Cân neu Ddwy/Gwên
Gwedd
← Gwanwyn | Cân neu Ddwy gan T Rowland Hughes |
Ar y Palmant |
GWÊN
Na,
Peidiwch â thynnu'r llenni i lawr.
Gadewch i'r pelydryn rhudd
Chwarae ar wynder ei grudd.
Peidiwch â thynnu'r llenni i lawr:
'R oedd hi mor hoff o olau'r wawr.
Na,
Peidiwch â mynd â'r blodau i ffwrdd.
Gadewch i'w haroglau hwy
Oedi o'i hamgylch hi mwy.
Peidiwch â mynd â'r blodau i ffwrdd:
Ei dwylo hi a'u dug i'r bwrdd.
Na,
Peidiwch ag wylo funud awr.
Er mynd ei direidi hi,
Ni fynnai mo'ch dagrau chwi.
Peidiwch ag wylo funud awr:
Nid aeth ei gwên—mae hi'n gwenu'n awr !