Neidio i'r cynnwys

Cân neu Ddwy/Blychau

Oddi ar Wicidestun
Ar y Palmant Cân neu Ddwy

gan T Rowland Hughes

Branwen

BLYCHAU

"Nid ydynt hardd, eich hen addoldai llwm.
Pa ddwylo a'u lluniodd hwy
yn flychau sgwâr, afrosgo, trwm,
yn foel, ddiramant, hyd y cwm,
heb orchest bwa na mireinder sgrin,
heb ffenestr liw a'r lliw fel gwin
hwyr a gwawr:
pa ddwylo blin a'u lluniodd hwy,
eich hen addoldai mawr?"

"Nid ydynt hardd i chwi, mae'n siŵr,
heb orchest bwa na mireinder tŵr,
ond ynddynt hwy, er trwsgl eu trem—
Caersalem, Seion, Soar, a Bethlehem—
y plygodd y gwerinwr lin,
y naddodd salm o'i oriau blin,
y dyblodd gân a'r gân fel gwin,
y rhoes,
yn nyddiau hedd a dyddiau loes,
ei deyrnged hardd i Ŵr y Groes.

"Nid ydynt hardd, fy ffrind, i chwi,
ein hen addoldai mawr, di-ri,
ond hwy a'n gwnaeth,
o'r blychau hyn y daeth
ennaint ein doe a'n hechdoe ni,
os llwm eu llun, os trwsgl eu trem,
Caersalem, Seion, Soar, a Bethlehem."