Cân neu Ddwy/Hwyrnos
← Cynddilig | Cân neu Ddwy gan T Rowland Hughes |
Salem |
HWYRNOS
Tu allan, gwylan yn hwylio o'r golwg
heibio i'r Trwyn: neb ar y traeth:
yr hir ewyn yn derwyn wrth dorri:
y lliwiau yn nef y gorllewin,—
aur mâl, tân a phorffor a melyn
a rhos yr hwyrnos—yn rhyw
bylu'n araf fel y suddai'r belen eirias
tu ôl i gaerau tawel y gorwel,
caerau o gymylau a'u myrdd
o dyrau yn dyrau o dân:
petrus sêr: ym mhellter y môr
hwyl wen ar fin diflannu
o'r hwyrnos a'r rhuddwawr arni.
I mewn, y pen mor wyn â'r gobennydd;
y gwallt hen yn un gwylltineb
wedi amarch y dwymyn;
y lliw ar y talcen llaith,
ôl gwan haul a gwynt
ac ewyn, yn glytiau llwydwyn; un llaw
egwan yn cau ac agor,
agor a chau, mewn gwewyr; y chwys
uwch y gwefusau
yn berlau croyw, gloyw fel gwlith.
Yna geiriau yn ceisio ymgyrraedd
am ennyd drwy'r cyflym anadl,
ysbrydion hun: “Rho sbrêd yn'i, Huw ...
rho ... sbrêd yn yr hwyl ...
gwynt o'n hôl ... glan yn y golwg ...
glan ... a hafan ... 'r hen Huw
Rho sbrêd ..."
Yna'r sibrydion
bloesg yn ddim ond anadl blin,
yn fawr yn y distawrwydd
ennyd cyn edwino ...
O gyrrau pella'r gorwel
hwyl wen yn araf ddiflannu;
arni, aur yr hwyrnos,
a'r nef ar wyr i'r nos.