Yn un rhyfeddod o flodau hardd,
Fel pren dan eira wrth ffenestr dlos
A'i golau'n ffrydlif ar hedd y nos,
Fel cwmwl o wlân
A'r machlud yn dân—
'Fu coeden erioed mor lluniaidd, mor lân.

Mae pawb yn dotio o'i gweld mor hardd,
Y goeden 'falau ym mhen yr ardd.
Ond fel y canant ei chlodydd hi
Mae dagrau'n cronni'n fy llygaid i,
Oherwydd wrth droed
Y goeden fe roed
Hen gyfaill a fu'r ffyddlonaf erioed.

Fe ffrwydra harddwch drwy'i changau hi
Yn llon bob gwanwyn uwch bedd 'r hen gi,
Yn wynder tanlli, yn eira glân
Ag arno ruddwawr a golau tân.
Ond ffeiriwn ei hud
A'i lledrith i gyd
Am orig o'r llais sy bellach mor fud.