Cân neu Ddwy/Branwen

Oddi ar Wicidestun
Blychau Cân neu Ddwy

gan T Rowland Hughes

Crib Goch

BRANWEN

"Yn llwyd llwyd hyd y lli
di-gwsg, digysgod,
yn niwl llwyd hyd anial y lli
y daw'r wawr: dihyder yw
uwch anhygyrch unigedd
y môr maith.

"Ni chyffry adar: dim ond galar gwylan
a ddaw i'r awel yn weddi o'r ewyn
draw, rhyw gri drist,
anorfod, gynhyrfus.

"Gynnau, tybiwn y gwelwn drwy'r gwyll
hwyliau têr ym mhellter y môr,
ugeiniau o hwyliau ar heli,
a’m haderyn cain yn eu harwain hwy . . .

"Breuddwyd oedd, ebrwydded â
gwawn y gweunydd,
breuddwyd a gipiwyd i'r gwynt,
a fu loyw, ennyd, cyn diflannu
o'i hyder ef gyda'r wawr
yn rhith llwyd uwch anrhaith y lli,
uwch anhygyrch unigedd
y môr maith."