Cân neu Ddwy/Cynddilig
← Harddwch | Cân neu Ddwy gan T Rowland Hughes |
Hwyrnos |
"CYNDDILIG” (T. G. J.)
Yr oedd hi'n stori fawr.
Ond bu'n fwy na'r stori
Y llaw a'i rhoes i lawr,
A'r galon ar dorri,
A alwodd, a'i hudlath uwch meirw'r glyn,
Yr hir lonyddwch i harddwch fel hyn.
Cynddilig, Llywarch, Gwên,
A’u henbyd awr—
Yr oedd y stori hen
Yn stori fawr.
Ond aethai, fel hwyrnos
Dros bell orllewin,
I angof pob unnos,
Nes hudodd dewin
Y lliwiau meirwon yn ôl bob un
I nef ddi-fachlud y perffaith lun.
Yr henwr a'i 'stên
Yn deilchion ar lawr
Wrth ffynnon pob gwên,
Pob tirion awr,—
'R oedd y stori hen
Yn stori fawr.
Ond mud y garnedd
Uwch Gwên a Chynddilig
Ac anghyfannedd
Y dyddiau pellennig
Nes dyfod y swynwr
Lle'r wylodd yr henwr
A thynnu'r foesg, doredig gŵyn o'r gwynt
A throi'n ddiangof gân y gofid gynt.
Yr oedd hi'n stori fawr.
'Oedd hi? Y mae hi'n awr,
Ac anadliadau bywyd yn y glyn
A bythol nwyf i'r lladdedigion hyn.