Cân neu Ddwy/Ar y Palmant
Gwedd
← Gwên | Cân neu Ddwy gan T Rowland Hughes |
Blychau |
AR Y PALMANT
Bwthyn, hen felin, ac afon wen,
A defaid yn pori'r fron,
Rhyw ddarn o graig yn cau uwchben
A thano'r eithin yn don,
A muriau ysgwâr rhyw gapel llwm
Yn swatio'n unig i fyny'r cwm.
Gwyliodd y dyrfa'n mynd heibio i'r llun
Ar eu prysur hynt, ond nid oedd un
 cheiniog yn sbâr i henwr llwyd
Na fedrai ennill ei damaid bwyd.
Dim ond geneth fach o stryd gerllaw
A ddaeth i syllu ar ôl ei law,
I weld am y cyntaf tro erioed
Ryfeddod bwthyn ac afon a choed,
A muriau ysgwâr rhyw gapel llwm
Yn swatio'n unig i fyny'r cwm.