Cân neu Ddwy/Crib Goch
Gwedd
← Branwen | Cân neu Ddwy gan T Rowland Hughes |
Aderyn Branwen |
CRIB GOCH
Gwaedda—
ni chynhyrfi braidd y llethrau hyn,
rhaeadr y defaid maen,
y panig di-frys, di-fref,
y rhuthr pendramwnwgl, stond:
a fugeiliodd mynyddoedd iâ,
a wlanodd rhew ac eira a niwl,
a gneifiodd corwynt a storm
yng nglas y byd—
ni ddychryni'r rhain.
Gwaedda—tafl dy raff
(oni chipia'r gwynt dy edau o lais)
fil o droedfeddi crog
am gyrn y tarw-wyll sy a'i aruthr dwlc
rhyngot a'r dydd.
Gwaedda-
Ni thâl geiriau yma:
onid doe y ganwyd hwy,
y baban-glebrwyd hwy
mewn ogof fan draw?